- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Rheoliadau 3, 6, 8, 20 a 28
1. Yn yr Atodlen hon, ystyr “ceisydd” yw—
(a)person sy'n gwneud cais am gofrestriad fel gwarchodwr plant neu ddarparydd gofal dydd o dan Ran 2 o'r Mesur; a
(b)pan fo'r cyd-destun yn mynnu, person a gofrestrwyd o dan Ran 2 o'r Mesur fel gwarchodwr plant neu ddarparydd gofal dydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
2. Bod y ceisydd yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i ofalu am blant [F1o dan ddeuddeng mlwydd oed] .
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Atod. 1 para. 2 wedi eu hamnewid (1.4.2016) gan Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/87), rhlau. 1(2), 9(a)
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
3. Nad yw'r ceisydd wedi ei anghymhwyso.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
4. Bod gan y ceisydd y cymwysterau, y sgiliau a'r profiad angenrheidiol i ofalu am blant [F2o dan ddeuddeng mlwydd oed].
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn Atod. 1 para. 4 wedi eu hamnewid (1.4.2016) gan Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/87), rhlau. 1(2), 9(a)
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
5. Bod y ceisydd yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i ofalu am blant [F3o dan ddeuddeng mlwydd oed].
Diwygiadau Testunol
F3Geiriau yn Atod. 1 para. 5 wedi eu hamnewid (1.4.2016) gan Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/87), rhlau. 1(2), 9(a)
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
[F46. Bod y ceisydd wedi darparu i Weinidogion Cymru dystysgrif cofnod troseddol fanylach.]
Diwygiadau Testunol
F4Geiriau yn Atod. 1 para. 6 wedi eu hamnewid (1.4.2016) gan Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/87), rhlau. 1(2), 9(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
7. Pan fo'n briodol(1), bod y ceisydd wedi ei gofrestru gydag ADA a'r ceisydd wedi darparu ei rif cofrestru ADA i Weinidogion Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
8. Bod pob person (ac eithrio'r ceisydd) sy'n gofalu, neu sydd i ofalu, am blant perthnasol, yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i ofalu am blant [F5o dan ddeuddeng mlwydd oed] .
Diwygiadau Testunol
F5Geiriau yn Atod. 1 para. 8 wedi eu hamnewid (1.4.2016) gan Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/87), rhlau. 1(2), 9(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
9. Bod gan bob person a grybwyllir ym mharagraff 8 y cymwysterau, y sgiliau a'r profiad angenrheidiol i ofalu am blant [F6o dan ddeuddeng mlwydd oed].
Diwygiadau Testunol
F6Geiriau yn Atod. 1 para. 9 wedi eu hamnewid (1.4.2016) gan Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/87), rhlau. 1(2), 9(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
10. Bod pob person a grybwyllir ym mharagraff 8 yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i ofalu am blant [F7o dan ddeuddeng mlwydd oed].
Diwygiadau Testunol
F7Geiriau yn Atod. 1 para. 10 wedi eu hamnewid (1.4.2016) gan Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/87), rhlau. 1(2), 9(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
11. Bod tystysgrif cofnod troseddol fanylach wedi ei chael mewn perthynas â phob person a grybwyllir ym mharagraff 8.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
12. Pan fo'n briodol, bod pob person a grybwyllir ym mharagraff 8 wedi ei gofrestru gydag ADA a phob person o'r fath wedi darparu ei rif cofrestru ADA i'r ceisydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I12Atod. 1 para. 12 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
13.—[F8(1) Bod pob person (ac eithrio’r ceisydd neu berson a grybwyllir ym mharagraff 8) sydd wedi cyrraedd 16 mlwydd oed ac—
(a)yn byw yn y fangre berthnasol,
(b)yn gweithio yn y fangre berthnasol, neu
(c)yn bresennol rywfodd arall yn y fangre berthnasol ac yn dod, neu’n debygol o ddod, i gysylltiad yn rheolaidd â phlant perthnasol,
yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i gael cyswllt â phlant.]
(2) At ddibenion is-baragraff (1)(b), mae person sy'n gweithio yn y fangre berthnasol yn cynnwys person sy'n gweithio ar sail wirfoddol.
(3) Pan fo'n briodol, bod tystysgrif cofnod troseddol fanylach wedi ei chael mewn perthynas â phob person a grybwyllir yn is-baragraff (1).
(4) Pan fo'n briodol, bod pob person a grybwyllir yn is-baragraff (1) wedi ei gofrestru gydag ADA a phob person o'r fath wedi darparu ei rif cofrestru ADA i'r ceisydd.
Diwygiadau Testunol
F8Atod. 1 para. 13(1) wedi ei amnewid (1.4.2016) gan Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/87), rhlau. 1(2), 9(d)
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 1 para. 13 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
14. Mae'r paragraff hwn a pharagraffau 15 i 20 yn gymwys pan fo'r ceisydd yn unigolyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I14Atod. 1 para. 14 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
15. Bod y ceisydd yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i ofalu am blant [F9o dan ddeuddeng mlwydd oed].
Diwygiadau Testunol
F9Geiriau yn Atod. 1 para. 15 wedi eu hamnewid (1.4.2016) gan Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/87), rhlau. 1(2), 10(a)
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. 1 para. 15 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
16. Nad yw'r ceisydd wedi ei anghymhwyso.
Gwybodaeth Cychwyn
I16Atod. 1 para. 16 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
17. Bod gan y ceisydd y cymwysterau, y sgiliau a'r profiad angenrheidiol i ofalu am blant [F10o dan ddeuddeng mlwydd oed].
Diwygiadau Testunol
F10Geiriau yn Atod. 1 para. 17 wedi eu hamnewid (1.4.2016) gan Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/87), rhlau. 1(2), 10(a)
Gwybodaeth Cychwyn
I17Atod. 1 para. 17 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
18. Bod y ceisydd yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i ofalu am blant [F11o dan ddeuddeng mlwydd oed].
Diwygiadau Testunol
F11Geiriau yn Atod. 1 para. 18 wedi eu hamnewid (1.4.2016) gan Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/87), rhlau. 1(2), 10(a)
Gwybodaeth Cychwyn
I18Atod. 1 para. 18 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
[F1219. Bod y ceisydd wedi darparu i Weinidogion Cymru dystysgrif cofnod troseddol fanylach.]
Diwygiadau Testunol
F12Geiriau yn Atod. 1 para. 19 wedi eu hamnewid (1.4.2016) gan Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/87), rhlau. 1(2), 10(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I19Atod. 1 para. 19 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
20. Pan fo'n briodol, bod y ceisydd wedi ei gofrestru gydag ADA a'r ceisydd wedi darparu ei rif cofrestru ADA i Weinidogion Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I20Atod. 1 para. 20 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
21. Pan fo'r ceisydd yn sefydliad ac wedi penodi unigolyn i fod yn unigolyn cyfrifol–
(a)bod yr unigolyn cyfrifol yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i ofalu am blant [F13o dan ddeuddeng mlwydd oed] ; neu
(b)pan fo person â chyfrifoldeb wedi ei benodi, bod y person â chyfrifoldeb yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i fod mewn cysylltiad rheolaidd â phlant [F14o dan ddeuddeng mlwydd oed] .
Diwygiadau Testunol
F13Geiriau yn Atod. 1 para. 21(a) wedi eu hamnewid (1.4.2016) gan Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/87), rhlau. 1(2), 10(c)
F14Geiriau yn Atod. 1 para. 21(b) wedi eu hamnewid (1.4.2016) gan Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/87), rhlau. 1(2), 10(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I21Atod. 1 para. 21 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
22. Bod gan yr unigolyn cyfrifol y cymwysterau, y sgiliau a'r profiad angenrheidiol ar gyfer y rôl y mae'n ei chyflawni mewn perthynas â gofalu am blant [F15o dan ddeuddeng mlwydd oed].
Diwygiadau Testunol
F15Geiriau yn Atod. 1 para. 22 wedi eu hamnewid (1.4.2016) gan Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/87), rhlau. 1(2), 10(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I22Atod. 1 para. 22 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
23. Bod y ceisydd yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i ymgymryd â'i rôl mewn perthynas â gofalu am blant [F16o dan ddeuddeng mlwydd oed].
Diwygiadau Testunol
F16Geiriau yn Atod. 1 para. 23 wedi eu hamnewid (1.4.2016) gan Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/87), rhlau. 1(2), 10(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I23Atod. 1 para. 23 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
[F1724. Bod y ceisydd wedi darparu i Weinidogion Cymru dystysgrif cofnod troseddol fanylach mewn perthynas â’r unigolyn cyfrifol.]
Diwygiadau Testunol
F17Geiriau yn Atod. 1 para. 24 wedi eu hamnewid (1.4.2016) gan Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/87), rhlau. 1(2), 10(d)
Gwybodaeth Cychwyn
I24Atod. 1 para. 24 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
25. Pan fo'n briodol, bod yr unigolyn cyfrifol wedi cofrestru gydag ADA, a'r ceisydd wedi darparu rhif cofrestru ADA yr unigolyn cyfrifol i Weinidogion Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I25Atod. 1 para. 25 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
26. Mae'r paragraff hwn a pharagraffau 27 i 31 yn gymwys pan fo'r ceisydd wedi penodi neu'n bwriadu penodi person i ymgymryd â'r cyfrifoldeb beunyddiol llawn am ddarparu gofal dydd yn y fangre (“y person â chyfrifoldeb”).
Gwybodaeth Cychwyn
I26Atod. 1 para. 26 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
27. Bod y person â chyfrifoldeb yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i ofalu am blant [F18o dan ddeuddeng mlwydd oed].
Diwygiadau Testunol
F18Geiriau yn Atod. 1 para. 27 wedi eu hamnewid (1.4.2016) gan Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/87), rhlau. 1(2), 10(e)
Gwybodaeth Cychwyn
I27Atod. 1 para. 27 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
28. Bod gan y person â chyfrifoldeb y cymwysterau, y sgiliau a'r profiad angenrheidiol i ofalu am blant [F19o dan ddeuddeng mlwydd oed].
Diwygiadau Testunol
F19Geiriau yn Atod. 1 para. 28 wedi eu hamnewid (1.4.2016) gan Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/87), rhlau. 1(2), 10(e)
Gwybodaeth Cychwyn
I28Atod. 1 para. 28 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
29. Bod y person â chyfrifoldeb yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i ofalu am blant [F20o dan ddeuddeng mlwydd oed].
Diwygiadau Testunol
F20Geiriau yn Atod. 1 para. 29 wedi eu hamnewid (1.4.2016) gan Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/87), rhlau. 1(2), 10(e)
Gwybodaeth Cychwyn
I29Atod. 1 para. 29 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
[F2130. Bod y ceisydd wedi darparu i Weinidogion Cymru dystysgrif cofnod troseddol fanylach mewn perthynas â’r person â chyfrifoldeb.]
Diwygiadau Testunol
F21Geiriau yn Atod. 1 para. 30 wedi eu hamnewid (1.4.2016) gan Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/87), rhlau. 1(2), 10(f)
Gwybodaeth Cychwyn
I30Atod. 1 para. 30 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
31. Pan fo'n briodol, bod y person â chyfrifoldeb wedi cofrestru gydag ADA, a'r ceisydd wedi darparu rhif cofrestru ADA person â chyfrifoldeb i Weinidogion Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I31Atod. 1 para. 31 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
32. Bod pob person (ac eithrio'r ceisydd neu berson a grybwyllir ym mharagraffau 21 neu 26) sy'n gofalu, neu sydd i ofalu, am blant perthnasol yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i ofalu am blant [F22o dan ddeuddeng mlwydd oed] .
Diwygiadau Testunol
F22Geiriau yn Atod. 1 para. 32 wedi eu hamnewid (1.4.2016) gan Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/87), rhlau. 1(2), 10(g)
Gwybodaeth Cychwyn
I32Atod. 1 para. 32 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
33. Bod gan bob person a grybwyllir ym mharagraff 32 y cymwysterau, y sgiliau a'r profiad angenrheidiol i ofalu am blant [F23o dan ddeuddeng mlwydd oed].
Diwygiadau Testunol
F23Geiriau yn Atod. 1 para. 33 wedi eu hamnewid (1.4.2016) gan Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/87), rhlau. 1(2), 10(g)
Gwybodaeth Cychwyn
I33Atod. 1 para. 33 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
34. Bod pob person a grybwyllir ym mharagraff 32 yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i ofalu am blant [F24o dan ddeuddeng mlwydd oed].
Diwygiadau Testunol
F24Geiriau yn Atod. 1 para. 34 wedi eu hamnewid (1.4.2016) gan Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/87), rhlau. 1(2), 10(g)
Gwybodaeth Cychwyn
I34Atod. 1 para. 34 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
35. Bod tystysgrif cofnod troseddol fanylach wedi ei chael mewn perthynas â phob person a grybwyllir ym mharagraff 32.
Gwybodaeth Cychwyn
I35Atod. 1 para. 35 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
36. Pan fo'n briodol, bod pob person a grybwyllir ym mharagraff 32 wedi ei gofrestru gydag ADA a phob person o'r fath wedi darparu ei rif cofrestru ADA i'r ceisydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I36Atod. 1 para. 36 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
37.—[F25(1) >Bod pob person (ac eithrio’r ceisydd neu berson a grybwyllir ym mharagraff 21, 26 neu 32) sydd wedi cyrraedd 16 mlwydd oed ac—
(a)yn byw yn y fangre berthnasol,
(b)yn gweithio yn y fangre berthnasol, neu
(c)yn bresennol rywfodd arall yn y fangre berthnasol ac yn dod, neu’n debygol o ddod, i gysylltiad yn rheolaidd â phlant perthnasol,
yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i gael cyswllt â phlant.]
(2) At ddibenion is-baragraff (1)(b), mae person sy'n gweithio yn y fangre berthnasol yn cynnwys person sy'n gweithio ar sail wirfoddol.
(3) Pan fo'n briodol, bod tystysgrif cofnod troseddol fanylach wedi ei chael mewn perthynas â phob person a grybwyllir yn is-baragraff (1).
(4) Pan fo'n briodol, bod pob person a grybwyllir yn is-baragraff (1) wedi ei gofrestru gydag ADA a phob person o'r fath wedi darparu ei rif cofrestru ADA i'r ceisydd.
Diwygiadau Testunol
F25Atod. 1 para. 37(1) wedi ei amnewid (1.4.2016) gan Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/87), rhlau. 1(2), 10(h)
Gwybodaeth Cychwyn
I37Atod. 1 para. 37 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
Rheoliadau 4, 6, 8, 20 a 28
1. Yn yr Atodlen hon, ystyr “ceisydd” yw—
(a)person sy'n gwneud cais am gofrestriad fel gwarchodwr plant neu ddarparydd gofal dydd o dan Ran 2 o'r Mesur; a
(b)pan fo'r cyd-destun yn mynnu, person a gofrestrwyd o dan Ran 2 o'r Mesur fel gwarchodwr plant neu ddarparydd gofal dydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I38Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
2.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unigolyn sy'n gwneud cais i gofrestru fel gwarchodwr plant.
(2) Enw llawn y ceisydd (ac unrhyw enw arall neu enw blaenorol), ei ddyddiad geni, ei gyfeiriad a'i rif teleffon.
(3) Manylion cymwysterau proffesiynol neu dechnegol a phrofiad y ceisydd, i'r graddau y mae'r cyfryw gymwysterau a phrofiad yn berthnasol i ofalu am blant [F26o dan ddeuddeng mlwydd oed] .
(4) Manylion hanes cyflogaeth y ceisydd, gan gynnwys—
(a)hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau mewn cyflogaeth;
(b)os oedd unrhyw gyflogaeth neu swydd flaenorol yn cynnwys gweithio gyda phlant, cadarnhad, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, o'r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd honno i ben;
(c)enw a chyfeiriad unrhyw gyflogwr presennol, a phan fo'n berthnasol, unrhyw gyflogwyr blaenorol.
(5) Enwau a chyfeiriadau dau ganolwr—
(a)nad ydynt yn berthnasau i'r ceisydd;
(b)sydd ill dau yn alluog i ddarparu geirda mewn perthynas â chymhwysedd y ceisydd i ofalu am blant [F27o dan ddeuddeng mlwydd oed] ; ac
(c)un ohonynt, os yw'n bosibl, yn gyflogwr diweddaraf y ceisydd.
(6) Manylion unrhyw fusnes a gynhelir, neu a gynhaliwyd, gan y ceisydd.
Diwygiadau Testunol
F26Geiriau yn Atod. 2 para. 2(3) wedi eu hamnewid (1.4.2016) gan Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/87), rhlau. 1(2), 11(a)
F27Geiriau yn Atod. 2 para. 2(5)(b) wedi eu hamnewid (1.4.2016) gan Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/87), rhlau. 1(2), 11(a)
Gwybodaeth Cychwyn
I39Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
3. Enw, cyfeiriad, rhif teleffon, rhif ffacsimile (os oes un), a chyfeiriad post electronig (os oes un) y fangre lle y bwriedir gofalu am y plant (“y fangre”), ynghyd â disgrifiad o'r fangre a'r cyfleusterau a ddarperir, neu sydd i'w darparu, ar gyfer plant perthnasol.
Gwybodaeth Cychwyn
I40Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
4. Y datganid o ddiben.
Gwybodaeth Cychwyn
I41Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
5. Yr oriau arfaethedig y dymuna'r ceisydd gael ei gofrestru ar eu cyfer fel gwarchodwr plant.
Gwybodaeth Cychwyn
I42Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
6. Disgrifiad o'r ardal y lleolir y fangre ynddi, a manylion ynghylch mynediad i'r fangre.
Gwybodaeth Cychwyn
I43Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
7. Datganiad ynglŷn â'r trefniadau diogelwch, gan gynnwys trefniadau at ddibenion—
(a)diogelu mynediad at wybodaeth a gedwir yn y fangre; a
(b)cyfyngu ar fynediad i mewn i'r fangre o fangreoedd cyfagos, neu os yw'r fangre yn rhan o adeilad, o rannau eraill o'r adeilad.
Gwybodaeth Cychwyn
I44Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
8. Pa un a oes busnes neu weithgarwch arall a gynhelir, neu a fydd yn cael ei gynnal, yn y fangre yr un pryd ag y gofelir am blant yno o dan y cofrestriad arfaethedig, ac os felly, manylion y cyfryw fusnes neu weithgarwch.
Gwybodaeth Cychwyn
I45Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
9. Nifer y plant y gofelir amdanynt, a'u hoedrannau.
Gwybodaeth Cychwyn
I46Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
10. Mewn perthynas ag unrhyw berson, ac eithrio'r ceisydd, sy'n gofalu neu sydd i ofalu am blant neu blentyn perthnasol—
(a)enw'r person (ac unrhyw enw arall ac enw blaenorol) a'i ddyddiad geni;
(b)dyletswyddau a chyfrifoldebau'r person mewn perthynas â gwaith y person hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I47Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
11. Mewn perthynas ag unrhyw berson, ac eithrio'r ceisydd, sy'n gofalu neu sydd i ofalu am blant perthnasol—
(a)pa un a yw'r person yn preswylio, neu a fwriedir iddo breswylio yn y fangre ai peidio;
(b)os yw'r person yn berthynas i'r ceisydd, natur y berthynas honno;
(c)pa un a yw'r person yn gweithio, neu a fwriedir iddo weithio, ar sail amser llawn ynteu ar sail ran-amser, ac os ar sail ran-amser, y nifer o oriau bob wythnos y bwriedir i'r person hwnnw weithio;
(ch)y dyddiad y dechreuodd y person weithio, neu y bwriedir iddo ddechrau gweithio;
(d)gwybodaeth ynghylch cymwysterau, profiad a sgiliau'r person hwnnw, i'r graddau y mae'n berthnasol i'r gwaith sydd i'w gyflawni gan y person hwnnw;
(dd)datganiad gan y ceisydd i'r perwyl ei fod wedi ei fodloni ynghylch dilysrwydd y cymwysterau ac wedi gwirio'r profiad a'r sgiliau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (d);
(e)datganiad gan y ceisydd ynghylch—
(i)addasrwydd cymwysterau'r person ar gyfer y gwaith y bwriedir i'r person ei gyflawni,
(ii)pa un a oes gan y person y sgiliau angenrheidiol ai peidio ar gyfer gwaith o'r fath, a
(iii)addasrwydd y person i weithio gyda phlant [F28o dan ddeuddeng mlwydd oed] a bod mewn cysylltiad â phlant o'r fath yn rheolaidd;
(f)datganiad gan y person ynglŷn â chyflwr ei iechyd corfforol a meddyliol;
(ff)datganiad gan y ceisydd i'r perwyl bod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol ar gyfer y gwaith y bwriedir i'r person hwnnw ei gyflawni;
(g)datganiad gan y ceisydd i gadarnhau pa un a fodlonwyd ef ai peidio ynghylch dilysrwydd hunaniaeth y person, ac yn nodi'r dull a ddefnyddiodd y ceisydd i fodloni ei hunan ynglŷn â hynny, a pha un a yw'r ceisydd wedi cael copi o dystysgrif geni'r person ai peidio;
(ng)cadarnhad gan y ceisydd bod ganddo ffotograff diweddar o'r person;
(h)datganiad gan y ceisydd i'r perwyl ei fod wedi cael—
(i)dau eirda mewn perthynas â'r person, a bod y ceisydd wedi ei fodloni ynghylch dilysrwydd y geirdaon hynny,
(ii)hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad boddhaol o unrhyw fylchau yng nghyflogaeth y person, a
(iii)os oedd cyflogaeth neu swydd flaenorol y person yn ymwneud â phlant, cadarnhad, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, o'r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd honno i ben
Diwygiadau Testunol
F28Geiriau yn Atod. 2 para. 11(e)(iii) wedi eu hamnewid (1.4.2016) gan Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/87), rhlau. 1(2), 11(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I48Atod. 2 para. 11 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
12.—(1) Enw llawn (ac unrhyw enw arall ac enw blaenorol), dyddiad geni a chyfeiriad pob person (ac eithrio'r ceisydd a pherson a grybwyllir ym mharagraffau 10 ac 11) sydd wedi cyrraedd 16 mlwydd oed, yn gweithio yn y fangre berthnasol ac yn dod, neu'n debygol o ddod, i gysylltiad rheolaidd â phlant perthnasol.
(2) At ddibenion is-baragraff (1), mae person sy'n gweithio yn y fangre berthnasol yn cynnwys person sy'n gweithio ar sail wirfoddol.
Gwybodaeth Cychwyn
I49Atod. 2 para. 12 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
13. Enw llawn (ac unrhyw enw arall ac enw blaenorol) a, dyddiad geni pob person sydd wedi cyrraedd 16 mlwydd oed, yn byw yn y fangre berthnasol, ac yn dod, neu'n debygol o ddod, i gysylltiad rheolaidd â phlant perthnasol.
Gwybodaeth Cychwyn
I50Atod. 2 para. 13 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
14. Enw llawn (ac unrhyw enw arall ac enw blaenorol), dyddiad geni a chyfeiriad pob person sydd wedi cyrraedd 16 mlwydd oed ac sydd rywfodd arall yn bresennol yn y fangre berthnasol ac yn dod, neu'n debygol o ddod, i gysylltiad yn rheolaidd â phlant perthnasol.
Gwybodaeth Cychwyn
I51Atod. 2 para. 14 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
15. Tystysgrif geni'r ceisydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I52Atod. 2 para. 15 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
16. Prawf o hunaniaeth y ceisydd, gan gynnwys ffotograff diweddar.
Gwybodaeth Cychwyn
I53Atod. 2 para. 16 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
17. Tystysgrifau neu dystiolaeth addas arall o gymwysterau proffesiynol neu dechnegol y ceisydd, i'r graddau y mae cymwysterau o'r fath yn berthnasol i ofalu am blant sydd [F29o dan ddeuddeng mlwydd oed].
Diwygiadau Testunol
F29Geiriau yn Atod. 2 para. 17 wedi eu hamnewid (1.4.2016) gan Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/87), rhlau. 1(2), 11(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I54Atod. 2 para. 17 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
18. Tystysgrif o yswiriant yr ymgeisydd rhag atebolrwydd y gellid ei achosi i'r person hwnnw mewn perthynas â marwolaeth, anaf, atebolrwydd cyhoeddus, difrod neu golled arall mewn cysylltiad â'r gwarchod plant arfaethedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I55Atod. 2 para. 18 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
19.—(1) Datganiad ysgrifenedig gan y ceisydd yn cadarnhau—
(a)mewn perthynas â phob person, ac eithrio'r ceisydd, sy'n gofalu, neu y bwriedir iddo ofalu, am y plant a warchodir, bod–
(i)tystysgrif cofnod troseddol fanylach wedi ei dyroddi; a
(ii)pan fo'n briodol(2), cofrestriad gydag ADA wedi ei gwblhau a bod y ceisydd wedi cael rhif cofrestru ADA y person hwnnw; a
(b)y bydd y ceisydd yn rhoi'r tystysgrifau a ddyroddwyd felly, a'r rhifau cofrestru a ddyrannwyd, ar gael i'w harchwilio gan Weinidogion Cymru os gofynnir amdanynt gan Weinidogion Cymru.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), datganiad ysgrifenedig gan y ceisydd yn cadarnhau–—
(a)mewn perthynas â phob person a grybwyllir ym mharagraffau 12 i 14, bod—
(i)tystysgrif cofnod troseddol fanylach wedi ei dyroddi; a
(ii)pan fo'n briodol, cofrestriad gydag ADA wedi ei gwblhau a bod y ceisydd wedi cael rhif cofrestru ADA y person hwnnw; a
(b)y bydd y ceisydd yn rhoi'r tystysgrifau a ddyroddwyd felly, a'r rhifau cofrestru a ddyrannwyd, ar gael i'w harchwilio gan Weinidogion Cymru os gofynnir amdanynt gan Weinidogion Cymru.
(3) Pan fo rheoliad 20(5) yn gymwys, ac nad oes awdurdod gan y ceisydd i gael y cyfryw wybodaeth neu ddogfen, datganiad ysgrifenedig gan y ceisydd y caiff y personau a grybwyllir ym mharagraffau 12 i 14 eu goruchwylio'n briodol ar bob achlysur pan fo unrhyw berson o'r fath yn dod i gysylltiad â phlentyn neu blant perthnasol.
Gwybodaeth Cychwyn
I56Atod. 2 para. 19 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
20.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), adroddiad gan ymarferydd meddygol cofrestredig ynglŷn â pha un a yw'r ceisydd yn ffit ai peidio yn gorfforol ac yn feddyliol i ofalu am blant [F30o dan ddeuddeng mlwydd oed].
(2) Os nad oes modd i'r ceisydd gael yr adroddiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (1), datganiad gan y ceisydd ynglŷn â chyflwr ei iechyd corfforol a meddyliol.
Diwygiadau Testunol
F30Geiriau yn Atod. 2 para. 20(1) wedi eu hamnewid (1.4.2016) gan Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/87), rhlau. 1(2), 11(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I57Atod. 2 para. 20 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
21. Yn Rhan hon—
ystyr “perthynas” (“relative”) mewn perthynas ag unrhyw berson yw—
priod neu bartner sifil y person hwnnw;
unrhyw riant, taid, nain, plentyn, ŵyr, wyres, brawd, chwaer, ewythr, modryb, nai neu nith y person neu briod neu bartner sifil y person;
priod neu bartner sifil unrhyw berthynas y cyfeirir ato yn is-baragraff (b),
ac at y diben o benderfynu ynghylch unrhyw berthynas o'r fath, rhaid trin llysblentyn person fel plentyn y person, ac y mae [F31cyfeiriadau at “priod neu bartner sifil” mewn perthynas ag unrhyw berson yn cynnwys cyn briod neu bartner sifil a pherson sy’n byw gyda’r person fel pe baent yn bâr priod neu’n bartneriaid sifil] .
Diwygiadau Testunol
F31Geiriau yn Atod. 2 para. 21 wedi eu hamnewid (2.12.2019) gan The Civil Partnership (Opposite-sex Couples) Regulations 2019 (O.S. 2019/1458), rhl. 1(2), Atod. 3 para. 92(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I58Atod. 2 para. 21 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
22.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo'r ceisydd yn unigolyn.
(2) Enw llawn y ceisydd (ac unrhyw enw arall neu enw blaenorol), ei ddyddiad geni, ei gyfeiriad a'i rif teleffon.
(3) Manylion cymwysterau proffesiynol neu dechnegol a phrofiad y ceisydd, i'r graddau y mae'r cyfryw gymwysterau a phrofiad yn berthnasol i ofalu am blant [F32o dan ddeuddeng mlwydd oed] .
(4) Manylion unrhyw fusnes a gynhelir neu a gynhaliwyd gan y ceisydd.
(5) Manylion hanes cyflogaeth y ceisydd, gan gynnwys—
(a)hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau mewn cyflogaeth;
(b)os oedd unrhyw gyflogaeth neu swydd flaenorol yn cynnwys gweithio gyda phlant, cadarnhad, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, o'r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd honno i ben;
(c)enw a chyfeiriad unrhyw gyflogwr presennol, a phan fo'n berthnasol, unrhyw gyflogwyr blaenorol;
(ch)enwau a chyfeiriadau dau ganolwr—
(i)nad ydynt yn berthnasau i'r ceisydd,
(ii)sydd ill dau yn alluog i ddarparu geirda mewn perthynas â chymhwysedd y ceisydd i ofalu am blant [F33o dan ddeuddeng mlwydd oed] ; a
(iii)un ohonynt, os yw'n bosibl, yn gyflogwr diweddaraf y ceisydd.
Diwygiadau Testunol
F32Geiriau yn Atod. 2 para. 22(3) wedi eu hamnewid (1.4.2016) gan Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/87), rhlau. 1(2), 12(a)
F33Geiriau yn Atod. 2 para. 22(5)(d)(ii) wedi eu hamnewid (1.4.2016) gan Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/87), rhlau. 1(2), 12(a)
Gwybodaeth Cychwyn
I59Atod. 2 para. 22 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
23.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo'r ceisydd yn sefydliad.
(2) Enw, cyfeiriad a rhif teleffon y ceisydd.
(3) Yn achos ceisydd sefydliadol sy'n gwmni, ei swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa'r cwmni, ei rif cofrestru ac, yn achos ceisydd sefydliadol sy'n elusen gofrestredig, ei rif elusen gofrestredig.
(4) Os yw'r sefydliad yn is-gwmni cwmni daliannol, enw a chyfeiriad y cwmni daliannol, ei swyddfa gofrestredig neu'i brif swyddfa ac unrhyw is-gwmni arall y cwmni daliannol hwnnw.
(5) Yn yr Atodlen hon rhaid dehongli'r geiriau “cwmni daliannol” (“holding company”) ac “is–gwmni” (“subsidiary”) yn unol â'r dehongliad o “subsidiary” a “holding company” yn adran 1159 o Ddeddf Cwmnïau 2006(3).
Gwybodaeth Cychwyn
I60Atod. 2 para. 23 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
24.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo'r ceisydd yn sefydliad ac, fel y cyfryw, wedi penodi unigolyn cyfrifol.
(2) Enw llawn (ac unrhyw enw arall ac enw blaenorol) yr unigolyn cyfrifol, ei ddyddiad geni, ei gyfeiriad a'i rif teleffon.
(3) Manylion am gymwysterau proffesiynol neu dechnegol yr unigolyn gyfrifol a'i brofiad, i'r graddau y mae'r cyfryw gymwysterau a phrofiad yn berthnasol i—
(a)darparu gofal dydd i blant [F34o dan ddeuddeng mlwydd oed] ,
(b)pan fo paragraff 25 yn gymwys, goruchwylio'r ddarpariaeth o ofal dydd i blant [F35o dan ddeuddeng mlwydd oed] .
(4) Ac eithrio pan fo paragraff 25 yn gymwys, manylion am hanes cyflogaeth yr unigolyn cyfrifol–
(a)hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau mewn cyflogaeth;
(b)os oedd unrhyw gyflogaeth neu swydd flaenorol yn cynnwys gweithio gyda phlant, cadarnhad, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, o'r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd honno i ben;
(c)enw a chyfeiriad unrhyw gyflogwr presennol, a phan fo'n berthnasol, unrhyw gyflogwyr blaenorol;
(ch)enwau a chyfeiriadau dau ganolwr —
(i)nad ydynt yn berthnasau i'r unigolyn cyfrifol,
(ii)sydd ill dau yn alluog i ddarparu geirda mewn perthynas â chymhwysedd yr unigolyn cyfrifol i ofalu am blant [F36o dan ddeuddeng mlwydd oed] ; ac
(iii)un ohonynt, os yw'n bosibl, yn gyflogwr diweddaraf yr unigolyn cyfrifol.
Diwygiadau Testunol
F34Geiriau yn Atod. 2 para. 24(3)(a) wedi eu hamnewid (1.4.2016) gan Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/87), rhlau. 1(2), 12(b)
F35Geiriau yn Atod. 2 para. 24(3)(b) wedi eu hamnewid (1.4.2016) gan Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/87), rhlau. 1(2), 12(b)
F36Geiriau yn Atod. 2 para. 24(4)(d)(ii) wedi eu hamnewid (1.4.2016) gan Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/87), rhlau. 1(2), 12(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I61Atod. 2 para. 24 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
25.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo person â chyfrifoldeb wedi ei benodi.
(2) Enw llawn (ac unrhyw enw arall neu enw blaenorol) y person â chyfrifoldeb, ac os nad y person hwnnw hefyd yw'r ceisydd neu'r unigolyn cyfrifol, ei ddyddiad geni, ei gyfeiriad a'i rif teleffon.
(3) Manylion cymwysterau proffesiynol neu dechnegol y person â chyfrifoldeb a'i brofiad, i'r graddau y mae'r cyfryw gymwysterau a phrofiad yn berthnasol i ddarparu gofal dydd i blant [F37o dan ddeuddeng mlwydd oed] .
(4) Manylion hanes cyflogaeth y ceisydd, gan gynnwys—
(a)hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau mewn cyflogaeth;
(b)os oedd unrhyw gyflogaeth neu swydd flaenorol yn cynnwys gweithio gyda phlant, cadarnhad, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, o'r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd honno i ben;
(c)enw a chyfeiriad unrhyw gyflogwr presennol, a phan fo'n berthnasol, unrhyw gyflogwyr blaenorol;
(ch)enwau a chyfeiriadau dau ganolwr —
(i)nad ydynt yn berthnasau i'r person,
(ii)sydd ill dau yn alluog i ddarparu geirda mewn perthynas â chymhwysedd y person i ofalu am blant [F38o dan ddeuddeng mlwydd oed] ; ac
(iii)un ohonynt, os yw'n bosibl, yn gyflogwr diweddaraf y person.
Diwygiadau Testunol
F37Geiriau yn Atod. 2 para. 25(3) wedi eu hamnewid (1.4.2016) gan Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/87), rhlau. 1(2), 12(c)
F38Geiriau yn Atod. 2 para. 25(4)(d)(ii) wedi eu hamnewid (1.4.2016) gan Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/87), rhlau. 1(2), 12(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I62Atod. 2 para. 25 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
26. Enw, cyfeiriad, rhif teleffon, rhif ffacsimile (os oes un), a chyfeiriad post electronig (os oes un) y fangre lle y bwriedir gofalu am y plant (“y fangre”) ynghyd â disgrifiad o'r cyfleusterau a ddarperir neu sydd i'w darparu i blant y gofelir amdanynt, gan gynnwys datganiad pa un a yw'r fangre wedi ei hadeiladu'n bwrpasol neu wedi ei throsi i'w defnyddio fel mangre lle y gofelir am blant.
Gwybodaeth Cychwyn
I63Atod. 2 para. 26 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
27. Y datganiad o ddiben.
Gwybodaeth Cychwyn
I64Atod. 2 para. 27 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
28. Yr oriau arfaethedig y dymuna'r ceisydd gael ei gofrestru ar eu cyfer fel darparydd gofal dydd i blant.
Gwybodaeth Cychwyn
I65Atod. 2 para. 28 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
29. Disgrifiad o'r ardal y lleolir y fangre ynddi, a manylion ynghylch mynediad i'r fangre.
Gwybodaeth Cychwyn
I66Atod. 2 para. 29 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
30. Datganiad ynglŷn â'r trefniadau diogelwch, gan gynnwys trefniadau at ddibenion —
(a)diogelu mynediad at wybodaeth a gedwir yn y fangre; a
(b)cyfyngu ar fynediad i mewn i'r fangre o fangreoedd cyfagos, neu os yw'r fangre yn rhan o adeilad, o rannau eraill o'r adeilad.
Gwybodaeth Cychwyn
I67Atod. 2 para. 30 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
31. Pa un a oes busnes neu weithgarwch arall a gynhelir, neu a fydd yn cael ei gynnal, yn y fangre yr un pryd ag y gofelir am blant yno o dan y cofrestriad arfaethedig, ac os felly, manylion y cyfryw fusnes neu weithgarwch.
Gwybodaeth Cychwyn
I68Atod. 2 para. 31 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
32. Nifer y plant y bwriedir darparu gofal iddynt, a'u hoedrannau.
Gwybodaeth Cychwyn
I69Atod. 2 para. 32 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
33. Mewn perthynas ag unrhyw berson, ac eithrio'r unigolyn cyfrifol neu, os yw'n berthnasol, y person â chyfrifoldeb, sy'n gofalu neu sydd i ofalu am y plant y darperir neu y bwriedir darparu gofal dydd iddynt—
(a)enw'r person (ac unrhyw enw arall ac enw blaenorol) a'i ddyddiad geni;
(b)dyletswyddau a chyfrifoldebau'r person mewn perthynas â gwaith y person hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I70Atod. 2 para. 33 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
34. Mewn perthynas ag unrhyw berson, ac eithrio'r unigolyn cyfrifol neu, os yw'n berthnasol, y person â chyfrifoldeb, sy'n gofalu neu sydd i ofalu am y plant y darperir neu y bwriedir darparu gofal dydd iddynt—
(a)pa un a yw'r person yn preswylio, neu a fwriedir iddo breswylio yn y fangre ai peidio;
(b)os yw'r person yn berthynas i'r ceisydd, natur y berthynas honno gyda'r ceisydd;
(c)pa un a yw'r person yn gweithio, neu a fwriedir iddo weithio, ar sail amser llawn ynteu ar sail ran-amser, ac os ar sail ran-amser, y nifer o oriau bob wythnos y bwriedir i'r person hwnnw weithio;
(ch)y dyddiad y dechreuodd y person weithio, neu y bwriedir iddo ddechrau gweithio;
(d)gwybodaeth ynghylch cymwysterau, profiad a sgiliau'r person hwnnw, i'r graddau y mae'n berthnasol i'r gwaith sydd i'w gyflawni gan y person hwnnw;
(dd)datganiad gan y ceisydd i'r perwyl ei fod wedi ei fodloni ynghylch dilysrwydd y cymwysterau ac wedi gwirio'r profiad a'r sgiliau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (d);
(e)datganiad gan y ceisydd ynghylch—
(i)addasrwydd cymwysterau'r person ar gyfer y gwaith y bwriedir i'r person ei gyflawni,
(ii)pa un a oes gan y person y sgiliau angenrheidiol ai peidio ar gyfer gwaith o'r fath,
(iii)addasrwydd y person i weithio gyda phlant [F39o dan ddeuddeng mlwydd oed] a bod mewn cysylltiad â phlant o'r fath yn rheolaidd;
(f)datganiad gan y person ynglŷn â chyflwr ei iechyd corfforol a meddyliol;
(ff)datganiad gan y ceisydd i'r perwyl bod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol ar gyfer y gwaith y bwriedir i'r person hwnnw ei gyflawni;
(g)datganiad gan y ceisydd i gadarnhau pa un a fodlonwyd ef ai peidio ynghylch dilysrwydd hunaniaeth y person, ac yn nodi'r dull a ddefnyddiodd y ceisydd i fodloni ei hunan ynglŷn â hynny, a pha un a yw'r ceisydd wedi cael copi o dystysgrif geni'r person ai peidio;
(ng)cadarnhad gan y ceisydd bod ganddo ffotograff diweddar o'r person;
(h)datganiad gan y ceisydd i'r perwyl ei fod wedi cael—
(i)dau eirda mewn perthynas â'r person, a bod y ceisydd wedi ei fodloni ynghylch dilysrwydd y geirdaon hynny,
(ii)hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau yng nghyflogaeth y person;
(iii)os oedd cyflogaeth neu swydd flaenorol y person yn cynnwys gweithio gyda phlant, cadarnhad, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, o'r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd honno i ben.
Diwygiadau Testunol
F39Geiriau yn Atod. 2 para. 34(e)(iii) wedi eu hamnewid (1.4.2016) gan Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/87), rhlau. 1(2), 12(d)
Gwybodaeth Cychwyn
I71Atod. 2 para. 34 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
35. Enw llawn (ac unrhyw enw arall ac enw blaenorol), dyddiad geni a chyfeiriad pob person (ac eithrio'r ceisydd a pherson a grybwyllir ym mharagraffau 24, 25 a 33) sydd wedi cyrraedd 16 mlwydd oed, yn gweithio yn y fangre berthnasol ac yn dod, neu'n debygol o ddod, i gysylltiad rheolaidd â phlant perthnasol.
Gwybodaeth Cychwyn
I72Atod. 2 para. 35 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
36. At ddibenion paragraff 35 mae person sy'n gweithio yn y fangre berthnasol yn cynnwys person sy'n gweithio ar sail wirfoddol.
Gwybodaeth Cychwyn
I73Atod. 2 para. 36 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
37. Enw llawn (ac unrhyw enw arall ac enw blaenorol), a dyddiad geni pob person sydd wedi cyrraedd 16 mlwydd oed, yn byw yn y fangre berthnasol ac yn dod, neu'n debygol o ddod, i gysylltiad rheolaidd â phlant perthnasol.
Gwybodaeth Cychwyn
I74Atod. 2 para. 37 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
38. Tystysgrif geni'r ceisydd, a phan fo'n berthnasol tystysgrifau geni'r unigolyn cyfrifol a'r person â chyfrifoldeb.
Gwybodaeth Cychwyn
I75Atod. 2 para. 38 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
39. Prawf o hunaniaeth y ceisydd, a phan fo'n briodol, o hunaniaeth yr unigolyn cyfrifol a'r person â chyfrifoldeb gan gynnwys ffotograffau diweddar.
Gwybodaeth Cychwyn
I76Atod. 2 para. 39 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
40. Tystysgrifau neu dystiolaeth addas arall o gymwysterau proffesiynol neu dechnegol y ceisydd, a phan fo'n briodol, yr unigolyn cyfrifol a'r person â chyfrifoldeb, i'r graddau y mae cymwysterau o'r fath yn berthnasol i ofalu am blant sydd [F40o dan ddeuddeng mlwydd oed].
Diwygiadau Testunol
F40Geiriau yn Atod. 2 para. 40 wedi eu hamnewid (1.4.2016) gan Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/87), rhlau. 1(2), 12(e)
Gwybodaeth Cychwyn
I77Atod. 2 para. 40 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
41. Tystysgrif o yswiriant yr ymgeisydd rhag atebolrwydd y gellid ei achosi i'r person hwnnw mewn perthynas â marwolaeth, anaf, atebolrwydd cyhoeddus, difrod neu golled arall mewn cysylltiad â'r ddarpariaeth arfaethedig o ofal dydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I78Atod. 2 para. 41 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
42.—(1) Datganiad ysgrifenedig gan y ceisydd yn cadarnhau—
(a)mewn perthynas â phob person, ac eithrio'r ceisydd, sy'n gofalu, neu y bwriedir iddo ofalu, am y plant y darperir gofal dydd iddynt, bod–
(i)tystysgrif cofnod troseddol fanylach wedi ei dyroddi; a
(ii)cofrestriad gydag ADA wedi ei gwblhau a bod y ceisydd wedi cael rhif cofrestru ADA y person hwnnw; a
(b)y bydd y ceisydd yn rhoi'r tystysgrifau a ddyroddwyd felly, a'r rhifau cofrestru a ddyrannwyd, ar gael i'w harchwilio gan Weinidogion Cymru os gofynnir amdanynt gan Weinidogion Cymru.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), datganiad ysgrifenedig gan y ceisydd yn cadarnhau—
(a)mewn perthynas â phob person a grybwyllir ym mharagraffau 35 i 37, bod—
(i)tystysgrif cofnod troseddol fanylach wedi ei dyroddi; a
(ii)pan fo'n briodol, cofrestriad gydag ADA wedi ei gwblhau a bod y ceisydd wedi cael rhif cofrestru ADA y person hwnnw; a
(b)y bydd y ceisydd yn rhoi'r tystysgrifau a ddyroddwyd felly, a'r rhifau cofrestru a ddyrannwyd, ar gael i'w harchwilio gan Weinidogion Cymru os gofynnir amdanynt gan Weinidogion Cymru.
(3) Pan fo rheoliad 20(5) yn gymwys, ac nad oes awdurdod gan y ceisydd i gael y cyfryw wybodaeth neu ddogfen, datganiad ysgrifenedig gan y ceisydd y caiff y personau a grybwyllir ym mharagraffau 35 i 37 eu goruchwylio'n briodol ar bob achlysur pan fo unrhyw berson o'r fath yn dod i gysylltiad â phlentyn neu blant perthnasol.
Gwybodaeth Cychwyn
I79Atod. 2 para. 42 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
43. Os yw'r ceisydd yn sefydliad, copïau o'r ddau adroddiad blynyddol diwethaf yr oedd yn ofynnol eu paratoi.
Gwybodaeth Cychwyn
I80Atod. 2 para. 43 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
44. Pan fo'r sefydliad yn is-gwmni i gwmni daliannol, y ddau adroddiad blynyddol diwethaf (os oes rhai) ar gyfer y cwmni daliannol ac unrhyw is-gwmni arall y cwmni daliannol hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I81Atod. 2 para. 44 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
45. Cyfrifon blynyddol diwethaf y sefydliad, os oes rhai.
Gwybodaeth Cychwyn
I82Atod. 2 para. 45 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
46.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), adroddiad gan ymarferydd meddygol cofrestredig ynglŷn â pha un a yw'r ceisydd, a phan fo'n briodol, yr unigolyn cyfrifol a'r person â chyfrifoldeb yn ffit ai peidio yn gorfforol ac yn feddyliol i ofalu am blant [F41o dan ddeuddeng mlwydd oed].
(2) Os nad oes modd i berson a grybwyllir yn is-baragraff (1) gael yr adroddiad y cyfeirir ato yn yr is-baragraff hwnnw, datganiad gan y person hwnnw ynglŷn â chyflwr ei iechyd corfforol a meddyliol.
Diwygiadau Testunol
F41Geiriau yn Atod. 2 para. 46(1) wedi eu hamnewid (1.4.2016) gan Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/87), rhlau. 1(2), 12(e)
Gwybodaeth Cychwyn
I83Atod. 2 para. 46 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
Rheoliad 30
1. Enw, cyfeiriad a rhif teleffon y person cofrestredig, yr unigolyn cyfrifol a phob person arall sy'n byw, yn gweithio neu a gyflogir yn y fangre berthnasol .LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I84Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
2. Enw, cyfeiriad cartref a rhif teleffon unrhyw berson arall a ddaw i gysylltiad â'r plant perthnasol yn rheolaidd heb oruchwyliaeth.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I85Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
3. Enw, cyfeiriad cartref, dyddiad geni a rhyw pob plentyn perthnasol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I86Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
4. Mewn perthynas â phob plentyn perthnasol, enw, cyfeiriad a rhif teleffon rhiant.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I87Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
5. Mewn perthynas â phob plentyn perthnasol, enw a chyfeiriad yr ymarferydd meddygol cofrestredig y cofrestrwyd y plentyn gydag ef.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I88Atod. 3 para. 5 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
6. Cofnod dyddiol o enwau'r plant perthnasol, oriau eu presenoldeb ac enwau'r personau a fu'n gofalu amdanynt.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I89Atod. 3 para. 6 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
7. Cofnod o ddamweiniau, salwch difrifol a digwyddiadau arwyddocaol eraill a ddigwyddodd yn fangre berthnasol ac a effeithiodd ar les plant perthnasol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I90Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
8. Cofnod o unrhyw gynnyrch meddyginiaethol a gafodd ei weini i blentyn perthnasol ar y fangre berthnasol, gan gynnwys y dyddiad a'r amgylchiadau a chan bwy y cafodd y feddyginiaeth ei gweini, a chan gynnwys unrhyw gynhyrchion meddyginiaethol y caniateir i'r plentyn eu gweini ei hunan, ynghyd â chofnod o ganiatâd y rhiant.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I91Atod. 3 para. 8 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
9. Unrhyw anghenion dietegol arbennig, neu anghenion iechyd arbennig neu alergedd unrhyw blentyn perthnasol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I92Atod. 3 para. 9 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
10. Datganiad o'r weithdrefn sydd i'w dilyn os digwydd tân neu ddamwain.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I93Atod. 3 para. 10 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
11. Datganiad o'r weithdrefn sydd i'w dilyn os oes gan riant gwyn ynglŷn â'r gwasanaeth a ddarperir gan y person cofrestredig.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I94Atod. 3 para. 11 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
12. Datganiad o'r trefniadau sydd yn eu lle ar gyfer amddiffyn plant perthnasol, gan gynnwys trefniadau i'w diogelu rhag eu cam-drin neu'u hesgeuluso a'r gweithdrefnau sydd i'w dilyn os gwneir honiadau o gam-drin neu esgeuluso.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I95Atod. 3 para. 12 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
13. Datganiad o'r weithdrefn sydd i'w dilyn os digwydd i blentyn perthnasol fynd ar goll neu beidio â chael ei gasglu.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I96Atod. 3 para. 13 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
14. Enw, cyfeiriad cartref a rhif teleffon pob aelod cyfredol o'r pwyllgor neu gorff llywodraethu ceisydd sy'n gymdeithas anghorfforedig.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I97Atod. 3 para. 14 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
Rheoliad 31
1.—(1) Yn achos gwarchod plant, newid yn y personau canlynol—LL+C
(a)unrhyw berson sy'n gofalu am blant yn y fangre berthnasol, neu
(b)unrhyw berson sy'n byw neu a gyflogir yn y fangre honno.
(2) Yr wybodaeth sydd i'w darparu yw enw llawn y person newydd ynghyd ag unrhyw enwau blaenorol neu enwau eraill, cyfeiriad ei gartref a'i ddyddiad geni.
Gwybodaeth Cychwyn
I98Atod. 4 para. 1 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
2.—(1) Yn achos gofal dydd, newid yn y personau canlynol—LL+C
(a)unrhyw berson â chyfrifoldeb,
(b)unrhyw un sy'n gofalu am blant yn y fangre berthnasol,
(c)unrhyw un sy'n byw neu'n gweithio yn y fangre honno (ar yr amod nad yw personau i'w trin fel pe baent yn gweithio yn y fangre at ddibenion y paragraff hwn os na wnânt ddim o'u gwaith yn y rhan o'r fangre lle y gofelir am blant, neu os nad ydynt yn gweithio yn y fangre ar yr adeg y gofelir am blant yno), ac
(ch)pan ddarperir y gofal dydd gan bwyllgor neu gorff corfforaethol neu anghorfforedig, y Cadeirydd, yr Ysgrifennydd neu'r Trysorydd (neu berson sy'n dal swydd gymaradwy yn y sefydliad).
(2) Yr wybodaeth sydd i'w darparu yw enw llawn y person newydd ynghyd ag unrhyw enwau blaenorol neu enwau eraill, cyfeiriad ei gartref a'i ddyddiad geni.
Gwybodaeth Cychwyn
I99Atod. 4 para. 2 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
3. Unrhyw newid—LL+C
(a)yn enw neu gyfeiriad cartref y person cofrestredig neu'r personau hynny a ddisgrifir ym mharagraff 1(1) neu baragraff 2(1)(a) i (c); neu
(b)yn enw neu gyfeiriad y swyddfa gofrestredig neu'r brif swyddfa, pan fo'r person cofrestredig yn sefydliad.
Gwybodaeth Cychwyn
I100Atod. 4 para. 3 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
4. Unrhyw newid yn y math o ofal a ddarperir gan y person cofrestredig.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I101Atod. 4 para. 4 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
5. Yn achos gofal dydd, unrhyw newid yn y cyfleusterau sydd i'w defnyddio ar gyfer gofal dydd yn y fangre berthnasol, gan gynnwys newidiadau yn nifer yr ystafelloedd, eu swyddogaethau, nifer y toiledau a'r basnau ymolchi, unrhyw gyfleusterau ar wahân ar gyfer gweithwyr sy'n oedolion a mynediad i'r fangre ar gyfer ceir.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I102Atod. 4 para. 5 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
6. Unrhyw newid yn yr oriau pan ddarperir gofal dydd neu pan warchodir plant.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I103Atod. 4 para. 6 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
7. Unrhyw achos yn y fangre berthnasol o glefyd heintus sydd, ym marn unrhyw ymarferydd meddygol cofrestredig sy'n gweld plentyn neu berson arall yn y fangre, yn ddigon difrifol i adrodd amdano felly, neu anaf difrifol, neu salwch difrifol neu farwolaeth unrhyw blentyn neu berson arall yn y fangre.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I104Atod. 4 para. 7 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
8. Unrhyw honiadau o niwed difrifol a wnaed i blentyn, gan unrhyw berson sy'n gofalu am blant perthnasol yn y fangre, neu gan unrhyw berson sy'n byw neu'n gweithio, neu a gyflogir, yn y fangre, neu unrhyw gamdriniaeth yr honnir iddi ddigwydd yn y fangre.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I105Atod. 4 para. 8 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
9. Unrhyw ddigwyddiad arall a allai effeithio ar addasrwydd y person cofrestredig i ofalu am blant, neu addasrwydd unrhyw berson sy'n byw neu'n gweithio neu a gyflogir yn y fangre, i fod mewn cysylltiad rheolaidd â phlant.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I106Atod. 4 para. 9 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
10. Unrhyw ddigwyddiad arwyddocaol arall sy'n debygol o effeithio ar les unrhyw blentyn yn y fangre.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I107Atod. 4 para. 10 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
Rheoliad 47
1. Yn rheoliad 2(1) (dehongli) o Reoliadau 2002–LL+C
(a)hepgorer y diffiniad o “the 1989 Act”;
(b)yn y diffiniad o “appropriate office of the National Assembly” hepgorer paragraff (d);
(c)yn y diffiniad o “organisation” hepgorer y geiriau “and” ymlaen i'r diwedd;
(ch)hepgorer y diffiniad o “the Part XA Regulations”;
(d)hepgorer y diffiniad o “person in charge”;
(dd)yn y diffiniad o “registration” hepgorer y geiriau “or Part XA” ymlaen i'r diwedd;
(e)yn y diffiniad o “statement of purpose” hepgorer paragraff (d).
Gwybodaeth Cychwyn
I108Atod. 5 para. 1 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)
Rheoliad 48
Gwybodaeth Cychwyn
I109Atod. 6 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1
Colofn 1 | Colofn 2 | Colofn 3 |
---|---|---|
Offeryn a ddirymwyd | Cyfeirnod | Maint y dirymiad |
Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002 | OS 2002/812 (Cy.92) | Y cyfan o'r Rheoliadau |
Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002 | OS 2002/919 (Cy. 107) | Rheoliadau 16, 17 ac 18 ac Atodlenni 7 ac 8. |
Rheoliadau Deddf Plant 1989 a Deddf Safonau Gofal 2000 (Rheoliadau Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2002 | OS 2002/2622 (Cy.254) | Rheoliad 6 |
Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Diwygio) (Cymru) 2003 | OS 2003/2708 (Cy.259) | Y cyfan o'r Rheoliadau |
Rheoliadau Atal Dros Dro Ddarparwyr Gofal Dydd a Gwarchodwyr Plant (Cymru) 2004 | OS 2004/3282 ( Cy.285) | Y cyfan o'r Rheoliadau (gydag arbedion) |
Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Plant 1989 (Diwygio Rheoliadau Amrywiol) (Cymru) 2004 | OS 2004/2414 (Cy.222) | Rheoliad 7 |
Rheoliadau Gofal Dydd (Eu Cymhwyso i Ysgolion) (Cymru) 2005 | OS 2005/118 (Cy.10) | Y cyfan o'r Rheoliadau |
Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Plant 1989 (Diwygio Rheoleiddiol a Chwynion) (Cymru) 2006 | OS 2006/3251 (Cy.295) | Rheoliad 4 |
Rheoliadau Atal Dros Dro Ddarparwyr Gofal Dydd a Gwarchodwyr Plant (Cymru) (Diwygio) 2008 | OS 2008/2689 (Cy.238) | Y cyfan o'r Rheoliadau |
Rheoliadau Deddf Plant 1989, Deddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2009 | OS 2009/2541 (Cy.205) | Rheoliad 2 |
Rheoliadau Deddf Plant 1989 (Diwygio Rheoliadau Amrywiol) (Rhif 2) (Cymru) 2009 | OS 2009/3265 (Cy.286) | Rheoliad 2 |
Mae'r gofyniad ar i bersonau sy'n ymgymryd â gweithgarwch a reoleiddir mewn lleoliadau gofal plant gofrestru gydag ADA o dan y Cynllun Fetio a Gwahardd yn cael ei weithredu fesul cam, yn unol â Rheoliadau a wnaed o dan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p.47). Mewn perthynas â hyn, rhaid dehongli'r ymadrodd “pan fo'n briodol” yn unol â'r gofyniad sydd ar y person i gofrestru gydag ADA, fel a esbonnir yn y Vetting and Barring Scheme Guidance (ISBN - 978 - 1 - 84987 - 2020 7) a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref ym Mawrth 2010.
Mae'r gofyniad ar i bersonau sy'n ymgymryd â gweithgarwch a reoleiddir mewn lleoliadau gofal plant gofrestru gydag ADA o dan y Cynllun Fetio a Gwahardd yn cael ei weithredu fesul cam, yn unol â Rheoliadau a wnaed o dan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p.47). Mewn perthynas â hyn, rhaid dehongli'r ymadrodd “pan fo'n briodol” yn unol â'r gofyniad sydd ar y person i gofrestru gydag ADA, fel a esbonnir yn y Vetting and Barring Scheme Guidance (ISBN - 978 - 1 - 84987 - 2020 7) a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref ym Mawrth 2010.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys