- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
GOFAL CYMDEITHASOL CYMRU
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Gwnaed
24 Mehefin 2010
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 74(2) a 75(3) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn) 2010.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn —
ystyr “Mesur 2010” (“the 2010 Measure”) yw Mesur Pant a Theuluoedd (Cymru) 2010.
2.—(1) Mae paragraff (2) o'r erthygl hon yn gymwys o ran yr ardaloedd awdurdod lleol a bennir yn erthygl 3.
(2) Daw'r darpariaethau hynny yn Rhan 3 o Fesur 2010 a nodir yn yr Atodlen i rym ar 1 Medi 2010.
3. Ardaloedd yr awdurdodau lleol a bennir at ddibenion erthygl 2 yw —
(a)Merthyr Tudful(2);
(b)Casnewydd;
(c)Rhondda Cynon Taf; ac
(ch)Wrecsam.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
24 Mehefin 2010
Darpariaethau Rhan 3
1. Adran 57 (sefydlu timau integredig cymorth i deuluoedd)
2. Adran 58 ac eithrio is-baragraffau (b), (c) a (d) o is-adran (6) (swyddogaethau timau integredig cymorth i deuluoedd)
3. Adran 59 (adnoddau ar gyfer timau integredig cymorth i deuluoedd)
4. Adran 60 (cyfansoddiad timau integredig cymorth i deuluoedd)
5. Adran 61 (sefydlu byrddau integredig cymorth i deuluoedd)
6. Adran 62 (swyddogaethau byrddau integredig cymorth i deuluoedd)
7. Adran 63 (rheoliadau ynghylch timau a byrddau integredig cymorth i deuluoedd)
8. Adran 64 (adroddiadau blynyddol ar dimau integredig cymorth i deuluoedd)
9. Adran 65 (canllawiau ynghylch timau integredig cymorth i deuluoedd).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn Rhan 3 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (“y Mesur”) i effaith ar 1 Medi 2010 yn yr ardaloedd penodedig. Yr ardaloedd penodedig yw ardaloedd awdurdodau lleol Merthyr Tudful, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf a Wrecsam.
Mae Rhan 3 o'r Mesur yn gwneud yn ofynnol bod awdurdodau lleol sefydlu un neu ragor o dimau integredig cymorth i deuluoedd (“ICiD”) yn eu hardal. Rhaid i Fwrdd Iechyd Leol y mae ei ardal yn cyfateb i ardal awdurdod lleol gymryd rhan mewn sefydlu'r tîm. Mae adran 58 o'r Mesur yn nodi'r mathau o achosion y gellir eu hatgyfeirio at dîm integredig cymorth i deuluoedd ac y mae adran 58(6) yn pennu'r categorïau o oedolion a all fod yn ddarostyngedig i atgyfeiriad teuluol. Paragraff (a) yn unig o adran 58(6) a gychwynnir. Hynny yw, ni chaiff tîm ICiD dderbyn atgyfeiriadau mewn perthynas â theulu ac eithrio pan fo rhiant yn ddibynnol ar alcohol neu gyffuriau.
Mae Rhan 3 yn cynnwys darpariaeth arall ynglŷn â chyllido timau ICiD (a.59) a chyfansoddiad y timau ICiD (a. 60). Mae adrannau 61 a 62 yn darparu am sefydlu byrddau ICiD i oruchwylio'r timau. Mae adran 63 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau am amrywiol agweddau o weithrediad y timau a'r byrddau ICiD. Mae adran 64 yn gwneud yn ofynnol bod bwrdd yn paratoi adroddiad blynyddol ar y tîm. Mae adran 65 yn gwneud yn ofynnol bod awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol, a thimau a byrddau ICiD yn rhoi roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.
Yr ardaloedd awdurdod lleol a ddynodir yn ardaloedd a bennir yw'r rhai a restrir yn Rhan 2 o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70)
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys