Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 06/05/2009.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.

Offerynnau Statudol Cymru

2009 Rhif 995 (Cy.81)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009

Gwnaed

11 Ebrill 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

15 Ebrill 2009

Yn dod i rym

6 Mai 2009

Mae Gweinidogion Cymru, gan eu bod wedi eu dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) yn gwneud y Rheoliadau hyn o dan y pwerau a roddwyd gan yr adran honno fel y'i darllenir gyda pharagraff 1A o Atodlen 2 i'r Ddeddf honno.

Mae'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi, ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i'r offerynnau Cymunedol y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau hyn gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y'u diwygir o dro i dro.

RHAN 1LL+CDarpariaethau rhagarweiniol

Enwi, cychwyn a chymhwysoLL+C

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009. Maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 6 Mai 2009.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru a'r ardaloedd a bennir yn rheoliad 6.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

DehongliLL+C

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “adnoddyn naturiol” (“natural resource”) yw—

    (a)

    rhywogaethau a warchodir;

    (b)

    cynefinoedd naturiol;

    (c)

    rhywogaethau neu gynefinoedd ar safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig yr hysbyswyd o'r safle o dan adran 28 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(3);

    (ch)

    dŵr; a

    (d)

    tir;

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;

  • mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” o dan adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(4);

  • ystyr “cynefin naturiol” (“natural habitat”) yw—

    (a)

    cynefinoedd rhywogaethau a grybwyllir yn Erthygl 4(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 79/409/EEC ar warchod adar gwyllt, neu Atodiad I iddi(5) neu a restrir yn Atodiad II i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC ar warchod cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt(6);

    (b)

    y cynefinoedd naturiol a restrir yn Atodiad I i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC; ac

    (c)

    safleoedd bridio neu orffwysfannau'r rhywogaethau a restrir yn Atodiad IV i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC;

  • ystyr “dŵr daear” (“groundwater”) yw'r holl ddŵr sydd o dan wyneb y ddaear yn y parth dirlawnder ac sydd mewn cysylltiad uniongyrchol â'r ddaear neu'r isbridd;

  • ystyr “gwasanaethau” (“services”) yw'r swyddogaethau a gyflawnir gan adnoddyn naturiol er budd adnoddyn naturiol arall neu'r cyhoedd;

  • ystyr “gweithgaredd” (“activity”) yw unrhyw weithgaredd economaidd, p'un ai'n gyhoeddus neu'n breifat a ph'un a yw'n cael ei gyflawni er elw ai peidio;

  • ystyr “gweithredwr” (“operator”) yw person sy'n gweithredu neu'n rheoli gweithgaredd, deiliad trwydded neu awdurdodiad sy'n ymwneud â'r gweithgaredd hwnnw neu'r person sy'n cofrestru gweithgaredd o'r fath neu'n hysbysu ohono;

  • ystyr “rhywogaethau a warchodir” (“protected species”) yw'r rhywogaethau a grybwyllir yn Erthygl 4(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 79/409/EEC neu a restrir yn Atodiad I i'r Gyfarwyddeb honno neu Atodiadau II a IV i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC.

(2Onid ydynt wedi'u diffinio fel arall yn y Rheoliadau hyn, mae i ymadroddion Saesneg a ddefnyddir yng Nghyfarwyddeb 2004/35/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar atebolrwydd amgylcheddol parthed atal a chywiro difrod amgylcheddol(7) yr un ystyr â'r ymadroddion Cymraeg cyfatebol a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn.

(3Mewn perthynas â gollwng organeddau a addaswyd yn enetig yn fwriadol a'u rhoi ar y farchnad, mae “gweithredwr” (“operator”) a “gweithredwr cyfrifol” (“responsible operator”) yn cynnwys—

(a)deiliad cydsyniad perthnasol a ddyroddwyd o dan Gyfarwyddeb 2001/18/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ollwng yn fwriadol i'r amgylchedd organeddau a addaswyd yn enetig(8);

(b)deiliad cydsyniad perthnasol ar gyfer gollwng yn fwriadol organeddau a addaswyd yn enetig a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 111(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990(9); neu

(c)deiliad awdurdodiad perthnasol a ddyroddwyd o dan Reoliad (EC) Rhif 1829/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar fwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig(10).

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Cyfeiriadau at offerynnau CymunedolLL+C

3.  Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at offerynnau Cymunedol yn gyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y'u diwygir o dro i dro.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Ystyr “difrod amgylcheddol”LL+C

4.—(1Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag atal difrod amgylcheddol ac adfer i gywiro'r difrod hwnnw; ac mae “difrod amgylcheddol” (“environmental damage”) yn ddifrod i'r canlynol—

(a)rhywogaethau a warchodir neu gynefinoedd naturiol, neu safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig,

(b)dŵr wyneb neu ddŵr daear, neu

(c)tir,

fel a bennir yn y rheoliad hwn.

(2Mae difrod amgylcheddol i rywogaethau a warchodir neu gynefinoedd naturiol neu safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn golygu difrod o fath a bennir yn Atodlen 1.

(3Mae difrod amgylcheddol i ddŵr wyneb yn golygu difrod i grynofa dŵr wyneb sydd wedi'i dosbarthu fel y cyfryw yn unol â Chyfarwyddeb 2000/60/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n sefydlu fframwaith ar gyfer camau Cymunedol ym maes polisi dŵr(11) fel bod—

(a)elfen ansawdd biolegol a restrir yn Atodiad V i'r Gyfarwyddeb honno,

(b)lefel cemegyn a restrir yn y ddeddfwriaeth yn Atodiad IX neu gemegyn sydd wedi'i restru yn Atodiad X i'r Gyfarwyddeb honno, neu

(c)elfen ansawdd ffisiogemegol a restrir yn Atodiad V i'r Gyfarwyddeb honno,

yn newid digon i leihau statws y grynofa ddŵr yn unol â Chyfarwyddeb 2000/60/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (p'un a yw'r grynofa ddŵr wedi'i hailddosbarthu mewn gwirionedd fel un y mae ei statws yn is ai peidio).

(4Mae difrod amgylcheddol i ddŵr daear yn golygu unrhyw ddifrod i grynofa dŵr daear fel bod ei ddargludedd, lefel neu grynodiad y llygryddion yn newid digon i leihau ei statws yn unol â Chyfarwyddeb 2000/60/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (ac ar gyfer llygryddion Cyfarwyddeb 2006/118/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ddiogelu dŵr daear rhag llygredd a dirywiad(12)) (p'un a yw'r grynofa dŵr daear wedi'i hailddosbarthu mewn gwirionedd fel un y mae ei statws yn is ai peidio).

(5Mae difrod amgylcheddol i dir yn golygu halogi tir â sylweddau, paratoadau, organeddau neu ficro-organeddau sy'n arwain at risg sylweddol o effeithiau andwyol ar iechyd dynol.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Difrod amgylcheddol y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddoLL+C

5.—(1Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â difrod amgylcheddol os yw wedi'i achosi gan weithgaredd yn Atodlen 2.

(2Yn achos difrod amgylcheddol i rywogaethau a warchodir neu gynefinoedd naturiol neu safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, mae'r Rheoliadau yn gymwys hefyd o ran difrod amgylcheddol a achosir gan unrhyw weithgaredd arall os oedd y gweithredwr—

(a)yn bwriadu achosi difrod amgylcheddol; neu

(b)yn esgeulus ynghylch a fyddai difrod amgylcheddol yn cael ei achosi.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Yr ardaloedd lle'r mae'r Rheoliadau hyn yn gymwysLL+C

6.—(1Rhaid i'r difrod fod mewn ardal a bennir yn y tabl canlynol—

Y math o ddifrodYr ardal lle mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys
Difrod i ddŵrCymru a'r holl ddyfroedd hyd at un filltir fôr tua'r môr o'r gwaelodlin yng Nghymru
Difrod mewn safle o ddiddordeb gwyddonol arbennigCymru
Difrod i rywogaethau a warchodir neu gynefinoedd naturiolCymru
Difrod i dirCymru

(2Yn y rheoliad hwn, ystyr “y gwaelodlin” (“the baseline”) yw'r gwaelodlinau y mesurir lled y môr tiriogaethol ohonynt at ddibenion Deddf Moroedd Tiriogaethol 1987(13)

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 6 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Deddfwriaeth arallLL+C

7.—(1Nid yw'r Rheoliadau hyn yn lleihau effaith unrhyw ddeddfiad arall ynghylch difrod i'r amgylchedd.

(2Nid ydynt yn lleihau hawl gweithredwr i gyfyngu atebolrwydd yn unol â Chonfensiwn ar Gyfyngu Atebolrwydd am Hawliadau Morol 1976(14).

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 7 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

EsemptiadauLL+C

8.—(1Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran—

(a)difrod a ddigwyddodd cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym;

(b)difrod sy'n digwydd ar ôl y dyddiad hwnnw, neu y mae bygythiad y bydd yn digwydd ar ôl y dyddiad hwnnw, ond bod y difrod hwnnw wedi'i achosi gan ddigwyddiad, achlysur neu allyriad a ddigwyddodd cyn y dyddiad hwnnw; neu

(c)difrod sy'n cael ei achosi gan ddigwyddiad, achlysur neu allyriad sy'n digwydd ar ôl y dyddiad hwnnw os yw'n deillio o weithgaredd a ddigwyddodd ac a ddaeth i ben cyn y dyddiad hwnnw.

(2Nid ydynt yn gymwys o ran difrod amgylcheddol sy'n cael ei achosi gan—

(a)gweithred frawychiaeth;

(b)ffenomenon naturiol eithriadol, ar yr amod bod gweithredwr y gweithgaredd o dan sylw wedi cymryd pob rhagofal rhesymol i ddiogelu rhag bod difrod yn cael ei achosi gan achlysur o'r fath;

(c)gweithgareddau a'u hunig bwrpas yw diogelu rhag trychinebau naturiol;

(ch)digwyddiad y mae atebolrwydd neu iawndal amdano yn dod o fewn cwmpas—

(i)Confensiwn Rhyngwladol 27 Tachwedd 1992 ar Atebolrwydd Sifil am Ddifrod drwy Lygredd Olew;

(ii) Confensiwn Rhyngwladol 27 Tachwedd 1992 ar Sefydlu Cronfa Ryngwladol ar gyfer Iawndal am Ddifrod drwy Lygredd Olew(15); neu

(iii) Confensiwn Rhyngwladol ar Atebolrwydd Sifil am Ddifrod drwy Lygredd Olew Byncer 2001(16);

(d)gweithgareddau a'u prif bwrpas yw gwasanaethu dibenion amddiffyn gwladol neu ddiogelwch rhyngwladol;

(dd)ymbelydredd o weithgaredd y mae'r Cytuniad a sefydlodd Gymuned Ynni Atomig Ewrop yn ei gwmpasu neu ymbelydredd a achoswyd gan ddigwyddiad neu weithgaredd y mae atebolrwydd neu iawndal amdano yn dod o fewn cwmpas Confensiwn Paris dyddiedig 29 Gorffennaf 1960 ar Atebolrwydd Trydydd Partïon ym Maes Ynni Niwclear a Chonfensiwn Atodol Brwsel dyddiedig 31 Ionawr 1963; neu

(e)difrod a achoswyd wrth ymgymryd â physgota môr masnachol os cydymffurfiwyd â phob deddfwriaeth sy'n ymwneud â'r pysgota hwnnw.

(3Dim ond os yw'n bosibl cadarnhau cysylltiad achosol rhwng y difrod a gweithgareddau penodol y maent yn gymwys i ddifrod amgylcheddol a achoswyd gan lygredd gwasgarog ei natur.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 8 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Esemptiad rhag difrod i ddŵrLL+C

9.—(1Nid yw difrod i ddŵr yn cynnwys—

(a)difrod a achosir gan addasiadau newydd i nodweddion ffisegol crynofa dŵr wyneb,

(b)newid i lefel crynofa dŵr daear yn unol â Chyfarwyddeb 2000/60/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor, neu

(c)dirywio o statws uchel i statws da crynofa dŵr wyneb sy'n ganlyniad i weithgareddau newydd o ran datblygiadau dynol cynaliadwy yn unol â'r Gyfarwyddeb honno,

os caiff pob amod ym mharagraff (2) ei gyflawni.

(2Yr amodau yw—

(a)bod pob cam ymarferol yn cael ei gymryd i leddfu ar yr effaith andwyol ar statws y grynofa ddŵr;

(b)bod y rhesymau dros yr addasiadau neu'r newidiadau wedi'u gosod a'u hesbonio yn benodol yn y cynllun rheoli basn afon sy'n ofynnol o dan Erthygl 13 o Gyfarwyddeb 2000/60/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor a bod yr amcanion yn cael eu hadolygu bob chwe mlynedd;

(c)bod y rhesymau dros yr addasiadau neu'r newidiadau o ddiddordeb cyhoeddus hollbwysig, neu fod manteision yr addasiadau newydd neu'r newidiadau newydd i iechyd dynol, i waith cadw pobl yn ddiogel neu i ddatblygu cynaliadwy yn drech na chanlyniad y difrod; ac

(ch)nad oes modd i'r amcanion buddiol, y mae'r addasiadau neu'r newidiadau hynny i'r grynofa ddŵr yn gyfrwng i'w cyflawni, gael eu sicrhau drwy ddulliau eraill oherwydd dichonolrwydd technegol neu gostau anghymesur.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 9 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Yr awdurdodau gorfodi o dan Reoliadau Caniatáu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2007LL+C

10.—(1Bydd y Rheoliadau hyn yn cael eu gorfodi yn unol â'r rheoliad hwn os bydd y difrod wedi'i achosi gan weithfa, gweithred wastraff neu offer symudol y mae trwydded neu gofrestriad yn ofynnol ar ei chyfer neu ar eu cyfer o dan Reoliadau Caniatáu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2007(17).

(2Os Asiantaeth yr Amgylchedd sy'n gyfrifol am roi'r drwydded, caiff y Rheoliadau hyn eu gorfodi gan Asiantaeth yr Amgylchedd ym mhob achos.

(3Os yr awdurdod lleol sy'n gyfrifol am roi'r drwydded—

(a)gorfodir Rhan 2 gan yr awdurdod lleol;

(b)gorfodir Rhan 3 gan—

(i)yr awdurdod lleol os yw'r difrod yn ddifrod i dir;

(ii)Asiantaeth yr Amgylchedd os yw'r difrod yn ddifrod i ddŵr;

(iii)Cyngor Cefn Gwlad Cymru os yw'r difrod yn ddifrod i gynefinoedd naturiol neu rywogaethau a warchodir neu safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 10 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Yr awdurdodau gorfodi mewn achosion eraillLL+C

11.—(1Os yw'r difrod wedi'i achosi gan weithgaredd nad yw'n ofynnol cael trwydded neu gofrestriad ar ei gyfer o dan Reoliadau Caniatáu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2007, gorfodir y Rheoliadau hyn yn unol â'r tabl canlynol.

Y math o ddifrod amgylcheddolMan y difrodYr awdurdod gorfodi
Difrod i ddŵr—Asiantaeth yr Amgylchedd
Difrod i r ywogaethau a warchodir neu gynefinoedd naturiol neu safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig—tirCyngor Cefn Gwlad Cymru
dŵr ond nid yn y môr(1)Asiantaeth yr Amgylchedd
y môr— os yw'r difrod oherwydd gweithgaredd a awdurdodwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd, Asiantaeth yr Amgylchedd;
— fel arall, Gweinidogion Cymru
Niwed i dir—Yr awdurdod lleol

(1Mae “môr” yn cynnwys—

(a)unrhyw fan sydd dan y dŵr adeg llanw uchaf cymedrig y gorllanw; a

(b)pob un o'r canlynol, i'r graddau y mae'r llanw'n llifo adeg llanw uchaf cymedrig y gorllanw—

(i)pob aber neu forgainc; a

(ii)dyfroedd unrhyw sianel, cilfach, bae neu afon.

(2Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddiadau cyffredinol neu benodol eu natur i awdurdod gorfodi ynghylch cyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn.

(3Rhaid i awdurdod gorfodi gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir iddo o dan y Rheoliadau hyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Rhl. 11 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

GorfodiLL+C

12.—(1Os oes mwy nag un math o ddifrod, fel bod mwy nag un awdurdod gorfodi, gorfodir y Rheoliadau hyn gan unrhyw un neu gan bob un o'r awdurdodau gorfodi penodedig.

(2Caiff awdurdod gorfodi ymrwymo i drefniant gydag unrhyw awdurdod gorfodi arall i weithredu ar ei ran.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Rhl. 12 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

RHAN 2LL+CAtal difrod amgylcheddol

Atal difrod amgylcheddolLL+C

13.—(1Rhaid i weithredwr gweithgaredd sy'n peri bod bygythiad agos o ddifrod amgylcheddol, neu fygythiad agos o ddifrod y mae seiliau rhesymol dros gredu y bydd yn datblygu i fod yn ddifrod amgylcheddol, wneud y canlynol ar unwaith—

(a)cymryd pob cam ymarferol i atal y difrod; a

(b)(onid yw'r bygythiad wedi'i ddileu) hysbysu'r awdurdod gorfodi y mae'n ymddangos mai hwnnw yw'r un priodol o'r holl fanylion perthnasol.

(2Caiff yr awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad i'r gweithredwr hwnnw sydd—

(a)yn disgrifio'r bygythiad;

(b)yn pennu'r mesurau sy'n ofynnol i atal y difrod; ac

(c)yn ei gwneud yn ofynnol i'r gweithredwr gymryd y mesurau hynny, neu'r mesurau sydd o leiaf yn gyfwerth â hwy, o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad.

(3Mae methu â chydymffurfio â pharagraff (1) neu hysbysiad a gyflwynwyd o dan baragraff (2) yn dramgwydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Rhl. 13 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Atal difrod amgylcheddol pellachLL+C

14.—(1Rhaid i weithredwr gweithgaredd sydd wedi achosi difrod amgylcheddol, neu sydd wedi achosi difrod pan fo seiliau rhesymol dros gredu bod y difrod yn ddifrod amgylcheddol neu y bydd yn datblygu i fod yn ddifrod o'r fath, wneud y canlynol ar unwaith—

(a)cymryd pob cam ymarferol i atal difrod pellach; a

(b)hysbysu'r awdurdod gorfodi, y mae'n ymddangos mai hwnnw yw'r un priodol, o'r holl fanylion perthnasol.

(2Caiff yr awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad i'r gweithredwr hwnnw sydd—

(a)yn disgrifio'r difrod;

(b)yn ei gwneud yn ofynnol i'r gweithredwr ddarparu gwybodaeth ychwanegol am unrhyw ddifrod sydd wedi digwydd;

(c)yn pennu'r mesurau sy'n ofynnol i atal difrod pellach; ac

(ch)yn ei gwneud yn ofynnol i'r gweithredwr gymryd y mesurau hynny, neu fesurau sydd o leiaf yn gyfwerth â hwy, o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad.

(3Mae methu â chydymffurfio â pharagraff (1) neu hysbysiad a gyflwynwyd o dan baragraff (2) yn dramgwydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I14Rhl. 14 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Camau gan yr awdurdod gorfodiLL+C

15.  Caniateir i unrhyw ddyletswydd yn y Rhan hon sydd ar weithredwr gweithgaredd gael ei chyflawni gan yr awdurdod gorfodi yn lle'r gweithredwr—

(a)mewn argyfwng;

(b)os nad oes modd darganfod pwy yw'r gweithredwr; neu

(c)os yw'r gweithredwr yn methu â chydymffurfio â hysbysiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Rhl. 15 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Dilyn cyfarwyddiadau gan awdurdod cyhoeddusLL+C

16.  Pan fo gweithredwr yn gweithredu'n unol â chyfarwyddiadau awdurdod cyhoeddus, ac o ganlyniad yn achosi neu'n bygwth achosi difrod amgylcheddol, ac felly bod camau yn cael eu cymryd o dan reoliadau 13, 14 neu 15 yna, oni bai bod y cyfarwyddiadau yn ymwneud ag allyriad neu ddigwyddiad a achoswyd gan weithgareddau'r gweithredwr ei hun, caiff y gweithredwr adennill costau gweithredoedd o dan y rheoliadau hynny oddi wrth yr awdurdod cyhoeddus hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I16Rhl. 16 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

RHAN 3LL+CAdfer

Asesu difrodLL+C

17.  Pan fo difrod wedi'i achosi, a bod seiliau rhesymol dros gredu ei fod, neu y gall fod, yn ddifrod amgylcheddol, rhaid i'r awdurdod gorfodi gadarnhau a yw'n ddifrod amgylcheddol ai peidio.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Rhl. 17 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Penderfynu atebolrwydd i adferLL+C

18.—(1Os bydd yr awdurdod gorfodi'n penderfynu bod y difrod yn ddifrod amgylcheddol, rhaid iddo hysbysu gweithredwr neu weithredwyr unrhyw weithgaredd neu weithgareddau a achosodd y difrod (gweithredwr y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “y gweithredwr cyfrifol” (“the responsible operator”))—

(a)bod y difrod yn ddifrod amgylcheddol;

(b)bod gweithgaredd y gweithredwr cyfrifol yn un o achosion y difrod amgylcheddol;

(c)bod rhaid i'r gweithredwr cyfrifol gyflwyno cynigion, o fewn amser a bennir gan yr awdurdod gorfodi, ar gyfer mesurau a fyddai'n sicrhau adferiad i gywiro'r difrod amgylcheddol yn unol ag Atodlen 4; ac

(ch)bod gan y gweithredwr cyfrifol hawl i apelio.

(2Caiff yr awdurdod gorfodi dynnu'r hysbysiad yn ôl neu ei amrywio os yw wedi'i fodloni na ddylai'r hysbysiad fod wedi'i gyflwyno neu fod apêl yn erbyn yr hysbysiad yn debyg o lwyddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I18Rhl. 18 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Apelau yn erbyn atebolrwydd i adferLL+C

19.—(1Caiff person y cyflwynwyd hysbysiad iddo o dan reoliad 18 hysbysu Gweinidogion Cymru bod y person hwnnw'n bwriadu apelio yn erbyn yr hysbysiad hwnnw.

(2Rhaid i hysbysiad o apêl gael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru o fewn 28 niwrnod i gyflwyno hysbysiad o dan reoliad 18 oni chaiff y terfyn amser ei estyn gan Weinidogion Cymru.

(3Y seiliau dros apelio yw—

(a)nad oedd gweithgaredd y gweithredwr yn un o achosion y difrod amgylcheddol;

(b)bod yr awdurdod gorfodi wedi gweithredu'n afresymol drwy benderfynu bod y difrod yn ddifrod amgylcheddol;

(c)bod y difrod amgylcheddol wedi bod yn ganlyniad i gydymffurfio â chyfarwyddyd gan awdurdod cyhoeddus (ac eithrio cyfarwyddyd sy'n ymwneud ag allyriad neu ddigwyddiad a achoswyd gan weithgareddau'r gweithredwr ei hun);

(ch)nad oedd y gweithredwr cyfrifol ar fai nac yn esgeulus a bod y difrod amgylcheddol wedi'i achosi gan allyriad neu ddigwyddiad a awdurdodwyd yn bendant gan drwydded a restrir yn Atodlen 3 ac a oedd yn cydymffurfio'n llawn ag amodau'r drwydded honno;

(d)nad oedd y gweithredwr cyfrifol ar fai nac yn esgeulus a bod y difrod amgylcheddol wedi'i achosi gan allyriad neu weithgaredd neu unrhyw ddull o ddefnyddio cynnyrch yn ystod gweithgaredd y mae'r gweithredwr yn dangos nad oedd yn cael ei ystyried yn debyg o achosi difrod amgylcheddol yn ôl cyflwr gwybodaeth wyddonol a thechnegol pan gafodd yr allyriad ei ollwng neu pan ddigwyddodd y gweithgaredd;

(dd)bod y difrod amgylcheddol yn ganlyniad i weithred trydydd parti a'i fod wedi digwydd er gwaethaf y ffaith bod y gweithredwr cyfrifol wedi cymryd pob mesur diogelwch priodol.

(4Nid yw paragraff 3(d) yn gymwys mewn perthynas â gollwng yn fwriadol organeddau a addaswyd yn enetig.

(5Mae Atodlen 5 yn cynnwys gweithdrefnau ar gyfer yr apêl.

(6Caiff y person sy'n penderfynu'r apêl gadarnhau neu ddiddymu'r hysbysiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Rhl. 19 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Hysbysiadau adferLL+C

20.—(1Pan fydd yn cael y cynigion oddi wrth y gweithredwr cyfrifol (neu, os na cheir cynnig o fewn terfyn amser penodedig, unrhyw bryd ar ôl i'r terfyn amser ddirwyn i ben), rhaid i'r awdurdod gorfodi, i'r graddau y mae'n ymarferol, ymgynghori â'r canlynol—

(a)unrhyw un sydd wedi hysbysu awdurdod gorfodi o dan reoliad 29, a

(b)unrhyw berson y bydd y mesurau adfer yn cael eu cyflawni ar ei dir,

a chaiff ymgynghori ag unrhyw berson arall y mae'n ymddangos yn angenrheidiol ymgynghori ag ef.

(2Ar ôl ymgynghori rhaid i'r awdurdod gorfodi gyflwyno i'r gweithredwr cyfrifol hysbysiad adfer sy'n rhoi manylion—

(a)y difrod;

(b)y mesurau sy'n angenrheidiol ar gyfer adfer i gywiro'r difrod, ynghyd â'r rhesymau;

(c)y cyfnod pryd y mae'n rhaid cymryd y mesurau hynny ynddo;

(ch)unrhyw fesurau ychwanegol i fonitro neu i ymchwilio y mae'n rhaid i'r gweithredwr cyfrifol eu cyflawni yn ystod adferiad; a

(d)yr hawl i apelio yn erbyn yr hysbysiad adfer.

(3Caiff yr awdurdod gorfodi dynnu'r hysbysiad adfer yn ôl neu ei amrywio os yw wedi'i fodloni na ddylai'r hysbysiad adfer fod wedi'i gyflwyno neu y byddai apêl yn erbyn yr hysbysiad adfer yn debyg o lwyddo.

(4Mae methu â chydymffurfio â hysbysiad adfer yn dramgwydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I20Rhl. 20 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Apelio yn erbyn yr hysbysiad adferLL+C

21.—(1Caiff y gweithredwr cyfrifol hysbysu Gweinidogion Cymru fod y person hwnnw'n bwriadu apelio yn erbyn yr hysbysiad adfer ar y sail bod cynnwys yr hysbysiad hwnnw'n afresymol.

(2Dim ond yn erbyn y rhannau hynny o'r hysbysiad adfer sy'n wahanol i'r cynigion a wnaed gan y gweithredwr cyfrifol y caniateir i apêl gael ei dwyn.

(3Rhaid i hysbysiad o apêl gael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru o fewn 28 niwrnod i ddyddiad cyflwyno'r hysbysiad adfer oni chaiff y terfyn amser gael ei estyn gan Weinidogion Cymru.

(4Mae Atodlen 5 yn cynnwys gweithdrefnau ar gyfer yr apêl.

(5Caiff Gweinidogion Cymru neu'r person penodedig gadarnhau, amrywio neu ddiddymu'r hysbysiad, a rhaid i'r Gweinidogion neu'r person hwnnw roi hysbysiad ysgrifenedig o'r penderfyniad terfynol a'r rhesymau drosto, a chaniateir iddynt neu iddo ychwanegu, os yw'n briodol, gofynion adfer cydadferol pellach y mae'r treiglad amser ers i'r hysbysiad adfer gael ei gyflwyno yn eu gwneud yn angenrheidiol.

(6Nid oes angen cydymffurfio â hysbysiad adfer tra'n aros i apêl gael ei phenderfynu onid yw'r person sy'n gwrando'r apêl yn cyfarwyddo fel arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I21Rhl. 21 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Darpariaethau pellach am hysbysiadau adferLL+C

22.  Caiff awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiadau adfer pellach ar unrhyw bryd tra bo gwaith adfer yn cael ei wneud, neu os na fydd y gwaith adfer wedi'i gyflawni, ar ddiwedd y cyfnod adfer, yn ei gwneud yn ofynnol bod gwaith adfer pellach neu wahanol yn cael ei wneud.

Gwybodaeth Cychwyn

I22Rhl. 22 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Camau gan yr awdurdod gorfodiLL+C

23.  Pan fo wedi'i gadarnhau bod y difrod yn ei farn ef yn ddifrod amgylcheddol, caiff yr awdurdod gorfodi wneud unrhyw waith rhesymol—

(a)ar unrhyw bryd os na ellir darganfod pwy yw'r gweithredwr cyfrifol;

(b)os bydd gweithredwr cyfrifol yn methu â chydymffurfio â hysbysiad adfer, p'un a oes apêl yn yr arfaeth ai peidio; neu

(c)os nad yw'n ofynnol i'r gweithredwr cyfrifol adfer o dan y Rheoliadau hyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I23Rhl. 23 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

RHAN 4LL+CGweinyddu a gorfodi

Costau pan fo'r awdurdod gorfodi yn gweithredu'n lle'r gweithredwrLL+C

24.—(1Mae gweithredwr sy'n atebol i wneud gwaith o dan Ran 2 yn atebol am unrhyw gostau rhesymol a dynnir gan yr awdurdod gorfodi wrth gymryd unrhyw gamau rhesymol o dan reoliad 15.

(2Mae'r gweithredwr cyfrifol yn atebol am gostau rhesymol yr awdurdod gorfodi am unrhyw gamau a gymerwyd o dan reoliad 23 onid oedd y gweithredwr cyfrifol yn atebol am y camau a gymerwyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I24Rhl. 24 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Costau sy'n ymwneud â gweinydduLL+C

25.—(1Mae gweithredwr sy'n atebol am wneud gwaith o dan Ran 2 yn atebol am gostau rhesymol a dynnir gan yr awdurdod gorfodi wrth baratoi unrhyw hysbysiad o dan Ran 2, neu wrth sicrhau cydymffurfedd â'r Rhan honno.

(2Mae'r gweithredwr cyfrifol yn gyfrifol am y costau a dynnir gan yr awdurdod gorfodi o dan Ran 3, sef costau—

(a)asesu a yw'r difrod yn ddifrod amgylcheddol;

(b)darganfod pwy yw'r gweithredwr cyfrifol;

(c)darganfod pa waith adfer sy'n briodol;

(ch)gwneud unrhyw ymgynghori sy'n angenrheidiol; a

(d)monitro'r adferiad, yn ystod y gwaith ac ar ei ôl.

(3Mae costau'n golygu costau, y mae'r angen i sicrhau bod y Rheoliadau hyn yn cael eu gorfodi'n briodol ac yn effeithiol, yn eu cyfiawnhau.

Gwybodaeth Cychwyn

I25Rhl. 25 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Achosion cyfreithiol am gostau gan awdurdod gorfodiLL+C

26.  Ni chaniateir i unrhyw achos cyfreithiol i adennill costau gael ei gychwyn gan yr awdurdod gorfodi o dan y Rheoliadau hyn ar ôl i gyfnod o 5 mlynedd fynd heibio ers dyddiad—

(a)cwblhau'r mesurau y mae'r achos yn ymwneud â hwy, neu

(b)canfod p'un yw'r gweithredwr sy'n atebol am gyflawni'r mesurau,

p'un bynnag yw'r diweddaraf.

Gwybodaeth Cychwyn

I26Rhl. 26 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Costau y gellir eu hadennill oddi wrth berchennog i fod yn arwystl ar fangreLL+C

27.—(1Pan ellir adennill unrhyw gostau o dan y Rheoliadau hyn gan awdurdod gorfodi oddi wrth berson sy'n berchennog ar fangre a bod yr awdurdod gorfodi yn cyflwyno hysbysiad i'r person hwnnw o dan y rheoliad hwn—

(a)mae'r costau yn dwyn llog, yn ôl unrhyw gyfradd resymol y bydd yr awdurdod yn penderfynu arni, o ddyddiad cyflwyno'r hysbysiad hyd nes y caiff y swm cyfan ei dalu; a

(b)yn ddarostyngedig i'r canlynol, mae'r costau a'r llog cronedig yn arwystl ar y fangre.

(2Rhaid i hysbysiad a gyflwynir o dan y rheoliad hwn—

(a)pennu swm y costau y mae'r awdurdod gorfodi yn hawlio y gellir eu hadennill;

(b)datgan effaith paragraff (1) a chyfradd y llog a benderfynwyd gan yr awdurdod gorfodi o dan y paragraff hwnnw; ac

(c)datgan effaith paragraffau (4) i (6).

(3Ar y dyddiad y bydd awdurdod gorfodi yn cyflwyno hysbysiad i berson o dan y rheoliad hwn, rhaid i'r awdurdod gyflwyno copi o'r hysbysiad hefyd i bob person arall sydd, yn ôl gwybodaeth yr awdurdod, â buddiant yn y fangre a hwnnw'n fuddiant y gallai'r arwystl effeithio arno.

(4Yn ddarostyngedig i unrhyw orchymyn o dan baragraff (7)(b) neu (c) isod, mae swm unrhyw gostau a bennir mewn hysbysiad o dan y rheoliad hwn a'r llog cronedig yn arwystl ar y fangre—

(a)o ddiwedd y cyfnod o 21 o ddiwrnodau gan ddechrau ar ddyddiad cyflwyno'r hysbysiad, neu

(b)pan fo apêl yn cael ei dwyn o dan baragraff (6), o ddyddiad penderfynu'r apêl yn derfynol,

hyd nes y caiff y costau a'r llog eu hadennill.

(5At ddibenion paragraff (4), mae tynnu apêl yn ôl yn cael yr un effaith â phenderfynu apêl yn derfynol.

(6Caiff person y cyflwynwyd hysbysiad neu gopi o hysbysiad iddo o dan y rheoliad hwn apelio yn erbyn yr hysbysiad i'r llys sirol cyn pen y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy'n dechrau ar y dyddiad cyflwyno.

(7Ar apêl o'r fath caiff y llys—

(a)cadarnhau'r hysbysiad heb ei addasu;

(b)gorchymyn bod yr hysbysiad i gael effaith drwy roi swm gwahanol yn lle'r swm a bennwyd ynddo yn wreiddiol; neu

(c)gorchymyn na fydd unrhyw effaith i'r hysbysiad.

(8Mae gan awdurdod gorfodi, at ddibenion gorfodi arwystl o dan y rheoliad hwn, bob un o'r un pwerau a rhwymedïau o dan Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925(18), ac fel arall, fel petai'n forgeisai drwy weithred a chanddo bwerau gwerthu a lesio, derbyn ildiadau lesoedd a phenodi derbynnydd.

(9Yn y rheoliad hwn, ystyr “perchennog” (“owner”), mewn perthynas ag unrhyw fangre, yw person (ac eithrio morgeisai nad yw mewn meddiant) y mae ganddo, p'un ai yn hawl ei hun neu fel ymddiriedolwr i unrhyw berson arall, hawlogaeth i gael crogrent y fangre neu, pan na fo'r fangre wedi'i lesio ar grogrent, y byddai ganddo'r hawlogaeth honno pe bai'r fangre'n cael ei lesio felly.

Gwybodaeth Cychwyn

I27Rhl. 27 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Adennill costau oddi wrth bersonau eraillLL+C

28.  Caiff gweithredwr sy'n dod yn atebol i'r awdurdod gorfodi o dan y Rheoliadau hyn (p'un ai wrth gyflawni'r gwaith neu wrth dalu i'r awdurdod gorfodi) adennill y cyfan neu rywfaint o'r costau hynny oddi wrth unrhyw berson arall a achosodd y difrod hefyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I28Rhl. 28 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Ceisiadau am gamau gan bartïon sydd â buddiantLL+C

29.—(1Caiff unrhyw berson—

(a)y mae difrod amgylcheddol yn effeithio arno neu y mae'n debyg o effeithio arno, neu

(b)y mae ganddo fuddiant digonol fel arall,

hysbysu'r awdurdod gorfodi priodol o unrhyw ddifrod amgylcheddol sy'n cael ei achosi, neu sydd wedi'i achosi neu y mae bygythiad agos y byddai'n cael ei achosi.

(2Rhaid bod y canlynol yn mynd gyda'r hysbysiad—

(a)datganiad yn esbonio'r ffordd y bydd y difrod yn effeithio ar yr hysbysydd, neu'r rheswm bod gan yr hysbysydd fuddiant digonol; a

(b)gwybodaeth sy'n ddigon i alluogi'r awdurdod gorfodi i ganfod lleoliad a natur y digwyddiad.

(3Rhaid i'r awdurdod gorfodi ystyried yr hysbysiad a rhoi gwybod i'r hysbysydd am y camau, os oes rhai, y mae'n bwriadu eu cymryd.

(4Cyn cymryd unrhyw benderfyniad, rhaid i'r awdurdod gorfodi, os yw'n ymarferol—

(a)hysbysu'r gweithredwr o dan sylw o'r hysbysiad a'r wybodaeth sy'n dod gyda'r hysbysiad; a

(b)gwahodd y gweithredwr hwnnw i gyflwyno sylwadau arnynt.

(5Ni fydd paragraffau (3) a (4) yn gymwys—

(a)os nad yw'r hysbysydd yn debyg o gael ei effeithio neu os nad oes ganddo fuddiant digonol;

(b)os nad yw'r wybodaeth a ddarperir, ym marn yr awdurdod gorfodi, yn datgelu unrhyw ddifrod amgylcheddol neu fygythiad o ddifrod amgylcheddol; neu

(c)os nad yw'n ymarferol, oherwydd natur frys y sefyllfa, i'r awdurdod gorfodi gydymffurfio â'r paragraffau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I29Rhl. 29 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Rhoi hawliau mynediad etc. ac iawndal amdanyntLL+C

30.—(1Rhaid i unrhyw berson y mae'n ofynnol cael ei gydsyniad cyn bod unrhyw waith sy'n ofynnol gan y Rheoliadau hyn yn cael ei wneud, roi, neu ymuno i roi, hawliau o'r fath mewn perthynas ag unrhyw dir neu ddŵr a fyddai'n galluogi'r gweithredwr, neu berson sy'n gweithredu ar ran y gweithredwr, wneud y gwaith hwnnw.

(2Mae gan berson sy'n rhoi, neu sy'n ymuno i roi, unrhyw hawliau sy'n ofynnol gan baragraff (1) hawlogaeth i gael gan y gweithredwr iawndal a benderfynir yn unol ag Atodlen 6.

Gwybodaeth Cychwyn

I30Rhl. 30 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Pwerau personau awdurdodedigLL+C

31.—(1Caiff awdurdodau gorfodi awdurdodi personau at ddibenion gorfodi'r Rheoliadau hyn.

(2Mae'r pwerau yn adran 108 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995(19) yn gymwys o ran y Rheoliadau hyn, ac mae pwerau personau a awdurdodwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd yn yr adran honno'n arferadwy gan bersonau a awdurdodwyd gan unrhyw awdurdod gorfodi.

(3Mae'r pwerau hynny wedi'u hestyn i bob ardal y mae'r Rheoliadau hynny'n gymwys iddi.

(4Yn ychwanegol, caiff person a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru sy'n gorfodi'r Rheoliadau hyn mewn perthynas â'r môr fynd ar fwrdd llong neu weithfa forol ar unrhyw bryd a'i harolygu.

(5At ddibenion arfer y pwerau yn y rheoliad hwn, caiff y person awdurdodedig ei gwneud yn ofynnol i long neu weithfa forol—

(a)stopio; neu

(b)gwneud unrhyw beth arall a fyddai'n hwyluso mynd ar fwrdd y llong neu weithfa forol honno neu unrhyw long neu weithfa forol arall.

(6Caiff person awdurdodedig sydd wedi mynd ar fwrdd llong neu weithfa forol, er mwyn glanio o'r llong neu'r weithfa, ei gwneud yn ofynnol i'r llong neu weithfa forol honno neu unrhyw long neu weithfa forol arall—

(a)stopio; neu

(b)gwneud unrhyw beth arall a fyddai'n galluogi'r person awdurdodedig, ac unrhyw berson sydd gydag ef, i lanio.

(7Caiff person awdurdodedig ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd ar fwrdd llestr neu weithfa forol roi unrhyw gyfleusterau a chymorth ynghylch materion sydd o dan reolaeth y person hwnnw y byddai'r person awdurdodedig yn barnu y byddent yn hwyluso'r broses o arfer unrhyw bŵer a roddwyd gan y rheoliad hwn.

(8Mae'n dramgwydd peidio â chydymffurfio â chyfarwyddiadau a roddir o dan y rheoliad hwn, neu ddarparu'n fwriadol wybodaeth anwir neu gamarweiniol.

Gwybodaeth Cychwyn

I31Rhl. 31 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Darparu gwybodaeth i'r awdurdod gorfodiLL+C

32.  Caiff awdurdod gorfodi ei gwneud yn ofynnol i weithredwr ddarparu unrhyw wybodaeth y bydd ar yr awdurdod gorfodi angen rhesymol amdani i gyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn, a bydd methiant i ddarparu'r wybodaeth honno yn dramgwydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I32Rhl. 32 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

GorfodiLL+C

33.  Ni chaniateir i unrhyw gamau gorfodi gael eu cymryd o dan y Rheoliadau hyn 30 o flynyddoedd neu fwy ar ôl yr allyriad, yr achlysur neu'r digwyddiad o dan sylw.

Gwybodaeth Cychwyn

I33Rhl. 33 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

CosbauLL+C

34.—(1Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn agored—

(a)ar gollfarn ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol neu garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis, neu'r ddau; neu

(b)ar gollfarn ar dditiad, i ddirwy neu garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd, neu'r ddau.

(2Os yw corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, ac os profir bod y tramgwydd wedi'i gyflawni drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi'i briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran—

(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu berson arall tebyg yn y corff corfforaethol, neu

(b)unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swyddogaeth o'r fath,

mae'r person hwnnw yn euog o'r tramgwydd yn ogystal â'r corff corfforaethol.

(3At ddibenion paragraff (2) , ystyr “cyfarwyddwr” (“director”), mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.

Gwybodaeth Cychwyn

I34Rhl. 34 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Jane Davidson

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru

11 Ebrill 2009

Rheoliad 4

ATODLEN 1LL+CDifrod i rywogaethau a warchodir, cynefinoedd naturiol a safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig

Difrod i rywogaethau a warchodir a chynefinoedd naturiolLL+C

1.—(1Yn achos rhywogaeth a warchodir neu gynefin naturiol (ac eithrio difrod ar safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig y mae paragraff 4 yn gymwys iddo), rhaid i natur y difrod olygu bod ganddo effaith andwyol sylweddol ar gyrraedd neu gadw statws cadwraeth ffafriol y rhywogaeth a warchodir neu'r cynefin naturiol gan gymryd i ystyriaeth—

(a)y statws cadwraeth adeg y difrod;

(b)y gwasanaethau a ddarperir gan yr amwynderau y maent yn eu cynhyrchu;

(c)eu gallu i adfywio'n naturiol;

(ch)nifer yr unigolion, eu dwysedd neu'r ardal a gwmpesir;

(d)rôl yr unigolion penodol neu'r ardal a ddifrodwyd mewn perthynas â'r rhywogaeth neu gadwraeth y cynefin a phrinder y rhywogaeth neu'r cynefin a aseswyd ar y lefel berthnasol p'un ai'n lleol, yn rhanbarthol neu ledled y Gymuned;

(dd)gallu'r rhywogaeth i luosogi, ei hyfywedd neu allu'r cynefin i adfywio'n naturiol; ac

(e)gallu'r rhywogaeth neu'r cynefin i ymadfer o fewn cyfnod byr i'r amser yr achoswyd y difrod i gyflwr a arweiniodd at ei gyflwr adeg y difrod neu gyflwr gwell heb unrhyw ymyrraeth ac eithrio cynyddu mesurau gwarchod.

Gwybodaeth Cychwyn

I35Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Statws cadwraeth cynefinoedd naturiolLL+C

2.—(1Statws cadwraeth cynefin naturiol yw swm y dylanwadau sy'n effeithio ar y cynefin hwnnw a'i rywogaethau nodweddiadol a'r rheini'n ddylanwadau a allai effeithio ar ddosbarthiad, strwythur a swyddogaethau naturiol hirdymor y cynefin hwnnw yn ogystal â goroesiad hirdymor ei rywogaethau nodweddiadol.

(2Mae ei statws cadwraeth yn ffafriol—

(a)os yw'r gwasgariad naturiol a'r ardaloedd sy'n cael eu cwmpasu yn y gwasgariad naturiol hwnnw yn sefydlog neu'n cynyddu;

(b)os yw'r strwythur a'r swyddogaethau penodol sy'n angenrheidiol ar gyfer gwaith cynnal hirdymor ar y cynefin naturiol yn bodoli a'u bod yn debyg o barhau i fodoli hyd y gellir rhag-weld; ac

(c)os yw statws cadwraeth ei rywogaethau nodweddiadol yn ffafriol.

Gwybodaeth Cychwyn

I36Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Statws cadwraeth rhywogaethauLL+C

3.—(1Statws cadwraeth rhywogaeth yw swm y dylanwadau sy'n effeithio ar y rhywogaeth o dan sylw ac a allai effeithio ar ddosbarthiad a helaethrwydd ei phoblogaethau yn y tymor hir.

(2Mae statws cadwraeth yn ffafriol—

(a)os yw'r data am ddynameg poblogaeth y rhywogaeth o dan sylw yn dangos ei bod yn ymgynnal ei hun ar sail hirdymor fel cydran hyfyw o'i chynefin naturiol;

(b)os nad yw gwasgariad naturiol y rhywogaeth yn cael ei leihau nac yn debyg o gael ei leihau hyd y gellir rhag-weld; ac

(c)os oes, a'i bod yn debyg y bydd o hyd, gynefin digon mawr i gynnal ei phoblogaethau ar sail hirdymor.

Gwybodaeth Cychwyn

I37Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennigLL+C

4.—(1Yn achos safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, rhaid i'r difrod fod yn ddifrod—

(a)i'r rhywogaethau neu'r cynefinoedd a hysbyswyd o dan adran 28 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad Act 1981(20); neu

(b)rhywogaethau a warchodir neu gynefinoedd naturiol.

(2Rhaid bod y difrod wedi cael effaith andwyol ar gyfanrwydd y safle (hynny yw, cydlyniad ei strwythur ecolegol a'i swyddogaeth, ar draws ei arwynebedd cyfan, sy'n ei alluogi i gynnal cynefin, cymhlethfa o gynefinoedd neu lefelau poblogaethau'r rhywogaethau yr effeithiwyd arnynt).

Gwybodaeth Cychwyn

I38Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Awdurdodiad pendantLL+C

5.  Nid yw difrod i rywogaethau a warchodir a chynefinoedd naturiol, a difrod ar safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn cynnwys difrod a achoswyd gan weithred a awdurdodwyd yn bendant gan yr awdurdodau perthnasol yn unol â Rheoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol, etc.) 1994(21) neu Ran II o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.

Gwybodaeth Cychwyn

I39Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Rheoliad 5

ATODLEN 2LL+CGweithgareddau sy'n achosi difrod

Gweithrediadau y mae'r Atodlen hon yn gymwys iddyntLL+C

1.  Mae'r Atodlen hon yn rhestru'r gweithgareddau y mae atebolrwydd amdanynt o dan reoliad 5(1).

Gwybodaeth Cychwyn

I40Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Gweithredu gweithfeydd a ganiateirLL+C

2.  Gweithredu gweithfeydd sy'n ddarostyngedig i drwydded yn unol â Chyfarwyddeb 2008/1/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch dulliau integredig o atal a rheoli llygredd(22) (pob gweithgaredd a restrir yn Atodiad I i'r Gyfarwyddeb honno ac eithrio gweithfeydd neu rannau o weithfeydd a ddefnyddir ar gyfer ymchwilio i gynhyrchion a phrosesau newydd, eu datblygu a'u profi).

Gwybodaeth Cychwyn

I41Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Gweithrediadau rheoli gwastraffLL+C

3.—(1Gweithrediadau rheoli gwastraff, gan gynnwys casglu, cludo, adfer a gwaredu gwastraff a gwastraff peryglus, goruchwylio gweithrediadau o'r fath ac ôl-ofal dros safleoedd gwaredu, yn ddarostyngedig i drwydded neu gofrestriad yn unol â Chyfarwyddeb 2006/12/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar wastraff(23) a Chyfarwyddeb y Cyngor 91/689/EEC ar wastraff peryglus(24).

(2Gweithredu safleoedd tirlenwi o dan Gyfarwyddeb y Cyngor 1999/31/EC ar gladdu gwastraff(25) a gweithredu gweithfeydd hylosgi o dan Gyfarwyddeb 2000/76/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar hylosgi gwastraff(26).

(3Nid yw hyn yn cynnwys taenu slwtsh carthion o weithfeydd trin dŵr gwastraff trefol, sydd wedi'i drin yn unol â safon gymeradwy, at ddibenion amaethyddol.

Gwybodaeth Cychwyn

I42Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Gwastraff mwyngloddioLL+C

4.  Rheoli gwastraff echdynnol o dan Gyfarwyddeb 2006/21/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reoli gwastraff o ddiwydiannau echdynnol(27).

Gwybodaeth Cychwyn

I43Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Gollyngiadau y mae'n ofynnol cael awdurdodiad ar eu cyferLL+C

5.—(1Pob gollyngiad i mewn i'r dŵr wyneb mewndirol y mae'n ofynnol cael awdurdodiad ymlaen llaw ar ei gyfer yn unol â Chyfarwyddeb 2006/11/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar lygredd a achosir gan sylweddau peryglus penodol a ollyngir i amgylchedd dyfrol y Gymuned(28).

(2Pob gollyngiad sylwedd i mewn i ddŵr daear y mae'n ofynnol cael awdurdodiad ymlaen llaw ar ei gyfer yn unol â Chyfarwyddeb 80/68/EEC ar ddiogelu dŵr daear rhag llygredd a achosir gan sylweddau peryglus penodol(29).

(3Pob gollyngiad neu chwistrelliad llygrydd i mewn i ddŵr wyneb neu ddŵr daear y mae'n ofynnol cael trwydded, awdurdodiad neu gofrestriad ar ei gyfer o dan Gyfarwyddeb 2000/60/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n sefydlu fframwaith ar gyfer camau Cymunedol ym maes polisi dŵr(30).

Gwybodaeth Cychwyn

I44Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Tynnu dŵr a'i gronniLL+C

6.  Tynnu dŵr a chronni dŵr yn ddarostyngedig i awdurdodiad ymlaen llaw yn unol â Chyfarwyddeb 2000/60/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor yn sefydlu fframwaith ar gyfer camau Cymunedol ym maes polisi dŵr.

Gwybodaeth Cychwyn

I45Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Sylweddau peryglus, cynhyrchion diogelu planhigion a chynhyrchion bywleiddiolLL+C

7.  Gweithgynhyrchu, defnyddio, storio, prosesu, llenwi, gollwng i'r amgylchedd a chludo ar safle y deunyddiau canlynol—

(a)sylweddau peryglus fel y'u diffinnir yn Erthygl 2(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 67/548/EEC ar gyd-ddynesu cyfreithiau, rheoliadau a darpariaethau gweinyddol yr Aelod-wladwriaethau ynglŷn â dosbarthu, pecynnu a labelu sylweddau peryglus (31);

(b)paratoadau peryglus fel y'u diffinnir yn Erthygl 2(2) o Gyfarwyddeb 1999/45/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch cyd-ddynesu cyfreithiau, rheoliadau a darpariaethau gweinyddol yr Aelod-wladwriaethau ynglŷn â dosbarthu, pecynnu a labelu paratoadau peryglus(32);

(c)cynhyrchion diogelu planhigion fel y'u diffinnir yn Erthygl 2(1) o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/414/EEC ynghylch rhoi cynhyrchion diogelu planhigion ar y farchnad(33); ac

(ch)cynhyrchion bywleiddiol fel y'u diffinnir yn Erthygl 2(1)(a) o Gyfarwyddeb 98/8/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch rhoi cynhyrchion bywleiddiol ar y farchnad(34).

Gwybodaeth Cychwyn

I46Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

CludiantLL+C

8.  Cludo ar hyd ffordd, rheilffordd, dyfrffyrdd mewndirol, ar y môr neu drwy'r awyr nwyddau peryglus neu nwyddau llygru fel y'u diffinnir yn—

(a)Atodiad A i Gyfarwyddeb y Cyngor 94/55/EC ar gyd-ddynesu cyfreithiau Aelod-wladwriaethau parthed cludo nwyddau peryglus ar hyd y ffordd(35);

(b)yr Atodiad i Gyfarwyddeb y Cyngor 96/49/EC ar gyd-ddynesu cyfreithiau Aelod-wladwriaethau parthed cludo nwyddau peryglus ar hyd y rheilffordd(36); ac

(c)Cyfarwyddeb y Cyngor 93/75/EEC ynghylch isafswm y gofynion ar gyfer llestrau sy'n mynd i borthladdoedd Cymunedol neu'n ymadael â hwy ac yn cario nwyddau peryglus neu nwyddau llygru(37).

Gwybodaeth Cychwyn

I47Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Organeddau a addaswyd yn enetigLL+C

9.—(1Unrhyw ddefnydd amgaeëdig, gan gynnwys cludo, sy'n cynnwys organeddau a addaswyd yn enetig (gan gynnwys micro-organeddau a addaswyd yn enetig fel y'u diffinnir gan Gyfarwyddeb y Cyngor 90/219/EEC ar ddefnydd amgaeëdig o ficro-organeddau a addaswyd yn enetig(38)).

(2Unrhyw weithred o ollwng yn fwriadol i'r amgylchedd, cludo a rhoi ar y farchnad organeddau a addaswyd yn enetig fel y'i diffinnir gan Gyfarwyddeb 2001/18/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ollwng organeddau a addaswyd yn enetig yn fwriadol i'r amgylchedd(39).

Gwybodaeth Cychwyn

I48Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Cludo llwythi gwastraff ar draws ffiniauLL+C

10.  Cludo llwythi gwastraff ar draws ffiniau o fewn y Gymuned, i mewn iddi neu allan ohoni, a honno'n weithred y mae'n ofynnol cael awdurdodiad ar ei chyfer neu'n weithred sydd wedi ei gwahardd o dan Reoliad (EC) Rhif 1013/2006 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gludo llwythi gwastraff(40).

Gwybodaeth Cychwyn

I49Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Rheoliad 19

ATODLEN 3LL+CTrwyddedau, etc.

1.  Mae'r canlynol yn drwyddedau at ddibenion rheoliad 19(3) i'r graddau y maent yn ymwneud â gweithgaredd yn Atodlen 2—LL+C

(a)trwydded a roddir o dan Reoliadau Caniatáu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2007(41) neu gofrestriad o dan y Rheoliadau hynny;

(b)trwydded a roddir o dan Ran II o Ddeddf Bwyd a Diogelu'r Amgylchedd 1985(42);

(c)cydsyniad gollwng dŵr, gorchymyn sychder cyffredin neu orchymyn sychder brys neu drwydded sychder o dan Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991(43);

(ch)awdurdodiad o dan Reoliadau Dŵr Daear 1998(44);

(d)trwydded tynnu dŵr neu drwydded cronni dŵr o dan Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991;

(dd)cymeradwyaeth o blaleiddiad o dan Reoliadau Rheoli Plaleiddiaid 1986(45), awdurdodiad o gynnyrch bywleiddiol o dan Reoliadau Cynhyrchion Bywleiddiol 2001(46) neu awdurdodiad o blaleiddiad o dan Reoliadau Cynhyrchion Diogelu Planhigion 2005(47).

Gwybodaeth Cychwyn

I50Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Rheoliad 18

ATODLEN 4LL+CAdfer

RHAN 1LL+CAdfer i gywiro difrod i adnoddau naturiol ac eithrio tir

Cymhwyso Rhan 1LL+C

1.  Mae'r Rhan hon yn ymwneud ag adfer i gywiro difrod i adnoddau naturiol ac eithrio tir.

Gwybodaeth Cychwyn

I51Atod. 4 para. 1 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Risg i iechyd dynolLL+C

2.  Rhaid i waith adfer ddileu unrhyw risg o bwys i iechyd dynol.

Gwybodaeth Cychwyn

I52Atod. 4 para. 2 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Yr amcanLL+C

3.  Amcan adfer yw sicrhau'r un lefel o adnoddyn neu wasanaethau naturiol â'r hyn a fyddai wedi bodoli pe na bai'r difrod wedi digwydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I53Atod. 4 para. 3 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Adferiad sylfaenol ac adferiad cydategolLL+C

4.—(1Rhaid i'r adferiad gynnwys unrhyw adferiad sylfaenol neu adferiad cydategol a fydd yn sicrhau'r amcan neu'r ddau os bydd hynny'n ei sicrhau.

(2Mae adferiad sylfaenol yn unrhyw fesur adfer sy'n peri i'r adnoddau naturiol a ddifrodwyd neu'r gwasanaethau amharedig ddychwelyd i'r cyflwr, neu tua'r cyflwr, a fyddai wedi bodoli pe na bai'r difrod wedi digwydd (mae ymadferiad naturiol yn ffurf a ganiateir ar adferiad sylfaenol mewn achosion priodol).

(3Mae adferiad cydategol yn unrhyw fesur adfer a gymerir mewn perthynas ag adnoddau neu wasanaethau naturiol i wneud iawn am y ffaith nad yw adferiad sylfaenol yn arwain at edfryd yr adnoddau naturiol a ddifrodwyd neu'r gwasanaethau amharedig yn gyfan gwbl yn ôl i'r cyflwr a fyddai wedi bodoli pe na bai'r difrod wedi digwydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I54Atod. 4 para. 4 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Adferiad cydadferolLL+C

5.—(1Yn ychwanegol rhaid darparu adferiad cydadferol i wneud iawn am golledion interim o ran adnoddau neu wasanaethau naturiol sy'n digwydd o ddyddiad y difrod hyd nes y bydd yr adferiad wedi cyflawni ei amcan; ac yn y paragraff hwn ystyr “colledion interim” (“interim losses”) yw colledion sy'n deillio o'r ffaith nad yw'r adnoddau naturiol a ddifrodwyd na'r gwasanaethau yn gallu cyflawni eu swyddogaethau ecolegol na darparu gwasanaethau i adnoddau naturiol eraill nac i'r cyhoedd hyd nes y bydd yr adferiad sylfaenol wedi'i gwblhau.

(2Nid yw adferiad cydadferol yn cynnwys iawndal.

Gwybodaeth Cychwyn

I55Atod. 4 para. 5 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Y dewis o ran adferiadLL+C

6.—(1Rhaid gwerthuso'r opsiynau adfer gan ddefnyddio'r dulliau gorau sydd ar gael, ac ar sail—

(a)effaith pob opsiwn ar iechyd a diogelwch y cyhoedd;

(b)y gost o weithredu'r opsiwn;

(c)yn achos pob opsiwn, pa mor debyg yw hi y byddai'n llwyddo;

(ch)i ba raddau y bydd pob opsiwn yn atal difrod yn y dyfodol, ac yn osgoi difrod ystlysol o ganlyniad i weithredu'r opsiwn;

(d)i ba raddau y mae pob opsiwn o fudd i bob un o gydrannau'r adnoddyn naturiol neu'r gwasanaeth;

(dd)i ba raddau y mae pob opsiwn yn cymryd i ystyriaeth bryderon cymdeithasol, economaidd a diwylliannol perthnasol a ffactorau perthnasol eraill sy'n ymwneud yn benodol â'r lleoliad;

(e)faint o amser y bydd yn ei gymryd i'r gwaith edfryd a wneir i gywiro'r difrod amgylcheddol fod yn effeithiol;

(f)i ba raddau y mae pob opsiwn yn sicrhau bod safle'r difrod amgylcheddol yn cael ei edfryd; ac

(ff)y cysylltiad daearyddol â'r safle a ddifrodwyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I56Atod. 4 para. 6 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Canfod adferiad cydategol ac adferiad cydadferolLL+C

7.—(1Os yw'n bosibl, rhaid i fesurau adfer cydategol a rhai cydadferol ddarparu adnoddau neu wasanaethau naturiol o'r un math, ansawdd a nifer â'r rhai a ddifrodwyd.

(2Pan na fo hynny'n bosibl, rhaid darparu adnoddau neu wasanaethau naturiol tebyg ond gwahanol (er enghraifft, drwy wrthbwyso lleihad yn ansawdd adnoddau neu wasanaethau naturiol drwy gynyddu'r nifer ohonynt).

(3Pan na fo hynny'n bosibl, caniateir i adnoddau neu wasanaethau naturiol gwahanol gael eu darparu, a rhaid i brisiad ariannol y mesurau adfer fod yr un fath â phrisiad ariannol yr adnoddau neu'r gwasanaethau naturiol a gollwyd.

(4Os yw'n ymarferol prisio'r adnoddau neu'r gwasanaethau naturiol a gollwyd, ond nad oes modd prisio'r mesurau adfer o fewn cyfnod amser rhesymol neu am bris rhesymol, yna caniateir darparu mesurau adfer y mae eu cost (yn lle eu prisiad ariannol) yn gyfwerth â'r adnoddau neu'r gwasanaethau naturiol a gollwyd.

(5Yn achos adferiad cydategol ar safle newydd, pan fo'n bosibl ac yn briodol, dylai'r safle hwn fod yn ddaearyddol gysylltiedig â'r safle a ddifrodwyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I57Atod. 4 para. 7 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

OpsiynauLL+C

8.—(1Wrth werthuso'r gwahanol opsiynau adfer a ganfyddwyd, caniateir penderfynu ar fesurau adfer sylfaenol nad ydynt yn edfryd yn llawn y dŵr neu'r rhywogaethau a warchodir neu'r cynefin naturiol a ddifrodwyd yn ôl i'w gyflwr neu i'w cyflwr adeg y digwyddiad neu benderfynu ar fesurau adfer sylfaenol sy'n ei edfryd neu'n eu hedfryd yn fwy araf (er enghraifft, pan ellid darparu'r adnoddau neu'r gwasanaethau naturiol cyfwerth yn rhywle arall am gost is).

(2Dim ond os gwneir iawn am yr adnoddau neu'r gwasanaethau naturiol sy'n cael eu hepgor o ganlyniad i'r penderfyniad drwy gynyddu'r camau cydategol neu'r rhai cydadferol i ddarparu lefel debyg o adnoddau neu wasanaethau naturiol y ceir gwneud y penderfyniad hwn.

(3Caiff yr awdurdod gorfodi benderfynu ar unrhyw bryd nad oes angen cymryd unrhyw fesurau adfer pellach—

(a)os yw'r mesurau adfer sydd eisoes wedi'u cymryd wedi dileu unrhyw risg sylweddol o effeithio'n andwyol ar iechyd dynol, dŵr neu rywogaethau a warchodir a chynefinoedd naturiol; a

(b)os byddai cost y mesurau adfer y mae eu hangen i edfryd yr hyn a ddifrodwyd yn ôl i'w gyflwr cyn y digwyddiad yn anghymesur o'u cymharu â'r buddion amgylcheddol y gellid eu cael.

Gwybodaeth Cychwyn

I58Atod. 4 para. 8 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

RHAN 2LL+CAdfer i gywiro difrod i dir

Adfer i gywiro difrod i dirLL+C

9.—(1Mae'r Rhan hon yn gymwys mewn perthynas â difrod i dir.

(2Rhaid i'r adferiad sicrhau, o leiaf, bod yr halogion perthnasol yn cael eu gwaredu, eu rheoli, eu cyfyngu neu eu lleihau fel na fydd y tir mwyach, gan ystyried y defnydd cyfredol cyfreithlon a wneir ohono neu unrhyw ganiatâd cynllunio a oedd yn bodoli adeg y difrod, yn peri unrhyw risg sylweddol o effeithio'n andwyol ar iechyd dynol.

(3Rhaid i bresenoldeb risgiau o'r fath gael ei asesu drwy weithdrefnau asesu risg gan ystyried nodweddion a swyddogaeth y pridd, y math o sylweddau, paratoadau, organeddau neu ficro-organeddau niweidiol a'r crynodiad ohonynt, y risg y maent yn ei beri a'r posibilrwydd o'u gwasgaru.

(4Mae ymadferiad naturiol yn ffurf ar adfer a ganiateir mewn achosion priodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I59Atod. 4 para. 9 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Rheoliadau 19 a 21

ATODLEN 5LL+CApelau

RHAN 1LL+CApelau os nad Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod gorfodi

1.  Mae'r Rhan hon yn gymwys os nad Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod gorfodi.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I60Atod. 5 para. 1 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

2.  Rhaid i hysbysiad o apêl gynnwys—LL+C

(a)copi o'r hysbysiad neu'r hysbysiad adfer yr apelir yn ei erbyn; a

(b)seiliau'r apêl.

Gwybodaeth Cychwyn

I61Atod. 5 para. 2 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

3.  Pan ddaw hysbysiad i law, rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o'r hysbysiad am apêl i'r awdurdod gorfodi, a rhaid i'r awdurdod gorfodi anfon copi ar unwaith at unrhyw berson y mae'n ymddangos i'r awdurdod gorfodi fod ganddo fuddiant arbennig ym mhwnc yr apêl, a hysbysu Gweinidogion Cymru o bwy y mae wedi'i hysbysu.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I62Atod. 5 para. 3 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

4.  Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r apelydd o'r terfyn amser erbyn pryd y mae'n rhaid i'r apelydd ddarparu mewn ysgrifen—LL+C

(a)datganiad o achos; a

(b)pob gohebiaeth berthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I63Atod. 5 para. 4 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

5.  Pan ddaw'r rhain i law, rhaid i Weinidogion Cymru anfon yr holl ddogfennau i'r awdurdod gorfodi, gan roi i'r awdurdod gorfodi derfyn amser erbyn pryd y mae'n rhaid iddo roi ymateb ysgrifenedig.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I64Atod. 5 para. 5 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

6.  Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r un pryd unrhyw berson a hysbyswyd o dan baragraff 3 o'r terfyn amser o dan baragraff 5 a'i wahodd i gyflwyno sylwadau erbyn y dyddiad hwnnw.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I65Atod. 5 para. 6 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

7.  Rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu wedyn a oes angen tystiolaeth bellach, a rhoi cyfarwyddiadau'n unol â hynny.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I66Atod. 5 para. 7 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

8.  Rhaid i Weinidogion Cymru gyfeirio'r apêl wedyn i berson a benodwyd ganddynt i ymdrin â'r apêl, gan ddatgan wrth y person penodedig a oes rhaid ymdrin â'r apêl drwy weithdrefn ysgrifenedig ai peidio ynteu a oes rhaid cynnal gwrandawiad.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I67Atod. 5 para. 8 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

9.  Ar ôl i'r apêl gael ei chwblhau gan y person penodedig, rhaid iddo benderfynu'r mater neu, os caiff ei gyfarwyddo gan Weinidogion Cymru ar unrhyw bryd cyn bod y penderfyniad wedi'i wneud, gyflwyno argymhelliad i Weinidogion Cymru, a rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu'r apêl.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I68Atod. 5 para. 9 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

10.  Caiff y person sy'n penderfynu'r apêl wneud unrhyw orchymyn ynghylch costau'r partïon (gan gynnwys partïon sy'n cyflwyno sylwadau) y gwêl yn dda.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I69Atod. 5 para. 10 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

RHAN 2LL+CApelau os Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod gorfodi

11.  Os Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod gorfodi, mae'r gweithdrefnau yn Rhan 1 yn gymwys ac eithrio—LL+C

(a)bod rhaid i Weinidogion Cymru benodi person cyn gynted â bod hysbysiad o apêl yn dod i law;

(b)bod rhaid i'r person penodedig gyflawni swyddogaethau Gweinidogion Cymru a bennwyd yn y Rhan honno; ac

(c)bod rhaid i'r person penodedig benderfynu'r apêl ym mhob achos.

Gwybodaeth Cychwyn

I70Atod. 5 para. 11 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Rheoliad 30

ATODLEN 6LL+CIawndal

Iawndal am ganiatáu hawliauLL+C

1.  Mae'r Atodlen hon yn rhagnodi—

(a)y cyfnod pryd y caiff person sy'n caniatáu, neu sy'n ymuno i ganiatáu, unrhyw hawliau yn unol â rheoliad 30 wneud cais am iawndal am ganiatáu'r hawliau hynny;

(b)y modd y caniateir i'r cais gael ei wneud, a'r person y caniateir i'r cais gael ei gyflwyno iddo; ac

(c)y modd o benderfynu'r iawndal, ar gyfer penderfynu swm yr iawndal ac ar gyfer gwneud darpariaeth atodol ynglŷn â'r iawndal.

Gwybodaeth Cychwyn

I71Atod. 6 para. 1 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

DehongliLL+C

2.  Yn yr Atodlen hon—

  • ystyr “buddiant perthnasol” (“relevant interest”) yw buddiant mewn tir y mae hawl wedi'i ganiatáu ohono neu sy'n rhwym o dan hawl a ganiatawyd; ac

  • ystyr “y grantwr” (“the grantor”) yw'r person sy'n caniatáu, neu sy'n ymuno i ganiatáu, unrhyw hawl.

Gwybodaeth Cychwyn

I72Atod. 6 para. 2 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Y cyfnod ar gyfer gwneud caisLL+C

3.  Rhaid i gais am iawndal gael ei wneud cyn diwedd cyfnod o 12 mis sy'n dechrau—

(a)ar ddyddiad caniatáu'r hawliau yr hawlir iawndal amdanynt, neu

(b)pan fo apêl yn erbyn yr hysbysiad y caniatawyd yr hawliau hynny mewn perthynas ag ef, ar y dyddiad y caiff yr apêl ei phenderfynu neu ei thynnu'n ôl,

p'un bynnag yw'r dyddiad diweddaraf.

Gwybodaeth Cychwyn

I73Atod. 6 para. 3 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Dull gwneud caisLL+C

4.—(1Rhaid i gais am iawndal gael ei wneud mewn ysgrifen a'i draddodi yng nghyfeiriad gohebu hysbys diwethaf y person y rhoddwyd yr hawl iddo neu ei anfon yn rhagdaledig drwy'r post i'r cyfeiriad hwnnw.

(2Rhaid i'r cais gynnwys—

(a)copi o'r grant hawliau y mae'r grantwr yn gwneud cais am iawndal amdano ac o unrhyw blaniau sydd ynghlwm wrth y grant hwnnw;

(b)disgrifiad o union natur unrhyw fuddiant mewn tir y gwneir cais am iawndal amdano; ac

(c)datganiad o swm yr iawndal y gwneir cais amdano, gan wahaniaethu rhwng y symiau y gwneir cais amdanynt o dan bob un o is-baragraffau (a) i (d) o baragraff 5 a chan ddangos sut y cyfrifwyd y swm y gwneir cais amdano o dan bob is-baragraff.

Gwybodaeth Cychwyn

I74Atod. 6 para. 4 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Colled a difrod y mae iawndal yn daladwy amdanyntLL+C

5.  Mae iawndal yn daladwy am golled a difrod o'r disgrifiadau canlynol—

(a)unrhyw ddibrisiant yng ngwerth unrhyw fuddiant perthnasol y mae gan y grantwr hawlogaeth iddo ac sy'n ganlyniad i ganiatáu'r hawl;

(b)colled neu ddifrod, mewn perthynas ag unrhyw fuddiant perthnasol y mae gan y grantwr hawlogaeth iddo—

(i)y gellir ei briodoli i grant yr hawl neu i arfer yr hawl honno;

(ii)nad yw'n cynnwys dibrisiant yng ngwerth y buddiant hwnnw; a

(iii)sy'n golled neu'n ddifrod y byddai hawlogaeth wedi bod gan y grantwr i gael iawndal ar ffurf iawndal am aflonyddu amdani neu amdano, pe bai'r buddiant hwnnw wedi'i gaffael yn orfodol o dan Ddeddf Caffael Tir 1981(48), yn unol â hysbysiad i drafod telerau a gyflwynwyd ar y dyddiad y rhoddwyd y grant o'r hawl;

(c)difrod i unrhyw fuddiant mewn tir y mae gan y grantwr hawlogaeth i'w gael nad yw'n fuddiant perthnasol ac sy'n deillio o grant yr hawl neu o arfer yr hawl;

(ch)unrhyw golled neu ddifrod a ddioddefwyd gan y grantwr, ac eithrio mewn perthynas ag unrhyw fuddiant mewn tir y mae gan y grantwr hawlogaeth iddo, y gellir ei phriodoli neu ei briodoli i grant yr hawl neu i arfer yr hawl; a

(d)swm unrhyw brisiad a chostau cyfreithiol a dynnwyd yn rhesymol gan y grantwr wrth ganiatáu'r hawl ac wrth baratoi'r cais am iawndal ac wrth negodi swm yr iawndal.

Gwybodaeth Cychwyn

I75Atod. 6 para. 5 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Y sail ar gyfer asesu'r iawndalLL+C

6.—(1Bydd y rheolau a nodir yn adran 5 o Ddeddf Iawndal Tir 1961(49) (rheolau ar gyfer asesu iawndal) yn cael effaith, i'r graddau y maent yn gymwys ac yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau angenrheidiol, at ddibenion asesu unrhyw iawndal o'r fath yn yr un modd ag y maent yn effeithiol at ddibenion asesu iawndal ar gyfer caffael buddiant mewn tir yn orfodol.

(2Pan fo'r buddiant perthnasol y mae iawndal i'w asesu mewn perthynas ag ef yn ddarostyngedig i forgais—

(a)rhaid i'r iawndal gael ei asesu fel pe na bai'r buddiant yn ddarostyngedig i'r morgais;

(b)ni fydd unrhyw iawndal yn daladwy mewn perthynas â buddiant y morgeisai (yn wahanol i'r buddiant sy'n ddarostyngedig i'r morgais); ac

(c)rhaid i unrhyw iawndal sy'n daladwy mewn cysylltiad â'r buddiant sy'n ddarostyngedig i'r morgais gael ei dalu i'r morgeisai neu, os oes mwy nag un morgeisai, i'r morgeisai cyntaf ac, yn y naill achos neu'r llall, rhaid ei gymhwyso fel petai'n enillion ar werthiant.

Gwybodaeth Cychwyn

I76Atod. 6 para. 6 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Penderfynu materion sy'n destun dadlLL+C

7.—(1Rhaid cyfeirio unrhyw gwestiwn ynghylch iawndal sy'n destun dadl at y Tribiwnlys Tiroedd er mwyn iddynt hwy benderfynu arno.

(2Mewn perthynas â phenderfynu unrhyw gwestiwn iawndal, bydd adrannau 2 a 4 o Ddeddf Iawndal Tir 1961 (y weithdrefn ynglŷn â chyfeirio at y Tribiwnlys Tiroedd a'r costau) yn gymwys—

(a)fel petai'r cyfeiriad yn adran 2 o Ddeddf Iawndal Tir 1961 at adran 1 o'r Ddeddf honno yn gyfeiriad at is-baragraff (1) o'r paragraff hwn; a

(b)fel petai'r cyfeiriadau yn adran 4 o'r Ddeddf honno at yr awdurdod caffael yn gyfeiriadau at y person y rhoddwyd yr hawliau iddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I77Atod. 6 para. 7 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb 2004/35/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar atebolrwydd amgylcheddol parthed atal ac adfer difrod amgylcheddol.

Maent yn gymwys i ddifrod i rywogaethau a warchodir, cynefinoedd naturiol, safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig, dŵr a thir (rheoliad 4).

Maent yn cael eu gorfodi gan y cyrff a bennir yn rheoliadau 10 ac 11.

Maent yn darparu, ar gyfer gweithgareddau economaidd penodol, bod rhaid i'r gweithredwr, pan fo risg agos o ddifrod amgylcheddol, gymryd camau i'w atal, ac os yw wedi digwydd, rhaid iddo atal difrod pellach. Pan fo difrod wedi digwydd, rhaid i'r awdurdod gorfodi asesu'r difrod a chanfod mesurau adfer. Rhaid iddo wedyn gyflwyno hysbysiad adfer i'r gweithredwr cyfrifol gan bennu pa waith adfer y mae ei angen (Rhan 3).

Maent yn gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi (Rhan 4).

Mae torri darpariaethau a bennir yn y Rheoliadau yn dramgwydd y gellir ei gosbi—

(a)ar gollfarn ddiannod, â dirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol neu garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis, neu'r ddau; neu

(b)ar gollfarn ar dditiad, â dirwy neu garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd, neu'r ddau.

Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i baratoi a gellir cael copïau oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(1)

Mae'r dynodiadau perthnasol wedi'u rhoi gan O.S. 2002/248 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2000/3329 (mesurau sy'n ymwneud â chadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt); O.S. 2003/2901, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2006/3329 (mesurau sy'n ymwneud ag adnoddau dŵr a mesurau sy'n ymwneud â rheoli a rheoleiddio gollwng organeddau a addaswyd yn enetig yn fwriadol, eu rhoi ar y farchnad a'u symud ar draws ffiniau); O.S. 2005/850 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2006/3329 (mesurau sy'n ymwneud ag atal, lleihau a dileu llygredd a achosir gan wastraff a rheoli pecynnu a gwastraff pecynnu a mesurau sy'n ymwneud ag atal a chyfyngu ar effeithiau damweiniau sy'n cynnwys sylweddau peryglus i'r graddau y maent yn ymwneud â pholisïau a chaniatadau cynllunio defnydd tir); ac O.S. 2007/193 (mesurau sy'n ymwneud ag atal a chywiro halogiad tir).

(2)

1972 p.68. Mewnosodwyd paragraff 1A yn Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p.51).

(3)

1981 p.69. Cafodd Rhan II o'r Ddeddf (sy'n cynnwys adran 28) ei mewnosod gan Atodlen 9 i Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (p.37) a'i diwygio wedi hynny gan Atodlen 11 i Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 (p.16).

(5)

OJ Rhif L 103, 25.4.1979, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2008/102/EC, OJ Rhif L 323, 3.12.2008, t. 31).

(6)

OJ Rhif L 206, 22.7.1992, t. 7, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2006/105/EC (OJ Rhif L 363, 20.12.2006, t. 368).

(7)

OJ Rhif L 143, 30.4.2004, t. 56 fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb 2006/21/EC (OJ Rhif L 102, 11.4.2006, t. 15).

(8)

OJ Rhif L 106, 17.4.2001, t. 1 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2008/27/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 81, 20.3.2008, t. 45).

(10)

OJ Rhif L 268, 18.10.2003, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 298/2008 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 97, 9.4.2008, t. 64).

(11)

OJ Rhif L 327, 22.12.2000, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2008/105/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 348, 24.12.2008, t. 84).

(12)

OJ Rhif L 372, 27.12.2006, t. 19.

(14)

Mae'r Confensiwn wedi'i osod yn Atodlen 7 i Ddeddf Llongau Masnachol 1995 (p.21).

(15)

Rhoddwyd y ddau gonfensiwn hyn ar waith yn Neddf Llongau Masnachol 1995 (p.21).

(16)

Fe'i rhoddwyd ar waith yn Neddf Llongau Masnachol 1995 drwy ddiwygiadau a wnaed i'r Ddeddf honno gan O.S. 2006/1244.

(18)

1925 p.20.

(19)

1995 p.25.

(20)

1981 p.69. Cafodd Rhan II o'r Ddeddf (sy'n cynnwys adran 28) ei mewnosod gan Atodlen 9 i Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (p.37) a'i diwygio wedi hynny gan Atodlen 11 i Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 (p.16).

(21)

O.S. 1994/2716 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan O.S. 2009/6.

(22)

OJ Rhif L 24, 29.1.2008, t. 8.

(23)

OJ Rhif L 114, 27.4.2006, t. 9, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 312, 22.11.2008, t. 3).

(24)

OJ Rhif L 377, 31.12.91, t. 20, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 312, 22.11.2008, t. 3).

(25)

OJ Rhif L 182, 16.7.99, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1137/2008 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 311, 21.11.2008, t. 1).

(26)

OJ Rhif L 332, 28.12.2000, t. 91, fel y'i cywirwyd yn OJ Rhif L 145, 31.5.2001, t. 52.

(27)

OJ Rhif L 102, 11.4.2006, t. 15.

(28)

OJ Rhif L 64 ,4.3.2006, t. 52.

(29)

OJ Rhif L 20, 26.1.80, t. 43, fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 91/692/EC (OJ Rhif L 377, 31.12.1991, t. 48).

(30)

OJ Rhif L 327, 22.12.2000, t. 1 fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb 2008/105/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 348, 24.12.2008, t. 84).

(31)

OJ Rhif L 196, 16.8.67, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 2008/1272 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 353, 31.12.2008, t. 1).

(32)

OJ Rhif L 200, 30.7.99, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 2008/1272 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 353, 31.12.2008, t. 1).

(33)

OJ Rhif L 230, 19.8.91, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2008/127/EC (OJ Rhif L 344, 20.12.2008, t. 89).

(34)

OJ Rhif L 123, 24.4.98, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2008/31/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 81, 20.3.2008, t. 57).

(35)

OJ Rhif L 319, 12.12.94, t. 7 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/89/EC (OJ Rhif L 305, 4.11.2006, t. 4).

(36)

OJ Rhif L 235, 17.9.96, t. 25, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/90/EC (OJ Rhif L 305, 4.11.2006, t. 6).

(37)

OJ Rhif L 247, 5.10.93, t. 19, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2002/84/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 324, 29.11.2002, t. 53).

(38)

OJ Rhif L 117, 8.5.90, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Comisiwn 2005/174/EC (OJ Rhif L 59, 5.3.2005, t. 20).

(39)

OJ Rhif L 106, 17.4.2001, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2008/27/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 81, 20.3.2008, t. 45).

(40)

OJ Rhif L 190, 12.7.2006, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 669/2008 (OJ Rhif L 188, 16.7.2008, t. 7).

(42)

1985 p.48.

(43)

1991 p.57, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Dŵr 2003 (p. 37).

(44)

O.S. 1998/2746 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan O.S. 2007/3538.

(45)

O.S. 1986/1510 y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(46)

O.S. 2001/880 y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(47)

O.S. 2005/1435 y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(48)

1981 p.67.

(49)

1961 p.33.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill