Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2010

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 2431 (Cy.209)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2010

Gwnaed

4 Hydref 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

6 Hydref 2010

Yn dod i rym

1 Tachwedd 2010

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 29(3), 342(4), 347(2), 408, 537, 537A, 537B, 563 a 569 o Ddeddf Addysg 1996(1), ac adrannau 92 a 138(7) a (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(2), ac adrannau 30, 116A(5), 116D(2) a 210 o Ddeddf Addysg 2002(3), ac ar ôl ymgynghori â'r personau hynny yr oedd yn ymddangos iddynt bod ymgynghori â hwy yn beth dymunol, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2010 ac maent yn dod i rym ar 1 Tachwedd 2010.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymeradwyo Ysgolion Annibynnol) 1994

2.  Diwygir Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymeradwyo Ysgolion Annibynnol) 1994(4) fel a ganlyn—

(a)yn rheoliad 2(1) mewnosoder ar ôl y diffiniad o “approval”—

  • “approved relevant qualification” is a relevant qualification within the meaning of section 30(5) of the Education Act 1997(5);; a

(b)ym mharagraff 12(2)(c)(vi) a pharagraff 12(2)(c)(vii) o Atodlen 2, yn lle “external” rhodder “approved relevant”.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Ysgolion Arbennig) 1994

3.  Diwygir Rheoliadau Addysg (Ysgolion Arbennig) 1994(6) fel a ganlyn—

(a)yn rheoliad 2(1) mewnosoder ar ôl y diffiniad o “the 1993 Act”—

  • “approved relevant qualification” is a relevant qualification within the meaning of section 30(5) of the Education Act 1997(7);;

(b)ym mharagraff 5 o Ran 3 o'r Atodlen, yn lle is-baragraff (2)(a) rhodder—

(a)a list of the approved relevant qualifications for which courses of study are provided for pupils of compulsory school age at the school;; ac

(c)ym mharagraff 5(2)(c) o Ran 3 o'r Atodlen, yn lle “external” rhodder “approved relevant”.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgol) (Cymru) 1999

4.  Diwygir Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgol) (Cymru) 1999(8) fel a ganlyn—

(a)yn rheoliad 3—

(i)yn lle'r diffiniad o “approved external qualification”, rhodder—

  • “approved relevant qualification” is a relevant qualification within the meaning of section 30(5) of the Education Act 1997(9);;

(ii)hepgorer y diffiniadau o “AVCE” ac “ASVCE”;

(iii)hepgorer y diffiniad o “GNVQ”; a

(iv)yn y diffiniad o “NQF”, yn lle “qualifications accredited by” hyd at y diwedd rhodder “relevant qualifications within the meaning of section 30(5) of the Education Act 1997(10) which is awarded or authenticated by a body which is recognised by the Welsh Ministers under section 30(1)(e) of that Act in respect of the qualification and “NQF level” means the level or levels set out in the NQF in relation to a relevant qualification;”; a

(b)Yn Atodlen 4—

(i)ym mharagraff 5 o Ran 1 hepgorer is-baragraffau (c) a (d);

(ii)ym mharagraffau 7 a 10 o Ran 2, yn lle “external” rhodder “relevant”;

(iii)ym mharagraff 16(a) o Ran 2 hepgorer “or AVCE”; a

(iv)ym mharagraff 16(b) o Ran 2 hepgorer “or ASVCE”.

Diwygio Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgol (Cymru) 2001

5.  Diwygir Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgol (Cymru) 2001(11) fel a ganlyn—

(a)yn rheoliad 2—

(i)yn lle'r diffiniad o “cymhwyster allanol a gymeradwywyd” rhodder—

  • “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd” (“approved relevant qualification”) yw cymhwyster perthnasol o fewn ystyr adran 30(5) o Ddeddf Addysg 1997(12);;

(ii)hepgorer y diffiniadau o “TAAU” a “TAAUG”;

(iii)hepgorer y diffiniad o “GNVQ”; a

(iv)yn y diffiniad o “NQF”, yn lle “cymwysterau achrededig gan” hyd at y diwedd rhodder “cymwysterau perthnasol o fewn ystyr adran 30(5) o Deddf Addysg 1997 a ddyfarnwyd neu a ddilyswyd gan gorff sy'n cael ei gydnabod gan Weinidogion Cymru o dan adran 30(1)(e) o'r Ddeddf honno o ran y cymhwyster ac ystyr “lefel NQF” yw'r lefel neu'r lefelau a osodir yn yr NQF o ran cymhwyster perthnasol;”; a

(b)yn Atodlen 2—

(i)ym mharagraffau 7 a 10 o Ran 2, yn lle “allanol” rhodder “perthnasol”;

(ii)ym mharagraff 16(a) o Ran 2 hepgorer “neu TAAU”; a

(iii)ym mharagraff 16(b) o Ran 2 hepgorer “neu TAAUG”.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion) (Cymru) 2004

6.  Diwygir Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion) (Cymru) 2004(13) fel a ganlyn—

(a)yn lle'r diffiniad o “cymhwyster allanol a gymeradwywyd” yn rheoliad 2(1) rhodder—

  • “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd” (“approved relevant qualification”) yw cymhwyster perthnasol o fewn ystyr adran 30(5) o Ddeddf Addysg 1997(14);;

(b)yn y diffiniad o “NQF”, yn rheoliad 2(1) yn lle “cymwysterau achrededig gan” hyd at y diwedd rhodder “cymwysterau perthnasol o fewn ystyr adran 30(5) o Deddf Addysg 1997 a ddyfarnwyd neu a ddilyswyd gan gorff sy'n cael ei gydnabod gan Weinidogion Cymru o dan adran 30(1)(e) o'r Ddeddf honno o ran y cymhwyster ac ystyr “lefel NQF” yw'r lefel neu'r lefelau a osodir yn yr NQF o ran cymhwyster perthnasol;”;

(c)yn y darpariaethau canlynol, yn lle “cymhwyster allanol a gymeradwywyd” ym mhob man lle y mae'r geiriau'n ymddangos rhodder “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd” gan dreiglo yn ôl yr angen—

(i)rheoliad 2(4);

(ii) paragraff 3 o Ran 1 o Atodlen 2; a

(iii) paragraff 6 o Ran 2 o Atodlen 2;

(ch)yn y darpariaethau canlynol, yn lle “cymwysterau allanol a gymeradwywyd” ym mhob man lle y mae'r geiriau'n ymddangos rhodder “cymwysterau perthnasol a gymeradwywyd” gan dreiglo yn ôl yr angen—

(i)rheoliad 2(2)(b);

(ii)y pennawd i Atodlen 2;

(iii) paragraff 2 o Ran 1 o Atodlen 2; a

(iv) paragraff 4 o Ran 2 o Atodlen 2;

(d)ym mhennawd rheoliad 8, yn lle “cymwysterau allanol a gymeradwywyd” rhodder “cymwysterau perthnasol a gymeradwywyd” ac yn y rheoliad, yn lle “cymwysterau” rhodder “cymwysterau perthnasol a gymeradwywyd”.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) 2004

7.  Diwygir Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) 2004(15) fel a ganlyn—

(a)yn rheoliad 2(1)—

(i)yn lle'r diffiniad o “cymhwyster allanol a gymeradwywyd” rhodder—

  • “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd” (“approved relevant qualification”) yw cymhwyster perthnasol o fewn ystyr adran 30(5) o Ddeddf Addysg 1997(16);;

(ii)hepgorer y diffiniad o “TAAU”;

(iii)yn y diffiniad o “y Gronfa Ddata Genedlaethol o Gymwysterau Achrededig”, yn lle “yr Awdurdod Cymwysterau a Chwricwlwm” rhodder “y Swyddfa Rheoleiddio Cymwysterau ac Arholiadau”;

(iv)yn y diffiniad o “NQF”, yn lle “gymwysterau achrededig gan” hyd at y diwedd rhodder “gymwysterau perthnasol o fewn ystyr adran 30(5) o Deddf Addysg 1997 a ddyfarnwyd neu a ddilyswyd gan gorff sy'n cael ei gydnabod gan Weinidogion Cymru o dan adran 30(1)(e) o'r Ddeddf honno o ran y cymhwyster ac ystyr “lefel NQF” yw'r lefel neu'r lefelau a osodir yn yr NQF o ran cymhwyster perthnasol;”;

(v)yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder—

  • ystyr “y gofrestr” (“the register”) yw'r gofrestr a gynhelir ac a gyhoeddir gan y Swyddfa Rheoleiddio Cymwysterau ac Arholiadau yn unol ag adran 148 o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009(17);; a

(b)yn rheoliad 7(3)(c), yn lle “gymhwyster allanol a gymeradwywyd” rhodder “gymwysterau perthnasol a gymeradwywyd”; ac

(c)yn rheoliad 7(10)(a), yn lle “cymwysterau allanol a gymeradwywyd” rhodder “cymwysterau perthnasol a gymeradwywyd”;

(ch)yn y darpariaethau canlynol, yn lle “cymhwyster allanol a gymeradwywyd” ym mhob man lle y mae'r geiriau'n ymddangos rhodder “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd” gan dreiglo yn ôl yr angen—

(i)rheoliad 9(2)(c) ac (ch);

(ii)paragraff 4(3) o Ran 1 o Atodlen 2;

(iii)y pennawd i baragraff 6 o Ran 3 o Atodlen 2;

(iv)paragraff 6(1) a (3) o Atodlen 2; a

(v)paragraff 8(3) o Ran 4 o Atodlen 2;

(d)ym mharagraff 4(1) o Ran 1 o Atodlen 2, yn lle “cymhwyster allanol” rhodder “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd”;

(dd)ym mharagraff 4(3) o Ran 1 a pharagraff 6(3) o Ran 3 o Atodlen 2 yn lle “â'r Gronfa Ddata Genedlaethol o Gymwysterau Achrededig” rhodder “â naill ai'r Gronfa Ddata Genedlaethol o Gymwysterau Achrededig neu'r gofrestr”.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Lleol ar gyfer Disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4) (Cymru) 2009

8.  Diwygir Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Lleol ar gyfer Disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4) (Cymru) 2009(18) fel a ganlyn—

(a)yn rheoliad 2—

(i)yn y diffiniad o “NQF”, yn lle “cymwysterau wedi'u hachredu gan” hyd at y diwedd rhodder “cymwysterau perthnasol o fewn ystyr adran 30(5) o Deddf Addysg 1997 a ddyfarnwyd neu a ddilyswyd gan gorff sy'n cael ei gydnabod gan Weinidogion Cymru o dan adran 30(1)(e) o'r Ddeddf honno o ran y cymhwyster;”;

(ii)yn lle'r diffiniad o “lefel NQF” rhodder–

  • ystyr “lefel NQF” (“NQF level”) yw'r lefel neu'r lefelau a osodir yn yr NQF o ran cymhwyster perthnasol;; a

(iii)yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder—

  • ystyr “QCF” (“QCF”) yw'r Fframwaith Cymwysterau a Chredydau sef cymwysterau perthnasol o fewn ystyr adran 30(5) o Ddeddf Addysg 1997 a ddyfarnwyd neu a ddilyswyd gan gorff sy'n cael ei gydnabod gan Weinidogion Cymru o dan adran 30(1)(e) o'r Ddeddf honno o ran y cymhwyster;

  • ystyr “lefel QCF” (“QCF level”) yw'r lefel neu'r lefelau a osodir yn y QCF o ran cymhwyster perthnasol;; a

(b)yn rheoliad 4 ar ôl y geiriau “NQF” ym mhob man lle y maent yn ymddangos mewnosoder “neu QCF”.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Blant sy'n cael eu Haddysg drwy Ddarpariaeth Amgen) (Cymru) 2009

9.  Diwygir Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Blant sy'n cael eu Haddysg drwy Ddarpariaeth Amgen) (Cymru) 2009(19), fel a ganlyn—

(a)yn lle'r diffiniad o “cymhwyster allanol a gymeradwywyd” yn rheoliad 2 rhodder—

  • “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd” (“approved relevant qualification”) yw cymhwyster perthnasol o fewn ystyr adran 30(5) o Ddeddf Addysg 1997(20);; a

(b)ym mharagraff 6 o Atodlen 2 yn lle “chymhwyster allanol a gymeradwywyd” rhodder “chymhwyster perthnasol a gymeradwywyd”.

Leighton Andrews

Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru

4 Hydref 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Caiff y Rheoliadau hyn eu gwneud o ganlyniad i Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (“Deddf 2009”). Mae Rhan 7 o Ddeddf 2009 yn sefydlu Swyddfa Rheoleiddio Cymwysterau ac Arholiadau ac yn gosod ei hamcanion a'i dyletswyddau cyffredinol. Mae Rhan 8 o Ddeddf 2009 yn gwneud darpariaeth ar gyfer yr Awdurdod Cymwysterau a Chwricwlwm, a gafodd ei sefydlu o dan adran 21 o Ddeddf Addysg 1997, i barhau mewn bodolaeth ond a elwir bellach yn Asiantaeth Datblygu Cymwysterau a Chwricwlwm ac mae'n diwygio ei amcanion a'i ddyletswyddau cyffredinol.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio is-ddeddfwriaeth, o ganlyniad i ddwyn Rhan 7 o Ddeddf 2009 i rym, ac o ganlyniad i'r diwygiad canlyniadol i adran 30 o Ddeddf Addysg 1997 gan Ddeddf 2009 (Swyddogaethau Gweinidogion Cymru mewn perthynas â chymwysterau galwedigaethol ac academaidd allanol).

(1)

1996 p.56; trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 29(3), 342(4), 347(2), 408, 537, 537A, 563 a 569, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yn rhinwedd adran 150 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21) ac adran 211 o Deddf Addysg 2002 (p.32), ac sydd bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Trosglwyddwyd swyddogaethau o dan adran 537B i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd adran 180 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40) ac yna i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Diwygiwyd adran 29(3) gan Ddeddf Addysg 2002 (p.32), Atodlen 30, paragraff 67 ac Atodlen 31. Diwygiwyd adran 408 gan Ddeddf Addysg 1997 (p.44), Atodlen 7, paragraff 30, Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31), Atodlen 30, paragraffau 57 a 106, Deddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21), Atodlen 9, paragraff 57 a Deddf Addysg 2002, Atodlen 21, paragraff 46. Diwygiwyd adran 537 gan Ddeddf Addysg 1997, Atodlen 7, paragraff 37, gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, Atodlen 30, paragraffau 57 a 152, a chan Ddeddf Dysgu a Medrau 2000, Atodlen 9, paragraff 60, a chan Ddeddf Addysg 2002, Atodlen 7, paragraff 6 ac Atodlen 22, Rhan 3. Mewnosodwyd adran 537A gan adran 20 o Ddeddf Addysg 1997, ac fe'i hamnewidiwyd gan baragraff 153 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. Mewnosodwyd adran 537B gan adran 164 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40). Diwygiwyd adran 563 gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, Atodlen 30, paragraff 172(a) a (b).

(2)

1998 p.31. Amnewidiwyd adran 92 gan baragraff 7 o Atodlen 4 i Ddeddf Addysg 2002 (p.32). Trosglwyddwyd swyddogaethau o dan adrannau 92 a 138 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd adran 211 o Ddeddf Addysg 2002, ac yna i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

(3)

2002 p.32. Mae adran 30 yn ailddeddfu'n sylweddol adran 42 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. Diwygiwyd adran 30 gan adran 103(1)(a), (b) ac (c) o Ddeddf Addysg 2005 (p.18), a chan adran 2 o Fesur Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009 (mccc 3). Mewnosodwyd adran 116A gan adran 4 o Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (mccc 1). Mewnosodwyd adran 116D gan adran 7 o Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009. Diwygiwyd adran 210 gan Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 (mccc 2) a Deddf Gofal Plant 2006, Atodlen 1, paragraff 16. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adrannau 30 a 210 o Ddeddf Addysg 2002 i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

(5)

1997 p.44. Amnewidiwyd is-adran (5) o adran 30 gan baragraff 15(6) o Atodlen 12 i Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009.

(7)

1997 p.44. Amnewidiwyd is-adran (5) o adran 30 gan baragraff 15(6) o Atodlen 12 i Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009.

(8)

O.S. 1999/1812. Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2004/1736 (Cy.179) ac O.S. 2005/3239 (Cy.244).

(9)

1997 p.44. Amnewidiwyd is-adran (5) o adran 30 gan baragraff 15(6) o Atodlen 12 i Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009.

(10)

1997 p.44. Amnewidiwyd is-adran (5) o adran 30 gan baragraff 15(6) o Atodlen 12 i Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009.

(11)

O.S. 2001/1110 (Cy.54) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/1735 (Cy.178). Mae offerynnau diwygio eraill nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(12)

1997 p.44. Amnewidiwyd is-adran (5) o adran 30 gan baragraff 15(6) o Atodlen 12 i Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009.

(13)

O.S. 2004/1025 (Cy.122) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/1396 (Cy.110). Mae offerynnau diwygio eraill hefyd ond nid ydynt yn berthnasol.

(14)

1997 p.44. Amnewidiwyd is-adran (5) o adran 30 gan baragraff 15(6) o Atodlen 12 i Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009.

(15)

O.S. 2004/1026 (Cy.123), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2007/3563 (Cy.313). Mae offerynnau diwygio eraill ond nid ydynt yn berthnasol.

(16)

1997 p.44. Amnewidiwyd is-adran (5) o adran 30 gan baragraff 15(6) o Atodlen 12 i Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009.

(17)

2009 p.22. Nid yw adran 148 mewn grym ar adeg gwneud y Rheoliadau hyn.

(18)

O.S. 2009/3256 (Cy.284) y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(19)

O.S. 2009/3355 (Cy.294) y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(20)

1997 p.44. Amnewidiwyd is-adran (5) o adran 30 gan baragraff 15(6) o Atodlen 12 i Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill