Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Lleol ar gyfer Disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4) (Cymru) 2009

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2009 Rhif 3256 (Cy.284)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Lleol ar gyfer Disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4) (Cymru) 2009

Gwnaed

8 Rhagfyr 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

10 Rhagfyr 2009

Yn dod i rym

1 Ionawr 2010

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 116A(5), 116D(2), 116F(3), 116H(3), a 210 o Ddeddf Addysg 2002(1) yn gwneud y Rheoliadau canlynol.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Lleol ar gyfer Disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4) (Cymru) 2009 ac maent yn dod i rym ar 1 Ionawr 2010.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

  • mae “ardal awdurdodau lleol A” (“local authority area A”) yn cynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cyngor Caerdydd, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir Fynwy, Cyngor Dinas Casnewydd, Cyngor Dinas a Sir Abertawe, Cyngor Bro Morgannwg, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam;

  • mae “ardal awdurdodau lleol B” (“local authority area B”) yn cynnwys Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Cyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen;

  • mae “ardal awdurdodau lleol C” (“local authority area C”) yn cynnwys Cyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Gwynedd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Cyngor Sir Powys;

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw awdurdod addysg lleol yng Nghymru;

  • ystyr “cymhwyster sgil allweddol” (“key skill qualification”) yw cymhwyster a restrir yn y Gronfa Ddata Cymwysterau Cymeradwyedig yng Nghymru(2) a gynhelir ac a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o bryd i'w gilydd;

  • ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002;

  • mae i “disgybl cofrestredig” yr ystyr a roddir i “registered pupil” yn adran 434 o Ddeddf Addysg 1996(3);

  • ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, nac yn ŵyl y banc o fewn ystyr Deddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(4);

  • ystyr “NQF” (“NQF”) yw'r Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol sy'n cynnwys cymwysterau wedi'u hachredu gan Weinidogion Cymru, yr Awdurdod Cymwysterau a Chwricwlwm a'r Cyngor dros Gwricwlwm, Arholiadau ac Asesu yng Ngogledd Iwerddon;

  • ystyr “lefel NQF” (“NQF level”) yw'r lefel neu lefelau yr achredir cymwysterau iddynt o fewn yr NQF;

  • ystyr “person perthnasol” (“relevant person”) yw'r disgybl ynghyd â rhiant iddo;

  • ystyr “pwyntiau” (“points”) yw'r pwyntiau a ddyrennir i gwrs neu gyrsiau astudio gan y Gronfa Ddata Cymwysterau Cymeradwyedig yng Nghymru;

  • ystyr “tymor y gwanwyn” (“spring term”) yw'r ail dymor ysgol yn y flwyddyn ysgol yn yr ysgol y mae'r disgybl yn ddisgybl cofrestredig ynddi ac sy'n digwydd yn y flwyddyn ysgol yn union o flaen y flwyddyn ysgol pan fydd y disgybl yn mynd i gyfnod allweddol pedwar; ac

  • ystyr “tymor yr haf” (“summer term”) yw'r trydydd tymor ysgol yn y flwyddyn ysgol yn yr ysgol y mae'r disgybl yn ddisgybl cofrestredig ynddi ac sy'n digwydd yn y flwyddyn ysgol yn union o flaen y flwyddyn ysgol pan fydd y disgybl yn mynd i gyfnod allweddol pedwar.

Llunio'r cwricwlwm lleol

3.  Rhaid i awdurdod lleol lunio ar gyfer ei ardal un cwricwlwm lleol neu fwy yn unol ag adran 116A o Ddeddf 2002 a'r Rheoliadau hyn mewn da bryd cyn dechrau'r flwyddyn ysgol i alluogi disgyblion i ddewis dilyn cwrs astudio yn unol â rheoliad 8.

Lleiafswm cyrsiau astudio mewn cwricwla lleol

4.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (4) rhaid i'r cwricwlwm lleol ar gyfer pob ysgol uwchradd a gynhelir yn ardal awdurdodau lleol A ar gyfer y flwyddyn ysgol 2010 i 2011 a phob blwyddyn ysgol wedyn gynnwys lleiafswm o 30 o gyrsiau astudio ar lefel 2 NQF, y mae'n rhaid i o leiaf 5 ohonynt fod yn rhai galwedigaethol.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (4) rhaid i'r cwricwlwm lleol ar gyfer pob ysgol uwchradd a gynhelir yn ardal awdurdodau lleol B gynnwys—

(a)ar gyfer y flwyddyn ysgol 2010 i 2011 lleiafswm o 28 o gyrsiau astudio ar lefel 2 NQF, y mae'n rhaid i o leiaf 4 ohonynt fod yn rhai galwedigaethol; a

(b)ar gyfer pob blwyddyn ysgol wedyn lleiafswm o 30 o gyrsiau astudio ar lefel 2 NQF, y mae'n rhaid i o leiaf 5 ohonynt fod yn rhai galwedigaethol.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4) rhaid i'r cwricwlwm lleol ar gyfer pob ysgol uwchradd a gynhelir yn ardal awdurdodau lleol C gynnwys—

(a)ar gyfer y flwyddyn ysgol 2010 i 2011 lleiafswm o 26 o gyrsiau astudio ar lefel 2 NQF, y mae'n rhaid i o leiaf 4 ohonynt fod yn rhai galwedigaethol;

(b)ar gyfer y flwyddyn ysgol 2011 i 2012 lleiafswm o 28 o gyrsiau astudio ar lefel 2 NQF, y mae'n rhaid i o leiaf 4 ohonynt fod yn rhai galwedigaethol; ac

(c)am bob blwyddyn ysgol wedyn lleiafswm o 30 o gyrsiau astudio ar lefel 2 NQF, y mae'n rhaid i o leiaf 5 ohonynt fod yn rhai galwedigaethol.

(4Caiff awdurdod lleol gynnwys cwrs astudio ar lefel 1 NQF yn hytrach na chwrs ar lefel 2 NQF yn y cwricwlwm lleol ar gyfer ysgol uwchradd a gynhelir o fewn ei ardal os nad yw'r cwrs hwnnw ar gael ar lefel 2 NQF i ddisgyblion yng nghyfnod allweddol pedwar.

(5Rhaid i'r lleiafswm o gyrsiau astudio galwedigaethol sy'n ofynnol gan baragraffau (1), (2) a (3) ddod o fewn o leiaf 3 o'r meysydd dysgu.

Lleiafswm pwyntiau cyrsiau astudio mewn cwricwla lleol

5.—(1Os bydd cwricwlwm lleol yn cynnwys 26 neu 27 o gyrsiau astudio rhaid bod gan y cyrsiau hynny werth pwyntiau cyfunol nad yw'n llai na 680 o bwyntiau.

(2Os bydd cwricwlwm lleol yn cynnwys 28 neu 29 o gyrsiau astudio rhaid bod gan y cyrsiau hynny werth pwyntiau cyfunol nad yw'n llai na 720 o bwyntiau.

(3Os bydd cwricwlwm lleol yn cynnwys 30 neu fwy o gyrsiau astudio rhaid bod gan y cyrsiau hynny werth pwyntiau cyfunol nad yw'n llai na 780 o bwyntiau.

Lleiafswm pwyntiau cyrsiau astudio galwedigaethol mewn cwricwla lleol

6.—(1Os bydd cwricwlwm lleol yn cynnwys 4 o gyrsiau astudio galwedigaethol rhaid bod gan y cyrsiau hynny werth pwyntiau cyfunol nad yw'n llai na 220 o bwyntiau.

(2Os bydd cwricwlwm lleol yn cynnwys 5 o gyrsiau astudio galwedigaethol neu fwy rhaid bod gan y cyrsiau hynny werth pwyntiau cyfunol nad yw'n llai na 260 o bwyntiau.

Dewisiadau disgybl o gyrsiau cwricwlwm lleol

7.  Ni chaiff disgybl ddewis dilyn cwrs neu gyfuniad o gyrsiau astudio o fewn cwricwlwm lleol os yw cyfanswm pwyntiau'r cwrs hwnnw neu'r cyfuniad hwnnw o gyrsiau astudio yn fwy na 180 o bwyntiau heb gynnwys unrhyw bwyntiau a ddyrannwyd i gwrs neu gyrsiau astudio sy'n arwain at gymhwyster sgil allweddol y mae disgybl wedi dewis ei ddilyn.

Hyd y cyfnod pan fo'n rhaid i'r disgybl ddewis

8.  Rhaid i ddisgybl ddewis dilyn cwrs neu gyrsiau astudio o fewn cwricwlwm lleol yn ystod tymor y gwanwyn.

Penderfyniad y pennaeth ynghylch hawlogaeth

9.—(1Os bydd pennaeth yn penderfynu o dan adran 116F(1) o Ddeddf 2002 nad oes hawlogaeth gan ddisgybl i ddilyn cwrs neu gyrsiau astudio rhaid iddo wneud hynny o fewn 28 o ddiwrnodau gwaith ar ôl dechrau tymor yr haf.

(2Os bydd pennaeth yn penderfynu hynny rhaid iddo o fewn 3 diwrnod gwaith o'r penderfyniad hwnnw hysbysu'r person perthnasol yn ysgrifenedig o'r materion canlynol—

(a)y penderfyniad a'r rhesymau drosto;

(b)y caiff y person perthnasol wneud cais i'r pennaeth adolygu'r penderfyniad hwnnw;

(c)o fewn pa gyfnod y mae'n rhaid gwneud cais o'r fath; ac

(ch)y caiff y person perthnasol wneud sylwadau yn ysgrifenedig ynghylch y penderfyniad hwnnw i'r pennaeth.

(3Rhaid i gais gan berson perthnasol o dan baragraff (2)(b) ac unrhyw sylwadau o dan baragraff (2)(ch) gael eu gwneud o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl iddo dderbyn hysbysiad y pennaeth o'i benderfyniad.

(4Os bydd person perthnasol yn gwneud cais o dan baragraff (2)(b) i bennaeth adolygu ei benderfyniad rhaid i'r pennaeth wneud dyfarniad o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl iddo dderbyn y cais ac wrth iddo wneud hynny rhaid iddo ystyried—

(a)o dan ba amgylchiadau y cafodd ei benderfyniad ei wneud;

(b)unrhyw sylwadau ysgrifenedig a wnaed gan berson perthnasol ynglŷn â'r penderfyniad hwnnw; ac

(c)unrhyw amgylchiadau eraill y mae o'r farn eu bod yn berthnasol.

(5Rhaid i'r pennaeth o fewn 3 diwrnod gwaith o'i ddyfarniad yn unol â pharagraff (4), hysbysu'r person perthnasol yn ysgrifenedig ohono a'r rhesymau drosto.

(6Mae'r rheoliad hwn yn gymwys yn unig o ran y dewisiad cyntaf y mae disgybl yn ei wneud o dan adran 116D(1) o Ddeddf 2002 yn unol â rheoliad 7 (ac nid o ran unrhyw ddewisiad wedyn).

Penderfyniad pennaeth i ddileu hawlogaeth

10.—(1Os bydd pennaeth yn penderfynu o dan adran 116H(1) o Ddeddf 2002 nad oes bellach gan ddisgybl hawlogaeth i ddilyn cwrs neu gyrsiau astudio, rhaid iddo o fewn 3 diwrnod gwaith o'r penderfyniad hwnnw hysbysu'r person perthnasol o'r materion canlynol—

(a)y penderfyniad a'r rhesymau drosto;

(b)y caiff y person perthnasol wneud cais i'r pennaeth adolygu'r penderfyniad hwnnw;

(c)o fewn pa gyfnod y mae'n rhaid gwneud cais o'r fath; ac

(ch)y caiff y person perthnasol wneud sylwadau yn ysgrifenedig ynghylch y penderfyniad hwnnw i'r pennaeth.

(2Nid oes gan ddisgybl hawlogaeth i ddilyn y cwrs neu'r cyrsiau astudio ar ôl dyddiad penderfyniad y pennaeth o dan adran 116H(1) o Ddeddf 2002.

(3Rhaid i gais gan berson perthnasol o dan baragraff (1)(b) ac unrhyw sylwadau o dan baragraff (1)(ch) gael eu gwneud o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl iddo dderbyn hysbysiad y pennaeth o'i benderfyniad.

(4Os bydd person perthnasol yn gwneud cais o dan baragraff (1)(b) i bennaeth adolygu ei benderfyniad rhaid i'r pennaeth wneud dyfarniad o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl iddo dderbyn y cais ac wrth iddo wneud hynny rhaid iddo ystyried—

(a)o dan ba amgylchiadau y cafodd ei benderfyniad ei wneud;

(b)unrhyw sylwadau ysgrifenedig a wnaed gan berson perthnasol ynglŷn â'r penderfyniad hwnnw; ac

(c)unrhyw amgylchiadau eraill y mae o'r farn eu bod yn berthnasol.

(5Rhaid i'r pennaeth o fewn 3 diwrnod gwaith o'i ddyfarniad yn unol â pharagraff (4), hysbysu'r person perthnasol yn ysgrifenedig ohono a'r rhesymau drosto.

Terfynau amser a hysbysiadau'n hepgor yr hawl i gael adolygiad

11.  At ddibenion cyfrifo'r cyfnodau y cyfeirir atynt yn rheoliadau 9(2), (3), (4) a (5) a 10(1), (3), (4) a (5), bernir bod yr hysbysiad wedi ei roi i'r person o dan sylw—

(a)os defnyddir y post dosbarth cyntaf, ar yr ail ddiwrnod gwaith ar ôl dyddiad ei bostio;

(b)os caiff yr hysbysiad ei draddodi â llaw, ar ddyddiad ei draddodi;

(c)os defnyddir post electronig, ar y dyddiad y caiff ei anfon,

oni ddangosir i'r gwrthwyneb.

John Griffiths

Y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau, o dan awdurdod y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

8 Rhagfyr 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mewnosododd Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (mccc 1) (“y Mesur”) ddarpariaethau newydd yn Rhan 7 o Ddeddf Addysg 2002 (“Deddf 2002”). Mae Rhan 7 yn ymwneud â'r cwricwlwm mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru. O ganlyniad i Ran 1 o'r Mesur, caiff y cwricwlwm mewn ysgolion uwchradd a gynhelir yng Nghymru ei ehangu i gynnwys hawlogaethau disgyblion mewn cwricwlwm lleol yng nghyfnod allweddol 4. Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth o ran llunio'r cwricwlwm lleol, y dewisiadau y caiff disgybl eu gwneud, penderfyniad y pennaeth o ran hawlogaeth, a phenderfyniad y pennaeth i ddileu hawlogaeth.

Mae rheoliad 3 yn darparu bod yn rhaid i awdurdod lleol lunio un cwricwlwm lleol neu fwy ar gyfer ei ardal mewn da bryd i alluogi disgyblion i ddewis dilyn cwrs astudio yn unol â rheoliad 8.

Mae rheoliad 4 yn darparu ar gyfer isafswm o gyrsiau a chyrsiau galwedigaethol i gael eu cynnwys mewn cwricwlwm lleol. Erbyn blwyddyn ysgol 2012-2013 rhaid i bob cwricwlwm lleol gynnwys o leiaf 30 o gyrsiau astudio ar lefel 2 NQF, y mae'n rhaid i o leiaf 5 ohonynt fod yn rhai galwedigaethol.

Mae rheoliad 5 yn darparu bod yn rhaid i bob cwricwlwm lleol gael gwerth lleiafswm o bwyntiau. Os bydd cwricwlwm yn cynnwys 30 o gyrsiau astudio rhaid bod gan y cyrsiau hynny werth pwyntiau cyfunol nad yw'n llai na 780. Pennir y gwerth pwyntiau ar gyfer pob cwrs astudio yn y Gronfa Ddata Cymwysterau Cymeradwyedig yng Nghymru (www.daqw.org.uk). Mae rheoliad 6 yn darparu ar gyfer gwerth lleiafswm o bwyntiau i gyrsiau galwedigaethol a gaiff eu cynnwys mewn cwricwlwm lleol. Os bydd cwricwlwm lleol yn cynnwys 5 o gyrsiau galwedigaethol rhaid iddynt gael gwerth pwyntiau cyfunol nad yw'n llai na 260.

Mae rheoliad 7 yn darparu na chaiff disgybl ddewis dilyn cwrs neu gyrsiau astudio os yw cyfanswm pwyntiau cwrs neu gyrsiau o'r fath yn fwy na 180. Rhaid i'r dewis hwnnw gael ei wneud yn ystod tymor y gwanwyn yn y flwyddyn o flaen honno pan fydd y disgybl yn mynd i gyfnod allweddol 4 (rheoliad 8).

Mae rheoliad 9 yn darparu ar gyfer y weithdrefn sydd i'w dilyn gan y pennaeth pan fydd yn penderfynu, yn unol ag adran 116F(1) o Ddeddf 2002, p'un a oes hawlogaeth gan y disgybl i ddilyn cwrs neu gyrsiau astudio. Mae rheoliad 9 hefyd yn darparu ar gyfer y weithdrefn sydd i'w dilyn os bydd disgybl yn dymuno gofyn i'r pennaeth adolygu ei benderfyniad o dan adran 116F(1) o Ddeddf 2002.

Mae rheoliad 10 yn darparu ar gyfer y weithdrefn sydd i'w dilyn gan y pennaeth pan fydd yn penderfynu, yn unol ag adran 116H(1) o Ddeddf 2002, nad oes bellach gan ddisgybl hawlogaeth i ddilyn cwrs neu gyrsiau astudio. Mae rheoliad 10 hefyd yn darparu ar gyfer y weithdrefn sydd i'w dilyn os bydd disgybl yn dymuno gofyn i'r pennaeth adolygu ei benderfyniad o dan adran 116H(1) o Ddeddf 2002.

Mae rheoliad 11 yn gwneud darpariaeth ar gyfer penderfynu'r terfynau amser i hysbysiadau o dan y Rheoliadau hyn.

(1)

2002 p.32. Mewnosodwyd adran 116A gan adran 4 o Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (mccc 1). Mewnosodwyd adran 116D gan adran 7 o Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009. Mewnosodwyd adran 116F gan adran 9 o Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 a mewnosodwyd adran 116G gan adran 10 o Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009.

(2)

Cyfeiriad y wefan ar gyfer y Gronfa Ddata Cymwysterau Cymeradwyedig yng Nghymru yw www.daqw.org.uk.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill