Rheoliadau Tribiwnlys Prisio Cymru 2010

Adolygu penderfyniadau

42.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) bydd pŵer gan Banel Apêl a gyfansoddwyd fel y darperir ym mharagraff (4), ar ôl derbyn cais ysgrifenedig gan barti, i adolygu neu roi o'r neilltu drwy dystysgrif o dan lofnod yr aelod sy'n llywyddu—

(a)unrhyw benderfyniad ar unrhyw un o'r seiliau a grybwyllir ym mharagraff (5), a

(b)penderfyniad ar apêl yn erbyn rhybudd i gwblhau, ar y sail ychwanegol a grybwyllir ym mharagraff (6).

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys pan fo apêl yn erbyn y penderfyniad dan sylw wedi ei phenderfynu gan yr Uchel Lys.

(3Ceir gwrthod cais a wneir o dan baragraff (1) oni wneir ef o fewn y cyfnod o bedair wythnos sy'n dechrau ar y diwrnod pan roddir yr hysbysiad (pa un ai'n unol â rheoliad 40(3) neu reoliad 43(3)) o'r penderfyniad dan sylw.

(4Cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol, bydd y Panel Apêl a benodir i adolygu'r penderfyniad yn cynnwys yr un aelodau ag a oedd ar y Panel Apêl a wnaeth y penderfyniad.

(5Y seiliau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(a) yw—

(a)bod y penderfyniad a wnaed yn anghywir oherwydd camgymeriad clerigol;

(b)nad oedd parti wedi ymddangos, a gall y parti hwnnw ddangos achos rhesymol pam nad ymddangosodd;

(c)yr effeithir ar y penderfyniad gan benderfyniad gan, neu benderfyniad ar apêl o'r Uchel Lys neu'r Uwch Dribiwnlys, mewn perthynas ag apêl ynglŷn â'r annedd neu, yn ôl fel y digwydd, y person, a oedd yn destun penderfyniad y Panel Apêl; ac

(ch)bod buddiannau cyfiawnder rywfodd arall yn gwneud adolygiad o'r fath yn ofynnol.

(6Y sail a grybwyllir ym mharagraff (1)(b) yw bod tystiolaeth newydd, na ellid bod wedi canfod ei bodolaeth drwy ymchwilio'n rhesymol ddiwyd, na'i rhagweld, wedi dod ar gael er pan gwblhawyd yr achos y mae'r penderfyniad yn ymwneud ag ef.

(7Os yw Panel Apêl yn gosod penderfyniad o'r neilltu yn unol â'r rheoliad hwn, rhaid iddo ddirymu unrhyw orchymyn a wnaed o ganlyniad i'r penderfyniad hwnnw a rhaid iddo orchymyn ail wrandawiad neu ailbenderfyniad gerbron naill ai'r un Panel Apêl neu Banel Apêl gwahanol.

(8Rhaid i'r Clerc, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, hysbysu'r partïon i'r apêl mewn ysgrifen o'r canlynol—

(a)penderfyniad na fydd y Panel Apêl yn ymgymryd ag adolygiad o dan baragraff (1);

(b)penderfyniad y Panel apêl, wedi iddo gynnal adolygiad dan baragraff (1), na fydd yn rhoi o'r neilltu'r penderfyniad a oedd yn destun yr apêl;

(c)dyroddi unrhyw dystysgrif o dan baragraff (1); ac

(ch)dirymu unrhyw orchymyn o dan baragraff (7).

(9Mewn perthynas â phenderfyniad y gwneir cais ynglŷn ag ef o dan baragraff (1), os yw apêl i'r Uchel Lys yn parhau heb ei phenderfynu ar y diwrnod perthnasol, rhaid i'r Clerc hysbysu'r Uchel Lys cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl y digwyddiad perthnasol.

(10Ym mharagraff (9)—

  • ystyr “y digwyddiad perthnasol” (“the relevant event”) mewn perthynas â diwrnod perthnasol, yw'r digwyddiad sy'n digwydd ar y diwrnod hwnnw; ac

  • ystyr “y diwrnod perthnasol” (“the relevant day”) yw'r diwrnod, yn ôl fel y digwydd—

    (a)

    pan wneir y cais o dan baragraff (1);

    (b)

    pan fo'r digwyddiad y cyfeirir ato yn unrhyw un o'r is-baragraffau (a) i (ch) o baragraff (8).

(11Yn y rheoliad hwn, ystyr “aelod” yw aelod o Banel Apêl.