Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010

Rheoliad 31

ATODLEN 4LL+CDIGWYDDIADAU Y MAE'N OFYNNOL HYSBYSU GWEINIDOGION CYMRU YN EU CYLCH

1.—(1Yn achos gwarchod plant, newid yn y personau canlynol—LL+C

(a)unrhyw berson sy'n gofalu am blant yn y fangre berthnasol, neu

(b)unrhyw berson sy'n byw neu a gyflogir yn y fangre honno.

(2Yr wybodaeth sydd i'w darparu yw enw llawn y person newydd ynghyd ag unrhyw enwau blaenorol neu enwau eraill, cyfeiriad ei gartref a'i ddyddiad geni.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 4 para. 1 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

2.—(1Yn achos gofal dydd, newid yn y personau canlynol—LL+C

(a)unrhyw berson â chyfrifoldeb,

(b)unrhyw un sy'n gofalu am blant yn y fangre berthnasol,

(c)unrhyw un sy'n byw neu'n gweithio yn y fangre honno (ar yr amod nad yw personau i'w trin fel pe baent yn gweithio yn y fangre at ddibenion y paragraff hwn os na wnânt ddim o'u gwaith yn y rhan o'r fangre lle y gofelir am blant, neu os nad ydynt yn gweithio yn y fangre ar yr adeg y gofelir am blant yno), ac

(ch)pan ddarperir y gofal dydd gan bwyllgor neu gorff corfforaethol neu anghorfforedig, y Cadeirydd, yr Ysgrifennydd neu'r Trysorydd (neu berson sy'n dal swydd gymaradwy yn y sefydliad).

(2Yr wybodaeth sydd i'w darparu yw enw llawn y person newydd ynghyd ag unrhyw enwau blaenorol neu enwau eraill, cyfeiriad ei gartref a'i ddyddiad geni.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 4 para. 2 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

3.  Unrhyw newid—LL+C

(a)yn enw neu gyfeiriad cartref y person cofrestredig neu'r personau hynny a ddisgrifir ym mharagraff 1(1) neu baragraff 2(1)(a) i (c); neu

(b)yn enw neu gyfeiriad y swyddfa gofrestredig neu'r brif swyddfa, pan fo'r person cofrestredig yn sefydliad.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 4 para. 3 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

4.  Unrhyw newid yn y math o ofal a ddarperir gan y person cofrestredig.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 4 para. 4 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

5.  Yn achos gofal dydd, unrhyw newid yn y cyfleusterau sydd i'w defnyddio ar gyfer gofal dydd yn y fangre berthnasol, gan gynnwys newidiadau yn nifer yr ystafelloedd, eu swyddogaethau, nifer y toiledau a'r basnau ymolchi, unrhyw gyfleusterau ar wahân ar gyfer gweithwyr sy'n oedolion a mynediad i'r fangre ar gyfer ceir.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 4 para. 5 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

6.  Unrhyw newid yn yr oriau pan ddarperir gofal dydd neu pan warchodir plant.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 4 para. 6 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

7.  Unrhyw achos yn y fangre berthnasol o glefyd heintus sydd, ym marn unrhyw ymarferydd meddygol cofrestredig sy'n gweld plentyn neu berson arall yn y fangre, yn ddigon difrifol i adrodd amdano felly, neu anaf difrifol, neu salwch difrifol neu farwolaeth unrhyw blentyn neu berson arall yn y fangre.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 4 para. 7 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

8.  Unrhyw honiadau o niwed difrifol a wnaed i blentyn, gan unrhyw berson sy'n gofalu am blant perthnasol yn y fangre, neu gan unrhyw berson sy'n byw neu'n gweithio, neu a gyflogir, yn y fangre, neu unrhyw gamdriniaeth yr honnir iddi ddigwydd yn y fangre.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 4 para. 8 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

9.  Unrhyw ddigwyddiad arall a allai effeithio ar addasrwydd y person cofrestredig i ofalu am blant, neu addasrwydd unrhyw berson sy'n byw neu'n gweithio neu a gyflogir yn y fangre, i fod mewn cysylltiad rheolaidd â phlant.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 4 para. 9 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

10.  Unrhyw ddigwyddiad arwyddocaol arall sy'n debygol o effeithio ar les unrhyw blentyn yn y fangre.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 4 para. 10 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)