- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
6.—(1) Rhaid i'r Awdurdod baratoi unrhyw becynnau unigol rheolaidd, pecynnau unigol wedi'u talu ymlaen llaw, pecynnau aelwyd a phecynnau sefydliad cymunedol yn unol â'r rheoliad hwn y mae'n credu bod eu hangen at ddibenion y cyfrifiad.
(2) Rhaid i gynnwys pob pecyn a baratoir yn unol â'r rheoliad hwn gael ei gynnwys mewn amlen o dan sêl (“amlen ddosbarthu”), (“delivery envelope”) y gall unrhyw gyfeiriad sydd wedi'i argraffu ar yr holiadur gael ei weld drwyddi.
(3) Rhaid i amlen ddosbarthu pecyn unigol rheolaidd gynnwys—
(a)copi o holiadur I2;
(b)copi o holiadur I2W;
(c)unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae'r Awdurdod yn credu y gallai helpu i lenwi a dychwelyd holiadur I2 ac i lenwi a dychwelyd holiadur I2W; ac
(ch)amlen ffurflen unigol.
(4) Rhaid i amlen ddosbarthu pecyn unigol wedi'i dalu ymlaen llaw gynnwys—
(a)copi o holiadur I2;
(b)copi o holiadur I2W;
(c)unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae'r Awdurdod yn credu y gallai helpu i lenwi a dychwelyd holiadur I2 ac i lenwi a dychwelyd holiadur I2W; ac
(ch)amlen wedi'i thalu ymlaen llaw.
(5) Rhaid i amlen ddosbarthu pecyn aelwyd gynnwys—
(a)copi o holiadur H2;
(b)copi o holiadur H2W;
(c)unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae'r Awdurdod yn credu y gallai helpu i lenwi a dychwelyd holiadur H2 ac i lenwi a dychwelyd holiadur H2W; ac
(ch)amlen wedi'i thalu ymlaen llaw.
(6) Rhaid i amlen ddosbarthu pecyn sefydliad cymunedol gynnwys—
(a)copi o holiadur CE1;
(b)copi o holiadur CE2W; ac
(c)unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae'r Awdurdod yn credu y gallai helpu i lenwi a dychwelyd holiadur CE1 ac i lenwi a dychwelyd holiadur CE2W.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys