- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Gwnaed
25 Hydref 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
28 Hydref 2010
Yn dod i rym
18 Tachwedd 2010
1. Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 18 Tachwedd 2010 a'u henw yw Rheoliadau Traffordd yr M4 (Cyffordd 41, Slipffordd Ymadael tua'r Gorllewin, Cylchfan Sunnycroft, Baglan, Castell-nedd Port Talbot) (Terfyn Cyflymder 50 MYA) 2010.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “traffordd yr M4” yw traffordd yr M4 o Lundain i Dde Cymru.
3. Ni chaiff neb yrru unrhyw gerbyd yn gyflymach na 50 milltir yr awr ar y darn hwnnw o'r slipffordd ymadael tua'r gorllewin oddi ar Gyffordd 41 traffordd yr M4 sy'n ymestyn o bwynt 330 o fetrau i'r de-ddwyrain o'i chyffordd â'r gerbytffordd gylchynnol ar Gylchfan Sunnycroft, Baglan, ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot hyd at bwynt lle mae'n ymuno â'r gerbytffordd gylchynnol honno.
Ieuan Wyn Jones
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
25 Hydref 2010
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r pŵer i wneud rheoliadau ynghylch defnyddio ffyrdd arbennig o dan adran 17(2) a (3) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (ac eithro ynghylch ffyrdd arbennig yn gyffredinol) yn gorwedd gyda Gweinidogion Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru.
Mae Gweinidogion Cymru, wrth arfer y pŵer uchod, yn gwneud y Rheoliadau hyn sy'n gosod terfyn cyflymder eithaf o 50 milltir yr awr (yn lle'r terfyn cyflymder cyffredinol o 70 milltir yr awr a osodir ar draffyrdd gan Reoliadau Traffig Traffyrdd (Terfyn Cyflymder) 1974 (O.S.1974/502)) ar y darn o draffordd yr M4 a bennir yn y Rheoliadau.
Ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol llawn ar gyfer yr offeryn hwn gan mai am resymau diogelwch ar y briffordd y'i gwnaed ac ni fydd yn cael unrhyw effaith ar gostau busnes.
1984 p.27. Yn rhinwedd O.S. 1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, ac adran 162 a pharagraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), mae'r pwerau hyn yn arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru o ran Cymru.
Diwygiwyd adran 134(2) gan Dddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (p.22), Atodlen 8, paragraff 77.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys