- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
TAI, CYMRU
Gwnaed
19 Ionawr 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
21 Ionawr 2009
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Ffioedd Chwiliadau Eiddo) (Datgymhwyso) (Cymru) 2009.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod y daw Rheoliadau sy'n dirymu Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Ffioedd Chwiliadau Tir) 1994(3) i rym.
(3) Dim ond i awdurdodau lleol yng Nghymru y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys.
2.—(1) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “mynediad i gofnodion eiddo” (“access to property records”) yw mynediad i gofnodion eiddo a roddir gan awdurdod lleol mewn unrhyw un neu rai o'r ffyrdd a ganlyn—
(a)caniatáu i berson archwilio neu chwilio cofnodion eiddo mewn man a ddynodwyd gan yr awdurdod ar gyfer gwneud hynny;
(b)caniatáu gwneud cofnodion eiddo, neu ddarparu copïau ohonynt; neu
(c)trosglwyddo cofnodion eiddo neu gopïau o'r cyfryw gofnodion yn electronig,
ac yn y Gorchymyn hwn mae'r ymadrodd “mynediad i gofnodion eiddo” (“access to property records”) i'w ddehongli'n unol â hynny.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr cyfeiriad at fod awdurdod lleol yn “ateb ymholiadau ynghylch eiddo” (“answering enquiries about a property”) yw—
(a)bod yr awdurdod yn ateb unrhyw ymholiad penodol, boed ar lafar neu'n ysgrifenedig, a wneir gan berson ynghylch eiddo neu gofnodion eiddo; neu
(b)bod yr awdurdod yn cyflawni unrhyw weithgareddau at ddibenion ateb y cyfryw ymholiadau.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
mae “cofnodion eiddo” (“property records”)—
yn cynnwys dogfennau, cofrestrau, ffeiliau ac archifau (sydd ar gadw ar unrhyw ffurf gan yr awdurdod lleol) sy'n ymwneud ag eiddo;
yn cynnwys gwybodaeth sy'n deillio o'r cyfryw ddogfennau, cofrestrau, ffeiliau ac archifau; ond
heb fod yn cynnwys cofrestr pridiannau tir lleol a gedwir o dan adran 3(2) o Ddeddf Pridiannau Tir Lleol 1975(4);
ystyr “eiddo” (“property”) yw adeilad neu adeiledd penodedig neu dir penodedig y mae cofnodion eiddo mewn perthynas ag ef ar gadw gan yr awdurdod lleol.
3. Nid yw adran 93(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 yn gymwys mewn perthynas â'r awdurdodau gwerth gorau a enwir yn erthygl 4, o ran caniatáu mynediad i gofnodion eiddo neu ateb ymholiadau ynghylch eiddo.
4. Cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru yw'r awdurdodau gwerth gorau y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddynt(5).
Jocelyn Davies
O dan awdurdod y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
19 Ionawr 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn datgymhwyso adran 93(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 yng Nghymru mewn cysylltiad â chwiliadau eiddo penodol. Rhestrir yn erthygl 4 yr awdurdodau gwerth gorau yng Nghymru y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddynt.
O dan erthygl 1(2), daw'r Gorchymyn hwn i rym pan ddirymir Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Ffioedd Chwiliadau Tir) 1994 o ran Cymru. Gwnaed y Rheoliadau hynny o dan adran 150 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, ac unwaith y byddant wedi eu dirymu, bydd Rheoliadau eraill sydd i'w gwneud o dan adran 150 mewn cysylltiad â ffioedd chwiliadau eiddo yn cymryd eu lle. Gwneir y Rheoliadau hyn i Gymru ar wahân i rai Lloegr. Gwneir hefyd Orchymyn Datgymhwyso tebyg ar gyfer Lloegr (O.S. 2008/2909).
Mae adran 93(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 yn galluogi awdurdodau gwerth gorau i godi ffi am wasanaethau, a bydd ei datgymhwyso'n galluogi'r Rheoliadau drafft, sy'n cael eu gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar yr un diwrnod â'r Gorchymyn hwn, i gael eu gwneud o dan adran 150 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989. Fel arall, mae adran 150(1)(b) yn caniatáu i'r cyfryw Reoliadau gael eu gwneud ddim ond mewn cysylltiad ag unrhyw beth nad oes unrhyw bwer neu ddyletswydd ac eithrio o dan y Rheoliadau i godi ffi mewn cysylltiad ag ef (“in respect of which there is no power or duty to impose a charge apart from the regulations”).
Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei baratoi mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn a gellir cael copi gan Llywodraeth Cynulliad Cymru, Y Gyfarwyddiaeth Dai, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ (ffôn 01685 729158).
Mae'r pwer o dan adran 94 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 yn arferadwy o ran Cymru gan Weinidogion Cymru; gweler y diffiniad o “appropriate person” yn adran 124 o'r Ddeddf, a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
Gweler y diffiniad o “Welsh best value authority” a “local authority in Wales” yn adran 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys
The data on this page is available in the alternative data formats listed: