- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Offerynnau Statudol Cymru
BWYD, CYMRU
Gwnaed
25 Gorffennaf 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
25 Gorffennaf 2011
Yn dod i rym
15 Awst 2011
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a) ac (c), 17(1) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) ac a freinir bellach ynddynt hwy(2).
Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, rhoesant sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3), ymgynghorwyd yn agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Toddyddion Echdynnu mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2011.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 15 Awst 2011.
2.—(1) Diwygir Rheoliadau Toddyddion Echdynnu mewn Bwyd 1993(4) yn unol â pharagraffau (2) a (3).
(2) Ar ddiwedd y tabl yn Atodlen 2 (bwydydd y ceir defnyddio ynddynt doddyddion echdynnu penodol, at ddibenion penodol yn unig), mewnosoder y cofnodion canlynol —
“Column 1 | Column 2 | Column 3 | Column 4 |
---|---|---|---|
10 Defatted protein products products | Dimethyl ether | Preparation of defatted animal protein | 0.009 mg/kg in the defatted protein products” |
(3) Ar ddiwedd y tabl yn Atodlen 3 (gweddillion uchaf o doddyddion echdynnu a ganiateir mewn bwydydd o ganlyniad i ddefnyddio, yn y bwydydd hynny, fwyd sy'n cynnwys cyflasynnau a baratowyd o ddeunyddiau cyflasu naturiol gan ddefnyddio'r toddyddion echdynnu hynny), mewnosoder y cofnodion canlynol—
“Column 1 | Column 2 |
---|---|
Methanol | 1.5 mg/kg |
Propan-2-ol | 1 mg/kg” |
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
25 Gorffennaf 2011
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Toddyddion Echdynnu mewn Bwyd 1993 (O.S. 1993/1658) er mwyn gweithredu yng Nghymru Gyfarwyddeb y Comisiwn 2010/59/EU sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2009/32/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau ynglŷn â thoddyddion echdynnu a ddefnyddir wrth gynhyrchu bwydydd a chynhwysion bwyd (OJ Rhif L225, 27.8.2010, t.10).
2. Yr hyn a gynhwysir yn y diwygiadau i Reoliadau 1993 yw—
(a)yn Atodlen 2, rhestru dimethyl ether fel toddydd echdynnu y caniateir ei ddefnyddio wrth baratoi cynhyrchion protein anifeiliaid a ddiseimiwyd (rheoliad 2(2)); a
(b)yn Atodlen 3 (sy'n ymwneud â defnyddio toddyddion echdynnu wrth baratoi cyflasynnau naturiol), cynnwys methanol a propanol-2-ol, gan ragnodi terfynau gweddilliol cysylltiedig (rheoliad 2(3)).
3. Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni thybiwyd bod angen cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o gostau a buddion tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn.
1990 p.16. Amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (diffiniad o “food”) gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adrannau 16, 17 a 48 gan adran 40(1) o Deddf Safonau Bwyd 1999 (p.28) (“Deddf 1999”) a paragraffau 7 ac 8 iddi. Diwygiwyd adran 17 hefyd gan baragraff 12(a) o Atodlen 5 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 48 hefyd gan baragraff 21 o Atodlen 5 i Deddf 1999 ac OS 2004/2990.
Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 fel y'i darllenir ynghyd ag adran 40(3) o Ddeddf 1999 a throsglwyddwyd hwy wedyn i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32).
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n addasu nifer o offerynnau sydd yn ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o'r Cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/468/EC mewn perthynas â'r weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu: Addasu'r weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu — Rhan Pedwar (OJ Rhif L188, 18.7.2009, t.14).
O.S. 1993/1658. Diwygiwyd y Rheoliadau hyn gan O.S. 1995/1440, O.S. 1998/2257 ac, mewn perthynas â Chymru, gan O.S. 2005/3254 (Cy. 247).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys