- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
BWYD, CYMRU
Gwnaed
26 Tachwedd 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
27 Tachwedd 2009
Yn dod i rym
19 Rhagfyr 2009
Mae Gweinidogion Cymru'n gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(2), 17(2), 26(1)(a) a (2)(a) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2).
Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd iddynt gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3), cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw tra'r oedd y Rheoliadau hyn yn cael eu paratoi a'u gwerthuso.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2009, a deuant i rym ar 19 Rhagfyr 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Mae Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2007(4) yn cael eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 9.
3. Yn rheoliad 2 (dehongli)—
(a)ym mharagraff (1)—
(i)ar ôl y diffiniad o “Rheoliad 2023/2006” (“Regulation 2023/2006”) mewnosoder y diffiniad canlynol—
“ystyr “Rheoliad 450/2009” (“Regulation 450/2009”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 450/2009 ar ddeunyddiau ac eitemau gweithredol a deallus y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd(5);”, a
(ii)yn y diffiniad o “mewnforio” (“import”) yn lle “Aelod-wladwriaeth” rhodder “Gwladwriaeth Ardal Economaidd Ewropeaidd”; a
(b)hepgorer paragraff (2).
4. Ar ôl rheoliad 4 (gorfodi Rheoliad 1935/2004) mewnosoder y canlynol fel rheoliad 4A—
4A. Bydd unrhyw berson sy'n torri unrhyw un o'r darpariaethau canlynol o Reoliad 450/2009 yn euog o dramgwydd—
(a)Erthygl 4(f) (gwahardd rhoi ar y farchnad ddeunyddiau ac eitemau gweithredol a deallus nad ydynt yn cydymffurfio â'r gofynion labelu);
(b)Erthygl 11(1) a (2) (rheolau ychwanegol ar labelu), fel y'i darllenir gyda 4ydd indent Erthygl 14;
(c)Erthygl 12 (datganiad cydymffurfio); ac
(ch)Erthygl 13 (dogfennau ategol).”.
5. Ar ôl rheoliad 6 (awdurdodau cymwys at ddibenion Rheoliad 1934/2004), mewnosoder y canlynol fel rheoliad 6A—
6A. Yr awdurdodau cymwys at ddibenion Erthygl 13 o Reoliad 450/2009 yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd a'r awdurdod sydd â chyfrifoldeb dros orfodi yn unol â rheoliad 14(1).”.
6. Ym mharagraff (2)(a) o reoliad 13 (tramgwyddau a chosbau), yn lle “rheoliad 4 neu 5” rhodder “rheoliad 4, 4A neu 5”.
7. Yn lle rheoliad 14 (gorfodi) rhodder y canlynol–
“14.—(1) Rhaid i bob awdurdod bwyd yn ei ardal a phob awdurdod iechyd porthladd yn ei ranbarth weithredu a gorfodi—
(a)darpariaethau Rheoliad 1935/2004 a grybwyllir yn rheoliad 4;
(b)darpariaethau Rheoliad 450/2009 a grybwyllir yn rheoliad 4A; ac
(c)yn ddarostyngedig i baragraff (3), y Rheoliadau hyn.
(2) Caiff yr Asiantaeth Safonau Bwyd weithredu a gorfodi darpariaethau—
(a)Erthyglau 16(1) ac 17(2) o Reoliad 1935/2004; a
(b)Erthygl 13 o Reoliad 450/2009.
(3) Rhaid i bob awdurdod bwyd yn ei ardal weithredu a gorfodi darpariaethau Rheoliad 2023/2006 a grybwyllir yn rheoliad 5.”.
8. Ym mharagraff (2) o reoliad 18 (amddiffyniadau cyffredinol), yn lle “reoliad 4 neu 13(1)(a)” rhodder “reoliad 4, 4A neu 13(1)(a)”.
9. Yn rheoliad 21 (gweithredu amryfal ddarpariaethau o'r Ddeddf)—
(a)ym mharagraff (2), yn lle “Reoliad 1935/2004 neu, fel y bo'n briodol, at Reoliad 2023/2006.” rhodder “Reoliad 1935/2004, Rheoliad 2023/2006 neu Reoliad 450/2009 fel y bo'n briodol.”; a
(b)ym mharagraff (3), yn lle “Reoliad 1935/2004 neu, fel y bo'n briodol, at Reoliad 2023/2006,” rhodder “Reoliad 1935/2004, Rheoliad 2023/2006 neu Reoliad 450/2009 fel y bo'n briodol”.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
26 Tachwedd 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2007 (O.S. 2007/3252 (Cy. 287), fel y'i diwygiwyd ynghynt gan O.S. 2008/1237 (Cy. 124), O.S. 2008/1682 (Cy. 162) ac O.S. 2009/481 (Cy. 49)) (“y prif Reoliadau”) er mwyn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 450/2009 ar ddeunyddiau ac eitemau gweithredol a deallus y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd (OJ Rhif L135, 30.5.2009, t.3) (“Rheoliad 450/2009”). Mae'r Rheoliadau hefyd yn diwygio'r modd y diffinnir mewnforio yn y prif Reoliadau.
2. Yn fanwl, mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r prif Reoliadau drwy—
(a)mewnosod diffiniad o Reoliad 450/2009 (rheoliad 3(a)(i));
(b)diwygio'r diffiniad o “mewnforio” i gyfeirio at gynhyrchion sy'n dod o oddi allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd (rheoliad 3(a)(ii));
(c)peri bod torri gofynion penodol yn Rheoliad 450/2009 (rheoliad 4) yn dramgwydd, gosod cosbau ar gyfer y cyfryw dramgwydd (rheoliad 6), a darparu ar gyfer amddiffyniad mewn amgylchiadau penodol (rheoliad 8);
(ch)penodi'r awdurdodau cymwys at ddibenion darpariaethau penodol yn Rheoliad 450/2009 (rheoliad 5);
(d)dynodi'r awdurdodau gorfodi at ddibenion darpariaethau penodol yn Rheoliad 450/2009 (rheoliad 7); ac
(dd)darparu bod darpariaethau penodol yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 yn gymwys at ddibenion gorfodi Rheoliad 450/2009 (rheoliad 9).
3. Ni luniwyd asesiad effaith llawn ar gyfer y Rheoliadau hyn, gan na ragwelir unrhyw effaith o gwbl ar y sector preifat na'r sector gwirfoddol.
1990 p.16, amnewidwyd adran 1(1) a (2) (y diffiniad o “food”) gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adrannau 17 a 48 gan baragraffau 12 a 21 yn eu trefn o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), “Deddf 1999”. Diwygiwyd adran 48 hefyd gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adran 53(2) gan baragraff 19 o Atodlen 16 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (1994 p.40), Atodlen 6 i Ddeddf 1999 ac O.S. 2004/2990.
Trosglwyddwyd swyddogaethau “the Ministers” i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999, a'u trosglwyddo wedi hynny i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32).
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n addasu nifer o offerynnau yn ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o'r Cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/468 o ran y weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu; Addasiad i'r weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu — Rhan Pedwar (OJ Rhif L188, 18.7.2009, t.14).
O.S. 2007/3252 (Cy. 287), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2008/1237 (Cy. 124), O.S. 2008/1682 (Cy. 162) ac O.S. 2009/481 (Cy. 49).
OJ Rhif L135, 30.5.2009, t.3.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys