- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
2.—(1) Diwygir Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2008(1) fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 11, cyn “Y swm o E”, mewnosoder “Ac eithrio pan fo erthygl 11A(2) yn gymwys,”.
(3) Ar ôl erthygl 11, ychwaneger—
11A.—(1) Mae erthyglau blaenorol y Gorchymyn hwn yn ddarostyngedig i'r erthygl hon.
(2) Mae'r erthygl hon yn gymwys pan ddigwydd y dydd y codir y tâl arno ar ddyddiad yn y cyfnod sy'n dechrau ar 1 Hydref 2010 ac sy'n gorffen ar 30 Medi 2011.
(3) Mae erthygl 7(ch) yn cael ei heffaith megis pe gosodid yn ei lle—
“(ch)bod gwerth ardrethol yr hereditament yn fwy na £10,499 ond nid yn fwy na £11,000;”.
(4) Nid oes i erthygl 9 unrhyw effaith.
(5) Y swm o E a ragnodir at ddibenion is-adran 44(9) o'r Ddeddf, pan fo'r amodau gwerth ardrethol diwygiedig neu'r amodau mangre gofal plant diwygiedig wedi'u bodloni a phan fo gwerth ardrethol yr hereditament—
(a)heb fod yn fwy na £6,000, yw 5,000,000;
(b)yn fwy na £6,000 a heb fod yn fwy na £12,000, yw, yn ddarostyngedig i baragraff (7), y swm a geir wrth rannu 6000 gyda'r ffigwr y deuir ato drwy dynnu 6000 o werth ardrethol yr hereditament a ddangosir yn y rhestr ardrethu annomestig leol am y diwrnod hwnnw.
(6) Mae symiau a gyfrifir o dan baragraff (5)(b) i'w cyfrifo hyd at dri phwynt degol yn unig—
(a)gan ychwanegu'r filfed ran pan fyddai yna (ar wahân i'r is-baragraff hwn) fwy na phump o ddeg-milfedi; a
(b)gan anwybyddu'r deg-milfedi pan fyddai yna (ar wahân i'r is-baragraff hwn) bump, neu lai na phump o ddeg-milfedi.
(7) Yn yr erthygl hon—
(a)yr amodau gwerth ardrethol diwygiedig yw–
(i)nad yw gwerth ardrethol yr hereditament yn fwy na £12,000;
(ii)nad yw'r hereditament yn hereditament a eithrir; a
(iii)bod yr hereditament yn cael ei feddiannu'n gyfan gwbl;
(b)yr amodau gofal plant diwygiedig yw—
(i)bod yr hereditament yn cael ei ddefnyddio'n gyfan gwbl at ddibenion gwarchod plant neu i ddarparu gofal dydd gan berson wedi ei gofrestru o dan Ran XA o Ddeddf Plant 1989;
(ii)nad yw'r hereditament yn hereditament a eithrir;
(iii)bod yr hereditament yn cael ei feddiannu'n gyfan gwbl;
(iv)nad yw gwerth ardrethol yr hereditament yn fwy na £9,000; a
(v)bod y trethdalwr wedi rhoi hysbysiad i'r awdurdod bilio mewn cysylltiad â'r hereditament yn unol ag erthygl 10.”.
O.S. 2008/2770 (Cy.246) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2010/273 (Cy.36).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys