- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Rheoliad 1
Y Rheoliadau a ddirymwyd | Cyfeirnodau | Rhychwant y dirymu |
---|---|---|
Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) 2004 | O.S. 2004/1026 (Cy.123) | Y rheoliadau cyfan |
Rheoliadau'r Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2) (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2004 | O.S. 2004/2914 (Cy.253) | Rheoliad 5 |
Rheoliadau Trefniadau Asesu y Cwricwlwm Cenedlaethol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2005 | O.S. 2005/1396 (Cy.110) | Rheoliad 5 |
Gorchymyn Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu'r Awdurdod) 2005 | O.S. 2005/3239 (Cy.244) | Paragraff 13 o Atodlen 2 |
Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) (Diwygio) 2007 | O.S. 2007/3563 (Cy.313) | Y rheoliadau cyfan |
Rheoliadau Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2010 | O.S. 2010/2431 (Cy. 209) | Rheoliad 7 |
Rheoliad 6
1. Yr wybodaeth ganlynol am y disgybl—
(a)rhif unigryw disgybl;
(b)rhif unigryw dysgwr, os yw'n hysbys;
(c)cyfenw;
(ch)enw(au) cyntaf;
(d)dyddiad geni;
(dd)rhyw;
(e)grŵp ethnig;
(f)hunaniaeth genedlaethol;
(ff)pwy a ddarparodd yr wybodaeth am grŵp ethnig y disgybl;
(g)iaith gyntaf y disgybl;
(ng)pa mor rhugl yw'r disgybl yn y Gymraeg;
(h)a yw'r disgybl yn siarad Cymraeg gartref neu beidio;
(i)pwy a ddarparodd yr wybodaeth am ba mor rhugl yw'r disgybl yn y Gymraeg ac a yw'r disgybl yn siarad Cymraeg gartref; ac
(j)a yw'r disgybl, yn unol ag adrannau 512(3) a 512ZB o Ddeddf 1996(1), wedi gwneud cais ac a gafwyd ei fod yn gymwys i gael prydau am ddim yn yr ysgol.
2. Pan fo'r disgybl yn dysgu Saesneg fel iaith ychwanegol, datganiad cryno am lefel ddysgu'r disgybl o'i asesu yn erbyn y lefelau cyflawniad canlynol—
(a)“Newydd i Saesneg” (“New to English”);
(b)“Wedi Dysgu'n Ifanc” (“Early Acquisition”);
(c)“Wedi Magu Cymhwysedd” (“Developing Competence”);
(ch)“Cymwys” (“Competent”); neu
(d)“Rhugl” (“Fluent”).
3. A oes gan y disgybl anghenion addysgol arbennig ac, os felly, cadarnhad o'r canlynol—
(a)prif angen y disgybl ac unrhyw angen eilaidd a nodwyd;
(b)y math o ddarpariaeth AAA sy'n rhan o'r ymagwedd raddedig a fabwysiadwyd yn unol â “Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru”(2), a ddyroddwyd o dan adran 313 o Ddeddf 1996 sy'n cael ei gwneud ar gyfer y disgybl hwnnw; ac
(c)y cymorth sy'n cael ei roi.
4. Pan fo'r disgybl yn blentyn sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol, y ffaith honno ac enw'r awdurdod lleol hwnnw.
5. Manylion y cyfeiriad lle mae'r disgybl yn preswylio fel rheol.
6. Cyfenw o leiaf un person cyswllt a manylion ei berthynas â'r disgybl.
7. Dangosydd bod gwybodaeth feddygol yn bodoli a allai fod yn berthnasol i ysgol newydd y disgybl.
8. Cyfanswm—
(a)y sesiynau yn y flwyddyn ysgol hyd at y dyddiad y mae'r disgybl yn peidio â bod yn gofrestredig yn yr hen ysgol;
(b)y sesiynau yn y flwyddyn ysgol a fynychwyd gan y disgybl; ac
(c)absenoldebau awdurdodedig ac absenoldebau anawdurdodedig y disgybl (o fewn ystyr Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010(3)) yn y flwyddyn ysgol.
9. Y rhif ALl a'r rhif ysgol ar gyfer yr hen ysgol yn ogystal â'r ysgol newydd.
Rhoddwyd adrannau 512 a 512ZB, ynghyd ag adran 512ZA, yn lle adran 512 fel y'i deddfwyd yn wreiddiol gan Ddeddf Addysg 2002 (p.32), adran 201(1). Mewnosodwyd adran 512ZB(4)(a)(iia) gan Atodlen 3, paragraff 16(1) a (3) o Ddeddf Diwygio Lles 2007 (p.5) a diwygiwyd adrannau 512 a 512ZB ymhellach gan O.S. 2010/1158. Diddymwyd adran 512ZB(4)(a)(i) gan Ddeddf Diwygio Lles 2009 (p.24), Rhan 1 o Atodlen 7. Diwygiwyd adran 512ZB(4) gan Ddeddf Tlodi Plant 2010 (p.9), adran 26(1)(b), (c) a (d).
ISBN 0750427574.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys