Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009

Cadw, distrywio, trin yn arbennig, ailanfon a mesurau a chostau priodol eraillLL+C

31.—(1Mae gan awdurdod gorfodi bŵer i wneud unrhyw beth y caiff awdurdod cymwys ei wneud o dan [F1Erthyglau 46, 65 i 69, 71, a 72 o Reoliad 2017/625] os bydd yr amodau sydd wedi'u nodi yn yr Erthyglau hynny wedi'u bodloni.

[F2(2) Mae’r mesurau a gymerir gan yr awdurdod gorfodi o dan Erthyglau 66, 67 a 69 o Reoliad 2017/625 yn unol â pharagraff (1) i’w cymryd ar draul y gweithredydd sy’n gyfrifol am y llwyth.]