Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2009

Newidiadau dros amser i: Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2009 (heb Atodlenni)

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2009. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to :

Changes and effects yet to be applied to the whole Instrument associated Parts and Chapters:

Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):

Enwi, cymhwyso a chychwynLL+C

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2009, maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 1 Ionawr 2010.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 1.1.2010, gweler rhl. 1

DehongliLL+C

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

  • mae i “awdurdod bwyd” yr ystyr sydd i'r ymadrodd “food authority” yn rhinwedd adran 5(1A) o'r Ddeddf;

  • ystyr “darpariaeth benodedig” (“specified provision”) yw unrhyw ddarpariaeth yn Rheoliad y Comisiwn a bennir yng Ngholofn 1 o'r Atodlen ac y disgrifir y pwnc y mae'n ymdrin ag ef yng Ngholofn 2 o'r Atodlen;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990; ac

  • ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 953/2009 am sylweddau y caniateir eu hychwanegu at ddibenion maethol penodol mewn bwydydd at ddefnydd maethol neilltuol.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, ac eithrio un a ddiffinnir ym mharagraff (1), ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Rheoliadau hyn ac yn y Ddeddf yr ystyr a roddir i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn y Ddeddf.

(3Mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn Rheoliad y Comisiwn yr ystyr a roddir i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn Rheoliad y Comisiwn.

(4Pan fo unrhyw swyddogaethau o dan y Ddeddf yn cael eu priodoli—

(a)drwy orchymyn o dan adran 2 neu 7 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1), i awdurdod iechyd porthladd; neu

(b)drwy orchymyn o dan adran 6 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936(2), i gyd-fwrdd ar gyfer dosbarth unedig,

dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r swyddogaethau hynny, fel cyfeiriad at yr awdurdod y maent wedi eu priodoli felly iddo.

(5Yn y Rheoliadau hyn mae unrhyw gyfeiriad at yr Atodiad i Reoliad y Comisiwn yn gyfeiriad at yr Atodiad hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 1.1.2010, gweler rhl. 1

Tramgwyddau, cosbau a gweithredu a gorfodiLL+C

3.—(1Mae unrhyw berson sy'n mynd yn groes i unrhyw un o'r darpariaethau penodedig yn euog o dramgwydd.

(2Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan baragraff (1) yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

(3Rhaid i bob awdurdod bwyd weithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 1.1.2010, gweler rhl. 1

Cymhwyso amrywiol ddarpariaethau'r DdeddfLL+C

4.  Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad y dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—

(a)adran 3 (rhagdybiaethau bod bwyd wedi ei fwriadu ar gyfer ei fwyta gan bobl);

(b)adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);

(c)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy)(3), fel y bo'n gymwys at ddibenion adran 14 neu 15;

(ch)adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);

(d)adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);

(dd)adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan baragraff (d);

(e)adran 35(1) (cosbi tramgwyddau)(4), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan baragraff (d);

(f)adran 35(2) a (3)(5), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan baragraff (dd);

(ff)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol);

(g)adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd)(6); ac

(ng)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 1.1.2010, gweler rhl. 1

Diwygio Rheoliadau Tryptoffan mewn Bwyd (Cymru) 2005LL+C

5.—(1Mae Rheoliadau Tryptoffan mewn Bwyd (Cymru) 2005(7) wedi eu diwygio'n unol â'r paragraffau canlynol.

(2Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli), yn lle'r diffiniad o “Cyfarwyddeb 2001/15/EC”, rhodder y diffiniad canlynol—

  • ystyr “Rheoliad 953/2009” (“Regulation 953/2009”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 953/2009 am sylweddau y caniateir eu hychwanegu at ddibenion maethol penodol mewn bwydydd at ddefnydd maethol neilltuol;.

(3Yn rheoliad 5 (eithriadau rhag y gwaharddiadau), yn lle is-baragraff (c) o baragraff (2), rhodder yr is-baragraff canlynol—

(c)tryptoffan chwithdroadol, ei halwynau sodiwm, potasiwm, calsiwm neu fagnesiwm neu ei hydroclorid a ychwanegwyd gan gydymffurfio â Rheoliad 953/2009 at unrhyw fwyd at ddefnydd maethol penodol y cyfeirir ato yn yr Atodiad i'r Rheoliad hwnnw;.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 mewn grym ar 1.1.2010, gweler rhl. 1

DirymuLL+C

6.  Mae Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2002(8) wedi eu dirymu.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 6 mewn grym ar 1.1.2010, gweler rhl. 1

Gwenda Thomas

Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

8 Rhagfyr 2009

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill