- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Gwnaed
1 Rhagfyr 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
6 Rhagfyr 2010
Yn dod i rym
31 Rhagfyr 2010
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2010 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 1992” (“the 1992 Regulations”) yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992(3).
2.—(1) Mae Rheoliadau 1992 wedi eu diwygio fel a ganlyn mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2011.
(2) Yn lle Atodlen 4 i Reoliadau 1992 rhodder yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Carl Sargeant
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
1 Rhagfyr 2010
Rheoliad 2
Billing authority area | Prescribed figure |
---|---|
Blaenau Gwent | 53,944 |
Bridgend | 105,470 |
Caerphilly | 133,994 |
Carmarthenshire | 143,303 |
Cardiff | 267,899 |
Ceredigion | 62,925 |
Conwy | 89,239 |
Denbighshire | 76,791 |
Flintshire | 117,787 |
Gwynedd | 94,780 |
Isle of Anglesey | 54,620 |
Merthyr Tydfil | 43,304 |
Monmouthshire | 69,372 |
Neath Port Talbot | 108,807 |
Newport | 107,849 |
Pembrokeshire | 92,218 |
Powys | 105,104 |
Rhondda Cynon Taf | 183,906 |
Swansea | 185,888 |
Torfaen | 70,937 |
Vale of Glamorgan (The) | 96,870 |
Wrexham | 104,932” |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992 (“Rheoliadau 1992”).
O dan Ran II o Atodlen 8 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 mae'n ofynnol i awdurdodau bilio (yng Nghymru, cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol) dalu symiau (a elwir yn gyfraniadau ardrethu annomestig) i Weinidogion Cymru. Mae Rheoliadau 1992 yn cynnwys rheolau ar gyfer cyfrifo'r cyfraniadau hynny ar gyfer awdurdodau bilio Cymru.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1992 drwy roi Atodlen 4 newydd (Ffigurau Poblogaeth Oedolion) yn lle'r un bresennol.
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 60, 140(4) a 143(1) a pharagraffau 4 a 6 o Atodlen 8, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) — gweler y cyfeiriad at Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn Atodlen 1. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, mae'r swyddogaethau hynny'n arferadwy gan Weinidogion Cymru.
O.S. 1992/3238, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1993/1505, 1993/3077, 1994/547, 1994/1742, 1994/3125, 1995/3235, 1996/619, 1996/3018, 1997/3003, 1998/2962, 1999/3439 (Cy.47), 2000/3382 (Cy.220), 2001/3910 (Cy.322), 2002/3054 (Cy.289), 2003/3211 (Cy.304), 2004/3232 (Cy.280), 2005/3345 (Cy.259), 2006/3347 (Cy.307), 2007/3343 (Cy.295), 2008/2929 (Cy.258) a 2009/3147 (Cy. 274).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys