- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
42.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) bydd pŵer gan Banel Apêl a gyfansoddwyd fel y darperir ym mharagraff (4), ar ôl derbyn cais ysgrifenedig gan barti, i adolygu neu roi o'r neilltu drwy dystysgrif o dan lofnod yr aelod sy'n llywyddu—
(a)unrhyw benderfyniad ar unrhyw un o'r seiliau a grybwyllir ym mharagraff (5), a
(b)penderfyniad ar apêl yn erbyn rhybudd i gwblhau, ar y sail ychwanegol a grybwyllir ym mharagraff (6).
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys pan fo apêl yn erbyn y penderfyniad dan sylw wedi ei phenderfynu gan yr Uchel Lys.
(3) Ceir gwrthod cais a wneir o dan baragraff (1) oni wneir ef o fewn y cyfnod o bedair wythnos sy'n dechrau ar y diwrnod pan roddir yr hysbysiad (pa un ai'n unol â rheoliad 40(3) neu reoliad 43(3)) o'r penderfyniad dan sylw.
(4) Cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol, bydd y Panel Apêl a benodir i adolygu'r penderfyniad yn cynnwys yr un aelodau ag a oedd ar y Panel Apêl a wnaeth y penderfyniad.
(5) Y seiliau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(a) yw—
(a)bod y penderfyniad a wnaed yn anghywir oherwydd camgymeriad clerigol;
(b)nad oedd parti wedi ymddangos, a gall y parti hwnnw ddangos achos rhesymol pam nad ymddangosodd;
(c)yr effeithir ar y penderfyniad gan benderfyniad gan, neu benderfyniad ar apêl o'r Uchel Lys neu'r Uwch Dribiwnlys, mewn perthynas ag apêl ynglŷn â'r annedd neu, yn ôl fel y digwydd, y person, a oedd yn destun penderfyniad y Panel Apêl; ac
(ch)bod buddiannau cyfiawnder rywfodd arall yn gwneud adolygiad o'r fath yn ofynnol.
(6) Y sail a grybwyllir ym mharagraff (1)(b) yw bod tystiolaeth newydd, na ellid bod wedi canfod ei bodolaeth drwy ymchwilio'n rhesymol ddiwyd, na'i rhagweld, wedi dod ar gael er pan gwblhawyd yr achos y mae'r penderfyniad yn ymwneud ag ef.
(7) Os yw Panel Apêl yn gosod penderfyniad o'r neilltu yn unol â'r rheoliad hwn, rhaid iddo ddirymu unrhyw orchymyn a wnaed o ganlyniad i'r penderfyniad hwnnw a rhaid iddo orchymyn ail wrandawiad neu ailbenderfyniad gerbron naill ai'r un Panel Apêl neu Banel Apêl gwahanol.
(8) Rhaid i'r Clerc, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, hysbysu'r partïon i'r apêl mewn ysgrifen o'r canlynol—
(a)penderfyniad na fydd y Panel Apêl yn ymgymryd ag adolygiad o dan baragraff (1);
(b)penderfyniad y Panel apêl, wedi iddo gynnal adolygiad dan baragraff (1), na fydd yn rhoi o'r neilltu'r penderfyniad a oedd yn destun yr apêl;
(c)dyroddi unrhyw dystysgrif o dan baragraff (1); ac
(ch)dirymu unrhyw orchymyn o dan baragraff (7).
(9) Mewn perthynas â phenderfyniad y gwneir cais ynglŷn ag ef o dan baragraff (1), os yw apêl i'r Uchel Lys yn parhau heb ei phenderfynu ar y diwrnod perthnasol, rhaid i'r Clerc hysbysu'r Uchel Lys cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl y digwyddiad perthnasol.
(10) Ym mharagraff (9)—
ystyr “y digwyddiad perthnasol” (“the relevant event”) mewn perthynas â diwrnod perthnasol, yw'r digwyddiad sy'n digwydd ar y diwrnod hwnnw; ac
ystyr “y diwrnod perthnasol” (“the relevant day”) yw'r diwrnod, yn ôl fel y digwydd—
pan wneir y cais o dan baragraff (1);
pan fo'r digwyddiad y cyfeirir ato yn unrhyw un o'r is-baragraffau (a) i (ch) o baragraff (8).
(11) Yn y rheoliad hwn, ystyr “aelod” yw aelod o Banel Apêl.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys