Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Sancsiynau Sifil Amgylcheddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2010

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 1820 (Cy.177)

AMGYLCHEDD, CYMRU

TRIBIWNLYSOEDD AC YMCHWILIADAU, CYMRU

Rheoliadau Sancsiynau Sifil Amgylcheddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2010

Wedi'u gwneud

14 Gorffennaf 2010

Y n dod i rym

15 Gorffennaf 2010

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan—

  • adrannau 93, 94 a 95 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995(1);

  • adran 62 o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008(2); ac

  • adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(3). (Mae Gweinidogion Cymru wedi' u dynodi (4) at ddibenion y Ddeddf honno o ran mesurau sy'n ymwneud ag atal, lleihau a dileu llygredd a achosir gan wastraff a rheoli deunydd pacio a gwastraff deunydd pacio, o ran llygrynnau organig parhaus, sylweddau, paratoadau a chemegau peryglus, o ran mesurau sy'n ymwneud ag adnoddau dŵr, ac o ran mesurau sy'n ymwneud â rheoleiddio a rheoli defnyddio llaid carthion mewn amaethyddiaeth).

Yn unol ag adran 93(2) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â'r cyrff a'r personau hynny y mae'n ymddangos eu bod yn cynrychioli cyrff neu bersonau y mae'r Rheoliadau hyn yn effeithio'n sylweddol arnynt; mae Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni, yn unol ag adran 93(3) o'r Ddeddf honno, o ran y materion a bennir yn adran 93(6) o'r Ddeddf honno; ac mae Gweinidogion Cymru yn arfer y pŵer hwn yn y modd y bennir ei fod yn orau i sicrhau nad yw'n arwain at gyfyngu, aflunio neu atal cystadleuaeth yn unol ag adran 93(7) o'r Ddeddf honno.

Yn unol ag adran 66 o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008 mae Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni y bydd Asiantaeth yr Amgylchedd yn gweithredu yn unol â'r egwyddorion y cyfeirir atynt yn adran 5(2) o'r Ddeddf honno wrth arfer y pwerau yn y Rheoliadau hyn.

Mae drafft o'r rheoliadau hyn wedi'i osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi'i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo yn unol ag adran 62 o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008 ac adran 93(10) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995(5).

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Sancsiynau Sifil Amgylcheddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2010; maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 15 Gorffennaf 2010.

Diwygio Rheoliadau Llaid (Ei Ddefnyddio mewn Amaethyddiaeth) 1989

2.  Diwygir Rheoliadau Llaid (Ei Ddefnyddio mewn Amaethyddiaeth 1989 (6) drwy fewnosod y canlynol ar ôl rheoliad 10—

Civil sanctions, Wales

11.(1) The Environment Agency may impose a fixed monetary penalty, variable monetary penalty, restoration notice, compliance notice or stop notice, or accept an enforcement undertaking, in relation to an offence under regulation 9 for contravening a provision in the following Table of civil sanctions, as indicated in that Table, as if it were an offence under a provision specified in relation to that sanction in Schedule 5 to the Environmental Civil Sanctions (Wales) Order 2010.

Table of civil sanctions

Provision of these RegulationsFixed monetary penaltyVariable monetary penaltyRestoration noticeCompliance noticeStop noticeEnforcement undertaking
regulation 3NoYesYesYesYesYes
regulation 4YesYesNoNoYesYes
regulation 5YesYesNoNoNoYes
regulation 6(1)NoYesNoYesNoYes
regulation 7(1)NoYesNoYesNoYes
regulation 7(2)YesYesNoYesNoYes
regulation 8(3)(a)NoYesNoNoYesYes
regulation 8(3)(b)NoYesYesNoYesYes
regulation 8(4)NoYesYesNoYesYes

(2) The terms used in this regulation have the same meaning as in that Order.

(3) The provisions of that Order in relation to those sanctions apply as if they were provisions of these Regulations.

(4) This regulation applies only in Wales..

Diwygio Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Gwaredu Biffenylau Polyclorinedig a Sylweddau Peryglus Eraill) (Cymru a Lloegr) 2000

3.  Diwygir Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Gwaredu Biffenylau Polyclorinedig a Sylweddau Peryglus Eraill) (Cymru a Lloegr) 2000(7) drwy fewnosod y canlynol ar ôl rheoliad 13A—

Civil sanctions

13B.(1) The Environment Agency may impose a fixed monetary penalty, variable monetary penalty or compliance notice, or accept an enforcement undertaking, in relation to an offence specified in the following Table of civil sanctions, as indicated in that Table, as if it were an offence under a provision specified in relation to that sanction in Schedule 5 to the Environmental Civil Sanctions (Wales) Order 2010.

Table of civil sanctions

Offence under these RegulationsFixed monetary penaltyVariable monetary penaltyCompliance noticeEnforcement undertaking
regulation 13(1)YesYesYesYes
regulation 13(2)(a)YesYesYesYes
regulation 13(2)(b)YesYesNoYes
regulation 13(2)(c)(i)YesYesNoYes
regulation 13(2)(c)(ii)YesYesNoYes
regulation 13(2)(c)(iii)YesYesNoYes
regulation 13(3)YesYesNoYes
regulation 13(4)(a)NoYesNoNo
regulation 13(4)(b)NoYesNoNo
regulation 13(4)(c)NoYesNoNo

“(2) The terms used in this regulation have the same meaning as in that Order.

(3) The provisions of that Order in relation to those sanctions apply as if they were provisions of these Regulations.

(4) This regulation applies only in Wales..

Diwygio Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005

4.  Diwygir Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005(8) drwy fewnosod y canlynol ar ôl rheoliad 65—

Sancsiynau sifil

65A.(1) Caiff Asiantaeth yr Amgylchedd osod cosb ariannol newidiol, hysbysiad adfer, hysbysiad cydymffurfio neu hysbysiad stop, neu dderbyn ymgymeriad gorfodi, o ran tramgwydd o dan reoliad 68 neu o dan reoliad 65 am fethu â chydymffurfio â darpariaeth (ac eithrio rheoliad 68) yn y Tabl canlynol o sancsiynau sifil, fel y nodir yn y Tabl hwnnw, fel pe bai'n dramgwydd o dan ddarpariaeth a bennir mewn perthynas â'r sancsiwn hwnnw yn Atodlen 5 i Orchymyn Sancsiynau Sifil Amgylcheddol (Cymru) 2010.

Table of civil sanctions

Offence under these RegulationsVariable monetary penaltyRestoration noticeCompliance noticeStop noticeEnforcement undertaking
regulation 19YesYesYesYesYes
regulation 20YesYesYesYesYes
regulation 22YesNoNoNoYes
regulation 34YesNoYesNoYes
regulation 35YesNoYesNoYes
regulation 36YesNoYesNoYes
regulation 37YesNoYesNoYes
regulation 38YesNoYesNoYes
regulation 39YesNoYesNoYes
regulation 40YesNoYesNoYes
regulation 41YesNoYesNoYes
regulation 42YesNoYesNoYes
regulation 43YesNoYesNoYes
regulation 44YesNoYesNoYes
regulation 46 and Schedule 7YesNoYesNoYes
regulation 47YesNoYesNoYes
regulation 48YesNoYesNoYes
regulation 49YesNoYesNoYes
regulation 50YesNoYesNoYes
regulation 51YesNoYesNoYes
regulation 53YesNoNoNoYes
regulation 54YesNoNoNoYes
regulation 55YesNoNoNoNo
regulation 62YesYesYesYesNo
regulation 68YesNoNoNoNo

(2) Mae i'r termau a ddefnyddir yn y rheoliad hwn yr un ystyr ag yn y Gorchymyn hwnnw.

(3) Mae darpariaethau'r Gorchymyn hwnnw'n gymwys mewn perthynas â'r sancsiynau hynny fel pe baent yn ddarpariaethau yn y Rheoliadau hyn..

Diwygio Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) 2007

5.  Diwygir Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) 2007(9) drwy fewnosod y canlynol ar ol rheoliad 40A—

Civil sanctions, Wales

40B.(1) The Environment Agency may impose a fixed monetary penalty or variable monetary penalty, or accept an enforcement undertaking, in relation to an offence specified in the following Table of civil sanctions, as indicated in that Table, as if it were an offence under a provision specified in relation to that sanction in Schedule 5 to the Environmental Civil Sanctions (Wales) Order 2010.

Table of civil sanctions

Offence under these RegulationsFixed monetary penaltyVariable monetary penaltyEnforcement undertaking
regulation 40(1)(a)YesYesYes
regulation 40(1)(b)NoYesYes
regulation 40(1)(c)YesNoNo
regulation 40(3)NoYesYes
regulation 40(7)NoYesNo
regulation 40(8)(a)NoYesYes
regulation 40(8)(b)YesNoNo

(2) The terms used in this regulation have the same meaning as in that Order.

(3) The provisions of that Order in relation to those sanctions apply as if they were provisions of these Regulations.

(4) This regulation applies only in Wales..

Jane Davidson

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynalidwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru

14 Gorffennaf 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys yng Nghymru, yn diwygio—

  • Rheoliadau Llaid (Ei Ddefnyddio mewn Amaethyddiaeth) 1989 (O.S. 1989/1263)

  • Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Gwaredu Biffenylau Polyclorinedig a Sylweddau Peryglus Eraill) (Cymru a Lloegr) 2000 (O.S. 2000/1043)

  • Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1806 (Cy.138))

  • Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) 2007 (O.S. 2007/871)

Mae'r diwygiadau'n caniatáu i Asiantaeth yr Amgylchedd osod sancsiynau sifil penodedig mewn perthynas â rhai thoriadau o'r Rheoliadau hynny. Y sancsiynau yw'r rhai a ganiateir o dan Rhan 3 o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008.

Paratowyd asesiad effaith ar gyfer y Rheoliadau hyn. Mae copi ar gael gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(1)

1995 p.25. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 93 i 95 cyn belled ag sy'n arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Erthygl 2 o O.S. 1999/672 ac Atodlen 1 iddo. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraffau 26 a 30 o Atodlen 11 iddi, mae'r swyddogaethau hynny wedi'u breinio bellach yng Ngweinidogion Cymru. Diwygiwyd adran 94 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 gan O.S. 2000/311, erthyglau 28(1) a (2) ac O.S. 2004/1261, rheoliad 5 ac Atodlen 2, paragraffau 7(1) a (2).

(4)

Dynodwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â'r materion hyn gan O.S. 2005/850, O.S. 2007/1349 ac O.S 2000/2812. Yn rhinwedd adran 162 a pharagraff 28(1) a 30 o atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 mae'r pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd y dynodiadau hyn wedi'u breinio bellach yng Ngweinidogion Cymru.

(5)

1995 Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 34 o Atodlen 11 iddi, mae adran 93(10) yn gymwys i'r modd y mae Gweinidogion Cymru yn arfer y swyddogaeth o wneud is-ddeddfwriaeth, fel petai'r cyfeiriad yn y ddarpariaeth honno at Ddau Dŵ'r Senedd yn gyfeiriad at Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(6)

O.S. 1989/1263; offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1990/880, O.S. 1996/593, O.S. 2000/656, ac O.S. 2010/1159.

(7)

O.S. 2000/1043, a ddiwygiwyd gan O.S. 2000/3359, ac O.S. 2010/1159. Ceir offerynnau diwygio eraill ond nid oes un yn berthnasol.

(8)

O.S. 2005/1806 (Cy.138); offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2007/3538, ac O.S. 2009/2861 (Cy.250).

(9)

O.S. 2007/871, a ddiwygiwyd gan O.S. 2010/1159; ceir offerynnau diwygio eraill ond nid oes un yn berthnasol.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill