- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Rheoliad 3(7)
1.—(1) Tramgwydd o dan adran 49 neu 50(9) o'r Ddeddf (tramgwyddau mewn perthynas â chipio plentyn mewn gofal).
(2) Tramgwydd o dan adran 79C, 79D, 79E neu 79F o'r Ddeddf (tramgwyddau mewn perthynas â gwarchod plant neu ofal dydd).
(3) Tramgwydd o dan unrhyw un o ddarpariaethau canlynol Deddf Tramgwyddau Rhywiol 2003—
(a)adran 62 neu 63 (cyflawni tramgwydd neu dresmasu gyda bwriad o gyflawni tramgwydd rhywiol);
(b)adran 64 neu 65 (rhyw gyda pherthynas sy'n oedolyn);
(c)adran 69 (cyfathrach rywiol ag anifail); neu
(ch)adran 70 (treiddio'n rhywiol i gorff marw).
(4) Tramgwydd mewn perthynas â chartref plant, o dan neu yn rhinwedd unrhyw un o ddarpariaethau canlynol Deddf Safonau Gofal 2000—
(a)adran 11(1) (methu â chofrestru);
(b)adran 24 (methu â chydymffurfio ag amodau);
(c)adran 25 (mynd yn groes i reoliadau);
(ch)adran 26 (disgrifiadau ffug o sefydliadau ac asiantaethau); neu
(d)adran 27 (datganiadau ffug mewn ceisiadau).
2.—(1) Tramgwydd o dreisio.
(2) Tramgwydd a bennir yn Atodlen 1 i Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995(1).
(3) Y tramgwydd cyfraith gyffredin plagiwm (lladrata plentyn sydd o dan oed aeddfedrwydd).
(4) Tramgwydd o dan adran 52 neu 52A o Ddeddf Llywodraeth Ddinesig (Yr Alban) 1982 (tramgwyddau mewn perthynas â ffotograffau anweddus o blant)(2).
(5) Tramgwydd o dan adran 3 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol (Diwygio) 2000 (camfanteisio ar ymddiriedaeth)(3).
(6) Tramgwydd o dan unrhyw un o'r canlynol—
(a)adran 81, 83 neu 89 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995 neu adran 17(8) neu 71 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968 (tramgwyddau llochesu)(4);
(b)adran 6 o Ddeddf Cipio Plant 1984 (cymryd neu anfon plentyn allan o'r Deyrnas Unedig)(5); neu
(c)adran 15 o Ddeddf Plant Maeth (Yr Alban) 1984 (tramgwyddau mewn perthynas â maethu preifat).
(7) Tramgwydd o dan neu yn rhinwedd adran 60(3), 61(3) neu 62(6) o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968 (tramgwyddau mewn perthynas â sefydliadau preswyl ac eraill)(6).
(8) Tramgwydd mewn perthynas â gwasanaeth cartref gofal, gwarchod plant neu ofal dydd i blant o dan neu yn rhinwedd unrhyw un o ddarpariaethau canlynol Deddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001(7)—
(a)adran 21 (tramgwyddau mewn perthynas â chofrestru);
(b)adran 22 (datganiadau ffug mewn ceisiadau); neu
(c)adran 29(10) (tramgwyddau o dan reoliadau).
3.—(1) Tramgwydd o dreisio.
(2) Tramgwydd o dan adran 66, 69 neu 70 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 2003.
(3) Tramgwydd o dan erthygl 70, 73 neu 74 o Orchymyn Tramgwyddau Rhywiol (Gogledd Iwerddon) 2008(8).
(4) Tramgwydd a bennir yn Atodlen 1 i Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968.
(5) Tramgwydd o dan erthygl 3 o Orchymyn Amddiffyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1978 (ffotograffau anweddus)(9).
(6) Tramgwydd yn groes i erthygl 9 o Orchymyn Cyfiawnder Troseddol (Gogledd Iwerddon) 1980 (annog geneth o dan 16 i gael cyfathrach rywiol losgachol)(10).
(7) Tramgwydd yn groes i erthygl 15 o Orchymyn Cyfiawnder Troseddol (Tystiolaeth etc) (Gogledd Iwerddon) 1988 (meddu ar ffotograffau anweddus o blant)(11).
(8) Tramgwydd o dan adrannau 16 i 19 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 2003 (camfanteisio ar safle o ymddiriedaeth).
(9) Tramgwydd o dan Ran 3 o Orchymyn Tramgwyddau Rhywiol (Gogledd Iwerddon) 2008 (tramgwyddau rhywiol yn erbyn plant).
(10) Tramgwydd o dan unrhyw un o'r canlynol—
(a)erthygl 68 neu 69(9) o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995 (tramgwyddau mewn perthynas â chipio plentyn mewn gofal);
(b)erthygl 132 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995, neu adran 14 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968 (tramgwyddau mewn perthynas â gwarchod plant a gofal dydd)(12);
(c)erthygl 117 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995, neu adran 9(1) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968 (tramgwyddau mewn perthynas â maethu preifat); neu
(ch)erthygl 79(3), 81(4), 95(3) neu 97(4) o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995, neu adran 127(5) neu 129(3) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968 (tramgwyddau mewn perthynas â chartrefi gwirfoddol a chartrefi plant).
4. Tramgwydd yn groes i—
(a)Rhan 7 o Gyfraith Plant (Jersey) 1969(13);
(b)Atodlen 4 i Gyfraith Plant (Jersey) 2002(14); neu
(c)Cyfraith Gofal Dydd i Blant (Jersey) 2002(15).
5. Tramgwydd yn groes i—
(a)y “Loi pour la Punition d'Inceste” (Cyfraith ar gyfer Cosbi Llosgach) 1909(16);
(b)y “Loi relative à la protection des Femmes et des Filles Mineures” (Cyfraith ar gyfer Amddiffyn Benywod a Genethod Ifanc) 1914(17);
(c)y “Loi relative à la Sodomie” (Cyfraith mewn perthynas â Sodomiaeth) 1929(18);
(ch)erthygl 7, 9, 10, 11 neu 12, adran 1 o erthygl 41 neu adran 1, 2, 3 neu 4 o erthygl 51 o'r “Loi ayant rapport à la Protection des Enfants et des Jeunes Personnes” (Cyfraith mewn perthynas ag Amddiffyn Plant a Phobl Ifanc) 1917(19);
(d)Cyfraith Plant a Phobl Ifanc (Guernsey) 1967;
(dd)Cyfraith Amddiffyn Plant (Beilïaeth Guernsey) 1985(20).
6. Tramgwydd a bennir yn Atodlen 8 i Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald).
7.—(1) Tramgwydd yn groes i adran 170 o Ddeddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979(21) mewn perthynas â nwyddau y gwaherddir eu mewnforio o dan adran 42 o Ddeddf Cydgrynhoi Tollau 1876(22) (gwaharddiadau a chyfyngiadau) pan fo'r nwyddau gwaharddedig yn cynnwys ffotograffau anweddus o blentyn.
(2) Tramgwydd yn rhinwedd—
(a)adran 72 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 2003 (tramgwyddau y tu allan i'r Deyrnas Unedig); neu
(b)adran 16B o Ddeddf Cyfraith Droseddol (Cydgrynhoi) (Yr Alban) 1995 (cyflawni tramgwyddau rhywiol penodol y tu allan i'r Deyrnas Unedig)(23).
(3) Tramgwydd yn groes i adran 32(3) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1969 (caethiwo absenolwyr)(24).
1982 p.45. Diwygiwyd adran 52 gan adran 84 o Ddeddf 1994, Atodlen 4 i Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Darpariaethau Canlyniadol) (Yr Alban) 1995 (p.40) ac adran 19 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol (Yr Alban) 2003 (dsa 7). Mewnosodwyd adran 52A gan adran 161 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 (p.33) ac fe'i diwygiwyd gan adran 19 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol (Yr Alban) 2003. Diwygiwyd adrannau 52 a 52A gan adran 16 o Ddeddf Amddiffyn Plant ac Atal Tramgwyddau Rhywiol (Yr Alban) 2005 (dsa 9).
2000 p. 44; diwygiwyd adran 3 mewn perthynas â'r Alban gan baragraff 62 o Ran 4 o Atodlen 28 i Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 (p.33).
Diddymwyd adrannau 17(8) a 71 o Ddeddf 1968 gan Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995.
1984 p.37; diwygiwyd adran 6 mewn perthynas â'r Alban gan baragraff 34(c) o Atodlen 4 i Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995.
Diddymwyd adrannau 60 i 68 gan Atodlen 4 i Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001 (dsa 8) yn effeithiol o 1 Ebrill 2002 ymlaen (O.S.A. 2002/162).
O.S. 1978/1047 (G.I.17). Diwygiwyd erthygl 3 gan adran 84(10) o Ddeddf 1994, adran 41(2) o Ddeddf 2000 a pharagraff 8 o Atodlen 1 i Orchymyn Cyfiawnder Troseddol (Gogledd Iwerddon) 2003 (O.S. 2003/1247) (G.I.13).
O.S.1988/1847 (G.I.17). Diwygiwyd erthygl 15 gan adrannau 84(11) ac 86(2) o Ddeddf 1994 ac adran 41(4) o Ddeddf 2000.
Diddymwyd yr adran hon a'r adrannau o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968 y cyfeirir atynt ym mharagraffau (10)(c) ac (ch), gan Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995.
Cyfraith Jersey 16/1969.
Cyfraith Jersey 50/2002.
Cyfraith Jersey 51/2002.
Gorchmynion y Cyfrin Gyngor Cyfrol IV t.288.
Gorchmynion y Cyfrin Gyngor Cyfrol V t.74.
Gorchmynion y Cyfrin Gyngor Cyfrol VIII t. 273.
Gorchmynion y Cyfrin Gyngor Cyfrol V t. 342 fel y'i diwygiwyd gan y Loi Supplementaire à la Loi ayant rapport à la Protection des Enfants et des Jeunes Personnes 1937, Gorchmynion y Cyfrin Gyngor Cyfrol XI t.116 a Chyfraith Amddiffyn Plant a Phobl Ifanc (Diwygio) 1955, Gorchmynion y Cyfrin Gyngor Cyfrol XVI t.277.
Gorchmynion y Cyfrin Gyngor Cyfrol XXIX t.103 fel y'i diwygiwyd gan Gyfraith Gweinyddu Cyfiawnder (Beilïaeth Guernsey) 1991, Gorchmynion y Cyfrin Gyngor Cyfrol XXXIII t.49, Cyfraith Tystiolaeth Droseddol a Darpariaethau Amrywiol (Beilïaeth Guernsey) 2002, Gorchymyn y Cyfrin Gyngor Rhif I 2003 a Chyfraith Cyfiawnder Troseddol (Darpariaethau Amrywiol) (Beilïaeth Guernsey) 2006, Gorchymyn y Cyfrin Gyngor Rhif XIII 2006.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys