- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Tramgwydd o dan unrhyw un o'r adrannau canlynol o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 1956(1)—
(a)adran 1 (treisio)(2);
(b)adran 2 neu 3 (caffael benyw drwy fygythiadau neu haeriadau anwir);
(c)adran 4 (gweini cyffuriau i gael neu hwyluso cyfathrach rywiol);
(ch)adran 5 (cyfathrach rywiol gyda geneth o dan 13);
(d)adran 6 (cyfathrach rywiol gyda geneth o dan 16)(3);
(dd)adran 14 neu 15 (ymosod yn anweddus);
(e)adran 16 (ymosod gyda bwriad o gyflawni sodomiaeth);
(f)adran 17 (cipio benyw drwy rym neu er mwyn ei heiddo);
(ff)adran 19 neu 20 (cipio geneth o dan 18 neu 16);
(g)adran 24 (cadw benyw yn gaeth mewn puteindy neu fangre arall);
(ng)adran 25 neu 26 (caniatáu i eneth o dan 13, neu rhwng 13 ac 16, ddefnyddio mangre ar gyfer cyfathrach rywiol)(4);
(h)adran 28 (peri neu annog puteinio geneth o dan 16 oed, neu gyfathrach rywiol gyda hi, neu ymosod yn anweddus arni).
(2) Tramgwydd o dan adran 1 o Ddeddf Anwedduster gyda Phlant 1960 (ymddygiad anweddus tuag at blentyn ifanc)(5).
(3) Tramgwydd o dan adran 54 o Ddeddf Cyfraith Droseddol 1977 (annog geneth o dan 16 i gyflawni llosgach)(6).
(4) Tramgwydd o dan adran 3 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol (Diwygio) 2000 (camfanteisio ar ymddiriedaeth)(7).
(5) Tramgwydd o dan adran 70 o Ddeddf 1989, adran 16 o Ddeddf Plant Maeth 1980 neu adran 14 o Ddeddf Plant 1958 (tramgwyddau mewn perthynas â maethu preifat)(8).
(6) Tramgwydd o dan adran 63(10) o Ddeddf 1989, paragraff 1(5) o Atodlen 5, neu baragraff 2(3) o Atodlen 6 i'r Ddeddf honno (tramgwyddau mewn perthynas â chartrefi gwirfoddol a chartrefi plant)(9).
Amnewidiwyd adran 1 gan adran 142 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 (p.33) (“Deddf 1994”) ac fe'i diddymwyd gan baragraff 11 o Atodlen 6 i Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 2003 (p.42) (“Deddf 2003”). Diddymwyd yn ogystal adrannau 2 i 6, 14 i 17, 19, 20, 24 i 26 a 28 gan y ddarpariaeth hon o Ddeddf 2003.
Diddymwyd adran 6 yn rhannol gan Atodlen 2 i Ddeddf Cyfraith Droseddol 1967 (p.58) ac yn gyfan gwbl gan Ddeddf 2003.
Diddymwyd adran 26 yn rhannol gan adran 10 o Ddeddf Cyfraith Droseddol 1967 ac Atodlen 2 i'r Ddeddf honno, ac yn gyfan gwbl gan Ddeddf 2003.
1960 p.33. Diwygiwyd adran 1 gan adran 39 o Ddeddf 2000 ac fe'i diddymwyd gan Ddeddf 2003.
1977 p.45. Diddymwyd adran 54 gan Ddeddf 2003.
2000 p. 44. Mae adran 3 yn ymestyn i'r Alban a Gogledd Iwerddon (gweler adran 7(2) a (4)) ond fe'i diddymwyd mewn perthynas â Chymru a Lloegr a Gogledd Iwerddon gan Ddeddf 2003.
Diddymwyd adran 14 gan Ddeddf Plant Maeth 1980.
Diddymwyd pob un o'r darpariaethau hyn gan Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p.14).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys