- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Gwnaed
6 Chwefror 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
9 Chwefror 2010
Yn dod i rym
1 Ebrill 2010
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2010.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2010.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Diwygir Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2008(3) yn unol â pharagraffau (2) i (5).
(2) Yn erthygl 5(a) yn lle “hyd a chan gynnwys 31 Mawrth 2012, mai £6,500 neu lai yw gwerth ardrethol yr hereditament, a £5,000 neu lai ar ôl y dyddiad hwnnw” rhodder “o 1 Ebrill 2010 ymlaen, mai £7,800 neu lai yw gwerth ardrethol yr hereditament”.
(3) Yn erthygl 7(ch) yn lle “£6,500” rhodder “£7,800” ac yn lle “£9,000” rhodder “£11,000 am y cyfnod o 1 Ebrill 2010 hyd 31 Mawrth 2012”.
(4) Yn erthygl 11(a) yn lle “£2,000” rhodder “£2,400”.
(5) Yn erthygl 11(b) yn lle “£2,000” rhodder “£2,400”.
Carl Sargeant
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
6 Chwefror 2010
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2010 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2008 (“Gorchymyn 2008”) drwy ddiwygio'r rhyddhad ardrethi 25% a 50% cyffredinol a'r rhyddhad ardrethi manwerthu 25%, fel na fydd y trothwy ar gyfer rhyddhad yn gostwng yn dilyn ailbrisio ardrethi annomestig yn 2009. Mae'r diwygiadau yn sicrhau bod y busnesau hynny y cynyddwyd eu prisiadau yn unol â'r cyfartaledd cenedlaethol, ac sydd ar hyn o bryd o fewn y trothwyon rhyddhad, yn parhau o fewn y trothwyon rhyddhad.
Mae erthyglau 5 ac 11 o Orchymyn 2008 yn cael yr effaith o ganiatáu, yn ddarostyngedig i'r hyn a bennir yn yr erthyglau hynny, (a) rhyddhad ardrethi o 50% i hereditamentau sydd â gwerth ardrethol o £2,000 neu lai; a (b) rhyddhad ardrethi o 25% i hereditamentau sydd â'u gwerth ardrethol yn fwy na £2,000 ond nid yn fwy na £6,500 (ond bydd y ffigur olaf yn £5,000 o 1 Ebrill 2012 ymlaen). Mae'r Gorchymyn hwn yn cynyddu'r ffigur o £2,000 i £2,400 ar gyfer y rhyddhad ardrethi o 25%. Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn cynyddu'r ffigur o £6,500 i £7,800 ar gyfer y rhyddhad ardrethi o 25%, o 1 Ebrill 2010 ymlaen. Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn diddymu'r ddarpariaeth gyfredol y byddai'r trothwy ar gyfer rhyddhad ardrethi o 25% yn £5,000 o 1 Ebrill 2012 ymlaen.
Mae erthyglau 7 ac 11 o Orchymyn 2008 yn cael yr effaith o ganiatáu, yn ddarostyngedig i'r hyn a bennir yn yr erthyglau hynny, rhyddhad ardrethi o 25% i fangreoedd manwerthu sydd â'u gwerth ardrethol yn fwy na £6,500 ond nid yn fwy na £9,000. Daw'r rhyddhad hwn i ben ar 31 Mawrth 2012. Mae'r Gorchymyn hwn yn cynyddu'r ffigur o £6,500 i £7,800 a'r ffigur o £9,000 i £11,000, am y cyfnod 1 Ebrill 2010 tan 31 Mawrth 2012.
Mae erthygl 11 o Orchymyn 2008 yn rhagnodi'r swm o E at ddibenion y fformiwla a gynhwysir yn adran 43(4A)(b) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (“Deddf 1988”). Y fformiwla honno sy'n darparu'r mecanwaith ar gyfer cyfrifo swm yr ardrethi sy'n daladwy mewn perthynas â hereditamentau penodol. Mae'r Gorchymyn hwn yn cynyddu'r ffigur o £2,000 a ragnodir yn erthygl 11(a) a (b) i £2,400.
Breiniwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys
The data on this page is available in the alternative data formats listed: