- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Rheoliadau 3, 6, 8, 20 a 28
1. Yn yr Atodlen hon, ystyr “ceisydd” yw—
(a)person sy'n gwneud cais am gofrestriad fel gwarchodwr plant neu ddarparydd gofal dydd o dan Ran 2 o'r Mesur; a
(b)pan fo'r cyd-destun yn mynnu, person a gofrestrwyd o dan Ran 2 o'r Mesur fel gwarchodwr plant neu ddarparydd gofal dydd.
2. Bod y ceisydd yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.
3. Nad yw'r ceisydd wedi ei anghymhwyso.
4. Bod gan y ceisydd y cymwysterau, y sgiliau a'r profiad angenrheidiol i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.
5. Bod y ceisydd yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.
6. Bod y ceisydd wedi darparu i Weinidogion Cymru—
(a)tystysgrif cofnod troseddol fanylach; a
(b)y cais am y dystysgrif honno, a oedd wedi ei gydlofnodi gan Weinidogion Cymru.
7. Pan fo'n briodol(1), bod y ceisydd wedi ei gofrestru gydag ADA a'r ceisydd wedi darparu ei rif cofrestru ADA i Weinidogion Cymru.
8. Bod pob person (ac eithrio'r ceisydd) sy'n gofalu, neu sydd i ofalu, am blant perthnasol, yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.
9. Bod gan bob person a grybwyllir ym mharagraff 8 y cymwysterau, y sgiliau a'r profiad angenrheidiol i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.
10. Bod pob person a grybwyllir ym mharagraff 8 yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.
11. Bod tystysgrif cofnod troseddol fanylach wedi ei chael mewn perthynas â phob person a grybwyllir ym mharagraff 8.
12. Pan fo'n briodol, bod pob person a grybwyllir ym mharagraff 8 wedi ei gofrestru gydag ADA a phob person o'r fath wedi darparu ei rif cofrestru ADA i'r ceisydd.
13.—(1) Bod pob person (ac eithrio'r ceisydd neu berson a grybwyllir ym mharagraff 8) sydd wedi cyrraedd 16 mlwydd oed ac—
(a)yn byw yn y fangre berthnasol,
(b)yn gweithio yn y fangre berthnasol, neu
(c)yn bresennol rywfodd arall yn y fangre berthnasol, ac yn dod,
neu'n debygol o ddod, i gysylltiad yn rheolaidd â phlant perthnasol, yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i fod mewn cysylltiad rheolaidd â phlant.
(2) At ddibenion is-baragraff (1)(b), mae person sy'n gweithio yn y fangre berthnasol yn cynnwys person sy'n gweithio ar sail wirfoddol.
(3) Pan fo'n briodol, bod tystysgrif cofnod troseddol fanylach wedi ei chael mewn perthynas â phob person a grybwyllir yn is-baragraff (1).
(4) Pan fo'n briodol, bod pob person a grybwyllir yn is-baragraff (1) wedi ei gofrestru gydag ADA a phob person o'r fath wedi darparu ei rif cofrestru ADA i'r ceisydd.
14. Mae'r paragraff hwn a pharagraffau 15 i 20 yn gymwys pan fo'r ceisydd yn unigolyn.
15. Bod y ceisydd yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.
16. Nad yw'r ceisydd wedi ei anghymhwyso.
17. Bod gan y ceisydd y cymwysterau, y sgiliau a'r profiad angenrheidiol i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.
18. Bod y ceisydd yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.
19. Bod y ceisydd wedi darparu i Weinidogion Cymru —
(a)tystysgrif cofnod troseddol fanylach; a
(b)y cais am y dystysgrif honno, a oedd wedi ei gydlofnodi gan Weinidogion Cymru.
20. Pan fo'n briodol, bod y ceisydd wedi ei gofrestru gydag ADA a'r ceisydd wedi darparu ei rif cofrestru ADA i Weinidogion Cymru.
21. Pan fo'r ceisydd yn sefydliad ac wedi penodi unigolyn i fod yn unigolyn cyfrifol–
(a)bod yr unigolyn cyfrifol yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed; neu
(b)pan fo person â chyfrifoldeb wedi ei benodi, bod y person â chyfrifoldeb yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i fod mewn cysylltiad rheolaidd â phlant o dan wyth mlwydd oed.
22. Bod gan yr unigolyn cyfrifol y cymwysterau, y sgiliau a'r profiad angenrheidiol ar gyfer y rôl y mae'n ei chyflawni mewn perthynas â gofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.
23. Bod y ceisydd yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i ymgymryd â'i rôl mewn perthynas â gofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.
24. Bod y ceisydd wedi darparu i Weinidogion Cymru —
(a)tystysgrif cofnod troseddol fanylach mewn perthynas â'r unigolyn cyfrifol; a
(b)y cais am y dystysgrif honno, a oedd wedi ei gydlofnodi gan Weinidogion Cymru.
25. Pan fo'n briodol, bod yr unigolyn cyfrifol wedi cofrestru gydag ADA, a'r ceisydd wedi darparu rhif cofrestru ADA yr unigolyn cyfrifol i Weinidogion Cymru.
26. Mae'r paragraff hwn a pharagraffau 27 i 31 yn gymwys pan fo'r ceisydd wedi penodi neu'n bwriadu penodi person i ymgymryd â'r cyfrifoldeb beunyddiol llawn am ddarparu gofal dydd yn y fangre (“y person â chyfrifoldeb”).
27. Bod y person â chyfrifoldeb yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.
28. Bod gan y person â chyfrifoldeb y cymwysterau, y sgiliau a'r profiad angenrheidiol i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.
29. Bod y person â chyfrifoldeb yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.
30. Bod y ceisydd wedi darparu i Weinidogion Cymru —
(a)tystysgrif cofnod troseddol fanylach mewn perthynas â'r person â chyfrifoldeb; a
(b)y cais am y dystysgrif honno, a oedd wedi ei gydlofnodi gan Weinidogion Cymru.
31. Pan fo'n briodol, bod y person â chyfrifoldeb wedi cofrestru gydag ADA, a'r ceisydd wedi darparu rhif cofrestru ADA person â chyfrifoldeb i Weinidogion Cymru.
32. Bod pob person (ac eithrio'r ceisydd neu berson a grybwyllir ym mharagraffau 21 neu 26) sy'n gofalu, neu sydd i ofalu, am blant perthnasol yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.
33. Bod gan bob person a grybwyllir ym mharagraff 32 y cymwysterau, y sgiliau a'r profiad angenrheidiol i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.
34. Bod pob person a grybwyllir ym mharagraff 32 yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.
35. Bod tystysgrif cofnod troseddol fanylach wedi ei chael mewn perthynas â phob person a grybwyllir ym mharagraff 32.
36. Pan fo'n briodol, bod pob person a grybwyllir ym mharagraff 32 wedi ei gofrestru gydag ADA a phob person o'r fath wedi darparu ei rif cofrestru ADA i'r ceisydd.
37.—(1) Bod pob person (ac eithrio'r ceisydd neu berson a grybwyllir ym mharagraff 21, 26 neu 32) sydd wedi cyrraedd 16 mlwydd oed ac —
(a)yn byw yn y fangre berthnasol,
(b)yn gweithio yn y fangre berthnasol, neu
(c)yn bresennol rywfodd arall yn y fangre berthnasol, ac
yn dod, neu'n debygol o ddod, i gysylltiad yn rheolaidd â phlant perthnasol, yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i fod mewn cysylltiad rheolaidd â phlant.
(2) At ddibenion is-baragraff (1)(b), mae person sy'n gweithio yn y fangre berthnasol yn cynnwys person sy'n gweithio ar sail wirfoddol.
(3) Pan fo'n briodol, bod tystysgrif cofnod troseddol fanylach wedi ei chael mewn perthynas â phob person a grybwyllir yn is-baragraff (1).
(4) Pan fo'n briodol, bod pob person a grybwyllir yn is-baragraff (1) wedi ei gofrestru gydag ADA a phob person o'r fath wedi darparu ei rif cofrestru ADA i'r ceisydd.
Mae'r gofyniad ar i bersonau sy'n ymgymryd â gweithgarwch a reoleiddir mewn lleoliadau gofal plant gofrestru gydag ADA o dan y Cynllun Fetio a Gwahardd yn cael ei weithredu fesul cam, yn unol â Rheoliadau a wnaed o dan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p.47). Mewn perthynas â hyn, rhaid dehongli'r ymadrodd “pan fo'n briodol” yn unol â'r gofyniad sydd ar y person i gofrestru gydag ADA, fel a esbonnir yn y Vetting and Barring Scheme Guidance (ISBN - 978 - 1 - 84987 - 2020 7) a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref ym Mawrth 2010.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys