Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Cofrestru, Modrwyo a Marcio Adar Caeth Penodol) (Cymru) 2011

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 1653 (Cy.188)

BYWYD GWYLLT, CYMRU

Rheoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Cofrestru, Modrwyo a Marcio Adar Caeth Penodol) (Cymru) 2011

Gwnaed

5 Gorffennaf 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

7 Gorffennaf 2011

Yn dod i rym

1 Awst 2011

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 7(1) a (2) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Cofrestru, Modrwyo a Marcio Adar Caeth Penodol) (Cymru) 2011.

(2Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Awst 2011 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “cadw” (“keep”) yw cadw, meddu neu reoli;

  • ystyr “ceidwad” (“keeper”) yw'r person sy'n cadw, neu sy'n meddu ar, neu sydd â rheolaeth dros, aderyn;

  • ystyr “ceidwad cofrestredig” (“registered keeper”) mewn perthynas ag aderyn cofrestredig yw'r person sydd wedi ei gofrestru fel ceidwad yr aderyn yn y gofrestr sy'n cael ei chadw gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 3(1);

  • ystyr “cyfeiriad cofrestredig” (“registered address”) yw'r cyfeiriad sydd wedi ei gynnwys yn y gofrestr sy'n gael ei chadw gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 3(1);

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981; ac

  • ystyr “modrwy” (“ring”) yw unrhyw fodrwy neu fand ar gyfer modrwyo aderyn.

(2Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at aderyn y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo yn gyfeiriad at unrhyw aderyn a gynhwysir yn Atodlen 4 i'r Ddeddf ac y mae unrhyw berson yn ei gadw.

Cofrestru

3.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru, at ddibenion adran 7(1) o'r Ddeddf, gadw cofrestr o adar y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt ac sy'n cael eu cadw mewn cyfeiriadau yng Nghymru.

(2Rhaid i gais am gofrestriad gael ei wneud gan geidwad, neu ddarpar geidwad, yr aderyn y mae'r cais yn ymwneud ag ef ar ffurflen a geir oddi wrth Weinidogion Cymru.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i gais am gofrestriad gael ei gyflwyno ynghyd ag unrhyw ffi resymol y byddant wedi penderfynu arni o dan adran 7(2A) o'r Ddeddf(2).

(4Wedi i gais am gofrestriad ddod i law, rhaid i Weinidogion Cymru gynnwys yr wybodaeth berthnasol ar y gofrestr. Ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6).

(5Ni chaiff Gweinidogion Cymru gofrestru unrhyw aderyn y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo onid ydynt wedi eu bodloni bod yr aderyn wedi ei fodrwyo neu wedi ei farcio yn unol â rheoliad 6.

(6Caiff Gweinidogion Cymru wrthod gwneud cofnod yn y gofrestr mewn cysylltiad â chais hyd nes y bydd y ffi y cyfeirir ati ym mharagraff (3) o'r rheoliad hwn wedi ei thalu.

(7Wedi iddynt gael eu hysbysu'n unol â rheoliad 4(1)(ch)(ii) am newid yn y cyfeiriad lle y bydd aderyn cofrestredig yn cael ei gadw, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod y cyfeiriad newydd yn cael ei gofnodi ar y gofrestr fel y cyfeiriad cofrestredig ar gyfer yr aderyn hwnnw.

Terfynu

4.—(1Mae effaith cofrestriad yn peidio—

(a)pan fydd yr aderyn cofrestredig—

(i)yn marw;

(ii)yn dianc neu'n cael ei ryddhau i'r gwyllt;

(iii)yn cael ei waredu drwy ei werthu neu fel arall;

(iv)yn cael ei allforio o'r Deyrnas Unedig;

(b)pan dynnir ymaith y fodrwy neu'r marc y cyfeirir atynt yn rheoliad 6 neu pan ddaw'r wybodaeth adnabod sydd arnynt neu sydd wedi ei storio ynddynt yn annarllenadwy;

(c)pan fydd yr aderyn cofrestredig yn cael ei gadw gan berson heblaw ei geidwad cofrestredig, oni fwriedir, ar yr adeg y mae'r aderyn yn dechrau cael ei gadw felly, ei ddychwelyd i'w geidwad cofrestredig o fewn y cyfnod penodedig a bod yr aderyn yn cael ei ddychwelyd felly;

(ch)pan fydd yr aderyn cofrestredig yn cael ei gadw gan ei geidwad cofrestredig, ond yn peidio â chael ei gadw yn ei gyfeiriad cofrestredig—

(i)oni fwriedir ar yr adeg y mae'r aderyn yn dechrau cael ei gadw felly, ei ddychwelyd i'w gyfeiriad cofrestredig o fewn tair wythnos a bod yr aderyn yn cael ei ddychwelyd felly, neu

(ii)oni fydd Gweinidogion Cymru yn cael eu hysbysu'n ysgrifenedig yn unol â pharagraff (2) am y cyfeiriad newydd lle y bydd yr aderyn yn cael ei gadw.

(2Rhaid i'r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(ch)(ii)—

(i)cael ei wneud cyn i'r aderyn beidio â chael ei gadw yn y cyfeiriad cofrestredig; a

(ii)cynnwys y dyddiad o ba bryd y bydd yr aderyn yn cael ei gadw yn y cyfeiriad newydd.

(3Yn rheoliad 4(1)(c), ystyr “y cyfnod penodedig” (“the specified period”)—

(i)mewn amgylchiadau lle na fydd yr aderyn yn cael ei gadw'n barhaus yn ei gyfeiriad cofrestredig, yw cyfnod o dair wythnos; neu

(ii)mewn amgylchiadau lle y bydd yr aderyn yn cael ei gadw'n barhaus yn ei gyfeiriad cofrestredig, yw cyfnod o chwe wythnos.

Adar sydd wedi eu cofrestru ar gofrestr CITES

5.—(1Pan fo aderyn o rywogaeth sydd wedi ei rhestru yn yr Atodlen wedi ei gofrestru ar y gofrestr CITES, mae'n cael ei drin fel un sydd wedi ei gofrestru'n unol â'r Rheoliadau hyn at ddibenion adran 7(1) o'r Ddeddf.

(2Nid yw rheoliad 3 na pharagraffau (1)(a)(iii), (c) ac (ch) o reoliad 4 yn gymwys mewn cysylltiad ag adar sydd wedi eu cofrestru yn rhinwedd paragraff (1).

(3Yn y rheoliad hwn—

  • ystyr “CITES” (“CITES” ) yw'r Confensiwn ar y Fasnach Ryngwladol mewn Rhywogaethau Ffawna a Fflora Gwyllt mewn Perygl;

  • ystyr “cofrestr CITES” (“CITES register”) yw unrhyw gofrestr o adar y mae tystysgrif CITES wedi ei dyroddi mewn cysylltiad â hi;

  • ystyr “tystysgrif CITES” (“CITES certificate”) yw tystysgrif y cyfeirir ati yn Erthygl 10 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 338/97 ynghylch gwarchod rhywogaethau ffawna a fflora gwyllt drwy reoleiddio'r fasnach ynddynt(3) ac a ddyroddwyd gan yr awdurdod rheoli ar gyfer y Deyrnas Unedig(4).

Modrwyo a marcio

6.—(1Rhaid i bob aderyn y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo gael ei fodrwyo â modrwy a geir oddi wrth Weinidogion Cymru.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn cysylltiad ag adar sydd wedi eu marcio'n unol â'r gofynion ynghylch marcio sbesimenau yn Erthygl 66 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 865/2006 sy'n gosod rheolau manwl ynghylch gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 338/97 ar warchod rhywogaethau ffawna a fflora gwyllt drwy reoleiddio'r fasnach ynddynt(5).

(3Rhaid i unrhyw berson sy'n modrwyo aderyn o dan baragraff (1) gwblhau datganiad modrwyo ar ffurflen a geir oddi wrth Weinidogion Cymru a dychwelyd y ffurflen honno i Weinidogion Cymru.

7.    Dirymu

Mae'r offerynnau canlynol wedi eu dirymu—

(a)Rheoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Cofrestru, Modrwyo a Marcio Adar Caeth Penodol) (Cymru) 2003(6);

(b)Rheoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Cofrestru, Modrwyo a Marcio Adar Caeth Penodol) (Cymru) (Diwygio) 2009(7).

John Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru

5 Gorffennaf 2011

Rheoliad 5

YR ATODLENADAR Y MAE RHEOLIAD 5 YN GYMWYS IDDYNT

Enw cyffredinEnw gwyddonol
Cudyll bachFalco columbarius
Hebog tramorFalco peregrinus

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth o ran Cymru ynghylch y gofynion cofrestru a modrwyo neu farcio sy'n gymwys i adar a gynhwysir yn Atodlen 4 i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (“y Ddeddf”) at ddibenion adran 7(1) o'r Ddeddf. Mae adran 7(1) o'r Ddeddf yn darparu bod unrhyw berson sy'n cadw unrhyw aderyn a gynhwysir yn Atodlen 4, neu y mae aderyn o'r fath yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth, a hwnnw'n aderyn nad yw wedi ei gofrestru a'i fodrwyo neu ei farcio yn unol â rheoliadau, yn euog o dramgwydd.

Mae'r pŵer i wneud rheoliadau mewn perthynas â Chymru o dan adran 7 o'r Ddeddf yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Cofrestru, Modrwyo a Marcio Adar Caeth Penodol) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/3235 (Cy.315)) a Rheoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Cofrestru, Modrwyo a Marcio Adar Caeth Penodol) (Cymru) (Diwygio) 2009 (O.S. 2009/1733 (Cy.161)).

Mae rheoliad 3 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gadw cofrestr o'r adar sy'n cael eu cadw mewn cyfeiriadau yng Nghymru at ddibenion adran 7(1) o'r Ddeddf. Ni chaniateir i aderyn gael ei gofrestru gan Weinidogion Cymru onid ydynt wedi eu bodloni bod yr aderyn wedi ei fodrwyo neu ei farcio'n unol â rheoliad 6. Rhaid i gais am gofrestriad ar ffurflen a geir oddi wrth Weinidogion Cymru gael ei wneud gan geidwad neu ddarpar geidwad yr aderyn y mae'r cais yn ymwneud ag ef. Rhaid i Weinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol bod ffi yn dod gyda chais am gofrestriad a chânt wrthod gwneud cofnod yn y gofrestr mewn cysylltiad â chais hyd nes y bydd y ffi honno wedi ei thalu.

Mae rheoliad 4 yn manylu ar yr amgylchiadau y bydd cofrestriad yn peidio â chael effaith odanynt ac yn cael ei derfynu.

Mae rheoliad 5 yn darparu, pan fo cudyll bach neu hebog tramor wedi ei gofrestru yn y gofrestr o adar y mae tystysgrif, y cyfeirir ati yn Erthygl 10 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 338/97 ynghylch gwarchod rhywogaethau ffawna a fflora gwyllt drwy ddiogelu'r fasnach ynddynt (“Rheoliad y Cyngor”), wedi ei dyroddi mewn cysylltiad â hwy, ei fod yn cael ei drin fel aderyn sy'n gofrestredig at ddibenion adran 7(1) o'r Ddeddf.

Mae rheoliad 6 yn darparu bod rhaid i bob aderyn y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo gael ei fodrwyo â modrwy a geir oddi wrth Weinidogion Cymru onid yw wedi ei farcio'n unol â'r gofynion ynghylch marcio sbesimenau yn Erthygl 66 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 865/2006 sy'n gosod rheolau manwl ynghylch gweithredu Rheoliad y Cyngor.

Mae Rheoliad y Cyngor a Rheoliad y Comisiwn ill dau yn gweithredu'r Confensiwn ar y Fasnach Ryngwladol mewn Rhywogaethau Ffawna a Fflora Gwyllt mewn Perygl, y cyfeirir ato yn gyffredinol fel CITES.

Nid oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn.

(1)

1981. p.69. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol a gynhwysir yn adran 7 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddo. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, mae'r swyddogaethau hynny wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru.

(2)

Mewnosodwyd adran 7(2A) yn Neddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 gan adran 1(2) o Ddeddf Adar (Ffioedd Cofrestru) 1997 (p.55).

(3)

O.J. L 61, 3.3.1997, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwn ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 709/2010 (O.J. L 212, 12.8.2010, t.1).

(4)

Yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yw'r awdurdod rheoli ar gyfer y Deyrnas Unedig ar ôl cael ei ddynodi o dan Erthygl IX(1) o'r Confensiwn ar y Fasnach Ryngwladol mewn Rhywogaethau Ffawna a Fflora Gwyllt mewn Perygl i gyflawni'r swyddogaeth honno ac i roi trwyddedau neu dystysgrifau ar ran y Deyrnas Unedig yn unol â'r confensiwn hwnnw.

(5)

O.J. L 166, 19.6.2006, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwn ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 100/2008 (O.J. L 31, 5.2.2008, t.3).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill