Adennill costau gorfodi
16.—(1) Caiff gweinyddwr gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad adennill costau gorfodi”) i werthwr y gosodwyd gofyniad yn ôl disgresiwn arno yn ei gwneud yn ofynnol bod y gwerthwr hwnnw'n talu'r costau yr aed iddynt gan y gweinyddwr mewn perthynas â gosod y gofyniad yn ôl disgresiwn hyd at amser ei osod (“costau gorfodi”).
(2) Mae costau gorfodi yn cynnwys, yn benodol—
(a)costau ymchwilio;
(b)costau gweinyddu;
(c)costau cael cyngor arbenigwr (gan gynnwys cyngor cyfreithiol).
(3) Rhaid i hysbysiad adennill costau gorfodi bennu'r swm y mae'n ofynnol ei dalu a rhaid iddo gynnwys gwybodaeth o ran—
(a)sut y gellir talu;
(b)y dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid talu;
(c)yr hawl i apelio; a
(ch)y canlyniadau am fethu â thalu erbyn y dyddiad y mae'n ddyledus.
(4) Rhaid i'r dyddiad y cyfeirir ato ym mharagraff (3)(b) fod o leiaf 28 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad adennill costau gorfodi i'r gwerthwr.
(5) Rhaid i'r gwerthwr dalu'r costau gorfodi erbyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad adennill costau gorfodi.
(6) Ond mae paragraff (5) yn ddarostyngedig i weddill y darpariaethau yn y rheoliad hwn a rheoliad 21(4) (atal gofynion a hysbysiadau tra disgwylir apêl).
(7) Os yw penderfyniad gweinyddwr o dan y rheoliad hwn yn destun apêl, yna i'r graddau y caiff y penderfyniad hwnnw ei gadarnhau, rhaid i'r gwerthwr dalu'r costau gorfodi o fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y dyfernir yr apêl.
(8) Rhaid i weinyddwr ddarparu dadansoddiad manwl o'r costau a bennir mewn hysbysiad adennill costau gorfodi os bydd y gwerthwr y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo yn gofyn amdano.
(9) Nid yw gwerthwr yn atebol i dalu unrhyw gostau y mae'r gwerthwr hwnnw'n dangos yr aed iddynt yn ddiangen.
(10) Caiff gwerthwr apelio—
(a)yn erbyn penderfyniad gweinyddwr i osod gofyniad i dalu costau;
(b)yn erbyn penderfyniad gweinyddwr o ran swm y costau hynny.