Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2010

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliad 3(2)

ATODLEN 1GORCHMYNION ETC MEWN PERTHYNAS Å GOFAL PLANT

1.  Gorchymyn o dan adran 31(1)(a) o'r Ddeddf (gorchymyn gofal).

2.  Gorchymyn o dan adran 31(1)(b) o'r Ddeddf (gorchymyn goruchwylio).

3.  Gorchymyn o dan erthygl 50(1)(a) o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995(1) (gorchymyn gofal).

4.  Gorchymyn o dan adran 3(3) o Gyfraith Plant a Phobl Ifanc (Guernsey) 1967(2) (gorchymyn person cymwys neu orchymyn gofal arbennig).

5.  Gorchymyn a wneir yn dilyn cais fel a ganiateir o dan adran 48(3) o Gyfraith Plant (Guernsey ac Alderney) 2009(3) (gorchymyn rhianta cymunedol).

6.  Gorchymyn o dan adran 31(1)(a) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001(4) (Deddf Tynwald).

7.  Gorchymyn neu benderfyniad a bennir yn Atodlen 4 i Gyfraith Plant (Jersey) 2002(5).

8.  Unrhyw orchymyn y byddid wedi ei ystyried yn orchymyn gofal yn rhinwedd paragraff 15 o Atodlen 14 i'r Ddeddf (darpariaethau trosiannol ar gyfer plant mewn gofal gorfodol) pe bai wedi bod mewn grym yn union cyn y diwrnod y daeth Rhan 4 o'r Ddeddf i rym(6).

9.  Gorchymyn goruchwylio sy'n gosod gofyniad preswylio o dan baragraff 5 o Atodlen 6 i Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000 neu adran 12AA o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1969 (gofyniad i fyw mewn llety awdurdod lleol)(7).

10.  Gorchymyn person cymwys, gorchymyn hawliau rhiant neu orchymyn ysgol hyfforddi o dan Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968(8).

11.  Gorchymyn amddiffyn plant o dan adran 57 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995(9).

12.  Gorchymyn gwahardd o dan adran 76 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995(10).

13.  Gorchymyn goruchwylio sy'n gosod gofyniad preswylio o dan baragraff 5 o Atodlen 9 i Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald) (gofyniad i fyw mewn llety a ddarperir gan yr Adran Iechyd a Nawdd Cymdeithasol).

14.  Gorchymyn, a wneir ar unrhyw adeg, sy'n gosod gofyniad goruchwylio mewn perthynas â phlentyn er mwyn symud y plentyn hwnnw o ofal P, o dan—

(a)adran 44 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968(11); neu

(b)adran 70 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995(12).

15.  Gorchymyn, a wneir ar unrhyw adeg, sy'n breinio hawliau a phwerau P mewn perthynas â phlentyn mewn awdurdod lleol yn yr Alban—

(a)o dan adran 16 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968(13); neu

(b)yn unol â gorchymyn cyfrifoldebau rhiant o dan adran 86 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995(14).

16.  Mewn perthynas â chofrestru cartref i blant—

(a)gwrthod cais gan P i gofrestru o dan adran 13 o Ddeddf Safonau Gofal 2000(15);

(b)diddymu cofrestriad P o dan adran 14 neu 20(1) o Ddeddf Safonau Gofal 2000;

(c)diddymu cofrestriad unrhyw berson o dan adran 14 neu 20(1) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 mewn perthynas â chartref plant y bu P yn ymwneud â'i reoli neu y bu gan P fuddiant ariannol ynddo; neu

(ch)gwrthod cais gan P i gofrestru neu ddiddymu cofrestriad P o dan Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Ansawdd, Gwella a Rheoleiddio) (Gogledd Iwerddon) 2003(16).

17.  Gwrthod, ar unrhyw adeg, cais gan P i gofrestru mewn perthynas â chartref gwirfoddol neu gartref plant, neu ddiddymu cofrestriad cartref gwirfoddol neu gartref plant a fu'n cael ei redeg gan P, neu y bu P rywfodd arall yn ymwneud â'i reoli, neu y bu gan P fuddiant ariannol ynddo, o dan, yn ôl fel y digwydd–

(a)paragraff 1 o Atodlen 5 i'r Ddeddf(17);

(b)paragraff 1 neu 4 o Atodlen 6 i'r Ddeddf;

(c)adran 127 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968(18);

(ch)erthygl 80, 82, 96 neu 98 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995;

(d)Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001(19) (gwasanaethau cartrefi gofal); neu

(dd)paragraff 2 neu 4 o Atodlen 2 i Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald).

18.  Gwaharddiad a osodwyd ar unrhyw adeg o dan—

(a)adran 69 o Ddeddf 1989, adran 10 o Ddeddf Plant Maeth 1980(20) neu adran 4 o Ddeddf Plant 1958 (pŵer i wahardd maethu preifat)(21);

(b)erthygl 110 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995 (pŵer i wahardd maethu preifat);

(c)adran 10 o Ddeddf Plant Maeth (Yr Alban) 1984 (pŵer i wahardd cadw plant maeth)(22); neu

(ch)adran 59 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald) (pŵer i wahardd neu osod cyfyngiadau ar faethu preifat).

19.  Hysbysiad ysgrifenedig a roddir gan Fwrdd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan adran 1(3) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968 (atal caniatâd i berson ymgymryd â gofalu am y plentyn a'i gynnal).

20.  Gwrthod, ar unrhyw adeg, cofrestriad mewn perthynas â darparu meithrinfeydd, gofal dydd, gwarchod plant neu ddarpariaeth gofal plant arall, anghymhwyso rhag cofrestru felly, neu ddiddymu unrhyw gofrestriad o'r fath o dan—

(a)adran 1 neu adran 5 o Ddeddf Rheoleiddio Meithrinfeydd a Gwarchodwyr Plant 1948(23);

(b)Rhan 10 neu Ran 10A o'r Ddeddf(24);

(c)Pennod 2, 3 neu 4 o Ran 3 o Ddeddf Gofal Plant 2006(25);

(ch)Rhan XI o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995;

(d)adran 11(5) neu adran 15 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968;

(dd)Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001;

(e)adran 1 o Ddeddf Rheoleiddio Meithrinfeydd a Gwarchodwyr Plant 1974 (Deddf Tynwald);

(f)adran 65 neu 66 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald), neu Atodlen 7 i'r Ddeddf honno; neu

(ff)Rhan III o Gyfraith Amddiffyn Plant (Guernsey) 1972(26).

21.  Anghymhwyso rhag gweithio gyda phlant ar unrhyw adeg o dan Ddeddf Amddiffyn Plant (Yr Alban) 2003(27).

22.  Gwrthod, ar unrhyw adeg, cais gan P i gofrestru, neu ddiddymu cofrestriad P o dan adran 62 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968 (cofrestru sefydliadau preswyl ac eraill)(28).

23.  Gwrthod, ar unrhyw adeg, cais gan P i gofrestru fel darparwr asiantaeth gofal plant o dan adran 7 o Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001 neu ddiddymu unrhyw gofrestriad o'r fath o dan adran 12 neu 18 o'r Ddeddf honno.

24.  Cynnwys enw P, ar unrhyw adeg, ar restr o bersonau anaddas i weithio gyda phlant o dan erthygl 3 o Orchymyn Amddiffyn Plant ac Oedolion Hyglwyf (Gogledd Iwerddon) 2003(29), neu anghymhwyso rhag gweithio gyda phlant o dan Bennod II o Ran II o'r Gorchymyn hwnnw.

(2)

Gorchmynion y Cyfrin Gyngor Cyfrol XXI t.34. Diwygiwyd adran 3 gan Gyfraith Plant a Phobl Ifanc (Diwygio) (Guernsey) 1971, Cyfrol XXIII t.3 a chan Gyfraith Llys Ieuenctid (Guernsey) 1989, Cyfrol XXXI t.326.

(3)

Gorchymyn y Cyfrin Gyngor Rhif XIV 2009.

(4)

2001 p.20 (Ynys Manaw).

(5)

Cyfraith Jersey 50/2002.

(6)

Daeth Rhan 4 o Ddeddf 1989 i rym ar 14 Hydref 1991.

(7)

1969 p.54. Mewnosodwyd adran 12AA gan Ddeddf 1989 ac fe'i diddymwyd gan Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000.

(8)

1968 p.34 (G.I.). Diddymwyd y darpariaethau mewn perthynas â'r gorchmynion hyn gan Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995 a Gorchymyn Cyfiawnder Troseddol (Plant) (Gogledd Iwerddon) 1998 (O.S.1998/1504) (G.I.9).

(10)

Diddymwyd adran 76 (yn rhannol) gan O.S.A. 2003/583.

(11)

1968 p.49. Diddymwyd adran 44 gan Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995.

(12)

Diwygiwyd adran 70 gan adrannau 135 ac 136 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol etc. (Yr Alban) 2004 (dsa 8).

(13)

Diddymwyd adran 16 gan Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995.

(14)

Diwygiwyd adran 86 gan baragraffau 83 ac 84 o Atodlen 3 i Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (p.38).

(15)

2000 p.14.

(17)

Diddymwyd y ddarpariaeth hon a'r rheini a grybwyllir ym mharagraff (b) yn effeithiol o 1 Ebrill 2002 ymlaen gan Ddeddf Safonau Gofal 2000.

(18)

Diddymwyd yr adran hon gan Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995.

(20)

1980 p.6. Diddymwyd Deddf Plant Maeth 1980 gan Ddeddf 1989.

(21)

1958 p.65. Diddymwyd adran 4 gan Ddeddf Plant Maeth 1980.

(22)

1984 p.56.

(23)

1948 p.53. Diddymwyd y Ddeddf honno gan Ddeddf 1989.

(24)

Peidiodd Rhan 10 o Ddeddf Plant 1989 â bod yn gymwys i Loegr yn 2001. Mewnosodwyd Rhan 10A gan Ddeddf Safonau Gofal 2000, a pheidiodd â bod yn gymwys i Loegr ar 1 Medi 2008. Diddymwyd Rhan 10 o ran yr Alban gan Atodlen 4 i Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001 (dsa 8) yn effeithiol o 1 Ebrill 2002 ymlaen.

(25)

2006 p.21.

(26)

Gorchmynion y Cyfrin Gyngor Cyfrol XXIII t.238 fel y'i diwygiwyd gan Gyfraith Plant a Phobl Ifanc (Diwygio) (Guernsey) 2000, Gorchymyn y Cyfrin Gyngor Rhif III 2001.

(28)

Diddymwyd adran 62 gan baragraff 1 o Atodlen 4 i Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill