- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
73.—(1) Yn union cyn y dyddiad ffedereiddio, rhaid i gorff llywodraethu ysgol sydd i ddod yn ysgol ffederal, at y diben o gynorthwyo corff llywodraethu'r ffederasiwn, baratoi adroddiad ysgrifenedig ar y camau a gymerwyd ganddo wrth gyflawni ei swyddogaethau mewn perthynas â'r ysgol.
(2) Ar y dyddiad ffedereiddio, rhaid i holl gofnodion a phapurau corff llywodraethu ysgol sydd i ddod yn ysgol ffederal, gan gynnwys yr adroddiad a baratowyd o dan baragraff (1), gael eu rhoi ar gael i gorff llywodraethu'r ffederasiwn.
74. Ac eithrio fel a ddarperir gan reoliad 75, mae Pennod 4 o Ran 2 o Ddeddf 1998 (ariannu ysgolion a gynhelir) yn gymwys i ysgolion ffederal a'u cyrff llywodraethu fel y mae'n gymwys i ysgolion eraill a gynhelir ac i'w cyrff llywodraethu.
75.—(1) Wrth ei chymhwyso i ysgol ffederal yng Nghymru, ac eithrio ysgol ffederal y sefydlwyd corff llywodraethu dros dro ar ei chyfer yn unol â rheoliad 77 neu 82, bydd adran 50(1) o Ddeddf 1998 (effaith dirprwyo ariannol) yn cael effaith yn ddarostyngedig i'r addasiadau canlynol.
(2) Yn is-adran (1), yn lle “maintained” rhodder “federated”.
(3) Yn is-adran (2) yn lle “any amounts are made available by the authority to the governing body” rhodder “any amounts in respect of a federated school are made available by the local authority to the governing body of a federation”.
(4) Yn is-adran (3)—
(a)yn lle “the governing body may spend any such amounts” rhodder “the governing body of a federation may spend any amounts made available under subsection (2), or previously made available to the governing bodies of the federated schools before federation”; a
(b)yn lle paragraff (a) rhodder—
“(a)for any purposes of the federated school to which the amounts relate;
(ab)for any purposes of any other federated school within the federation;
(ac)for any purposes of the federation; or”.
(5) Yn is-adran (4), yn lle “In subsection (3) “purposes of the school” does not include” rhodder “In subsection (3)(a), (ab) and (ac) any reference to the purposes of a federated school or a federation does not include”.
(6) Yn is-adran (6), yn lle “the head teacher” rhodder “the head teacher of the federation or to the head teachers of federated schools”.
(7) Yn is-adran (7), yn lle “school” rhodder “federation”.
Diwygiwyd is-adran (1) gan adran 40 o Ddeddf 2002 ac Atodlen 3 i'r Ddeddf honno. Mewnosodwyd is-adran (4)(za) gan adran 40 o Ddeddf 2002 ac Atodlen 3 i'r Ddeddf honno. Diwygiwyd is-adran (5) gan baragraff 10 o Atodlen 21 i Ddeddf 2002. Diwygiwyd is-adran (1) ymhellach gan adran 117 o Ddeddf Addysg 2005 (p.18), ac Atodlen 18 i'r Ddeddf honno.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys