Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 1064 (Cy.155)

CYDRADDOLDEB, CYMRU

Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011

Gwnaed

3 Ebrill 2011

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae'r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddwyd i Weinidogion Cymru gan adrannau 153(2) a 207(4) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010(1).

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â'r Comisiwn dros Gydraddoldeb a Hawliau Dynol yn unol ag adran 153(4) o'r Ddeddf honno.

Cafodd drafft o'r Rheoliadau hyn ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo yn unol ag adran 209(6) o'r Ddeddf honno.

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau hyn, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol ) (Cymru) 2011.

(2Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2011.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “amcan cyflog cyfartal rhwng y rhywiau” (“gender pay equality objective”) yw amcan cydraddoldeb—

    (i)

    sy'n ymwneud â'r angen i fynd i'r afael ag achosion unrhyw wahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau; ac

    (ii)

    y mae'r awdurdod wedi ei gyhoeddi;

  • ystyr “awdurdod” (“authority”) yw awdurdod a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 19 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ac mae “awdurdodau” (“authorities”) i'w dehongli yn unol â hynny;

  • mae “cyflogaeth”, “cyflogeion” a “personau a gyflogir” i'w dehongli yn unol ag ystyr (“employment”), (“employees”) a (“persons employed”) yn ôl eu trefn yn adran 83 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010;

  • ystyr “cyfnod adrodd” (“reporting period”) yw'r cyfnod o 1 Ebrill i 31 Mawrth ac eithrio mewn perthynas â'r cyfnod adrodd sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2012 ac, yn yr achos hwnnw, ystyr “cyfnod adrodd” yw'r cyfnod o 6 Ebrill 2011 i 31 Mawrth 2012;

  • ystyr “dyddiad perthnasol (“relevant date”) yw 31 Mawrth;

  • ystyr “y ddyletswydd gyffredinol” (“the general duty”) yw'r ddyletswydd yn adran 149(1) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010;

  • ystyr “gwahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau” (“gender pay difference”) yw unrhyw wahaniaeth rhwng cyflog—

    (i)

    menyw a dyn; neu

    (ii)

    menywod a dynion,

  • a gyflogir gan awdurdod a phan fo'r amod cyntaf neu'r ail amod yn cael ei fodloni.

  • Yr amod cyntaf yw bod y gwahaniaeth yn wahaniaeth am reswm sy'n gysylltiedig â nodwedd warchodedig rhyw.

  • Yr ail amod yw ei bod yn ymddangos yn rhesymol debyg i'r awdurdod bod y gwahaniaeth yn wahaniaeth am reswm sy'n gysylltiedig â nodwedd warchodedig rhyw;

  • ystyr “gwybodaeth berthnasol” (“relevant information”) yw gwybodaeth sy'n ymwneud â chydymffurfiaeth (neu ddiffyg cydymffurfiaeth) yr awdurdod â'r ddyletswydd gyffredinol.

Amcanion cydraddoldeb

3.—(1Rhaid i awdurdod gyhoeddi amcanion a lunnir i'w alluogi i gyflawni'r ddyletswydd gyffredinol yn well.

(2Rhaid i'r awdurdod hefyd —

(a)cyhoeddi datganiad sy'n nodi—

(i)y camau y mae wedi eu cymryd neu'n bwriadu eu cymryd er mwyn cyflawni pob amcan; a

(ii)pa mor hir y mae'r awdurdod yn disgwyl y bydd yn ei gymryd er mwyn cyflawni pob amcan;

(b)gwneud unrhyw drefniadau y mae'n credu eu bod yn briodol i fonitro'r cynnydd y mae'n ei wneud a pha mor effeithiol yw'r camau y mae'n eu cymryd er mwyn cyflawni ei amcanion cydraddoldeb.

Yn y Rheoliadau hyn cyfeirir at yr amcanion hyn fel “amcanion cydraddoldeb”.

(3Os na fydd awdurdod yn cyhoeddi amcan cydraddoldeb mewn perthynas ag un neu fwy o'r nodweddion gwarchodedig, rhaid iddo gyhoeddi ei resymau dros ei benderfyniad i beidio â gwneud hynny.

(4Mae paragraff (3) yn gymwys hyd yn oed os yw awdurdod yn cyhoeddi amcan cydraddoldeb at y diben y cyfeirir ato yn rheoliad 11(1) (ac oherwydd hynny mae amcan o'r fath i'w anwybyddu at ddiben paragraff (3)).

Paratoi ac adolygu etc. amcanion cydraddoldeb

4.—(1Wrth ystyried pa amcanion cydraddoldeb y dylai eu harddel ac wrth lunio unrhyw amcan cydraddoldeb (neu unrhyw ddiwygiad i amcan o'r fath) rhaid i'r awdurdod—

(a)cydymffurfio â'r darpariaethau ymgysylltu (gweler rheoliad 5); a

(b)rhoi sylw dyladwy i'r wybodaeth berthnasol y mae'n ei dal.

(2Rhaid i awdurdod gydymffurfio â rheoliad 3(1) drwy gyhoeddi amcanion cydraddoldeb—

(a)erbyn 2 Ebrill 2012 fan bellaf; a

(b)ar ôl hynny fel y bo'n briodol yn ei farn ef.

(3Rhaid i awdurdod adolygu pob un o'i amcanion cydraddoldeb—

(a)heb fod yn hwyrach na diwedd y cyfnod o bedair blynedd sy'n dechrau ar y dyddiad y cyhoeddwyd yr amcan gyntaf; a

(b)bob hyn a hyn ar ôl hynny heb fod yr ysbeidiau rhwng yr adolygiadau yn hwyrach na diwedd y cyfnod o bedair blynedd sy'n dechrau ar ddyddiad yr adolygiad diwethaf o'r amcan.

(4Caiff awdurdod gynnal adolygiad o unrhyw un neu ragor o'i amcanion cydraddoldeb ar unrhyw adeg arall.

(5Caiff awdurdod ddiwygio amcan cydraddoldeb neu ei ail-wneud ar unrhyw bryd.

(6Os bydd awdurdod yn diwygio amcan heb ei ail-wneud, yna rhaid i'r awdurdod, cyn gynted ag y bo modd ar ôl gwneud y diwygiad, gyhoeddi'r diwygiad neu'r amcan fel y'i diwygiwyd (fel y mae'n credu ei bod yn briodol).

(7Os bydd awdurdod yn gwneud unrhyw un neu rai o'r pethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (5) rhaid iddo naill ai ddiwygio'r datganiad a gyhoeddwyd ganddo o dan reoliad 3(2) neu gyhoeddi datganiad newydd.

Darpariaethau ymgysylltu

5.—(1Cyfeirir at y darpariaethau ym mharagraff (2) yn y Rheoliadau hyn fel “y darpariaethau ymgysylltu”.

(2Pan fo unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod gydymffurfio â'r darpariaethau ymgysylltu wrth gyflawni unrhyw weithgaredd (gweler, er enghraifft, rheoliad 4(1)(a)), mae cydymffurfio â'r darpariaethau hynny'n golygu bod yr awdurdod wrth gyflawni'r gweithgaredd hwnnw—

(a)yn gorfod cynnwys unrhyw bersonau y mae'r awdurdod yn credu—

(i)eu bod yn cynrychioli buddiannau personau sy'n rhannu un neu fwy o'r nodweddion gwarchodedig; a

(ii)bod ganddynt fuddiant yn y modd y mae'r awdurdod yn cyflawni ei swyddogaethau;

(b)yn cael cynnwys unrhyw bersonau eraill y mae'r awdurdod yn credu eu bod yn briodol; ac

(c)yn cael ymgynghori ag unrhyw bersonau y mae'r awdurdod yn credu eu bod yn briodol.

(3Wrth ddod i benderfyniad o dan baragraff (2)(b) neu (c) rhaid i'r awdurdod roi sylw i'r angen i gynnwys neu i ymgynghori (yn ôl y digwydd), i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol gwneud hynny, â phersonau—

(a)sy'n rhannu un neu fwy o'r nodweddion gwarchodedig; a

(b)sydd â buddiant yn y ffordd y mae'r awdurdod yn cyflawni ei swyddogaethau.

Hygyrchedd gwybodaeth a gyhoeddir

6.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw ddogfen neu wybodaeth y mae'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod ei chyhoeddi.

(2Rhaid i'r awdurdod gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y ddogfen neu'r wybodaeth yn hygyrch i bersonau sy'n rhannu un neu fwy o'r nodweddion gwarchodedig.

Trefniadau i gasglu etc. gwybodaeth am gydymffurfio â'r ddyletswydd gyffredinol

7.—(1Rhaid i awdurdod wneud unrhyw drefniadau y mae'n credu eu bod yn briodol i sicrhau ei fod, o dro i dro—

(a)yn nodi'r wybodaeth berthnasol y mae'n ei dal;

(b)yn nodi ac yn casglu gwybodaeth berthnasol nad yw'n ei dal; ac

(c)yn cyhoeddi'r wybodaeth berthnasol y mae'n ei dal ac y mae'n credu y byddai'n briodol ei chyhoeddi.

I weld darpariaeth bellach am yr hyn y mae'n rhaid i'r trefniadau ei gynnwys, gweler hefyd reoliad 11(2).

(2At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae awdurdod yn dal gwybodaeth berthnasol—

(a)os yw'n cael ei dal gan yr awdurdod, heblaw ar ran person arall;

(b)os yw'n cael ei dal gan berson arall ar ran yr awdurdod; neu

(c)os yw'n cael ei dal gan yr awdurdod ar ran person arall ac—

(i)bod y person hwnnw wedi cydsynio bod yr awdurdod yn cael defnyddio'r wybodaeth er mwyn i'r awdurdod gydymffurfio â'r ddyletswydd gyffredinol a'r dyletswyddau o dan y Rheoliadau hyn; neu

(ii)bod defnydd yr awdurdod o'r wybodaeth er mwyn iddo gydymffurfio â'r dyletswyddau hynny yn bodloni'r amodau ym mharagraff (3).

(3Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(c)(ii) yw—

(a)nad yw defnydd yr awdurdod o'r wybodaeth yn groes i'r gyfraith; a

(b)bod defnydd yr awdurdod o'r wybodaeth yn rhesymol, o roi sylw i'r holl amgylchiadau gan gynnwys, yn benodol, natur yr wybodaeth ac o dan ba amgylchiadau y cafodd yr awdurdod yr wybodaeth.

(4Mae nodi gwybodaeth berthnasol yn cynnwys nodi'r wybodaeth honno drwy gynnal asesiad i weld—

(a)a oes pethau yn cael eu gwneud gan yr awdurdod sy'n cyfrannu at gydymffurfiaeth (neu ddiffyg cydymffurfiaeth) yr awdurdod â'r ddyletswydd gyffredinol; a

(b)a oes pethau y gallai eu gwneud ac a fyddai'n debyg o gyfrannu at gydymffurfiaeth yr awdurdod â'r ddyletswydd honno.

(5Wrth gynnal asesiad y cyfeirir ato ym mharagraff (4), rhaid i'r awdurdod—

(a)cydymffurfio â'r darpariaethau ymgysylltu; a

(b)rhoi sylw dyladwy i'r wybodaeth berthnasol y mae'n ei dal.

(6Rhaid i'r trefniadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) sicrhau bod yr awdurdod, erbyn 2 Ebrill 2012 fan bellaf—

(a)yn cynnal asesiad y cyfeirir ato ym mharagraff (4); a

(b)yn cyhoeddi'r wybodaeth berthnasol y mae'n ei dal ac y mae'n credu ei bod yn briodol ei chyhoeddi.

Effaith polisïau ac arferion a'u monitro

8.—(1Rhaid i awdurdod wneud unrhyw drefniadau y mae'n credu eu bod yn briodol—

(a)i asesu effaith debygol ei bolisïau a'i arferion arfaethedig ar ei allu i gydymffurfio â'r ddyletswydd gyffredinol;

(b)i asesu effaith

(i)unrhyw bolisi neu arfer y mae'r awdurdod wedi penderfynu ei adolygu,

(ii)unrhyw ddiwygiad y mae'r awdurdod yn bwriadu ei wneud i bolisi neu arfer,

ar ei allu i gydymffurfio â'r ddyletswydd honno;

(c)i fonitro effaith ei bolisïau a'i arferion ar ei allu i gydymffurfio â'r ddyletswydd honno; ac

(ch)i gyhoeddi adroddiadau mewn cysylltiad ag unrhyw asesiad—

(i)y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) neu (b); a

(ii)sy'n dangos bod yr effaith neu'r effaith debygol (yn ôl y digwydd) ar allu'r awdurdod i gydymffurfio â'r ddyletswydd honno yn sylweddol.

(2Rhaid i adroddiadau o dan baragraff (1)(ch) nodi, yn benodol—

(a)diben—

(i)y polisi neu'r arfer arfaethedig;

(ii)y polisi neu'r arfer; neu

(iii)y diwygiad arfaethedig i bolisi neu arfer

a gafodd ei asesu;

(b)crynodeb o'r camau y mae'r awdurdod wedi eu cymryd i gynnal yr asesiad;

(c)crynodeb o'r wybodaeth y mae'r awdurdod wedi ei chymryd i ystyriaeth yn yr asesiad;

(ch)canlyniadau'r asesiad; a

(d)unrhyw benderfyniadau a wnaed gan yr awdurdod mewn perthynas â'r canlyniadau hynny.

(3Wrth gynnal asesiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a) neu (b), rhaid i'r awdurdod—

(a)cydymffurfio â'r darpariaethau ymgysylltu; a

(b)rhoi sylw dyladwy i'r wybodaeth berthnasol y mae'n ei dal.

Hyfforddiant a chasglu gwybodaeth am gyflogaeth

9.—(1Rhaid i awdurdod, ym mhob blwyddyn, gasglu'r wybodaeth a ganlyn—

(a)nifer y personau a gyflogir gan yr awdurdod ar y dyddiad perthnasol yn y flwyddyn honno;

(b)nifer y personau a gyflogir gan yr awdurdod ar y dyddiad hwnnw yn ôl—

(i)swydd;

(ii)gradd, ond dim ond pan fo awdurdod yn gweithredu system graddau mewn cysylltiad â'i gyflogeion;

(iii)cyflog;

(iv)y math o gontract (gan gynnwys contractau parhaol a chyfnod penodol, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny); a

(v)y patrwm gwaith (gan gynnwys trefniadau gweithio llawnamser, rhan-amser a threfniadau gweithio hyblyg eraill ond heb fod yn gyfyngedig i hynny).

(c)nifer y canlynol, yn ystod y cyfnod adrodd sy'n diweddu ar y dyddiad perthnasol yn y flwyddyn honno—

(i)personau sydd wedi gwneud cais am gyflogaeth gyda'r awdurdod (heb gynnwys personau sydd eisoes wedi eu cyflogi gan yr awdurdod);

(ii)cyflogeion yr awdurdod sydd wedi newid swydd yn yr awdurdod gan gynnwys y nifer a wnaeth gais am newid swydd a'r nifer a fu'n llwyddiannus (neu fel arall) yn eu cais;

(iii)cyflogeion yr awdurdod sydd wedi gwneud cais am hyfforddiant a'r nifer a fu'n llwyddiannus (neu fel arall) yn eu cais;

(iv)cyflogeion yr awdurdod a gwblhaodd yr hyfforddiant;

(v)cyflogeion yr awdurdod a fu neu sydd yn rhan o weithdrefnau cwyno naill ai am mai hwy yw'r person a wnaeth gyhuddiad yn erbyn un arall neu am mai hwy yw'r person y gwnaed cyhuddiad yn ei erbyn;

(vi)cyflogeion yr awdurdod a fu neu sydd yn destun achos disgyblu; a

(vii)cyflogeion yr awdurdod a ymadawodd â chyflogaeth yr awdurdod.

(2Ym mharagraff (1) (ac eithrio paragraff (1)(b)) mae unrhyw gyfeiriad at nifer y personau neu'r cyflogeion yn cynnwys, mewn cysylltiad â phob un o'r nodweddion gwarchodedig, y niferoedd sy'n rhannu'r nodwedd warchodedig.

(3Ym mharagraff (1)(b) mae'r cyfeiriad at nifer y personau a gyflogir yn cynnwys, mewn cysylltiad â nodwedd warchodedig rhyw, y nifer sydd yn fenywod a'r nifer sydd yn ddynion.

(4Rhaid i'r awdurdod gyhoeddi'r wybodaeth y mae wedi ei chasglu yn unol â pharagraffau (1), (2) a (3).

(5Nid oes dim yn y rheoliad hwn y mae awdurdod i'w ddibynnu arno yn y fath fodd ag i'w gwneud yn ofynnol i unrhyw berson y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo ddarparu gwybodaeth i'r awdurdod.

(6Mae paragraff (5) yn gymwys—

(a)i unrhyw gyflogai i'r awdurdod; a

(b)i unrhyw berson sy'n gwneud cais am gyflogaeth gyda'r awdurdod.

10.  Rhaid i awdurdod wneud unrhyw drefniadau y mae'n credu eu bod yn briodol—

(a)i hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth ymhlith ei gyflogeion o'r ddyletswydd gyffredinol a'r dyletswyddau yn y Rheoliadau hyn; a

(b)i ddefnyddio ei weithdrefnau asesu perfformiad (os oes ganddo rai) i nodi anghenion hyfforddi ei gyflogeion mewn perthynas â'r dyletswyddau hynny ac i fynd i'r afael â hwynt.

Cyflog a chynlluniau gweithredu

11.—(1Rhaid i awdurdod, pan fydd yn ystyried beth ddylai ei amcanion cydraddoldeb fod, roi sylw dyladwy i'r angen i gael amcanion cydraddoldeb sy'n mynd i'r afael ag achosion unrhyw wahaniaethau rhwng cyflog unrhyw berson neu bersonau a gyflogir gan yr awdurdod (“P”) (yn ôl y digwydd)—

(a)sydd â nodwedd warchodedig;

(b)sydd yn rhannu nodwedd warchodedig,

a'r rheini nad oes ganddynt neu nad ydynt yn rhannu nodwedd o'r fath, pan fo'r amod cyntaf neu'r ail amod yn cael ei fodloni.

Yr amod cyntaf yw bod y gwahaniaeth yn wahaniaeth am reswm sy'n gysylltiedig â'r ffaith bod gan P nodwedd warchodedig neu ei fod yn rhannu'r nodwedd warchodedig honno (yn ôl y digwydd).

Yr ail amod yw ei bod yn ymddangos yn rhesymol debyg i'r awdurdod bod y gwahaniaeth yn wahaniaeth am reswm sy'n gysylltiedig â'r ffaith bod gan P nodwedd warchodedig neu ei fod yn rhannu'r nodwedd warchodedig honno (yn ôl y digwydd).

(2Rhaid i'r trefniadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 7(1) gynnwys hefyd drefniadau ar gyfer nodi a chasglu gwybodaeth ynghylch—

(a)unrhyw wahaniaethau rhwng cyflog personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1); a

(b)achosion unrhyw wahaniaethau o'r fath.

(3Os yw awdurdod—

(a)yn unol â pharagraff (1), wedi nodi unrhyw wahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau; a

(b)heb gyhoeddi amcan cydraddoldeb i fynd i'r afael ag achosion y gwahaniaeth hwnnw,

rhaid i'r awdurdod gyhoeddi'r rhesymau dros ei benderfyniad i beidio â chyhoeddi amcan o'r fath.

12.—(1Rhaid i awdurdod gyhoeddi cynllun gweithredu sy'n gosod—

(a)unrhyw bolisi sydd gan yr awdurdod sy'n ymwneud â'r angen i fynd i'r afael ag achosion unrhyw wahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau;

(a)unrhyw amcan cyflog cyfartal rhwng y rhywiau a gyhoeddwyd ganddo;

(b)unrhyw ddiwygiad i amcan cyflog cyfartal rhwng y rhywiau neu unrhyw amcan diwygiedig o ran cyflog cyfartal rhwng y rhywiau y mae'n ofynnol iddo ei gyhoeddi yn unol â rheoliad 4(6);

(ch)gwybodaeth y mae'n ofynnol iddo ei chyhoeddi yn unol â rheoliad 3(2)(a) mewn cysylltiad ag unrhyw amcan cyflog cyfartal rhwng y rhywiau;

(c)unrhyw resymau y mae'n ofynnol iddo eu cyhoeddi yn unol â rheoliad 11(3).

(2Os bydd awdurdod, mewn perthynas ag unrhyw amcan cyflog cyfartal rhwng y rhywiau, yn gwneud unrhyw un neu ragor o'r pethau y cyfeirir atynt yn rheoliad 4(5), rhaid iddo naill ai ddiwygio'r cynllun gweithredu a gyhoeddwyd ganddo neu gyhoeddi cynllun gweithredu newydd.

Adolygu etc. trefniadau

13.—(1Rhaid i awdurdod adolygu'n barhaus y trefniadau y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddynt.

(2Caiff awdurdod, ar unrhyw adeg, ddiwygio'r trefniadau y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddynt neu eu hail-wneud.

(3Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i drefniadau y mae'r awdurdod wedi eu gwneud i gydymffurfio â'r canlynol—

(i)rheoliad 3(2)(b);

(ii)rheoliad 7(1);

(iii)rheoliad 8(1); a

(iv)rheoliad 10.

Cynlluniau Strategol Cydraddoldeb

14.—(1Erbyn 2 Ebrill 2012 fan bellaf, rhaid i awdurdod wneud Cynllun Strategol Cydraddoldeb (CSC).

(2Rhaid i'r CSC gynnwys datganiad sy'n nodi—

(a)disgrifiad o'r awdurdod;

(b)amcanion cydraddoldeb yr awdurdod;

(c)mewn perthynas â phob un o'r amcanion hynny—

(i)y camau y mae'r awdurdod wedi eu cymryd neu'n bwriadu eu cymryd er mwyn cyflawni'r amcan; a

(ii)pa mor hir y mae'r awdurdod yn disgwyl y bydd yn ei gymryd er mwyn cyflawni'r amcan; ac

(ch)y trefniadau y mae wedi eu gwneud neu'n bwriadu eu gwneud i gydymffurfio â'r canlynol—

(i)rheoliad 3(2)(b);

(ii)rheoliad 7(1);

(iii)rheoliad 8(1); a

(iv)rheoliad 10 a

(d)cynllun gweithredu yr awdurdod y cyfeirir ato yn rheoliad 12.

(3Caiff yr CSC gynnwys unrhyw faterion eraill sy'n berthnasol ar gyfer cydymffurfio â'r ddyletswydd gyffredinol fel y bo'r awdurdod yn credu eu bod yn briodol.

(4Caiff yr awdurdod ddiwygio'i CSC neu ei ail-wneud ar unrhyw adeg.

Paratoi, cyhoeddi ac adolygu CSCau

15.—(1Wrth wneud CSC, ei ail-wneud neu ei ddiwygio rhaid i'r awdurdod—

(a)cydymffurfio â'r darpariaethau ymgysylltu; a

(b)rhoi sylw dyladwy i'r wybodaeth berthnasol y mae'n ei dal.

(2Rhaid i awdurdod gyhoeddi ei CSC cyn gynted ag y bo modd ar ôl i'r CSC gael ei wneud neu ei ail-wneud.

(3Os bydd awdurdod yn diwygio'i CSC heb ei ail-wneud yna rhaid i'r awdurdod, cyn gynted ag y bo modd ar ôl gwneud y diwygiadau, gyhoeddi'r diwygiadau neu'r CSC fel y'i diwygiwyd (fel y mae'n credu ei bod yn briodol).

(4Caiff awdurdod gydymffurfio â'r ddyletswydd i gyhoeddi ei CSC drwy nodi'r CSC fel rhan o ddogfen gyhoeddedig arall neu mewn nifer o ddogfennau cyhoeddedig eraill.

  • At ddibenion y paragraff hwn mae “CSC” yn cynnwys unrhyw ddiwygiadau i'r CSC.

(5Rhaid i'r awdurdod adolygu'n barhaus—

(a)ei CSC; a

(b)unrhyw ddiwygiadau a wnaed i'r CSC.

(6Wrth gydymffurfio â'r ddyletswydd ym mharagraff (5), rhaid i'r awdurdod roi sylw dyladwy—

(i)i'r wybodaeth berthnasol y mae'n ei dal; a

(ii)i unrhyw wybodaeth arall y mae'r awdurdod yn credu y byddai'n debyg o'i gynorthwyo yn yr adolygiad.

Adroddiadau gan awdurdodau ar gydymffurfio â'r ddyletswydd gyffredinol

16.—(1Rhaid i awdurdod, mewn perthynas â phob cyfnod adrodd, gyhoeddi adroddiad heb fod yn hwyrach na'r dyddiad perthnasol yn y flwyddyn yn dilyn y flwyddyn y mae'r cyfnod adrodd hwnnw'n diweddu ynddi.

(2Rhaid i'r adroddiad nodi—

(a)y camau y mae'r awdurdod wedi eu cymryd i nodi a chasglu gwybodaeth berthnasol;

(b)mewn cysylltiad â gwybodaeth berthnasol y mae'n ei dal, sut y mae'r awdurdod wedi defnyddio'r wybodaeth honno er mwyn cydymffurfio â'r ddyletswydd gyffredinol a'r dyletswyddau yn y Rheoliadau hyn;

(c)rhesymau'r awdurdod dros beidio â chasglu unrhyw wybodaeth berthnasol y mae wedi ei nodi ond nad yw'n ei dal;

(ch)y cynnydd y mae'r awdurdod wedi ei wneud er mwyn cyflawni pob un o'i amcanion cydraddoldeb.

(d)datganiad gan yr awdurdod ar effeithiolrwydd y canlynol—

(i)ei drefniadau er gyfer nodi a chasglu gwybodaeth berthnasol; a

(ii)y camau y mae wedi eu cymryd er mwyn cyflawni pob un o'i amcanion cydraddoldeb; ac

(dd)yr wybodaeth y mae'n ofynnol i'r awdurdod ei chyhoeddi o dan reoliad 9(4) oni bai bod yr awdurdod eisoes wedi cyhoeddi'r wybodaeth honno.

(3Caiff yr awdurdod, os yw'n credu ei bod yn briodol gwneud hynny, gynnwys mewn adroddiad unrhyw fater arall sy'n berthnasol ar gyfer cydymffurfiaeth yr awdurdod â'r ddyletswydd gyffredinol a'r dyletswyddau yn y Rheoliadau hyn.

(4Caiff yr awdurdod gydymffurfio â'r ddyletswydd i gyhoeddi adroddiad o dan baragraff (1) drwy osod ei adroddiad (gan gynnwys unrhyw fater y cyfeirir ato ym mharagraff (3)) fel rhan o ddogfen gyhoeddedig arall neu o fewn nifer o ddogfennau cyhoeddedig eraill.

Adroddiadau gan Weinidogion Cymru ar gydymffurfio â'r ddyletswydd gyffredinol etc. gan awdurdodau

17.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru, yn unol â pharagraff (2), gyhoeddi adroddiadau sy'n rhoi trosolwg o'r cynnydd a wnaed gan awdurdodau tuag at gydymffurfio eu hunain â'r ddyletswydd gyffredinol.

(2Rhaid i adroddiadau o dan baragraff (1)

(a)cael eu cyhoeddi—

(i)erbyn 31 Rhagfyr 2014 fan bellaf; a

(ii)bob hyn a hyn ar ôl hynny heb fod yr ysbeidiau rhwng yr adroddiadau yn hwyrach na diwedd pob cyfnod olynol o bedair blynedd gan ddechrau ar y dyddiad y cyhoeddwyd yr adroddiad diwethaf arno yn unol â'r is-baragraff hwn; a

(b)cael eu cyhoeddi

(i)erbyn 31 Rhagfyr 2016 fan bellaf; a

(ii)bob hyn a hyn ar ôl hynny heb fod yr ysbeidiau rhwng yr adroddiadau yn hwyrach na diwedd pob cyfnod olynol o bedair blynedd gan ddechrau ar y dyddiad y cyhoeddwyd yr adroddiad diwethaf arno yn unol â'r is-baragraff hwn.

(3Rhaid i adroddiadau o dan baragraff (1), ac eithrio'r adroddiadau cyntaf yn unol â pharagraff (2)(a)(i) a (b)(i), gwmpasu'r cyfnod ers y dyddiad y cyhoeddwyd yr adroddiad diwethaf o dan baragraff (2)(b).

(4Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad, erbyn 31 Rhagfyr 2011 fan bellaf —

(a)yn nodi trosolwg o'r cynnydd a wnaed gan awdurdodau tuag at gydymffurfio eu hunain â'r ddyletswydd gyffredinol i'r graddau y mae'n ymwneud â phersonau sy'n rhannu nodwedd warchodedig anabledd; a

(b)gwybodaeth sy'n ymwneud â'r cyfnod o 2 Rhagfyr 2008 i 5 Ebrill 2011 y byddai wedi bod yn ofynnol i Weinidogion Cymru ei chynnwys mewn adroddiad o dan reoliad 5 o Reoliadau Gwahaniaethu ar sail Anabledd (Awdurdodau Cyhoeddus) (Dyletswyddau Statudol) 2005(2) yn rhinwedd rheoliad 5(2)a o'r rheoliadau hynny petai'r rheoliadau hynny mewn grym.

(5Rhaid i adroddiadau o dan y rheoliad hwn nodi hefyd gynigion Gweinidogion Cymru ynglŷn â chydlynu camau gan awdurdodau mewn modd a fydd yn sicrhau rhagor o gynnydd tuag at gydymffurfiaeth yr awdurdodau hynny â'r ddyletswydd gyffredinol.

Caffael cyhoeddus

18.—(1Pan fo awdurdod sy'n awdurdod contractio yn bwriadu gwneud cytundeb perthnasol ar sail y cynnig mwyaf manteisiol yn economaidd, rhaid iddo roi sylw dyladwy i'r cwestiwn a ddylai'r meini prawf ynglŷn â dyfarnu gynnwys ystyriaethau sy'n berthnasol i'r modd y mae'n cyflawni'r ddyletswydd gyffredinol.

(2Pan fo awdurdod sy'n awdurdod contractio yn bwriadu pennu amodau ynglŷn â chyflawni cytundeb perthnasol, rhaid iddo roi sylw dyladwy i'r cwestiwn a ddylai'r amodau gynnwys ystyriaethau sy'n berthnasol i sut mae'n cyflawni'r ddyletswydd gyffredinol.

(3Yn y rheoliad hwn—

  • mae i “awdurdod contractio”, “cytundeb fframwaith” a “contractau cyhoeddus” yr un ystyr â (“contracting authority”), (“framework agreement”) a (“public contracts”) yn y drefn honno yn y Gyfarwyddeb Sector Cyhoeddus(3); ac

  • ystyr “cytundeb perthnasol” (“relevant agreement”) yw contract cyhoeddus sydd wedi ei ddyfarnu neu gytundeb fframwaith sydd wedi ei gwblhau a'r naill neu'r llall yn un sy'n cael ei reoleiddio gan y Gyfarwyddeb Sector Cyhoeddus.

Cydymffurfio â dyletswyddau gan Weinidogion Cymru etc.

19.  Pan fo'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru, Prif Weinidog Cymru a Chwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cynulliad Cymru baratoi CSC, cyhoeddi adroddiad neu wneud unrhyw beth arall, cânt gydymffurfio â'r ddyletswydd drwy weithredu ar y cyd.

Datgelu gwybodaeth

20.  Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn i'w gymryd fel petai'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod gyhoeddi gwybodaeth—

(a)petai gwneud hynny'n gyfystyr â thorri—

(i)cyfrinachedd mewn modd y gallai unrhyw berson fynd i gyfraith yn ei gylch; neu

(ii)Deddf Diogelu Data 1998(4); neu

(b)petai gan yr awdurdod hawl i wrthod dangos yr wybodaeth mewn achos neu at ddibenion achos mewn llys neu dribiwnlys yng Nghymru a Lloegr.

Carl Sargeant

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

3 Ebrill 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae adran 149(1) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (“y Ddeddf”) yn darparu bod rhaid i awdurdod cyhoeddus a restrir yn Atodlen 19 i'r Ddeddf roi sylw dyladwy wrth arfer ei swyddogaethau i'r angen i wneud y canlynol:

(a)dileu gwahaniaethu, aflonyddu, fictimeiddio ac unrhyw ymddygiad arall sydd wedi ei wahardd gan y Ddeddf neu odani;

(b)hybu cyfle cyfartal rhwng personau sy'n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phersonau nad ydynt yn ei rhannu; ac

(c)hybu perthynas dda rhwng personau sy'n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phersonau nad ydynt yn ei rhannu.

Er mwyn galluogi'r ddyletswydd o dan adran 149(1) o'r Ddeddf (y cyfeirir ati yn y nodyn hwn fel “y ddyletswydd gyffredinol”) i gael ei chyflawni'n well, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn o dan y pŵer a roddwyd iddynt gan adran 153(2) o'r Ddeddf. Mae'r Rheoliadau hyn yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau Cymreig perthnasol a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 19 i'r Ddeddf (“awdurdodau”).

Mae rheoliad 3 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdodau gyhoeddi un neu fwy o amcanion, y cyfeirir atynt fel “amcanion cydraddoldeb”, y mae'n rhaid eu llunio mewn modd sy'n galluogi'r awdurdod i gyflawni'r ddyletswydd gyffredinol yn well. Os na fydd awdurdod yn cyhoeddi amcan cydraddoldeb ar gyfer un neu fwy o'r nodweddion gwarchodedig, mae'n rhaid iddo gyhoeddi'r rhesymau dros ei benderfyniad i beidio â gwneud hynny. Mae amcan cydraddoldeb sydd â'r diben y cyfeirir ato yn rheoliad 11(1) i'w anwybyddu. Mae rheoliad 11(1) yn ymwneud ag amcanion cydraddoldeb am y gwahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau. Felly, at ddibenion rheoliad 3(3) bydd yn rhaid, er enghraifft, i'r awdurdod roi rhesymau os na fydd yn cyhoeddi amcan cydraddoldeb ynghylch nodwedd warchodedig rhyw hyd yn oed os yw wedi gosod amcan am gyflog cyfartal rhwng y rhywiau.

Mae rheoliad 3(2) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod gyhoeddi datganiad sy'n nodi'r camau y mae wedi eu cymryd neu'n bwriadu eu cymryd er mwyn cyflawni pob amcan cydraddoldeb a hefyd yr amserlen er mwyn cyflawni pob amcan cydraddoldeb. Rhaid i awdurdod wneud trefniadau priodol hefyd i fonitro ei gynnydd er mwyn cyflawni pob amcan ac i fonitro pa mor effeithiol yw'r camau y mae wedi eu cymryd er mwyn cyflawni'r amcanion cydraddoldeb.

Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod gydymffurfio â'r darpariaethau ymgysylltu yn rheoliad 5 a rhoi sylw dyladwy i'r “wybodaeth berthnasol” y mae'n ei dal wrth iddo ystyried a llunio'i amcanion cydraddoldeb. Diffinnir “gwybodaeth berthnasol” yn rheoliad 2 ac mae'n golygu gwybodaeth sy'n ymwneud â chydymffurfiaeth (neu ddiffyg cydymffurfiaeth) yr awdurdod â'r ddyletswydd gyffredinol.

Mae'n rhaid i awdurdod gyhoeddi ei amcanion cydraddoldeb erbyn 2 Ebrill 2012 fan bellaf. Wedi hynny, mae'n rhaid i awdurdod adolygu ei amcanion cydraddoldeb o fewn pedair blynedd i'r adeg y cawsant eu cyhoeddi gyntaf ac o leiaf unwaith bob pedair blynedd ar ôl hynny. Caiff awdurdodau ddiwygio neu ail-wneud amcanion cydraddoldeb ar unrhyw adeg. Os bydd awdurdod yn diwygio amcan heb ei ail-wneud, yna mae'n rhaid iddo gyhoeddi'r diwygiad neu'r amcan diwygiedig cyn gynted ag y bo modd. Os bydd awdurdod yn diwygio neu'n ail-wneud amcan, mae'n rhaid iddo naill ai ddiwygio'r datganiad y mae'n ofynnol iddo'i gyhoeddi o dan reoliad 3 neu gyhoeddi datganiad newydd.

Mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol, pan fo rheidrwydd ar awdurdod i gydymffurfio â darpariaethau ymgysylltu o dan y Rheoliadau hyn, i'r awdurdod hwnnw gynnwys y personau hynny y mae'r

awdurdod yn credu eu bod yn cynrychioli buddiannau personau sy'n rhannu un neu fwy o'r nodweddion gwarchodedig ac sydd â buddiant yn y ffordd y mae'r awdurdod yn cyflawni ei swyddogaethau. Caiff awdurdod hefyd gynnwys unrhyw bersonau eraill y mae'n credu eu bod yn briodol neu ymgynghori â hwy.

Mae darpariaethau ymgysylltu yn gymwys i'r gweithgareddau a ganlyn: ystyried a llunio amcanion cydraddoldeb (rheoliad 4(1)(a)); cynnal asesiad i weld a oes pethau yn cael eu gwneud neu a allai gael eu gwneud sy'n cyfrannu neu a fyddai'n debyg o gyfrannu at sicrhau bod awdurdod yn cydymffurfio â'r ddyletswydd gyffredinol (rheoliad 7(5)(a)); cynnal asesiad o effaith debygol polisïau ac arferion arfaethedig, polisïau neu arferion y penderfynodd eu hadolygu ac ar unrhyw ddiwygiadau arfaethedig i'r polisïau a'r arferion hynny ar gydymffurfio â'r ddyletswydd gyffredinol (rheoliad 8(3)(a)) ac â pharatoi, cyhoeddi neu adolygu Cynllun Strategol Cydraddoldeb (rheoliad 15(1)(a)).

Mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod unrhyw ddogfennau neu unrhyw wybodaeth y mae'n ofynnol yn ôl y Rheoliadau hyn i'r awdurdod eu cyhoeddi yn hygyrch i bersonau sy'n rhannu un neu fwy o nodweddion gwarchodedig . Mae hyn yn golygu bod rhaid i awdurdod gymryd i ystyriaeth bob un o nodweddion gwarchodedig person, ac nid un yn unig. Os oes amrediad o gamau y byddai'n rhesymol i'r awdurdod eu cymryd i drefnu bod yr wybodaeth yn hygyrch, yna mae'n rhaid iddo gymryd pob un o'r camau hynny.

Mae rheoliad 7 yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau o ran gwybodaeth berthnasol. Mae'n rhaid i awdurdod osod trefniadau priodol yn eu lle i sicrhau ei fod yn nodi'r wybodaeth berthnasol sydd ganddo a'i fod yn nodi ac yn casglu gwybodaeth berthnasol nad yw'n ei dal. Mae gwybodaeth bellach ynghylch yr hyn y mae'n rhaid ei gynnwys yn y trefniadau wedi ei nodi yn rheoliad 11(2), sy'n datgan bod rhaid cael trefniadau hefyd ar gyfer nodi a chasglu gwybodaeth ynghylch unrhyw wahaniaeth rhwng cyflog unrhyw berson (neu bersonau) sydd ag un neu fwy o'r nodweddion gwarchodedig (neu sy'n eu rhannu) a'r rheini sydd hebddynt, neu nad ydynt yn eu rhannu, ac ynghylch achosion gwahaniaethau o'r fath.

Mae awdurdod yn dal gwybodaeth berthnasol os yw'n cael ei dal gan awdurdod heblaw ar ran person arall, neu os yw'n cael ei dal gan berson arall ar ran yr awdurdod. Yn ychwanegol, gall gwybodaeth sy'n cael ei dal gan awdurdod ar ran person arall fod hefyd yn wybodaeth berthnasol sy'n cael ei dal gan awdurdod. Serch hynny, yr unig ffordd y gall hynny ddigwydd yw os yw'r person y mae'r awdurdod yn dal yr wybodaeth ar ei ran yn cydsynio bod yr awdurdod yn cael defnyddio'r wybodaeth at y diben o gydymffurfio ei hun â'r ddyletswydd gyffredinol a'r dyletswyddau o dan y Rheoliadau hyn, neu os nad yw'n groes i'r gyfraith i ddefnyddio'r wybodaeth a'i bod yn rhesymol gwneud hynny o ystyried yr holl amgylchiadau.

Mae'n rhaid i awdurdod gynnal asesiad er mwyn nodi gwybodaeth berthnasol. Dylai'r asesiad nodi a oes pethau'n cael eu gwneud gan yr awdurdod sy'n cyfrannu at beri i'r awdurdod gydymffurfio (neu beidio â chydymffurfio) â'r ddyletswydd gyffredinol ac a oes pethau y gallai'r awdurdod eu gwneud a fyddai'n debygol o gyfrannu at gydymffurfio â'r ddyletswydd gyffredinol. Mae'n rhaid i awdurdod, wrth gynnal asesiad o'r fath, roi sylw dyladwy i unrhyw wybodaeth berthnasol y mae eisoes wedi ei nodi, neu wedi ei chasglu ac y mae yn ei dal. Rhaid i awdurdod hefyd gydymffurfio â'r darpariaethau ymgysylltu. Dylai awdurdod edrych oddi mewn ac oddi allan i'w sefydliad er mwyn canfod tystiolaeth (gwybodaeth berthnasol) y gallai ei defnyddio, er enghraifft, mewn asesiadau effaith cydraddoldeb.

Mae rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod wneud trefniadau er mwyn asesu effaith debygol polisïau ac arferion arfaethedig ar ei allu i gydymffurfio â'r ddyletswydd gyffredinol yn ogystal ag effaith unrhyw bolisi neu arfer y penderfynodd yr awdurdod ei adolygu neu unrhyw ddiwygiad arfaethedig i bolisi neu arfer. Mae'n rhaid cael trefniadau i gyhoeddi adroddiadau ynghylch yr asesiadau hyn os yw'r asesiad yn dangos y byddai, yn ôl pob tebyg, effaith sylweddol ar allu'r awdurdod i gydymffurfio â'r ddyletswydd gyffredinol. Wrth asesu materion o'r fath o dan reoliad 8(1)(a) neu (b), mae'n rhaid i awdurdod gydymffurfio â'r darpariaethau ymgysylltu a rhoi sylw dyladwy i'r wybodaeth berthnasol. Mae'n rhaid i awdurdod hefyd fonitro effaith ei bolisïau a'i arferion ar ei allu i gydymffurfio â'r ddyletswydd gyffredinol.

Mae rheoliad 9 yn gosod dyletswyddau ynglŷn â hyfforddi a chasglu gwybodaeth am gyflogaeth. Mae'n gosod pa wybodaeth y mae'n rhaid i'r awdurdod ei chasglu bob blwyddyn ac yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod gyhoeddi'r wybodaeth a gasglwyd ganddo. Caniateir cyhoeddi gwybodaeth o'r fath yn adroddiad blynyddol yr awdurdod. Mae rheoliad 9(5) a (6) yn ei gwneud yn glir na all awdurdod ddibynnu ar effaith rheoliad 9 i orfodi ei gyflogeion neu bersonau a all wneud cais i'r awdurdod am gyflogaeth i ddatgelu, er enghraifft eu bod yn hoyw, yn strêt neu'n ddeurywiol.

Mae rheoliad 10 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod wneud unrhyw drefniadau y mae'n credu eu bod yn briodol i hybu ymhlith ei gyflogeion wybodaeth a dealltwriaeth o'r ddyletswydd gyffredinol a'r dyletswyddau o dan y Rheoliadau hyn. Dylai'r awdurdod hefyd nodi unrhyw anghenion hyfforddi sydd gan ei gyflogeion parthed y dyletswyddau hynny a mynd i'r afael â hwy.

Mae rheoliad 11 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod, pan fydd yn ystyried beth ddylai ei amcanion cydraddoldeb fod, roi sylw dyladwy i'r angen, mewn cysylltiad â'i gyflogeion, i gael amcanion cydraddoldeb sy'n mynd i'r afael ag achosion unrhyw wahaniaethau mewn cyflog. Y gwahaniaethau hynny mewn cyflog yw'r gwahaniaethau rhwng cyflog unrhyw berson neu bersonau sydd â nodweddion gwarchodedig neu sy'n eu rhannu, a'r rheini sydd hebddynt neu nad ydynt yn eu rhannu, pan fo'r rheswm dros y gwahaniaeth neu pan fo'n rhesymol debyg bod y rheswm hwnnw, yn un sy'n gysylltiedig â'r ffaith bod gan y person (neu'r personau) nodwedd warchodedig (neu ei fod/eu bod yn ei rhannu). Ystyr “gwahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau” yw unrhyw wahaniaeth rhwng cyflog person neu bersonau pan fo'r gwahaniaeth, neu pan fo'r gwahaniaeth yn rhesymol debyg o fod, yn un am reswm sy'n gysylltiedig â'r gwahaniaeth mewn rhyw. Os yw awdurdod wedi nodi “gwahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau” ond heb gyhoeddi amcan cydraddoldeb i fynd i'r afael ag ef, rhaid i'r awdurdod gyhoeddi rhesymau dros ei benderfyniadau i beidio â chyhoeddi amcan o'r fath.

Mae rheoliad 12 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod gyhoeddi cynllun gweithredu sy'n gosod unrhyw bolisi sydd ganddo ynghylch yr angen i fynd i'r afael ag achosion unrhyw wahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau ac unrhyw amcan cyflog cyfartal rhwng y rhywiau a gyhoeddwyd gan yr awdurdod. Rhaid i'r cynllun gweithredu hefyd osod, er enghraifft, unrhyw ddiwygiadau i amcan cyflog cyfartal rhwng y rhywiau a gwybodaeth ynghylch amcanion cyflog cyfartal rhwng y rhywiau y mae'n ofynnol iddo'u cyhoeddi yn rhinwedd rheoliad 3(2)(a) megis pa mor hir y mae'r awdurdod yn disgwyl y bydd yn ei gymryd er mwyn cyflawni amcan cyflog cyfartal rhwng y rhywiau.

Mae rheoliad 13 yn darparu bod pob trefniant o dan y Rheoliadau hyn yn cael ei adolygu'n barhaus.

Mae rheoliad 14 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lunio Cynllun Strategol Cydraddoldeb (CSC) erbyn 2 Ebrill 2012 fan bellaf. Bwriedir i'r CSC fod yn offeryn canolog sydd yn cynnwys y gwahanol bethau sy'n ofynnol o dan y Rheoliadau hyn fel bod un pwynt mynediad i'r cyhoedd. Rhaid i'r CSC gynnwys datganiad sy'n rhoi disgrifiad o'r awdurdod, yn gosod amcanion cydraddoldeb yr awdurdod, yn rhoi manylion y camau y mae'r awdurdod wedi eu cymryd neu'n bwriadu eu cymryd er mwyn cyflawni ei amcanion, a pha mor hir y bydd yn ei gymryd er mwyn cyflawni ei amcanion a manylion y trefniadau a wnaed ganddo neu y mae'n bwriadu eu gwneud i gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Gellir diwygio neu ail-wneud yr CSC ar unrhyw adeg.

Mae rheoliad 15 yn gosod darpariaethau ynghylch paratoi, cyhoeddi a diwygio CSC. Rhaid i awdurdod gyhoeddi ei CSC cyn gynted ag y bo modd ar ôl iddo gael ei wneud neu ei ail-wneud. Os yw wedi ei ddiwygio heb gael ei ail-wneud rhaid i'r awdurdod gyhoeddi'r diwygiadau. Caiff yr CSC fod yn rhan o ddogfen gyhoeddedig arall. Rhaid i'r awdurdod gadw ei CSC dan adolygiad.

Mae rheoliad 16 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod gyhoeddi adroddiad ynghylch pob “cyfnod adrodd”. Ystyr “cyfnod adrodd” yw'r cyfnod o 1 Ebrill i 31 Mawrth ac eithrio mewn perthynas â'r cyfnod adrodd sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2012 ac yn yr achos hwnnw ystyr cyfnod adrodd yw'r cyfnod o 6 Ebrill 2011 i 31 Mawrth 2012. Rhaid cyhoeddi'r adroddiad heb fod yn hwyrach na'r “dyddiad perthnasol” yn y flwyddyn sy'n dilyn y flwyddyn y bydd y cyfnod adrodd hwnnw yn dod i ben. Ystyr “y dyddiad perthnasol” yw 31 Mawrth. Mae'r rheoliad yn gosod yr hyn y mae'n rhaid ei gynnwys yn yr adroddiad. Caiff yr adroddiad fod yn rhan o ddogfen gyhoeddedig arall.

Mae rheoliad 17 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiadau sy'n rhoi trosolwg o'r cynnydd a wnaed gan awdurdodau tuag at gydymffurfio â'r ddyletswydd gyffredinol. Rhaid i'r adroddiadau hefyd osod cynigion Gweinidogion Cymru ar gyfer cydlynu camau awdurdodau er mwyn sicrhau rhagor o gynnydd tuag at gydymffurfiaeth gan yr awdurdodau hynny â'r ddyletswydd gyffredinol.

Mae rheoliad 18 yn gwneud darpariaeth ynghylch caffael cyhoeddus mewn achosion pan fo'r awdurdod yn awdurdod contractio. Dylai awdurdodau o'r fath ystyried a ddylai meini prawf dyfarnu gynnwys ystyriaethau sy'n berthnasol i'r modd y mae'r ddyletswydd gyffredinol yn cael ei chyflawni. Rhaid i awdurdod contractio hefyd roi sylw dyladwy i'r cwestiwn a ddylai unrhyw amodau a osodir ganddynt hwy hefyd gynnwys ystyriaethau sy'n berthnasol i gyflawni'r ddyletswydd gyffredinol.

Mae rheoliad 19 yn datgan y caiff Gweinidogion Cymru, Prif Weinidog Cymru a Chwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cynulliad Cymru, pan fônt yn ddarostyngedig i ddyletswyddau o dan y Rheoliadau hyn, weithredu ar y cyd — er enghraifft cânt lunio un CSC ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae rheoliad 20 yn datgan na ddylid cymryd bod unrhyw beth yn y Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod gyhoeddi gwybodaeth petai gwneud hynny yn doriad ar gyfrinachedd y gallai person ddwyn achos llys yn ei gylch neu yn doriad ar Ddeddf Diogelu Data 1998. Nid yw'n ofynnol i' awdurdod gyhoeddi unrhyw wybodaeth y byddai ganddo hawl i wrthod ei dangos mewn llys neu dribiwnlys yng Nghymru neu Loegr — e.e. gwybodaeth sy'n ddarostyngedig i fraint broffesiynol gyfreithiol. Ar wahân i'r uchod nid oes eithriadau eraill i'w cael rhag datgelu'r wybodaeth.

(2)

O.S. 2005/2966. Yn rhinwedd rheoliad 5(1) a (3) o'r Rheoliadau hynny ac Atodlen 2 iddynt yr oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru a gyfansoddid gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38) yn awdurdod adrodd at ddibenion rheoliad 5. Trosglwyddwyd y swyddogaeth honno yn union ar ôl diwedd y cyfnod cychwynnol, i Weinidogion Cymru yn rhinwedd y ffaith bod paragraff 30(1) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) yn weithredol. Diffinnir y cyfnod cychwynnol (yr “initial period”) yn adran 161(5) o Ddeddf 2006 a diffinnir swyddogaeth (“function” ) yn adran 158(1) o'r Ddeddf honno.

(3)

Mae'r term cyfatebol Saesneg (“Public Sector Directive”) wedi ei ddiffinio yn adran 155(3) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (p.15).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill