[F1Hysbysiadau mewn perthynas â mewnforio bwyd anifeiliaid a bwyd o drydydd gwledyddLL+C
32.—(1) Os bydd swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi yn bwriadu gosod llwyth o fwyd anifeiliaid neu fwyd yng nghadw yn swyddogol o dan Erthygl 65, 66 neu 67 o Reoliad 2017/625 rhaid i’r swyddog gyflwyno hysbysiad i’r perwyl hwnnw i’r gweithredydd sy’n gyfrifol am y llwyth.
(2) Cyn rhoi gorchymyn i’r gweithredydd i weithredu yn unol ag Erthygl 66(3)(a), (b) neu (c), rhaid i’r swyddog gorfodi wrando ar y gweithredydd hwnnw fel y darperir ym mhedwerydd is-baragraff Erthygl 66(3) o Reoliad 2017/625 oni bai bod angen gweithredu ar unwaith.
(3) Os bydd swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi yn bwriadu cymryd unrhyw rai o’r mesurau y cyfeirir atynt yn Erthygl 66 neu 67 o Reoliad 2017/625 mewn cysylltiad â llwyth o fwyd anifeiliaid neu fwyd, rhaid i’r swyddog gyflwyno hysbysiad i’r perwyl hwnnw i’r gweithredydd sy’n gyfrifol am y llwyth.]
Diwygiadau Testunol
F1Rhl. 32 wedi ei amnewid (14.12.2019) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 (O.S. 2019/1482), rhlau. 1(1), 26
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 32 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1