- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Offerynnau Statudol Cymru
CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU
Gwnaed
16 Rhagfyr 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
17 Rhagfyr 2009
Yn dod i rym
8 Ionawr 2010
Mae Gweinidogion Cymru, sydd wedi'u dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â'r gofyniad i asesu effaith amgylcheddol prosiectau sy'n debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd i'r graddau y mae a wnelo hynny â chynllunio gwlad a thref, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Adolygiadau Amhenderfynedig o Hen Ganiatadau Mwynau) (Cymru) 2009.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 8 Ionawr 2010.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “ardal sensitif” (“sensitive area”) yw unrhyw un o'r canlynol—
tir a hysbyswyd o dan is-adran (1) o adran 28 (ardaloedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(3);
tir y mae is-adran (3) o adran 29 (gorchmynion cadwraeth natur) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 yn gymwys iddo;
ardal y mae paragraff (u)(ii) yn y tabl yn erthygl 10 o'r Gorchymyn yn gymwys iddi;
Parc Cenedlaethol o fewn ystyr Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949(4);
eiddo sy'n ymddangos ar Restr Treftadaeth y Byd a gedwir o dan Erthygl 11(2) o Gonfensiwn UNESCO er Diogelu Treftadaeth Ddiwylliannol a Naturiol y Byd 1972;
heneb gofrestredig yn yr ystyr a roddir i “scheduled monument” yn Neddf Henebion a Mannau Archaeolegol 1979(5);
ardal o harddwch naturiol eithriadol, a ddynodwyd fel y cyfryw drwy orchymyn a wnaed gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru o dan adran 82 (dynodi ardaloedd) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000(6) fel y'i cadarnhawyd gan Weinidogion Cymru(7);
safle Ewropeaidd o fewn ystyr “European site” yn rheoliad 10 o Reoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol etc.) 1994(8);
ystyr “awdurdod cynllunio mwynau perthnasol” (“relevant mineral planning authority”) yw'r corff y mae'n dod i'w ran, neu y byddai'n dod i'w ran oni bai am gyfarwyddyd o dan baragraff—
7 o Atodlen 2 i Ddeddf 1991;
13 o Atodlen 13 i Ddeddf 1995; neu
8 o Atodlen 14 i Ddeddf 1995,
i benderfynu'r cais AHGM amhenderfynedig dan sylw;
ystyr “barn gwmpasu” (“scoping opinion”) yw datganiad ysgrifenedig o farn yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol, a fabwysiadwyd yn unol â rheoliad 12 ynglŷn â chwmpas yr wybodaeth y cyfeirir ati yn Rhan I o Atodlen 2 ac y mae'r awdurdod yn credu ei bod yn berthnasol i'r canlynol—
priodweddau neilltuol y datblygiad AEA penodol y mae'r farn yn ymwneud ag ef;
priodweddau neilltuol datblygiad o'r math sydd o dan sylw;
y nodweddion amgylcheddol y mae'n debyg y byddai'r datblygiad AEA yn effeithio arnynt,
ac y mae'r awdurdod, o ystyried yn benodol yr wybodaeth a'r dulliau asesu cyfredol, yn credu y gellir yn rhesymol, ei gwneud yn ofynnol ei chrynhoi;
ystyr “cais AEA” (“EIA application”) yw cais AHGM amhenderfynedig am ddatblygiad AEA;
ystyr “cais AHGM” (“ROMP application”) yw cais a wneir i awdurdod cynllunio mwynau perthnasol am benderfynu ar yr amodau y bydd cais cynllunio'n ddarostyngedig iddynt o dan baragraff—
2(2) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991 (cofrestru hen ganiatadau mwyngloddio);
9(1) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 (adolygu hen ganiatadau cynllunio mwynau); neu
6(1) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995 (adolygiadau cyfnodol o ganiatadau cynllunio mwynau);
ystyr “cais AHGM amhenderfynedig” (“undetermined ROMP application”) yw cais AHGM a wnaed cyn 15 Tachwedd 2000 ac y mae, ar neu ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, i'w benderfynu gan awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru;
ystyr “cofrestr” (“register”) yw cofrestr a gedwir yn unol ag adran 69 (cofrestrau o geisiadau etc.) ac ystyr “cofrestr briodol” (“appropriate register”) yw'r gofrestr y mae manylion cais AHGM amhenderfynedig yn dod i'w cofnodi ynddi yn rhinwedd adran 69, fel y'i cymhwysir gan reoliad 47(1), a rheoliad 48(1);
ystyr “cyfarwyddyd cwmpasu” (“scoping direction”) yw datganiad ysgrifenedig o farn Gweinidogion Cymru a wnaed yn unol â rheoliad 13, 14 neu 15, ynglŷn â chwmpas yr wybodaeth y cyfeirir ati yn Rhan I o Atodlen 2 y maent yn credu ei bod yn berthnasol i'r canlynol—
priodweddau neilltuol y datblygiad AEA penodol y mae'r cyfarwyddyd yn ymwneud ag ef;
priodweddau neilltuol datblygiad o'r math sydd o dan sylw;
y nodweddion amgylcheddol y mae'n debyg y byddai'r datblygiad AEA yn effeithio arnynt,
ac y mae Gweinidogion Cymru, o ystyried yn benodol yr wybodaeth a'r dulliau asesu cyfredol, yn credu y gellir yn rhesymol, ei gwneud yn ofynnol ei chrynhoi;
ystyr “cyfarwyddyd sgrinio” (“screening direction”) yw cyfarwyddyd a roddir yn unol â rheoliad 9 i'r perwyl bod datblygiad AHGM yn ddatblygiad esempt, neu'n unol â rheoliad 11, ynghylch p'un a yw datblygiad AHGM yn ddatblygiad AEA ai peidio;
ystyr “cyfarwyddyd sgrinio cadarnhaol” (“positive screening direction”) yw cyfarwyddyd a roddir yn unol â rheoliad 11, i'r perwyl bod datblygiad AHGM yn ddatblygiad AEA;
ystyr “cyfarwyddyd sgrinio negyddol” (“negative screening direction”) yw cyfarwyddyd a roddir yn unol â rheoliad 9 i'r perwyl bod datblygiad AHGM yn ddatblygiad esempt, neu'n unol â rheoliad 11, i'r perwyl nad yw datblygiad AHGM yn ddatblygiad AEA;
ystyr “y cyrff ymgynghori” (“the consultation bodies”) yw—
unrhyw gorff y mae'n ofynnol i'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol ymgynghori ag ef, neu y byddai'n ofynnol iddo ymgynghori ag ef yn rhinwedd erthygl 10 (ymgyngoriadau cyn rhoi caniatâd) o'r Gorchymyn neu unrhyw gyfarwyddyd o dan yr erthygl honno, pe bai cais am ganiatâd cynllunio am y datblygiad dan sylw ger ei fron; a
y cyrff canlynol os nad ydynt yn gynwysedig yn rhinwedd is-baragraff (a)—
unrhyw brif gyngor ar gyfer yr ardal y lleolir y tir ynddi, os nad hwnnw yw'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol;
Cyngor Cefn Gwlad Cymru;
Asiantaeth yr Amgylchedd; a
cyrff eraill a ddynodir drwy ddarpariaeth statudol fel rhai sydd â chyfrifoldebau amgylcheddol penodol, ac a ystyrir gan yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu gan Weinidogion Cymru, yn ôl y digwydd, yn debygol o fod â diddordeb yn y cais;
ystyr “datblygiad AEA” (“EIA development”) yw datblygiad AHGM nad oes cyfarwyddyd sgrinio negyddol wedi ei roi ynglŷn ag ef;
ystyr “datblygiad AHGM” (“ROMP development”) yw datblygiad sydd eto heb ei gyflawni ac a awdurdodir gan ganiatâd cynllunio sy'n destun cais AHGM amhenderfynedig;
ystyr “datblygiad Atodlen 2” (“Schedule 2 development”) yw datblygiad, ac eithrio datblygiad esempt, o ddisgrifiad a grybwyllir yng Ngholofn 1 o'r tabl yn Atodlen 2 i Reoliadau 1999—
pan fo unrhyw ran o'r datblygiad hwnnw i'w gyflawni mewn ardal sensitif; neu
pan eir dros ben unrhyw drothwy cymwys neu pan fodlonir criterion cymwys yn y rhan gyfatebol o Golofn 2 yn y tabl hwnnw mewn perthynas â'r datblygiad hwnnw;
ystyr “datblygiad esempt” (“exempt development”) yw datblygiad AHGM y rhoddwyd cyfarwyddyd ynglŷn ag ef gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 9(1);
ystyr “datblygiad mwynau” (“minerals development”) yw datblygiad sy'n cynnwys ennill a gweithio mwynau, neu ollwng gwastraff mwynau;
ystyr “datblygiad mwynau diawdurdod” (“unauthorised minerals development”) yw datblygiad mwynau a beidiodd â chael ei awdurdodi gan ganiatâd cynllunio, yn unol ag—
rheoliad 11(9);
rheoliad 12(5);
rheoliad 13(10);
rheoliad 14(11);
rheoliad 15(11);
rheoliad 17(8);
rheoliad 18(10);
rheoliad 18(17);
rheoliad 19(2);
rheoliad 26(5);
rheoliad 27(5);
rheoliad 28(7);
rheoliad 29(2);
ystyr “datganiad amgylcheddol” (“environmental statement”) yw datganiad—
a gyflwynir mewn ffurf briodol;
sy'n cynnwys o leiaf yr wybodaeth y cyfeirir ati yn Rhan 2 o Atodlen 2;
sy'n cynnwys cymaint o'r wybodaeth y cyfeirir ati yn Rhan 1 o Atodlen 2 ag a bennir yn y penderfyniad cwmpasu perthnasol;
mae i'r ymadrodd “datganiad amgylcheddol drafft” (“draft environmental statement”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 17(2), 17(3) ac 17(4);
ystyr “Deddf 1991” (“the 1991 Act”) yw Deddf Cynllunio ac Iawndal 1991 (p.34);
ystyr “Deddf 1995” (“the 1995 Act”) yw Deddf yr Amgylchedd 1995 (p.25);
ystyr “drwy hysbysebu yn lleol” (“by local advertisement”), mewn perthynas â hysbysiad yw—
drwy gyhoeddi'r hysbysiad mewn papur newydd sy'n cylchredeg yn y gymdogaeth y lleolir ynddi y tir y mae'r cais neu'r apêl yn ymwneud ag ef; a
os yw'r awdurdod cynllunio lleol yn cynnal gwefan at y diben o hysbysebu ceisiadau, drwy gyhoeddi'r hysbysiad ar y wefan honno;
ystyr “dyddiad atal” (“suspension date”) yw'r dyddiad pan fo caniatâd cynllunio, yn unol ag unrhyw un o'r darpariaethau canlynol, yn peidio ag awdurdodi unrhyw ddatblygiad mwynau—
rheoliad 11(9);
rheoliad 12(5);
rheoliad 13(10);
rheoliad 14(11);
rheoliad 15(11);
rheoliad 17(8);
rheoliad 18(10);
rheoliad 18(17);
rheoliad 19(2);
rheoliad 26(5);
rheoliad 27(5);
rheoliad 28(7);
rheoliad 29(2);
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p.8) ac y mae cyfeiriadau at adrannau yn gyfeiriadau at adrannau o'r Ddeddf honno;
ystyr “y Gorchymyn” (“the Order”) yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 1995(9);
ystyr “gweithredwr” (“operator”), mewn perthynas ag unrhyw gais AHGM amhenderfynedig penodol yw unrhyw berson ac eithrio'r ceisydd neu'r apelydd sydd â hawl i gyflawni unrhyw ran o'r datblygiad AHGM sydd wedi ei awdurdodi drwy'r caniatâd cynllunio y mae'r cais yn ymwneud ag ef;
ystyr “Gwladwriaeth AEE” (“EEA State”) yw Gwladwriaeth sy'n barti yng Nghytundeb yr Ardal Economaidd Ewropeaidd;
ystyr “gwybodaeth amgylcheddol” (“environmental information”) yw'r datganiad amgylcheddol ynghyd ag unrhyw wybodaeth bellach, tystiolaeth, unrhyw wybodaeth arall, unrhyw sylwadau a wneir gan unrhyw gorff y mae'n ofynnol o dan y Rheoliadau hyn ei wahodd i wneud sylwadau, ac unrhyw sylwadau a wneir yn briodol gan unrhyw berson arall am effeithiau amgylcheddol y datblygiad AEA;
ystyr “gwybodaeth bellach” (“further information”) mewn perthynas ag unrhyw gais AEA penodol, yw gwybodaeth a ystyrir, yn rhesymol, gan yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu gan Weinidogion Cymru, sydd—
yn ymwneud â phrif effeithiau'r datblygiad AEA; neu
yn sylweddol berthnasol ar gyfer penderfynu ar yr amodau y bydd y caniatâd cynllunio'n ddarostyngedig iddynt,
ac, o ystyried yn benodol yr wybodaeth a'r dulliau asesu cyfredol, y gellir yn rhesymol ei gwneud yn ofynnol ei chrynhoi;
mae i'r ymadrodd “gwybodaeth benodedig” (“specified information”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 18(6)(a);
mae i'r ymadrodd “gwybodaeth berthnasol arall” (“other relevant information”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 36(5);
mae i'r ymadrodd “gwybodaeth gwmpasu” (“scoping information”) yr ystyr a briodolir iddo yn rheoliadau 12(2), 13(4), 14(5) ac 15(5);
mae i'r ymadrodd “gwybodaeth sgrinio” (“screening information”) yr ystyr a briodolir iddo yn rheoliad 11(3);
ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 85/337/EEC(10);
ystyr y “penderfyniad cwmpasu perthnasol” (“the relevant scoping decision”) yw pa un bynnag o'r canlynol a fabwysiadwyd neu a wnaed ddiwethaf—
y farn gwmpasu a hysbyswyd o dan reoliad 12(7);
pan fo'r ceisydd wedi gofyn am gyfarwyddyd cwmpasu yn unol â rheoliad 12(8), y cyfarwyddyd cwmpasu a hysbyswyd yn unol â rheoliad 13(12);
y cyfarwyddyd cwmpasu a hysbyswyd yn unol â rheoliad 14(13);
unrhyw gyfarwyddyd cwmpasu a hysbyswyd o dan reoliad 15(13);
mae i'r ymadrodd “prif gyngor” (“principal council”) yr ystyr a roddir iddo gan is-adran (1) o adran 270 (darpariaethau cyffredinol ynglŷn â dehongli) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(11);
ystyr “Rheoliadau 1999” (“the 1999 Regulations”) yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 1999 (O.S. 1999/293);
ystyr “y tir” (“the land”) yw'r tir y mae'r caniatâd cynllunio sy'n destun y cais AHGM yn ymwneud ag ef neu, os oes mwy nag un cais cynllunio yn destun y cais AHGM, cyfanswm y tir y mae'r caniatadau cynllunio sy'n destun y cais AHGM yn ymwneud ag ef;
mae “unrhyw berson penodol” (“any particular person”) yn cynnwys unrhyw gorff anllywodraethol sy'n hyrwyddo diogelu'r amgylchedd;
ystyr “unrhyw wybodaeth arall” (“any other information”) yw unrhyw wybodaeth o sylwedd a ddarperir gan geisydd, apelydd neu weithredwr sy'n berthnasol i benderfynu'r cais AEA, ac eithrio—
gwybodaeth sgrinio;
gwybodaeth gwmpasu;
gwybodaeth bellach;
tystiolaeth.
(2) Mae cyfeiriadau (pa fodd bynnag y'u mynegir) yn y Rheoliadau hyn at atgyfeirio cais at Weinidogion Cymru i'w benderfynu yn gyfeiriadau at atgyfeirio cais at Weinidogion Cymru(12) o dan unrhyw rai o'r canlynol—
(a)paragraff 7(1) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991 (atgyfeirio ceisiadau at yr Ysgrifennydd Gwladol);
(b)paragraff 13(1) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 (atgyfeirio ceisiadau at yr Ysgrifennydd Gwladol);
(c)paragraff 8(1) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995 (atgyfeirio ceisiadau at yr Ysgrifennydd Gwladol);
(ch)rheoliad 6 (pwerau diofyn Gweinidogion Cymru).
(3) Mae cyfeiriadau (pa fodd bynnag y'u mynegir) yn y Rheoliadau hyn at apêl yn gyfeiriadau at apêl o dan—
(a)paragraff 5(2) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991, paragraff 11(1) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 neu baragraff 9(1) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995 (hawl i apelio); neu
(b)y darpariaethau a grybwyllir yn is-baragraff (a) fel y'u cymhwysir gan reoliad 45.
(4) Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at “atal datblygu mwynau” (“suspension of minerals development”) yn gyfeiriadau at ganiatâd cynllunio yn peidio ag awdurdodi unrhyw ddatblygu mwynau yn unol ag unrhyw rai o'r canlynol—
(a)Rheoliad 11(9);
(b)rheoliad 12(5);
(c)rheoliad 13(10);
(ch)rheoliad 14(11);
(d)rheoliad 15(11);
(dd)rheoliad 17(8);
(e)rheoliad 18(10);
(f)rheoliad 18(17);
(ff)rheoliad 19(2);
(g)rheoliad 26(5);
(ng)rheoliad 27(5);
(h)rheoliad 28(7);
(i)rheoliad 29(2).
(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Rheoliadau hyn ac yn y Ddeddf, yr un ystyr at ddibenion y Rheoliadau hyn ag a roddir i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw at ddibenion y Ddeddf.
(6) Mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Rheoliadau hyn ac yn y Gyfarwyddeb (pa un a ddefnyddir ef yn y Ddeddf yn ogystal ai peidio) yr un ystyr at ddibenion y Rheoliadau hyn ag a roddir i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw at ddibenion y Gyfarwyddeb.
(7) Yn y Rheoliadau hyn mae unrhyw gyfeiriad at Gyfarwyddeb y Cyngor yn gyfeiriad at y Gyfarwyddeb honno fel y'i diwygiwyd ar y dyddiad y gwnaed y Rheoliadau hyn.
3. Rhaid i awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru beidio â phenderfynu cais AEA, nac apêl mewn perthynas â chais AEA, oni fyddant yn gyntaf wedi cymryd i ystyriaeth yr wybodaeth amgylcheddol, a rhaid iddynt ddatgan yn eu penderfyniad eu bod wedi gwneud hynny.
4.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru roi canllawiau i awdurdodau cynllunio mwynau perthnasol ynglŷn ag arfer swyddogaethau'r awdurdodau yn unol â'r Rheoliadau hyn.
(2) Rhaid i awdurdod cynllunio mwynau perthnasol roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir o dan baragraff (1).
5.—(1) Pan yw—
(a)yn ofynnol bod awdurdod cynllunio mwynau perthnasol yn cymryd unrhyw gam o fewn cyfnod a bennir o dan y Rheoliadau hyn, neu a gytunwyd yn unol â'r Rheoliadau hyn (“y cyfnod penodedig”); a
(b)yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol yn rhesymol yn dod i'r casgliad na all gymryd y cam hwnnw o fewn y cyfnod penodedig,
caiff yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol wneud cais ysgrifenedig am i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddyd o dan y rheoliad hwn.
(2) Rhaid i gais a wneir o dan baragraff (1)—
(a)nodi'r cam y mae'n ofynnol bod yr awdurdod yn ei gymryd;
(b)nodi erbyn pa ddyddiad y mae'n ofynnol bod yr awdurdod yn cymryd y cam dan sylw;
(c)cael ei gyflwyno ynghyd â datganiad ysgrifenedig o resymau'r awdurdod dros ddod i'r casgliad na all gymryd y cam dan sylw o fewn y cyfnod penodedig;
(ch)datgan erbyn pa ddyddiad y mae'r awdurdod yn cynnig cymryd y cam dan sylw;
(d)cael ei gyflwyno ynghyd â datganiad ysgrifenedig o resymau'r awdurdod dros ddod i'r casgliad y bydd yn gallu cymryd y cam dan sylw erbyn y dyddiad a ddatgenir yn unol ag is-baragraff (ch); ac
(dd)cael ei gyflwyno naill ai ynghyd â chadarnhad ysgrifenedig bod yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol wedi cydymffurfio â pharagraff (3), neu ynghyd ag esboniad ysgrifenedig yr awdurdod ynghylch pam nad oedd yn gallu, neu pam nad oedd yn bosibl, cydymffurfio â'r paragraff hwnnw.
(3) Cyn cyflwyno cais o dan baragraff (1) rhaid i awdurdod cynllunio mwynau perthnasol hysbysu'r ceisydd mewn ysgrifen—
(a)o fwriad yr awdurdod i gyflwyno cais i Weinidogion Cymru o dan baragraff (1);
(b)o'r materion a nodir ym mharagraff (2) (ac eithrio'r mater y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(dd));
(c)y caiff y ceisydd gyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru o fewn 14 diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad; ac
(ch)effaith paragraff (10).
(4) Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd o dan y rheoliad hwn a fydd yn pennu bod y cam dan sylw i'w gymryd o fewn cyfnod amgen os bodlonir hwy, ar ôl ystyried cais a wneir yn unol â pharagraff (1), unrhyw sylwadau a wneir gan y ceisydd a pha bynnag faterion eraill a ystyriant yn berthnasol—
(a)na ellir, yn rhesymol, gwneud yn ofynnol bod yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol yn cymryd y cam dan sylw o fewn y cyfnod penodedig; a
(b)nad oedd cais yr awdurdod o dan baragraff (1) yn codi oherwydd unrhyw fai neu fwriad ar ran yr awdurdod.
(5) Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl rhoi cyfarwyddyd o dan baragraff (4), anfon copi o'r cyfarwyddyd hwnnw at yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol ac at y ceisydd.
(6) Os na fodlonir Gweinidogion Cymru ynglŷn â'r ddau fater a grybwyllir ym mharagraff (4)(a) a (b) rhaid iddynt wrthod rhoi cyfarwyddyd o dan y rheoliad hwn.
(7) Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl gwneud penderfyniad yn unol â pharagraff (6), roi hysbysiad ysgrifenedig i'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol o'r penderfyniad hwnnw a'r rhesymau dros ei wneud.
(8) Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi at y ceisydd o unrhyw hysbysiad a roddir yn unol â pharagraff (7).
(9) Caiff cyfarwyddyd a roddir o dan y rheoliad hwn bennu pa bynnag gyfnod amgen ag yr ystyrir yn briodol gan Weinidogion Cymru.
(10) Pan fo Gweinidogion Cymru yn cael cais a wnaed yn briodol o dan baragraff (1), estynnir y cyfnod penodedig y mae'r cam a nodir yn unol â pharagraff (2)(a) i'w gymryd ynddo hyd at—
(a)os yw Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd sy'n pennu cyfnod amgen, y dyddiad y daw'r cyfnod amgen hwnnw i ben; neu
(b)os yw Gweinidogion Cymru yn gwrthod rhoi cyfarwyddyd o dan y rheoliad hwn, y dyddiad sy'n digwydd 14 diwrnod ar ôl y diweddaraf o'r dyddiadau a ganlyn—
(i)y dyddiad y mae'r cyfnod penodedig yn dod i ben;
(ii)y dyddiad y mae hysbysiad ysgrifenedig yn cael ei roi'n unol â pharagraff (7);
(iii)y dyddiad y mae unrhyw gopi o hysbysiad ysgrifenedig yn cael ei anfon at y ceisydd yn unol â pharagraff (8).
(11) Ceir diwygio neu ddirymu cyfarwyddyd a roddir o dan y rheoliad hwn drwy roi cyfarwyddyd pellach.
(12) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r awdurdod cynllunio mwynau a'r ceisydd ynghylch unrhyw gyfarwyddyd a roddir, neu benderfyniad a wneir i wrthod rhoi cyfarwyddyd, o dan y rheoliad hwn.
6.—(1) Pan fo'r canlynol yn gymwys yn achos awdurdod cynllunio mwynol perthnasol mewn perthynas â chais AEA—
(a)ei bod yn ofynnol i'r awdurdod hwnnw gymryd unrhyw gam o fewn cyfnod penodol; a
(b)nad yw'r awdurdod hwnnw'n cymryd y cam dan sylw o fewn y cyfnod penodol,
caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod y cais AEA dan sylw yn cael ei atgyfeirio atynt hwy yn hytrach na bod yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol yn ymdrin â'r cais.
(2) Pan fo Gweinidogion Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd o dan y rheoliad hwn a bod yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (3) yn gymwys, caiff Gweinidogion Cymru adennill oddi wrth yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol pa bynnag gostau neu dreuliau y maent wedi mynd iddynt yn rhesymol wrth ymdrin â'r cais AEA y mae'r cyfarwyddyd yn ymwneud ag ef.
(3) Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried, ar sail y dystiolaeth sydd ar gael iddynt, bod methiant yr awdurdod i gymryd y cam dan sylw o fewn y cyfnod penodol wedi ei achosi o ganlyniad i ddiffyg neu fwriad yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol.
(4) Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan y rheoliad hwn, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori gyda'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol a chyda'r ceisydd.
(5) Rhaid i unrhyw gais AEA y rhoddir cyfarwyddyd mewn perthynas ag ef o dan y rheoliad hwn gael ei atgyfeirio at Weinidogion Cymru yn unol â hynny.
(6) At ddibenion y rheoliad hwn, mae cyfeiriad at gyfnod penodol yn gyfeiriad at unrhyw un o'r canlynol—
(a)cyfnod a bennir o dan y Rheoliadau hyn;
(b)cyfnod a gytunir mewn ysgrifen yn unol â darpariaethau'r Rheoliadau hyn;
(c)pan fo awdurdod cynllunio mwynau perthnasol wedi gwneud cais ysgrifenedig o dan reoliad 5(1), y cyfnod a gyfrifir yn unol â rheoliad 5(10).
(7) Cyn penderfynu'r cais, caiff Gweinidogion Cymru, os yw naill ai'r ceisydd neu'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol yn dymuno hynny, roi cyfle i'r naill a'r llall ohonynt ymddangos gerbron a chael gwrandawiad gan berson a benodir gan Weinidogion Cymru at y diben hwnnw.
(8) Bydd penderfyniad Gweinidogion Cymru ar y cais yn derfynol.
(9) Mae'r pwerau a roddir gan y rheoliad hwn yn ychwanegol at, ac nid yn rhanddirymiad o unrhyw bwerau eraill Gweinidogion Cymru gan gynnwys, yn benodol, y pŵer a roddir gan adran 77.
7.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru, trwy roi hysbysiad ysgrifenedig, wneud yn ofynnol bod awdurdod cynllunio mwynau perthnasol yn darparu pa bynnag wybodaeth ynglŷn ag arfer swyddogaethau'r awdurdod o dan y Rheoliadau hyn ag a ystyrir yn briodol gan Weinidogion Cymru.
(2) Rhaid i'r wybodaeth a wneir yn ofynnol yn unol â hysbysiad ysgrifenedig o dan baragraff (1) gael ei darparu gan awdurdod cynllunio mwynau perthnasol o fewn pa bynnag gyfnod a bennir yn yr hysbysiad, neu ba bynnag gyfnod hwy a gytunir mewn ysgrifen gyda Gweinidogion Cymru.
8. Rhaid i ddatganiad amgylcheddol ac unrhyw wybodaeth bellach neu dystiolaeth y mae'n ofynnol ei chyflwyno o dan y Rheoliadau hyn gael eu cyflwyno ar bapur ac mewn fformat electronig, a rhaid dehongli cyfeiriadau at gopïau o unrhyw ddatganiad, gwybodaeth neu dystiolaeth o'r fath yn unol â hynny.
9.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod datblygiad AHGM penodol wedi ei esemptio rhag cymhwyso'r Rheoliadau hyn yn unol ag Erthygl 2(3) o'r Gyfarwyddeb (ond heb ragfarnu Erthygl 7 o'r Gyfarwyddeb).
(2) Pan roddir cyfarwyddyd o dan baragraff (1) rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)anfon copi o unrhyw gyfarwyddyd o'r fath at yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol ac at y ceisydd neu'r apelydd;
(b)rhoi ar gael i'r cyhoedd yr wybodaeth a ystyriwyd wrth roi'r cyfarwyddyd a'r rhesymau dros roi'r cyfarwyddyd;
(c)ystyried a fyddai ffurf arall o asesu yn briodol; ac
(ch)cymryd pa bynnag gamau a ystyriant yn briodol i ddwyn yr wybodaeth a gesglir o dan y ffurf arall o asesu i sylw'r cyhoedd.
(3) Pan fo Gweinidogion Cymru i benderfynu o dan y Rheoliadau hyn pa un a yw datblygiad AHGM yn ddatblygiad AEA, rhaid i Weinidogion Cymru gymryd i ystyriaeth, wrth wneud y penderfyniad hwnnw, y cyfryw rai o'r meini prawf dethol a nodir yn Atodlen 1 ag sy'n berthnasol i'r datblygiad.
(4) Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd sgrinio o dan y Rheoliadau hyn—
(a)rhaid rhoi'r cyfarwyddyd hwnnw ynghyd â datganiad ysgrifenedig sy'n rhoi yn eglur ac yn fanwl y rhesymau llawn dros y penderfyniad a gynhwysir yn y cyfarwyddyd; a
(b)rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o'r cyfarwyddyd a chopi o'r datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan is-baragraff (a) at y ceisydd neu'r apelydd, yn ôl y digwydd, ac at yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol.
(5) Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd sgrinio, pa un a gânt gais i wneud hynny ai peidio.
10.—(1) Mae datblygiad AHGM yn ddatblygiad AEA.
Mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff (2) ac nid yw'n rhagfarnu rheoliad 9.
(2) Caiff unrhyw geisydd neu apelydd, o fewn tair wythnos o'r dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, ofyn i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddyd sgrinio o dan reoliad 11.
11.—(1) Rhaid i geisydd neu apelydd sydd, yn unol â rheoliad 10(2), yn gwneud cais am i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddyd sgrinio o dan y rheoliad hwn, gyflwyno ynghyd â'r cais hwnnw—
(a)copi o'r cais AHGM;
(b)cynllun sy'n ddigonol ar gyfer adnabod y tir;
(c)disgrifiad o natur a phwrpas y datblygiad AHGM a'i effeithiau posibl ar yr amgylchedd;
(ch)unrhyw sylwadau y dymuna'r ceisydd neu'r apelydd eu gwneud.
(2) Rhaid i geisydd neu apelydd sy'n gwneud cais am gyfarwyddyd yn unol â rheoliad 10(2) mewn cysylltiad â chais AHGM amhenderfynedig sydd gerbron awdurdod cynllunio mwynau i'w benderfynu, anfon copi o'r cais am gyfarwyddyd ar unwaith at yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol, ynghyd â chopi o unrhyw sylwadau y mae'r person hwnnw wedi eu gwneud wrth Weinidogion Cymru.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru, os ydynt o'r farn na chawsant wybodaeth ddigonol i roi cyfarwyddyd sgrinio, hysbysu'r ceisydd, apelydd neu weithredwr perthnasol, mewn ysgrifen, o'r wybodaeth ychwanegol (“gwybodaeth sgrinio”) sy'n ofynnol ganddynt, ac o'r materion a nodir ym mharagraff 2 o Atodlen 3.
(4) At ddibenion paragraff (3), gweithredwr perthnasol yw unrhyw weithredwr yr ystyria Gweinidogion Cymru yn rhesymol ei fod, neu y dylai fod, yn alluog i ddarparu gwybodaeth sgrinio.
(5) Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o unrhyw hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (3) at yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol.
(6) Caiff Gweinidogion Cymru ofyn, mewn ysgrifen, i'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol ddarparu pa bynnag wybodaeth y gall ei darparu, ynglŷn â gwybodaeth sgrinio a geisir o dan baragraff (3).
(7) Rhaid i awdurdod cynllunio mwynau y gwneir cais iddo o dan baragraff (6), o fewn tair wythnos o'r dyddiad y gwneir y cais, neu ba bynnag gyfnod hwy a gytunir mewn ysgrifen gyda Gweinidogion Cymru–
(a)darparu pa bynnag wybodaeth y gall ynglŷn â'r wybodaeth sgrinio; neu
(b)hysbysu Gweinidogion Cymru mewn ysgrifen o'r rhesymau pam na all ddarparu unrhyw wybodaeth o'r fath.
(8) Rhaid darparu gwybodaeth sgrinio sy'n ofynnol yn unol â hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (3) o fewn cyfnod o dair wythnos, sy'n cychwyn ar y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad neu ba bynnag gyfnod hwy a gytunir mewn ysgrifen gyda Gweinidogion Cymru (“y cyfnod perthnasol”).
(9) Os na ddarperir gwybodaeth sgrinio sy'n ofynnol yn unol â hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (3) o fewn y cyfnod perthnasol, bydd y caniatâd cynllunio y mae'r cais AHGM amhenderfynedig yn ymwneud ag ef yn peidio ag awdurdodi unrhyw ddatblygiad mwynau o ddiwedd y cyfnod perthnasol ymlaen.
(10) Rhaid i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddyd sgrinio cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl y diweddaraf o'r dyddiadau canlynol—
(a)y dyddiad y ceir cais yn unol â rheoliad 10(2);
(b)os yw'r person sy'n gwneud y cais wedi ei hysbysu yn unol â pharagraff (3), y dyddiad y ceir yr wybodaeth sgrinio sy'n ofynnol;
(c)y dyddiad y ceir ymateb ysgrifenedig o dan baragraff (7).
(11) Os yw'r datblygiad AHGM sy'n destun cais sgrinio a wnaed yn unol â rheoliad 10(2) yn ddatblygiad o fath a restrir yn Atodiad I i'r Gyfarwyddeb, rhaid i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddyd bod y datblygiad hwnnw yn ddatblygiad AEA.
Nid yw hyn yn rhagfarnu rheoliad 9.
(12) Rhaid i Weinidogion Cymru cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl rhoi cyfarwyddyd sgrinio o dan y rheoliad hwn, anfon at y person a wnaeth y cais am gyfarwyddyd—
(a)copi o'r cyfarwyddyd sgrinio a roddwyd; a
(b)pan fo'r cyfarwyddwyd sgrinio i'r perwyl bod y datblygiad dan sylw yn ddatblygiad AEA, hysbysiad ysgrifenedig o'r materion a nodir ym mharagraff 3 o Atodlen 3.
(13) Caiff Gweinidogion Cymru dynnu'n ôl hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (3) ar unrhyw bryd cyn y daw'r cyfnod perthnasol i ben.
12.—(1) Rhaid i awdurdod cynllunio mwynau perthnasol fabwysiadu barn gwmpasu mewn perthynas â phob cais AEA sydd ger ei fron i'w benderfynu, a chydymffurfio â pharagraff (7)—
(a)pan fo paragraff (2) yn gymwys, o fewn wyth wythnos ar ôl cael pa bynnag wybodaeth gwmpasu a all fod yn ofynnol yn unol â hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan y paragraff hwnnw;
(b)pan fo ceisydd wedi gwneud cais am gyfarwyddyd sgrinio yn unol â rheoliad 10(2), o fewn wyth wythnos ar ôl cael copi o gyfarwyddyd sgrinio cadarnhaol;
(c)ym mhob achos arall, o fewn wyth wythnos o'r dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.
(2) Os yw awdurdod o'r farn na ddarparwyd digon o wybodaeth iddo i fabwysiadu barn gwmpasu, rhaid iddo—
(a)pan fo ceisydd wedi gwneud cais am gyfarwyddyd sgrinio yn unol â rheoliad 10(2), o fewn wyth wythnos ar ôl cael copi o gyfarwyddyd sgrinio cadarnhaol a wnaed o dan y rheoliad hwnnw; neu fel arall
(b)o fewn wyth wythnos o'r dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym;
hysbysu'r ceisydd neu weithredwr perthnasol mewn ysgrifen o'r wybodaeth ychwanegol (“gwybodaeth gwmpasu”) sy'n ofynnol ganddo ac o'r materion a nodir ym mharagraff 4 o Atodlen 3.
(3) At ddibenion paragraff (2), gweithredwr perthnasol yw unrhyw weithredwr yr ystyrir yn rhesymol gan yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol ei fod, neu y dylai fod, yn alluog i ddarparu gwybodaeth gwmpasu.
(4) Rhaid darparu gwybodaeth gwmpasu sy'n ofynnol yn unol â hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (2) o fewn cyfnod o dair wythnos, sy'n cychwyn ar y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad neu ba bynnag gyfnod hwy a gytunir mewn ysgrifen gyda'r awdurdod (“y cyfnod perthnasol”) .
(5) Os na ddarperir gwybodaeth gwmpasu sy'n ofynnol yn unol â hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (2) o fewn y cyfnod perthnasol bydd y caniatâd y mae'r cais AEA yn ymwneud ag ef yn peidio ag awdurdodi unrhyw ddatblygiad mwynau o ddiwedd y cyfnod perthnasol ymlaen.
(6) Rhaid i awdurdod beidio â mabwysiadu barn gwmpasu o dan baragraff (1) cyn ei fod wedi ymgynghori gyda'r ceisydd, gydag unrhyw weithredwr perthnasol a hysbyswyd o dan baragraff (2) a chyda'r cyrff ymgynghori.
(7) Rhaid i awdurdod anfon at y ceisydd—
(a)copi o'i farn gwmpasu a fabwysiadwyd o dan y rheoliad hwn; a
(b)hysbysiad ysgrifenedig o'r materion a restrir ym mharagraff 5 o Atodlen 3.
(8) Os yw awdurdod yn peidio â chydymffurfio â pharagraff (7) o fewn y cyfnod o wyth wythnos sy'n gymwys yn unol â pharagraff (1), caiff y ceisydd ofyn i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddyd cwmpasu o dan reoliad 13.
(9) Nid yw mabwysiadu barn gwmpasu o dan y rheoliad hwn yn rhwystro'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol na Gweinidogion Cymru rhag rhoi hysbysiad ysgrifenedig o dan reoliad 26 (gwybodaeth bellach) neu reoliad 27 (tystiolaeth).
(10) Pan fo awdurdod cynllunio mwynau perthnasol yn cael copi o gyfarwyddyd cwmpasu yn unol â rheoliad 13(12) rhaid i'r awdurdod, o fewn saith niwrnod ar ôl cael y copi, hysbysu'r ceisydd mewn ysgrifen o'r materion a nodir ym mharagraff 6 o Atodlen 3.
(11) Caiff awdurdod cynllunio mwynau perthnasol dynnu'n ôl hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (2) ar unrhyw bryd cyn y daw'r cyfnod perthnasol i ben.
13.—(1) Rhaid i geisydd sy'n gofyn i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddyd cwmpasu yn unol â rheoliad 12(8) gyflwyno'r canlynol ynghyd â'i gais am gyfarwyddyd—
(a)cynllun sy'n ddigonol ar gyfer adnabod y tir;
(b)disgrifiad byr o natur a phwrpas y datblygiad a'i effeithiau posibl ar yr amgylchedd;
(c)copi o unrhyw hysbysiad perthnasol a roddwyd i'r ceisydd o dan reoliad 12(2) ac o unrhyw ymateb;
(ch)pa bynnag wybodaeth neu sylwadau eraill y mae'r ceisydd yn dymuno eu darparu neu eu gwneud.
(2) Rhaid i geisydd sy'n gwneud cais am gyfarwyddyd yn unol â rheoliad 12(8) anfon at yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol gopi o'r cais hwnnw ac o unrhyw wybodaeth neu sylwadau y mae'r ceisydd yn eu cyflwyno, i Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff 13(1)(ch).
(3) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol—
(a)ar ôl cael cais a wnaed yn unol â rheoliad 12(8); neu
(b)pan fo paragraff (4) yn gymwys, ar ôl cael pa bynnag wybodaeth gwmpasu a all fod yn ofynnol yn unol â hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan y paragraff hwnnw,
rhaid i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddyd cwmpasu mewn perthynas â'r cais AEA sy'n destun y cais am gyfarwyddyd.
(4) Os yw Gweinidogion Cymru, o'r farn na chawsant wybodaeth ddigonol i roi cyfarwyddyd cwmpasu rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael cais yn unol â rheoliad 12(8), hysbysu'r ceisydd neu weithredwr perthnasol, mewn ysgrifen, o'r wybodaeth ychwanegol (“gwybodaeth gwmpasu”) sy'n ofynnol ganddynt, ac o'r materion a nodir ym mharagraff 7 o Atodlen 3.
(5) At ddibenion paragraff (4), gweithredwr perthnasol yw unrhyw weithredwr yr ystyria Gweinidogion Cymru yn rhesymol ei fod, neu y dylai fod, yn alluog i ddarparu gwybodaeth gwmpasu.
(6) Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o unrhyw hysbysiad a roddir o dan baragraff (4) at yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol.
(7) Caiff Gweinidogion Cymru, mewn ysgrifen, ofyn i'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol ddarparu pa bynnag wybodaeth y gall ei darparu o ran gwybodaeth gwmpasu sy'n ofynnol yn unol â hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (4).
(8) Rhaid i awdurdod cynllunio mwynau y gwneir cais iddo o dan baragraff (7), o fewn tair wythnos o'r dyddiad y gwneir y cais hwnnw, neu ba bynnag gyfnod hwy a gytunir mewn ysgrifen gyda Gweinidogion Cymru—
(a)darparu pa bynnag wybodaeth y gall ynglŷn â'r wybodaeth gwmpasu; neu
(b)hysbysu Gweinidogion Cymru mewn ysgrifen o'r rhesymau pam na all ddarparu unrhyw wybodaeth o'r fath.
(9) Rhaid darparu gwybodaeth gwmpasu sy'n ofynnol yn unol â hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (4) o fewn cyfnod o dair wythnos, sy'n cychwyn ar y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad neu ba bynnag gyfnod hwy a gytunir mewn ysgrifen gyda Gweinidogion Cymru (“y cyfnod perthnasol”).
(10) Os na ddarperir gwybodaeth gwmpasu sy'n ofynnol yn unol â hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (4) o fewn y cyfnod perthnasol, bydd y caniatâd cynllunio y mae'r cais AEA yn ymwneud ag ef yn peidio ag awdurdodi unrhyw ddatblygiad mwynau o ddiwedd y cyfnod perthnasol ymlaen.
(11) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â rhoi cyfarwyddyd cwmpasu o ran y rheoliad hwn cyn ymgynghori gyda'r ceisydd, gydag unrhyw weithredwr perthnasol a hysbyswyd o dan baragraff (4) a chyda'r cyrff ymgynghori.
(12) Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl rhoi cyfarwyddyd cwmpasu o dan y rheoliad hwn, anfon copi o'r cyfarwyddyd hwnnw at y ceisydd a'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol.
(13) Rhaid i'r copi o'r cyfarwyddyd a anfonir at y ceisydd o dan baragraff (12) gael ei anfon ynghyd â hysbysiad ysgrifenedig o'r hawl i herio'r cyfarwyddyd ac o'r cyfnod o amser ar gyfer gwneud hynny.
(14) Nid yw rhoi cyfarwyddyd cwmpasu o dan y rheoliad hwn yn rhwystro Gweinidogion Cymru nac awdurdod cynllunio mwynau perthnasol rhag rhoi hysbysiad ysgrifenedig o dan reoliad 26 (gwybodaeth bellach) neu reoliad 27 (tystiolaeth).
(15) Caiff Gweinidogion Cymru dynnu'n ôl hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (4) ar unrhyw bryd cyn i'r cyfnod perthnasol ddod i ben.
14.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i bob cais AEA sydd, yn union cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, gerbron Gweinidogion Cymru i'w benderfynu.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddyd cwmpasu mewn perthynas â phob cais AEA y mae paragraff (1) yn gymwys iddo—
(a)mewn achosion pan fo paragraff (5) yn gymwys, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael pa bynnag wybodaeth gwmpasu a all fod yn ofynnol yn unol â hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan y paragraff hwnnw;
(b)pan fo ceisydd neu apelydd wedi gwneud cais am gyfarwyddyd sgrinio yn unol â rheoliad 10(2), cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl rhoi cyfarwyddyd sgrinio cadarnhaol;
(c)ym mhob achos arall, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.
(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i bob cais AEA a atgyfeirir at Weinidogion Cymru i'w benderfynu ar neu ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym ac nad oes, mewn perthynas â'r cyfryw gais—
(a)copi o farn gwmpasu wedi ei anfon at y ceisydd o dan reoliad 12(7); a
(b)copi o gyfarwyddyd sgrinio wedi ei anfon at y ceisydd o dan reoliad 13(12).
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddyd cwmpasu mewn perthynas â phob cais AEA y mae paragraff (3) yn gymwys iddo—
(a)cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl atgyfeirio'r cais felly; neu
(b)pan fo paragraff (5) yn gymwys, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael pa bynnag wybodaeth gwmpasu a all fod yn ofynnol yn unol â hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan y paragraff hwnnw.
(5) Os yw Gweinidogion Cymru o'r farn na chawsant wybodaeth ddigonol i roi cyfarwyddyd cwmpasu, rhaid iddynt—
(a)mewn perthynas â chais AEA y mae paragraff (1) yn gymwys iddo, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym; neu
(b)mewn perthynas â chais AEA y mae paragraff (3) yn gymwys iddo, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl atgyfeirio'r cais felly,
hysbysu'r ceisydd neu'r apelydd neu weithredwr perthnasol mewn ysgrifen o'r wybodaeth ychwanegol (“gwybodaeth gwmpasu”) sy'n ofynnol ganddynt ac o'r materion a nodir ym mharagraff 8 o Atodlen 3.
(6) At ddibenion paragraff (5), gweithredwr perthnasol yw unrhyw weithredwr yr ystyria Gweinidogion Cymru yn rhesymol ei fod, neu y dylai fod, yn alluog i ddarparu gwybodaeth gwmpasu.
(7) Caiff Gweinidogion Cymru, mewn ysgrifen, ofyn i'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol ddarparu pa bynnag wybodaeth y gall ei darparu o ran gwybodaeth gwmpasu sy'n destun hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (5).
(8) Rhaid cyflwyno cais a wneir yn unol â pharagraff (7) ynghyd â chopi o'r hysbysiad a roddir o dan baragraff (5) ac y mae'r cais yn ymwneud ag ef.
(9) Rhaid i awdurdod cynllunio mwynau y gwneir cais iddo o dan baragraff (7), o fewn tair wythnos o'r dyddiad y gwneir y cais hwnnw, neu ba bynnag gyfnod hwy a gytunir mewn ysgrifen gyda Gweinidogion Cymru—
(a)darparu pa bynnag wybodaeth y gall ynglŷn â'r wybodaeth gwmpasu; neu
(b)hysbysu Gweinidogion Cymru mewn ysgrifen o'r rhesymau pam na all ddarparu unrhyw wybodaeth o'r fath.
(10) Rhaid darparu gwybodaeth gwmpasu sy'n ofynnol yn unol â hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (5) o fewn cyfnod o dair wythnos, sy'n cychwyn ar y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad o dan y paragraff hwnnw, neu ba bynnag gyfnod hwy a gytunir mewn ysgrifen gyda Gweinidogion Cymru (“y cyfnod perthnasol”).
(11) Os na ddarperir gwybodaeth gwmpasu sy'n ofynnol yn unol â hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (5) o fewn y cyfnod perthnasol bydd y caniatâd y mae'r cais AEA yn ymwneud ag ef yn peidio ag awdurdodi unrhyw ddatblygiad mwynau o ddiwedd y cyfnod perthnasol ymlaen.
(12) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â rhoi cyfarwyddyd cwmpasu o dan baragraff (2) neu (4) cyn ymgynghori gyda'r ceisydd neu'r apelydd, gydag unrhyw weithredwr perthnasol a hysbyswyd o dan baragraff (5) a chyda'r cyrff ymgynghori.
(13) Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bônt wedi rhoi cyfarwyddyd cwmpasu o dan y rheoliad hwn, anfon at y ceisydd neu'r apelydd—
(a)copi o'r cyfarwyddyd hwnnw; a
(b)hysbysiad ysgrifenedig o'r materion a nodir ym mharagraff 9 o Atodlen 3.
(14) Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o unrhyw gyfarwyddyd a anfonir, ac unrhyw hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (13) at yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol.
(15) Nid yw rhoi cyfarwyddyd cwmpasu o dan y rheoliad hwn yn rhwystro Gweinidogion Cymru rhag rhoi hysbysiad ysgrifenedig o dan reoliad 26 (gwybodaeth bellach) neu 27 (tystiolaeth).
(16) Caiff Gweinidogion Cymru dynnu'n ôl hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (5) ar unrhyw bryd cyn y daw'r cyfnod perthnasol i ben.
15.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw gais AEA y bodlonir pob un o'r amodau canlynol mewn perthynas ag ef—
(a)bod penderfyniad cwmpasu perthnasol wedi ei hysbysu;
(b)nad oes hysbysiad o dan reoliad 18(21) eto wedi ei roi; ac
(c)bod y cais AEA dan sylw wedi ei atgyfeirio at Weinidogion Cymru i'w benderfynu.
(2) At ddibenion paragraff (1)(a), mae penderfyniad cwmpasu perthnasol wedi ei hysbysu os, mewn perthynas â'r cais AEA dan sylw, yw'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol wedi cydymffurfio â rheoliad 12(7), neu Weinidogion Cymru wedi cydymffurfio â rheoliad 13(12).
(3) Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd cwmpasu mewn perthynas â chais AEA y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo os tybiant y byddai'n gyfleus gwneud hynny.
(4) Mae cyfarwyddyd cwmpasu a roddir o dan baragraff (3) yn cymryd lle, at ddibenion y Rheoliadau hyn—
(a)y farn gwmpasu a fabwysiadwyd o dan reoliad 12; a
(b)unrhyw gyfarwyddyd cwmpasu a roddir o dan reoliad 13.
(5) Os yw Gweinidogion Cymru o'r farn nad oes ganddynt wybodaeth ddigonol i roi cyfarwyddyd cwmpasu o dan baragraff (3), rhaid iddynt hysbysu'r ceisydd neu weithredwr perthnasol, mewn ysgrifen, o'r wybodaeth ychwanegol (“gwybodaeth gwmpasu”) sy'n ofynnol ganddynt, ac o'r materion a nodir ym mharagraff 10 o Atodlen 3.
(6) At ddibenion paragraff (5), gweithredwr perthnasol yw unrhyw weithredwr yr ystyria Gweinidogion Cymru yn rhesymol ei fod, neu y dylai fod, yn alluog i ddarparu gwybodaeth gwmpasu.
(7) Caiff Gweinidogion Cymru, mewn ysgrifen, ofyn i'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol ddarparu pa bynnag wybodaeth y gall ei darparu o ran gwybodaeth gwmpasu sy'n ofynnol yn unol â hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (5).
(8) Rhaid cyflwyno cais a wneir yn unol â pharagraff (7) ynghyd â chopi o'r hysbysiad a roddir o dan baragraff (5) ac y mae'r cais yn ymwneud ag ef.
(9) Rhaid i awdurdod cynllunio mwynau y gwneir cais iddo o dan baragraff (7), o fewn tair wythnos o'r dyddiad y gwneir y cais hwnnw, neu ba bynnag gyfnod hwy a gytunir mewn ysgrifen gyda Gweinidogion Cymru—
(a)darparu pa bynnag wybodaeth y gall ynglŷn â'r wybodaeth gwmpasu; neu
(b)hysbysu Gweinidogion Cymru mewn ysgrifen o'r rhesymau pam na all ddarparu unrhyw wybodaeth o'r fath.
(10) Rhaid darparu gwybodaeth gwmpasu sy'n ofynnol yn unol â hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (5) o fewn cyfnod o dair wythnos, sy'n cychwyn ar y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad o dan y paragraff hwnnw neu ba bynnag gyfnod hwy a gytunir mewn ysgrifen gyda Gweinidogion Cymru (“y cyfnod perthnasol”).
(11) Os na ddarperir gwybodaeth gwmpasu sy'n ofynnol yn unol â hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (5) o fewn y cyfnod perthnasol bydd y caniatâd y mae'r cais AEA yn ymwneud ag ef yn peidio ag awdurdodi unrhyw ddatblygiad mwynau o ddiwedd y cyfnod perthnasol ymlaen.
(12) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â rhoi cyfarwyddyd cwmpasu o dan baragraff (3) cyn ymgynghori gyda'r ceisydd, gydag unrhyw weithredwr perthnasol a hysbyswyd o dan baragraff (5) a chyda'r cyrff ymgynghori.
(13) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl rhoi cyfarwyddyd cwmpasu o dan baragraff (3), rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi at y ceisydd o'r cyfarwyddyd hwnnw ynghyd â hysbysiad ysgrifenedig o'r materion a nodir ym mharagraff 11 o Atodlen 3.
(14) Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o unrhyw gyfarwyddyd cwmpasu a wneir o dan y rheoliad hwn at yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol.
(15) Nid yw rhoi cyfarwyddyd cwmpasu o dan y rheoliad hwn yn rhwystro Gweinidogion Cymru rhag rhoi hysbysiad ysgrifenedig o dan reoliad 26 (gwybodaeth bellach) neu 27 (tystiolaeth).
(16) Caiff Gweinidogion Cymru dynnu'n ôl hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (5) ar unrhyw bryd cyn y daw'r cyfnod perthnasol i ben.
16.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), rhaid i'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol, os gofynnir iddo gan berson a hysbysir yn unol â rheoliad 12(7), 13(12), 14(13) neu 15(13), ymuno mewn ymgynghoriad â'r person hwnnw er mwyn penderfynu a oes gan yr awdurdod unrhyw wybodaeth yn ei feddiant a ystyrir gan y person neu'r awdurdod yn berthnasol i baratoi'r datganiad amgylcheddol, ac os oes, rhaid i'r awdurdod roi'r wybodaeth honno ar gael i'r person hwnnw.
(2) Caiff unrhyw berson a hysbysir yn unol â rheoliad 12(7), 13(12), 14(13) neu 15(13) roi hysbysiad ysgrifenedig i'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu, yn ôl y digwydd, i Weinidogion Cymru, o dan y paragraff hwn.
(3) Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (2) gynnwys yr wybodaeth sydd ei hangen i adnabod y tir a natur a phwrpas y datblygiad AEA.
(4) Rhaid i dderbynnydd hysbysiad o'r math y cyfeirir ato ym mharagraff (2)—
(a)hysbysu'r cyrff ymgynghori, mewn ysgrifen, o enw a chyfeiriad y person a roddodd hysbysiad o dan baragraff (2), ac o'r ddyletswydd a osodir ar y cyrff ymgynghori gan baragraff (5) i roi gwybodaeth ar gael i'r person hwnnw; a
(b)hysbysu, mewn ysgrifen, y person a roddodd yr hysbysiad, o enwau a chyfeiriadau y cyrff a hysbyswyd felly.
(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), rhaid i unrhyw gorff a hysbysir yn unol â pharagraff (4)(a), os gofynnir iddo gan y person y rhoddwyd ei enw i'r corff fel y person a roddodd hysbysiad o dan baragraff (2), ymuno mewn ymgynghoriad â'r person hwnnw er mwyn penderfynu a oes gan y corff unrhyw wybodaeth yn ei feddiant a ystyrir gan y person neu'r corff yn berthnasol i baratoi'r datganiad amgylcheddol, ac os oes, rhaid i'r corff roi'r wybodaeth honno ar gael i'r person hwnnw.
(6) Nid yw'n ofynnol o dan y rheoliad hwn ddatgelu unrhyw wybodaeth—
(a)y mae Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004(13) yn gymwys iddi, pe bai hawl gan y person sy'n dal yr wybodaeth i wrthod ei datgelu wrth ymateb i gais a wneid yn unol â'r Rheoliadau hynny; neu
(b)a fyddai, mewn unrhyw achos arall, yn wybodaeth esempt pe gwneid cais am ei datgelu yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000(14).
(7) Caiff awdurdod neu gorff sy'n rhoi gwybodaeth ar gael yn unol â pharagraff (1) neu (5) godi tâl rhesymol sy'n adlewyrchu'r gost o roi'r wybodaeth berthnasol.
17.—(1) Rhaid i ddatganiad amgylcheddol gael ei gyflwyno ar gyfer pob cais AEA y mae hysbysiad ysgrifenedig wedi ei roi mewn cysylltiad ag ef yn unol â rheoliad 12(7), 13(12), 14(13) neu 15(13).
(2) Rhaid i ddatganiad amgylcheddol sy'n ofynnol mewn cysylltiad â chais AEA sydd gerbron awdurdod cynllunio mwynau perthnasol i'w benderfynu gael ei gyflwyno i'r awdurdod hwnnw ar ffurf drafft (“datganiad amgylcheddol drafft”)—
(a)o fewn 16 wythnos o'r dyddiad yr anfonir, yn unol â rheoliad 12(7)(a), gopi o farn gwmpasu'r awdurdod at y ceisydd; neu
(b)os gofynnwyd am gyfarwyddyd cwmpasu'n unol â rheoliad 12(8), o fewn 16 wythnos o'r dyddiad yr anfonwyd, yn unol â rheoliad 13(12), gopi o gyfarwyddyd cwmpasu Gweinidogion Cymru at y ceisydd,
neu ba bynnag gyfnod hwy a gytunir mewn ysgrifen gyda'r awdurdod (“y cyfnod perthnasol”).
(3) Rhaid i ddatganiad amgylcheddol sy'n ofynnol mewn cysylltiad â chais AEA neu apêl y mae rheoliad 14(1) neu 14(3) yn gymwys iddo gael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru ar ffurf drafft (“datganiad amgylcheddol drafft”) o fewn 16 wythnos o ddyddiad yr hysbysiad a roddir o dan reoliad 14(13), neu ba bynnag gyfnod hwy a gytunir mewn ysgrifen gyda Gweinidogion Cymru (“y cyfnod perthnasol”).
(4) Rhaid i ddatganiad amgylcheddol sy'n ofynnol mewn cysylltiad â chais AEA y mae rheoliad 15 yn gymwys iddo gael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru ar ffurf drafft (“datganiad amgylcheddol drafft”) o fewn 16 wythnos o ddyddiad yr hysbysiad a roddir o dan reoliad 15(13), neu ba bynnag gyfnod hwy a gytunir mewn ysgrifen gyda Gweinidogion Cymru (“y cyfnod perthnasol”).
(5) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo cais AEA wedi ei atgyfeirio at Weinidogion Cymru—
(a)ar ôl y dyddiad yr anfonwyd barn gwmpasu neu gyfarwyddyd cwmpasu at y ceisydd yn unol â rheoliad 12(7)(a) neu 13(12); a
(b)cyn bo datganiad amgylcheddol wedi ei gyflwyno i awdurdod cynllunio mwynau perthnasol o dan y rheoliad hwn.
(6) Pan fo paragraff (5) yn gymwys, rhaid cyflwyno'r datganiad amgylcheddol drafft i Weinidogion Cymru fewn 16 wythnos o'r dyddiad yr anfonwyd y farn gwmpasu neu'r cyfarwyddyd cwmpasu at y ceisydd yn unol â rheoliad 12(7)(a) neu 13(12), yn ôl y digwydd, neu ba bynnag gyfnod hwy a gytunir mewn ysgrifen gyda Gweinidogion Cymru (“y cyfnod perthnasol”).
(7) Ni chaiff awdurdod cynllunio mwynau perthnasol na Gweinidogion Cymru dderbyn mwy nag un datganiad amgylcheddol drafft mewn perthynas ag unrhyw gais AEA.
(8) Os na chyflwynir datganiad amgylcheddol drafft o fewn y cyfnod perthnasol sy'n gymwys yn unol â pharagraff (2), (3), (4) neu (6), bydd y caniatâd cynllunio y mae'r cais AEA yn ymwneud ag ef yn peidio ag awdurdodi unrhyw ddatblygiad mwynau o ddiwedd y cyfnod perthnasol ymlaen.
18.—(1) Rhaid i awdurdod cynllunio mwynau perthnasol, o fewn tair wythnos ar ôl cael datganiad amgylcheddol drafft, gydymffurfio â pharagraff (3) a rhoi hysbysiad ysgrifenedig yn unol ag un o'r canlynol—
(a)paragraff (6);
(b)paragraff (15); neu
(c)paragraff (21).
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru, o fewn pa bynnag gyfnod ag y bo'n rhesymol ofynnol ganddynt ar ôl cael datganiad amgylcheddol drafft, gydymffurfio â pharagraff (3) a rhoi hysbysiad ysgrifenedig yn unol ag un o'r canlynol—
(a)paragraff (6);
(b)paragraff (15); neu
(c)paragraff (21).
(3) Ar ôl cael datganiad amgylcheddol drafft rhaid i awdurdod cynllunio mwynau perthnasol edrych i weld a yw'n ymddangos bod cynnwys a rhychwant yr wybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn y datganiad amgylcheddol drafft yn gyson â'r penderfyniad cwmpasu perthnasol.
(4) Ar ôl cael datganiad amgylcheddol drafft mewn cysylltiad â chais AEA a atgyfeiriwyd at Weinidogion Cymru, neu yr apeliwyd yn ei gylch i Weinidogion Cymru cyn y dyddiad y daeth y Rheoliadau hyn i rym, rhaid i Weinidogion Cymru edrych i weld a yw'n ymddangos bod cynnwys a rhychwant yr wybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn y datganiad amgylcheddol drafft yn gyson â'r cyfarwyddyd cwmpasu a hysbyswyd o dan reoliad 14(13).
(5) Ar ôl cael datganiad amgylcheddol drafft mewn cysylltiad â chais AEA a atgyfeiriwyd at Weinidogion Cymru ar neu ar ôl y dyddiad y daeth y Rheoliadau hyn i rym, rhaid i Weinidogion Cymru edrych i weld a yw'n ymddangos bod cynnwys a rhychwant yr wybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn y datganiad amgylcheddol drafft yn gyson â'r penderfyniad cwmpasu perthnasol.
(6) Os yw'n ymddangos i awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru bod cynnwys neu rychwant yr wybodaeth sydd wedi ei chynnwys mewn datganiad amgylcheddol drafft a gyflwynwyd iddo neu iddynt yn sylweddol anghyson â'r penderfyniad cwmpasu perthnasol, rhaid i'r awdurdod neu Weinidogion Cymru roi hysbysiad ysgrifenedig i'r ceisydd neu'r apelydd, neu i weithredwr perthnasol—
(a)sy'n nodi'n glir ac yn fanwl-gywir yr anghysondeb sylweddol o dan sylw a'r wybodaeth sy'n angenrheidiol i gywiro'r anghysondeb (“gwybodaeth benodedig”); a
(b)o'r materion a nodir ym mharagraff 12 o Atodlen 3.
(7) At ddibenion paragraff (6), gweithredwr perthnasol yw unrhyw weithredwr yr ystyria'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru yn rhesymol ei fod, neu y dylai fod, yn alluog i ddarparu gwybodaeth benodedig.
(8) Rhaid i wybodaeth benodedig a ddynodir yn unol â hysbysiad ysgrifenedig a roddir gan awdurdod cynllunio mwynau perthnasol o dan baragraff (6) gael ei darparu i'r awdurdod hwnnw o fewn tair wythnos o ddyddiad yr hysbysiad a roddwyd o dan y paragraff hwnnw, neu ba bynnag gyfnod hwy a gytunir mewn ysgrifen gyda'r awdurdod (“y cyfnod perthnasol”).
(9) Rhaid i wybodaeth benodedig a ddynodir yn unol â hysbysiad ysgrifenedig a roddir gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (6) gael ei darparu i Weinidogion Cymru o fewn tair wythnos o ddyddiad yr hysbysiad a roddwyd o dan y paragraff hwnnw, neu ba bynnag gyfnod hwy a gytunir mewn ysgrifen gyda Gweinidogion Cymru (“y cyfnod perthnasol”).
(10) Os na ddarperir gwybodaeth benodedig a ddynodir yn unol â hysbysiad ysgrifenedig o dan baragraff (6) o fewn y cyfnod perthnasol a grybwyllir ym mharagraff (8) neu, yn ôl y digwydd, ym mharagraff (9), bydd y caniatâd y mae'r cais AEA yn ymwneud ag ef yn peidio ag awdurdodi unrhyw ddatblygiad mwynau o ddiwedd y cyfnod perthnasol sydd dan sylw ymlaen.
(11) Caiff awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru dynnu'n ôl hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (6) ar unrhyw bryd cyn y daw'r cyfnod perthnasol y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (8) neu, yn ôl y digwydd, paragraff (9) i ben.
(12) Os bodlonir awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru bod datganiad amgylcheddol drafft yn ymddangos yn cynnwys yr holl wybodaeth a bennir yn y penderfyniad cwmpasu perthnasol, rhaid i'r awdurdod neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd) ystyried a yw'r datganiad amgylcheddol drafft wedi ei gyflwyno mewn ffurf briodol.
(13) Pan fo awdurdod cynllunio mwynau perthnasol wedi ei fodloni fel a grybwyllir ym mharagraff (12) o ganlyniad i wybodaeth benodedig a gafodd yn unol â hysbysiad ysgrifenedig a roddwyd o dan baragraff (6), rhaid i'r awdurdod, o fewn tair wythnos ar ôl cael yr wybodaeth benodedig, gydymffurfio â pharagraff (12) a hysbysu'r ceisydd mewn ysgrifen yn unol ag un o'r canlynol—
(a)paragraff (15); neu
(b)paragraff (21).
(14) Pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni fel a grybwyllir ym mharagraff (12) o ganlyniad i wybodaeth benodedig a gawsant yn unol â hysbysiad ysgrifenedig a roddwyd o dan baragraff (6), rhaid i Weinidogion Cymru, o fewn pa bynnag gyfnod ag y bo'n rhesymol ofynnol ganddynt ar ôl cael yr wybodaeth benodedig, gydymffurfio â pharagraff (12) a hysbysu'r ceisydd neu'r apelydd mewn ysgrifen yn unol ag un o'r canlynol—
(a)paragraff (15); neu
(b)paragraff (21).
(15) Os yw awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru o'r farn, yn rhesymol, bod datganiad amgylcheddol drafft wedi ei gyflwyno mewn ffurf amhriodol, rhaid i'r awdurdod neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd), mewn ysgrifen, hysbysu'r ceisydd neu'r apelydd o'r canlynol—
(a)y newidiadau y mae'n ofynnol eu gwneud yn y ffurf y cyflwynir y datganiad amgylcheddol drafft; a
(b)y materion a nodir ym mharagraff 13 o Atodlen 3.
(16) Pan yw'n ofynnol gwneud newidiadau yn ffurf datganiad amgylcheddol drafft yn unol â hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (15), rhaid cyflwyno datganiad amgylcheddol drafft pellach sy'n cynnwys y newidiadau hynny yn unol â'r rheoliad hwn, o fewn tair wythnos o ddyddiad yr hysbysiad a roddwyd o dan y paragraff hwnnw neu ba bynnag gyfnod hwy a gytunir mewn ysgrifen gyda'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru, yn ôl y digwydd (“y cyfnod perthnasol”).
(17) Os na chyflwynir datganiad amgylcheddol drafft pellach sy'n cynnwys y newidiadau sy'n ofynnol yn unol â hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (15) o fewn y cyfnod perthnasol a grybwyllir ym mharagraff (16), bydd y caniatâd y mae'r cais AEA yn ymwneud ag ef yn peidio ag awdurdodi unrhyw ddatblygiad mwynau o ddiwedd y cyfnod perthnasol hwnnw ymlaen.
(18) Caiff awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru dynnu'n ôl hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (15) ar unrhyw bryd cyn y daw'r cyfnod perthnasol y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (16) i ben.
(19) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo cais AEA wedi ei atgyfeirio at Weinidogion Cymru i'w benderfynu—
(a)ar neu ar ôl y dyddiad y rhoddwyd hysbysiad ysgrifenedig o dan baragraff (6) neu (15); a
(b)cyn bo'r wybodaeth benodedig wedi ei chyflwyno neu'r datganiad amgylcheddol drafft pellach wedi ei gyflwyno, yn ôl y digwydd.
(20) Pan fo paragraff (19) yn gymwys, rhaid cyflwyno'r wybodaeth benodedig neu, yn ôl y digwydd, y datganiad amgylcheddol drafft pellach, i Weinidogion Cymru o fewn y cyfnod perthnasol a grybwyllir ym mharagraff (8) neu, yn ôl y digwydd, paragraff (16).
(21) Os bodlonir awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru bod datganiad amgylcheddol drafft a gyflwynir iddo neu iddynt—
(a)yn ymddangos yn cynnwys yr holl wybodaeth a bennwyd yn y penderfyniad cwmpasu perthnasol; a
(b)nad yw wedi ei gyflwyno mewn ffurf amhriodol,
rhaid i'r awdurdod neu, yn ôl y digwydd, Weinidogion Cymru roi i'r ceisydd neu'r apelydd yr hysbysiad ysgrifenedig a bennir ym mharagraff (24).
(22) Pan fo awdurdod cynllunio mwynau perthnasol wedi ei fodloni fel a grybwyllir ym mharagraff (21), o ganlyniad i ddatganiad amgylcheddol drafft pellach a geir yn unol â hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (15), rhaid i'r awdurdod, o fewn tair wythnos ar ôl cael y datganiad amgylcheddol drafft pellach, gydymffurfio â pharagraff (21).
(23) Pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni fel a grybwyllir ym mharagraff (21), o ganlyniad i ddatganiad amgylcheddol drafft pellach a geir yn unol â hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (15), rhaid i Weinidogion Cymru, o fewn pa bynnag gyfnod ag y bo'n rhesymol ofynnol ganddynt ar ôl cael y datganiad amgylcheddol drafft pellach, gydymffurfio â pharagraff (21).
(24) Rhaid i'r hysbysiad ysgrifenedig y cyfeirir ato ym mharagraff (21)—
(a)cyfarwyddo'r ceisydd neu'r apelydd i gydymffurfio â rheoliad 20;
(b)pennu'r nifer o gopïau o'r datganiad amgylcheddol sy'n ofynnol at ddibenion y dyletswyddau a osodir ar yr awdurdod neu, yn ôl y digwydd, ar Weinidogion Cymru gan reoliad 22;
(c)pan fo'r awdurdod neu Weinidogion Cymru yn ymwybodol bod y cais yn effeithio, neu'n debygol o effeithio, ar unrhyw berson penodol, neu fod gan y person fuddiant yn y cais a'i fod yn annhebygol o ddod i wybod am y cais drwy gyfrwng hysbysiad ar y safle neu hysbyseb leol, enwi unrhyw berson o'r fath;
(ch)hysbysu'r ceisydd neu'r apelydd o'r materion a nodir ym mharagraff 14 o Atodlen 3.
(25) Nid yw hysbysiad ysgrifenedig a roddir yn unol â pharagraff (21) yn rhwystro'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol na Gweinidogion Cymru rhag rhoi hysbysiad ysgrifenedig o dan reoliad 26 (gwybodaeth bellach) neu 27 (tystiolaeth).
19.—(1) Rhaid i geisydd neu apelydd a hysbysir yn unol â rheoliad 18(21) gydymffurfio â rheoliad 21 o fewn chwe wythnos o ddyddiad yr hysbysiad a roddir o dan reoliad 18(21), neu ba bynnag gyfnod hwy a gytunir mewn ysgrifen gyda'r awdurdod neu Weinidogion Cymru, yn ôl y digwydd (“y cyfnod perthnasol”).
(2) Os nad yw ceisydd neu apelydd a hysbysir yn unol â rheoliad 18(21) yn cydymffurfio â rheoliad 21 o fewn y cyfnod perthnasol, bydd y caniatâd y mae'r cais AEA yn ymwneud ag ef yn peidio ag awdurdodi unrhyw ddatblygiad mwynau o ddiwedd y cyfnod perthnasol hwnnw ymlaen.
20.—(1) Rhaid i'r ceisydd neu'r apelydd gyhoeddi, mewn papur newydd lleol sy'n cylchredeg yn y gymdogaeth y lleolir y tir ynddi, hysbysiad sy'n datgan—
(a)enw'r person a wnaeth gais am benderfynu, neu a apeliodd mewn perthynas â phenderfynu yr amodau y bydd y caniatâd cynllunio yn ddarostyngedig iddynt, y darpariaethau perthnasol o Ddeddf 1991 neu 1995 y gwneir y cais yn unol â hwy ac enw a chyfeiriad yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol;
(b)y dyddiad y gwnaed y cais, a'r dyddiad, os digwyddodd hynny, y'i hatgyfeiriwyd at Weinidogion Cymru i'w benderfynu neu y daeth yn destun apêl iddynt;
(c)cyfeiriad neu leoliad a natur y datblygiad arfaethedig;
(ch)bod copi o'r cais a chopïau o unrhyw gynllun a dogfennau eraill a gyflwynwyd ynghyd ag ef, gan gynnwys copi o'r datganiad amgylcheddol, ar gael i'w harchwilio gan aelodau'r cyhoedd yn ystod unrhyw oriau rhesymol;
(d)cyfeiriad o fewn y gymdogaeth y lleolir y tir ynddi, lle y gellir archwilio'r dogfennau hynny, a'r dyddiad olaf pan fyddant ar gael i'w harchwilio (sef dyddiad na fydd yn gynharach nag 21 diwrnod ar ôl y dyddiad pan gyhoeddir yr hysbysiad);
(dd)cyfeiriad o fewn y gymdogaeth y lleolir y tir ynddi (pa un ai'r un cyfeiriad ai peidio â hwnnw a roddir o dan is–baragraff (d)), lle y gellir cael copïau o'r datganiad;
(e)y gellir cael copïau yno cyhyd â bo'r stoc yn parhau;
(f)os oes bwriad i godi tâl am gopi, y swm a godir;
(ff)os bu gwybodaeth bellach neu dystiolaeth yn destun hysbysiad ysgrifenedig a roddwyd o dan reoliad 28(8), y caiff aelodau'r cyhoedd archwilio copi o'r wybodaeth neu'r dystiolaeth honno yn ystod unrhyw oriau rhesymol;
(g)os bu gwybodaeth berthnasol arall yn destun cyhoeddusrwydd o dan reoliad 37, y caiff aelodau'r cyhoedd archwilio copi o'r wybodaeth berthnasol arall honno yn ystod unrhyw oriau rhesymol;
(ng)cyfeiriad o fewn y gymdogaeth y lleolir y tir ynddi, lle y gellir archwilio copïau o unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth a grybwyllir yn is–baragraffau (ff) ac (g);
(h)y dylai unrhyw berson sy'n dymuno gwneud sylwadau ynglŷn â'r cais eu cyflwyno mewn ysgrifen i'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd), cyn diwedd 21 o ddiwrnodau o ddyddiad yr hysbysiad; ac
(i)y cyfeiriad y dylid anfon sylwadau iddo.
(2) Pan fo'r ceisydd neu'r apelydd wedi ei hysbysu ynghylch unrhyw berson penodol yr effeithir arno, neu y mae'n debygol yr effeithir arno, neu sydd â buddiant yn y cais, rhaid i'r ceisydd neu'r apelydd gyflwyno hysbysiad i bob person yr hysbyswyd y ceisydd yn ei gylch felly; a rhaid i'r hysbysiad gynnwys yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (1), ac eithrio rhaid i'r dyddiad a bennir fel y dyddiad olaf y bydd dogfennau ar gael i'w harchwilio beidio â bod yn gynharach nag 21 diwrnod ar ôl y dyddiad pan gyflwynir yr hysbysiad gyntaf.
(3) Rhaid i'r ceisydd neu'r apelydd, ac eithrio pan nad oes gan y ceisydd neu'r apelydd y cyfryw hawliau a fyddai'n ei alluogi i wneud hynny ac nad oedd modd iddo, yn rhesymol, gaffael yr hawliau hynny, arddangos hysbysiad ar y tir, a fydd yn cynnwys yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (1), ac eithrio rhaid i'r dyddiad a bennir fel y dyddiad olaf y bydd dogfennau ar gael i'w harchwilio beidio â bod yn gynharach nag 21 diwrnod ar ôl y dyddiad pan arddangosir yr hysbysiad gyntaf.
(4) Rhaid i'r hysbysiad a grybwyllir ym mharagraff (3)—
(a)cael ei adael yn ei le am ddim llai na saith niwrnod yn ystod y 28 diwrnod yn union cyn y dyddiad y cyflwynir y dystysgrif sy'n ofynnol yn unol â rheoliad 21(2)(b); a
(b)cael ei gysylltu'n gadarn wrth ryw wrthrych ar y tir a'i leoli a'i arddangos mewn modd sy'n galluogi aelodau'r cyhoedd i'w weld yn rhwydd a'i ddarllen heb fynd ar y tir.
21.—(1) Rhaid i geisydd neu apelydd a hysbysir yn unol â rheoliad 18(21) gyflwyno—
(a)os rhoddwyd yr hysbysiad gan awdurdod cynllunio mwynau perthnasol, i'r awdurdod hwnnw;
(b)os rhoddwyd yr hysbysiad gan awdurdod cynllunio mwynau perthnasol, a chyn cyflwyno'r dogfennau sy'n ofynnol o dan y rheoliad hwn, atgyfeiriwyd y cais AEA at Weinidogion Cymru i'w benderfynu, i Weinidogion Cymru; neu
(c)os rhoddwyd yr hysbysiad gan Weinidogion Cymru, i Weinidogion Cymru,
y dogfennau a bennir ym mharagraff (2).
(2) Y dogfennau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—
(a)copi o'r hysbysiad a grybwyllir yn rheoliad 20(1) wedi ei ardystio gan neu ar ran y ceisydd neu'r apelydd fel hysbysiad a gyhoeddwyd mewn papur newydd a enwyd ar ddyddiad a bennir yn y dystysgrif;
(b)tystysgrif gan neu ar ran y ceisydd neu'r apelydd sy'n datgan naill ai—
(i)bod y ceisydd neu'r apelydd wedi arddangos hysbysiad ar y tir er mwyn cydymffurfio â rheoliad 20(3) a (4), y dyddiad yr arddangoswyd yr hysbysiad felly, ac naill ai bod yr hysbysiad wedi ei adael yn ei le am ddim llai na saith niwrnod yn ystod y 28 diwrnod yn union cyn y dyddiad y cyflwynwyd y dystysgrif neu, heb fai na bwriad ar ran y ceisydd neu'r apelydd, y symudwyd, cuddiwyd neu difwynwyd yr hysbysiad cyn i'r saith niwrnod ddod i ben a bod y ceisydd neu'r apelydd wedi cymryd camau rhesymol i'w ddiogelu neu ei amnewid, gan nodi'r camau a gymerwyd; neu
(ii)nad oedd modd i'r ceisydd neu'r apelydd gydymffurfio â rheoliad 20(3) a (4) oherwydd nad oedd gan y ceisydd neu'r apelydd yr hawliau angenrheidiol i wneud hynny; bod y ceisydd neu'r apelydd wedi cymryd pa bynnag gamau rhesymol oedd yn agored i'r ceisydd neu'r apelydd er mwyn caffael yr hawliau i wneud hynny; ac na lwyddodd i wneud hynny, gan nodi'r camau a gymerwyd; ac
(c)pan fo'r ceisydd neu'r apelydd wedi ei hysbysu ynghylch unrhyw berson penodol y mae'n debygol yr effeithir arno gan y cais, neu sydd â buddiant yn y cais, copi o'r hysbysiad a grybwyllir yn rheoliad 20(2), wedi ei ardystio gan neu ar ran y ceisydd neu'r apelydd fel hysbysiad a roddwyd i'r person hwnnw ar ddyddiad a bennir yn y dystysgrif.
(3) Os yw unrhyw berson yn dyroddi tystysgrif sy'n honni cydymffurfio â gofynion paragraff (2)(b) ac yn cynnwys datganiad y gŵyr y person hwnnw ei fod yn ffug neu gamarweiniol mewn unrhyw fanylyn perthnasol, neu'n dyroddi yn ddi-hid tystysgrif sy'n honni cydymffurfio â'r gofynion hynny ac yn cynnwys datganiad sy'n ffug neu gamarweiniol mewn unrhyw fanylyn perthnasol, mae'r person hwnnw yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy na fydd yn fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.
22.—(1) Rhaid i geisydd neu apelydd a hysbysir o dan reoliad 18(21), o fewn saith niwrnod o ddyddiad yr hysbysiad hwnnw, ddarparu i'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu i Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd), pa bynnag nifer o gopïau o'r datganiad amgylcheddol a bennir yn yr hysbysiad o dan y rheoliad hwnnw.
(2) Rhaid i awdurdod cynllunio mwynau perthnasol, o fewn 14 diwrnod o ddyddiad hysbysiad a roddir ganddo o dan reoliad 18(21)—
(a)anfon at Weinidogion Cymru ddau gopi o'r datganiad amgylcheddol y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef, ynghyd â chopi o'r cais perthnasol ac o unrhyw ddogfennau a gyflwynwyd ynghyd â'r cais;
(b)anfon copi at bob un o'r cyrff ymgynghori o'r datganiad amgylcheddol y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef; ac
(c)rhoi i bob corff ymgynghori hysbysiad ysgrifenedig sy'n datgan bod rhaid i unrhyw sylwadau y bydd y corff yn dymuno'u gwneud wrth ymateb i'r ymgynghoriad ynglŷn â'r cais gael eu gwneud mewn ysgrifen i'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol o fewn 28 diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad (neu ba bynnag gyfnod hwy a gytunir rhwng yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol a'r corff ymgynghori).
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl iddynt roi hysbysiad o dan reoliad 18(21)—
(a)anfon copi at bob un o'r cyrff ymgynghori o'r datganiad amgylcheddol y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef;
(b)rhoi i bob corff ymgynghori hysbysiad ysgrifenedig sy'n datgan bod rhaid i unrhyw sylwadau y bydd y corff yn dymuno'u gwneud wrth ymateb i'r ymgynghoriad ynglŷn â'r cais gael eu gwneud mewn ysgrifen i Weinidogion Cymru o fewn 28 diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad (neu ba bynnag gyfnod hwy a gytunir rhwng Gweinidogion Cymru a'r corff ymgynghori); ac
(c)anfon copi o'r datganiad amgylcheddol y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef at yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol.
(4) Pan fo awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig o dan reoliad 18(21), rhaid i'r awdurdod neu, yn ôl y digwydd, Gweinidogion Cymru, ymatal rhag ystyried y cais neu'r apêl o dan sylw hyd nes y daw'r cyfnod perthnasol sy'n gymwys yn unol â rheoliad 19(1) i ben; a rhaid iddo neu rhaid iddynt beidio â phenderfynu'r cais neu'r apêl hyd nes y daw yr 21 diwrnod, sy'n dilyn y dyddiad y bydd y cyfnod perthnasol hwnnw'n gorffen, i ben.
23. Rhaid i geisydd neu apelydd y rhoddir hysbysiad ysgrifenedig iddo o dan reoliad 18(21) sicrhau bod nifer rhesymol o gopïau o'r datganiad amgylcheddol ar gael yn y cyfeiriad a enwir yn yr hysbysiadau a gyhoeddir neu a arddangosir yn unol â rheoliad 20 fel y cyfeiriad lle y gellir cael copïau o'r fath.
24. Pan fo cais AEA wedi ei atgyfeirio at, neu'n destun apêl i Weinidogion Cymru ar neu ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, caiff Gweinidogion Cymru, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig, wneud yn ofynnol bod y ceisydd yn darparu pa bynnag nifer o gopïau o'r datganiad amgylcheddol ag y tybiant sydd eu hangen, o fewn pa bynnag gyfnod a bennir yn yr hysbysiad.
25. Ceir codi tâl rhesymol, sy'n adlewyrchu'r costau argraffu a dosbarthu, ar aelod o'r cyhoedd am gopi o ddatganiad amgylcheddol a roddir ar gael yn unol â rheoliad 23.
26.—(1) Os yw awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru o'r farn, yn rhesymol, bod gwybodaeth bellach yn ofynnol er mwyn ystyried cais AEA yn briodol neu, yn achos Gweinidogion Cymru, er mwyn ystyried apêl mewn perthynas â chais AEA yn briodol, a naill ai—
(a)y ceisydd neu'r apelydd yn alluog (neu dylai fod yn alluog) i ddarparu'r cyfryw wybodaeth, neu
(b)gweithredwr yn alluog (neu dylai fod yn alluog) i ddarparu'r cyfryw wybodaeth,
rhaid i'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru hysbysu'r ceisydd, yr apelydd neu, yn ôl y digwydd, y gweithredwr, mewn ysgrifen, o'r wybodaeth bellach sy'n ofynnol.
(2) Rhaid i hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (1) ddatgan yn eglur a manwl pa wybodaeth sy'n ofynnol.
(3) Rhaid cyflwyno'r hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (1) ynghyd â hysbysiad ysgrifenedig o'r materion a nodir ym mharagraff 15 o Atodlen 3.
(4) Rhaid darparu gwybodaeth bellach sy'n ofynnol yn unol â hysbysiad o dan baragraff (1) o fewn chwe wythnos o ddyddiad yr hysbysiad, neu ba bynnag gyfnod hwy a gytunir gyda'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd) (“y cyfnod perthnasol”).
(5) Os na ddarperir gwybodaeth bellach o fewn y cyfnod perthnasol, bydd y caniatâd cynllunio y mae'r cais AEA neu'r apêl yn ymwneud ag ef yn peidio ag awdurdodi unrhyw ddatblygiad mwynau o ddiwedd y cyfnod perthnasol ymlaen.
(6) Nid yw hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (1) yn rhwystro awdurdod cynllunio mwynau perthnasol na Gweinidogion Cymru rhag rhoi hysbysiad ysgrifenedig pellach o dan y paragraff hwnnw neu o dan reoliad 27 (tystiolaeth).
(7) Caiff awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru dynnu'n ôl hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (1) ar unrhyw bryd cyn y daw'r cyfnod perthnasol i ben.
27.—(1) Caiff awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru, drwy hysbysiad ysgrifenedig, wneud yn ofynnol bod ceisydd neu apelydd yn dangos pa bynnag dystiolaeth y galwant yn rhesymol amdani er mwyn gwirio—
(a)unrhyw wybodaeth sgrinio;
(b)unrhyw wybodaeth gwmpasu;
(c)unrhyw wybodaeth mewn datganiad amgylcheddol;
(ch)unrhyw wybodaeth bellach;
(d)unrhyw wybodaeth arall,
a gyflwynwyd gan y ceisydd neu, yn ôl y digwydd, yr apelydd.
(2) Caiff awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru, drwy hysbysiad ysgrifenedig, ei gwneud yn ofynnol i weithredwr ddangos pa bynnag dystiolaeth y galwant yn rhesymol amdani er mwyn gwirio unrhyw wybodaeth sgrinio, gwybodaeth gwmpasu, gwybodaeth benodedig neu unrhyw wybodaeth bellach a gyflwynwyd gan y gweithredwr yn unol â hysbysiad ysgrifenedig a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn.
(3) Rhaid cyflwyno'r hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (1) neu (2) ynghyd â hysbysiad ysgrifenedig o'r materion a nodir ym mharagraff 16 o Atodlen 3.
(4) Rhaid darparu tystiolaeth sy'n ofynnol yn unol â hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (1) neu (2) o fewn cyfnod o chwe wythnos sy'n cychwyn ar ddyddiad yr hysbysiad, neu ba bynnag gyfnod hwy a gytunir mewn ysgrifen gyda'r awdurdod neu Weinidogion Cymru (“y cyfnod perthnasol”).
(5) Os na ddarperir tystiolaeth sy'n ofynnol yn unol â hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (1) neu (2) o fewn y cyfnod perthnasol, bydd y caniatâd cynllunio y mae'r cais AEA yn ymwneud ag ef yn peidio ag awdurdodi unrhyw ddatblygiad mwynau o ddiwedd y cyfnod perthnasol ymlaen.
(6) Nid yw hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (1) neu (2) yn rhwystro awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru rhag rhoi hysbysiad ysgrifenedig pellach o dan y paragraffau hynny neu o dan reoliad 26 (gwybodaeth bellach).
(7) Caiff awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru dynnu'n ôl hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (1) neu (2) ar unrhyw bryd cyn y daw'r cyfnod perthnasol i ben.
28.—(1) Pan fo awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru (“y derbynnydd”) yn cael gwybodaeth bellach neu dystiolaeth, rhaid i'r derbynnydd gydymffurfio â pharagraff (4) a hysbysu'r ceisydd, yr apelydd neu, yn ôl y digwydd, y gweithredwr mewn ysgrifen yn unol â naill ai—
(a)paragraff (5); neu
(b)paragraff (8).
(2) Pan fo'r derbynnydd yn awdurdod cynllunio mwynau perthnasol, rhaid i'r derbynnydd gydymffurfio â pharagraff (1) o fewn tair wythnos ar ôl cael yr wybodaeth bellach neu'r dystiolaeth dan sylw.
Ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff (10).
(3) Os y derbynnydd yw Gweinidogion Cymru, rhaid i'r derbynnydd gydymffurfio â pharagraff (1) cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael yr wybodaeth bellach neu'r dystiolaeth.
Ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff (12).
(4) Rhaid i'r derbynnydd ystyried a yw'r wybodaeth bellach neu'r dystiolaeth wedi ei chyflwyno mewn ffurf amhriodol.
(5) Os yw derbynnydd o'r farn, yn rhesymol, bod yr wybodaeth bellach neu'r dystiolaeth wedi ei chyflwyno mewn ffurf amhriodol, rhaid i'r derbynnydd hysbysu'r ceisydd, yr apelydd neu, yn ôl y digwydd, y gweithredwr mewn ysgrifen, o'r canlynol—
(a)y newidiadau y mae'n ofynnol eu gwneud yn y ffurf y cyflwynir yr wybodaeth bellach neu'r dystiolaeth; a
(b)y materion a nodir ym mharagraff 17 o Atodlen 3.
(6) Pan yw'n ofynnol gwneud newidiadau yn y ffurf y cyflwynir gwybodaeth bellach neu dystiolaeth yn unol â hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (5), rhaid ailgyflwyno'r wybodaeth bellach neu'r dystiolaeth mewn ffurf sy'n cynnwys y newidiadau a bennir yn yr hysbysiad, o fewn tair wythnos o ddyddiad yr hysbysiad a roddwyd o dan y paragraff hwnnw neu ba bynnag gyfnod hwy a gytunir mewn ysgrifen gyda'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru (“y cyfnod perthnasol”).
(7) Os nad ailgyflwynir yr wybodaeth bellach neu'r dystiolaeth mewn ffurf sy'n cynnwys y newidiadau a bennwyd yn unol â hysbysiad ysgrifenedig a roddwyd o dan baragraff (5), o fewn y cyfnod perthnasol, bydd y caniatâd y mae'r cais AEA yn ymwneud ag ef yn peidio ag awdurdodi unrhyw ddatblygiad mwynau o ddiwedd y cyfnod perthnasol ymlaen.
(8) Os bodlonir y derbynnydd nad yw'r wybodaeth bellach neu'r dystiolaeth wedi ei chyflwyno mewn ffurf amhriodol, rhaid i'r derbynnydd, mewn ysgrifen—
(a)cyfarwyddo'r ceisydd, yr apelydd neu, yn ôl y digwydd, y gweithredwr i gydymffurfio â rheoliad 30;
(b)pennu'r nifer o gopïau o'r wybodaeth bellach neu'r dystiolaeth sy'n ofynnol at ddibenion dyletswyddau'r derbynnydd o dan reoliad 32;
(c)pan fo'r derbynnydd yn ymwybodol bod y cais yn effeithio, neu'n debygol o effeithio, ar unrhyw berson penodol, neu fod gan y person fuddiant yn y cais a'i fod yn annhebygol o ddod i wybod am y cais drwy gyfrwng hysbysiad ar y safle neu hysbyseb leol, enwi unrhyw berson o'r fath;
(ch)hysbysu'r ceisydd, yr apelydd neu, yn ôl y digwydd, y gweithredwr, o'r materion a nodir ym mharagraff 18 o Atodlen 3.
(9) Pan fo'r derbynnydd yn awdurdod cynllunio mwynau perthnasol a'r derbynnydd wedi ei fodloni, fel a grybwyllir ym mharagraff (8) o ganlyniad i wybodaeth bellach neu dystiolaeth a ailgyflwynwyd yn unol â hysbysiad ysgrifenedig a roddwyd o dan baragraff (5), rhaid i'r derbynnydd gydymffurfio â pharagraff (8) o fewn tair wythnos ar ôl cael yr wybodaeth bellach neu'r dystiolaeth dan sylw a ailgyflwynwyd.
Ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff (10).
(10) Pan fo'r derbynnydd yn awdurdod cynllunio mwynau perthnasol a'r wybodaeth bellach neu'r dystiolaeth a gafwyd ganddo yn ymwneud â chais nad oes hysbysiad ysgrifenedig yn unol â rheoliad 18(21) eto wedi ei roi ynglŷn ag ef, nid oes raid i'r derbynnydd gydymffurfio â pharagraff (8) o fewn tair wythnos ar ôl derbyn yr wybodaeth bellach neu'r dystiolaeth dan sylw neu, yn ôl y digwydd, o fewn tair wythnos ar ôl derbyn yr wybodaeth bellach neu'r dystiolaeth ail-gyflwynedig dan sylw, ond rhaid i'r derbynnydd gydymffurfio â'r paragraff hwnnw o fewn 14 diwrnod o'r dyddiad y rhoddir hysbysiad ysgrifenedig yn unol â rheoliad 18(21).
(11) Os y derbynnydd yw Gweinidogion Cymru a'r derbynnydd wedi ei fodloni, fel a grybwyllir ym mharagraff (8) o ganlyniad i wybodaeth bellach neu dystiolaeth a ailgyflwynwyd yn unol â hysbysiad ysgrifenedig a roddwyd o dan baragraff (5), rhaid i'r derbynnydd gydymffurfio â pharagraff (8) cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael yr wybodaeth bellach neu'r dystiolaeth dan sylw.
Ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff (12).
(12) Os y derbynnydd yw Gweinidogion Cymru a'r wybodaeth bellach neu'r dystiolaeth a gafwyd ganddynt yn ymwneud â chais neu apêl nad oes hysbysiad ysgrifenedig yn unol â rheoliad 18(21) eto wedi ei roi ynglŷn ag ef, nid oes raid i'r derbynnydd gydymffurfio â pharagraff (8) cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl derbyn yr wybodaeth bellach neu'r dystiolaeth dan sylw neu, yn ôl y digwydd, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl derbyn yr wybodaeth bellach neu'r dystiolaeth ail-gyflwynedig dan sylw, ond rhaid i'r derbynnydd gydymffurfio â'r paragraff hwnnw cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl y dyddiad y rhoddir hysbysiad ysgrifenedig yn unol â rheoliad 18(21).
(13) Nid yw hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan y rheoliad hwn yn rhwystro awdurdod cynllunio mwynau perthnasol na Gweinidogion Cymru rhag rhoi hysbysiad ysgrifenedig o dan reoliad 26 (gwybodaeth bellach) neu 27 (tystiolaeth).
(14) Caiff awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru dynnu'n ôl hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (5) ar unrhyw bryd cyn y daw'r cyfnod perthnasol i ben.
29.—(1) Rhaid i geisydd, apelydd neu weithredwr a hysbysir o dan reoliad 28(8) gydymffurfio â rheoliad 30 o fewn chwe wythnos i ddyddiad yr hysbysiad hwnnw, neu ba bynnag gyfnod hwy a gytunir mewn ysgrifen gyda'r awdurdod neu, yn ôl y digwydd, gyda Gweinidogion Cymru (“y cyfnod perthnasol”).
(2) Os nad yw ceisydd, apelydd neu weithredwr a hysbyswyd o dan reoliad 28(8) yn cydymffurfio â rheoliad 30 o fewn y cyfnod perthnasol, bydd y caniatâd y mae'r cais AEA yn ymwneud ag ef yn peidio ag awdurdodi unrhyw ddatblygiad mwynau o ddiwedd y cyfnod perthnasol ymlaen.
30.—(1) Rhaid i'r ceisydd, apelydd neu'r gweithredwr gyhoeddi mewn papur newydd lleol sy'n cylchredeg yn y gymdogaeth y lleolir y tir ynddi, hysbysiad sy'n datgan—
(a)enw'r person a wnaeth gais am benderfynu, neu a apeliodd mewn perthynas â phenderfynu yr amodau y bydd y caniatâd cynllunio yn ddarostyngedig iddynt, y darpariaethau perthnasol o Ddeddf 1991 neu 1995 y gwneir y cais yn unol â hwy ac enw a chyfeiriad yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol;
(b)y dyddiad y gwnaed y cais, a'r dyddiad, os digwyddodd hynny, y'i hatgyfeiriwyd at Weinidogion Cymru i'w benderfynu neu y daeth yn destun apêl iddynt;
(c)cyfeiriad neu leoliad a natur y datblygiad arfaethedig;
(ch)bod copi o'r cais a chopïau o unrhyw gynllun a dogfennau eraill a gyflwynwyd ynghyd ag ef, ar gael i'w harchwilio gan aelodau'r cyhoedd yn ystod unrhyw oriau rhesymol;
(d)os bu datganiad amgylcheddol yn destun hysbysiad ysgrifenedig a roddwyd o dan reoliad 18(21), y caiff aelodau'r cyhoedd archwilio copi o'r datganiad amgylcheddol yn ystod unrhyw oriau rhesymol;
(dd)os bu gwybodaeth bellach neu dystiolaeth, yn gynharach, yn destun hysbysiad ysgrifenedig a roddwyd o dan reoliad 28(8), y caiff aelodau'r cyhoedd archwilio copi o'r wybodaeth neu'r dystiolaeth honno yn ystod unrhyw oriau rhesymol;
(e)os cyhoeddwyd gwybodaeth berthnasol arall yn gynharach yn unol â rheoliad 37, y caiff aelodau'r cyhoedd archwilio copi o'r wybodaeth berthnasol arall honno yn ystod unrhyw oriau rhesymol;
(f)bod gwybodaeth bellach neu dystiolaeth ar gael mewn cysylltiad â chais AEA;
(ff)y caiff aelodau'r cyhoedd archwilio copi o'r wybodaeth bellach neu'r dystiolaeth honno yn ystod unrhyw oriau rhesymol;
(g)cyfeiriad o fewn y gymdogaeth y lleolir y tir ynddi, lle y gellir archwilio'r wybodaeth bellach neu'r dystiolaeth honno a'r dyddiad olaf pan fydd ar gael i'w harchwilio (sef dyddiad na fydd yn gynharach nag 21 diwrnod ar ôl y dyddiad pan gyhoeddir yr hysbysiad);
(ng)cyfeiriad o fewn y gymdogaeth y lleolir y tir ynddi, lle y gellir archwilio copïau o'r cais, unrhyw ddatganiad amgylcheddol, unrhyw wybodaeth bellach neu dystiolaeth o'r math y cyfeirir ato yn is-baragraff (dd), neu unrhyw wybodaeth berthnasol arall o'r math y cyfeirir ato yn is-baragraff (e);
(h)cyfeiriad o fewn y gymdogaeth y lleolir y tir ynddi (pa un ai'r un cyfeiriad ai peidio â hwnnw a roddir yn unol ag is-baragraff (g)), lle y gellir cael copïau o'r wybodaeth bellach neu'r dystiolaeth honno;
(i)y gellir cael copïau yno cyhyd â bo'r stoc yn parhau;
(j)os oes bwriad i godi tâl am gopi, y swm a godir;
(l)y dylai unrhyw berson sy'n dymuno gwneud sylwadau ynglŷn â'r wybodaeth bellach neu'r dystiolaeth eu cyflwyno mewn ysgrifen i'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu, yn ôl y digwydd, i Weinidogion Cymru cyn diwedd 21 o ddiwrnodau o ddyddiad yr hysbysiad; ac
(ll)y cyfeiriad y dylid anfon sylwadau iddo.
(2) Pan fo'r ceisydd, apelydd neu'r gweithredwr wedi ei hysbysu ynghylch unrhyw berson penodol yr effeithir arno, neu y mae'n debygol yr effeithir arno, neu sydd â buddiant yn y cais AEA, rhaid i'r ceisydd, apelydd neu'r gweithredwr gyflwyno hysbysiad i bob person o'r fath; a rhaid i'r hysbysiad gynnwys yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (1), ac eithrio rhaid i'r dyddiad a bennir fel y dyddiad olaf y bydd y dogfennau ar gael i'w harchwilio beidio â bod yn gynharach nag 21 diwrnod ar ôl y dyddiad pan gyflwynir yr hysbysiad gyntaf.
(3) Rhaid i'r ceisydd, apelydd neu'r gweithredwr, ac eithrio pan nad oes ganddo'r cyfryw hawliau a fyddai'n ei alluogi i wneud hynny ac nad oedd modd iddo, yn rhesymol, gaffael yr hawliau hynny, arddangos hysbysiad ar y tir, a fydd yn cynnwys yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (1), ac eithrio rhaid i'r dyddiad a bennir fel y dyddiad olaf y bydd dogfennau ar gael i'w harchwilio beidio â bod yn gynharach nag 21 diwrnod ar ôl y dyddiad pan arddangosir yr hysbysiad gyntaf.
(4) Rhaid i'r hysbysiad a grybwyllir ym mharagraff (3)—
(a)cael ei adael yn ei le am ddim llai na saith niwrnod yn ystod y 28 diwrnod yn union cyn y dyddiad y cyflwynir y dystysgrif sy'n ofynnol yn unol â rheoliad 31(2)(b); a
(b)cael ei gysylltu'n gadarn wrth ryw wrthrych ar y tir a'i leoli a'i arddangos mewn modd sy'n galluogi aelodau'r cyhoedd i'w weld yn rhwydd a'i ddarllen heb fynd ar y tir.
31.—(1) Rhaid i geisydd neu weithredwr a hysbysir yn unol â rheoliad 28(8) gyflwyno—
(a)os rhoddwyd yr hysbysiad gan awdurdod cynllunio mwynau perthnasol, i'r awdurdod hwnnw;
(b)os rhoddwyd yr hysbysiad gan awdurdod cynllunio mwynau perthnasol, a chyn cyflwyno'r dogfennau sy'n ofynnol o dan y rheoliad hwn, atgyfeiriwyd y cais AEA at Weinidogion Cymru i'w benderfynu, i Weinidogion Cymru; neu
(c)os rhoddwyd yr hysbysiad gan Weinidogion Cymru, i Weinidogion Cymru,
y dogfennau a bennir ym mharagraff (2).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)copi o'r hysbysiad a grybwyllir yn rheoliad 30(1) wedi ei ardystio gan neu ar ran y ceisydd, apelydd neu'r gweithredwr fel hysbysiad a gyhoeddwyd mewn papur newydd a enwyd ar ddyddiad a bennir yn y dystysgrif;
(b)tystysgrif gan neu ar ran y ceisydd, apelydd neu'r gweithredwr sy'n datgan naill ai—
(i)bod y ceisydd, apelydd neu'r gweithredwr wedi arddangos hysbysiad ar y tir er mwyn cydymffurfio â'r rheoliad hwn, a'r dyddiad yr arddangoswyd yr hysbysiad felly, ac naill ai bod yr hysbysiad wedi ei adael yn ei le am ddim llai na saith niwrnod yn ystod y 28 diwrnod yn union cyn y dyddiad y cyflwynwyd y dystysgrif neu, heb fai na bwriad ar ran y ceisydd, apelydd neu'r gweithredwr, y symudwyd, cuddiwyd neu difwynwyd yr hysbysiad cyn i'r saith niwrnod ddod i ben a bod y ceisydd, apelydd neu'r gweithredwr wedi cymryd camau rhesymol i'w ddiogelu neu ei amnewid, gan nodi'r camau a gymerwyd; neu
(ii)nad oedd modd i'r ceisydd, apelydd neu'r gweithredwr gydymffurfio â rheoliad 30(3) a (4) oherwydd nad oedd gan y ceisydd, apelydd neu'r gweithredwr yr hawliau angenrheidiol i wneud hynny; bod y ceisydd, apelydd neu'r gweithredwr wedi cymryd pa bynnag gamau rhesymol oedd yn agored i'r ceisydd, apelydd neu'r gweithredwr er mwyn caffael yr hawliau hynny; ac na lwyddodd i wneud hynny, gan nodi'r camau a gymerwyd; ac
(c)pan fo'r ceisydd, apelydd neu'r gweithredwr wedi ei hysbysu ynghylch unrhyw berson penodol y mae'n debygol yr effeithir arno gan y cais, neu sydd â buddiant yn y cais, copi o'r hysbysiad a grybwyllir yn rheoliad 30(2), wedi ei ardystio gan neu ar ran y ceisydd, apelydd neu weithredwr fel hysbysiad a roddwyd ar ddyddiad a bennir yn y dystysgrif.
(3) Os yw unrhyw berson yn dyroddi tystysgrif sy'n honni cydymffurfio â gofynion paragraff (2)(b) ac yn cynnwys datganiad y gŵyr y person hwnnw ei fod yn ffug neu gamarweiniol mewn unrhyw fanylyn perthnasol, neu'n dyroddi yn ddi-hid dystysgrif sy'n honni cydymffurfio â'r gofynion hynny ac yn cynnwys datganiad sy'n ffug neu gamarweiniol mewn unrhyw fanylyn perthnasol, mae'r person hwnnw yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy na fydd yn fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.
32.—(1) Rhaid i geisydd, apelydd neu weithredwr a hysbysir o dan reoliad 28(8), o fewn saith niwrnod o ddyddiad yr hysbysiad hwnnw, ddarparu i'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu i Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd), pa bynnag nifer o gopïau o'r wybodaeth bellach neu'r dystiolaeth a bennir yn yr hysbysiad a roddir o dan y rheoliad hwnnw.
(2) Rhaid i awdurdod cynllunio mwynau perthnasol, o fewn 14 diwrnod o ddyddiad hysbysiad a roddir ganddo o dan reoliad 28(8)—
(a)anfon at Weinidogion Cymru ddau gopi o'r wybodaeth bellach neu'r dystiolaeth y mae'r hysbysiad yn ymwneud â hi;
(b)anfon copi at bob un o'r cyrff ymgynghori o'r wybodaeth bellach neu'r dystiolaeth y mae'r hysbysiad yn ymwneud â hi; ac
(c)rhoi i bob corff ymgynghori hysbysiad ysgrifenedig sy'n datgan y dylai unrhyw sylwadau y bydd y corff yn dymuno'u gwneud wrth ymateb i'r ymgynghoriad gael eu gwneud mewn ysgrifen i'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol o fewn 28 diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad (neu ba bynnag gyfnod hwy a gytunir rhwng yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol a'r corff ymgynghori).
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl dyddiad hysbysiad a roddir ganddynt o dan reoliad 28(8)—
(a)anfon copi at bob un o'r cyrff ymgynghori o'r wybodaeth bellach neu'r dystiolaeth y mae'r hysbysiad yn ymwneud â hi;
(b)rhoi i bob corff ymgynghori hysbysiad ysgrifenedig sy'n datgan y dylai unrhyw sylwadau y dymuna'r corff wneud wrth ymateb i'r ymgynghoriad gael eu gwneud mewn ysgrifen i Weinidogion Cymru o fewn 28 diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad (neu ba bynnag gyfnod hwy a gytunir rhwng Gweinidogion Cymru a'r corff ymgynghori); ac
(c)anfon copi o'r wybodaeth bellach neu'r dystiolaeth y mae'r hysbysiad yn ymwneud â hi at yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol.
(4) Pan fo awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig o dan reoliad 28(8), rhaid i'r awdurdod neu, yn ôl y digwydd, Gweinidogion Cymru, ymatal rhag ystyried y cais neu'r apêl o dan sylw hyd nes y daw'r cyfnod perthnasol sy'n gymwys yn unol â rheoliad 29(1) i ben; a rhaid iddo neu rhaid iddynt beidio â phenderfynu'r cais neu'r apêl hyd nes y daw yr 21 diwrnod sy'n dilyn y dyddiad y bydd y cyfnod perthnasol hwnnw'n gorffen, i ben.
33. Rhaid i geisydd, apelydd neu weithredwr y rhoddir hysbysiad ysgrifenedig iddo o dan reoliad 28(8) sicrhau bod nifer rhesymol o gopïau o'r wybodaeth bellach neu'r dystiolaeth ar gael yn y cyfeiriad a enwir yn yr hysbysiadau a gyhoeddir neu a arddangosir yn unol â rheoliad 30 fel y cyfeiriad lle y gellir cael copïau o'r fath.
34. Pan fo cais AEA wedi ei atgyfeirio at, neu'n destun apêl i Weinidogion Cymru ar neu ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, caiff Gweinidogion Cymru, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig, ei gwneud yn ofynnol i'r ceisydd, yr apelydd neu weithredwr ddarparu pa bynnag nifer o gopïau o unrhyw wybodaeth bellach neu dystiolaeth y tybiant sydd eu hangen, o fewn pa bynnag gyfnod a bennir yn yr hysbysiad.
35. Ceir codi tâl rhesymol, sy'n adlewyrchu'r costau argraffu a dosbarthu, ar aelod o'r cyhoedd am gopi a roddir ar gael yn unol â rheoliad 33 o wybodaeth bellach neu dystiolaeth.
36.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i wybodaeth o'r math canlynol—
(a)unrhyw wybodaeth arall;
(b)unrhyw adroddiad mewn cysylltiad â chais neu apêl AEA, a ddyroddir i awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu i Weinidogion Cymru ar neu ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym; ac
(c)unrhyw gyngor mewn cysylltiad â chais neu apêl AEA, a ddarperir i awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu i Weinidogion Cymru ar neu ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.
(2) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i wybodaeth o'r math canlynol—
(a)unrhyw adroddiad mewn cysylltiad â chais neu apêl AEA, a ddyroddir i awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu i Weinidogion Cymru cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym; a
(b)unrhyw gyngor mewn cysylltiad â chais neu apêl AEA, a ddarperir i awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu i Weinidogion Cymru cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.
(3) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw wybodaeth o'r math a grybwyllir ym mharagraff (1)(b) neu (c)—
(a)y mae Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn gymwys iddi, pe bai hawl gan y person sy'n dal yr wybodaeth i wrthod ei datgelu wrth ymateb i gais a wnaed yn unol â'r Rheoliadau hynny; neu
(b)a fyddai, mewn unrhyw achos arall, yn wybodaeth esempt pe gwneid cais am ei datgelu yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.
(4) Nid yw paragraff (2) yn gymwys i unrhyw wybodaeth o'r math a grybwyllir ynddo—
(a)y mae Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn gymwys iddi, pe bai hawl gan y person sy'n dal yr wybodaeth i wrthod ei datgelu wrth ymateb i gais a wnaed yn unol â'r Rheoliadau hynny; neu
(b)a fyddai, mewn unrhyw achos arall, yn wybodaeth esempt pe gwneid cais am ei datgelu yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.
(5) Pan fo awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru (“y derbynnydd”) yn cael neu'n dal unrhyw wybodaeth y mae paragraff (1) neu (2) yn gymwys iddi, a'r derbynnydd o'r farn bod yr wybodaeth yn ymwneud â phrif effeithiau'r datblygiad AEA dan sylw, neu'n berthnasol o ran penderfynu'r amodau y bydd y caniatâd cynllunio yn ddarostyngedig iddynt (“gwybodaeth berthnasol arall”), rhaid i'r derbynnydd—
(a)cyhoeddi'r wybodaeth berthnasol arall honno yn unol â rheoliad 37; a
(b)os yw'r wybodaeth berthnasol arall yn wybodaeth o'r math a grybwyllir ym mharagraff (1)(a), hysbysu'r ceisydd neu'r apelydd mewn ysgrifen o'r canlynol—
(i)y nifer o gopïau o'r wybodaeth berthnasol arall sy'n ofynnol ar ddibenion y ddyletswydd a osodir ar yr awdurdod neu, yn ôl y digwydd, Weinidogion Cymru, gan reoliad 38;
(ii)y ddyletswydd a osodir gan reoliad 39(1); a
(iii)yr hawl a roddir gan reoliad 41.
(6) Pan fo'r derbynnydd yn awdurdod cynllunio mwynau perthnasol, a'r wybodaeth berthnasol arall yn wybodaeth y mae paragraff (1) yn gymwys iddi, rhaid i'r derbynnydd gydymffurfio â pharagraff (5) o fewn 14 diwrnod ar ôl cael yr wybodaeth berthnasol arall.
Ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff (10).
(7) Pan fo'r derbynnydd yn awdurdod cynllunio mwynau perthnasol, a'r wybodaeth berthnasol arall yn wybodaeth y mae paragraff (2) yn gymwys iddi, rhaid i'r derbynnydd gydymffurfio â pharagraff (5) o fewn tair wythnos o'r dyddiad y rhoddir hysbysiad ysgrifenedig gan yr awdurdod yn unol â rheoliad 18(21).
(8) Os y derbynnydd yw Gweinidogion Cymru a'r wybodaeth berthnasol arall yn wybodaeth y mae paragraff (1) yn gymwys iddi, rhaid i'r derbynnydd gydymffurfio â pharagraff (5) cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael yr wybodaeth berthnasol arall.
Ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff (11).
(9) Os y derbynnydd yw Gweinidogion Cymru a'r wybodaeth berthnasol arall yn wybodaeth y mae paragraff (2) yn gymwys iddi, rhaid i'r derbynnydd gydymffurfio â pharagraff (5) cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl y dyddiad y rhoddir hysbysiad ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 18(21).
(10) Pan fo'r derbynnydd yn awdurdod cynllunio mwynau perthnasol ac yn cael yr wybodaeth berthnasol arall mewn perthynas â chais AEA nad oes hysbysiad ysgrifenedig yn unol â rheoliad 18(21) eto wedi ei roi ynglŷn ag ef, nid oes raid i'r derbynnydd gydymffurfio â pharagraff (5) o fewn 14 diwrnod ar ôl cael yr wybodaeth berthnasol arall dan sylw, ond rhaid iddo gydymffurfio â'r paragraff hwnnw o fewn 14 diwrnod o'r dyddiad y rhoddir hysbysiad ysgrifenedig yn unol â rheoliad 18(21).
(11) Os y derbynnydd yw Gweinidogion Cymru ac os yw'r wybodaeth berthnasol arall a gânt yn ymwneud â chais AEA nad oes hysbysiad ysgrifenedig yn unol â rheoliad 18(21) eto wedi ei roi ynglŷn ag ef, nid oes raid i'r derbynnydd gydymffurfio â pharagraff (8) cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael yr wybodaeth berthnasol arall dan sylw, ond rhaid iddo gydymffurfio â'r paragraff hwnnw cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl y dyddiad y bydd Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig yn unol â rheoliad 18(21).
(12) Pan fo awdurdod cynllunio mwynau perthnasol yn dal gwybodaeth y mae paragraff (2) yn gymwys iddi mewn cysylltiad â chais AEA—
(a)a atgyfeirir at Weinidogion Cymru ar neu ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym; a
(b)nad oes hysbysiad ysgrifenedig yn unol â rheoliad 18(21) eto wedi ei roi mewn perthynas ag ef,
rhaid i'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol ddarparu'r wybodaeth honno i Weinidogion Cymru o fewn 14 diwrnod o'r dyddiad yr atgyfeirir y cais felly.
(13) Nid yw'r ffaith bod gwybodaeth wedi dod i law Gweinidogion Cymru yn unol â pharagraff (12) yn ei gwneud yn ofynnol i'r wybodaeth honno gael ei thrin fel gwybodaeth y mae paragraff (1) yn gymwys iddi.
37.—(1) Rhaid i'r derbynnydd gyhoeddi mewn papur newydd lleol sy'n cylchredeg yn y gymdogaeth y lleolir y tir ynddi, hysbysiad sy'n datgan—
(a)enw'r person a wnaeth gais am benderfynu, neu a apeliodd mewn perthynas â phenderfynu yr amodau y bydd y caniatâd cynllunio yn ddarostyngedig iddynt, y darpariaethau perthnasol o Ddeddf 1991 neu 1995 y gwneir y cais yn unol â hwy ac enw a chyfeiriad yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol;
(b)y dyddiad y gwnaed y cais, a'r dyddiad, os digwyddodd hynny, y'i hatgyfeiriwyd at Weinidogion Cymru i'w benderfynu neu y daeth yn destun apêl iddynt;
(c)cyfeiriad neu leoliad a natur y datblygiad arfaethedig;
(ch)bod copi o'r cais a chopïau o unrhyw gynllun a dogfennau eraill a gyflwynwyd ynghyd ag ef, ar gael i'w harchwilio gan aelodau'r cyhoedd yn ystod unrhyw oriau rhesymol;
(d)os bu datganiad amgylcheddol yn destun hysbysiad ysgrifenedig a roddwyd o dan reoliad 18(21), y caiff aelodau'r cyhoedd archwilio copi o'r datganiad amgylcheddol yn ystod unrhyw oriau rhesymol;
(dd)os bu gwybodaeth bellach neu dystiolaeth yn destun hysbysiad ysgrifenedig a roddwyd o dan reoliad 28(8), y caiff aelodau'r cyhoedd archwilio copi o'r wybodaeth neu'r dystiolaeth honno yn ystod unrhyw oriau rhesymol;
(e)os cyhoeddwyd gwybodaeth berthnasol arall yn gynharach yn unol â rheoliad 37, y caiff aelodau'r cyhoedd archwilio copi o'r wybodaeth berthnasol arall honno yn ystod unrhyw oriau rhesymol;
(f)bod gwybodaeth berthnasol arall ar gael mewn cysylltiad â chais AEA;
(ff)y caiff aelodau'r cyhoedd archwilio copi o'r wybodaeth berthnasol arall honno yn ystod unrhyw oriau rhesymol;
(g)cyfeiriad o fewn y gymdogaeth y lleolir y tir ynddi, lle y gellir archwilio'r wybodaeth berthnasol arall honno a'r dyddiad olaf pan fydd ar gael i'w harchwilio (sef dyddiad na fydd yn gynharach nag 21 diwrnod ar ôl y dyddiad pan gyhoeddir yr hysbysiad);
(ng)cyfeiriad o fewn y gymdogaeth y lleolir y tir ynddi, lle y gellir archwilio copïau o'r cais, unrhyw ddatganiad amgylcheddol, unrhyw wybodaeth bellach neu dystiolaeth o'r math y cyfeirir ato yn is-baragraff (dd), neu unrhyw wybodaeth berthnasol arall o'r math a grybwyllwyd yn is-baragraff (e);
(h)cyfeiriad o fewn y gymdogaeth y lleolir y tir ynddi (pa un ai'r un cyfeiriad ai peidio â hwnnw a roddir yn unol ag is-baragraff (g)), lle y gellir cael copïau o'r wybodaeth berthnasol arall honno;
(i)y gellir cael copïau yno cyhyd â bo'r stoc yn parhau;
(j)os oes bwriad i godi tâl am gopi, y swm a godir;
(l)y dylai unrhyw berson sy'n dymuno gwneud sylwadau ynglŷn â'r wybodaeth berthnasol arall eu cyflwyno mewn ysgrifen i'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd) cyn diwedd 21 o ddiwrnodau o ddyddiad yr hysbysiad; ac
(ll)y cyfeiriad y dylid anfon sylwadau iddo.
(2) Pan fo'r derbynnydd yn ymwybodol o unrhyw berson penodol yr effeithir arno, neu y mae'n debygol yr effeithir arno, neu sydd â buddiant yn y cais, rhaid i'r derbynnydd gyflwyno hysbysiad i bob person o'r fath; a rhaid i'r hysbysiad gynnwys yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (1), ac eithrio rhaid i'r dyddiad a bennir fel y dyddiad olaf y bydd y dogfennau ar gael i'w harchwilio beidio â bod yn gynharach nag 21 diwrnod ar ôl y dyddiad pan gyflwynir yr hysbysiad gyntaf.
(3) Rhaid i'r derbynnydd, ac eithrio pan nad oes ganddo'r cyfryw hawliau a fyddai'n ei alluogi i wneud hynny ac nad oedd modd iddo, yn rhesymol, gaffael yr hawliau hynny, arddangos neu drefnu arddangos hysbysiad ar y tir, a fydd yn cynnwys yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (1), ac eithrio rhaid i'r dyddiad a bennir fel y dyddiad olaf y bydd dogfennau ar gael i'w harchwilio beidio â bod yn gynharach nag 21 diwrnod ar ôl y dyddiad pan arddangosir yr hysbysiad gyntaf.
(4) Rhaid i'r hysbysiad a grybwyllir ym mharagraff (3)—
(a)gael ei adael yn ei le am ddim llai na 14 diwrnod; a
(b)cael ei gysylltu'n gadarn wrth ryw wrthrych ar y tir a'i leoli a'i arddangos mewn modd sy'n galluogi aelodau'r cyhoedd i'w weld yn rhwydd a'i ddarllen heb fynd ar y tir.
38.—(1) Rhaid i geisydd neu apelydd a hysbysir o dan reoliad 36(5)(b), o fewn saith niwrnod ar ôl dyddiad yr hysbysiad hwnnw, ddarparu i'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu i Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd), pa bynnag nifer o gopïau o'r wybodaeth bellach arall a bennir yn yr hysbysiad a roddir o dan y rheoliad hwnnw.
(2) Rhaid i awdurdod cynllunio mwynau perthnasol, o fewn 14 diwrnod o ddyddiad cyhoeddi hysbysiad o dan reoliad 37—
(a)anfon at Weinidogion Cymru ddau gopi o'r wybodaeth berthnasol arall y mae'r hysbysiad yn ymwneud â hi;
(b)anfon copi o'r wybodaeth berthnasol arall at bob un o'r cyrff ymgynghori; ac
(c)rhoi i bob corff ymgynghori hysbysiad ysgrifenedig sy'n datgan y dylai unrhyw sylwadau y bydd y corff yn dymuno'u gwneud wrth ymateb i'r ymgynghoriad ynglŷn â'r wybodaeth berthnasol arall gael eu gwneud mewn ysgrifen i'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol o fewn 21 diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad (neu ba bynnag gyfnod hwy a gytunir rhwng yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol a'r corff ymgynghori).
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl dyddiad cyhoeddi hysbysiad o dan reoliad 37—
(a)anfon copi o'r wybodaeth berthnasol arall at bob un o'r cyrff ymgynghori;
(b)rhoi i bob corff ymgynghori hysbysiad ysgrifenedig sy'n datgan y dylai unrhyw sylwadau y dymuna'r corff eu gwneud wrth ymateb i'r ymgynghoriad ynglŷn â'r wybodaeth berthnasol arall gael eu gwneud mewn ysgrifen i Weinidogion Cymru o fewn 21 diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad (neu ba bynnag gyfnod hwy a gytunir rhwng Gweinidogion Cymru a'r corff ymgynghori); ac
(c)anfon copi o'r wybodaeth berthnasol arall at yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol.
(4) Pan gyhoeddir gwybodaeth berthnasol arall yn unol â rheoliad 37, rhaid i'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu (yn ôl y digwydd), Gweinidogion Cymru, beidio â phenderfynu'r cais neu'r apêl tan ddiwedd cyfnod o 21 diwrnod ar ôl y diweddaraf o'r dyddiadau canlynol—
(a)y dyddiad y cyhoeddwyd yr hysbysiad o'r wybodaeth berthnasol arall mewn papur newydd lleol yn unol â rheoliad 37(1);
(b)y dyddiad (os oedd un) y cyflwynwyd hysbysiad o'r wybodaeth berthnasol arall yn unol â rheoliad 37(2);
(c)y dyddiad yr arddangoswyd hysbysiad o'r wybodaeth berthnasol arall ar y tir yn unol â rheoliad 37(3);
(ch)y dyddiad yr anfonwyd yr wybodaeth berthnasol arall at y cyrff ymgynghori yn unol â'r rheoliad hwn.
39.—(1) Rhaid i geisydd, neu apelydd sy'n cael hysbysiad ysgrifenedig yn unol â rheoliad 36(5)(b) sicrhau bod nifer rhesymol o gopïau o'r wybodaeth berthnasol arall sy'n destun yr hysbysiad ar gael yn y cyfeiriad a enwir yn yr hysbysiad a gyhoeddir yn unol â rheoliad 37(1) fel y cyfeiriad lle y gellir cael copïau o'r fath.
(2) Pan fo awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru yn cyhoeddi gwybodaeth berthnasol arall o'r math a grybwyllir yn rheoliad 36(1)(b) neu (c), neu wybodaeth berthnasol arall y mae rheoliad 36(2) yn gymwys iddi, rhaid i'r awdurdod neu, yn ôl y digwydd, Gweinidogion Cymru, sicrhau bod nifer rhesymol o gopïau o'r wybodaeth berthnasol arall honno ar gael yn y cyfeiriad a enwir yn yr hysbysiad a gyhoeddir yn unol â rheoliad 37(1) fel y cyfeiriad lle y gellir cael copïau o'r fath.
40. Pan atgyfeirir cais AEA at Weinidogion Cymru neu pan fo'n destun apêl i Weinidogion Cymru ar neu ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, caiff Gweinidogion Cymru, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig, ei gwneud yn ofynnol i'r ceisydd ddarparu pa bynnag nifer o gopïau o unrhyw wybodaeth berthnasol arall, o'r math y cyfeirir ato yn rheoliad 36(1)(a), ag y tybiant sydd eu hangen, o fewn pa bynnag gyfnod a bennir yn yr hysbysiad.
41. Ceir codi tâl rhesymol, sy'n adlewyrchu'r costau argraffu a dosbarthu, ar aelod o'r cyhoedd am gopi o wybodaeth berthnasol arall a roddir ar gael yn unol â rheoliad 39(1).
42.—(1) Nid yw paragraff 2(6)(b) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991, paragraff 9(9) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 a pharagraff 6(8) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995 yn gymwys i gais AHGM amhenderfynedig oni fydd Gweinidogion Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd sgrinio o dan reoliad 9 neu 11 i'r perwyl nad yw'r datblygiad dan sylw yn ddatblygiad AEA.
(2) Wrth benderfynu, at ddibenion paragraffau 2(6)(b) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991, 9(9) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 a 6(8) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995 (penderfynu ar amodau), yr amser a aeth heibio heb i'r awdurdod cynllunio mwynau roi hysbysiad ysgrifenedig i'r ceisydd o'i benderfyniad, mewn achos pan fo Gweinidogion Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd o dan reoliad 9 i'r perwyl bod datblygiad AHGM yn ddatblygiad esempt, neu o dan reoliad 11 i'r perwyl nad yw'r datblygiad dan sylw yn ddatblygiad AEA, rhaid anwybyddu'r cyfnod cyn dyroddi'r cyfarwyddyd.
43. Nid yw paragraff 4(4) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991 (gofyniad bod awdurdod cynllunio mwynau yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig o benderfyniad) yn gymwys i gais AEA a wneir o dan baragraff 2(2) o'r Atodlen honno.
44.—(1) Rhaid i awdurdod cynllunio mwynau perthnasol roi hysbysiad ysgrifenedig o'i benderfyniad ynghylch cais AEA o fewn 16 wythnos o'r diweddaraf o'r dyddiadau canlynol—
(a)y dyddiad sy'n digwydd 21 diwrnod ar ôl y dyddiad y mae'n cael y dogfennau sy'n ofynnol o dan reoliad 21 neu, os ceir y dogfennau hynny ar wahanol ddyddiadau, y dyddiad sy'n digwydd 21 diwrnod ar ôl y dyddiad y ceir y ddogfen derfynol;
(b)y dyddiad sy'n digwydd 21 diwrnod ar ôl y dyddiad y mae'n cael y dogfennau sy'n ofynnol o dan reoliad 31 neu, os ceir y dogfennau hynny ar wahanol ddyddiadau, y dyddiad sy'n digwydd 21 diwrnod ar ôl y dyddiad y ceir y ddogfen derfynol;
(c)y dyddiad sy'n digwydd 21 diwrnod ar ôl y dyddiad y mae'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol yn cyhoeddi unrhyw wybodaeth berthnasol arall o dan reoliad 37,
neu ba bynnag gyfnod hwy a gytunir rhwng y ceisydd a'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad ysgrifenedig o'u penderfyniad ynghylch cais AEA o fewn y cyfryw gyfnod ag y bo'n ofynnol ganddynt yn rhesymol ar ôl y diweddaraf o'r dyddiadau canlynol—
(a)y dyddiad sy'n digwydd 21 diwrnod ar ôl y dyddiad y maent yn cael y dogfennau sy'n ofynnol o dan reoliad 21 neu, os ceir y dogfennau hynny ar wahanol ddyddiadau, y dyddiad sy'n digwydd 21 diwrnod ar ôl y dyddiad y ceir y ddogfen derfynol;
(b)y dyddiad sy'n digwydd 21 diwrnod ar ôl y dyddiad y maent yn cael y dogfennau sy'n ofynnol o dan reoliad 31 neu, os ceir y dogfennau hynny ar wahanol ddyddiadau, y dyddiad sy'n digwydd 21 diwrnod ar ôl y dyddiad y ceir y ddogfen derfynol;
(c)y dyddiad sy'n digwydd 21 diwrnod ar ôl y dyddiad y mae Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi unrhyw wybodaeth berthnasol arall o dan reoliad 37,
neu ba bynnag gyfnod hwy a gytunir rhwng Gweinidogion Cymru a'r ceisydd neu'r apelydd.
45.—(1) Mae paragraff 5(2) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991, paragraff 11(1) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 a pharagraff 9(1) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995 (hawl i apelio) yn cael effaith fel pe bai hawl hefyd i apelio i Weinidogion Cymru(15) pan nad yw'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol wedi rhoi hysbysiad ysgrifenedig o'i benderfyniad yn unol â rheoliad 44.
Mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff (2).
(2) Mae paragraff 5(5) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991, paragraff 11(2) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 a pharagraff 9(2) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995 (hawl i apelio) yn cael effaith fel pe baent hefyd yn darparu ar gyfer gwneud hysbysiad o apêl o fewn chwe mis ar ôl diwedd y cyfnod o 16 wythnos neu gyfnod arall a gytunwyd yn unol â rheoliad 44.
46.—(1) Rhaid i awdurdod cynllunio mwynau perthnasol gymryd pa bynnag gamau yr ystyria'n fwyaf tebygol o ddwyn unrhyw wybodaeth o'r math a bennir ym mharagraff (4)(a) i (e) neu (ng) i (h) i sylw personau sy'n debygol o fod â diddordeb mewn cais AHGM amhenderfynedig, o fewn 14 diwrnod o'r dyddiad pan anfonir unrhyw wybodaeth o'r fath at yr awdurdod gan Weinidogion Cymru.
(2) Rhaid i awdurdod cynllunio mwynau perthnasol gymryd pa bynnag gamau yr ystyria'n fwyaf tebygol o ddwyn unrhyw wybodaeth o'r math a bennir ym mharagraff (4)(f) i (g) neu (i) i (r) i sylw personau sy'n debygol o fod â diddordeb mewn cais AHGM amhenderfynedig, o fewn 14 diwrnod o'r dyddiad pan anfonir neu rhoddir unrhyw wybodaeth o'r fath gan yr awdurdod.
(3) Nid yw'n ofynnol o dan baragraffau (1) a (2) bod awdurdod cynllunio mwynau perthnasol yn arddangos hysbysiad ar y safle.
(4) Yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraffau (1) a (2) yw—
(a)unrhyw gyfarwyddyd a roddir o dan reoliad 5, yr anfonir copi ohono at yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol yn unol â rheoliad 5(5);
(b)unrhyw hysbysiad ysgrifenedig a roddir i'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol o dan reoliad 5(7);
(c)unrhyw gyfarwyddyd a roddir o dan reoliad 6;
(ch)unrhyw hysbysiad ysgrifenedig a roddir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 11(3), yr anfonir copi ohono at yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol o dan reoliad 11(5);
(d)unrhyw gyfarwyddyd sgrinio a roddir gan Weinidogion Cymru, sy'n ymwneud â chais AHGM amhenderfynedig sydd gerbron yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol i'w benderfynu, ac yr anfonir copi ohono at yr awdurdod yn unol â rheoliad 9(2)(a) neu 9(4)(b);
(dd)unrhyw ddatganiad ysgrifenedig o resymau a anfonwyd at yr awdurdod yn unol â rheoliad 9(4)(b);
(e)unrhyw hysbysiad ysgrifenedig a oedd ynghyd â chopi o gyfarwyddyd sgrinio a anfonwyd at yr awdurdod yn unol â rheoliad 11(12);
(f)unrhyw hysbysiad ysgrifenedig a roddwyd gan yr awdurdod o dan reoliad 12(2);
(ff)unrhyw farn gwmpasu a fabwysiadwyd gan yr awdurdod, yr anfonwyd copi ohoni at geisydd yn unol â rheoliad 12(7);
(g)yr hysbysiad ysgrifenedig y mae'n ofynnol o dan reoliad 12(7)(b) ei anfon ynghyd â chopi o unrhyw farn gwmpasu a anfonir yn unol â rheoliad 12(7)(a);
(ng)unrhyw hysbysiad ysgrifenedig a roddir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 13(4), ac yr anfonir copi ohono at yr awdurdod yn unol â rheoliad 13(6);
(h)unrhyw gyfarwyddyd cwmpasu a wneir gan Weinidogion Cymru, ac yr anfonir copi ohono at yr awdurdod yn unol â rheoliad 13(12);
(i)unrhyw hysbysiad ysgrifenedig a roddir gan yr awdurdod o dan reoliad 12(10);
(j)unrhyw hysbysiad ysgrifenedig a roddir gan yr awdurdod o dan reoliad 18(6);
(l)unrhyw hysbysiad ysgrifenedig a roddir gan yr awdurdod o dan reoliad 18(15);
(ll)unrhyw hysbysiad ysgrifenedig a roddir gan yr awdurdod yn unol â rheoliad 18(21);
(m)unrhyw hysbysiad ysgrifenedig a roddir gan yr awdurdod o dan reoliad 26(1);
(n)yr hysbysiad ysgrifenedig y mae'n ofynnol o dan reoliad 26(3) ei gyflwyno ynghyd ag unrhyw hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan reoliad 26(1);
(o)unrhyw hysbysiad ysgrifenedig a roddir gan yr awdurdod o dan reoliad 27(1) neu (2);
(p)yr hysbysiad ysgrifenedig y mae'n ofynnol o dan reoliad 27(3) ei gyflwyno ynghyd ag unrhyw hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan reoliad 27(1) neu (2);
(ph)unrhyw hysbysiad ysgrifenedig a roddir gan yr awdurdod o dan reoliad 28(5);
(r)unrhyw hysbysiad ysgrifenedig a roddir gan yr awdurdod o dan reoliad 28(8).
(5) Rhaid i Weinidogion Cymru gymryd pa bynnag gamau yr ystyriant yn fwyaf tebygol o ddwyn unrhyw wybodaeth o'r math a bennir ym mharagraff (7) i sylw personau sy'n debygol o fod â diddordeb mewn cais AHGM amhenderfynedig, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl y dyddiad yr anfonir neu y rhoddir unrhyw wybodaeth o'r fath gan Weinidogion Cymru.
(6) Nid yw'n ofynnol o dan baragraff (5) bod Gweinidogion Cymru yn arddangos hysbysiad ar y safle.
(7) Yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (5) yw—
(a)unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 5;
(b)unrhyw benderfyniad a hysbysir i awdurdod cynllunio mwynau perthnasol o dan reoliad 5(7);
(c)unrhyw gyfarwyddyd a roddir o dan reoliad 6;
(ch)unrhyw hysbysiad ysgrifenedig a roddir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 11(3);
(d)unrhyw gyfarwyddyd sgrinio a roddir gan Weinidogion Cymru, yr anfonir copi ohono at geisydd neu apelydd yn unol â rheoliad 9(2)(a), 9(4)(b) neu 11(12)(a);
(dd)mewn perthynas ag unrhyw gyfarwyddyd sgrinio a grybwyllir yn is-baragraff (d), y datganiad ysgrifenedig o resymau y mae'n ofynnol ei anfon ynghyd ag ef o dan reoliad 9(4)(a);
(e)mewn perthynas ag unrhyw gyfarwyddyd sgrinio a roddir o dan reoliad 11, unrhyw hysbysiad y mae'n ofynnol ei anfon ynghyd ag ef o dan reoliad 11(12)(b);
(f)unrhyw hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan reoliad 13(4);
(ff)unrhyw gyfarwyddyd cwmpasu yr anfonir copi ohono at geisydd neu apelydd yn unol â rheoliad 13(12);
(g)yr hysbysiad ysgrifenedig y mae'n ofynnol o dan reoliad 13(13) ei anfon ynghyd â chopi o unrhyw gyfarwyddyd cwmpasu a anfonir yn unol â rheoliad 13(12);
(ng)unrhyw hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan reoliad 14(5);
(h)unrhyw gyfarwyddyd cwmpasu, yr anfonir copi ohono at geisydd neu apelydd yn unol â rheoliad 14(13)(a);
(i)unrhyw hysbysiad ysgrifenedig, yr anfonir copi ohono at geisydd neu apelydd o dan reoliad 14(13)(b);
(j)unrhyw hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan reoliad 15(5);
(l)unrhyw gyfarwyddyd cwmpasu, yr anfonir copi ohono at geisydd o dan reoliad 15(13);
(ll)yr hysbysiad ysgrifenedig y mae'n ofynnol o dan reoliad 15(13) ei anfon ynghyd â chopi o gyfarwyddyd cwmpasu a anfonir at geisydd o dan y rheoliad hwnnw;
(m)unrhyw hysbysiad ysgrifenedig a roddir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 18(6);
(n)unrhyw hysbysiad ysgrifenedig a roddir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 18(15);
(o)unrhyw hysbysiad ysgrifenedig a roddir gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 18(21);
(p)unrhyw hysbysiad ysgrifenedig a roddir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 26(1);
(ph)yr hysbysiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan reoliad 26(3) ei gyflwyno ynghyd ag unrhyw hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan reoliad 26(1);
(r)unrhyw hysbysiad ysgrifenedig a roddir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 27(1) neu (2);
(rh)yr hysbysiad ysgrifenedig y mae'n ofynnol o dan reoliad 27(3) ei gyflwyno ynghyd ag unrhyw hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan reoliad 27(1) neu (2);
(s)unrhyw hysbysiad ysgrifenedig a roddir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 28(5);
(t)unrhyw hysbysiad ysgrifenedig a roddir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 28(8).
(8) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw geisydd neu apelydd yr anfonir copi o gyfarwyddyd sgrinio ato yn unol â rheoliad 9(2)(a), 9(4)(b) neu 11(12)(a), neu y rhoddir hysbysiad ysgrifenedig iddo yn unol ag unrhyw ddarpariaeth a grybwyllir ym mharagraff (4) neu (7).
(9) Rhaid i geisydd neu apelydd y mae paragraff (8) yn gymwys iddo, ac eithrio pan nad oes gan y ceisydd neu'r apelydd y cyfryw hawliau a fyddai yn ei alluogi i wneud hynny, ac nad oedd modd iddo, yn rhesymol, gaffael yr hawliau hynny, arddangos copi o'r canlynol ar y tir—
(a)unrhyw gyfarwyddyd sgrinio a grybwyllir yn y paragraff hwnnw;
(b)unrhyw hysbysiad ysgrifenedig a roddir i'r ceisydd neu'r apelydd yn unol ag unrhyw ddarpariaeth a grybwyllir ym mharagraff (4) neu (7);
o fewn 14 diwrnod i'r dyddiad y rhoddir hysbysiad o'r fath.
(10) Pan fo copi o hysbysiad ysgrifenedig a arddangosir ar y tir yn unol â pharagraff (9)(b) o'r math a grybwyllir ym mharagraff (4)(g) neu (i), neu baragraff (7)(g), (i) neu (ll), rhaid i'r copi o'r hysbysiad hwnnw a arddangosir ar y tir gael ei arddangos ynghyd â hysbysiad sy'n datgan cyfeiriad yn y gymdogaeth y lleolir y tir ynddi lle y ceir archwilio copi o'r farn gwmpasu gysylltiedig, neu'r cyfarwyddyd cwmpasu cysylltiedig, yn ystod unrhyw oriau rhesymol.
(11) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw weithredwr y rhoddir hysbysiad ysgrifenedig iddo o dan neu'n unol â'r canlynol—
(a)rheoliad 11(3);
(b)rheoliad 12(2);
(c)rheoliad 13(4);
(ch)rheoliad 14(5);
(d)rheoliad 15(5);
(dd)rheoliad 18(6);
(e)rheoliad 26(1);
(f)rheoliad 27(2);
(ff)rheoliad 28(5);
(g)rheoliad 28(8).
(12) Rhaid i weithredwr y mae paragraff (11) yn gymwys iddo, ac eithrio pan nad oes gan y gweithredwr y cyfryw hawliau a fyddai yn ei alluogi i wneud hynny, ac nad oedd modd iddo, yn rhesymol, gaffael yr hawliau hynny, arddangos copi ar y tir o unrhyw hysbysiad ysgrifenedig o'r math y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw, o fewn 14 diwrnod i'r dyddiad y rhoddir yr hysbysiad.
(13) Rhaid i gopi o gyfarwyddyd neu hysbysiad ysgrifenedig a arddangosir ar y tir yn unol â pharagraff (9), ac unrhyw hysbysiad a arddangosir ar y tir yn unol â pharagraff (10) neu (12)—
(a)cael ei adael yn ei le am ddim llai na phedwar diwrnod ar ddeg; a
(b)cael ei gysylltu'n gadarn wrth ryw wrthrych ar y tir a'i leoli a'i arddangos mewn modd sy'n galluogi aelodau'r cyhoedd i'w weld yn rhwydd a'i ddarllen heb fynd ar y tir.
47.—(1) Mae adran 69 (cofrestr ceisiadau, etc.), ac unrhyw ddarpariaethau o'r Gorchymyn a wnaed yn rhinwedd yr adran honno, yn cael effaith, gydag unrhyw ddiwygiadau angenrheidiol, fel pe bai cyfeiriadau at geisiadau am ganiatâd cynllunio yn cynnwys ceisiadau AHGM amhenderfynedig o dan baragraff 9(1) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 a pharagraff 6(1) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995.
(2) Os nad yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol yw'r awdurdod y mae'n ofynnol iddo gadw'r gofrestr, rhaid i'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol ddarparu i'r awdurdod y mae'n ofynnol iddo ei chadw y cyfryw wybodaeth a dogfennau sy'n ofynnol gan yr awdurdod hwnnw er mwyn cydymffurfio ag—
(a)adran 69 fel y'i cymhwysir gan baragraff (1); a
(b)rheoliad 48.
48.—(1) Pan gofnodir manylion cais AHGM amhenderfynedig yn Rhan I o'r gofrestr, rhaid i'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol gymryd camau i sicrhau y rhoddir hefyd, yn y Rhan honno o'r gofrestr, wybodaeth o'r math canlynol sy'n ymwneud â'r cais AHGM amhenderfynedig dan sylw—
(a)unrhyw gyfarwyddyd sgrinio;
(b)unrhyw farn gwmpasu;
(c)unrhyw gyfarwyddyd cwmpasu;
(ch)unrhyw hysbysiad ysgrifenedig y cyfeirir ato yn rheoliad 46(4) neu (7);
(d)unrhyw ddatganiad amgylcheddol sy'n destun hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan reoliad 18(21);
(dd)unrhyw wybodaeth bellach neu dystiolaeth sy'n destun hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan reoliad 28(8);
(e)unrhyw wybodaeth berthnasol arall a gyhoeddir yn unol â rheoliad 37;
(f)unrhyw ddatganiad o resymau sydd ynghyd ag unrhyw un o'r uchod;
(ff)manylion am unrhyw ataliad o ddatblygu mwynau;
(g)y dyddiad (os oes un) y daeth unrhyw ataliad o ddatblygu mwynau i ben;
(ng)manylion am unrhyw orchymyn a wnaed o dan Atodlen 9 i'r Ddeddf yn unol â rheoliad 51.
49.—(1) Pan benderfynir cais AEA gan awdurdod cynllunio mwynau perthnasol, rhaid i'r awdurdod–
(a)hysbysu Gweinidogion Cymru a'r cyrff ymgynghori, mewn ysgrifen, o'r penderfyniad;
(b)hysbysu'r cyhoedd o'r penderfyniad, drwy hysbyseb leol, neu drwy ba bynnag ddulliau eraill sy'n rhesymol o dan yr amgylchiadau; ac
(c)rhoi ar gael i'w archwilio gan y cyhoedd, yn y man lle cedwir y gofrestr briodol (neu'r adran berthnasol o'r gofrestr honno) datganiad sy'n cynnwys—
(i)yr hyn sy'n gynwysedig yn y penderfyniad ac unrhyw amodau a gysylltwyd ag ef;
(ii)y prif resymau ac ystyriaethau y seiliwyd y penderfyniad arnynt, gan gynnwys, pan fo'n berthnasol, gwybodaeth am gyfranogiad y cyhoedd;
(iii)disgrifiad, pan fo angen, o'r prif fesurau i osgoi, lleihau ac, os oes modd, gwrthbwyso prif effeithiau anffafriol y datblygiad; a
(iv)gwybodaeth ynglŷn â'r hawl i herio dilysrwydd y penderfyniad, a'r gweithdrefnau ar gyfer gwneud hynny.
(2) Pan benderfynir cais AEA gan Weinidogion Cymru, rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)hysbysu'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol a'r cyrff ymgynghori o'r penderfyniad; a
(b)darparu i'r awdurdod ddatganiad o'r fath fel a grybwyllir ym mharagraff (1)(c).
(3) Rhaid i'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael hysbysiad a roddir o dan baragraff,(2) gydymffurfio ag is-baragraffau (b) ac (c) o baragraff (1) mewn perthynas â'r penderfyniad a hysbysir felly, fel pe bai'n benderfyniad yr awdurdod.
50.—(1) Mae ataliad datblygu mwynau yn parhau i fod yn effeithiol hyd nes y cydymffurfir â phob gofyniad perthnasol.
(2) At ddibenion paragraff (1), gofyniad perthnasol yw unrhyw ofyniad a osodir ar geisydd, apelydd neu weithredwr gan neu o dan ddarpariaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 51(4) mewn cysylltiad â'r cais AEA y mae'r ataliad datblygu mwynau yn ymwneud ag ef.
(3) Nid yw ataliad datblygu mwynau yn effeithio ar unrhyw ddatblygu mwynau a gyflawnwyd o dan y caniatâd cynllunio cyn y dyddiad atal.
51.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys, mewn perthynas ag unrhyw ddatblygiad mwynau diawdurdod—
(a)os oes cyfnod o 2 flynedd, sy'n cychwyn ar y dyddiad atal, wedi dod i ben; a
(b)os na chydymffurfiwyd eto ag unrhyw un o'r gofynion a osodwyd ar geisydd, apelydd neu weithredwr gan neu o dan ddarpariaeth a grybwyllir ym mharagraff (4).
(2) Pan fo paragraff (1) yn gymwys, rhaid i'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol ystyried a ddylai wneud gorchymyn o dan baragraff 3 o Atodlen 9 i'r Ddeddf mewn perthynas â rhywfaint neu'r cyfan o'r datblygiad mwynau diawdurdod o dan sylw,.
(3) At ddibenion paragraff (2), mae Atodlen 9 i'r Ddeddf yn cael effaith yn ddarostyngedig i'r addasiadau a nodir ym mharagraffau (5) i (8).
(4) Y gofynion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b) yw unrhyw ofynion a osodir gan neu o dan unrhyw un o'r darpariaethau a ganlyn—
(a)rheoliadau 11 i 15;
(b)rheoliadau 17 i 19;
(c)rheoliadau 26 i 29.
(5) Mae paragraff 3 o Atodlen 9 yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw ran o safle fel y mae'n cael effaith mewn perthynas â'r safle cyfan.
(6) Mae paragraff 3(1)(b) o Atodlen 9 yn cael effaith fel pe bai'r canlynol wedi ei roi yn lle'r paragraff hwnnw—
“(b)the winning and working or depositing has permanently ceased, the mineral planning authority—
(i)must by order prohibit the resumption of the winning and working or the depositing; and
(ii)may, by provision made in the order, impose in relation to the site, any such requirement as is specified in sub-paragraff (3).”.
(7) Mae paragraff 3(2) o Atodlen 9 yn cael effaith—
(a)fel pe bai'r ymadrodd “must assume” wedi ei roi yn lle “may assume”;
(b)fel pe bai'r gair “only” wedi ei hepgor; ac
(c)fel pe bai'r cyfeiriadau at ennill a gweithio neu ddyddodi (“winning and working or depositing”) yn is-baragraff (2)(a) a (b) yn gyfeiriadau at ennill a gweithio neu ddyddodi ac eithrio'r ennill a gweithio neu ddyddodi y peidiwyd â'u hawdurdodi drwy ganiatâd cynllunio gan neu o dan y Rheoliadau hyn.
(8) Mae paragraff 4(7) o Atodlen 9 yn cael effaith fel pe bai “authorise that development” wedi ei roi yn lle “have effect”.
(9) Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cynllunio mwynau perthnasol wneud gorchymyn o dan baragraff 3 o Atodlen 9 i'r Ddeddf mewn perthynas ag unrhyw dir o fewn y cyfnod o bum mlynedd yn union ar ôl y diwrnod y cafodd unrhyw orchymyn arall o dan adran 97 o'r Ddeddf, neu baragraff 1 neu 3 o Atodlen 9 iddo, ei wneud mewn cysylltiad â'r un tir.
52. Mae Rhan VIII (datblygu sydd ag effeithiau trawsffiniol sylweddol) o Reoliadau 1999 yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn fel y mae'n gymwys at ddibenion Rheoliadau 1999.
53. Ceir cyflwyno unrhyw hysbysiad neu ddogfen arall sydd i'w anfon, ei gyflwyno neu ei roi o dan y Rheoliadau hyn mewn modd a bennir yn adran 329 (cyflwyno hysbysiadau).
54.—(1) At ddibenion Rhan XII o'r Ddeddf (dilysrwydd gorchmynion, penderfyniadau a chyfarwyddiadau eraill), rhaid cymryd bod y cyfeiriad yn adran 288, fel y'i cymhwysir gan baragraff 9(3) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991, paragraff 16(4) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 neu baragraff 9(4) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995, at weithredu gan yr Ysgrifennydd Gwladol(16) nad yw o fewn pwerau'r Ddeddf, yn ymestyn i gynnwys penderfynu cais AEA gan Weinidogion Cymru yn groes i reoliad 3.
(2) At ddibenion Rhan XII o'r Ddeddf (dilysrwydd gorchmynion, penderfyniadau a chyfarwyddiadau penodol), mae adrannau 284 a 288 yn cael effaith fel pe bai'r cyfeiriadau yn adran 284(1)(e) a (2)(e) at orchymyn o dan baragraff 3 o Atodlen 9 i'r Ddeddf yn cynnwys cyfeiriad at orchymyn a wnaed o dan y paragraff hwnnw, yn unol â rheoliad 51.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Fusnes a'r Gyllideb, un o Weinidogion Cymru
16 Rhagfyr 2009
1. Rhaid ystyried nodweddion datblygiad gan roi sylw, yn benodol, i—
(a)maint y datblygiad;
(b)y cyfuniad â datblygiadau eraill;
(c)defnyddio adnoddau naturiol;
(ch)cynhyrchu gwastraff;
(d)llygredd a niwsansau;
(dd)y risg o ddamweiniau, gan ystyried yn benodol y sylweddau neu'r technolegau a ddefnyddir.
2. Rhaid ystyried sensitifrwydd amgylcheddol yr ardaloedd daearyddol y mae'r datblygiad yn debygol o effeithio arnynt, gan roi sylw, yn benodol i—
(a)y defnydd tir presennol;
(b)maint cymharol y cyflenwad o adnoddau naturiol yn yr ardal, eu hansawdd, a'u galluoedd atgynhyrchiol;
(c)galluoedd amsugnol yr amgylchedd naturiol, gan roi sylw penodol i'r ardaloedd canlynol–
(i)gwlyptiroedd;
(ii)parthau arfordirol;
(iii)ardaloedd mynyddig a choedwigol;
(iv)gwarchodfeydd natur a pharciau;
(v)ardaloedd dosbarthedig neu warchodedig o dan ddeddfwriaeth Aelod-wladwriaethau; ardaloedd a ddynodwyd gan Aelod-wladwriaethau yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 79/409/EEC(17) ar gadwraeth adar gwyllt(18) a Chyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC(19) ar gadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt(20);
(vi)ardaloedd lle'r aed eisoes y tu hwnt i'r trothwyon ansawdd amgylcheddol a bennir yn neddfwriaeth yr UE;
(vii)ardaloedd trwchus eu poblogaeth;
(viii)tirweddau o arwyddocâd hanesyddol, diwylliannol neu archaeolegol.
3. Rhaid ystyried effeithiau arwyddocaol posibl y datblygiad gyferbyn â'r meini prawf a bennir o dan baragraffau 1 a 2 uchod, a chan roi sylw penodol i–
(a)ehangder yr effaith (arwynebedd daearyddol a maint y boblogaeth yr effeithir arni);
(b)natur drawsffiniol yr effaith;
(c)maint a chymhlethdod yr effaith;
(ch)tebygolrwydd yr effaith;
(d)parhad, amlder a gwrthdroadwyedd yr effaith.
1. Disgrifiad o'r datblygiad, gan gynnwys yn benodol—
(a)disgrifiad o briodweddau ffisegol yr holl ddatblygiad a'r gofynion defnydd tir yn ystod y cyfnodau adeiladu a gweithredu;
(b)disgrifiad o brif briodweddau'r prosesau cynhyrchu, er enghraifft, natur a maint y deunyddiau a ddefnyddir;
(c)amcangyfrif, yn ôl math ac ansawdd, o'r gwaddodion ac allyriadau a ddisgwylir (llygredd dŵr, aer a phridd; sŵn, dirgryniadau, golau, gwres, pelydredd, etc.) o ganlyniad i weithredu'r datblygiad arfaethedig.
2. Rhaglen neu raglenni gwaith manwl, y bwriada'r ceisydd neu'r apelydd gyflawni'r datblygiad yn unol â hi neu â hwy, gan gynnwys, yn benodol, manylion am gyfeiriad a dyfnder y gwaith.
3. Amlinelliad o'r prif ddulliau amgen a astudiwyd gan y ceisydd neu'r apelydd, ac awgrym o'r prif resymau dros y dewis neu ddewisiadau a wnaed gan y ceisydd neu'r apelydd, gan gymryd i ystyriaeth yr effeithiau amgylcheddol.
4. Disgrifiad o'r agweddau ar yr amgylchedd y mae'r datblygiad yn debygol o gael effaith arwyddocaol arnynt gan gynnwys, yn benodol, poblogaeth, ffawna, fflora, pridd, dŵr, aer, ffactorau hinsoddol, asedau materol, gan gynnwys y dreftadaeth bensaernïol ac archaeolegol, y dirwedd a chydberthynas y ffactorau uchod.
5. Disgrifiad o effeithiau arwyddocaol tebygol y datblygiad ar yr amgylchedd; dylai hyn gynnwys effeithiau uniongyrchol ac unrhyw effeithiau anuniongyrchol, eilaidd, cronnus, tymor byr, tymor canolig a hirdymor, parhaol a thros dro, cadarnhaol a negyddol y datblygiad, o ganlyniad i—
(a)bodolaeth y datblygiad;
(b)y defnydd o adnoddau naturiol;
(c)allyrru llygryddion, creu niwsansau a dileu gwastraff,
a disgrifiad gan y ceisydd o'r dulliau rhagamcanu a ddefnyddiwyd i asesu'r effeithiau ar yr amgylchedd.
6. Disgrifiad o'r mesurau y rhagwelir eu defnyddio i atal, lleihau, a phan fo modd, gwrthbwyso unrhyw effeithiau anffafriol arwyddocaol ar yr amgylchedd.
7. Crynodeb annhechnegol o'r wybodaeth a ddarperir o dan baragraffau 1 i 6 o'r Rhan hon.
8. Awgrym o unrhyw anawsterau (diffygion technegol neu ddiffyg medrusrwydd) a wynebwyd gan y ceisydd neu'r apelydd wrth grynhoi'r wybodaeth a oedd yn ofynnol.
9. Disgrifiad o'r datblygiad, gan gynnwys gwybodaeth am safle, dyluniad a maint y datblygiad.
10. Rhaglen waith fanwl, y bwriada'r ceisydd gyflawni'r datblygiad yn unol â hi, gan gynnwys, yn benodol, manylion am gyfeiriad a dyfnder y gwaith.
11. Disgrifiad o'r mesurau y rhagwelir eu defnyddio i atal, lleihau, a phan fo modd, gwrthwneud effeithiau anffafriol arwyddocaol.
12. Y data sy'n ofynnol er mwyn adnabod ac asesu prif effeithiau tebygol y datblygiad ar yr amgylchedd.
13. Amlinelliad o'r prif ddulliau amgen a astudiwyd gan y ceisydd neu'r apelydd, ac awgrym o'r prif resymau dros y dewis a wnaed gan y ceisydd neu'r apelydd, gan gymryd i ystyriaeth yr effeithiau amgylcheddol.
14. Crynodeb annhechnegol o'r wybodaeth a ddarperir o dan baragraffau 9 i 13 o'r Rhan hon.
1. Nid yw'r geiriau sydd mewn cromfachau yn yr Atodlen hon yn rhan o'r Rheoliadau.
2. Y materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 11(3) yw—
(a)erbyn pa ddyddiad y mae'n rhaid darparu'r wybodaeth sgrinio (sef y dyddiad pan ddaw'r cyfnod perthnasol at ddibenion rheoliad 11(8) i ben);
(b)effaith rheoliad 11(9) (atal);
(c)effaith rheoliad 50 (parhad yr ataliad);
(ch)effaith rheoliad 51 (gwahardd);
(d)y ddyletswydd a osodir ar y ceisydd, apelydd neu, yn ôl y digwydd, ar y gweithredwr, gan reoliad 46 (cyhoeddusrwydd drwy hysbysiad ar y safle);
(dd)yr hawl i herio'r hysbysiad a'r cyfnod o amser ar gyfer gwneud hynny.
3. Y materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 11(12)(b) yw—
(a)effaith y cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru, sef na cheir penderfynu'r cais AHGM amhenderfynedig dan sylw heb ystyried yr wybodaeth amgylcheddol;
(b)y bydd datganiad amgylcheddol drafft yn ofynnol maes o law;
(c)ei bod yn ofynnol yn awr i'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol fabwysiadu barn gwmpasu o dan reoliad 12, neu, yn ôl y digwydd, ei bod yn ofynnol yn awr i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddyd cwmpasu o dan reoliad 14;
(ch)effaith rheoliad 12(5) neu, yn ôl y digwydd, 14(11) (ataliad) os digwydd i unrhyw wybodaeth gwmpasu sy'n ofynnol beidio â chael ei chyflwyno o fewn y cyfnod perthnasol;
(d)effaith rheoliad 50 (parhad ataliad);
(dd)effaith rheoliad 51 (gwahardd);
(e)pan fo'r hysbysiad yn ymwneud â chais AEA sydd gerbron awdurdod cynllunio mwynau perthnasol ar gyfer ei benderfynu, effaith rheoliad 12(1) (cyfnod a ganiateir ar gyfer rhoi hysbysiad o farn gwmpasu);
(f)yr hawl a roddir gan reoliad 12(8) (hawl i ofyn am gyfarwyddyd cwmpasu);
(ff)y ddyletswydd a osodir ar y ceisydd neu'r apelydd gan reoliad 46 (cyhoeddusrwydd);
(g)yr hawl i herio'r cyfarwyddyd sgrinio a'r cyfnod o amser ar gyfer gwneud hynny.
4. Y materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 12(2) yw—
(a)erbyn pa ddyddiad y mae'n rhaid darparu'r wybodaeth gwmpasu (sef y dyddiad pan ddaw'r cyfnod perthnasol at ddibenion rheoliad 12(4) i ben);
(b)effaith rheoliad 12(5) (atal);
(c)effaith rheoliad 50 (parhad ataliad);
(ch)effaith rheoliad 51 (gwahardd);
(d)effaith rheoliad 12(6) (ymgynghori cyn mabwysiadu barn gwmpasu);
(dd)yr hawl a roddir gan reoliad 12(8) (hawl i ofyn am gyfarwyddyd cwmpasu);
(e)effaith rheoliad 12(9) (nid yw mabwysiadu barn gwmpasu yn atal yr hawl i fynnu cael gwybodaeth bellach neu dystiolaeth);
(f)y ddyletswydd a osodir ar y ceisydd neu, yn ôl y digwydd, y gweithredwr, gan reoliad 46 (cyhoeddusrwydd);
(ff)yr hawl i herio'r hysbysiad a'r cyfnod o amser ar gyfer gwneud hynny.
5. Y materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 12(7)(b) yw—
(a)erbyn pa ddyddiad y mae'n rhaid cyflwyno'r datganiad amgylcheddol drafft (sef y dyddiad pan ddaw'r cyfnod perthnasol at ddibenion rheoliad 17(2) i ben);
(b)bod rhaid i'r datganiad amgylcheddol drafft gynnwys yr holl wybodaeth a bennir yn y farn gwmpasu;
(c)effaith rheoliad 17(8) (atal);
(ch)effaith rheoliad 50 (parhad ataliad);
(d)effaith rheoliad 51 (gwahardd);
(dd)effaith rheoliad 16 (gweithdrefn i hwyluso paratoi datganiadau amgylcheddol);
(e)effaith rheoliad 12(9) (nid yw mabwysiadu barn gwmpasu yn atal yr hawl i fynnu cael gwybodaeth bellach neu dystiolaeth);
(f)effaith rheoliad 18 (datganiad amgylcheddol drafft: gwiriadau cyn cyhoeddi);
(ff)y ddyletswydd a osodir ar y ceisydd gan reoliad 46 (cyhoeddusrwydd);
(g)yr hawl i herio'r farn gwmpasu a'r cyfnod o amser ar gyfer gwneud hynny.
6. Y materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 12(10) yw—
(a)erbyn pa ddyddiad y mae'n rhaid cyflwyno'r datganiad amgylcheddol drafft (sef y dyddiad pan ddaw'r cyfnod perthnasol at ddibenion rheoliad 17(2) i ben);
(b)bod rhaid i'r datganiad amgylcheddol drafft gynnwys yr holl wybodaeth a bennir yn y cyfarwyddyd cwmpasu;
(c)effaith rheoliad 17(8) (atal);
(ch)effaith rheoliad 50 (parhad ataliad);
(d)effaith rheoliad 51 (gwahardd);
(dd)effaith rheoliad 16 (gweithdrefn i hwyluso paratoi datganiadau amgylcheddol);
(e)effaith rheoliad 13(14) (nid yw rhoi cyfarwyddyd cwmpasu yn atal yr hawl i fynnu cael gwybodaeth bellach neu dystiolaeth);
(f)effaith rheoliad 18 (datganiad amgylcheddol drafft: gwiriadau cyn ymgynghori);
(ff)y ddyletswydd a osodir ar y ceisydd gan reoliad 46 (cyhoeddusrwydd).
7. Y materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 13(4) yw—
(a)erbyn pa ddyddiad y mae'n rhaid darparu'r wybodaeth gwmpasu (sef y dyddiad pan ddaw'r cyfnod perthnasol at ddibenion rheoliad 13(9) i ben);
(b)effaith rheoliad 13(10) (atal);
(c)effaith rheoliad 50 (parhad ataliad);
(ch)effaith rheoliad 51 (gwahardd);
(d)effaith rheoliad 13(11) (ymgynghori cyn mabwysiadu barn gwmpasu);
(dd)effaith rheoliad 13(14) (nid yw mabwysiadu barn gwmpasu yn atal yr hawl i fynnu cael gwybodaeth bellach neu dystiolaeth);
(e)y ddyletswydd a osodir ar y ceisydd neu, yn ôl y digwydd, y gweithredwr, gan reoliad 46 (cyhoeddusrwydd);
(f)yr hawl i herio'r hysbysiad a'r cyfnod o amser ar gyfer gwneud hynny.
8. Y materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 14(5) yw—
(a)erbyn pa ddyddiad y mae'n rhaid darparu'r wybodaeth gwmpasu (sef y dyddiad pan ddaw'r cyfnod perthnasol at ddibenion rheoliad 14(10) i ben);
(b)effaith rheoliad 14(11) (atal);
(c)effaith rheoliad 50 (parhad ataliad);
(ch)effaith rheoliad 51 (gwahardd);
(d)effaith rheoliad 14(12) (ymgynghori cyn rhoi cyfarwyddyd cwmpasu);
(dd)effaith rheoliad 14(15) (nid yw rhoi cyfarwyddyd cwmpasu yn atal yr hawl i fynnu cael gwybodaeth bellach neu dystiolaeth);
(e)y ddyletswydd a osodir ar y ceisydd neu, yn ôl y digwydd, y gweithredwr, gan reoliad 46 (cyhoeddusrwydd);
(f)yr hawl i herio'r hysbysiad a'r cyfnod o amser ar gyfer gwneud hynny.
9. Y materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 14(13)(b) yw—
(a)erbyn pa ddyddiad y mae'n rhaid cyflwyno'r datganiad amgylcheddol drafft (sef y dyddiad pan ddaw'r cyfnod perthnasol at ddibenion rheoliad 17(3) i ben);
(b)bod rhaid i'r datganiad amgylcheddol gynnwys yr holl wybodaeth a bennir yn y cyfarwyddyd cwmpasu;
(c)effaith rheoliad 17(8) (atal);
(ch)effaith rheoliad 50 (parhad ataliad);
(d)effaith rheoliad 51 (gwahardd);
(dd)effaith rheoliad 16 (gweithdrefn i hwyluso paratoi datganiadau amgylcheddol);
(e)effaith rheoliad 14(15) (nid yw rhoi cyfarwyddyd cwmpasu yn atal yr hawl i fynnu cael gwybodaeth bellach neu dystiolaeth);
(f)effaith rheoliad 18 (datganiad amgylcheddol drafft: gwiriadau cyn ymgynghori);
(ff)y ddyletswydd a osodir ar y ceisydd neu'r apelydd gan reoliad 46 (cyhoeddusrwydd);
(g)yr hawl i herio'r cyfarwyddyd cwmpasu a'r cyfnod o amser ar gyfer gwneud hynny.
10. Y materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 15(5) yw—
(a)erbyn pa ddyddiad y mae'n rhaid darparu'r wybodaeth gwmpasu (sef y dyddiad pan ddaw'r cyfnod perthnasol at ddibenion rheoliad 15(10) i ben);
(b)effaith rheoliad 15(11) (atal);
(c)effaith rheoliad 50 (parhad ataliad);
(ch)effaith rheoliad 51 (gwahardd);
(d)dyletswyddau Gweinidogion Cymru o dan reoliad 15(12) (ymgynghori cyn rhoi cyfarwyddyd cwmpasu);
(dd)effaith rheoliad 15(15) (nid yw rhoi cyfarwyddyd cwmpasu yn atal yr hawl i fynnu cael gwybodaeth bellach neu dystiolaeth);
(e)y ddyletswydd a osodir ar y ceisydd, apelydd neu, yn ôl y digwydd, y gweithredwr, gan reoliad 46 (cyhoeddusrwydd);
(f)yr hawl i herio'r hysbysiad a'r cyfnod o amser ar gyfer gwneud hynny.
11. Y materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 15(13) yw—
(a)erbyn pa ddyddiad y mae'n rhaid cyflwyno'r datganiad amgylcheddol drafft (sef y dyddiad pan ddaw'r cyfnod perthnasol at ddibenion rheoliad 17(4) i ben);
(b)bod rhaid i'r datganiad amgylcheddol gynnwys yr holl wybodaeth a bennir yn y cyfarwyddyd cwmpasu;
(c)effaith rheoliad 17(8) (atal);
(ch)effaith rheoliad 50 (parhad ataliad);
(d)effaith rheoliad 51 (gwahardd);
(dd)effaith rheoliad 16 (gweithdrefn i hwyluso paratoi datganiadau amgylcheddol);
(e)effaith rheoliad 15(15) (nid yw rhoi cyfarwyddyd cwmpasu yn atal yr hawl i fynnu cael gwybodaeth bellach neu dystiolaeth);
(f)effaith rheoliad 18 (datganiad amgylcheddol drafft: gwiriadau cyn ymgynghori);
(ff)y ddyletswydd a osodir ar y ceisydd neu'r apelydd gan reoliad 46 (cyhoeddusrwydd);
(g)yr hawl i herio'r cyfarwyddyd cwmpasu a'r cyfnod o amser ar gyfer gwneud hynny.
12. Y materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 18(6)(b) yw—
(a)erbyn pa ddyddiad y mae'n rhaid darparu'r wybodaeth benodedig (sef y dyddiad pan ddaw'r cyfnod perthnasol at ddibenion rheoliad 18(8) neu, yn ôl y digwydd, rheoliad 18(9), i ben);
(b)effaith rheoliad 18(10) (atal);
(c)effaith rheoliad 50 (parhad ataliad);
(ch)effaith rheoliad 51 (gwahardd);
(d)effaith rheoliad 18(12) i (24) (gofyniad i ystyried ffurf datganiad amgylcheddol);
(dd)effaith rheoliad 18(25) (nid yw cyfarwyddyd i gyhoeddi yn atal yr hawl i fynnu cael gwybodaeth bellach neu dystiolaeth);
(e)y ddyletswydd a osodir ar y ceisydd, apelydd neu, yn ôl y digwydd, y gweithredwr, gan reoliad 46 (cyhoeddusrwydd);
(f)yr hawl i herio'r hysbysiad a'r cyfnod o amser ar gyfer gwneud hynny.
13. Y materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 18(15) yw—
(a)erbyn pa ddyddiad y mae'n rhaid cyflwyno'r datganiad amgylcheddol drafft pellach (sef y dyddiad pan ddaw'r cyfnod perthnasol at ddibenion rheoliad 18(16) i ben);
(b)effaith rheoliad 18(17) (atal);
(c)effaith rheoliad 50 (parhad ataliad);
(ch)effaith rheoliad 51 (gwahardd);
(d)effaith rheoliad 18(19) i (24);
(dd)effaith rheoliad 18(25) (nid yw cyfarwyddyd i gyhoeddi yn atal yr hawl i fynnu cael gwybodaeth bellach neu dystiolaeth);
(e)y ddyletswydd a osodir ar y ceisydd neu'r apelydd gan reoliad 46 (cyhoeddusrwydd);
(f)yr hawl i herio'r hysbysiad a'r cyfnod o amser ar gyfer gwneud hynny.
14. Y materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 18(24)(ch) yw—
(a)effaith rheoliad 19(1) (dyletswydd i gydymffurfio â rheoliad 21);
(b)erbyn pa ddyddiad y mae'n rhaid cyflwyno'r dystiolaeth ddogfennol sy'n ofynnol o dan reoliad 21 (sef y dyddiad pan ddaw'r cyfnod perthnasol at ddibenion rheoliad 19(1) i ben);
(c)effaith rheoliad 19(2) (atal);
(ch)effaith rheoliad 50 (parhad ataliad);
(d)effaith rheoliad 51 (gwahardd);
(dd)gofynion rheoliad 20 (datganiadau amgylcheddol: y gofynion cyhoeddusrwydd);
(e)gofynion rheoliad 21 (gofyniad i gyflwyno tystiolaeth ddogfennol o gyhoeddi);
(f)y gofyniad a osodir gan reoliad 22(1) (darparu copïau o ddatganiad amgylcheddol);
(ff)y gofyniad a osodir gan reoliad 23 (argaeledd copïau o ddatganiadau amgylcheddol);
(g)yr hawl a roddir gan reoliad 25 (codi tâl am gopïau o ddatganiadau amgylcheddol);
(ng)pan fo'r hysbysiad yn ymwneud â chais AEA sydd gerbron awdurdod cynllunio mwynau perthnasol ar gyfer ei benderfynu, effaith rheoliad 24 (darparu copïau o ddatganiadau amgylcheddol i Weinidogion Cymru yn achos atgyfeiriad neu apêl);
(h)effaith rheoliad 18(25) (nid yw cyfarwyddyd i gyhoeddi yn atal yr hawl i fynnu cael gwybodaeth bellach neu dystiolaeth);
(i)effaith rheoliad 32(4) (gwahardd penderfynu yn ystod cyfnod ymgynghori);
(j)y ddyletswydd a osodir ar y ceisydd neu'r apelydd gan reoliad 46 (cyhoeddusrwydd);
(l)yr hawl i herio'r hysbysiad a'r cyfnod o amser ar gyfer gwneud hynny.
15. Y materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 26(3) yw—
(a)erbyn pa ddyddiad y mae'n rhaid cyflwyno gwybodaeth bellach (sef y dyddiad pan ddaw'r cyfnod perthnasol at ddibenion rheoliad 26(4) i ben);
(b)effaith rheoliad 26(5) (atal);
(c)effaith rheoliad 50 (parhad ataliad);
(ch)effaith rheoliad 51 (gwahardd);
(d)effaith rheoliad 28 (gwybodaeth bellach a thystiolaeth: gwiriadau cyn ymgynghori);
(dd)effaith rheoliad 26(6) (nid yw hysbysu yn atal y gofyniad i gyflwyno gwybodaeth bellach neu dystiolaeth);
(e)y ddyletswydd a osodir ar y ceisydd, apelydd neu, yn ôl y digwydd, y gweithredwr, gan reoliad 46 (cyhoeddusrwydd);
(f)yr hawl i herio'r hysbysiad a'r cyfnod o amser ar gyfer gwneud hynny.
16. Y materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 27(3) yw—
(a)erbyn pa ddyddiad y mae'n rhaid darparu'r dystiolaeth (sef y dyddiad pan ddaw'r cyfnod perthnasol at ddibenion rheoliad 27(4) i ben);
(b)effaith rheoliad 27(5) (atal);
(c)effaith rheoliad 50 (parhad ataliad);
(ch)effaith rheoliad 51 (gwahardd);
(d)effaith rheoliad 28 (gwybodaeth bellach a thystiolaeth: gwiriadau cyn ymgynghori);
(dd)effaith rheoliad 27(6) (nid yw hysbysu yn atal y gofyniad i gyflwyno gwybodaeth bellach neu dystiolaeth);
(e)y ddyletswydd a osodir ar y ceisydd, apelydd neu, yn ôl y digwydd, y gweithredwr, gan reoliad 46 (cyhoeddusrwydd);
(f)yr hawl i herio'r hysbysiad a'r cyfnod o amser ar gyfer gwneud hynny.
17. Y materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 28(5)(b) yw—
(a)erbyn pa ddyddiad y mae'n rhaid i'r wybodaeth bellach neu'r dystiolaeth gael ei hailgyflwyno (sef y dyddiad pan ddaw'r cyfnod perthnasol at ddibenion rheoliad 28(6) i ben);
(b)effaith rheoliad 28(7) (atal);
(c)effaith rheoliad 50 (parhad ataliad);
(ch)effaith rheoliad 51 (gwahardd);
(d)effaith rheoliad 28(8) i (12);
(dd)effaith rheoliad 28(13) (nid yw hysbysu yn atal y gofyniad i gyflwyno gwybodaeth bellach neu dystiolaeth);
(e)y ddyletswydd a osodir ar y ceisydd, apelydd neu, yn ôl y digwydd, y gweithredwr, gan reoliad 46 (cyhoeddusrwydd);
(f)yr hawl i herio'r hysbysiad a'r cyfnod o amser ar gyfer gwneud hynny.
18. Y materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 28(8)(ch) yw—
(a)erbyn pa ddyddiad y mae'n rhaid darparu tystiolaeth ddogfennol o gyhoeddi (sef y dyddiad pan ddaw'r cyfnod perthnasol at ddibenion rheoliad 29(1) i ben);
(b)effaith rheoliad 29(2) (atal);
(c)effaith rheoliad 50 (parhad ataliad);
(ch)effaith rheoliad 51 (gwahardd);
(d)gofynion rheoliad 30 (gwybodaeth bellach neu dystiolaeth: y gofynion cyhoeddusrwydd);
(dd)gofynion rheoliad 31 (tystiolaeth ddogfennol o gyhoeddi);
(e)effaith rheoliad 32(1) (darparu copïau ymgynghori i awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu i Weinidogion Cymru);
(f)effaith rheoliad 33 (nifer rhesymol o gopïau o wybodaeth bellach neu dystiolaeth i'w rhoi ar gael i'r cyhoedd);
(ff)yr hawl a roddir gan reoliad 35 (codi tâl am gopïau o wybodaeth bellach neu dystiolaeth);
(g)effaith rheoliad 34 (darparu copïau o wybodaeth bellach a thystiolaeth i Weinidogion Cymru yn achos atgyfeiriad neu apêl);
(ng)effaith rheoliad 32(4) (gwahardd penderfynu yn ystod cyfnod ymgynghori);
(h)effaith rheoliad 28(13) (nid yw hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan reoliad 28 yn rhwystro hawl i'w gwneud yn ofynnol i wybodaeth bellach neu dystiolaeth gael ei darparu);
(i) ddyletswydd a osodir ar y ceisydd, apelydd neu, yn ôl y digwydd, y gweithredwr, gan reoliad 46 (cyhoeddusrwydd);
(j)yr hawl i herio'r hysbysiad a'r cyfnod o amser ar gyfer gwneud hynny.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Atodlen 2 i Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 ac Atodlenni 13 a 14 i Ddeddf yr Amgylchedd 1995 yn sefydlu gweithdrefn orfodol ar gyfer adolygu'r amodau y bydd hen ganiatadau cynllunio mwynau yn ddarostyngedig iddynt. Mae ceisiadau am adolygiadau yn cael eu gwneud i'r awdurdodau perthnasol ar gyfer cynllunio mwynau (“ceisiadau AHGM”) a chaniateir iddynt fod yn destun atgyfeiriad neu apêl at Weinidogion Cymru.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu, o ran Cymru, Gyfarwyddeb y Cyngor 85/337/EEC ynghylch asesu effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol am yr amgylchedd (O.J. Rhif L 175, 5.7.1985, t. 40), fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 97/11/EC (O.J. Rhif L 73, 14.3.1997, t. 5) a Chyfarwyddeb y Cyngor 2003/35/EC (OJ Rhif L 156, 25.6.2003, t. 17) (“y Gyfarwyddeb”) o ran ceisiadau AHGM a gyflwynwyd cyn 15 Tachwedd 2000 ac sydd, ar neu ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, i'w penderfynu gan awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru (“ceisiadau AHGM amhenderfynedig”).
Mae'r Gyfarwyddeb wedi ei gweithredu, o ran ceisiadau AHGM yng Nghymru a gyflwynwyd ar ôl 15 Tachwedd 2000, gan Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 1999 (O.S. 1999/293), fel y'u haddaswyd gan Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2000 (2000/2867) (“y prif Reoliadau”).
Mae'r ddarpariaeth a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gwyro o ran rhai pethau oddi ar y ddarpariaeth a wnaed gan y prif Reoliadau. Crynhoir y prif wahaniaethau isod.
Mae Rhan 1 o'r Rheoliadau yn cyflwyno gweithdrefn i ganiatáu i awdurdodau cynllunio mwynau i estyn y cyfnodau amser statudol ar gyfer cydymffurfio â rhwymedigaethau sy'n cael eu gosod gan y Rheoliadau, yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru gyfarwyddo bod ceisiadau yn cael eu hatgyfeirio atynt er mwyn iddynt hwy benderfynu arnynt ac adennill costau oddi wrth awdurdodau cynllunio mwynau mewn achosion penodol.
Mae Rhan 2 yn barnu'n awtomatig fod pob cais AHGM amhenderfynedig yn gais AEA, yn ddarostyngedig i gyfnod o 3 wythnos y gall ceisydd ofyn am benderfyniad sgrinio oddi wrth Weinidogion Cymru.
Mae Rhan 3 yn ei gwneud yn ofynnol i benderfyniad cwmpasu gael ei wneud mewn cysylltiad â phob cais AHGM ac yn ei gwneud yn ofynnol i ddatganiad amgylcheddol (“DA”) gael ei gyflwyno ar ffurf drafft i'w wirio cyn ymgynghori.
Mae Rhan 4 yn caniatáu i awdurdodau cynllunio mwynau ac i Weinidogion Cymru alw am wybodaeth bellach neu dystiolaeth ac yn ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw wybodaeth o'r fath yn mynd drwy broses gwirio cyn ymgynghori. Mae'r Rhan hon yn ei gwneud yn ofynnol hefyd i awdurdodau cynllunio mwynau a Gweinidogion Cymru roi cyhoeddusrwydd i unrhyw adroddiadau perthnasol neu gyngor perthnasol y byddant wedi eu cael mewn perthynas â cheisiadau AEA cyn i'r Rheoliadau ddod i rym.
Mae Rhan 6 yn ei gwneud yn ofynnol i geiswyr, awdurdodau cynllunio mwynau a Gweinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw hysbysiadau ffurfiol a roddir o dan y Rheoliadau.
Mae Rhan 7 yn ymdrin ag atal gorchmynion datblygu mwynau a gorchmynion gwahardd mwynau. Pan fo ceisydd, apelydd neu weithredwr yn methu â chydymffurfio â'r rhwymedigaethau a osodir gan y Rheoliadau, bydd datblygiad mwynau a awdurdodwyd drwy'r caniatâd neu'r caniatadau cynllunio sy'n destun cais AEA wedi ei atal. Pan fo ataliad yn weithredol o dan y Rheoliadau, mae'r Rhan hon yn darparu bod effaith yr ataliad hwnnw yn parhau hyd nes y cydymffurfir â'r holl rwymedigaethau perthnasol.
Mae'r Rhan hon hefyd yn gosod dyletswydd ar awdurdodau cynllunio mwynau i ystyried a ddylent arfer eu swyddogaethau i wneud gorchmynion gwahardd o dan baragraff 3 o Atodlen 9 i Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 mewn achosion lle mae datblygiad mwynau wedi ei atal am ddwy flynedd ac na chydymffurfiwyd eto â rhwymedigaethau perthnasol o dan y Rheoliadau hyn. At ddibenion y ddyletswydd hon, mae'r Rhan hon yn addasu Atodlen 9 i Ddeddf 1990 fel bod rhaid i awdurdodau cynllunio mwynau ragdybio bod datblygiad mwynau wedi peidio'n barhaol ar ôl ataliad o ddwy flynedd os cânt eu bodloni y byddai'n annhebyg i ddatblygiad mwynau cyfreithlon ailgychwyn i unrhyw raddau sylweddol.
Mae asesiad effaith rheoleiddiol rhannol wedi'i baratoi a gellir cael copïau oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
Dynodir Gweinidogion Cymru felly gan O.S. 2007/1679.
1972 p.68. Mae adran 2(2) yn cynnwys y pŵer i wneud darpariaeth benodol mewn perthynas â'r Ardal Economaidd Ewropeaidd yn rhinwedd adran 2(5) o Ddeddf yr Ardal Economaidd Ewropeaidd 1993 (1993 p.51).
Rhoddodd Deddf 2000 y swyddogaethau perthnasol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac mae'r swyddogaethau hynny'n arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
O.S. 1994 Rhif 2716. Gwnaed diwygiad perthnasol i reoliad 10 gan O.S. 2007/1843.
O.S, 1995 Rhif 419; gwnaed diwygiadau perthnasol gan O.S. 1996/525; O.S. 1996/1817; O.S. 1997/858; O.S. 1999/981; Deddf yr Amgylchedd 1995 (p.25); a Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (p.37).
O.J. Rhif L175, 5.7.1985, t.40. Cafodd Cyfarwyddeb y Cyngor 85/337/EEC ei diwygio gan Gyfarwyddeb y Cyngor 97/11/EC (O.J. Rhif L73, 14.3.1997, t.5) a'i diwygio ymhellach gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2003/35/EC (O.J. Rhif L56, 25.6.2005, t.17).
Trosglwyddwyd swyddogaethau perthnasol yr Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddfau 1991 a 1995 i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999 Rhif 672 ac mae'r swyddogaethau hynny'n arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddfau 1991 a 1995, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999 Rhif 672 ac maent yn arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 ac maent yn arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
O.J. Rhif L103, 25.4.79, t.1.
Diwygiwyd y Gyfarwyddeb Adar Gwyllt ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2008/102/EC. O.J. Rhif L323, 3.12.2008, t.31.
O.J. Rhif L206, 27.7.92, t.7.
Diwygiwyd y Gyfarwyddeb Cynefinoedd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2006/105/EC ddyddiedig 20 Tachwedd 2006 a oedd yn addasu Cyfarwyddebau 79/409/EEC, 92/43/EEC, 97/68/EC, 2001/80/EC a 2001/81/EC ym maes yr amgylchedd, oherwydd ymaelodaeth Bwlgaria a Romania (O.J. Rhif L363, 20.12.2006, t. 368; a gweler O.J. L80, 21.3.2007, t. 15, ar gyfer y Corigendwm a ddiwygiodd yr enw gwreiddiol).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys
The data on this page is available in the alternative data formats listed: