- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
72.—(1) Yn y rheoliad hwn ac yn Atodlen 10—
(a)ystyr “person perthnasol” (“relevant person”) yw llywodraethwr, aelod o bwyllgor nad yw'n llywodraethwr, pennaeth y ffederasiwn neu ysgol ffederal (pa un a yw'n llywodraethwr ai peidio) neu unrhyw berson a benodir yn glerc y corff llywodraethu neu bwyllgor; a
(b)mae unrhyw gyfeiriad at “gyfarfod o'r ffederasiwn neu ysgol ffederal” (“meeting of the federation or a federated school”) yn gyfeiriad at gyfarfod o'r corff llywodraethu neu o bwyllgor, gan gynnwys panel dethol a sefydlwyd o dan y Rheoliadau Staffio (fel y'u haddaswyd gan Atodlen 8).
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4)—
(a)pan fo gwrthdaro yn bosibl, mewn perthynas ag unrhyw fater, rhwng buddiannau person perthnasol a buddiannau'r corff llywodraethu;
(b)pan fo gwrandawiad teg yn ofynnol ac unrhyw amheuaeth resymol ynghylch gallu person perthnasol i weithredu'n ddiduedd mewn perthynas ag unrhyw fater; neu
(c)pan fo gan berson perthnasol fuddiant ariannol mewn unrhyw fater;
rhaid i'r person hwnnw, os yw'n bresennol mewn cyfarfod o'r ffederasiwn neu ysgol ffederal lle mae'r mater yn cael ei ystyried, ddatgelu'r buddiant sydd ganddo, mynd allan o'r cyfarfod a pheidio â phleidleisio ar y mater dan sylw.
(3) Ni ddylid dehongli dim yn y rheoliad hwn nac yn Atodlen 10 fel pe bai'n atal—
(a)y corff llywodraethu, neu bwyllgor, rhag—
(i)caniatáu i berson sydd yn eu tyb hwy yn gallu rhoi tystiolaeth fod yn bresennol mewn unrhyw wrandawiad a gynhelir ganddynt ar unrhyw fater a chyflwyno ei dystiolaeth; neu
(ii)glywed sylwadau gan berson perthnasol sy'n gweithredu mewn swyddogaeth ar wahân i swyddogaeth person perthnasol; neu
(b)person perthnasol rhag ymrwymo i gontract â'r corff llywodraethu y mae ganddo hawl i elwa oddi wrtho.
(4) Ni fydd yn ofynnol i berson sy'n gweithredu fel clerc i gyfarfod o'r ffederasiwn neu ysgol ffederal fynd allan o gyfarfod yn rhinwedd y rheoliad hwn nac Atodlen 10 oni fo ei benodiad i swydd, ei dâl neu achos disgyblu yn ei erbyn o dan ystyriaeth, ond pe bai'r rheoliad hwn neu Atodlen 10 fel arall wedi ei gwneud yn ofynnol iddo fynd allan, ni chaiff weithredu mewn unrhyw swyddogaeth ac eithrio swyddogaeth clerc.
(5) Os oes unrhyw anghydfod ynghylch a yw'n ofynnol i berson perthnasol yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu Atodlen 10, fynd allan o gyfarfod o'r ffederasiwn neu ysgol ffederal a pheidio â phleidleisio, mae'r cwestiwn hwnnw i'w benderfynu gan y llywodraethwyr eraill sy'n bresennol yn y cyfarfod.
(6) Mae Atodlen 10 yn gwneud darpariaeth ynghylch buddiannau ariannol a mathau penodedig eraill o wrthdaro rhwng buddiannau.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys