- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
41.—(1) Yn y rheoliad hwn, pan gyfeirir at awdurdod lleol a phan fo'r ffederasiwn i gynnwys ysgolion a gynhelir gan wahanol awdurdodau lleol, rhaid dehongli'r cyfeiriad fel cyfeiriad at ba un bynnag o'r awdurdodau lleol hynny y mae cyrff llywodraethu'r ysgolion yn cytuno rhyngddynt y dylai wneud yr offeryn llywodraethu ar gyfer y ffederasiwn.
(2) Rhaid i gyrff llywodraethu'r ysgolion sydd i ffurfio'r ffederasiwn baratoi offeryn llywodraethu drafft ar y cyd a'i gyflwyno i'r awdurdod lleol.
(3) Os bydd gan y ffederasiwn lywodraethwyr sefydledig, rhaid i gyrff llywodraethu'r ffederasiwn arfaethedig beidio â chyflwyno'r drafft i'r awdurdod lleol hyd nes bydd wedi ei gymeradwyo mewn perthynas â phob ysgol sefydledig neu wirfoddol gan—
(a)lywodraethwyr sefydledig yr ysgol honno;
(b)ymddiriedolwyr o unrhyw ymddiriedolaeth sy'n gysylltiedig ag ysgol o'r fath;
(c)yn achos un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru neu'r Eglwys Gatholig Rufeinig, yr awdurdod esgobaethol priodol; ac
(ch)yn achos unrhyw ysgol arall a ddynodir o dan adran 69(3) o Ddeddf 1998 fel un sy'n meddu ar gymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol.
(4) Os—
(a)yw'r awdurdod lleol yn fodlon bod y drafft yn cydymffurfio â'r holl ddarpariaethau cymwys; neu
(b)os oes cytundeb rhwng yr awdurdod lleol, y cyrff llywodraethu a'r personau (pan fo gan y ffederasiwn lywodraethwyr sefydledig) a grybwyllir ym mharagraff (3), y dylid diwygio'r drafft i unrhyw raddau a bod y drafft diwygiedig yn cydymffurfio â phob un o'r darpariaethau statudol sy'n gymwys;
rhaid i'r offeryn llywodraethu gael ei wneud gan yr awdurdod lleol ar ffurf y drafft neu (yn ôl fel y digwydd) ar ffurf y drafft diwygiedig.
(5) Yn achos ffederasiwn y bydd ganddo lywodraethwyr sefydledig, os bydd y personau a grybwyllir ym mharagraff (3) yn anghytuno ar unrhyw adeg ynglŷn â chynnwys y drafft, caiff unrhyw un neu unrhyw rai o'r personau hynny gyfeirio'r drafft at Weinidogion Cymru, a rhaid i'r Gweinidogion roi cyfarwyddyd fel y gwelant yn dda, gan ystyried yn benodol y categorïau o ysgolion y bwriedir eu cynnwys yn y ffederasiwn.
(6) Os nad yw'r naill na'r llall o is-baragraffau (a) a (b) o baragraff (4) yn gymwys yn achos ffederasiwn na fydd ganddo lywodraethwyr sefydledig, rhaid i'r awdurdod lleol—
(a)roi gwybod i gorff llywodraethu y ffederasiwn pam nad yw'n fodlon â'r offeryn llywodraethu drafft; a
(b)rhoi cyfle rhesymol i gorff llywodraethu y ffederasiwn ddod i gytundeb ag ef ynghylch diwygio'r drafft;
a rhaid i'r offeryn llywodraethu gael ei wneud gan yr awdurdod lleol naill ai ar ffurf drafft diwygiedig y bydd ef a chorff llywodraethu y ffederasiwn yn cytuno yn ei gylch neu (yn niffyg cytundeb o'r fath) ar ffurf fel y gwêl yn dda gan ystyried, yn benodol, y categorïau o ysgolion a gynhwysir yn y ffederasiwn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys