Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Arbelydru Bwyd(Cymru) 2009

Newidiadau dros amser i: Rheoliadau Arbelydru Bwyd(Cymru) 2009 (Atodlenni yn unig)

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Arbelydru Bwyd(Cymru) 2009. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to :

Changes and effects yet to be applied to the whole Instrument associated Parts and Chapters:

Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):

Rheoliad 3(2)(d) a (3) ac Atodlen 2, Rhan 1, paragraffau 1(e) a 2(1)

ATODLEN 1LL+CDULL MESUR ARBELYDREDD

(Mae'r Atodlen hon yn gosod (gyda chywiriad(1) ym mharagraff 1(5)) ddarpariaethau Atodiad III i Gyfarwyddeb 1999/2/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gyd-ddynesu cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau ynghylch bwydydd a chynhwysion bwydydd sydd wedi'u trin ag ymbelydredd ïoneiddio(2))

Dosimetreg: y dogn cyfartalog cyffredinol a amsugnwydLL+C

1.—(1Gellir rhagdybio at ddibenion penderfynu iachusrwydd bwydydd sydd wedi'u trin â dogn cyfartalog cyffredinol o 10kGy neu lai fod pob effaith gemegol ymbelydredd yn amrediad y dogn penodol hwnnw yn gymesur â'r dogn hwnnw.

(2Mae 146 r dogn cyfartalog cyffredinol,

, wedi'i ddiffinio gan yr integryn canlynol dros gyfaint cyfan y nwyddau:

  • ac

    M

    =

    mâs cyfan y sampl a driniwyd

    p

    =

    y dwysedd lleol yn y pwynt (x,y,z)

    d

    =

    y dogn a amsugnwyd yn lleol yn y pwynt (x,y,z)

    dV

    =

    = dx dy dz, yr elfen gyfaint orfychan a gynrychiolir mewn achosion real gan y ffracsiynau cyfaint.

(3Gellir penderfynu'r dogn cyfartalog cyffredinol a amsugnwyd yn uniongyrchol ar gyfer cynhyrchion cydryw neu ar gyfer swmp-nwyddau o ddwysedd ymddangosol cydryw drwy ddosbarthu nifer digonol o ddosimetrau yn strategol ac ar hap ledled cyfaint y nwyddau. O ddosbarthiad y dogn a benderfynir yn y modd hwn gellir cyfrifo cyfartaledd a hwnnw yw'r dogn cyfartalog cyffredinol a amsugnwyd.

(4Os bydd siâp cromlin dosraniad y dogn drwy'r cynnyrch cyfan yn dra phendant, bydd safleoedd y dogn isaf ac uchaf yn hysbys. Gellir defnyddio mesuriadau o ddosraniad y dogn yn y ddau safle hwn mewn cyfres o samplau o'r cynnyrch i roi amcangyfrif o'r dogn cyfartalog cyffredinol.

(5Mewn rhai achosion, bydd gwerth cymedrig gwerthoedd cyfartalog y dogn isaf (

min) a'r dogn uchaf (

max) yn amcangyfrif da o'r dogn cyfartalog cyffredinol: h.y., yn yr achosion hyn:

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)

GweithdrefnauLL+C

2.—(1Cyn bod gwaith arbelydru arferol ar gategori penodol o fwydydd yn dechrau mewn cyfleuster ymbelydru, mae lleoliadau'r dognau isaf ac uchaf i'w penderfynu drwy wneud mesuriadau o'r dognau ledled cyfaint y cynnyrch. Rhaid i'r mesuriadau dilysu hyn gael eu gwneud nifer addas o weithiau (e.e. 3-5) er mwyn lwfio ar gyfer amrywiadau yn nwysedd neu geometreg y cynnyrch.

(2Rhaid ail-wneud mesuriadau pryd bynnag y newidir y cynnyrch, ei geometreg neu'r amodau arbelydru.

(3Yn ystod y broses, bydd mesuriadau rheolaidd o'r dogn yn cael eu gwneud er mwyn sicrhau nad eir dros derfynau'r dogn. Dylai'r mesuriadau gael eu gwneud drwy osod dosimetrau yn safleoedd y dogn uchaf neu'r dogn isaf, neu ar safle cyfeirio. Rhaid i'r dogn ar y safle cyfeirio fod yn gysylltiedig o ran maint â'r dogn uchaf a'r dogn isaf. Dylid lleoli'r safle cyfeirio ym mhwynt cyfleus yn y cynnyrch neu arno,lle mae'r amrywiadau mewn dogn yn isel.

(4Rhaid gwneud mesuriadau rheolaidd o'r dognau ar bob swp a phob hyn a hyn yn rheolaidd yn ystod y broses gynhyrchu.

(5Mewn achosion lle y mae nwyddau sy'n llifo ac sydd heb eu pecynnu yn cael eu harbelydru, ni ellir penderfynu lleoliadau'r dognau isaf ac uchaf. Mewn achos o'r fath, mae'n well defnyddio dull hapsamplu â dosimetr i ganfod gwerthoedd eithafion y dognau hynny.

(6Dylid gwneud y mesuriadau o'r dognau drwy ddefnyddio systemau dosimetreg cydnabyddedig, a dylai fod modd olrhain y mesuriadau yn ôl safonau sylfaenol.

(7Yn ystod y broses arbelydru, rhaid i barametrau penodol y cyfleuster gael eu rheoli a'u cofnodi'n barhaus. Ar gyfer cyfleusterau radioniwclid, mae'r parametrau'n cynnwys cyflymder cludo'r cynnyrch neu'r amser sy'n cael ei dreulio yn y parth ymbelydredd ac arwydd cadarnhaol bod safle'r ffynhonnell yn gywir. Ar gyfer cyfleusterau cyflymu, mae'r parametrau'n cynnwys cyflymder cludo cynnyrch a lefel ynni, cerrynt electronau a lled sganiwr y cyfleuster.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)

Rheoliadau 4(2), (5)(1)(ch)(ii) a (d)(i)(bb), 6(1)(b)(ii) a 7(a)(i) a (ii)(aa)

ATODLEN 2LL+CTRWYDDEDAU

RHAN 1LL+CRhoi Trwyddedau

Cais am drwyddedLL+C

1.  Rhaid i berson sy'n ceisio cael trwydded i arbelydru bwyd (“y ceisydd”) wneud cais drwy anfon at yr Asiantaeth gais ysgrifenedig sy'n cynnwys—

(a)enw'r ceisydd;

(b)cyfeiriad y ceisydd;

(c)cyfeiriad y cyfleuster lle mae'r ceisydd yn bwriadu arbelydru bwyd;

(ch)manylion unrhyw drwydded neu gofrestriad o dan unrhyw ddeddfwriaeth arall sy'n galluogi'r ceisydd i ddefnyddio ymbelydredd ïoneiddio yn y cyfleuster o dan amgylchiadau lle byddai ei ddefnyddio felly, oni bai am y drwydded honno neu'r cofrestriad hwnnw, yn anghyfreithlon;

(d)disgrifiad o bob bwyd y mae'r ceisydd yn bwriadu ei arbelydru a hwnnw'n ddisgrifiad sy'n ddigon i ddangos bod y bwyd yn dod o fewn categori bwyd a ganiateir;

(dd)mewn perthynas â phob bwyd a ddisgrifir yn unol ag is-baragraff (d) —

(i)at ba ddiben y mae'r ceisydd yn bwriadu arbelydru'r bwyd a sut y byddai hynny o fudd i ddefnyddwyr;

(ii)y dull y mae'r ceisydd i'w ddefnyddio i sicrhau bod y bwyd mewn cyflwr rhesymol iachus cyn cael ei arbelydru;

(iii)y dogn cyfartalog cyffredinol, y dogn uchaf a'r dogn isaf o ymbelydredd ïoneiddio y mae'r ceisydd yn bwriadu eu cymhwyso i'r bwyd;

(iv)y dull (gan gynnwys offeryniaeth ac amlder) y mae'r ceisydd yn bwriadu ei ddefnyddio i fesur unrhyw ddogn o ymbelydredd ïoneiddio a'r safon ddosimetreg y mae'n bwriadu ei defnyddio i galibradu'r mesuryddion dognau a ddefnyddir i'w fesur;

(v)datganiad ynghylch a yw'r ceisydd yn bwriadu arbelydru bwyd o'r disgrifiad hwnnw sydd mewn pecynnau sy'n cyffwrdd â'r bwyd ai peidio ac, os felly, y pecynnau y mae'r ceisydd yn bwriadu eu defnyddio; a

(vi)datganiad ynghylch a yw'r ceisydd yn bwriadu defnyddio dull rheoli tymheredd y bwyd wrth ei arbelydru ai peidio ac, os ydyw, ar ba dymheredd y mae'r ceisydd yn bwriadu cadw'r bwyd tra bo'r tymheredd yn cael ei reoli;

(e)mewn perthynas â phob bwyd a ddisgrifir o dan is-baragraff (d), fanylion sy'n dangos bod yr arbelydru i gydymffurfio ag Atodlen 1 a'r Cod Ymarfer Rhyngwladol a Argymhellwyd gan Gyd-gomisiwn Codex Alimentarius yr FAO a WHO ar gyfer gweithredu cyfleusterau arbelydru a ddefnyddir i drin bwydydd (y cyfeirir ato yn y Rhan hon o'r Atodlen hon fel “y Cod Ymarfer”), cyfeirnod FAO/WHO/CAC, cyf. XV,argraffiad 1(3);

(f)plan o gynllun y cyfleuster, manylion ei ddyluniad a'i adeiladwaith a datganiad o'r arferion y mae'r ceisydd yn bwriadu eu cymhwyso, gan gynnwys—

(i)y dull arfaethedig o arbelydru bwyd;

(ii)y math o ymbelydredd sydd i'w ddefnyddio;

(iii)y dulliau arfaethedig o reoli a threfnu'r busnes, gan gynnwys y cymwysterau gofynnol (p'un a ydynt yn rhai ffurfiol neu'n deillio o sgiliau, hyfforddiant neu brofiad) personau a fydd yn ymwneud â chymhwyso'r arferion;

(ff)gwybodaeth ynghylch pwy yw'r person sydd wedi'i ddynodi i fod yn gyfrifol am gydymffurfio â'r amodau sy'n angenrheidiol ar gyfer cymhwyso'r arferion y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraff (f), beth yw cymwysterau'r person hwnnw, a beth yw ei safle yn strwythur rheoli'r ceisydd;

(g)o ba ddyddiad y mae'r ceisydd yn dymuno i'r drwydded redeg; ac

(ng)unrhyw fanylion eraill y mae'r ceisydd yn dymuno bod yr Asiantaeth yn eu hystyried wrth benderfynu a ddylid rhoi'r drwydded.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 2 Rhn. 1 para. 1 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)

Ystyried y caisLL+C

2.  Caiff yr Asiantaeth roi trwydded pan fo wedi'i bodloni—

(a)bod y cyfleuster a bennir yn y cais yn bodloni gofynion y Cod Ymarfer;

(b)bod pob bwyd a ddisgrifir yn y cais yn dod o fewn categori a ganiateir;

(c)bod angen technolegol rhesymol;

(ch)na fyddai'r arbelydru'n peri unrhyw berygl i iechyd ac y byddai'n cael ei gyflawni o dan yr amodau sy'n cael eu disgrifio yn y cais;

(d)y byddai'r arbelydru o fudd i'r defnyddiwr;

(dd)na fyddai'r arbelydru'n cael ei ddefnyddio yn lle arferion hylendid ac arferion iechyd nac yn lle arferion da ym maes gweithgynhyrchu neu amaethyddiaeth;

(e)mai unig ddibenion arbelydru yw —

(i)lleihau nifer yr achosion o glefydau sy'n cael eu cario mewn bwyd drwy ddinistrio organeddau pathogenig;

(ii)lleihau nifer yr achosion o ddifetha bwydydd drwy arafu neu stopio prosesau pydru a dinistrio'r organeddau sy'n difetha'r bwydydd;

(iii)lleihau nifer y bwydydd sy'n cael eu colli drwy aeddfedu, egino neu flaguro'n rhy gynnar; neu

(iv)gwaredu bwydydd rhag organeddau sy'n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion;

(f)pan fo dibenion yr arbelydru'n cynnwys lleihau nifer yr achosion o glefydau sy'n cael eu cario gan fwyd drwy ddinistrio organeddau pathogenig, bod y ceisydd i ddefnyddio meini prawf microbiolegol wrth benderfynu a ddylid arbelydru bwyd;

(ff)nad oes unrhyw risg o bwys y gall y ceisydd arbelydru bwyd nad yw'n gallu cydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd am resymau microbiolegol, neu nad yw'n gallu cydymffurfio â hwy heb gael ei arbelydru;

(g)bod pob dull a bennwyd o dan baragraff 1(dd)(ii) o'r Rhan hon yn ddigon i alluogi'r ceisydd i sicrhau bod y bwyd mewn cyflwr sy'n rhesymol iachus cyn cael ei arbelydru;

(ng)bod y dogn cyfartalog cyffredinol a bennwyd o dan baragraff 1(dd)(iii) o'r Rhan hon mewn perthynas â phob disgrifiad o fwyd yn gyson â phob diben a bennwyd ar gyfer y digrifiad hwnnw o fwyd o dan baragraff 1(dd)(i);

(h)bod y dull a'r safon a bennwyd o dan baragraff 1(dd)(iv) o'r Rhan hon—

(i)yn cydymffurfio ag Atodlen 1; a

(ii)yn dileu unrhyw risg o bwys y bydd y dogn cyfartalog cyffredinol, a fesurir â'r dull hwnnw, yn gwyro'n sylweddol o'r dogn cyfartalog cyffredinol fel y'i diffinnir o dan baragraff 1 o Atodlen 1;

(i)bod y ffactorau a bennwyd o dan baragraff 1(dd) yn dileu unrhyw risg sylweddol y bydd y bwyd hwnnw, a arbelydrwyd mewn unrhyw becyn a bennwyd o dan baragraff 1(dd)(v), ac ar unrhyw dymheredd a bennwyd o dan baragraff 1(dd)(vi), yn methu â chydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd; a

(j)bod yr arferion a'r cymwysterau a bennwyd yn y datganiad o dan baragraff 1(f) yn ddigon i sicrhau na chaiff gofynion y Rheoliadau hyn nac unrhyw un o amodau'r drwydded eu torri.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 2 Rhn. 1 para. 2 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)

3.  Pan fo'r Asiantaeth yn credu—

(a)y dylai gymryd i ystyriaeth weithrediad ymarferol y cyfleuster cyn iddo benderfynu'r cais yn derfynol; a

(b)na fyddai'n peryglu diogelwch pe câi bwyd ei arbelydru yn y cyfleuster am y tro,

caiff roi trwydded am gyfnod, neu gyfnod pellach, nad yw ei gyfanswm yn fwy na 6 mis i'w alluogi i gymryd i ystyriaeth y gweithrediad hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 2 Rhn. 1 para. 3 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)

Gwrthod caisLL+C

4.—(1Pan fo'r Asiantaeth yn gwrthod rhoi trwydded, rhaid iddi roi i'r ceisydd ddatganiad ysgrifenedig am ei rhesymau dros wneud hynny a gwahodd y ceisydd i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig iddi o fewn 28 o ddiwrnodau i'r dyddiad y caiff y datganiad ei anfon.

(2Ar ôl ystyried unrhyw sylwadau o'r fath—

(a)caiff yr Asiantaeth, os yw wedi'i bodloni ar y materion a bennwyd ym mharagraff o'r Rhan hon, roi trwydded; neu

(b)rhaid i'r Asiantaeth roi i'r ceisydd ddatganiad ysgrifenedig am ei rhesymau dros barhau i wrthod rhoi trwydded.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 2 Rhn. 1 para. 4 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)

ParhadLL+C

5.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), bydd trwydded yn parhau i fod yn effeithiol oni chaiff ei chanslo neu ei hatal yn unol â darpariaethau Rhan 5 neu ei hildio gan y trwyddedai i'r Asiantaeth.

(2Bydd trwydded o dan baragraff 3 yn parhau i gael effaith—

(a)hyd nes y bydd y cyfnod y cafodd ei rhoi amdano wedi dod i ben; neu

(b)hyd nes y bydd yr Asiantaeth yn gwrthod rhoi trwydded wrth iddi benderfynu'n derfynol ar y cais,

oni caiff ei chanslo neu ei hatal yn unol â darpariaethau Rhan 5 neu ei hildio gan y trwyddedai i'r Asiantaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 2 Rhn. 1 para. 5 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)

RHAN 2LL+CCynnwys Trwydded

1.  Rhaid i bob trwydded gynnwys—LL+C

(a)enw'r trwyddedai;

(b)cyfeiriad y cyfleuster trwyddedig;

(c)Rhif trwydded;

(ch)disgrifiad o bob bwyd y mae'r drwydded yn gymwys iddo;

(d)y dyddiad o ba bryd y mae'r drwydded i redeg; ac

(dd)yn achos trwydded o dan baragraff 3 o Ran 1, y dyddiad y daw i ben,

a chaiff gynnwys amodau.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 2 Rhn. 2 para. 1 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)

RHAN 3LL+CY Gofynion a'r Gwaharddiadau sydd i'w Dilyn gan Drwyddedai

1.—(1Yr unig fwyd y caiff trwyddedai ei arbelydru yw bwyd—LL+C

(a)y mae'r drwydded yn gymwys iddo; a

(b)yn y cyfleuster trwyddedig.

(2Rhaid i drwyddedai beidio ag arbelydru unrhyw fwyd a geir oddi wrth berson arall onid yw'r manylion canlynol ynghlwm wrth y bwyd neu'n dod gydag ef pan ddaw i law—

(a)disgrifiad o'r bwyd ac enw a chyfeiriad traddodwr y bwyd;

(b)cyfeirnod y mae modd adnabod drwyddo y bwyd, neu unrhyw swp, eitem neu lwyth o fwyd o'r un disgrifiad y mae'r bwyd yn dod odano;

(c)os yw'r bwyd wedi dod i law'r trwyddedai fel beilî—

(i)enw a chyfeiriad ei berchennog; a

(ii)y rheswm pam y mae ei berchennog am iddo gael ei arbelydru; ac

(ch)datganiad ynghylch a yw'r bwyd neu unrhyw ran ohono wedi'i arbelydru.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 2 Rhn. 3 para. 1 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)

2.  Rhaid i bob trwyddedai gadw—LL+C

(a)bwyd sy'n aros i gael ei arbelydru yn y cyfleuster trwyddedig mewn rhan o'r cyfleuster sydd wedi'i gwahanu â gwal neu atalfa oddi wrth unrhyw ran o'r cyfleuster lle mae bwyd sydd wedi'i arbelydru yn cael ei gadw ynddi; a

(b)pob bwyd sydd naill ai'n aros i gael ei arbelydru neu sydd wedi'i arbelydru mewn rhannau o'r cyfleuster sydd wedi'u gwahanu â gwal neu atalfa oddi wrth unrhyw ran o'r cyfleuster lle mae bwyd arall yn cael ei gadw wrth gynnal busnes.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 2 Rhn. 3 para. 2 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)

3.—(1Ni chaiff unrhyw drwyddedai arbelydru bwyd mewn cyfuniad ag unrhyw driniaeth gemegol sydd â'r un pwrpas â'i arbelydru.LL+C

(2Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), ni chaiff unrhyw drwyddedai arbelydru bwyd sydd wedi'i arbelydru, neu fwyd y mae unrhyw ran ohono wedi'i arbelydru, o'r blaen.

(3Nid yw symud y bwyd ymaith o'r cyfleuster lle mae arbelydru yn digwydd, a'i ddychwelyd yno, yn golygu torri is-baragraff (2) lle maent yn rhan o broses barhaus sy'n ofynnol oherwydd dyluniad ac adeiladwaith y cyfleuster hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 2 Rhn. 3 para. 3 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)

4.  Rhaid i bob trwyddedai rifo pob swp bwyd y mae wedi'i arbelydru a phan fo unrhyw faint o'r bwyd wedi dod i law oddi wrth berson arall, rhaid iddo wneud hynny mewn ffordd sy'n golygu bod modd cysylltu'r Rhif â'r cyfeirnod a bennwyd ym mharagraff 1(2)(b) o'r Rhan hon.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 2 Rhn. 3 para. 4 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)

5.  Ni chaiff unrhyw drwyddedai arbelydru bwyd ac eithrio gyda'r canlynol—LL+C

(a)pelydrau gama o'r radioniwclid 60Co;

(b)pelydrau gama o'r radioniwclid 137Cs;

(c)pelydrau-X a gynhyrchir o ffynonellau peiriant a weithredir ar neu islaw lefel ynni o 5 MeV; neu

(ch)electronau a gynhyrchir o ffynonellau peiriant a weithredir ar neu islaw lefel ynni o 10 MeV.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 2 Rhn. 3 para. 5 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)

6.  Ni chaiff unrhyw drwyddedai arbelydru bwyd ac eithrio drwy ddefnyddio dulliau arbelydru priodol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)

7.  Rhaid i bob trwyddedai gadw'r cyfryw rheolaethau a fydd bob amser yn sicrhau bod yr arbelydru'n gyson â'r dull mesur a bennwyd o dan baragraff 1(dd)(iv) o Ran 1.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)

8.  Rhaid i bob trwyddedai gofnodi, mewn perthynas â phob swp bwyd a arbelydrir ganddo, yr wybodaeth ganlynol—LL+C

(a)yn achos cyfleuster radioniwclid—

(i)o ran ffurfweddiad pob ffynhonnell o ymbelydredd ïoneiddio sydd ar gael i'w ddefnyddio yn y cyfleuster, unrhyw wybodaeth am ei sefyllfa sy'n dangos a oedd y swp bwyd yn agored iddo ac os felly pryd y digwyddodd hynny;

(ii)naill ai ar ba gyflymder y mae'r swp yn teithio drwy'r cyfleuster ac ar hyd pa lwybr y mae'r swp yn teithio tra bo'n mynd drwyddo neu'r amser y mae'r swp yn ei dreulio yn y parth arbelydru;

(b)yn achos ffynhonnell sy'n beiriant—

(i)lefel ei hynni;

(ii)ei cherrynt electron;

(iii)lled ei sganiwr;

(iv)nodweddion ei phelydr;

(v)onid oes ganddi ddyfais wasgaru, pa mor aml y mae ei phelydr yn sganio'r swp; a

(vi)ar ba gyflymder y mae'r swp yn teithio drwy'r cyfleuster.

Gwybodaeth Cychwyn

I16Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)

9.—(1Rhaid i bob trwyddedai gofnodi ar gyfer pob swp bwyd a arbelydrir ganddo—LL+C

(a)natur y bwyd sydd yn y swp a faint ohono sydd ynddo;

(b)y Rhif a roddwyd iddo o dan baragraff 4;

(c)enw a chyfeiriad pob traddodwr a thraddodai bwyd sydd yn y swp;

(ch)y dyddiad y cafodd y swp ei arbelydru;

(d)unrhyw wybodaeth ficrobiolegol sy'n ymwneud â bwyd yn y swp;

(dd)y math o becyn a oedd mewn cyffyrddiad â'r bwyd yn y swp yn ystod yr arbelydru;

(e)pan fo'r trwyddedai wedi defnyddio dull rheoli'r tymheredd wrth arbelydru'r bwyd, tymheredd y bwyd yn y swp yn union cyn iddo gael ei arbelydru;

(f)y dogn uchaf, y dogn isaf a'r dogn cyfartalog cyffredinol o ymbelydredd ïoneiddio a gymhwyswyd i'r swp;

(ff)y math o ymbelydredd ïoneiddio a ddefnyddiwyd;

(g)y data a ddefnyddiwyd i reoli'r arbelydru gan gynnwys—

(i)y modd y lleolwyd mesuryddion dognau yn y swp a'r dognau o ymbelydredd ïoneiddio a gofnodwyd ganddynt;

(ii)unrhyw brofion blaenorol a ddefnyddiwyd at ddibenion dilysu'r lleoli hwnnw; a

(iii)y dull (gan gynnwys offeryniaeth ac amlder) a ddefnyddiwyd i fesur y dognau o ymbelydredd ïoneiddio a gymhwyswyd yn ystod yr arbelydru, ac yn y profion blaenorol, a'r safon dosimetreg a ddefnyddiwyd i galibradu'r mesuryddion a ddefnyddiwyd i'w mesur.

(2Rhaid i drwyddedai beidio â thraddodi bwyd a arbelydrwyd gan y trwyddedai i berson arall onid yw'r canlynol yn mynd gyda'r bwyd hwnnw—

(a)enw'r trwyddedai;

(b)Rhif trwydded y trwyddedai;

(c)yr wybodaeth a bennwyd yn is-baragraff (1)(a) i (ch); ac

(ch)y dogn cyfartalog cyffredinol sy'n ofynnol ei gofnodi gan is-baragraff (1)(f).

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)

10.  Rhaid i bob trwyddedai gadw'r wybodaeth y mae'n ofynnol o dan baragraffau 8 a 9(1) ei chofnodi am 5 mlynedd, hyd yn oed os yw'r trwyddedai'n peidio â bod yn drwyddedig yn y cyfamser.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I18Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)

11.  Rhaid i bob trwyddedai anfon at yr Asiantaeth erbyn diwrnod olaf Chwefror bob blwyddyn ddatganiad ysgrifenedig ar gyfer y flwyddyn galendr ddiwethaf sy'n cynnwys—LL+C

(a)enw'r trwyddedai;

(b)Rhif trwydded y trwyddedai;

(c)y flwyddyn y mae'r datganiad yn ymwneud â hi;

(ch)disgrifiad o bob bwyd y mae'r trwyddedai wedi'i arbelydru yn ystod y flwyddyn; a

(d)maint pob bwyd o'r fath, yn ôl cyfaint neu bwysau.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 2 para. 11 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)

RHAN 4LL+CAmrywio Trwydded

1.  Yn ddarostyngedig i baragraff 2, caiff yr Asiantaeth, ar gais y trwyddedai neu gyda'i gydsyniad, amrywio unrhyw un o amodau'r drwydded.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I20Atod. 2 Rhn. 4 para. 1 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)

2.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), rhaid i'r Asiantaeth beidio â chytuno i amrywiad a fyddai'n caniatáu unrhyw weithred neu anwaith y byddai cynnig amdani neu amdano, petai wedi'i wneud yn y cais am drwydded, wedi peri i'r Asiantaeth wrthod rhoi trwydded o dan baragraff 2 o Ran 1.LL+C

(2At ddibenion is-baragraff (1), rhaid i'r Asiantaeth, wrth ystyried a ddylai amrywio trwydded, drin pob gwybodaeth wyddonol a fydd ganddi bryd hynny fel petai wedi'i chael pan roddodd y drwydded.

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 2 Rhn. 4 para. 2 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)

RHAN 5LL+CCanslo ac Atal Trwydded

1.  Os yw'r Asiantaeth yn credu bod amgylchiadau'n bodoli y byddai, petai wedi'u rhag-weld (a phetai wedi meddu ar yr un wybodaeth wyddonol ag sydd ganddi ar hyn o bryd) bryd hynny, wedi gwrthod, o dan baragraff 2 o Ran 1, roi'r drwydded odanynt, caiff rhoi hysbysiad i'r trwyddedai—LL+C

(a)yn esbonio pam y byddai wedi gwrthod rhoi'r drwydded; a

(b)yn hysbysu'r trwyddedai, oni fydd y trwyddedai'n wedi'i darbwyllo mewn ysgrifen i beidio â gwneud hynny o fewn cyfnod o 28 o ddiwrnodau ar ôl anfon yr hysbysiad, neu unrhyw gyfnod hwy y bydd yn ei ganiatáu, y bydd yn canslo'r drwydded.

Gwybodaeth Cychwyn

I22Atod. 2 Rhn. 5 para. 1 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)

2.  Os na fydd yr Asiantaeth, erbyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau neu unrhyw gyfnod hwy a ganiatawyd o dan baragraff 1(b) wedi'i darbwyllo i'r gwrthwyneb, rhaid iddi hysbysu'r trwyddedai mewn ysgrifen bod y drwydded wedi'i chanslo o ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad a rhaid iddi ddatgan yn yr hysbysiad pam nad yw wedi'i darbwyllo felly; ond os yw wedi'i darbwyllo felly, rhaid iddi hysbysu'r trwyddedai o hynny.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I23Atod. 2 Rhn. 5 para. 2 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)

3.  Os caiff y drwydded ei chanslo, mae ei heffaith i beidio ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I24Atod. 2 Rhn. 5 para. 3 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)

4.—(1Os yw'r Asiantaeth o'r farn bod, neu y gall fod, risg niwed i iechyd oni chaiff y drwydded ei hatal, caiff roi hysbysiad ysgrifenedig i'r trwyddedai yn atal y drwydded o ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad ac, yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3), ni fydd unrhyw effaith i'r drwydded at ddibenion y Rheoliadau hyn o'r dyddiad hwnnw.LL+C

(2Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), pan roddir hysbysiad yn atal y drwydded—

(a)mae effaith yr ataliad i beidio ar ddiwedd y cyfnod o dri diwrnod ar ôl rhoi hysbysiad o'r ataliad oni bai bod hysbysiad wedi'i roi yn y cyfamser i'r trwyddedai o dan baragraff 1; ond

(b)os yw hysbysiad wedi'i roi yn y cyfamser i'r trwyddedai o dan baragraff 1, mae'r ataliad i barhau hyd nes y bydd y naill neu'r llall o'r canlynol yn digwydd—

(i)bod yr Asiantaeth yn cael ei darbwyllo i beidio â chanslo'r drwydded; neu

(ii)bod y drwydded yn dod i ben.

(3Caiff yr Asiantaeth, os yw'n credu mai heb ataliad na fydd risg niwed i iechyd, dynnu'r hysbysiad sy'n atal y drwydded yn ôl drwy roi hysbysiad ysgrifenedig pellach.

Gwybodaeth Cychwyn

I25Atod. 2 Rhn. 5 para. 4 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)

RHANLL+CDarpariaethau Eraill ynghylch Trwyddedau

1.  Rhaid i'r Asiantaeth gyhoeddi yn y London Gazette hysbysiad o'r canlynol—LL+C

(a)pob trwydded a roddwyd;

(b)pob achos o atal trwydded;

(c)pob achos o ganslo trwydded; ac

(ch)pob amrywiad i delerau trwydded y cytunwyd arno.

Gwybodaeth Cychwyn

I26Atod. 2 Rhn. n6 para. 1 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)

2.  Rhaid i unrhyw hysbysiad a gyhoeddir felly bennu—LL+C

(a)enw'r trwyddedai neu'r cyn-drwyddedai;

(b)y cyfleuster trwyddedig neu'r cyn-gyfleuster trwyddedig; ac

(c)Rhif ei drwydded,

a rhaid iddo ddatgan yn fras beth yw effaith y mater y mae'n ymwneud ag ef.

Gwybodaeth Cychwyn

I27Atod. 2 Rhn. n6 para. 2 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)

3.  Ac eithrio fel a ddarperir gan adran 43 o'r Ddeddf (parhad wedi marwolaeth), nid yw trwydded yn drosglwyddadwy.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I28Atod. 2 Rhn. n6 para. 3 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)

Rheoliadau 3(1) a 5(1)(b)(i)

ATODLEN 3LL+CRHESTR O GYFLEUSTERAUA GYMERADWYWYD MEWN AELOD-WLADWRIAETHAU

Gwybodaeth Cychwyn

I29Atod. 3 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)

Rhif cyfeirnod swyddogolEnw a chyfeiriad
2110/91/0004

IBA Mediris SA

Zoning Industriel

B-6220 Fleurus

Gwlad Belg

IR-01-CZ

Artim spol. S.r.o.

Radiová 1

102 27 Prag

Y Weriniaeth Tsiec

SN 01

Gamma-Service

Produktbestrahlung GmbH

Juri-Gagarin Strasse 15

D-01454 Radeberg

Yr Almaen

BY FS 01/2001

Isotron Deutschland GmbH

Kesselbodenstrasse 7

D-85391 Allershausen

Yr Almaen

NRW-GM 01 a NRW-GM 02

BGS Beta-Gamma-Service GmbH & Co.KG

Fritz-Kotz-Str.16

D-51674 Wiehl

Yr Almaen

D-BW-X-01

Beta-Gamma-Service GmbH & Co. KG

John-Deere-Strasse 3

D-76646 Bruchsal

Yr Almaen

500001/CU

Ionmed Esterilización, SA

Santiago Rusiñol 12. Madrid

Antigua Ctra Madrid-Valencia Km 83.7.

Tarancón

Cuenca

Sbaen

5.00002/B

ARAGOGAMMA S.A.

Salvador Mundi 11, bajo.

08017 Barcelona

Carretera Granollers a Carcadedu km 3,5.

08520 Les Franqueses del Vallés

Barcelona

Sbaen

13055 F

Gammaster Provence SA

Rue Jean Queillau

Marché des Arnavaux

F-13014 Marseille Cedex 14

Ffrainc

01 142 F

Ionisos SA

Zone Industrielle les Chartinières

F-01120 Dagneux

Ffrainc

72 264 F

Ionisos SA

Zone Industrielle de l'Aubrée

F-72300 Sablé-sur-Sarthe

Ffrainc

85 182 F

Ionisos SA

ZI Montifaud

F-85700 Pouzauges

Ffrainc

10 093 F

Ionisos SA

Zone Industrielle

F-10500 Chaumesnil

Ffrainc

91471 F

Ionisos SA

Domaine de Corbeville

F-91400 Orsay

Ffrainc

56 015 F

Radient Ouest

Le Flachec

F-56230 Berric

Ffrainc

EU-AIF-04-2002

AGROSTER Besugárzó Részvénytársaság

Budapest X

Jászberényi út 5

H-1106

Hwngari

RAD 1/04 IT

GAMMARAD ITALIA SPA

Via Marzabotto,4

Minerbio (BO)

Yr Eidal

GZB/VVB-991503 ac GZB/VVB-991393

Gammaster BV

Morsestraat 3

Ede

Yr Iseldiroedd

GZB/VVB-991503 ac GZB/VVB-991393

Gammaster BV

Soevereinsestraat 2

Etten-Leur

Yr Iseldiroedd

GIS-HZ-4434-W.-3/MR/03

Sefydliad Cemeg a Thechnoleg Niwclear

16 Dorodna Str.

03-195 Warsaw

Gwlad Pwyl

GIS-HZ-4434-W.-2/MR/03

Sefydliad Cemeg Ymbelydredd Gymhwysol

Prifysgol Dechnegol Lodz

15 Wróblewskiego Str.

39-590 Lodz

Gwlad Pwyl

EW/04

Isotron plc

Moray Road

Ystad Ddiwydiannol Elgin

Swindon

Wiltshire SN2 6DU

Y Deyrnas Unedig

Rheoliad 5(1)(b)(ii)

ATODLEN 4LL+CRHESTR O GYFLEUSTERAU MEWN GWLAD Y TU ALLAN I'R GYMUNED EWROPEAIDD

Gwybodaeth Cychwyn

I30Atod. 4 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)

Rhif cyfeirnod swyddogolEnw a chyfeiriad
EU-AIF 01-2002

HEPRO Cape (Pty) Ltd

6 Ferrule Avenue

Montague Gardens

Milnerton 7441

Western Cape

Gweriniaeth De Affrica

EU-AIF 02-2002

Gammaster South Africa (Pty) Ltd

Blwch Post 3219

5 Waterpas Street

Isando Extension 3

Kempton Park 1620

Johannesburg

Gweriniaeth De Affrica

EU-AIF 03-2002

Gamwave (Pty) Ltd

Blwch Post 26406

Isipingo Beach

Durban 4115

Kwazulu-Natal

Gweriniaeth De Affrica

EU-AIF 05-2004

Gamma-Pak AS

Yünsa Yolu N: 4 OSB

Cerkezköy/TEKIRDAG

TR-59500

Twrci

EU-AIF 06-2004

Studer Agg Werk Hard

Hogenweidstrasse 2

Däniken

CH-4658

Y Swistir

EU-AIF 07-2006

Y Ganolfan Arbelydru Thai

Sefydliad Technoleg Niwclear Gwlad Thai (Corff Cyhoeddus)

37 Moo 3, TECHNOPOLIS

Klong 5, Klong Luang

Pathumthani 12120

Gwlad Thai

EU-AIF 08-2006

Isotron (Thailand) Ltd

Parc Diwydiannol Bangpakong (Amata Nakorn)

700/465 Moo 7, Tambon Donhuaroh,

Amphur Muang,

Chonburi 20000

Gwlad Thai

(1)

Mae'r Gyfarwyddeb yn hepgor y gair “average” ar ôl “overall”.

(2)

OJ Rhif L66, 13.3.1999, t.16.

(3)

Gellir cael copi o'r Cod Ymarfer oddi wrth Gomisiwn y Codex Alimentarius, Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig, Vialle della Terme di Caracalla, 0010, Rhufain.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill