Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Canolfan Iechyd Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau a Diddymu) (Cymru) 2009

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Canolfan Iechyd Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau a Diddymu) (Cymru) 2009 a daw i rym ar 1 Hydref 2009.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “Canolfan Iechyd Cymru” (“Wales Centre for Health”) yw'r corff o'r enw Canolfan Iechyd Cymru neu Wales Centre for Health a sefydlwyd gan adran 2 o Ddeddf Iechyd (Cymru) 2003;

  • ystyr “Deddf 2003” (“the 2003 Act”) yw Deddf Iechyd (Cymru) 2003;

  • ystyr “dyddiad trosglwyddo” (“transfer date”) yw 1 Hydref 2009.

Trosglwyddo swyddogaethau Canolfan Iechyd Cymru i Weinidogion Cymru

3.  A hynny'n effeithiol o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen, trosglwyddir holl swyddogaethau Canolfan Iechyd Cymru, fel y'u nodir yn adran 3 o Ddeddf 2003, i Weinidogion Cymru.

Trosglwyddo eiddo

4.  A hynny'n effeithiol o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen, trosglwyddir holl eiddo Canolfan Iechyd Cymru, gan gynnwys yr eiddo a restrir yn Atodlen 1, i Weinidogion Cymru.

Gorfodadwyedd hawliau a throsglwyddo rhwymedigaethau

5.—(1Trosglwyddir i Weinidogion Cymru unrhyw hawl a oedd, yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, yn orfodadwy gan neu yn erbyn Canolfan Iechyd Cymru.

(2Trosglwyddir i Weinidogion Cymru unrhyw rwymedigaeth sy'n codi o arfer ei swyddogaethau a oedd, yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, yn orfodadwy yn erbyn Canolfan Iechyd Cymru.

Diddymu Canolfan Iechyd Cymru

6.  Diddymir Canolfan Iechyd Cymru a hynny'n effeithiol o 1 Hydref 2009 ymlaen.

Dirymu Canlyniadol Rheoliadau Canolfan Iechyd Cymru (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) 2004

7.  Diddymir Rheoliadau Canolfan Iechyd Cymru (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) 2004(1) a hynny'n effeithiol o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen.

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

28 Medi 2009

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill