- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
27.—(1) Yn y rhan hon—
ystyr “apêl” (“appeal”), onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, yw apêl o dan—
adran 16 (apelau: cyffredinol) o Ddeddf 1992;
paragraff 3(1) o Atodlen 3 (cosbau) i Ddeddf 1992; neu
paragraff 4 o Atodlen 4A i Ddeddf 1988 fel y'i cymhwysir at ddibenion Rhan I o Ddeddf 1992 (y cyfeirir ati yn y Rhan hon fel “apêl yn erbyn rhybudd i gwblhau”)(1);
ystyr “Clerc” (“Clerk”) yw—
y prif weithredwr; a
unrhyw gyflogai arall y Tribiwnlys Prisio a benodir o dan reoliad 15(6) ac y dirprwywyd iddo rai neu'r cyfan o swyddogaethau'r Clerc o dan y Rhan hon;
ystyr “cosb” (“penalty”) yw cosb a osodir o dan baragraff 1 o Atodlen 3 i Ddeddf 1992;
ystyr “hysbysiad am apêl” (“notice of appeal”) yw hysbysiad o dan reoliad 30(1);
ystyr “Panel Apêl” (“Appeal Panel”) yw aelodau o'r Tribiwnlys Prisio wedi eu cynnull yn unol â'r Rhan hon at y diben o benderfynu apêl;
ystyr “rhestr” (“list”) yw rhestr brisio a luniwyd o dan Bennod 2 o Ran 1 o Ddeddf 1992; ac
ystyr “swyddog rhestru” (“listing officer”) mewn perthynas ag apêl, yw'r swyddog a benodir o dan adran 20 ar gyfer yr awdurdod lle y saif yr annedd y mae'r apêl yn ymwneud â hi.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon—
(a)at barti mewn apêl, yn cynnwys yr apelydd ac unrhyw berson sydd â hawl, yn unol â'r Rhan hon, i gael copi wedi ei gyflwyno iddo o hysbysiad am apêl yr apelydd; a
(b)at adran wedi'i rhifo, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, yn gyfeiriad at yr adran a rifwyd felly yn Neddf 1992.
Mae adran 17 o Ddeddf 1992 yn cymhwyso Atodlen 4A i Ddeddf 1988 (ac eithrio paragraff 6) at ddibenion Rhan 1 o Ddeddf 1992.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys