- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
7.—(1) Rhaid i awdurdod wneud unrhyw drefniadau y mae'n credu eu bod yn briodol i sicrhau ei fod, o dro i dro—
(a)yn nodi'r wybodaeth berthnasol y mae'n ei dal;
(b)yn nodi ac yn casglu gwybodaeth berthnasol nad yw'n ei dal; ac
(c)yn cyhoeddi'r wybodaeth berthnasol y mae'n ei dal ac y mae'n credu y byddai'n briodol ei chyhoeddi.
I weld darpariaeth bellach am yr hyn y mae'n rhaid i'r trefniadau ei gynnwys, gweler hefyd reoliad 11(2).
(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae awdurdod yn dal gwybodaeth berthnasol—
(a)os yw'n cael ei dal gan yr awdurdod, heblaw ar ran person arall;
(b)os yw'n cael ei dal gan berson arall ar ran yr awdurdod; neu
(c)os yw'n cael ei dal gan yr awdurdod ar ran person arall ac—
(i)bod y person hwnnw wedi cydsynio bod yr awdurdod yn cael defnyddio'r wybodaeth er mwyn i'r awdurdod gydymffurfio â'r ddyletswydd gyffredinol a'r dyletswyddau o dan y Rheoliadau hyn; neu
(ii)bod defnydd yr awdurdod o'r wybodaeth er mwyn iddo gydymffurfio â'r dyletswyddau hynny yn bodloni'r amodau ym mharagraff (3).
(3) Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(c)(ii) yw—
(a)nad yw defnydd yr awdurdod o'r wybodaeth yn groes i'r gyfraith; a
(b)bod defnydd yr awdurdod o'r wybodaeth yn rhesymol, o roi sylw i'r holl amgylchiadau gan gynnwys, yn benodol, natur yr wybodaeth ac o dan ba amgylchiadau y cafodd yr awdurdod yr wybodaeth.
(4) Mae nodi gwybodaeth berthnasol yn cynnwys nodi'r wybodaeth honno drwy gynnal asesiad i weld—
(a)a oes pethau yn cael eu gwneud gan yr awdurdod sy'n cyfrannu at gydymffurfiaeth (neu ddiffyg cydymffurfiaeth) yr awdurdod â'r ddyletswydd gyffredinol; a
(b)a oes pethau y gallai eu gwneud ac a fyddai'n debyg o gyfrannu at gydymffurfiaeth yr awdurdod â'r ddyletswydd honno.
(5) Wrth gynnal asesiad y cyfeirir ato ym mharagraff (4), rhaid i'r awdurdod—
(a)cydymffurfio â'r darpariaethau ymgysylltu; a
(b)rhoi sylw dyladwy i'r wybodaeth berthnasol y mae'n ei dal.
(6) Rhaid i'r trefniadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) sicrhau bod yr awdurdod, erbyn 2 Ebrill 2012 fan bellaf—
(a)yn cynnal asesiad y cyfeirir ato ym mharagraff (4); a
(b)yn cyhoeddi'r wybodaeth berthnasol y mae'n ei dal ac y mae'n credu ei bod yn briodol ei chyhoeddi.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys