- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Gwnaed
6 Gorffennaf 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 85(5) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy(1) yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cod Apelau Derbyn Ysgol (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2009.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2. Y diwrnod a bennir fel y diwrnod y daw'r Cod Apelau Derbyn Ysgol (y gosodwyd copi o ddrafft ohono gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 18 Mai 2009) i rym yw 15 Gorffennaf 2009.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
6 Gorffennaf 2009
(Nid yw' nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu 15 Gorffennaf 2009 fel y diwrnod y daw'r Cod Apelau Derbyn Ysgol (“y Cod Apelau”) a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru o dan adrannau 84 a 85 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (“DSFfY 1998”) i rym. Mae'r Cod Apelau yn gymwys o ran Cymru.
Mae'r Cod Apelau yn disodli Cod Ymarfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Apelau Derbyn Ysgol a ddaeth i rym ar 1 Medi 1999 (“Cod Ymarfer 1999”). Mae'r Cod Apelau yn adlewyrchu newidiadau a wnaed i'r DSFfY 1998 ers y dyddiad hwnnw.
Mae'r Cod newydd yn gosod gofynion ac yn cynnwys canllawiau sy'n pennu nodau, amcanion neu faterion eraill ynglŷn â'r trefniadau ar gyfer apelau mewn perthynas â derbyn i ysgolion. O dan adran 84(3) o DSFfY 1998, dyletswydd awdurdodau addysg lleol, cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir, fforymau derbyn a phaneli apâl, wrth arfer swyddogaethau o dan Bennod 1 o Ran o DSFfY 1998, yw gweithredu yn unol ag unrhyw ddarpariaethau perthnasol o'r Cod. Yn ychwanegol, rhaid i unrhyw berson arall, wrth arfer unrhyw swyddogaeth at y diben o gyflawni, gan awdurdod addysg lleol neu gorff llywodraethu ysgol a gynhelir, swyddogaethau o dan y Bennod honno, weithredu yn unol ag unrhyw ddarpariaethau perthnasol o'r Cod.
Mae adran 150 o Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008 (“DAS 2008”) yn mewnosod adran 86A yn DSFfY 1998. Mae hon yn gosod dyletswydd newydd ar awdurdodau addysg lleol i wneud trefniadau i blant fynegi dewis ynglŷn â pha ysgol y dymunant gael addysg chweched dosbarth ynddi, neu i blant sydd dros yr oedran ysgol gorfodol fynegi dewis ynglŷn â pha ysgol y dymunant gael addysg ac eithrio addysg chweched dosbarth ynddi.
Mae adran 152 o DAS 2008 yn diwygio adran 94 o DSFfY 1998 i ddarparu hawl gyfatebol i blant apelio yn erbyn penderfyniadau ynghylch derbyniadau o'r flwyddyn ysgol 2010—2011 ymlaen. Adlewyrchir y newidiadau hyn ym mharagraffau 5.8 ac A3 o'r Cod.
Daw'r Cod Apelau i rym ar 15 Gorffennaf 2009 ac mae'n gymwys i bob apâl a gofnodir ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw. Mae Cod Ymarfer 1999 yn gymwys i apelau a gyflwynir cyn y dyddiad hwnnw.
1998 p.31. Trosglwyddwyd swyddogaeth yr Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adran hon i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac wedyn i WeinidogionCymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys
The data on this page is available in the alternative data formats listed: