- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
HARBYRAU, DOCIAU, PIERAU A FFERÏAU, CYMRU
Gwnaed
21 Mehefin 2011
Yn dod i rym
1 Gorffennaf 2011
Mae William Cleevely, Rosemary Hayes, Jim Codd a Phil Baker, sef y personau sydd ar hyn o bryd yn rhedeg ymgymeriad harbwr Saundersfoot, wedi gwneud cais am orchymyn grymuso harbwr o dan adran 16 o Ddeddf Harbyrau 1964(1);
Ni wnaed unrhyw wrthwynebiad i'r cais yn unol â hysbysiad a gyhoeddwyd yn unol â pharagraff 10(1) o Atodlen 3 i Ddeddf Harbyrau 1964;
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni fel y crybwyllir yn is-adran (5) o'r adran 16 a enwyd;
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 16(2) o Ddeddf Harbyrau 1964 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Grymuso Harbwr Saundersfoot 2011.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Gorffennaf 2011.
(3) Daw darpariaethau canlynol y Gorchymyn hwn i rym ar ddyddiad y cyfansoddiad newydd—
erthygl 4(1);
erthygl 5(1);
erthygl 7(1)(b);
erthygl 58; ac
erthygl 64.
2. Yn y Gorchymyn hwn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu'n wahanol—
mae “angorfeydd” (“moorings”) yn cynnwys jetïau arnofiol, pontynau, bwiau a chyfarpar neu gyfleusterau cyffelyb;
ystyr “yr awdurdodau lleol” (“the local authorities”) yw Cyngor Sir Penfro a Chyngor Cymuned Saundersfoot;
mae “awyren fôr” (“seaplane”) yn cynnwys cwch hedfan ac unrhyw fath arall o awyren a gynlluniwyd i symud ar wyneb y dŵr;
ystyr “y Comisiynwyr” (“the Commissioners”) yw Comisiynwyr Harbwr Saundersfoot a gyfansoddir gan y Gorchymyn hwn, ac ystyr “Comisiynydd” (“Commissioner”) yw un o'r Comisiynwyr;
ystyr “y Comisiynwyr blaenorol” (“the former Commissioners”) yw Comisiynwyr Harbwr Saundersfoot a gyfansoddwyd gan Orchymyn 1958;
ystyr “corff sy'n penodi” (“appointing body”) yw unrhyw un o'r personau (sef yr awdurdodau lleol a'r panel penodiadau) y penodir Comisiynwyr ganddynt yn unol ag erthygl 5;
ystyr “Deddf 1847” (“the 1847 Act”) yw Deddf Cymalau Harbyrau, Dociau a Phierau 1847(3);
ystyr “Deddf 1964” (“the 1964 Act”) yw Deddf Harbyrau 1964(4);
ystyr “Deddf 1965” (“the 1965 Act”) yw Deddf Prynu Gorfodol 1965(5);
ystyr “dyddiad y cyfansoddiad newydd” (“new constitution date”) yw diwrnod cyntaf y mis sy'n cychwyn yn union wedi 3 mis ar ôl gwneud y Gorchymyn hwn;
ystyr “dyfrfad personol” (“personal watercraft”) yw unrhyw ddyfrfad (nad yw'n strwythur sydd oherwydd ei siâp ceugrwm yn darparu hynofedd ar gyfer cludo personau neu nwyddau), a yrrir gan beiriant jet neu fath arall o yriant mecanyddol ac sy'n cael ei lywio naill ai—
drwy system o gysylltiadau a weithredir gan gyrn llywio (pa un a oes llyw ym mhen ôl y dyfrfad ai peidio);
drwy ddefnyddio pwysau'r person neu bersonau sy'n reidio'r bad at y diben hwnnw; neu
drwy gyfuniad o'r dulliau y cyfeirir atynt yn (a) a (b);
ystyr “y dynesfeydd” (“the approaches”) yw unrhyw ddynesfeydd at yr harbwr o gyfeiriad y môr;
ystyr “Gorchymyn 1958” (“the 1958 Order”) yw Gorchymyn Harbwr Saundersfoot 1958(6);
ystyr “gwaith llanwol” (“tidal work”) yw cymaint o unrhyw waith sydd ar, o dan neu dros ddyfroedd llanwol neu dir sydd islaw lefel y penllanw;
mae i “Gweinidogion Cymru” (“the Welsh Ministers”) yr ystyr a roddir i “the Welsh Ministers” yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006(7);
ystyr “y gweithiau” (“the works”) yw'r gweithiau a freiniwyd yn y Comisiynwyr blaenorol o dan Orchymyn 1958;
ystyr “yr harbwr” (“the harbour”) yw harbwr Saundersfoot fel y'i diffinnir gan erthygl 22 a'r tir, adeiladau, gweithiau, peiriannau, eiddo a chyfleusterau sy'n gysylltiedig ag ef, neu unrhyw ran ohono neu ohonynt;
mae “yr harbwrfeistr” (“the harbour master”) yn cynnwys dirprwyon a chynorthwywyr awdurdodedig yr harbwrfeistr ac unrhyw berson a awdurdodir gan y Comisiynwyr i weithredu yn y swydd honno;
ystyr “lefel penllanw” (“level of high water”) yw lefel gymedrig penllanw'r gorlanwau;
mae “llong” (“vessel”) yn cynnwys—
badau di-ddadleoliad;
dyfrfadau personol;
awyrennau môr; ac
unrhyw beth arall a adeiladwyd neu a addaswyd ar gyfer arnofio ar wyneb y dŵr neu i'w roi o dan yr wyneb (yn barhaol neu dros dro) a hofrenfadau neu unrhyw gerbyd amffibiaidd arall, a ddefnyddir neu y gellid ei ddefnyddio fel dull o gludo ar ddŵr;
ystyr “y maes parcio” (“the car park”) yw'r ardal a amlinellir â llinellau gwyrdd toredig ar y map o'r harbwr;
ystyr “map o'r harbwr” (“harbour map”) yw'r map a gynhwysir yn Atodlen 5, dyddiedig 3 Ebrill 1958 ac sy'n dwyn yr enw “Map o Derfynau Harbwr Saundersfoot” (“Map of the Limits of Saundersfoot Harbour”);
ystyr “y mynegai” (“the index”) yw—
y mynegai cyffredinol prisiau manwerthu (ar gyfer pob eitem) a gyhoeddir gan y Bwrdd Ystadegau, neu
os na chyhoeddwyd y mynegai hwnnw ar gyfer mis perthnasol, unrhyw fynegai neu ffigurau mynegeiol sy'n cymryd ei le ac a gyhoeddwyd gan y Bwrdd hwnnw;
ystyr “y panel penodiadau” (“the appointments panel”) yw'r panel a gyfansoddir o dan erthygl 7;
ystyr “y pwyllgor cynghori” (“the advisory committee”) yw'r pwyllgor a benodir o dan erthygl 58(1);
ystyr “refeniwiau'r harbwr” (“the harbour revenues”) yw'r ardrethi, tollau, ffioedd, rhenti ac arian a derbyniadau eraill a gymerir ac a geir fel incwm o'r ymgymeriad, neu mewn perthynas â'r ymgymeriad, o dan ac yn rhinwedd y Gorchymyn hwn;
ystyr “Trinity House” (“Trinity House”) yw “The Corporation of Trinity House of Deptford Strond”;
ystyr “yr ymgymeriad” (“the undertaking”) yw ymgymeriad y Comisiynwyr mewn cysylltiad â'r harbwr, ac y mae'n cynnwys yr ystadau, hawliau ac eiddo a roddwyd i, neu a freiniwyd yn y Comisiynwyr blaenorol yn unol â Gorchymyn 1958;
ystyr “ymgymerydd statudol” (“statutory undertaker”) yw—
unrhyw berson sy'n ymgymerydd statudol at unrhyw un o ddibenion Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(8);
unrhyw berson arall sy'n arfer swyddogaethau o dan Ddeddf Draenio Tir 1991(9); ac
awdurdod diogelu arfordir o fewn yr ystyr a roddir i “coast protection authority” gan adran 1 o Ddeddf Diogelu'r Arfordir 1949(10).
3.—(1) Mae'r deddfiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2), i'r graddau y maent yn gymwys ac nad ydynt yn anghyson â'r Gorchymyn hwn wedi eu hymgorffori yn y Gorchymyn hwn.
(2) Y deddfiadau yw—
(a)adrannau 60, 62 i 65, a 75 i 83 o Ddeddf Cymalau Comisiynwyr 1847(11); a
(b)adrannau 2, 3, 4, 23, 27, 29, 31 i 46, 52, 53, 55 i 59, 61 i 66, 69 i 71, 73 i 78 ac 83 o Ddeddf 1847.
(3) Mae'r deddfiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(b) yn cael effaith fel a ganlyn—
(a)ystyr “the harbour, dock or pier” yw'r harbwr;
(b)ystyr “the special Act” yw'r Gorchymyn hwn;
(c)ystyr “the Promoters of the undertaking” a “the undertakers” yw'r Comisiynwyr;
(ch)y gosb uchaf am unrhyw dramgwydd diannod o dan unrhyw un o'r adrannau hynny yw lefel 4 ar y raddfa safonol;
(d)mae i “vessel” yr ystyr a roddir i “llong” (“vessel”) gan erthygl 2;
(dd)yn adran 23, hepgorir y geiriau “provided that no such lease be granted for a longer term than three years”; ac
(e)nid oes dim yn adran 53 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod yr harbwrfeistr yn cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig o gyfarwyddyd i feistr llong, ond ceir rhoi cyfarwyddiadau o'r fath ar lafar neu mewn unrhyw ffordd resymol arall.
4.—(1) Yn ddarostyngedig i erthygl 9, bydd corff o wyth o Gomisiynwyr, a adwaenir fel Comisiynwyr Harbwr Saundersfoot, a benodir yn unol â Rhan 2 o'r Gorchymyn hwn a chyda phŵer i arfer y swyddogaethau a roddir i'r Comisiynwyr gan neu o dan y Gorchymyn hwn.
(2) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn, rhaid i'r Comisiynwyr redeg yr ymgymeriad fel pe bai'r Comisiynwyr, ym mhob cyswllt, yr un person â'r Comisiynwyr blaenorol.
5.—(1) Ar ac ar ôl dyddiad y cyfansoddiad newydd, cyfansoddir y Comisiynwyr fel a ganlyn—
(a)un aelod a benodir gan bob un o'r canlynol—
(i)Cyngor Sir Penfro; a
(ii)Cyngor Cymuned Saundersfoot; a
(b)chwe aelod a benodir gan banel penodiadau.
(2) Rhaid i bob Comisiynydd a benodir o dan baragraff (1) fod yn berson sy'n ymddangos i'r corff sy'n penodi yn berson y mae ganddo wybodaeth, profiad neu allu arbennig, sy'n briodol ar gyfer cyflawni swyddogaethau'r Comisiynwyr yn effeithlon, effeithiol a darbodus gan gynnwys gwybodaeth, profiad neu allu arbennig mewn un neu ragor o'r materion canlynol—
(a)rheoli harbyrau;
(b)llongau neu fathau eraill o gludiant;
(c)pysgota morol;
(ch)profiad masnachol neu ddiwydiannol priodol;
(d)rheolaeth ariannol;
(dd)gweinyddu a threfnu gweithwyr;
(e)defnyddio'r harbwr ar gyfer chwaraeon a hamdden;
(f)materion amgylcheddol sy'n effeithio ar harbyrau;
(ff)gwybodaeth benodol neu ddiddordeb ynglŷn â'r gymuned leol a'r gymuned ehangach, yn y cyd-destun economaidd a chymdeithasol y mae'r Comisiynwyr yn gweithredu ynddo;
(g)twristiaeth a hamdden; ac
(ng)unrhyw sgiliau a galluoedd eraill a ystyrir gan y Comisiynwyr o bryd i'w gilydd yn berthnasol o ran cyflawni eu swyddogaethau fel Comisiynwyr;
a rhaid i'r panel penodiadau ymdrechu i sicrhau, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, bod gan y Comisiynwyr a benodir, ar y cyd, wybodaeth, profiad a gallu arbennig mewn ystod eang a chydategol o faterion sy'n berthnasol o ran cyflawni eu swyddogaethau yn effeithlon, effeithiol a darbodus.
6.—(1) Rhaid i bob corff sy'n penodi wneud y penodiadau y darperir ar eu cyfer gan erthygl 5 o'r Gorchymyn hwn ar sail teilyngdod, yn unol â pholisi recriwtio cyhoeddedig ac ar ôl rhoi sylw i gyfle cyfartal.
(2) Wrth wneud penodiad o dan erthygl 5(1) rhaid i bob corff sy'n penodi weithredu yn unol ag unrhyw ganllawiau a ddyroddir o bryd i'w gilydd gan Weinidogion Cymru ynglŷn ag arfer swyddogaethau o'r fath.
7.—(1) Bydd panel penodiadau, a fydd yn cynnwys—
(a)cadeirydd neu is-gadeirydd y Comisiynwyr;
(b)un person a enwebir gan y pwyllgor cynghori;
(c)un person a enwebir gan Gyngor Sir Penfro; ac
(ch)un person a enwebir gan Gyngor Cymuned Saundersfoot.
(2) Rhaid i'r panel penodiadau ymgynghori â'r Comisiynwyr cyn gwneud unrhyw benodiad, a rhoi i'r clerc hysbysiad ysgrifenedig o bob penodiad a wneir gan y panel penodiadau.
(3) Rhaid i bob aelod o'r panel penodi weithredu'n annibynnol, ac nid fel cynrychiolydd y corff a enwebodd yr aelod hwnnw.
(4) Ni chaiff gweithredoedd a thrafodion y panel penodiadau eu hannilysu gan unrhyw swydd wag sengl ymhlith ei aelodau.
8.—(1) Rhaid gwneud y penodiadau cyntaf o dan erthygl 5(1) cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol wedi i'r Gorchymyn hwn ddod i rym, a beth bynnag cyn dyddiad y cyfansoddiad newydd.
(2) O blith y Comisiynwyr a benodir felly—
(a)bydd pedwar ohonynt yn dal swydd am gyfnod o dair blynedd sy'n cychwyn ar ddyddiad y cyfansoddiad newydd, a rhaid penodi un o'r pedwar i gadeirio'r Comisiynwyr;
(b)bydd pedwar yn dal swydd am gyfnod o bedair blynedd, sy'n cychwyn ar ddyddiad y cyfansoddiad newydd.
(3) Ar ddiwedd eu tymor mewn swydd, caiff y panel penodiadau estyn tymor mewn swydd un neu ragor (ond ddim mwy na phedwar) o'r Comisiynwyr a benodwyd gan y panel o dan erthygl 5(1)(b), am gyfnod o hyd at flwyddyn fan hwyaf.
9.—(1) Ar y diwrnod y daw'r Gorchymyn hwn i rym, rhaid i bob un o'r canlynol—
(a)Gweinidogion Cymru;
(b)Cyngor Sir Penfro; ac
(c)Cyngor Cymuned Saundersfoot;
benodi Comisiynydd interim dechreuol i redeg yr ymgymeriad ac arfer y swyddogaethau a roddir i'r Comisiynwyr gan y Gorchymyn hwn yn ystod y cyfnod rhwng y dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym a dyddiad y cyfansoddiad newydd.
(2) Bydd pob Comisiynydd interim dechreuol a benodir o dan erthygl 9(1) yn dal y swydd honno ac, yn achos y cadeirydd a'r is-gadeirydd, ei swydd briodol, tan ddyddiad y cyfansoddiad newydd fel pe bai wedi ei benodi o dan erthygl 5 o'r Gorchymyn hwn, oni fydd y Comisiynydd interim dechreuol hwnnw'n marw, neu'n ymddiswyddo neu'n cael ei ddatgymhwyso rhag dal swydd cyn dyddiad y cyfansoddiad newydd.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), nid yw erthygl 15 ac Atodlen 2 yn gymwys i'r Comisiynwyr interim dechreuol.
(4) Wrth arfer eu swyddogaethau, rhaid i'r Comisiynwyr interim dechreuol gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru ynghylch unrhyw ddarpariaeth o'r Gorchymyn hwn (gyda pha bynnag addasiadau (os bydd rhai) a bennir gan Weinidogion Cymru yn y cyfarwyddyd) a ystyrir yn gymwys i'r Comisiynwyr interim dechreuol.
(5) Ar ddyddiad y cyfansoddiad newydd—
(a)bydd pob contract, gweithred, bond, cytundeb ac offeryn arall sy'n bodoli er budd, neu yn erbyn, a phob hysbysiad sydd mewn grym ac a roddwyd (neu sy'n cael effaith fel pe rhoddwyd hwy) gan neu i'r Comisiynwyr interim dechreuol, mewn grym ac effaith llawn er budd, neu yn erbyn, y Comisiynwyr; a
(b)ni fydd lleihad yn effaith unrhyw achos neu weithrediad, neu sail unrhyw achos neu weithrediad, sydd yn yr arfaeth neu'n bodoli ar ddyddiad y cyfansoddiad newydd, gan neu yn erbyn y Comisiynwyr interim dechreuol, o ganlyniad i'r Gorchymyn hwn, a cheir parhau, dwyn ymlaen a gorfodi achos neu weithrediad o'r fath gan, neu yn erbyn, y Comisiynwyr.
10.—(1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol yr erthygl hon, bydd Comisiynydd a benodir o dan erthygl 5(1) yn dal ei swydd am gyfnod o dair blynedd o ddyddiad y penodiad.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i Gomisiynwyr a benodir yn unol ag erthygl 8(1) neu o dan erthygl 11.
(3) Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i erthyglau 12 a 13 a pharagraff 10 o Atodlen 2.
11.—(1) Pan fo swydd Comisiynydd yn mynd yn wag dros dro, rhaid i'r panel penodiadau benodi person arall i lenwi'r swydd wag, ac eithrio pan nad yw gwneud hynny yn rhesymol ymarferol, ac wrth wneud hynny rhaid iddo gydymffurfio ag erthyglau 5(2) a 6, fel pe bai'r cyfeiriadau yn yr erthyglau hynny at erthygl 5(1) ac erthygl 5 yn gyfeiriadau at yr erthygl hon.
(2) Yn ddarostyngedig i erthyglau 12 a 13 a pharagraff 10 o Atodlen 2, bydd Comisiynydd a benodir i lenwi swydd wag dros dro o dan yr erthygl hon yn dal ei swydd yn ystod gweddill tymor y Comisiynydd yr aeth ei swydd yn wag (gan gynnwys unrhyw estyniad o'r tymor hwnnw).
12.—(1) Ni chaiff unrhyw berson weithredu fel Comisiynydd o dan erthygl 4 cyn bo'r person hwnnw wedi gwneud y datganiad a bennir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn (neu ddatganiad sydd â'r un effaith).
(2) Bydd person sy'n methu â gwneud y datganiad hwnnw o fewn tri mis ar ôl ei benodi yn peidio â bod yn Gomisiynydd.
13.—(1) Os bodlonir y Comisiynwyr o unrhyw un o'r canlynol—
(a)bod Comisiynydd wedi bod yn absennol o gyfarfodydd o'r Comisiynwyr am gyfnod o dri mis yn olynol heb ganiatâd y Comisiynwyr; neu
(b)bod Comisiynydd wedi mynd yn fethdalwr neu wedi gwneud trefniant â chredydwyr; neu
(c)bod Comisiynydd yn analluog i gyflawni swyddogaethau Comisiynydd oherwydd salwch corfforol neu feddyliol; neu
(ch)nad yw Comisiynydd rywfodd arall yn gallu, yn fodlon neu'n addas i gyflawni swyddogaethau Comisiynydd;
caiff y Comisiynwyr ddatgan bod swydd y person hwnnw fel Comisiynydd yn wag, ac ar hynny bydd y swydd honno'n wag.
(2) At ddibenion paragraff (1)(a), ceir trin presenoldeb Comisiynydd mewn cyfarfod o unrhyw bwyllgor o'r Comisiynwyr y mae'r Comisiynydd hwnnw'n aelod ohono fel pe bai'n bresenoldeb mewn cyfarfod o'r Comisiynwyr.
14. Caiff y Comisiynwyr ymuno mewn, a thalu premiymau ar gyfer, contract yswiriant i indemnio'r Comisiynwyr ar y cyd neu'n unigol rhag atebolrwydd personol sy'n codi o unrhyw weithred neu anwaith gan y Comisiynwyr neu gan unrhyw un ohonynt; sef gweithred neu anwaith nad oedd y Comisiynydd neu'r Comisiynwyr dan sylw yn gwybod bod y weithred honno neu'r anwaith hwnnw yn doriad o'i ddyletswydd, neu o'u dyletswydd, neu'n ddi-hid ynglŷn ag a oedd y weithred neu'r anwaith yn dor-dyletswydd ai peidio.
15. Yn ddarostyngedig i erthygl 9 mewn cysylltiad â'r Comisiynwyr interim dechreuol, mae'r darpariaethau a bennir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn yn cael effaith mewn perthynas â'r Comisiynwyr.
16. Caiff y Comisiynwyr gaffael drwy orfodaeth gymaint o'r tir neu fuddiannau mewn tir ag y sy'n gynwysedig yn y gweithiau a'r maes parcio, fel y'i disgrifir yn Atodlen 3 ac y'i dangosir yn y map yn Atodlen 4 i'r Gorchymyn hwn, ac a freiniwyd yn y Comisiynwr blaenorol o dan Orchymyn 1958, a chânt ddefnyddio unrhyw dir a gaffaelir felly at y diben o redeg yr ymgymeriad neu at unrhyw ddibenion eraill sy'n gysylltiedig â hynny.
17.—(1) Mae Rhan 1 o Ddeddf 1965, i'r graddau nad yw wedi ei haddasu gan, neu'n anghyson â, darpariaethau'r Gorchymyn hwn, yn gymwys o ran caffael tir o dan y Gorchymyn hwn—
(a)fel y mae'n gymwys i brynu gorfodol y mae Deddf Caffael Tir 1981(12) yn gymwys iddo, a
(b)fel pe bai'r Gorchymyn hwn yn orchymyn prynu gorfodol o dan y Ddeddf honno.
(2) Mae Rhan 1 o Ddeddf 1965, fel y'i cymhwysir felly, yn cael effaith fel pe bai adran 4 (sy'n darparu terfyn amser ar gyfer prynu tir yn orfodol) a pharagraff 3(3) o Atodlen 3 (sy'n gwneud darpariaeth ynglŷn â rhoi bondiau) wedi eu hepgor.
18.—(1) Mae Deddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981(13) yn gymwys fel pe bai'r Gorchymyn hwn yn orchymyn prynu gorfodol.
(2) Mae Deddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981, fel y'i cymhwysir gan baragraff (1) yn cael effaith gyda'r addasiadau canlynol.
(3) Yn adran 3 (hysbysiadau rhagarweiniol), yn lle is-adran (1) rhodder—
“(1) Before making a declaration under section 4 with respect to any land which is subject to a compulsory purchase order the acquiring authority must include the particulars specified in subsection (3) in a notice which is—
(a)given to every person with a relevant interest in the land with respect to which the declaration is to be made (other than a mortgagee who is not in possession); and
(b)published in a local newspaper circulating in the area in which the land is situated.”.
(4) Yn yr adran honno, yn is-adran (2), yn lle “(1)(b)” rhodder “(1)” ac ar ôl “given” mewnosoder “and published”.
(5) Yn yr adran honno, yn lle is-adrannau (5) a (6) rhodder—
“(5) For the purposes of this section, a person has a relevant interest in land if—
(a)he is for the time being entitled to dispose of the fee simple of the land, whether in possession or reversion; or
(b)he holds, or is entitled to the rents and profits of, the land under a lease or agreement, the unexpired term of which exceeds one month.”.
(6) Yn adran 5 (dyddiad cynharaf ar gyfer gweithredu datganiad)—
(a)yn is-adran (1), ar ôl “publication” mewnosoder “in a local newspaper circulating in the area in which the land is situated”; a
(b)hepgorer is-adran (2).
(7) Yn adran 7 (hysbysiad deongliadol i drafod telerau) yn is-adran (1)(a), hepgorer y geiriau “(as modified by section 4 of the Acquisition of Land Act 1981)”.
(8) Rhaid dehongli cyfeiriadau at Ddeddf 1965 fel cyfeiriadau at y Ddeddf honno fel y'i cymhwysir i gaffael tir o dan erthygl 17 (cymhwyso Rhan 1 o Ddeddf Prynu Gorfodol 1965).
19.—(1) Wrth asesu'r iawndal (os oes iawndal) sy'n daladwy i unrhyw berson yn dilyn caffael unrhyw dir oddi ar y person hwnnw o dan y Gorchymyn hwn, rhaid i'r tribiwnlys beidio â chymryd i ystyriaeth—
(a)unrhyw fuddiant mewn tir, neu
(b)unrhyw ychwanegiad at werth unrhyw fuddiant mewn tir o ganlyniad i unrhyw adeilad a godwyd, gweithiau a gyflawnwyd, neu welliant neu newid a wnaed ar dir perthnasol,
os bodlonir y tribiwnlys nad oedd yn rhesymol angenrheidiol creu'r buddiant, codi'r adeilad, cyflawni'r gweithiau neu wneud y gwelliant neu newid, ac yr ymgymerwyd ag ef gyda golwg ar gael iawndal neu gynyddu iawndal.
(2) Ym mharagraff (1) ystyr “tir perthnasol” (“relevant land”) yw'r tir a gaffaelwyd oddi ar y person dan sylw neu unrhyw dir arall y mae'r person hwnnw'n ymwneud ag ef, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, neu yr oedd yn ymwneud ag ef felly ar yr adeg y codwyd yr adeilad, y cyflawnwyd y gweithiau neu y gwnaed y gwelliant neu'r newid.
20.—(1) Diddymir pob hawl tramwy preifat dros dir sy'n destun caffael gorfodol o dan y Gorchymyn hwn, ac unrhyw hawliau eraill trydydd partïon yn y tir hwnnw, o'r cynharaf o'r canlynol—
(a)adeg caffael y tir gan y Comisiynwyr, pa un ai'n orfodol neu drwy gytundeb, neu
(b)adeg mynediad y Comisiynwyr ar y tir o dan adran 11(1) o Ddeddf 1965.
(2) Mae gan unrhyw berson sy'n dioddef colled drwy ddiddymu unrhyw hawl tramwy preifat neu fuddiant cyfreithiol arall yn y tir o dan yr erthygl hon hawl i gael iawndal, sydd i'w benderfynu, os bydd anghydfod, o dan Ran I o Ddeddf Iawndal Tir 1961.
(3) Nid yw'r erthygl hon yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw hawl tramwy y mae adran 271 neu 272 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(14) (diddymu hawliau ymgymerwyr statudol etc.) yn gymwys iddi.
21. Ar ôl diwedd y cyfnod o 5 mlynedd sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y daw'r Gorchymyn hwn i rym—
(a)ni cheir cyflwyno hysbysiad i drafod telerau o dan Ran 1 o Ddeddf 1965, fel y'i cymhwysir gan erthygl 17; a
(b)ni cheir gweithredu datganiad o dan adran 4 o Ddeddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981, fel y'i cymhwysir gan erthygl 18.
22.—(1) Mae gan y Comisiynwyr y swyddogaethau a roddir iddynt gan y Gorchymyn hwn a phwerau awdurdod harbwr ac awdurdod goleudai lleol, a chânt arfer y swyddogaethau a'r pwerau hynny, o fewn yr ardal a gyfansoddir gan y canlynol—
(a)y gweithiau;
(b)y maes parcio; ac
(c)yr ardal islaw lefel y penllanw sydd â'i ffin yn llinell ddychmygol a dynnir o ben dwyreiniol eithaf Coppet Hall Point yng nghymuned Saundersfoot i gyfeiriad y de hyd at ben dwyreiniol eithaf Monkstone Point yng nghymuned St Mary out Liberty.
(2) Mae Atodlen 5 yn cynnwys map o'r harbwr, sy'n dangos yr ardal y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi ei hamlinellu mewn gwyrdd.
(3) Caiff y Comisiynwyr ofyn am ffioedd a thaliadau eraill o dan erthygl 33 a Deddf 1964 o fewn yr ardal a gyfansoddir gan—
(a)y gweithiau;
(b)y maes parcio; ac
(c)cymaint o'r blaendraeth a gwely'r môr a amgaeir gan y gweithiau a llinell a dynnir o ben eithaf tua'r môr y morglawdd sy'n ymestyn, yn fras, i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain, hyd at yr ochr sy'n wynebu'r môr o'r morglawdd sy'n ymestyn, yn fras, i gyfeiriad y dwyrain-de-ddwyrain, ac a ddangosir â llinell goch doredig ar y map o'r harbwr.
23.—(1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau eraill y Gorchymyn hwn, caiff y Comisiynwyr, o bryd i'w gilydd, gymryd pa bynnag gamau a ystyriant yn angenrheidiol neu'n ddymunol er mwyn cynnal, gweithredu, rheoli a gwella'r harbwr a'r llety a chyfleusterau (gan gynnwys cyfleusterau mordwyo) sydd ar gael yn yr harbwr neu mewn cysylltiad â'r harbwr.
(2) Yn benodol, caiff y Comisiynwyr—
(a)gwella, cynnal, rheoleiddio, rheoli, marcio a goleuo'r harbwr ac unrhyw weithiau sydd ynddo;
(b)gwella, newid a chynnal unrhyw fyndiau, argloddiau, waliau, ffyrdd (ac eithrio priffyrdd cyhoeddus), troetffyrdd, dynesfeydd, grisiau, mannau glanio, pierau, ceiau, jetïau, llithrfeydd, glanfeydd, grwynau, amddiffynfeydd morol, mannau docio, pyst angori, bwiau angori, angorfeydd, llwyfaniadau, polion, trawstiau, dolffinod, bolardiau, dolenni angori, ffenderydd, rhodfeydd, bwiau, marciau mordwyo, craeniau, goleuadau, goleufeydd, carthffosydd, draeniau, cyrsiau dŵr, pibellau nwy a dŵr, cyfarpar ar gyfer golau a phŵer trydanol a thelathrebu, warysau, swyddfeydd, siediau a gweithiau, adeiladau a chyfleusterau eraill yr ystyriant yn angenrheidiol er mwyn sicrhau dibenion y Gorchymyn hwn, gan gynnwys lletya neu hwylustod i longau, cerbydau neu draffig arall, neu er mwyn diogelu'r harbwr;
(c)gwneud unrhyw beth arall (gan gynnwys darparu cyfleusterau neu redeg unrhyw fusnes) sydd o fudd, ym marn y Comisiynwyr, er mwyn rhedeg neu ddatblygu'r harbwr yn briodol, neu y byddai'n fanteisiol iddynt ymgymryd ag ef yn rhinwedd eu gweithgareddau mewn perthynas â'r harbwr; ac
(ch)gwneud pa bynnag defnydd arall y mae'r Comisiynwyr yn ystyried yn briodol o unrhyw adnoddau i'r graddau nad oes eu hangen at ddibenion yr ymgymeriad.
(3) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn, caiff y Comisiynwyr, drwy gytundeb, brynu a dal at ddibenion y Gorchymyn hwn unrhyw dir yn ychwanegol at y tir a freinir yn y Comisiynwyr o dan y Gorchymyn hwn.
24.—(1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn, caiff y Comisiynwyr, o bryd i'w gilydd, ddyfnhau, carthu, sgwrio, glanhau, newid a gwella gwely, glannau a sianelau'r harbwr a'i ddynesfeydd, a chânt ffrwydro unrhyw graig o fewn yr ardal honno.
(2) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn, bydd unrhyw ddeunydd (ac eithrio unrhyw longddrylliad o fewn yr ystyr a roddir i “wreck” yn Rhan 9 o Ddeddf Llongau Masnach 1995(15)) a godir wrth garthu neu a symudir ymaith o bryd i'w gilydd yn eiddo i'r Comisiynwyr, a chânt ei ddefnyddio, ei feddiannu neu'i waredu fel y tybiant yn briodol.
(3) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn, ni cheir dyddodi unrhyw ddeunyddiau a garthwyd islaw lefel y penllanw, ac eithrio yn y cyfryw fannau, ac yn unol â'r cyfryw amodau a chyfyngiadau, a gymeradwyir neu a ragnodir gan Weinidogion Cymru.
25.—(1) Caiff y Comisiynwyr ddarparu, lleoli, gosod, cynnal, adnewyddu, defnyddio, cael neu symud ymaith pa bynnag angorfeydd o fewn yr harbwr—
(a)ar dir sy'n eiddo iddynt neu a brydlesir ganddynt neu y mae ganddynt fuddiant priodol ynddo; neu
(b)gyda chaniatâd ysgrifenedig y perchennog a'r prydlesai, ar unrhyw dir arall yn yr harbwr;
fel y tybiant yn angenrheidiol neu'n ddymunol er hwylustod llongau.
(2) Caiff y Comisiynwyr ddyroddi hawlenni ar ba bynnag amodau (gan gynnwys amodau ynglŷn â thalu) y tybiant yn briodol, i awdurdodi deiliad yr hawlen i ddefnyddio neu ganiatáu defnyddio unrhyw angorfeydd a ddarperir gan y Comisiynwyr o dan yr erthygl hon.
(3) Caiff y Comisiynwyr wneud compownd gydag unrhyw berson mewn perthynas â'r taliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2).
(4) (a) Caiff y Comisiynwyr roi hysbysiad ysgrifenedig i'r person sydd â rheolaeth ar unrhyw long sydd, ar y dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym, yn defnyddio unrhyw angorfa yn yr harbwr, i wneud yn ofynnol bod y person hwnnw, o fewn 28 diwrnod, yn symud ymaith yr angorfa er mwyn galluogi'r Comisiynwyr i ddarparu angorfeydd yn unol â pharagraff (1).
(b)Rhaid i'r Comisiynwyr gynnig rhoi angorfa ar gael, a ddarperir ganddynt o dan baragraff (1), i'r person sydd â rheolaeth ar y llong y cyfeirir ati yn yr hysbysiad, cyn gynted ag y bydd angorfa o'r fath wedi ei gosod.
(c)Os bydd unrhyw berson yn peidio â chydymffurfio â hysbysiad a roddir gan y Comisiynwyr o dan y paragraff hwn, caiff y Comisiynwyr, ar unrhyw adeg ar ôl diwedd y cyfnod o 28 diwrnod o'r dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad, symud ymaith yr angorfa y cyfeirir ati yn yr hysbysiad hwnnw.
(5) (a) Caiff y Comisiynwyr, o bryd i'w gilydd, ganiatáu trwydded i berson, gydag amodau neu hebddynt, i leoli, gosod, cynnal, adnewyddu, defnyddio a chael angorfeydd presennol ac yn y dyfodol, ar gyfer llongau yn yr harbwr.
(b)Nid oes dim mewn unrhyw drwydded o'r fath sy'n rhoi hawl i berson leoli, gosod, cynnal, adnewyddu, neu ddefnyddio a chael unrhyw angorfa ar dir nad yw'n eiddo i'r person hwnnw neu i'r Comisiynwyr, neu wedi ei brydlesu ganddo neu ganddynt, neu nad oes gan y person hwnnw fuddiant priodol ynddo.
(c)Am drwydded o'r fath, caiff y Comisiynwyr godi pa bynnag ffi resymol a ragnodir o bryd i'w gilydd gan y Comisiynwyr.
26.—(1) Mae unrhyw berson sydd—
(a)yn fwriadol yn rhwystro unrhyw berson sy'n gweithredu o dan awdurdod y Comisiynwyr i osod angorfeydd;
(b)yn fwriadol a heb awdurdod cyfreithlon yn tynnu allan neu'n symud ymaith y cyfan neu unrhyw ran o unrhyw angorfeydd o'r harbwr;
(c)heb esgus rhesymol yn achosi neu'n caniatáu i long gael ei hangori yn yr harbwr ac eithrio mewn angorfa a ddarperir neu a drwyddedir gan y Comisiynwyr o dan y Gorchymyn hwn; neu
(ch)yn lleoli, gosod, cynnal, adnewyddu neu'n cael yn yr harbwr unrhyw angorfa nas darparwyd neu nas trwyddedwyd gan y Comisiynwyr o dan y Gorchymyn hwn;
yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy na fydd yn fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.
(2) Os yw unrhyw berson yn cyflawni tramgwydd o dan baragraff (1)(c), caiff y Comisiynwyr, ar unrhyw adeg ar ôl diwedd cyfnod o saith diwrnod o ddyddiad y tramgwydd—
(a)symud ymaith y llong, gan gynnwys unrhyw offer sydd ynghyd â'r llong;
(b)gwaredu'r cyfryw; ac
(c)adennill allan o'r arian gwerthiant—
(i)unrhyw ffi sy'n daladwy o dan erthygl 33 ac nas talwyd;
(ii)unrhyw ffi am drwydded sy'n daladwy o dan erthygl 25 ac nas talwyd; a
(iii)treuliau'r symud a'r gwaredu o dan y paragraff hwn;
a byddant yn dal unrhyw warged o'r arian gwerthiant mewn ymddiriedolaeth dros berchennog y llong.
(3) Os nad yw'n hysbys pwy yw perchennog llong a symudir o dan baragraff (2) , ac na ellir dod o hyd i'r perchennog ar ôl ymchwilio'n ddiwyd, caiff y Comisiynwyr wneud cais i'r Llys Ynadon am orchymyn yn rhoi cyfarwyddiadau priodol ynglŷn â gwaredu, gan y Comisiynwyr, unrhyw warged o arian gwerthiant.
(4) Os yw unrhyw berson yn cyflawni tramgwydd o dan baragraff (1)(ch), caiff y Comisiynwyr symud ymaith yr angorfa dan sylw, ac adennill y treuliau o wneud hynny gan y person hwnnw.
27.—(1) Heb leihau dim ar eu pwerau o dan unrhyw ddeddfiad arall (gan gynnwys un a gynhwysir yn y Gorchymyn hwn) caiff y Comisiynwyr symud ymaith unrhyw beth sy'n peri, neu'n debygol o beri, rhwystr neu lyffethair i'r defnydd priodol o unrhyw ran o'r harbwr, ac eithrio—
(a)llong;
(b)cerbyd; neu
(c)longddrylliad o fewn yr ystyr a roddir i “wreck” yn Rhan 9 o Ddeddf Llongau Masnach 1995(16).
(2) Os yw'n hysbys i'r Comisiynwyr bod unrhyw beth a symudir ymaith ganddynt o dan baragraff (1) yn eiddo i unrhyw berson, neu os yw wedi ei farcio fel y gellir ei adnabod yn hawdd fel eiddo i unrhyw berson, rhaid i'r Comisiynwyr, o fewn un mis ar ôl cymryd y peth i'w gofal, roi hysbysiad i'r person hwnnw yn unol â pharagraff (6), ac os nad adfeddiennir y peth o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad ac yn unol â thelerau'r hysbysiad, breinir y peth yn y Comisiynwyr ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.
(3) Os yw perchnogaeth unrhyw beth a symudir ymaith gan y Comisiynwyr o dan baragraff (1) yn anhysbys neu heb ei marcio arno, ac os na phrofir ei berchnogaeth wrth fodd rhesymol y Comisiynwyr o fewn tri mis ar ôl cymryd y peth i'w gofal, breinir y peth hwnnw yn y Comisiynwyr.
(4) Caiff y Comisiynwyr, ar y cyfryw adeg ac yn y cyfryw fodd yr ystyriant yn briodol, waredu unrhyw beth sydd o natur ddarfodus neu ffiaidd, neu unrhyw beth y byddai ei gadw'n achosi cost neu anghyfleustra afresymol, hyd yn oed os nad yw wedi ei freinio yn y Comisiynwyr o dan yr erthygl hon, ac os gwerthir y peth, defnyddir yr arian gwerthiant gan y Comisiynwyr i dalu'r treuliau a achoswyd iddynt o dan yr erthygl hon mewn perthynas â'r peth, a rhaid i unrhyw weddill—
(a)cael ei dalu i unrhyw berson sy'n profi ei berchnogaeth ohono ar yr adeg honno wrth fodd rhesymol y Comisiynwyr, o fewn tri mis i'r amser y daeth y peth i ofal y Comisiynwyr; neu
(b)os na fydd unrhyw berson yn profi ei berchnogaeth ohono o fewn y cyfnod perthnasol, gael ei freinio yn y Comisiynwyr.
(5) Os bydd unrhyw beth a symudir ymaith o dan yr erthygl hon—
(a) yn cael ei werthu gan y Comisiynwyr a'r arian gwerthiant yn annigonol i ad-dalu iddynt swm y treuliau a achoswyd iddynt drwy arfer eu pwerau i'w symud; neu
(b)yn anwerthadwy;
caiff y Comisiynwyr adennill y diffyg neu'r cyfan o'r treuliau, yn ôl fel y digwydd, gan y person a oedd yn berchennog y peth a symudwyd pan ddaeth y peth i ofal y Comisiynwyr, neu gan y person a oedd ei berchennog ar yr adeg y'i gadawyd neu y'i collwyd.
(6) Rhaid i hysbysiad a roddir o dan baragraff (2) roi manylion o'r peth a symudwyd a datgan y ceir, ar ôl profi perchnogaeth er boddhad rhesymol i'r Comisiynwyr, gymryd meddiant o'r peth yn y man ac ar yr amser a bennir yn yr hysbysiad, sef dim llai na 14 diwrnod ar ôl y dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad.
(7) Rhaid i'r Comisiynwyr beidio â symud unrhyw beth, o dan y pwerau yn yr erthygl hon, sydd wedi ei osod neu'i adeiladu gan unrhyw berson o dan ddarpariaethau unrhyw ddeddfiad neu ddarpariaethau caniatâd neu drwydded, a roddwyd neu a ddyroddwyd gan y Comisiynwyr.
28.—(1) Caiff y Comisiynwyr neilltuo a meddiannu unrhyw ran o gyfleusterau'r harbwr sydd ar y tir at ddefnydd ac i letya'n unig neu'n flaenoriaethol unrhyw fasnach, gweithgarwch, person, llong neu ddosbarth o longau, neu nwyddau penodol, yn ddarostyngedig i ba bynnag delerau, amodau a rheoliadau a ystyrir yn briodol gan y Comisiynwyr.
(2) Ni chaiff unrhyw berson neu long ddefnyddio unrhyw ran o'r harbwr a neilltuwyd neu a feddiannwyd o dan yr erthygl hon heb ganiatâd yr harbwrfeistr.
(3) Caiff yr harbwrfeistr orchymyn i unrhyw berson neu long, na chafodd ganiatâd o dan baragraff (2), ymadael neu gael ei symud o unrhyw ran o'r harbwr a neilltuwyd neu a feddiannwyd o dan yr erthygl hon.
(4) Mae darpariaethau adran 58 (pwerau harbwrfeistr o ran symud llongau mewn harbwr) o Ddeddf 1847 yn ymestyn ac yn gymwys, gyda'r addasiadau angenrheidiol, i unrhyw longau, neu mewn perthynas ag unrhyw longau y gorchmynnir iddynt ymadael neu gael eu symud o dan baragraff (3).
(5) Nid oes dim yn yr erthygl hon sy'n awdurdodi gwahardd mordwyo o fewn unrhyw ran o'r harbwr, nac yn awdurdodi ymyrryd â hawliau tramwy'r cyhoedd ar draws llithrfeydd cyhoeddus a cheiau cyhoeddus.
29.—(1) At y diben o achub bywydau, caiff y Comisiynwyr ddarparu a chynnal y canlynol yn yr harbwr neu yng nghyffiniau'r harbwr—
(a)badau neu longau eraill ynghyd â'r holl gyfarpar ac offer ac adeiladau, adeileddau, llithrfeydd ac angorfeydd angenrheidiol i'w gweithredu, eu cynnal neu'u lletya; a
(b)bwiau achub, rhaffau achub, ac offer eraill ar gyfer achub bywydau ynghyd ag adeileddau i'w storio a'u diogelu.
(2) Caiff y Comisiynwyr ymuno mewn trefniadau gydag unrhyw berson i ddarparu a chynnal unrhyw rai o'r cyfleusterau a awdurdodir gan baragraff (1).
30.—(1) Yn ychwanegol at yr is-ddeddfau y caniateir i'r Comisiynwyr eu gwneud o dan adran 83 o Ddeddf 1847, caiff y Comisiynwyr wneud is-ddeddfau ar gyfer rheolaeth a llywodraeth dda'r harbwr, gan gynnwys y cyfan neu unrhyw rai o'r dibenion canlynol—
(a)ar gyfer rheoleiddio'r modd y defnyddir pontynau, llwyfaniadau, ceiau, jetïau, pierau, rhodfeydd, pontydd, dynesfeydd, llithrfeydd, mannau glanio, mannau docio, lifftiau cychod, pyst angori, adeiladau, lleoedd parcio a gweithiau a chyfleusterau eraill a ddarperir gan y Comisiynwyr;
(b)i atal difrod neu niwed i unrhyw long, nwyddau, cerbyd, peiriannau, peirianwaith, eiddo neu bersonau yn yr harbwr;
(c)ar gyfer rheoleiddio, atal neu drwyddedu ymddygiad yr holl bersonau, mewn llongau neu fel arall, yn yr harbwr, nad ydynt yn aelodau o heddlu neu'n swyddogion neu'n weision y Goron sy'n ymgymryd â'u dyletswyddau fel y cyfryw;
(ch)ar gyfer rheoleiddio'r modd y lleolir, gosodir, cynhelir a defnyddir yr angorfeydd, ac ar gyfer rhagnodi patrymau a manylebau'r angorfeydd;
(d)ar gyfer atal neu symud ymaith rwystrau neu lyffetheiriau o fewn yr harbwr;
(dd)ar gyfer rheoleiddio lansio llongau o fewn yr harbwr;
(e)ar gyfer rheoleiddio neu wahardd angori llongau, troi llongau ar eu hochrau i'w glanhau, tirio llongau, neu ollwng angorau a chadw llongau yn yr harbwr;
(f)ar gyfer rheoleiddio neu atal defnyddio tanau, goleuadau, neu unrhyw gyfarpar, celfi neu offer arall sydd, ym marn y Comisiynwyr, yn achosi risg o dân, yn yr harbwr neu ar fwrdd unrhyw long, ac er mwyn atal ysmygu;
(ff)ar gyfer rheoleiddio'r modd y symudir neu y gwaredir sbwriel (gan gynnwys balast, pridd neu glai neu wastraff arall) a charthion o longau yn yr harbwr;
(g)i atal gwaredu sbwriel a charthion o'r fath yn yr harbwr;
(ng)ar gyfer gwahardd y defnydd o gerbydau yn yr harbwr neu reoleiddio'u symudiadau eu cyflymder a'u parcio o fewn yr harbwr;
(h)i wneud yn ofynnol defnyddio distewyddion effeithiol, a rheoli sŵn yn gyffredinol ar longau yn yr harbwr;
(i)ar gyfer rheoleiddio llongau yn yr harbwr, eu mynediad i mewn a'u hymadawiad oddi yno, a heb leihau cyffredinolrwydd y blaenorol, rhagnodi rheolau ar gyfer rheoleiddio cyflymder a dull y mordwyo, a'r goleuadau a signalau sydd i'w dangos neu'u gwneud gan, neu er budd llongau sy'n defnyddio'r harbwr neu'n mordwyo neu'n angori ynddo;
(j)ar gyfer rheoleiddio'r modd y mae personau'n mynd ar fwrdd, ac oddi ar fwrdd llongau o fewn yr harbwr;
(l)ar gyfer rheoleiddio'r modd y cynhelir regatas a digwyddiadau cyhoeddus eraill yn yr harbwr;
(ll)ar gyfer rhagnodi'r goleuadau a'r signalau sydd i'w dangos neu'u gwneud—
(i)gan longau sydd ar lawr o fewn yr harbwr;
(ii)gan ddyfeisiadau a ddefnyddir i farcio rhwystrau o fewn yr harbwr;
(iii)i gynorthwyo mordwyaeth llongau o fewn yr harbwr, yn y fynedfa i unrhyw ddoc, neu wrth unrhyw lanfa, pier neu waith arall;
(m)ar gyfer atal niwsansau yn yr harbwr;
(n)ar gyfer atal neu reoleiddio gollwng unrhyw ddeunydd neu beth, oddi ar y tir neu ar y môr, o fewn yr harbwr neu'r dynesfeydd tuag ato;
(o)ar gyfer rheoleiddio neu wahardd pysgota am greaduriaid morol o unrhyw fath ac â pha bynnag ddull o unrhyw bier, jeti neu osodiad neu adeiledd arall o unrhyw fath o fewn yr harbwr;
(p)ar gyfer rheoleiddio neu wahardd sglefrio ar ddŵr, sgïo jet, sgïo dŵr, neu ddeifio neu weithgareddau hamdden eraill yn yr harbwr, ond nid mewn ffordd a fyddai'n gwahardd defnyddio iotiau, cychod hwylio, byrddau hwylio, cychod rhwyfo, pyntiau rhwyfo, badau pleser neu fân fadau eraill i fordwyo.
(ph)ar gyfer rheoleiddio neu wahardd ymdrochi, ac i sicrhau diogelwch ymdrochwyr o fewn yr harbwr;
(r)ar gyfer rheoleiddio neu wahardd defnyddio'r blaendraeth gan gerbydau o fewn yr harbwr;
(rh)ar gyfer rheoleiddio'r defnydd o fferïau o fewn yr harbwr; a
(s)ar gyfer rheoleiddio arfer y pwerau a freiniwyd yn yr harbwrfeistr.
(2) Yn yr erthygl hon mae “signalau” (“signals”) yn cynnwys signalau sain.
(3) Ceir mynegi bod is-ddeddfau a wneir o dan yr erthygl hon, neu o dan adran 83 o Ddeddf 1847, yn gymwys o fewn y cyfan neu o fewn unrhyw ran o'r harbwr, a cheir gwneud is-ddeddfau gwahanol mewn perthynas â gwahanol ddosbarthiadau o longau.
(4) Mae'r darpariaethau a gynhwysir yn is-adrannau (3) i (8) o adran 236 ac adran 238 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(17) yn gymwys i'r holl is-ddeddfau a wneir gan y Comisiynwyr o dan yr erthygl hon neu unrhyw ddeddfiad arall.
(5) Rhaid dehongli is-adran (7) o'r adran 236 a enwyd, yn y modd y'i cymhwysir i is-ddeddfau a wneir gan y Comisiynwyr o dan yr erthygl hon, yn ddarostyngedig i baragraff (6), fel pe bai wedi ei diwygio drwy fewnosod y geiriau “with or without modifications” ar ôl y gair “confirm” yn y man lle mae'r gair hwnnw'n digwydd gyntaf.
(6) Pan fo'r awdurdod sy'n cadarnhau yn bwriadu gwneud addasiad sy'n ymddangos i'r awdurdod hwnnw yn un sylweddol—
(a)rhaid iddo hysbysu'r Comisiynwyr a gwneud yn ofynnol bod y Comisiynwyr yn cymryd pa bynnag gamau yr ystyria'r awdurdod yn angenrheidiol i hysbysu'r personau sy'n debygol o ymwneud â'r addasiad hwnnw; a
(b)rhaid iddo beidio â chadarnhau'r is-ddeddfau hyd nes bo cyfnod a ystyria'n rhesymol wedi mynd heibio, er mwyn i'r Comisiynwyr a phersonau eraill a hysbyswyd ynghylch yr addasiad arfaethedig ystyried a gwneud sylwadau ar y cynnig.
(7) Yr awdurdod sy'n cadarnhau, at ddibenion yr erthygl hon a'r adran 236 a enwyd, yn y modd y'i cymhwysir i is-ddeddfau a wneir gan y Comisiynwyr, yw Gweinidogion Cymru.
(8) Caiff is-ddeddfau a wneir gan y Comisiynwyr o dan yr erthygl hon gynnwys darpariaethau i osod dirwy ar berson sy'n tramgwyddo yn erbyn unrhyw is-ddeddf ac a gollfernir yn ddiannod, sef dim mwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.
(9) Ystyrir bod yr is-ddeddfau a wnaed gan y Comisiynwyr blaenorol ar 13 Ebrill 1971, fel y'u cadarnhawyd gan y Gweinidog dros Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar 28 Ebrill 1971, ac yr honnir iddynt gael eu haddasu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 3 Tachwedd 2003, yn is-ddeddfau a wnaed gan y Comisiynwyr o dan yr erthygl hon ac a gadarnhawyd wedyn gan Weinidogion Cymru.
(10) Er mwyn osgoi amheuaeth, caiff is-ddeddfau a wneir gan y Comisiynwyr o dan baragraff (1) ddiwygio neu ddirymu, naill ai'n gyfan gwbl neu'n rhannol, yr is-ddeddfau yr ystyrir eu bod wedi eu gwneud a'u cadarnhau yn rhinwedd paragraff (9).
31.—(1) Os gadewir cerbyd heb ganiatâd y Comisiynwyr—
(a)mewn unrhyw fan lle mae'n debygol o rwystro neu ymyrryd â defnyddio'r harbwr;
(b)mewn unrhyw ran o'r maes parcio neu fangre'r harbwr lle y gwaherddir parcio cerbydau gan arwydd a arddangoswyd gan y Comisiynwyr; neu
(c)mewn lle parcio a ddarparwyd gan y Comisiynwyr o fewn y maes parcio neu fangre'r harbwr am gyfnod hwy na 24 awr, neu pa bynnag gyfnod arall a bennir mewn arwydd a arddangoswyd gan y Comisiynwyr;
caiff y Comisiynwyr, ar risg y perchennog, symud y cerbyd neu beri iddo gael ei symud oddi yno.
(2) Rhaid i unrhyw arwydd a godir o dan baragraff (1)(b) neu (c) gael ei arddangos mewn lle amlwg, yn y man, neu'n agos at y man, y mae'n cyfeirio ato.
(3) Pan fo'r Comisiynwyr yn arfer y pwerau yn yr erthygl hon, i symud cerbyd neu beri bod cerbyd yn cael ei symud, rhaid i'r Comisiynwyr hysbysu'r heddlu cyn gynted ag y bo'n ymarferol.
(4) Mae treuliau symud a chadw cerbyd o dan yr erthygl hon, a threuliau cysylltiedig, yn adenilladwy gan unrhyw berson sy'n gyfrifol.
(5) At ddibenion paragraff (4), ystyr “person sy'n gyfrifol” (“person responsible”) yw—
(a)perchennog y cerbyd ar yr adeg y'i gosodwyd yn y man y'i symudwyd ohono o dan baragraff (1), oni phrofir gan y perchennog nad oedd a wnelo ef â gosod y cerbyd yn y man hwnnw ac na wyddai fod y cerbyd yno;
(b)unrhyw berson a osododd y cerbyd yn y man hwnnw; neu
(c)unrhyw berson a gollfarnwyd am dramgwydd o dan adran 2 o Ddeddf Gwaredu Sbwriel (Amwynder) 1978(18) o ganlyniad i osod y cerbyd yn y man hwnnw.
(6) Os yw'r Comisiynwyr wrth arfer y pwerau yn yr erthygl hon yn symud cerbyd i fan lle nad yw'n hawdd i'w weld o'r man y'i symudwyd ohono, rhaid iddynt, os a chyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol iddynt wneud hynny, anfon at y person sydd wedi ei gofrestru ar y pryd fel perchennog y cerbyd yng nghyfeiriad olaf y perchennog hwnnw sy'n hysbys, ei gyfeiriad cofrestredig neu'r cyfeiriad lle cedwir y cerbyd fel arfer, hysbysiad bod y Comisiynwyr wedi arfer y pwerau o dan yr erthygl hon, ac o'r man y symudwyd y cerbyd iddo.
(7) Rhaid arddangos arwydd sy'n datgan effaith gyffredinol paragraff (1) mewn safle amlwg ym mhob man lle mae ffordd sy'n agored i gerbydau yn mynd i mewn i unrhyw ran o fangre'r harbwr.
32.—(1) Os gadewir cerbyd ym mangre'r harbwr yn groes i erthygl 31, caiff swyddog awdurdodedig y Comisiynwyr—
(a)gosod dyfais atal symud ar y cerbyd tra bo'n parhau yn y man y'i canfuwyd gan y swyddog awdurdodedig; neu
(b)ei symud o'r man hwnnw i le arall ym mangre'r harbwr, a gosod dyfais atal symud arno yn y man arall hwnnw.
(2) Rhaid i'r person sy'n gosod y ddyfais osod hysbysiad hefyd ar y cerbyd—
(a)yn dynodi bod dyfais o'r fath wedi ei gosod ar y cerbyd ac yn rhybuddio na ddylid gwneud unrhyw ymgais i yrru'r cerbyd, nac i'w roi ar fynd rywfodd arall cyn ei ryddhau o'r ddyfais honno;
(b)yn pennu pa gamau y mae'n rhaid eu cymryd i gael rhyddhau'r cerbyd; ac
(c)yn rhoi pa bynnag wybodaeth arall a ragnodir gan y Comisiynwyr.
(3) Ni cheir rhyddhau cerbyd, y gosodwyd dyfais atal symud arno yn unol â'r erthygl hon, o'r ddyfais honno ac eithrio gan, neu o dan gyfarwyddyd person a awdurdodwyd gan y Comisiynwyr i roi cyfarwyddyd o'r fath.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid rhyddhau cerbyd y gosodwyd dyfais atal symud arno yn unol â'r erthygl hon, o'r ddyfais honno, pan delir pa bynnag ffi a ragnodir gan y Comisiynwyr mewn perthynas â'r rhyddhau, gan ddefnyddio unrhyw ddull o dalu a bennir yn yr hysbysiad a osodir o dan baragraff (2).
(5) Mae unrhyw berson sy'n tynnu ymaith, neu'n ceisio tynnu ymaith, ddyfais atal symud a osodwyd ar gerbyd yn unol â'r erthygl hon, ac yntau heb ei awdurdodi i wneud hynny yn unol â pharagraff (3), yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 4 ar y raddfa safonol.
(6) Os symudir cerbyd yn unol â'r erthygl hon cyn bod dyfais atal symud wedi ei gosod arno, bydd unrhyw bŵer i'w symud ymaith o dan erthygl 31, a oedd yn arferadwy mewn perthynas â'r cerbyd hwnnw yn union cyn ei symud, yn parhau'n arferadwy tra bo'r cerbyd yn aros yn y man y'i symudwyd iddo.
(7) Yn yr erthygl hon ystyr “dyfais atal symud” (“immobilisation device”) yw unrhyw ddyfais neu offer a gymeradwywyd fel “immobilisation device” at ddibenion adran 104 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(19).
(8) Rhaid arddangos arwydd sy'n datgan effaith gyffredinol paragraff (1) mewn safle amlwg ym mhob man lle mae ffordd sy'n agored i gerbydau yn mynd i mewn i unrhyw ran o fangre'r harbwr.
33. Yn ychwanegol at eu pŵer i ofyn am ffioedd llongau, ffioedd teithwyr a ffioedd nwyddau o dan adran 26 o Ddeddf 1964, caiff y Comisiynwyr ofyn am, cymryd ac adennill pa bynnag ffioedd rhesymol a benderfynir ganddynt o bryd i'w gilydd, am wasanaethau a chyfleusterau a ddarperir ganddynt o fewn yr harbwr.
34.—(1) Mae'r ffioedd y mae'r Comisiynwyr wedi'u hawdurdodi ar y pryd i ofyn amdanynt, i'w cymryd ac i'w hadennill, mewn perthynas â llongau a nwyddau neu fel arall o dan unrhyw ddeddfiad, yn daladwy cyn symud allan o'r harbwr unrhyw longau neu nwyddau y mae'r ffioedd yn daladwy mewn perthynas â hwy, a cheir gofyn amdanynt, eu cymryd, a'u hadennill gan y cyfryw bersonau, yn y cyfryw fannau ar y cyfryw adegau ac o dan y cyfryw delerau ac amodau a bennir gan y Comisiynwyr o bryd i'w gilydd yn eu rhestr gyhoeddedig o ffioedd.
(2) Mae'r ffioedd sy'n daladwy i'r Comisiynwyr yn daladwy gan berchennog unrhyw long neu nwyddau y mae'r ffioedd yn daladwy mewn perthynas â hi neu hwy.
(3) Pan fo'r ffioedd sy'n daladwy i'r Comisiynwyr yn adenilladwy ganddynt o fwy nag un person, mae'r personau y gellir eu hadennill ohonynt yn atebol ar y cyd ac yn unigol.
(4) Heb leihau effaith paragraff (1), caiff y telerau ac amodau a bennir o bryd i'w gilydd gan y Comisiynwyr ynglŷn â thalu ffioedd gynnwys yr amser pan ddaw ffi yn ddyledus i'w thalu, a chânt ei gwneud yn ofynnol bod perchennog neu feistr llong, neu berson sy'n defnyddio gwasanaeth neu gyfleuster y Comisiynwyr, yn rhoi i'r Comisiynwyr pa bynnag wybodaeth y gofynnir amdani gan y Comisiynwyr mewn cysylltiad ag asesu neu gasglu ffi.
35. Nid oes dim yn adran 30 o Ddeddf 1964 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y Comisiynwyr yn cynnwys, yn y rhestr o ffioedd llongau, teithwyr a nwyddau a gedwir yn swyddfa'r harbwr fel sy'n ofynnol gan is-adran (1) o'r adran honno, ffioedd a ostyngwyd oherwydd ad-daliad a ganiatawyd ar ffi a gynhwysir yn y rhestr, neu sy'n destun trefniant compowndio mewn perthynas â ffi a gynhwysir yn y rhestr.
36.—(1) Caiff y Comisiynwyr ei gwneud yn ofynnol bod person sy'n atebol am ffi, neu ar fin bod yn atebol am ffi, yn adneuo gyda'r Comisiynwyr neu'n gwarantu pa bynnag swm o arian sydd, ym marn y Comisiynwyr, yn rhesymol o ystyried swm, neu swm tebygol, y ffi.
(2) Os yw person o'r fath yn methu ag adneuo neu warantu'r swm o arian sy'n ofynnol gan y Comisiynwyr, caiff y Comisiynwyr gadw'r llong neu'r nwyddau a ysgogodd y ffi, neu a fydd yn ysgogi'r ffi, yn gaeth yn yr harbwr hyd nes cydymffurfir â'r gofyniad neu hyd nes telir y ffi.
37.—(1) Mae gan berson sydd, drwy gytundeb gyda'r Comisiynwyr, yn casglu ffioedd ar eu rhan ac yn talu, neu'n rhoi sicrwydd y telir, ffioedd ar nwyddau ym meddiant y person hwnnw, hawlrwym ar y nwyddau hynny am y swm a dalwyd neu'r sicrwydd a roddwyd mewn perthynas â hwy.
(2) Caiff glanfäwr neu gludydd nad yw'n atebol i dalu ffioedd, dalu neu, drwy gytundeb gyda'r Comisiynwyr roi sicrwydd am y ffioedd ar nwyddau sydd yng ngofal y glanfäwr neu'r cludydd, ac os digwydd hynny bydd gan y glanfäwr neu gludydd hawlrwym cyffelyb ar y nwyddau am swm y ffioedd hynny, fel y byddai gan y glanfäwr neu'r cludydd mewn perthynas â ffioedd am ddiogelu neu gludo'r nwyddau, yn ôl fel y digwydd.
38.—(1) Rhaid i feistr neu berchennog unrhyw long (nad yw'n gwch pleser) sydd â helfa neu gargo o bysgod ar ei bwrdd, pan fo'r llong yn cyrraedd o fewn terfynau'r harbwr, ddarparu i'r casglwr ardrethi ddatganiad gwir a chywir o'i helfa neu gargo o bysgod ac enw pob person sy'n cael cyflenwad o'r helfa neu'r cargo.
(2) Mae meistr neu berchennog llong sy'n peidio â chydymffurfio â'r erthygl hon yn cyflawni tramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 2 ar y raddfa safonol.
39. Caiff yr harbwrfeistr atal unrhyw long rhag cael ei symud neu hwylio allan o'r harbwr hyd nes dangosir tystiolaeth i'r harbwrfeistr fod unrhyw ffioedd sy'n daladwy wedi eu talu, mewn perthynas â'r llong, neu'r teithwyr sydd arni neu unrhyw nwyddau a fewnforiwyd neu a allforiwyd (ac yn achos llong sydd â helfa neu gargo o bysgod, hyd nes bo meistr neu berchennog y llong wedi rhoi'r datganiad o'i helfa neu gargo o bysgod fel sy'n ofynnol gan erthygl 38).
40. Ac eithrio fel a gytunir rhwng y Comisiynwyr a'r gwasanaeth badau achub dan sylw, neu fel a ddatgenir yn benodol mewn statud, nid oes dim mewn unrhyw ddeddfiad sy'n awdurdodi'r Comisiynwyr i godi ffioedd, sy'n eu hawdurdodi i godi ffioedd ar long sy'n eiddo i, neu a ddefnyddir gan, wasanaeth badau achub, tra defnyddir y llong ar gyfer neu mewn cysylltiad â swyddogaethau'r gwasanaeth hwnnw.
41.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni chaniateir i unrhyw berson ac eithrio'r Comisiynwyr wneud y canlynol yn yr harbwr—
(a)adeiladu, newid, adnewyddu neu estyn unrhyw weithiau; neu
(b)carthu;
oni fydd y person hwnnw wedi ei drwyddedu i wneud hynny, gan drwydded gweithiau yn achos gweithiau a chan drwydded garthu yn achos carthu, a hynny yn unig yn unol â'r telerau ac amodau, os oes rhai, a bennwyd wrth ganiatáu'r drwydded, ac yn unol â phlaniau, trychiadau a manylion a gymeradwywyd yn unol ag erthygl 43 o'r Gorchymyn hwn neu, fel y bo'n ofynnol yn yr achos dan sylw, erthygl 44 o'r Gorchymyn hwn.
(2) Caiff y Comisiynwyr, drwy hysbysiad, ei gwneud yn ofynnol bod person sy'n mynd yn groes i'r erthygl hon yn symud ymaith, atal neu unioni, o fewn amser rhesymol a bennir yn yr hysbysiad, unrhyw waith, gweithrediad neu anwaith y mae'r tramgwydd yn berthynol iddo, ac yn adfer y safle i'w gyflwr blaenorol; ac os nad yw'r person hwnnw'n cydymffurfio â'r hysbysiad, caiff y Comisiynwyr gyflawni'r gweithiau a wnaed yn ofynnol felly, ac adennill y gost o wneud hynny gan y person hwnnw.
(3) Nid oes dim yn yr erthygl hon sy'n gymwys i'r canlynol—
(a)unrhyw weithrediadau neu weithiau a awdurdodir yn benodol gan unrhyw ddeddfiad; neu
(b)unrhyw weithrediadau neu weithiau ymgymerydd statudol.
(4) Mae unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol, yn mynd yn groes i'r erthygl hon yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.
42.—(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys i unrhyw weithrediadau neu weithiau gan ymgymerydd statudol yn yr harbwr ar, o dan, neu uwchben dyfroedd llanwol neu dir sydd islaw lefel y penllanw, ac nad ydynt yn weithrediadau neu weithiau a awdurdodir yn benodol gan ddeddfiad.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i ymgymerydd statudol beidio â chyflawni unrhyw weithrediadau neu weithiau y mae'r erthygl hon yn gymwys iddynt oni fydd wedi rhoi hysbysiad o'i fwriad i wneud hynny i'r Comisiynwyr, ac wedi cyflenwi i'r Comisiynwyr pa bynnag fanylion y gofynnant amdanynt yn rhesymol.
(3) Os yw'n anymarferol, mewn argyfwng, rhoi hysbysiad fel sy'n ofynnol gan baragraff (2), rhaid i'r ymgymerydd statudol hysbysu'r Comisiynwyr ynghylch y gweithrediadau neu'r gweithiau cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.
(4) Rhaid cynnal unrhyw weithrediadau neu weithiau y mae'r erthygl hon yn gymwys iddynt yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddiadau a roddir i'r ymgymerydd statudol o bryd i'w gilydd gan y Comisiynwyr, sef cyfarwyddiadau ar gyfer osgoi perygl ac atal, i'r graddau y gellir, ymyrraeth â mordwyo wrth gyflawni gweithrediadau neu weithiau o'r fath.
(5) Mae unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol, yn mynd yn groes i'r erthygl hon yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.
43.—(1) Caiff y Comisiynwyr, ar ba bynnag delerau ac amodau a ystyriant yn briodol, ganiatáu trwydded i unrhyw berson i adeiladu, lleoli, newid, adnewyddu neu gynnal gweithiau yn yr harbwr, ar, o dan, neu dros ddyfroedd llanwol neu dir sydd islaw lefel y penllanw, er gwaethaf unrhyw ymyrraeth â hawliau mordwyo cyhoeddus neu hawliau cyhoeddus eraill, gan weithiau o'r fath, fel y'u hadeiledir, y'u lleolir, y'u newidir, y'u hadnewyddir neu'u cynhelir.
(2) Rhaid gwneud cais am drwydded gweithiau mewn ysgrifen i'r Comisiynwyr, a rhaid—
(a)ei gyflwyno ynghyd â phlaniau, trychiadau a manylion o'r gweithiau y mae'r cais yn ymwneud â hwy;
(b)nodi pa un a yw'r ceisydd yn dal y cyfryw hawliau yn, o dan, neu dros y tir, sy'n angenrheidiol i alluogi'r ceisydd i gael budd o'r drwydded, ac os nad ydyw, nodi pa gamau a gymerwyd neu y bwriedir eu cymryd i alluogi'r ceisydd i gael y cyfryw hawliau, os caniateir y drwydded.
(3) Wrth ganiatáu trwydded, caiff y Comisiynwyr ei gwneud yn ofynnol bod y planiau, trychiadau a manylion a gyflwynwyd iddynt gan y ceisydd yn cael eu haddasu.
(4) Caiff y Comisiynwyr ei gwneud yn ofynnol bod ceisydd am drwydded gweithiau, wrth gyflwyno'i gais, yn talu ffi resymol ar gyfer y treuliau gweinyddol o ymdrin â'r cais.
(5) Fel amod caniatáu trwydded, caiff y Comisiynwyr ei gwneud yn ofynnol bod trwyddedai, sef ceisydd y caniatawyd trwydded iddo, neu ei olynydd, os adeiledir gweithiau yn unol â'r drwydded, yn talu ffioedd rhesymol ar gyfer treuliau gweinyddol a gorbenion y Comisiynwyr wrth oruchwylio neu archwilio, pan fo angen, y gwaith o adeiladu neu gynnal y gweithiau.
(6) Os yw'r Comisiynwyr yn penderfynu caniatáu trwydded gweithiau, rhaid iddynt roi hysbysiad o'u penderfyniad i'r ceisydd.
(7) Pan fo'r Comisiynwyr yn gwrthod caniatáu trwydded gweithiau y gwnaed cais amdani, rhaid iddynt roi rhesymau am eu gwrthodiad mewn ysgrifen.
(8) Pan fo'r Comisiynwyr yn caniatáu trwydded gweithiau ar delerau neu amodau, neu'n gofyn am unrhyw addasiad yn y planiau a'r manylion, rhaid iddynt roi eu rhesymau am osod y telerau ac amodau neu ofyn am yr addasiadau, mewn ysgrifen.
(9) Os na fydd y Comisiynwyr, o fewn tri mis o'r dyddiad y gwneir cais o dan baragraff (2) (neu pa bynnag gyfnod hwy a gytunir rhwng y ceisydd a'r Comisiynwyr), wedi hysbysu'r ceisydd o'u penderfyniad ynghylch caniatáu trwydded gweithiau, rhaid ystyried eu bod wedi gwrthod y cais.
(10) Mae erthyglau 46 i 51 o'r Gorchymyn hwn yn gymwys i ddeiliad trwydded gweithiau, mewn perthynas â'r gweithiau a awdurdodir gan y drwydded, fel y maent yn gymwys i'r Comisiynwyr mewn perthynas â gweithiau llanwol, gyda'r holl gyfeiriadau at y Comisiynwyr wedi eu disodli gan gyfeiriadau at ddeiliad y drwydded gweithiau.
(11) Mae caniatáu trwydded o dan yr erthygl hon yn cael effaith at ddibenion erthygl 41, ac nid yw'n rhoi unrhyw awdurdod arall ar gyfer cynnal y gweithrediadau a gwmpesir gan y drwydded.
(12) Wrth gynnal gweithrediadau yn unol â thrwydded gweithiau, rhaid i ddeiliad y drwydded—
(a)peidio ag ymyrryd ag unrhyw gyfarpar sy'n eiddo i, neu a gynhelir gan, unrhyw ymgymerydd statudol, na difrodi na chael effaith andwyol rywfodd arall ar unrhyw gyfarpar o'r fath; a
(b)peidio â gwneud dim i rwystro nac amharu ar unrhyw waith ynglŷn ag archwilio neu atgyweirio unrhyw gyfarpar o'r fath;
heb ganiatâd yr ymgymerydd statudol dan sylw.
44.—(1) Caiff y Comisiynwyr, ar ba bynnag delerau ac amodau y tybiant sy'n briodol, ganiatáu trwydded i unrhyw berson i garthu mewn unrhyw ran o'r harbwr.
(2) Rhaid gwneud cais am drwydded garthu mewn ysgrifen i'r Comisiynwyr, a'i gyflwyno ynghyd â phlaniau, trychiadau a manylion sy'n diffinio natur, maint a dull y gweithrediadau y gwneir y cais mewn perthynas â hwy.
(3) Wrth ganiatáu trwydded, caiff y Comisiynwyr ei gwneud yn ofynnol bod y planiau, trychiadau a manylion a gyflwynwyd iddynt gan y ceisydd yn cael eu haddasu.
(4) Mae paragraffau (4) i (9) a (12) o erthygl 43 o'r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â thrwydded garthu fel y maent yn gymwys mewn perthynas â thrwydded gweithiau.
(5) Mae caniatáu trwydded o dan yr erthygl hon yn cael effaith at ddibenion erthygl 41, ac nid yw'n rhoi unrhyw awdurdod arall ar gyfer cynnal y gweithrediadau a gwmpesir gan y drwydded.
(6) Oni fydd y Comisiynwyr yn cytuno'n wahanol, rhaid i unrhyw ddeunyddiau (ac eithrio unrhyw longddrylliad o fewn yr ystyr a roddir i “wreck” yn adran 255(1) o Ddeddf Llongau Masnach 1995(20)) a godir neu a gesglir drwy garthu yn unol â thrwydded garthu, i'r graddau nad oeddent yn eiddo i'r Comisiynwyr cyn eu codi a'u casglu, ond yn ddarostyngedig i ddarpariaethau erthygl 43, ddod yn eiddo i'r Comisiynwyr, a chaiff y Comisiynwyr ddefnyddio, meddiannu neu waredu unrhyw ddeunydd o'r fath.
45.—(1) Pan fo—
(a)y Comisiynwyr wedi gwrthod caniatáu trwydded gweithiau neu drwydded garthu a'r ceisydd am y drwydded wedi ei dramgwyddo gan y gwrthodiad; neu
(b)y Comisiynwyr wedi caniatáu trwydded o'r fath ar delerau neu amodau neu wedi ei gwneud yn ofynnol addasu'r planiau, trychiadau a manylion a gyflwynwyd gan y ceisydd, a'r ceisydd wedi ei dramgwyddo gan benderfyniad y Comisiynwyr ynglŷn â'r cyfryw delerau neu amodau neu ynglŷn â'r cyfryw addasiadau;
caiff y ceisydd, o fewn 28 diwrnod o'r dyddiad y rhoddodd y Comisiynwyr hysbysiad o'u penderfyniad, neu'r dyddiad yr ystyrir o dan erthygl 43 neu 44 eu bod wedi gwrthod y cais, yn ôl fel y digwydd, apelio i Weinidogion Cymru.
(2) Rhaid gwneud apêl o dan baragraff (1) drwy hysbysiad ysgrifenedig, gan nodi seiliau'r apêl.
(3) Rhaid i berson sy'n apelio i Weinidogion Cymru o dan yr erthygl hon anfon, ar yr un pryd, gopi o'r datganiad o apêl at y Comisiynwyr, a rhaid i'r Comisiynwyr, cyn gynted ag y bo'n ymarferol wedyn, ddarparu'r holl ddogfennau perthnasol i Weinidogion Cymru, ac o fewn 28 diwrnod o gael y datganiad o apêl, cânt ddarparu i Weinidogion Cymru eu sylwadau ar yr apêl.
(4) Yn dilyn apêl o dan yr erthygl hon, caiff Gweinidogion Cymru gadarnhau, amrywio neu ddirymu'r penderfyniad yr apeliwyd yn ei erbyn a gorchymyn gwneud yn ofynnol unrhyw ddiwygiadau canlyniadol, gan gynnwys diwygio'r telerau ac amodau neu'r addasiadau i blaniau, trychiadau a manylion.
(5) Rhaid i'r Comisiynwyr roi effaith i unrhyw benderfyniad neu ofyniad a roddir neu a wneir gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (4).
46.—(1) Ni cheir adeiladu, ailadeiladu, estyn, newid, ehangu, amnewid neu ailosod unrhyw waith llanwol ac eithrio'n unol â phlaniau a thrychiadau a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru ac yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a chyfyngiadau a osodwyd ganddynt cyn dechrau'r gwaith.
(2) Os caiff gwaith llanwol ei adeiladu, ailadeiladu, estyn, newid, ehangu, amnewid neu ei ailosod yn groes i baragraff (1) neu'n groes i unrhyw amod neu gyfyngiad a osodwyd o dan y paragraff hwnnw—
(a)caiff Gweinidogion Cymru, drwy hysbysiad ysgrifenedig, ei gwneud yn ofynnol bod y Comisiynwyr, ar eu traul eu hunain, yn symud ymaith y gwaith llanwol, neu unrhyw ran ohono, ac yn adfer y safle i'w gyflwr blaenorol; ac os bydd y Comisiynwyr, ar ddiwedd cyfnod o 30 diwrnod o'r dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad i'r Comisiynwyr, wedi methu â chydymffurfio â gofynion yr hysbysiad, caiff Gweinidogion Cymru gyflawni'r gweithiau a bennir yn yr hysbysiad; neu
(b)os yw'n ymddangos i Weinidogion Cymru bod angen gwneud hynny ar frys, caiff Gweinidogion Cymru symud ymaith y gwaith llanwol, neu ran ohono, ac adfer y safle i'w gyflwr blaenorol,
a chânt adennill oddi ar y Comisiynwyr unrhyw wariant a achosir iddynt drwy wneud hynny.
47.—(1) Rhaid i'r Comisiynwyr, ar neu gerllaw unrhyw waith llanwol, drwy gydol y cyfnod y caiff ei adeiladu, estyn, ehangu, newid, amnewid neu ei ailosod, bob nos rhwng machlud a chodiad haul ddangos y cyfryw oleuadau, os oes rhai, a chymryd pa bynnag gamau eraill i atal perygl i fordwyaeth, a gyfarwyddir o bryd i'w gilydd gan Weinidogion Cymru.
(2) Os bydd y Comisiynwyr yn peidio â chydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir o dan baragraff (1), byddant yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'u collfarnu'n ddiannod, i ddirwy na fydd yn fwy na'r uchafswm statudol, ac o'u collfarnu ar dditiad, i ddirwy.
48.—(1) Os digwydd i waith llanwol, neu unrhyw ran ohono, ddioddef niwed neu ddinistr, neu os bydd wedi dirywio, rhaid i'r Comisiynwyr hysbysu Trinity House cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, a rhaid iddynt osod pa bynnag fwiau, dangos pa bynnag oleuadau a chymryd pa bynnag gamau eraill a gyfarwyddir o bryd i'w gilydd gan Trinity House er mwyn osgoi perygl i fordwyaeth.
(2) Os bydd y Comisiynwyr yn peidio â hysbysu Trinity House fel sy'n ofynnol gan baragraff (1) neu'n peidio â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad o gyfarwyddyd o dan y paragraff hwnnw, bydd y Comisiynwyr yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'u collfarnu'n ddiannod, i ddirwy na fydd yn fwy na'r uchafswm statudol, ac o'u collfarnu ar dditiad, i ddirwy.
49.—(1) Pan fo gwaith llanwol wedi ei adael, neu os caniatawyd iddo ddirywio, caiff Gweinidogion Cymru, drwy hysbysiad ysgrifenedig, ei gwneud yn ofynnol bod y Comisiynwyr, ar eu traul eu hunain, naill ai'n atgyweirio ac adfer y gwaith neu unrhyw ran ohono, neu'n symud ymaith y gwaith ac yn adfer y safle i'w gyflwr blaenorol, i'r cyfryw raddau ac o fewn y cyfryw derfynau a ystyrir yn briodol gan Weinidogion Cymru.
(2) Pan fo gwaith, a gyfansoddir yn rhannol o waith llanwol ac yn rhannol o weithiau ar dir sydd uwchlaw lefel y penllanw, neu dros dir o'r fath, wedi ei adael, neu os caniatawyd iddo ddirywio, ac os yw'r rhan honno o'r gwaith sydd ar dir neu dros dir uwchlaw lefel y penllanw yn y fath gyflwr sy'n ymyrryd, neu'n peri pryder rhesymol y gallai ymyrryd, â hawl mordwyo neu hawliau cyhoeddus eraill ar y blaendraeth, caiff Gweinidogion Cymru gynnwys y rhan honno o'r gwaith, neu unrhyw gyfran ohoni, mewn unrhyw hysbysiad o dan baragraff (1).
(3) Os bydd y Comisiynwyr, ar ddiwedd cyfnod o 30 diwrnod o'r dyddiad y cyflwynwyd hysbysiad i'r Comisiynwyr o dan yr erthygl hon, wedi peidio â chydymffurfio â gofynion yr hysbysiad, caiff Gweinidogion Cymru gyflawni'r gwaith a bennir yn yr hysbysiad, a cheir adennill oddi ar y Comisiynwyr unrhyw wariant a achosir i Weinidogion Cymru drwy wneud hynny.
50. Os yw Gweinidogion Cymru o'r farn y byddai'n hwylus gwneud hynny, cânt orchymyn cynnal arolwg ac archwiliad o waith llanwol, neu o'r safle y bwriedir adeiladu'r gwaith arno, a cheir adennill oddi ar y Comisiynwyr unrhyw wariant a achosir i Weinidogion Cymru drwy gynnal unrhyw arolwg ac archwiliad o'r fath.
51.—(1) Ar ôl cwblhau gwaith llanwol rhaid i'r Comisiynwyr, bob nos rhwng machlud a chodiad haul ym mhen allanol eithaf y gwaith, ddangos y cyfryw oleuadau, os oes rhai, a chymryd y cyfryw gamau eraill, os oes rhai, i osgoi perygl i fordwyaeth, fel a gyfarwyddir o bryd i'w gilydd gan Trinity House.
(2) Os bydd y Comisiynwyr, mewn unrhyw fodd, yn peidio â chydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir o dan baragraff (1), byddant yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'u collfarnu'n ddiannod, i ddirwy na fydd yn fwy na'r uchafswm statudol, ac o'u collfarnu ar dditiad, i ddirwy.
52. Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl paratoi eu datganiad cyfrifon blynyddol, rhaid i'r Comisiynwyr—
(a)rhoi copi o'r datganiad ar gael yn swyddfeydd y Comisiynwyr am gyfnod o dri mis, i'w archwilio'n ddi-dâl gan aelodau'r cyhoedd, a rhaid i'r Comisiynwyr, os telir tâl rhesymol, gyflenwi copi o'r datganiad i unrhyw berson sy'n gofyn am gael ei gyflenwi â chopi; a
(b)anfon copi o'r datganiad at Weinidogion Cymru a phob un o'r awdurdodau lleol.
53.—(1) Caiff y Comisiynwyr, o bryd i'w gilydd, fenthyca, ar sicrwydd y cyfan neu unrhyw rai o refeniwiau ac eiddo'r Comisiynwyr a thrwy unrhyw ddull neu ddulliau a ystyriant yn briodol, y cyfryw symiau o arian yr ystyriant yn angenrheidiol.
(2) Ond—
(a)ni chaniateir i'r cyfanswm sydd heb ei ad-dalu o'r arian a fenthyciwyd o dan yr erthygl hon fod yn fwy na £5,000,000 ar unrhyw adeg;
(b)wrth gyfrifo, at ddibenion yr erthygl hon, y cyfanswm sydd heb ei ad-dalu o'r arian a fenthyciwyd gan y Comisiynwyr, rhaid peidio â chynnwys unrhyw symiau a fenthyciwyd at y diben o ad-dalu, o fewn deuddeng mis o'r dyddiad benthyg, unrhyw swm o brifswm benthyciad blaenorol a oedd heb ei ad-dalu ar y pryd.
(3) Ni cheir defnyddio arian a fenthycir gan y Comisiynwyr o dan yr erthygl hon ac eithrio at ddibenion y mae'n briodol defnyddio arian cyfalaf ar eu cyfer.
(4) At ddibenion paragraff (3), ystyrir bod dibenion y mae'n briodol defnyddio arian cyfalaf ar eu cyfer yn cynnwys—
(a)talu unrhyw log a ddaw'n daladwy o fewn y pum mlynedd sy'n dilyn yn union ar ôl dyddiad benthyca unrhyw swm o arian a fenthycir gan y Comisiynwyr o dan yr erthygl hon; a
(b)ad-dalu, o fewn deuddeng mis o'r dyddiad benthyg, unrhyw swm o brifswm benthyciad blaenorol sydd heb ei ad-dalu ar y pryd.
54.—(1) Caiff y Comisiynwyr fenthyca dros dro, ar ffurf gorddrafft neu fel arall, y cyfryw symiau y bydd eu hangen ar y Comisiynwyr i gwrdd â'u hymrwymiadau neu gyflawni eu swyddogaethau o dan, neu'n unol ag, unrhyw ddeddfiad.
(2) Ond ni chaniateir i'r cyfanswm sydd heb ei ad-dalu o'r arian a fenthyciwyd o dan yr erthygl hon fod yn fwy na £100,000 ar unrhyw un adeg.
55.—(1) Ar ben-blwydd dyddiad y cyfansoddiad newydd bob blwyddyn, rhaid addasu'r symiau a grybwyllir yn erthyglau 53 a 54 yn unol ag unrhyw symudiad (a gyfrifir i un lle degol) yn y mynegai a ddigwyddodd yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr yn union cyn y pen-blwydd dan sylw.
(2) Rhaid cofnodi unrhyw addasiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn y datganiad cyfrifon blynyddol dilynol nesaf a baratoir gan y Comisiynwyr.
56. Caiff y Comisiynwyr sefydlu a chynnal cronfa wrth gefn a chânt benderfynu pa arian sydd i'w gredydu i'r gronfa honno, sut y'i rheolir ac at ba rai o ddibenion y Comisiynwyr y defnyddir yr arian a gynhwysir ynddi.
57. Rhaid i gyfrifon y Comisiynwyr gael eu harchwilio'n flynyddol gan archwilydd neu gan gwmni o gyfrifwyr a benodir gan y Comisiynwyr, ac ni fydd person neu gwmni yn gymwys i'w benodi at y diben hwnnw oni fydd y person neu'r cwmni hwnnw yn gymwys am benodiad fel archwiliwr stadudol o dan Ran 42 o Ddeddf Cwmnïau 2006(21) .
58.—(1) Rhaid i'r Comisiynwyr sefydlu pwyllgor a elwir yn Bwyllgor Cynghori Harbwr Saundersfoot, a rhaid iddynt ymgynghori â'r pwyllgor hwnnw (ac eithrio mewn achosion o frys arbennig) ynghylch pob mater sy'n effeithio'n sylweddol ar reoli, cynnal, gwella, cadwraeth, diogelu neu reoleiddio'r harbwr, a mordwyo o fewn yr harbwr.
(2) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r erthygl hon, rhaid i'r pwyllgor cynghori gynnwys dim llai na saith aelod a benodir gan y Comisiynwyr, ac o'r rheini—
(a)rhaid penodi un a enwebir gan y Gymdeithas Hwylio Frenhinol;
(b)rhaid penodi un a enwebir gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro;
(c)rhaid penodi un yn dilyn ymgynghori â phersonau sydd, ym marn y Comisiynwyr, yn cynrychioli buddiannau pysgota lleol yn yr harbwr;
(ch)rhaid penodi un a enwebir gan Glwb Hwylio Saundersfoot;
(d)rhaid penodi un yn dilyn ymgynghori â phersonau sydd, ym marn y Comisiynwyr, yn cynrychioli buddiannau masnachol yn yr harbwr, ac eithrio cychod a physgota; a
(dd)rhaid penodi o leiaf ddau i gynrychioli'r cyfryw bersonau sydd â diddordeb yn yr harbwr, ac eithrio'r rhai a grybwyllir yn is-baragraffau blaenorol y paragraff hwn, fel y gwêl y Comisiynwyr yn briodol o bryd i'w gilydd.
(3) Os yw'n ymddangos i'r Comisiynwyr, yn achos unrhyw rai o'r penodiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)—
(a)bod y corff sydd i wneud yr enwebiad wedi gwrthod neu wedi methu ag enwebu aelod wedi i'r Comisiynwyr ofyn iddo wneud hynny, neu
(b)bod y corff sydd i wneud unrhyw un o'r enwebiadau wedi peidio â bodoli mewn ffurf adnabyddadwy,
caiff y Comisiynwyr wneud y penodiad dan sylw fel yr ystyriant yn briodol, ar ôl ymgynghori â'r cyfryw bersonau (os oes rhai) y mae'n ymddangos i'r Comisiynwyr eu bod yn cynrychioli'r buddiannau a gynrychiolir, neu a gynrychiolid gynt, gan y corff enwebu a bennir yn yr is-baragraff perthnasol o baragraff (2).
(4) Rhaid i'r Comisiynwyr gymryd i ystyriaeth unrhyw fater, argymhelliad neu sylw a gyfeirir atynt neu a gyflëir wrthynt o bryd i'w gilydd gan y pwyllgor cynghori, pa un a fu'r Comisiynwyr yn ymgynghori â'r pwyllgor ar y mater, yr argymhelliad neu'r sylw a gyfeiriwyd neu a gyflëwyd felly ai peidio.
(5) Caiff y pwyllgor cynghori benderfynu ar ei gworwm a'i weithdrefn ei hunan, a rhaid iddo benodi cadeirydd.
(6) Caiff aelod unigol o'r pwyllgor cynghori, ar ôl hysbysu cadeirydd y pwyllgor mewn ysgrifen, anfon dirprwy yn ei le i unrhyw gyfarfod o'r corff.
(7) Mae aelod o'r pwyllgor cynghori yn dal y swydd honno am gyfnod o dair blynedd o'r dyddiad y'i penodir, ac ar ddiwedd y cyfnod hwnnw mae'n gymwys i'w ailbenodi.
(8) Caiff aelod o'r pwyllgor cynghori ymddiswyddo ar unrhyw adeg, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i brif weithredwr y Comisiynwyr.
(9) Rhaid i'r Comisiynwyr ddarparu llety rhesymol ar gyfer cyfarfodydd o'r pwyllgor cynghori, a thalu pa bynnag dreuliau rhesymol a dynnir gan y pwyllgor cynghori mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau ysgrifenyddol i'r pwyllgor cynghori.
(10) Caiff y Comisiynwyr dalu costau teithio a chynhaliaeth aelodau'r pwyllgor cynghori.
59.—(1) Mewn achosion ynglŷn â thramgwydd o dan unrhyw ddarpariaeth o'r Gorchymyn hwn a grybwyllir ym mharagraff (2), bydd yn amddiffyniad i'r Comisiynwyr os profant eu bod wedi cymryd pob rhagofal rhesymol ac wedi arfer pob diwydrwydd dyladwy er mwyn osgoi cyflawni tramgwydd o'r fath.
(2) Y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—
(a)erthygl 46;
(b)erthygl 47;
(c)erthygl 48; ac
(d)erthygl 51.
(3) Mewn unrhyw achos, os yw'r amddiffyniad a ddarperir gan baragraff (1) yn cynnwys yr honiad bod cyflawni'r tramgwydd i'w briodoli i weithred neu ddiffyg gan berson arall, ni fydd hawl gan y Comisiynwyr, heb ganiatâd y llys, i ddibynnu ar yr amddiffyniad hwnnw oni fyddant, o fewn cyfnod o saith diwrnod clir o leiaf cyn y gwrandawiad, wedi cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r erlynydd gan roi pa bynnag wybodaeth a oedd yn eu meddiant bryd hynny ar gyfer adnabod, neu gynorthwyo i adnabod, y person arall hwnnw.
60. Caiff swyddog awdurdodedig priodol y Comisiynwyr, ar ôl dangos awdurdod ysgrifenedig os gofynnir iddo, fynd i mewn i long yn yr harbwr a'i harchwilio—
(a)at ddibenion unrhyw ddeddfiad sy'n ymwneud â'r harbwr (gan gynnwys unrhyw ddeddfiad o'r fath a gynhwysir mewn is-ddeddfwriaeth) neu ddibenion unrhyw un o is-ddeddfau'r Comisiynwyr sy'n ymwneud â'r harbwr, gan gynnwys gorfodi'r deddfiad neu'r is-ddeddf;
(b)i atal neu ddiffodd tân;
ond, ac eithrio mewn argyfwng, ni cheir mynd i mewn o dan yr erthygl hon heb roi hysbysiad yn gyntaf i'r perchennog neu'r person y mae'n ymddangos ei fod yn gyfrifol am y llong; a rhaid atodi copi o'r erthygl hon i'r hysbysiad hwnnw.
61.—(1) Mae unrhyw berson sydd—
(a)yn fwriadol yn rhwystro swyddog y Comisiynwyr sy'n gweithredu'n unol â'r Gorchymyn hwn;
(b)heb esgus rhesymol yn peidio â chydymffurfio â gofyniad a wnaed yn briodol gan swyddog o'r fath; neu
(c)heb esgus rhesymol yn peidio â rhoi i swyddog o'r fath unrhyw wybodaeth y gofynnir amdani gan y swyddog hwnnw at y diben o gyflawni ei swyddogaethau;
yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.
(2) Mae unrhyw berson sydd, wrth roi gwybodaeth o'r fath, yn gwneud datganiad y gŵyr y person hwnnw ei fod yn ffug, yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 4 ar y raddfa safonol.
62.—(1) Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn sy'n lleihau effaith unrhyw ystad, hawl, pŵer, braint, awdurdod neu esemptiad o eiddo'r Goron, ac yn benodol a heb leihau cyffredinolrwydd y blaenorol, nid oes dim yn y Gorchymyn hwn sy'n awdurdodi unrhyw berson i gymryd, defnyddio, mynd i mewn ar, neu ymyrryd mewn unrhyw fodd ag, unrhyw dir neu fuddiant mewn tir (gan gynnwys unrhyw gyfran o'r glannau neu o wely'r môr neu o unrhyw afon, sianel, cilfach, bae neu harbwr)—
(a)sy'n eiddo i'w Mawrhydi drwy hawl Ei Choron ac o dan reolaeth Comisiynwyr Ystad y Goron, heb ganiatâd ysgrifenedig y Comisiynwyr hynny; neu
(b)sy'n eiddo i adran o'r llywodraeth, neu a ddelir dan ymddiriedolaeth i'w Mawrhydi at ddibenion adran o'r llywodraeth, heb ganiatâd ysgrifenedig yr adran honno o'r llywodraeth.
(2) Ceir rhoi caniatâd o dan baragraff (1) naill ai'n ddiamod neu'n ddarostyngedig i delerau ac amodau.
(3) At ddibenion yr erthygl hon, mae “adran o'r llywodraeth” yn cynnwys Gweinidogion Cymru lle'n briodol.
63. Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn sy'n lleihau effaith nac yn rhanddirymu hawliau, dyletswyddau neu freintiau Trinity House.
64. Dirymir Gorchymyn 1958.
65. Rhaid i'r holl gostau, ffioedd a threuliau, am baratoi, cael a phasio'r Gorchymyn hwn, neu sy'n berthynol i'r Gorchymyn rywfodd arall, gan gynnwys y rhai rhagarweiniol a chysylltiedig, gael eu talu gan y Comisiynwyr.
Alun Davies
Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd, o dan awdurdod Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, un o Weinidogion Cymru
21 Mehefin 2011
Erthygl 12
Erthygl 15
1. Yn ddarostyngedig i baragraff 8, rhaid i'r Comisiynwyr fod â chadeirydd, a rhaid ei benodi gan y Comisiynwyr o blith y Comisiynwyr a benodwyd o dan erthygl 5(1) neu 11.
2. Bydd y cadeirydd cyntaf a benodir o dan baragraff 1, yn ddarostyngedig i baragraff 8 ac oni fydd y cadeirydd yn ymddiswyddo fel cadeirydd neu'n peidio â bod yn Gomisiynydd, yn dal ei swydd hyd at ddiwedd cyfnod o dair blynedd ar ôl dyddiad y cyfansoddiad newydd.
3. Yn ddarostyngedig i baragraff 8, bydd pob cadeirydd a benodir o dan baragraff 1, oni fydd y cadeirydd yn ymddiswyddo fel cadeirydd neu'n peidio â bod yn Gomisiynydd, yn dal ei swydd am gyfnod o dair blynedd.
4. Rhaid i'r Comisiynwyr fod ag is-gadeirydd, a rhaid ei benodi gan y Comisiynwyr o blith y Comisiynwyr hynny a benodwyd o dan erthygl 5(1) neu 11.
5. Rhaid penodi'r is-gadeirydd cyntaf a fydd mewn swydd ar ôl dyddiad y cyfansoddiad newydd cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl y dyddiad hwnnw ac, yn ddarostyngedig i baragraff 8 ac oni fydd yr is-gadeirydd yn ymddiswyddo fel is-gadeirydd neu'n peidio â bod yn Gomisiynydd, bydd yn parhau mewn swydd fel is-gadeirydd am gyfnod o dair blynedd o ddyddiad ei benodiad yn is-gadeirydd.
6. Yn ddarostyngedig i baragraff 8, bydd pob is-gadeirydd a benodir o dan baragraff 4 oni fydd yr is-gadeirydd yn ymddiswyddo fel is-gadeirydd neu'n peidio â bod yn Gomisiynydd, yn dal ei swydd am gyfnod o dair blynedd.
7.—(1) Os digwydd i swydd cadeirydd neu is-gadeirydd y Comisiynwyr fynd yn wag dros dro, rhaid i'r Comisiynwyr lenwi'r swydd wag o blith y Comisiynwyr hynny a benodwyd o dan erthygl 5(1) neu 11 mewn cyfarfod a gynhelir cyn gynted ag y bo'n ymarferol wedi i'r swydd fynd yn wag.
(2) Rhaid i Gomisiynydd a benodir i lenwi lle gwag dros dro yn swydd y cadeirydd neu'r is-gadeirydd o dan y paragraff hwn, oni fydd y Comisiynydd yn ymddiswyddo o'r swydd honno neu'n peidio â bod yn Gomisiynydd, ddal y swydd honno yn ystod gweddill y tymor y penodwyd y cadeirydd neu'r is-gadeirydd y llenwir ei le ar ei gyfer.
8. Os bodlonir y Comisiynwyr y dylai'r cadeirydd neu'r is-gadeirydd beidio â dal swydd fel cadeirydd neu is-gadeirydd, cânt derfynu'r swydd honno a phenodi Comisiynydd arall yn gadeirydd neu'n is-gadeirydd yn ystod gweddill y tymor y penodwyd y cadeirydd neu'r is-gadeirydd blaenorol ar ei gyfer.
9.—(1) Rhaid i gyfarfod cyntaf y Comisiynwyr ar ôl dyddiad y cyfansoddiad newydd gael ei gynnull cyn gynted ag y bo'n ymarferol gan y cadeirydd, ar ddyddiad y caiff y cadeirydd ei benderfynu; a rhaid i'r cadeirydd wneud trefniadau i anfon hysbysiad o'r cyfarfod hwnnw drwy'r post at y Comisiynwyr.
(2) Rhaid i'r Comisiynwyr gyfarfod wyth gwaith o leiaf bob blwyddyn.
10. Caiff Comisiynydd ymddiswyddo ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r cadeirydd.
11.—(1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Atodlen hon, mae Comisiynydd sy'n ymadael yn gymwys i'w ailbenodi fel Comisiynydd oni fydd wedi ei ddatgymhwyso rhag dal swydd o dan erthygl 13.
(2) Nid yw Comisiynydd yn gymwys i'w ailbenodi fel Comisiynydd os ydyw, yn union cyn y dyddiad dan sylw, wedi dal swydd am dri thymor yn olynol, oni bai ei fod yn gadeirydd y Comisiynwyr.
(3) Nid yw cadeirydd y Comisiynwyr yn gymwys i'w ailbenodi fel Comisiynydd os yw'r cadeirydd, yn union cyn y dyddiad dan sylw, wedi dal swydd fel Comisiynydd am bedwar tymor yn olynol.
(4) At ddibenion y paragraff hwn, nid yw “tymor” (“term”) yn cynnwys—
(a)tymor y cyfeirir ato yn erthygl 8(3);
(b)gweddill tymor y penodwyd y Comisiynydd ynddo i lenwi swydd wag dros dro o dan erthygl 11; neu
(c)unrhyw dymor o wasanaeth gan y Comisiynydd cyn dyddiad y cyfansoddiad newydd.
12.—(1) Nid yw cadeirydd y Comisiynwyr yn gymwys i'w ailbenodi fel cadeirydd os yw'r cadeirydd, yn union cyn y dyddiad dan sylw, wedi gwasanaethu fel cadeirydd am dri thymor yn olynol.
(2) At ddibenion y paragraff hwn, nid yw “tymor” (“term”) yn cynnwys—
(a)tymor y cyfeirir ato yn erthygl 8(3);
(b)gweddill tymor y penodwyd y Comisiynydd ynddo i lenwi lle gwag dros dro yn swydd y cadeirydd o dan baragraff 7; neu
(c)unrhyw dymor o wasanaeth gan y Comisiynydd fel cadeirydd cyn dyddiad y cyfansoddiad newydd.
13. Caiff y Comisiynwyr, yn gyson â'u dyletswyddau ac yn ddarostyngedig i ba bynnag amodau y tybiant sy'n briodol, ddirprwyo unrhyw rai o'u swyddogaethau (ac eithrio'r swyddogaethau a bennir yn is-baragraffau (a) i (f) o baragraff 9B o Atodlen 2 i Ddeddf 1964) i bwyllgor o'r Comisiynwyr.
14. Ni chaiff gweithredoedd a thrafodion y Comisiynwyr nac unrhyw bwyllgor o'r Comisiynwyr eu hannilysu gan unrhyw swydd wag yn eu mysg, na chan unrhyw ddiffyg ym mhenodiad, neu ddiffyg o ran cymhwystra ar gyfer penodiad, unrhyw berson fel Comisiynydd neu fel cadeirydd neu is-gadeirydd, y Comisiynwyr neu bwyllgor.
15. Y cworwm gofynnol ar gyfer cyfarfod o'r Comisiynwyr yw tri.
16.—(1) Os oes gan Gomisiynydd unrhyw fuddiant, uniongyrchol neu anuniongyrchol—
(a)mewn unrhyw gontract neu gontract arfaethedig y mae, neu y byddai'r Comisiynwyr yn barti ynddo, neu os yw'n gyfarwyddwr y cwmni neu'r corff y gwneir, neu y bwriedir gwneud, y contract gydag ef; neu
(b)mewn unrhyw fater arall y mae'r Comisiynwyr yn ymwneud ag ef,
rhaid i'r Comisiynydd ddatgan y buddiant hwnnw.
(2) Os yw Comisiynydd yn bresennol mewn cyfarfod o'r Comisiynwyr neu o unrhyw bwyllgor o'r Comisiynwyr lle y bwriedir ystyried contract neu fater arall y mae gan y Comisiynydd hwnnw fuddiant ynddo, rhaid i'r Comisiynydd—
(a)cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cychwyn y cyfarfod hwnnw, ddatgelu'r buddiant hwnnw;
(b)peidio â phleidleisio ar unrhyw gwestiwn mewn perthynas â'r contract neu'r mater hwnnw; ac
(c)gadael y cyfarfod—
(i)ar unrhyw adeg, os yw'r Comisiynwyr sy'n bresennol, drwy benderfyniad, yn gofyn i'r Comisiynydd hwnnw wneud hynny; a
(ii)tra gwneir penderfyniad ar y contract neu'r mater hwnnw.
(3) Nid yw'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw fuddiant—
(a)sydd gan Gomisiynydd mewn perthynas â thalu ffioedd harbwr i'r Comisiynwyr;
(b)sy'n codi mewn perthynas â darparu gwasanaethau neu gyfleusterau harbwr sy'n effeithio ar y gymuned fasnachol yn gyffredinol;
(c)sydd gan Gomisiynydd fel cyflogai ymgymeriad cyfleustod cyhoeddus, neu fel cyfranddaliwr, ond nid cyfarwyddwr cwmni, oni bai bod y Comisiynydd yn dal mwy na phump y cant o gyfalaf cyfranddaliadau dyroddedig y cwmni hwnnw; neu
(ch)y mae'r Comisiynwyr sy'n bresennol yn y cyfarfod yn datgan drwy benderfyniad ei fod yn rhy bellennig.
17. Bydd gan y person sy'n dal swydd fel is-gadeirydd ar y pryd holl bwerau'r cadeirydd, a chaiff arfer y pwerau hynny yn absenoldeb neu anallu'r cadeirydd.
18. Mewn unrhyw gyfarfod o'r Comisiynwyr, os na fydd y cadeirydd na'r is-gadeirydd yn bresennol, rhaid i'r Comisiynwyr sy'n bresennol yn y cyfarfod ddewis un o'u nifer i fod yn gadeirydd y cyfarfod hwnnw.
19.—(1) Rhaid i bob cwestiwn mewn cyfarfod o'r Comisiynwyr, neu o bwyllgor o'r Comisiynwyr, gael ei benderfynu drwy fwyafrif pleidleisiau'r Comisiynwyr sydd yn bresennol ac yn pleidleisio.
(2) Os yw niferoedd y pleidleisiau'n gyfartal ar unrhyw gwestiwn mewn unrhyw gyfarfod o'r Comisiynwyr, neu o bwyllgor o'r Comisiynwyr, bydd gan gadeirydd y cyfarfod ail bleidlais neu bleidlais fwrw, y caiff y cadeirydd ei bwrw dros neu yn erbyn y status quo.
20.—(1) Pan osodir sêl y Comisiynwyr, rhaid dilysu hynny gyda llofnod cadeirydd y Comisiynwyr neu lofnod rhyw Gomisiynydd arall a awdurdodwyd gan y Comisiynwyr i ddilysu gosod y sêl, a llofnod unrhyw swyddog y Comisiynwyr a awdurdodwyd gan y Comisiynwyr i weithredu felly.
(2) Rhaid bod unrhyw hysbysiad, trwydded neu ddogfen arall a roddir neu a ddyroddir gan y Comisiynwyr, oni fynegir bwriad i'r gwrthwyneb, wedi ei awdurdodi neu ei hawdurdodi'n ddigonol os llofnodwyd yr hysbysiad, trwydded neu ddogfen arall gan swyddog y Comisiynwyr a awdurdodwyd yn briodol.
21.—(1) Caiff y Comisiynwyr dalu i bob Comisiynydd y cyfryw lwfansau a threuliau a benderfynir o bryd i'w gilydd gan y Comisiynwyr.
(2) Caiff y Comisiynwyr dalu i'r Cadeirydd pa bynnag gydnabyddiaeth resymol a benderfynant.
22. Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Atodlen hon, ceir rheoleiddio gweithdrefn a busnes y Comisiynwyr ac unrhyw bwyllgor o'r Comisiynwyr ym mha bynnag fodd a benderfynir o bryd i'w gilydd gan y Comisiynwyr.
23. Caiff y Comisiynwyr, o bryd i'w gilydd, benodi'r cyfryw bersonau yr ystyriant yn angenrheidiol neu'n ddymunol, ar gyfer ac mewn cysylltiad â chyflawni eu swyddogaethau, a thalu iddynt ba bynnag gydnabyddiaeth a ystyrir yn briodol gan y Comisiynwyr.
Erthygl 16
Rhif y Plot | Arwynebedd, Disgrifiad a Lleoliad y Tir | Perchnogion neu Berchnogion Honedig | Prydleseion neu Brydleseion Honedig | Tenantiaid neu Denantiaid Honedig a Meddianwyr |
---|---|---|---|---|
1 | 16806.17 Metr Sgwâr Maes parcio, tirlunio, coed, prysglwyni, ffordd breifat, wal harbwr a gwaith carreg ar osgo, Ffôn BT, peiriant ATM HSBC | Comisiynwyr Harbwr Saundersfoot | BT Group plc | Mrs Rosemary Hayes Mr William T Cleevely Mr E J Codd Mr Phil Baker Enterprise Inns plc BT Group plc Mr a Mrs A M Williams (ar brydles) mewn perthynas â Bwyty'r Marina a mynedfa fflat Ms Janet Hilary Field a Mr Robert Dan Field mewn perthynas â hawliau mynediad ar gyfer Clwb Hwylio Saundersfoot Perchenogion Landfall Court mewn perthynas â hawliau mynediad ar gyfer Landfall Court, Mr a Mrs C James Ymddiriedolwyr Clwb Hwylio Saundersfoot |
2 | 566.2 Metr Sgwâr Wal Harbwr a gwaith carreg ar osgo | Comisiynwyr Harbwr Saundersfoot Comisiynwyr Ystad y Goron | Mrs Rosemary R Hayes Mr William T Cleevely Mr E J Codd Mr Phil Baker | |
3 | 67.75 Metr Sgwâr Swyddfa harbwr, caban manwerthu a phalmant | Comisiynwyr Harbwr Saundersfoot | Mr Clive Thomas a Mrs Jean Thomas Mrs Rosemary R Hayes Mr William T Cleevely Mr E J Codd Mr Phil Baker | |
4 | 584.71 Metr Sgwâr Llawr caled a ddefnyddir i storio cychod ac i barcio ceir | Comisiynwyr Harbwr Saundersfoot | Mr David Ford Mrs Rosemary R Hayes Mr William T Cleevely Mr E J Codd Mr Phil Baker | |
5 | 869.43 Metr Sgwâr Llawr caled i barcio dingis (Clwb Hwylio Saundersfoot) | Comisiynwyr Harbwr Saundersfoot | Ymddiriedolwyr Clwb Hwylio Saundersfoot | Mrs Rosemary R Hayes Mr William T Cleevely Mr E J Codd Mr Phil Baker Ymddiriedolwyr Clwb Hwylio Saundersfoot |
6 | 477.23 Metr Sgwâr Llithrfa'r harbwr | Comisiynwyr Harbwr Saundersfoot | Mrs Rosemary R Hayes Mr William T Cleevely Mr E J Codd Mr Phil Baker | |
7 | 1112.87 Metr Sgwâr Llawr caled a ddefnyddir i storio cychod ac i barcio ceir | Comisiynwyr Harbwr Saundersfoot | Mr David Ford Mrs Rosemary R Hayes Mr William T Cleevely Mr E J Codd Mr Phil Baker | |
8 | 2267.91 Metr Sgwâr Llifddorau harbwr | Comisiynwyr Harbwr Saundersfoot | Mrs Rosemary R Hayes Mr William T Cleevely Mr E J Codd Mr Phil Baker | |
9 | 16033 Metr Sgwâr Harbwr, waliau harbwr a gwaith carreg ar osgo | Comisiynwyr Harbwr Saundersfoot | Mrs Rosemary R Hayes Mr William T Cleevely Mr E J Codd Mr Phil Baker | |
10 | 198.87 Metr Sgwâr Adeilad clwb a lle newydd i barcio ceir (Clwb Hwylio Saundersfoot) | Comisiynwyr Harbwr Saundersfoot | Ymddiriedolwyr Clwb Hwylio Saundersfoot | Ymddiriedolwyr Clwb Hwylio Saundersfoot |
11 | 71.66 Metr Sgwâr Toiledau cyhoeddus | Comisiynwyr Harbwr Saundersfoot | Cyngor Sir Penfro | |
12 | 2988.7 Metr Sgwâr Clogwyn, wal clogwyn, coed, prysglwyni a thir | Comisiynwyr Harbwr Saundersfoot | Mrs Rosemary R Hayes Mr William T Cleevely Mr E J Codd Mr Phil Baker | |
13 | 252.1 Metr Sgwâr Llawr caled a ddefnyddir i storio cychod ac i barcio ceir | Comisiynwyr Harbwr Saundersfoot | Mr David Ford Mrs Rosemary R Hayes Mr William T Cleevely Mr E J Codd Mr Phil Baker | |
14 | 27.16 Metr Sgwâr Mangre, cyn-farchnad bysgod a ddefnyddir fel swyddfa docynnau ar gyfer cychod (pleser) masnachol | Comisiynwyr Harbwr Saundersfoot | Mr P Parker | |
15 | 105.13 Metr Sgwâr Llawr caled a ddefnyddir i storio cychod ac i barcio ceir | Comisiynwyr Harbwr Saundersfoot | Mr David Ford Mrs Rosemary R Hayes Mr William T Cleevely Mr E J Codd Mr Phil Baker | |
16 | 299.55 Metr Sgwâr Llawr caled a ddefnyddir i storio cychod ac i barcio ceir | Comisiynwyr Harbwr Saundersfoot | Mr David Ford Mrs Rosemary R Hayes Mr William T Cleevely Mr E J Codd Mr Phil Baker | |
17 | 39.58 Metr Sgwâr Llawr caled a lle i barcio ceir | Comisiynwyr Harbwr Saundersfoot | Mr Graham Thomas (Jones & Teague) Mrs Rosemary R Hayes Mr William T Cleevely Mr E J Codd Mr Phil Baker |
Erthygl 16
Erthygl 22
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
1. Mae'r Gorchymyn hwn yn ailgyfansoddi Comisiynwyr Harbwr Saundersfoot o 1 Hydref 2011 ymlaen. Mae'n darparu ar gyfer gwneud Comisiynwyr Harbwr Saundersfoot yn gorff o wyth o Gomisiynwyr sydd â phrofiad mewn materion perthnasol, dau ohonynt i'w penodi gan randdeiliaid allweddol a chwech gan banel penodiadau.
2. Mae'r Gorchymyn—
(a)yn galluogi'r Comisiynwyr i gaffael yn orfodol y tir a'r buddiannau yn Harbwr Saundersfoot;
(b) yn moderneiddio pwerau'r Comisiynwyr i—
(i)rheoli a rheoleiddio'r harbwr,
(ii)codi ffioedd llongau, ffioedd harbwr a ffioedd nwyddau,
(iii)rheoli gweithiau a charthu, a
(iv)benthyca a defnyddio arian;
(c)yn gwneud darpariaeth newydd ynglŷn â phenodi Comisiynwyr, eu hatebolrwydd a'r modd y cânt gynnal eu busnes;
(ch)yn sefydlu pwyllgor cynghori; ac
(d)yn dirymu'r ddeddfwriaeth gyfredol sy'n rheoleiddio'r harbwr, sef Gorchymyn Harbwr Saundersfoot, 1958 (O.S. 1958 Rhif 886).
3. Mae Atodlen 1 yn cynnwys datganiad derbyn swydd y Comisiynwyr.
4. Mae Atodlen 2 yn pennu darpariaethau cysylltiedig mewn perthynas â'r Comisiynwyr.
5. Disgrifir y tir y caiff y Comisiynwyr ei gaffael drwy orfodaeth yn Atodlen 3 i'r Gorchymyn hwn, a dangosir cynllun o'r tir hwnnw yn Atodlen 4 i'r Gorchymyn hwn.
6. Rhoddir map sy'n dangos terfynau Harbwr Saundersfoot yn Atodlen 5 i'r Gorchymyn hwn.
1964 p.40; diwygiwyd adran 16 gan Ddeddf Trafnidiaeth 1981 (p. 56), adran 18 ac Atodlen 6, paragraffau 3, 4(1) a 14, a chan Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992 (p.42), Atodlen 3, paragraff 2.
O.S. 1999 Rhif 672, fel y'i haddasir gan erthygl 4 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 (O.S. 2000 Rhif 253) ac Atodlen 3 iddo, ac fel y'i cymhwysir gan baragraff 26 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys