Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2010

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliad 3(5)

ATODLEN 2Tramgwyddau Statudol a Ddiddymwyd

1.—(1Tramgwydd o dan unrhyw un o'r adrannau canlynol o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 1956(1)

(a)adran 1 (treisio)(2);

(b)adran 2 neu 3 (caffael benyw drwy fygythiadau neu haeriadau anwir);

(c)adran 4 (gweini cyffuriau i gael neu hwyluso cyfathrach rywiol);

(ch)adran 5 (cyfathrach rywiol gyda geneth o dan 13);

(d)adran 6 (cyfathrach rywiol gyda geneth o dan 16)(3);

(dd)adran 14 neu 15 (ymosod yn anweddus);

(e)adran 16 (ymosod gyda bwriad o gyflawni sodomiaeth);

(f)adran 17 (cipio benyw drwy rym neu er mwyn ei heiddo);

(ff)adran 19 neu 20 (cipio geneth o dan 18 neu 16);

(g)adran 24 (cadw benyw yn gaeth mewn puteindy neu fangre arall);

(ng)adran 25 neu 26 (caniatáu i eneth o dan 13, neu rhwng 13 ac 16, ddefnyddio mangre ar gyfer cyfathrach rywiol)(4);

(h)adran 28 (peri neu annog puteinio geneth o dan 16 oed, neu gyfathrach rywiol gyda hi, neu ymosod yn anweddus arni).

(2Tramgwydd o dan adran 1 o Ddeddf Anwedduster gyda Phlant 1960 (ymddygiad anweddus tuag at blentyn ifanc)(5).

(3Tramgwydd o dan adran 54 o Ddeddf Cyfraith Droseddol 1977 (annog geneth o dan 16 i gyflawni llosgach)(6).

(4Tramgwydd o dan adran 3 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol (Diwygio) 2000 (camfanteisio ar ymddiriedaeth)(7).

(5Tramgwydd o dan adran 70 o Ddeddf 1989, adran 16 o Ddeddf Plant Maeth 1980 neu adran 14 o Ddeddf Plant 1958 (tramgwyddau mewn perthynas â maethu preifat)(8).

(6Tramgwydd o dan adran 63(10) o Ddeddf 1989, paragraff 1(5) o Atodlen 5, neu baragraff 2(3) o Atodlen 6 i'r Ddeddf honno (tramgwyddau mewn perthynas â chartrefi gwirfoddol a chartrefi plant)(9).

2.  Mae P yn dod o fewn y paragraff hwn os ceir bod P wedi cyflawni tramgwydd o dan unrhyw un o'r darpariaethau canlynol, yn erbyn plentyn neu'n ymwneud â phlentyn—

(a)adran 7 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 1956 (cyfathrach rywiol â pherson diffygiol);

(b)adran 9 o'r Ddeddf honno (caffael person diffygiol);

(c)adran 10 o'r Ddeddf honno (llosgach gan ddyn);

(ch)adran 11 o'r Ddeddf honno (llosgach gan fenyw);

(d)adran 12 o'r Ddeddf honno (sodomiaeth)(10) ac eithrio pan oedd y parti arall yn y weithred o sodomiaeth yn 16 oed neu'n hŷn ac wedi cydsynio i'r weithred;

(dd)adran 13 o'r Ddeddf honno (anwedduster rhwng dynion)(11) ac eithrio pan oedd y parti arall yn y weithred o anwedduster garw yn 16 oed neu'n hŷn ac wedi cydsynio i'r weithred;

(e)adran 21 o'r Ddeddf honno (cipio person diffygiol oddi ar riant neu warcheidwad);

(f)adran 22 o'r Ddeddf honno (peri puteinio benywod);

(ff)adran 23 o'r Ddeddf honno (caffael geneth o dan 21);

(g)adran 27 o'r Ddeddf honno (caniatáu i berson diffygiol ddefnyddio mangre ar gyfer cyfathrach rywiol);

(ng)adran 29 o'r Ddeddf honno (peri neu annog puteinio person diffygiol);

(h)adran 30 o'r Ddeddf honno (dyn yn byw ar enillion puteindra);

(i)adran 31 o'r Ddeddf honno (benyw yn arfer rheolaeth ar butain);

(j)adran 128 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1959 (cyfathrach rywiol â chleifion)(12);

(l)adran 4 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 1967 (caffael eraill i gyflawni gweithredoedd cyfunrywiol)(13);

(ll)adran 5 o'r Ddeddf honno (byw ar enillion puteindra gwryw);

(m)adran 9(1)(a) o Ddeddf Lladrata 1968 (bwrgleriaeth); neu

(n)tramgwydd sy'n berthynol i dramgwydd a bennir yn is-baragraffau (a) i (m).

(2)

Amnewidiwyd adran 1 gan adran 142 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 (p.33) (“Deddf 1994”) ac fe'i diddymwyd gan baragraff 11 o Atodlen 6 i Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 2003 (p.42) (“Deddf 2003”). Diddymwyd yn ogystal adrannau 2 i 6, 14 i 17, 19, 20, 24 i 26 a 28 gan y ddarpariaeth hon o Ddeddf 2003.

(3)

Diddymwyd adran 6 yn rhannol gan Atodlen 2 i Ddeddf Cyfraith Droseddol 1967 (p.58) ac yn gyfan gwbl gan Ddeddf 2003.

(4)

Diddymwyd adran 26 yn rhannol gan adran 10 o Ddeddf Cyfraith Droseddol 1967 ac Atodlen 2 i'r Ddeddf honno, ac yn gyfan gwbl gan Ddeddf 2003.

(5)

1960 p.33. Diwygiwyd adran 1 gan adran 39 o Ddeddf 2000 ac fe'i diddymwyd gan Ddeddf 2003.

(6)

1977 p.45. Diddymwyd adran 54 gan Ddeddf 2003.

(7)

2000 p. 44. Mae adran 3 yn ymestyn i'r Alban a Gogledd Iwerddon (gweler adran 7(2) a (4)) ond fe'i diddymwyd mewn perthynas â Chymru a Lloegr a Gogledd Iwerddon gan Ddeddf 2003.

(8)

Diddymwyd adran 14 gan Ddeddf Plant Maeth 1980.

(9)

Diddymwyd pob un o'r darpariaethau hyn gan Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p.14).

(10)

Diwygiwyd adran 12 gan adran 143 o Ddeddf 1994 ac adrannau 1 a 2 i Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol (Diwygio) 2000 (p.44) ac fe'i diddymwyd gan Ddeddf 2003.

(11)

Diwygiwyd adran 13 gan adran 2 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol (Diwygio) 2000 ac fe'i diddymwyd gan Ddeddf 2003.

(12)

1959 p.72; diwygiwyd adran 128 gan adran 1(4) o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 1967 (p.60) a chan ddarpariaethau eraill, gan gynnwys paragraff 2 o Atodlen 4 i Ddeddf Safonau Gofal 2000, ac fe'i diddymwyd gan Ddeddf 2003.

(13)

1967 p.60; diddymwyd adrannau 4 a 5 gan Ddeddf 2003.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill