Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer (Cymru) 2010

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

RHAN 1Cyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer (Cymru) 2010 a deuant i rym ar 11 Mehefin 2010.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diffiniadau

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “aer amgylchynol” (“ambient air”) yw aer y tu allan yn y troposffer, heb gynnwys gweithleoedd fel a ddiffinnir gan Gyfarwyddeb y Cyngor 89/654/EEC(1) lle y mae darpariaethau sy'n ymwneud ag iechyd a diogelwch yn y gwaith yn gymwys ac nad oes gan aelodau'r cyhoedd fynediad rheolaidd atynt;

  • ystyr “AOT 40” (“AOT 40”) (wedi ei fynegi mewn (μg/m3) . yr awr) yw swm y gwahaniaeth rhwng crynodiadau yn ôl yr awr sy'n fwy na 80 μg/m3 (= 40 o rannau fesul biliwn) ac 80 μg/m3 dros gyfnod penodol drwy ddefnyddio'n unig y gwerthoedd un awr wedi eu mesur rhwng 08:00 o'r gloch ac 20:00 o'r gloch Amser Ewropeaidd Canolog (CET) bob dydd;

  • ystyr “arsenig” (“arsenic”), “cadmiwm” (“cadmium”), “nicel” (“nickel”) a “benso(a)pyren” (“benzo(a)pyrene”) yw cyfanswm cynnwys yr elfennau a'r cyfansoddion hynny o fewn y ffracsiwn PM10;

  • ystyr “asesu” ac “asesiad” (“assessment”) yw asesu a wneir drwy gyfrwng mesuriadau sefydlog, mesuriadau dangosol, modelu neu dechnegau amcangyfrif gwrthrychol;

  • ystyr “Cyfarwyddeb 2004/107/EC” (“Directive 2004/107/EC”) yw Cyfarwyddeb 2004/107/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n ymwneud ag arsenig, cadmiwm, mercwri, nicel a hydrocarbonau aromatig polysyclig mewn aer amgylchynol(2);

  • ystyr “Cyfarwyddeb 2008/50/EC” (“Directive 2008/50/EC”) yw Cyfarwyddeb 2008/50/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ansawdd aer amgylchynol ac aer glanach ar gyfer Ewrop(3);

  • ystyr “cyfradd llwyr ddyddodiad” (“total deposition rate”) yw cyfanswm màs llygryddion a drosglwyddir o'r atmosffer i arwynebau megis pridd, llystyfiant, dŵ r ac adeiladau mewn ardal benodol o fewn amser penodol;

  • ystyr “ffin goddefiant” (“margin of tolerance”) yw canran y gwerth terfyn a ganiateir i lefel fynd yn uwch na'r gwerth hwnnw mewn blwyddyn benodol;

  • ystyr “hydrocarbonau aromatig polysyclig” (“polycyclic aromatic hydrocarbons”) yw'r cyfansoddion organig hynny sydd wedi eu cyfansoddi o ddau gylch aromatig o leiaf wedi ymasio ac wedi eu gwneud yn gyfan gwbl o garbon a hydrogen;

  • ystyr “llygrydd” (“pollutant”) yw unrhyw un neu ragor o'r canlynol—

    (a)

    arsenig,

    (b)

    bensen,

    (c)

    benso(a)pyren neu hydrocarbonau aromatig polysyclig eraill,

    (ch)

    cadmiwm,

    (d)

    carbon monocsid,

    (dd)

    plwm,

    (e)

    mercwri,

    (h)

    nicel,

    (ff)

    nitrogen deuocsid,

    (g)

    ocsidau nitrogen,

    (ng)

    osôn,

    (h)

    PM10,

    (m)

    PM2·5,

    (n)

    sylffwr deuocsid;

  • ystyr “mesuriadau dangosol” (“indicative measurements”) yw mesuriadau sy'n bodloni amcanion ansawdd data sy'n llai llym na'r rhai sy'n ofynnol ar gyfer mesuriadau sefydlog;

  • ystyr “mesuriadau sefydlog” (“fixed measurements”) yw mesuriadau a wneir mewn lleoliadau sefydlog, naill ai'n barhaus neu drwy samplu o bryd i'w gilydd, er mwyn canfod lefelau llygryddion yn unol â'r amcanion ansawdd data perthnasol;

  • ystyr “ocsidau nitrogen” (“oxides of nitrogen”) yw'r swm o gymhareb cymysgu cyfeintiau (ppbv) o nitrogen monocsid (nitrig ocsid) a nitrogen deuocsid a fynegir mewn unedau o grynodiad màs o nitrogen deuocsid (μg/m3);

  • ystyr “PM10” (“PM10”) yw mater gronynnol sy'n llwyddo i fynd drwy fewnfa dethol maint fel a ddiffinnir yn y dull cyfeirio ar gyfer samplu a mesur PM10, EN 12341, gyda therfyn effeithlonrwydd o 50% pan fydd y diamedr erodynamig yn 10 μm; ac

  • ystyr “PM2·5” (“PM2.5”) yw mater gronynnol sy'n llwyddo i fynd drwy fewnfa dethol maint fel a ddiffinnir yn y dull cyfeirio ar gyfer samplu a mesur PM2·5, EN 14907, gyda therfyn effeithlonrwydd o 50% pan fydd y diamedr erodynamig yn 2,5 μm.

(2Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at Atodiadau I i VI ac VIII i X ac Adran B o Atodiad XV i Gyfarwyddeb 2008/50/EC ac i Adran II o Atodiad II ac Atodiadau III i V i Gyfarwyddeb 2004/107/EC yn gyfeiriadau at yr Atodiadau hynny a'r Adrannau hynny fel y'u diwygir o bryd i'w gilydd.

Dynodi awdurdod cymwys

3.  Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi fel yr awdurdod cymwys at ddibenion Cyfarwyddeb 2008/50/EC (ac eithrio at y diben a bennir yn Erthygl 3(f) o'r Gyfarwyddeb honno) ac at ddibenion Cyfarwyddeb 2004/107/EC.

Parthau a chrynoadau

4.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru, at ddibenion y Rheoliadau hyn, rannu tiriogaeth Cymru'n barthau ac yn grynoadau.

(2Bydd parth yn cael ei ddosbarthu'n grynhoad os yw'n gytref a chanddi boblogaeth o fwy na 250,000 o drigolion.

(3Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriadau at barth yn cynnwys parth sydd wedi ei ddosbarthu'n grynhoad.

RHAN 2Asesu ansawdd aer amgylchynol

PENNOD 1Sylffwr deuocsid, nitrogen deuocsid ac ocsidau nitrogen, PM10, PM2·5, plwm, bensen a charbon monocsid

Trothwyon asesu

5.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru ddosbarthu pob parth yn ôl p'un a yw'r trothwyon asesu uwch neu is a bennir yn Adran A o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2008/50/EC wedi eu croesi ai peidio mewn perthynas â sylffwr deuocsid, nitrogen deuocsid ac ocsidau nitrogen, PM10, PM2·5, plwm, bensen a charbon monocsid.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu'r dosbarthiad parthau ym mharagraff (1) bob pum mlynedd o leiaf, a rhaid gwneud hynny'n amlach na phob pum mlynedd os oes newidiadau sylweddol yn y gweithgareddau a allai effeithio ar lefelau'r llygryddion mewn aer amgylchynol, y cyfeirir atynt ym mharagraff (1).

(3Pan fyddant yn adolygu'r dosbarthiad parthau yn unol â'r trothwyon asesu, rhaid i Weinidogion Cymru gydymffurfio ag Adran B o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2008/50/EC.

Gofynion asesu

6.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru asesu lefel y sylffwr deuocsid, nitrogen deuocsid ac ocsidau nitrogen, PM10, PM2·5, plwm, bensen a charbon monocsid mewn aer amgylchynol ym mhob parth yn unol â pharagraffau (2) i (4) a'r meini prawf a osodir yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 2008/50/EC.

(2Mewn parthau lle y mae lefel unrhyw lygrydd a grybwyllir ym mharagraff (1) wedi croesi'r trothwy asesu uwch ar gyfer y llygrydd hwnnw y cyfeirir ato yn rheoliad 5, rhaid defnyddio mesuriadau sefydlog mewn perthynas â'r llygrydd hwnnw, ond caniateir ychwanegu at y mesuriadau drwy wneud mesuriadau dangosol neu drwy fodelu neu'r naill ddull a'r llall er mwyn darparu digon o wybodaeth ar ddosbarthiad gofodol ansawdd aer amgylchynol.

(3Mewn parthau lle y mae lefel unrhyw lygrydd a grybwyllir ym mharagraff (1) yn cyfateb i'r trothwy asesu uwch neu'r trothwy asesu is ar gyfer y llygrydd hwnnw y cyfeirir atynt yn rheoliad 5 neu'n dod rhwng y trothwyon hynny, rhaid defnyddio mesuriadau sefydlog mewn perthynas â'r llygrydd hwnnw, ond caniateir cyfuno hynny â gwneud mesuriadau dangosol neu â modelu neu â'r naill ddull a'r llall.

(4Mewn parthau lle nad yw lefel unrhyw lygrydd a grybwyllir ym mharagraff (1) wedi cyrraedd y trothwy asesu is ar gyfer y llygrydd hwnnw y cyfeirir ato yn rheoliad 5, caniateir defnyddio techneg modelu neu dechneg amcangyfrif gwrthrychol neu'r naill a'r llall yn lle mesuriad mewn perthynas â'r llygrydd hwnnw.

(5Os ychwanegir at fesuriadau sefydlog gan fodelu neu fesuriadau dangosol, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i ganlyniadau'r dulliau ychwanegol hynny pan fyddant yn gwneud yr asesiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1).

(6Yn ychwanegol at yr asesiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru fesur PM2·5 mewn lleoliadau cefndir gwledig sydd i ffwrdd oddi wrth ffynonellau sylweddol o lygredd aer, er mwyn darparu gwybodaeth ar sail cyfartaledd blynyddol am gyfanswm crynodiad màs a chrynodiadau ffurfiant rhywogaethau cemegol o'r llygrydd hwnnw.

(7At ddibenion paragraff (6), rhaid mesur yn unol â'r meini prawf a osodir yn Atodiad IV i Gyfarwyddeb 2008/50/EC a rhaid eu cydgysylltu â strategaeth fonitro a rhaglen fesur y Rhaglen Gydweithredol ar gyfer Monitro a Gwerthuso Trosglwyddiad Hirbell Llygryddion Aer yn Ewrop (EMEP), pan fo hynny'n briodol.

(8Rhaid cymhwyso'r amcanion a'r gofynion ansawdd data a osodir yn Adrannau A ac C o Atodiad I i Gyfarwyddeb 2008/50/EC wrth gyflawni'r asesiad a'r mesuriad y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) a (6).

(9Ac eithrio fel a ddarperir ym mharagraff (10), rhaid gwneud mesuriadau o dan y rheoliad hwn yn unol â'r dulliau mesur sy'n ddulliau cyfeirio ac a bennir yn Adran A ac Adran C o Atodiad VI i Gyfarwyddeb 2008/50/EC.

(10Caniateir defnyddio dulliau amgen i'r rhai y cyfeirir atynt ym mharagraff (9) ar yr amod y cydymffurfir â'r amodau a osodir yn Adran B o Atodiad VI i Gyfarwyddeb 2008/50/EC.

(11Yn y rheoliad hwn, ystyr “crynodiadau ffurfiant rhywogaethau cemegol” (“chemical speciation concentrations”) yw crynodiadau o gydrannau neu rywogaethau cemegol gwahanol o PM2·5.

Lleoliad a nifer y pwyntiau samplu

7.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru osod pwyntiau samplu yn unol â'r meini prawf a osodir yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 2008/50/EC ar gyfer asesu sylffwr deuocsid, nitrogen deuocsid ac ocsidau nitrogen, PM10, PM2·5, plwm, bensen a charbon monocsid.

(2Mewn parthau lle'r unig ffynhonnell wybodaeth ar gyfer asesiad ansawdd aer mewn perthynas ag unrhyw lygrydd a grybwyllir ym mharagraff (1) yw mesuriadau sefydlog, rhaid i nifer y pwyntiau samplu ar gyfer y llygrydd hwnnw, at ddibenion asesu cydymffurfedd â throthwyon rhybuddio a gwerthoedd terfyn ar gyfer diogelu iechyd dynol, fod yn fwy na'r isafswm a bennir yn Adran A o Atodiad V i Gyfarwyddeb 2008/50/EC neu'n hafal iddo.

(3Mewn parthau ac eithrio crynoadau lle'r unig ffynhonnell wybodaeth ar gyfer asesiad ansawdd aer mewn perthynas â sylffwr deuocsid neu ocsidau nitrogen yw mesuriadau sefydlog, rhaid i nifer y pwyntiau samplu ar gyfer y llygrydd hwnnw, at ddibenion asesu cydymffurfedd â lefelau critigol ar gyfer diogelu llystyfiant, fod yn fwy na'r isafswm a bennir yn Adran C o Atodiad V i Gyfarwyddeb 2008/50/EC neu'n hafal iddo.

(4Mewn parthau lle yr ychwanegir at wybodaeth a geir yn sgil mesuriadau sefydlog gan wybodaeth a geir yn sgil modelu neu wneud mesuriadau dangosol neu'r naill ddull a'r llall—

(a)caniateir gostwng o hyd at 50% nifer y pwyntiau samplu a bennir yn Adran A o Atodiad V i Gyfarwyddeb 2008/50/EC ar yr amod bod yr amodau canlynol yn cael eu bodloni—

(i)bod y dulliau ychwanegol yn darparu digon o wybodaeth ar gyfer asesu ansawdd aer mewn perthynas â gwerthoedd terfyn a throthwyon rhybuddio,

(ii)bod y dulliau ychwanegol yn darparu digon o wybodaeth ar gyfer hysbysu'r cyhoedd ynghylch cyflwr ansawdd aer amgylchynol, a

(iii)bod nifer y pwyntiau samplu sydd i'w gosod a dosbarthiad technegau ychwanegol o ran eu lleoliad yn ddigonol ar gyfer canfod crynodiad o'r llygrydd perthnasol yn unol â'r amcanion ansawdd data a bennir yn Adran A o Atodiad I i Gyfarwyddeb 2008/50/EC ac ar gyfer galluogi canlyniadau asesu i fodloni'r meini prawf yn Adran B o'r un Atodiad; a

(b)caniateir gostwng o hyd at 50% nifer y pwyntiau samplu a bennir yn Adran C o Atodiad V i Gyfarwyddeb 2008/50/EC ar yr amod y gellir canfod crynodiadau asesedig o'r llygrydd perthnasol yn unol â'r amcanion ansawdd data a bennir yn Adran A o Atodiad I i Gyfarwyddeb 2008/50/EC.

(5Rhaid i Weinidogion Cymru osod o leiaf un pwynt samplu ar gyfer mesur PM2·5 mewn lleoliadau cefndir gwledig.

PENNOD 2Osôn

Gofynion asesu

8.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru asesu lefel yr osôn mewn aer amgylchynol ym mhob parth.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau, at ddibenion paragraff (1), bod mesuriadau sefydlog yn cael eu gwneud mewn unrhyw barth lle y mae lefel yr osôn yn uwch na'r amcanion hirdymor a bennir yn Atodlen 3 yn ystod unrhyw un neu ragor o'r pum mlynedd cyn gwneud y mesuriadau hynny.

(3Mewn unrhyw barth lle yr ychwanegir at fesuriadau sefydlog gan fodelu neu fesuriadau dangosol neu gan y naill ddull a'r llall, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i ganlyniadau'r dulliau ychwanegol hynny at ddibenion paragraff (1).

(4Rhaid cymhwyso'r amcanion a'r gofynion ansawdd data a osodir yn Adrannau A ac C o Atodiad I i Gyfarwyddeb 2008/50/EC wrth gyflawni'r asesiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1).

(5Ac eithrio fel a ddarperir ym mharagraff (6), rhaid gwneud mesuriadau at ddibenion paragraff (1) yn unol â'r dulliau mesur sy'n ddulliau cyfeirio ac a bennir ym mhwynt 8 o Adran A o Atodiad VI i Gyfarwyddeb 2008/50/EC.

(6Caniateir defnyddio dulliau amgen i'r rhai y cyfeirir atynt ym mharagraff (5) ar yr amod y cydymffurfir â'r amodau a osodir yn Adran B o Atodiad VI i Gyfarwyddeb 2008/50/EC.

Lleoliad a nifer y pwyntiau samplu

9.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru osod pwyntiau samplu'n unol â'r meini prawf a osodir yn Atodiad VIII i Gyfarwyddeb 2008/50/EC ar gyfer asesu'r osôn.

(2Mewn parthau lle'r unig ffynhonnell wybodaeth ar gyfer asesiad ansawdd aer yw mesuriadau sefydlog, rhaid i nifer y pwyntiau samplu fod yn fwy na'r isafswm a bennir yn Adran A o Atodiad IX i Gyfarwyddeb 2008/50/EC neu'n hafal iddo.

(3Mewn parthau lle y mae lefel yr osôn wedi bod yn is na'r amcanion hirdymor ar gyfer pob un o fesuriadau'r pum mlynedd blaenorol, rhaid canfod nifer y pwyntiau samplu yn unol â'r meini prawf a osodir yn Adran B o Atodiad IX i Gyfarwyddeb 2008/50/EC.

(4Mewn parthau lle yr ychwanegir at yr wybodaeth a geir yn sgil mesuriadau sefydlog gan wybodaeth a geir yn sgil modelu neu wneud mesuriadau dangosol neu yn sgil y naill ddull a'r llall, caniateir gostwng nifer y pwyntiau samplu y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) ar yr amod bod yr amodau canlynol yn cael eu bodloni—

(a)bod y dulliau ychwanegol yn darparu digon o wybodaeth ar gyfer asesu ansawdd aer mewn perthynas â gwerthoedd targed, amcanion hirdymor a throthwyon gwybodaeth a rhybuddio,

(b)bod nifer y pwyntiau samplu sydd i'w gosod a dosbarthiad dulliau ychwanegol o ran eu lleoliad yn ddigonol ar gyfer canfod lefel yr osôn yn unol â'r amcanion ansawdd data a osodir yn Adran A o Atodiad I i Gyfarwyddeb 2008/50/EC ac ar gyfer galluogi canlyniadau asesu i fodloni'r meini prawf a bennir yn Adran B o'r un Atodiad,

(c)bod o leiaf un pwynt samplu ym mhob parth, gydag o leiaf un pwynt samplu fesul dwy filiwn o drigolion neu un pwynt samplu fesul 50,000 km2, pa un bynnag sy'n arwain at y nifer mwyaf o bwyntiau samplu, ac

(ch)bod nitrogen deuocsid yn cael ei fesur ym mhob pwynt samplu sydd ar ôl ac eithrio'r rhai sy'n orsafoedd cefndir gwledig.

(5Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod nitrogen deuocsid yn cael ei fesur mewn dim llai na 50% o'r pwyntiau samplu sy'n ofynnol o dan Adran A o Atodiad IX i Gyfarwyddeb 2008/50/EC.

(6Rhaid i'r mesuriad y cyfeirir ato ym mharagraff (5) fod yn un parhaus ac eithrio mewn gorsafoedd cefndir gwledig.

(7Yn y rheoliad hwn, mae i “gorsafoedd cefndir gwledig” yr ystyr a roddir i “rural background stations” gan Adran A o Atodiad VIII i Gyfarwyddeb 2008/50/EC.

PENNOD 3Arsenig, cadmiwm, mercwri, nicel, benso(a)pyren a hydrocarbonau aromatig polysyclig eraill

Trothwyon asesu

10.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru ddosbarthu pob parth yn ôl p'un a yw trothwyon asesu uwch neu is a bennir yn Adran I o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2004/107/EC yn cael eu croesi ai peidio mewn perthynas ag arsenig, cadmiwm, nicel a benso(a)pyren.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu'r dosbarthiad parthau ym mharagraff (1) o leiaf bob pum mlynedd, a rhaid gwneud hynny'n amlach na phob pum mlynedd os oes newidiadau sylweddol yn y gweithgareddau a allai effeithio ar lefelau'r llygryddion mewn aer amgylchynol y cyfeirir atynt ym mharagraff (1).

(3Pan fyddant yn adolygu'r dosbarthiad parthau yn unol â'r trothwyon asesu, rhaid i Weinidogion Cymru gydymffurfio ag Adran II o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2004/107/EC.

Gofynion asesu

11.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru asesu lefel yr arsenig, y cadmiwm, y nicel a'r benso(a)pyren mewn aer amgylchynol ym mhob parth yn unol â pharagraffau (2) i (4).

(2Mewn parthau lle y mae lefel unrhyw lygrydd a grybwyllir ym mharagraff (1) wedi croesi'r trothwy asesu uwch ar gyfer y llygrydd hwnnw y cyfeirir ato yn rheoliad 10, rhaid defnyddio mesuriadau sefydlog mewn perthynas â'r llygrydd hwnnw, ond caniateir ychwanegu at y mesuriadau drwy fodelu er mwyn darparu lefel ddigonol o wybodaeth ar ansawdd aer amgylchynol.

(3Mewn parthau lle y mae lefel unrhyw lygrydd a grybwyllir ym mharagraff (1), dros gyfnod cynrychioliadol, yn dod rhwng y trothwy asesu uwch a'r trothwy asesu is ar gyfer y llygrydd hwnnw y cyfeirir ato yn rheoliad 10, rhaid defnyddio mesuriadau sefydlog mewn perthynas â'r llygrydd hwnnw, ond caniateir cyfuno hynny â mesuriadau dangosol fel y cyfeirir atynt yn Adran 1 o Atodiad IV i Gyfarwyddeb 2004/107/EC neu â modelu, neu â'r naill ddull a'r llall.

(4Mewn parthau lle nad yw lefel unrhyw lygrydd a grybwyllir ym mharagraff (1) wedi cyrraedd y trothwy asesu is ar gyfer y llygrydd hwnnw y cyfeirir ato yn rheoliad 10, caniateir defnyddio techneg modelu neu dechneg amcangyfrif gwrthrychol neu'r naill dechneg a'r llall yn lle mesuriad mewn perthynas â'r llygrydd hwnnw.

(5Yn ychwanegol at yr asesiad y cyfeirir ato ym mharagraffau (1) i (4), rhaid i Weinidogion Cymru fonitro crynodiadau o hydrocarbonau aromatig polysyclig eraill yn ychwanegol at benso(a)pyren fel y gwêl Gweinidogion Cymru'n dda i'w wneud, gan gynnwys o leiaf y canlynol—

(a)benso(a)anthrasen,

(b)benso(b)fflworanthen,

(c)benso(j)fflworanthen,

(ch)benso(k)fflworanthen,

(d)indeno(1,2,3-cd)pyren,

(dd)dibens(a,h)anthrasen.

(6Yn ychwanegol at hyn, rhaid i Weinidogion Cymru weithredu pwyntiau samplu cefndir i ddarparu mesuriadau dangosol ar gyfer y canlynol—

(a)y crynodiadau o arsenig, cadmiwm, nicel, mercwri nwyol llwyr, benso(a)pyren a hydrocarbonau aromatig polysyclig eraill mewn aer amgylchynol y cyfeirir atynt ym mharagraff (5), a

(b)y cyfraddau llwyr ddyddodiad o arsenig, cadmiwm, mercwri, nicel, benso(a)pyren a hydrocarbonau aromatig polysyclig eraill y cyfeirir atynt ym mharagraff (5).

(7Rhaid cydgysylltu mesuriadau at ddibenion paragraff (6) gyda strategaeth fonitro a rhaglen fesur y Rhaglen Gydweithredol ar gyfer Monitro a Gwerthuso Trosglwyddiad Hirbell Llygryddion Aer yn Ewrop (EMEP), pan fo hynny'n briodol.

(8Rhaid cymhwyso'r amcanion a'r gofynion ansawdd data a osodir yn Atodiad IV i Gyfarwyddeb 2004/107/EC wrth gyflawni'r asesiadau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1), (5) a (6).

(9Rhaid i fesuriadau yn y rheoliad hwn gael eu gwneud yn unol â'r dulliau mesur sy'n ddulliau cyfeirio a bennir yn Atodiad V i Gyfarwyddeb 2004/107/EC.

(10Yn y rheoliad hwn, ystyr “mercwri nwyol llwyr” (“total gaseous mercury”) yw anwedd mercwri elfennaidd (Hg0) a mercwri nwyol adweithiol, sef rhywogaethau mercwri sy'n doddadwy mewn dŵr gyda phwysedd anweddol digon uchel iddynt fodoli yn y cyfnod nwyol.

Lleoliad a nifer y pwyntiau samplu a'r safleoedd monitro

12.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru osod pwyntiau samplu yn unol â'r meini prawf a osodir yn Adrannau I, II a IV o Atodiad III i Gyfarwyddeb 2004/107/EC ar gyfer asesu arsenig, cadmiwm, nicel a benso(a)pyren.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod safleoedd monitro hydrocarbonau aromatig polysyclig ac eithrio benso(a)pyren—

(a)wedi eu lleoli yn yr un lle â phwyntiau samplu benso(a)pyren,

(b)wedi eu lleoli'n unol â'r meini prawf a osodir yn Adrannau I i III o Atodiad III i Gyfarwyddeb 2004/107/EC, ac

(c)wedi eu dewis fel y gellir nodi amrywiadau daearyddol a thueddiadau hirdymor mewn crynodiadau o hydrocarbonau aromatig polysyclig.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau—

(a)bod o leiaf un pwynt samplu cefndir yn cael ei osod i ddarparu mesuriadau dangosol at ddibenion paragraff (6) o reoliad 11,

(b)bod y cyfryw bwyntiau samplu cefndir wedi eu lleoli'n unol â'r meini prawf a osodir yn Adrannau I i III o Atodiad III i Gyfarwyddeb 2004/107/EC, ac

(c)bod y cyfryw bwyntiau samplu cefndir wedi eu dewis fel y gellir nodi amrywiadau daearyddol a thueddiadau hirdymor mewn crynodiadau o'r llygryddion perthnasol ac yng nghyfraddau llwyr ddyddodiad y llygryddion perthnasol.

RHAN 3Dyletswyddau Gweinidogion Cymru mewn perthynas â gwerthoedd terfyn etc.

Dyletswydd mewn perthynas â gwerthoedd terfyn

13.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau nad yw lefelau sylffwr deuocsid, nitrogen deuocsid, bensen, carbon monocsid, plwm, PM10 a PM2·5 yn uwch mewn unrhyw barth na'r gwerthoedd terfyn a osodir yn Atodlen 1.

(2Os yw'r dyddiad ar gyfer cyrraedd y gwerthoedd terfyn ar gyfer nitrogen deuocsid yn cael ei ohirio mewn unrhyw barth yn unol â rheoliad 15(2), rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau nad yw lefel nitrogen deuocsid yn y parth hwnnw'n uwch o fwy na 50% na'r gwerth terfyn ar gyfer y llygrydd hwnnw a osodir yn Atodlen 1.

(3Mewn parthau lle y mae lefel unrhyw lygrydd a grybwyllir ym mharagraff (1) yn is na'r gwerth terfyn a osodir yn Atodlen 1 ar gyfer y llygrydd hwnnw, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod lefel y llygrydd hwnnw'n cael ei gadw'n is na'r gwerth terfyn a rhaid iddynt ymdrechu i gynnal ar gyfer ansawdd aer amgylchynol y safon orau sy'n cydweddu â datblygu cynaliadwy.

(4Os hysbyswyd y Comisiwn, yn unol ag Erthygl 20 o Gyfarwyddeb 2008/50/EC, fod mynd yn uwch nag unrhyw werth terfyn a grybwyllir ym mharagraff (1) i'w briodoli i ffynonellau naturiol, nid yw'r gormodiant hwnnw i'w ystyried yn ormodiant at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Dyletswydd mewn perthynas â gwerthoedd targed

14.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod pob cam angenrheidiol nad yw'n arwain at gostau anghymesur yn cael ei gymryd i sicrhau nad yw lefelau PM2·5, osôn, arsenig, cadmiwm, nicel a benso(a)pyren yn uwch mewn unrhyw barth na'r gwerthoedd targed yn Atodlen 2.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru lunio rhestr o'r holl barthau lle y mae lefelau arsenig, cadmiwm, nicel neu benso(a)pyren yn is na'r gwerthoedd targed a osodir yn Atodlen 2 ar gyfer y llygryddion hynny.

(3Mewn perthynas â pharthau a restrir o dan baragraff (2), rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod lefel unrhyw lygrydd sy'n is na gwerth targed y llygrydd yn cael ei gadw'n is na'r gwerth targed hwnnw a rhaid iddynt ymdrechu i gynnal ar gyfer ansawdd aer amgylchynol y safon orau sy'n cydweddu â datblygu cynaliadwy.

(4Rhaid i Weinidogion Cymru lunio rhestr o'r holl barthau lle y mae lefelau arsenig, cadmiwm, nicel neu benso(a)pyren yn uwch na'r gwerthoedd targed ar eu cyfer.

(5Mewn perthynas â pharthau a restrir o dan baragraff (4), rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)nodi'r ardaloedd lle y mae lefelau'n uwch na'r gwerthoedd targed a'r ffynonellau sy'n cyfrannu at y gormodiannau hynny, a

(b)sicrhau bod y camau a gymerir yn unol â pharagraff (1) yn cael eu cyfeirio at y prif ffynonellau allyriad sydd wedi eu nodi a bod y camau hynny'n cymhwyso, os ydynt yn berthnasol, y technegau gorau sydd ar gael yn unol â Chyfarwyddeb 2008/1/EC(4).

(6Mewn parthau lle y mae lefel yr osôn yn uwch na'r gwerth targed a osodir yn Atodlen 2 ar gyfer y llygrydd hwnnw, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod y rhaglen a baratowyd yn unol ag Erthygl 6 o Gyfarwyddeb 2001/81/EC yn cael ei gweithredu i gyrraedd y gwerth targed, oni bai mai dim ond drwy gamau a fyddai'n arwain at gostau anghymesur y gellir cyrraedd y gwerth hwn.

(7Yn y rheoliad hwn—

  • ystyr “Cyfarwyddeb 2001/81/EC” (“Directive 2001/81/EC”) yw Cyfarwyddeb 2001/81/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar derfyn uchaf allyriadau cenedlaethol ar gyfer llygryddion atmosfferig penodol(5); ac

  • ystyr “Cyfarwyddeb 2008/1/EC” (“Directive 2008/1/EC”) yw Cyfarwyddeb 2008/1/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ddulliau integredig o atal a rheoli llygredd.

Dyddiad cymhwyso gwerthoedd terfyn a gwerthoedd targed

15.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), o ran gwerthoedd terfyn a gwerthoedd targed—

(a)maent yn gymwys o'r dyddiad a bennir ar gyfer pob gwerth terfyn neu werth targed sydd dan sylw yn Atodlenni 1 neu 2, neu

(b)maent yn gymwys pan fydd y Rheoliadau hyn yn dod i rym, os na phennir dyddiad yn yr Atodlenni hynny.

(2Os hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd, yn unol ag Erthygl 22 o Gyfarwyddeb 2008/50/EC, na ellir sicrhau cydymffurfedd â gwerthoedd terfyn ar gyfer nitrogen deuocsid, yn Atodlen 1 erbyn y dyddiad a bennir ym mharagraff (1) mewn parth neilltuol, caniateir gohirio dyddiad cyrraedd y gwerthoedd terfyn hynny yn y parth hwnnw am hyd at bum mlynedd ar y mwyaf, ar yr amod—

(a)bod Gweinidogion Cymru wedi paratoi cynllun ansawdd aer ar gyfer nitrogen deuocsid yn y parth y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef yn unol â rheoliad 20, ynghyd â'r wybodaeth a restrir yn Adran B o Atodiad XV i'r Gyfarwyddeb honno, a'u bod wedi dangos y sicrheir cydymffurfedd â'r gwerthoedd terfyn ar gyfer y llygrydd hwnnw yn y parth hwnnw cyn y dyddiad erbyn pryd y gohiriwyd cymhwyso'r gwerthoedd terfyn hynny, a

(b)nad yw'r Comisiwn wedi codi unrhyw wrthwynebiadau o dan Erthygl 22 o'r Gyfarwyddeb honno i ohirio cymhwyso'r gwerthoedd terfyn hynny tan y dyddiad hwyrach hwnnw.

Dyletswydd mewn perthynas ag amcanion hirdymor ar gyfer osôn

16.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod pob cam angenrheidiol nad yw'n arwain at gostau anghymesur yn cael ei gymryd i gyflawni'r amcanion hirdymor ar gyfer osôn a osodir yn Atodlen 3 ym mhob parth.

(2Rhaid i gamau a gymerir yn unol â pharagraff (1) fod yn gyson â'r rhaglen y cyfeirir ati ym mharagraff (6) o reoliad 14 a'r cynlluniau ansawdd aer a baratowyd yn unol â rheoliad 20.

(3Mewn parthau lle y mae amcanion hirdymor ar gyfer osôn wedi eu cyflawni, rhaid i Weinidogion Cymru, i'r graddau y mae ffactorau sy'n cynnwys cyflyrau meteorolegol a natur drawsffiniol llygredd osôn yn caniatáu—

(a)sicrhau eu bod yn dal i gael eu cyflawni,

(b)cynnal ar gyfer ansawdd aer amgylchynol y safon orau sy'n cydweddu â datblygu cynaliadwy, ac

(c)cynnal safon uchel o ran diogelu'r amgylchedd ac iechyd pobl.

Dyletswydd mewn perthynas â throthwyon gwybodaeth a rhybuddio ar gyfer diogelu iechyd pobl

17.  Os croesir unrhyw un neu ragor o'r trothwyon gwybodaeth neu rybuddio a osodir yn Atodlen 4 mewn unrhyw barth, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r cyhoedd drwy gyfrwng y radio, y teledu, y papurau newydd neu'r rhyngrwyd.

Dyletswydd mewn perthynas â lefelau critigol ar gyfer diogelu llystyfiant

18.  Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau nad yw'r lefelau'n uwch mewn unrhyw barth na'r lefelau critigol a osodir yn Atodlen 5.

RHAN 4Lleihau'r cysylltiad â PM2·5 yn genedlaethol

Dyletswydd Gweinidogion Cymru i gyfyngu ar y cysylltiad â PM2·5

19.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod pob cam angenrheidiol nad yw'n arwain at gostau anghymesur yn cael ei gymryd i leihau'r cysylltiad â PM2·5 gyda'r bwriad o gyrraedd y targed cenedlaethol ar gyfer lleihau cysylltiad erbyn 2020.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod pob cam priodol yn cael ei gymryd gyda'r bwriad o sicrhau nad yw'r dangosydd cysylltiad cyfartaleddog ar gyfer 2015 yn fwy na 20 μg/m3.

(3Yn y rheoliad hwn—

  • ystyr “dangosydd cysylltiad cyfartaleddog” (“average exposure indicator”) yw'r dangosydd ar gyfer PM2·5 wedi ei gyfrifo gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol â rheoliad 23 o Reoliadau Safonau Ansawdd Aer 2010(6); ac

  • ystyr “targed cenedlaethol ar gyfer lleihau cysylltiad” (“national exposure reduction target”) yw'r targed ar gyfer PM2·5 wedi ei ganfod gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol â rheoliad 24 o'r Rheoliadau hynny.

RHAN 5Cynlluniau

Cynlluniau ansawdd aer

20.—(1Os yw lefel sylffwr deuocsid, nitrogen deuocsid, bensen, carbon monocsid, plwm neu PM10 mewn aer amgylchynol yn uwch mewn unrhyw barth nag unrhyw un neu ragor o'r gwerthoedd terfyn yn Atodlen 1, neu os yw lefel PM2·5 mewn aer amgylchynol yn uwch mewn unrhyw barth na'r gwerth targed perthnasol yn Atodlen 2, yna, yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i Weinidogion Cymru lunio a gweithredu cynllun ansawdd aer er mwyn cyrraedd y gwerth terfyn neu'r gwerth targed perthnasol yn y parth hwnnw.

(2Os yw Gweinidogion Cymru wedi dynodi parthau lle y mae gwerthoedd yn uwch na'r gwerthoedd terfyn ar gyfer PM10 oherwydd ail-ddaliant gronynnau yn sgil gwasgaru tywod neu halen yn y gaeaf, yn unol ag Erthygl 21 o Gyfarwyddeb 2008/50/EC, dim ond i'r graddau y mae gwerthoedd uwch na'r gwerthoedd terfyn hynny i'w priodoli i ffynonellau PM10 ac eithrio gwasgaru tywod neu halen yn y gaeaf y mae dyletswydd Gweinidogion Cymru o dan baragraff (1) yn gymwys i'r parthau hynny.

(3Os yw lefel yr osôn mewn aer amgylchynol yn uwch mewn unrhyw barth nag unrhyw un neu ragor o'r gwerthoedd targed ar gyfer osôn yn Atodlen 2, rhaid i Weinidogion Cymru, os yw'n briodol, lunio a gweithredu cynllun ansawdd aer i gyrraedd y gwerth targed perthnasol oni fyddai'r camau angenrheidiol ar gyfer cyrraedd y gwerth targed hwnnw'n arwain at gost anghymesur.

(4Rhaid i gynllun ansawdd aer o dan baragraff (1) neu (3) gynnwys camau y bwriedir iddynt sicrhau cydymffurfedd ag unrhyw werth terfyn perthnasol o fewn yr amser byrraf posibl.

(5Os yw lefel PM2·5 mewn aer amgylchynol mewn unrhyw barth, ar unrhyw adeg cyn 31 Rhagfyr 2014, yn uwch na'r lefel a gyfrifwyd drwy gymhwyso'r ffin goddefiant ar gyfer y llygrydd hwnnw yn Atodlen 1 i'r gwerth terfyn perthnasol yn yr Atodlen honno, rhaid i Weinidogion Cymru lunio a gweithredu cynllun ansawdd aer i gyrraedd y gwerth terfyn hwnnw yn y parth hwnnw.

(6Rhaid i gynllun ansawdd aer gynnwys yr wybodaeth a restrir yn Atodlen 6.

(7Pan fo hynny'n bosibl, rhaid i gynllun ansawdd aer fod yn gyson â chynlluniau eraill a lunnir yn unol ag ymrwymiadau a osodir o dan—

(a)Cyfarwyddeb 2001/80/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gyfyngu ar allyriadau llygryddion penodol i'r aer o weithfeydd hylosgi mawr(7),

(b)Cyfarwyddeb 2001/81/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar derfynau cenedlaethol uchaf ar allyriadau ar gyfer llygryddion atmosfferig penodol, a

(c)Cyfarwyddeb 2002/49/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar asesu a rheoli sŵ n amgylcheddol(8).

(8Os bydd cynllun ansawdd aer yn ofynnol mewn perthynas â mwy nag un llygrydd mewn unrhyw barth, rhaid i Weinidogion Cymru, pan fo hynny'n briodol, lunio a gweithredu cynllun integredig ar gyfer y parth hwnnw mewn perthynas â phob llygrydd o dan sylw.

Cynlluniau gweithredu cyfnod byr

21.—(1Os oes risg y bydd y lefel o sylffwr deuocsid neu nitrogen deuocsid, mewn unrhyw barth, yn croesi un neu fwy o'r trothwyon rhybuddio a osodir yn Atodlen 4, rhaid i Weinidogion Cymru lunio a gweithredu cynllun gweithredu cyfnod byr.

(2Rhaid i gynllun gweithredu cyfnod byr osod y camau a fwriedir ar gyfer lleihau'r risg o groesi'r trothwyon rhybuddio, neu, os croesir y trothwyon hynny, ar gyfer cwtogi'r amser y pery'r digwyddiad.

(3Os yw lefel yr osôn, mewn unrhyw barth, yn croesi'r trothwy rhybuddio a osodir yn Atodlen 4 neu os oes risg y bydd yn croesi'r trothwy hwnnw, rhaid i Weinidogion Cymru lunio a gweithredu cynllun gweithredu cyfnod byr gan roi sylw i Benderfyniad 2004/279/EC(9), os ydynt o'r farn ei bod yn rhesymol debygol ei bod yn bosibl lleihau'r risg sy'n deillio o'r cyfryw ddigwyddiad neu leddfu ei ddifrifoldeb neu gwtogi'r amser y mae'n para o ystyried cyflyrau daearyddol, meteorolegol ac economaidd.

(4At ddibenion paragraff (3), rhaid i'r lefel groesi'r trothwy rhybuddio am dair awr o leiaf yn olynol neu mae'n rhaid rhagfynegi y bydd hynny'n digwydd.

(5Caniateir llunio hefyd gynlluniau gweithredu cyfnod byr pan fo risg y bydd gwerthoedd yn uwch nag unrhyw un neu ragor o'r gwerthoedd terfyn neu'r gwerthoedd targed a osodir yn Atodlenni 1 a 2.

Cyfranogiad y cyhoedd o ran llunio cynllun ansawdd aer a chynllun gweithredu cyfnod byr

22.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r cyhoedd pan fo Gweinidogion Cymru'n cynnig paratoi, addasu neu adolygu cynllun ansawdd aer neu gynllun gweithredu tymor byr.

(2Os yw paragraff (1) yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)hysbysu'r cyhoedd ynghylch y cynnig, ynghylch unrhyw wybodaeth gefndirol berthnasol ac ynghylch hawl y cyhoedd i gyfranogi yn y weithred o lunio'r cynllun,

(b)pennu ym mha fodd y gall y cyhoedd gyfranogi yn yr ymgynghoriad, gan gynnwys rhoi cyfeiriad ar gyfer anfon ymatebion, ac amserlen resymol ar gyfer yr ymgynghoriad, ac

(c)rhoi sylw i ganlyniadau'r ymgynghoriad wrth lunio'r cynllun.

(3Pan gyhoeddir y cynllun, rhaid i Weinidogion Cymru hefyd ddarparu gwybodaeth ar gyfer y cyhoedd am y rhesymau dros gynnwys y cynllun ynghyd â gwybodaeth ynghylch proses gyfranogi gan y cyhoedd sydd wedi ei chyflawni.

RHAN 6Gwybodaeth i'r cyhoedd

Gwybodaeth i'r cyhoedd

23.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod y canlynol ar gael i'r cyhoedd ac i sefydliadau priodol a chanddynt fuddiant—

(a)map yn nodi'r parthau a sefydlwyd o dan reoliad 4;

(b)gwybodaeth gyfredol, a roddir yn ddyddiol o leiaf, ac unwaith yr awr os yn bosibl, ar lefelau sylffwr deuocsid, nitrogen deuocsid, PM10, osôn, carbon monocsid ac, os yn bosibl, PM2·5;

(c)gwybodaeth gyfredol ar lefelau bensen a phlwm, wedi ei chyflwyno ar ffurf cyfartaledd dros y deuddeng mis diwethaf, ac wedi ei diweddaru bob tri mis neu bob mis os yn bosibl;

(ch)gwybodaeth gyfredol o ran gohirio unrhyw ddyddiad erbyn pryd y mae gwerthoedd terfyn ar gyfer nitrogen deuocsid i'w cyrraedd yn unol â pharagraff (2) o reoliad 15;

(d)gwybodaeth gyfredol am achosion pan fo lefelau sylffwr deuocsid, nitrogen deuocsid, bensen, plwm, PM10, PM2·5, carbon monocsid ac osôn yn uwch na'r gwerthoedd terfyn, gwerthoedd targed, neu'r amcanion hirdymor ar eu cyfer a osodir yn Atodlenni 1 i 3, ynghyd â'r rhesymau dros y cyfryw achosion a gwybodaeth briodol ynghylch effeithiau ar iechyd a'r amgylchedd;

(dd)gwybodaeth gyfredol am achosion pan fo trothwyon rhybuddio neu wybodaeth sylffwr deuocsid, nitrogen deuocsid ac osôn a osodir yn Atodlen 4 wedi eu croesi mewn gwirionedd, neu pan ragfynegir y cânt eu croesi, ynghyd â'r rhesymau dros y cyfryw achosion a gwybodaeth briodol ynghylch effeithiau ar iechyd;

(e)gwybodaeth gyfredol am achosion lle y mae lefelau ocsidau nitrogen a sylffwr deuocsid yn uwch na'r gwerthoedd critigol ar eu cyfer a osodir yn Atodlen 5, ynghyd â'r rhesymau dros y cyfryw achosion a gwybodaeth briodol ynghylch effeithiau ar yr amgylchedd;

(f)gwybodaeth gyfredol am grynodiadau o arsenig, cadmiwm, nicel, mercwri, benso(a)pyren a hydrocarbonau aromatig polysyclig eraill ac am gyfraddau llwyr ddyddodiad yr uchod;

(ff)gwybodaeth gyfredol am achosion pan fo lefelau arsenig, cadmiwm, nicel a benso(a)pyren yn uwch na'r gwerthoedd targed ar eu cyfer, ynghyd â rhesymau dros y cyfryw achosion, pa ardal sydd dan sylw, a gwybodaeth briodol ynghylch effeithiau ar iechyd a'r amgylchedd;

(g)gwybodaeth am y camau a gymerwyd i gyrraedd y gwerthoedd targed ar gyfer arsenig, cadmiwm, nicel a benso(a)pyren;

(ng)cynlluniau ansawdd aer; a

(h)cynlluniau gweithredu cyfnod byr, ynghyd â chanlyniadau ymchwiliadau Gweinidogion Cymru i ddichonoldeb a chynnwys y cynlluniau hynny, a gwybodaeth am roi'r cynlluniau ar waith.

(2Rhaid sicrhau bod yr wybodaeth ym mharagraff (1)(dd) ar gael yn unol ag Atodlen 7.

(3Rhaid i wybodaeth gael ei dosbarthu'n ddi-dâl ac mewn dull clir a dealladwy drwy unrhyw gyfrwng y mae'n hawdd cael mynediad ato gan gynnwys y rhyngrwyd neu ddulliau telathrebu priodol eraill a chadw mewn cof ofynion Cyfarwyddeb 2007/2/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar sefydlu seilwaith ar gyfer gwybodaeth ofodol yn y Gymuned Ewropeaidd(10).

(4At ddibenion y Rhan hon, mae “cyrff a chanddynt fuddiant” yn cynnwys, yn benodol, cyrff amgylcheddol, cyrff defnyddwyr, cyrff sy'n cynrychioli poblogaethau sensitif, cyrff gofal iechyd perthnasol a ffederasiynau diwydiannol.

Adroddiadau blynyddol

24.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiadau blynyddol ynghylch pob llygrydd.

(2Rhaid i adroddiadau blynyddol gynnwys yr wybodaeth ganlynol—

(a)manylion yr holl achosion pan fo lefelau llygryddion yn uwch na gwerthoedd terfyn, gwerthoedd targed ac amcanion hirdymor ac wedi croesi'r trothwyon gwybodaeth a rhybuddio a osodir yn Atodlenni 1 i 4 ar gyfer y cyfnodau cyfartaleddu priodol; a

(b)asesiad crynodol o effeithiau'r achosion hyn.

(3Pan fo'n briodol, caniateir cynnwys mwy o wybodaeth mewn adroddiadau blynyddol, gan gynnwys asesiadau am ddiogelu coedwigoedd a gwybodaeth am ragsylweddion osôn a restrir yn Adran B o Atodiad X i Gyfarwyddeb 2008/50/EC fel sy'n briodol yn nhyb Gweinidogion Cymru.

RHAN 7Dirymiadau

Dirymiadau

25.  Dirymir Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer (Cymru) 2007(11).

Jane Davidson

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru

16 Mai 2010

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill