Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Sefydlu) 2009

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2009 Rhif 2058 (Cy.177)

Y GWASANAETHIECHYD GWLADOL, CYMRU

Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Sefydlu) 2009

Gwnaed

23 Gorffennaf 2009

Yn dod i rym

1 Awst 2009

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 18(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 a pharagraffau 5 a 7 o Atodlen 3 iddi(1), ac adran 25 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993(2), ac ar ôl cwblhau'r ymgynghoriad a ragnodir o dan adran 18(3) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Sefydlu) 2009 a daw i rym ar 1 Awst 2009.

(2Yn y Gorchymyn hwn—

  • mae i “dyddiad gweithredol” yr ystyr a roddir i (“operational date”) ym mharagraff 5(5) o Atodlen 3 i'r Ddeddf;

  • ystyr “dyddiad sefydlu” (“establishment date”) yw 1 Awst 2009;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

  • ystyr “yr ymddiriedolaeth” (“the trust”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru a sefydlir gan erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn.

Sefydlu'r ymddiriedolaeth

2.  Sefydlir ymddiriedolaeth GIGo'r enw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru neu the Public Health Wales National Health Service Trust.

Natur a swyddogaethau'r ymddiriedolaeth

3.—(1Sefydlir yr ymddiriedolaeth at y diben a bennir yn adran 18(1) o'r Ddeddf.

(2Dyma swyddogaethau'r ymddiriedolaeth:

(a)darparu i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, neu mewn perthynas ag ef, a rheoli amrediad o wasanaethau iechyd cyhoeddus, diogelu iechyd, gwella gofal iechyd, cynghori ar iechyd, amddiffyn plant a labordy microbiolegol a gwasanaethau'n ymwneud â gwyliadwriaeth dros glefydau trosglwyddadwy, a'u hatal a'u rheoli;

(b)datblygu a chynnal trefniadau ar gyfer peri bod gwybodaeth ynghylch materion sy'n ymwneud â diogelu a gwella iechyd yng Nghymru ar gael i'r cyhoedd yng Nghymru; gwneud a chomisiynu ymchwil i faterion o'r fath a darparu a datblygu hyfforddiant mewn materion o'r fath;

(c)gwneud yn systematig y gwaith o gasglu, dadansoddi a lledaenu gwybodaeth ynghylch iechyd pobl Cymru, gan gynnwys yn enwedig fynychder achosion o gancr, eu marwoldeb a'u goroesiad; a chyffredinolrwydd anghysonderau cynhenid; ac

(ch)darparu, rheoli, monitro, gwerthuso a gwneud ymchwil i sgrinio cyflyrau iechyd a sgrinio materion ymwneud ag iechyd.

Cyfarwyddwyr yr ymddiriedolaeth

4.  Mae gan yr ymddiriedolaeth, yn ychwanegol at y cadeirydd, 6 o gyfarwyddwyr anweithredol a 5 cyfarwyddwr gweithredol.

Dyddiad gweithredol a dyddiad cyfrifydda'r ymddiriedolaeth

5.—(1Dyddiad gweithredol yr ymddiriedolaeth yw 1 Hydref 2009.

(2Dyddiad cyfrifydda'r ymddiriedolaeth yw 31 Mawrth.

Swyddogaethau cyfyngedig cyn y dyddiad gweithredol

6.  Rhwng dyddiad ei sefydlu a'i ddyddiad gweithredol mae gan yr ymddiriedolaeth y swyddogaethau canlynol—

(a)ymrwymo i gontractau GIG;

(b)ymrwymo i gontractau eraill gan gynnwys contractau cyflogaeth; ac

(c)gwneud y fath bethau eraill ag sydd yn rhesymol angenrheidiol i'w galluogi i ddechrau gweithredu yn foddhaol gydag effaith o'i ddyddiad gweithredol.

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

23 Gorffennaf 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid y 'r nodyn h n yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Gorchymyn hwn yn sefydlu Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru, ymddiriedolaeth GIG y darperir ar ei chyfer yn adran 18 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006. Mae hefyd yn darparu ar gyfer swyddogaethau'r ymddiriedolaeth cyn ei dyddiad gweithredol (sef y dyddiad pan yw'n ymgymryd â'i holl swyddogaethau) (erthygl 6) ac ar ôl hynny (erthygl 3) ac mae'n pennu rhif y cyfarwyddwyr yr ymddiriedolaeth (erthygl 4) a dyddiad gweithredol a dyddiad cyfrifydda'r ymddiriedolaeth (erthygl 5).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill