Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Llifogydd ac Erydu Arfordirol Atodol (Cymru) 2011

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 2829 (Cy.302)

DIOGELU'R ARFORDIR, CYMRU

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

RHEOLI PERYGL LLIFOGYDD, CYMRU

Gorchymyn Llifogydd ac Erydu Arfordirol Atodol (Cymru) 2011

Gwnaed

22 Tachwedd 2011

Yn dod i rym

1 Rhagfyr 2011

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 38(8) a 39(12) o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010(1) yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Gosodwyd drafft o'r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad yn unol ag adrannau 38(9)(b) a 39(13)(b) o'r Ddeddf honno.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Llifogydd ac Erydu Arfordirol Atodol (Cymru) 2011; mae'n gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 1 Rhagfyr 2011.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

(a)ystyr “Deddf 1991” (“the 1991 Act”) yw Deddf Adnoddau Dŵr 1991(2); a

(b)ystyr “Deddf 2010” (“the 2010 Act”) yw Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010.

Cymhwyso'r darpariaethau prynu gorfodol i adran 38 o Ddeddf 2010

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), mae adran 154 o Ddeddf 1991(3) yn gymwys at ddibenion adran 38 o Ddeddf 2010 fel petai'r swyddogaethau y cyfeirir atynt yn adran 154(1) o Ddeddf 1991 yn cynnwys swyddogaethau o dan adran 38 o Ddeddf 2010.

(2Mae adran 157 o Ddeddf 1991(4) yn gymwys at ddibenion adran 38 o Ddeddf 2010 fel petai'r canlynol wedi eu gwneud—

(a)bod adran 157(2)(b) wedi ei hepgor;

(b)bod y cyfeiriad yn adran 157(6)(a) at orchymyn o dan adran 168 wedi ei hepgor; a

(c)bod adran 157(6)(c) i (e) wedi ei hepgor.

(3Ni chaiff awdurdodiad ei roi i Asiantaeth yr Amgylchedd o dan adran 154 o Ddeddf 1991, fel y'i cymhwysir gan baragraff (1), ond at y dibenion o alluogi'r Deyrnas Unedig i gydymffurfio â'i rhwymedigaethau o dan y canlynol—

(a)y Gyfarwyddeb Cynefinoedd mewn perthynas ag unrhyw gamau a mesurau o dan Erthygl 6 o'r Gyfarwyddeb honno neu bolisïau o dan Erthygl 10 o'r Gyfarwyddeb honno;

(b)y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr mewn perthynas ag unrhyw amcanion amgylcheddol; neu

(c)y Gyfarwyddeb Adar Gwyllt mewn perthynas ag unrhyw gamau a mesurau o dan Erthyglau 2, 3 neu 4 o'r Gyfarwyddeb honno.

(4Yn yr erthygl hon—

(a)mae i “amcanion amgylcheddol” yr un ystyr ag “environmental objectives” yn y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr;

(b)ystyr “y Gyfarwyddeb Cynefinoedd” (“the Habitats Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC ar gadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt(5);

(c)ystyr “y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr” (“the Water Framework Directive”) yw Cyfarwyddeb 2000/60/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n sefydlu fframwaith ar gyfer gweithredu ym maes polisi dŵr(6); a

(ch)ystyr “y Gyfarwyddeb Adar Gwyllt” (“the Wild Birds Directive”) yw Cyfarwyddeb 2009/147/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gadwraeth adar gwyllt(7).

Cymhwyso'r darpariaethau prynu gorfodol i adran 39 o Ddeddf 2010

4.—(1Mae adran 154 o Ddeddf 1991 yn gymwys at ddibenion adran 39 o Ddeddf 2010 fel petai'r canlynol wedi eu gwneud—

(a)bod y geiriau “A local authority” wedi eu rhoi yn lle'r geiriau “The Agency” lle y maent yn ymddangos am y tro cyntaf yn adran 154(1);

(b)bod y swyddogaethau y cyfeirir atynt yn adran 154(1) yn cynnwys swyddogaethau o dan adran 39 o Ddeddf 2010;

(c)bod y geiriau “the local authority” wedi eu rhoi yn lle'r geiriau “the Agency”—

(i)yn y man lle y maent yn ymddangos am yr eildro yn adran 154(1);

(ii)yn y man lle y maent yn ymddangos yn adran 154(2), (3) a (4); a

(iii)yn y man lle y maent yn ymddangos am yr ail a'r trydydd tro yn adran 154(6); ac

(ch)mae i “local authority” yr ystyr a roddir iddo yn adran 39(6) o Ddeddf 2010.

(2Mae adran 157 o Ddeddf 1991 yn gymwys at ddibenion adran 39 o Ddeddf 2010 fel petai'r canlynol wedi eu gwneud—

(a)bod y geiriau “A local authority” wedi eu rhoi yn lle'r geiriau “The Agency” lle y maent yn ymddangos yn adran 157(1);

(b)bod y geiriau “the local authority” wedi eu rhoi yn lle'r geiriau “the Agency” lle y maent yn ymddangos yn adran 157(2)(a) a (6);

(c)bod adran 157(2)(b) wedi ei hepgor;

(ch)bod y cyfeiriad yn adran 157(6)(a) at orchymyn o dan adran 168 wedi ei hepgor;

(d)bod adran 157(6)(c) i (e) wedi ei hepgor; ac

(dd)bod i “local authority” yr ystyr a roddir iddo yn 39(6) o Ddeddf 2010.

Cymhwyso'r darpariaethau pŵer mynediad i adran 38 o Ddeddf 2010

5.—(1Mae adran 170 o Ddeddf 1991(8) yn gymwys at ddibenion adran 38 o Ddeddf 2010 fel petai'r cyfeiriad yn is-adran (4) at unrhyw bŵer a roddwyd gan unrhyw un neu ragor o'r darpariaethau yn adrannau 159, 160, 162(2) a (3) a 163 o Ddeddf 1991 yn gyfeiriad at unrhyw bŵer a roddwyd gan adran 38 o Ddeddf 2010.

(2Mae adran 171 o Ddeddf 1991(9) yn gymwys at ddibenion adran 38 o Ddeddf 2010 fel petai'r canlynol wedi eu gwneud—

(a)bod y swyddogaethau y cyfeirir atynt yn adran 171(2)(a) yn cynnwys swyddogaethau o dan adran 38 o Ddeddf 2010; a

(b)bod adran 171(2)(b) wedi ei hepgor.

(3Mae Atodlen 20 i Ddeddf 1991(10) yn gymwys at ddibenion adran 38 o Ddeddf 2010 fel petai'r canlynol wedi eu gwneud—

(a)bod y cyfeiriadau ym mharagraffau 1 a 2(1)(a) at bwerau a roddwyd gan adrannau 169 i 172 o Ddeddf 1991 yn gyfeiriadau at bwerau a roddwyd gan adran 170 neu 171 o Ddeddf 1991 fel y'u cymhwysir gan yr erthygl hon;

(b)bod y geiriau “the premises in question are on agricultural land,” wedi eu mewnosod ar ôl “where” ym mharagraff 1(2);

(c)bod y cyfeiriad ym mharagraff 1(3) at y pŵer a roddwyd gan adran 170 o Ddeddf 1991 yn gyfeiriad at y pŵer hwnnw fel y'i cymhwysir gan yr erthygl hon;

(ch)bod y cyfeiriad ym mharagraff 2(4) at y pŵer a roddwyd gan adran 171 o Ddeddf 1991 yn gyfeiriad at y pŵer hwnnw fel y'i cymhwysir gan yr erthygl hon;

(d)bod cyfeiriadau at bŵer y mae Atodlen 20 yn gymwys iddo yn gyfeiriadau at unrhyw bŵer a roddwyd gan adran 170 neu 171 o Ddeddf 1991 fel y'u cymhwysir gan yr erthygl hon, gan gynnwys pŵer sy'n arferadwy yn rhinwedd gwarant o dan Atodlen 20;

(dd)bod paragraff 8(2) wedi ei hepgor; ac

(e)bod i “agricultural land” yr ystyr a roddir iddo yn adran 145 o Ddeddf 1991.

Cymhwyso'r darpariaethau pŵer mynediad i adran 39 o Ddeddf 2010

6.—(1Mae adran 170 o Ddeddf 1991 yn gymwys at ddibenion adran 39 o Ddeddf 2010 fel petai'r canlynol wedi eu gwneud—

(a)bod y geiriau “a local authority” wedi eu rhoi yn lle'r geiriau “the Agency”—

(i)lle y maent yn ymddangos yn adran 170(1); a

(ii)lle y maent yn ymddangos am y tro cyntaf yn adran 170(3);

(b)bod y geiriau “the local authority” wedi eu rhoi yn lle'r geiriau “the Agency”—

(i)lle y maent yn ymddangos yn adran 170(2); a

(ii)lle y maent yn ymddangos am yr eildro yn adran 170(3);

(c)bod y cyfeiriad yn is-adran (4) at unrhyw bŵer a roddwyd gan unrhyw un neu ragor o'r darpariaethau yn adrannau 159, 160, 162(2) a (3) a 163 o Ddeddf 1991 yn gyfeiriad at unrhyw bŵer a roddwyd gan adran 39 o Ddeddf 2010; ac

(ch)bod i “local authority” yr ystyr a roddir iddo yn adran 39(6) o Ddeddf 2010.

(2Mae adran 171 o Ddeddf 1991 yn gymwys at ddibenion adran 39 o Ddeddf 2010 fel petai'r canlynol wedi eu gwneud—

(a)bod y geiriau “a local authority” wedi eu rhoi yn lle'r geiriau “the Agency” lle y maent yn ymddangos yn adran 171(1);

(b)bod y geiriau “the local authority” wedi eu rhoi yn lle'r geiriau “the Agency” lle y maent yn ymddangos yn adran 171(2)(a) a (3)(c);

(c)bod y swyddogaethau y cyfeirir atynt yn adran 171(2)(a) yn cynnwys swyddogaethau o dan adran 39 o Ddeddf 2010;

(ch)bod adran 171(2)(b) wedi ei hepgor; a

(d)bod i “local authority” yr ystyr a roddir iddo yn adran 39(6) o Ddeddf 2010.

(3Mae Atodlen 20 i Ddeddf 1991 yn gymwys at ddibenion adran 39 o Ddeddf 2010 fel petai'r canlynol wedi eu gwneud—

(a)bod y cyfeiriadau ym mharagraffau 1 a 2(1)(a) at bwerau a roddwyd o dan adrannau 169 i 172 o Ddeddf 1991 yn gyfeiriadau at bwerau a roddwyd gan adran 170 neu 171 o Ddeddf 1991 fel y'u cymhwysir gan yr erthygl hon;

(b)bod y geiriau “the premises in question are on agricultural land,” wedi eu mewnosod ar ôl “where” ym mharagraff 1(2);

(c)bod y cyfeiriad ym mharagraff 1(3) at y pŵer a roddwyd gan adran 170 o Ddeddf 1991 yn gyfeiriad at y pŵer hwnnw fel y'i cymhwysir gan yr erthygl hon;

(ch)bod y cyfeiriad ym mharagraff 2(4) at y pŵer a roddwyd gan adran 171 o Ddeddf 1991 yn gyfeiriad at y pŵer hwnnw fel y'i cymhwysir gan yr erthygl hon;

(d)bod cyfeiriadau at bŵer y mae Atodlen 20 yn gymwys iddo yn gyfeiriadau at unrhyw bŵer a roddwyd gan adran 170 neu 171 o Ddeddf 1991 fel y'u cymhwysir gan yr erthygl hon, gan gynnwys pŵer sy'n arferadwy yn rhinwedd gwarant o dan Atodlen 20;

(dd)bod y geiriau “a local authority” wedi eu rhoi yn lle “the Agency” ym mharagraffau 6(3)(b) ac 8;

(e)bod paragraff 8(2) wedi ei hepgor;

(f)bod i “agricultural land” yr ystyr a roddir iddo yn adran 145 o Ddeddf 1991; ac

(ff)bod i “local authority” yr ystyr a roddir iddo yn adran 39(6) o Ddeddf 2010.

Cymhwyso'r darpariaethau iawndal i adran 38 o Ddeddf 2010

7.  Mae is-baragraffau (1) a (2) o baragraff 5 o Atodlen 21 i Ddeddf 1991(11) yn gymwys at ddibenion adran 38 o Ddeddf 2010 fel petai'r cyfeiriadau at y pwerau o dan adran 165(1) i (3) o Ddeddf 1991 yn gyfeiriad at bwerau o dan adran 38 o Ddeddf 2010.

Cymhwyso'r darpariaethau iawndal i adran 39 o Ddeddf 2010

8.  Mae is-baragraffau (1) a (2) o baragraff 5 o Atodlen 21 i Ddeddf 1991 yn gymwys at ddibenion adran 39 o Ddeddf 2010 fel petai'r canlynol wedi eu gwneud—

(a)bod y geiriau “a local authority” wedi eu rhoi yn lle'r geiriau “the Agency” lle y maent yn ymddangos am y tro cyntaf;

(b)bod y geiriau “the local authority” wedi eu rhoi yn lle'r geiriau “the Agency” lle y maent yn ymddangos am yr eildro;

(c)bod y cyfeiriad at bwerau o dan adran 165(1) i (3) o Ddeddf 1991 yn gyfeiriad at bwerau o dan adran 39 o Ddeddf 2010; ac

(ch)bod i “local authority” yr ystyr a roddir iddo yn adran 39(6) o Ddeddf 2010.

John Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru

22 Tachwedd 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn ymwneud â phwerau Asiantaeth yr Amgylchedd ac awdurdodau lleol mewn perthynas â gwaith llifogydd ac erydu arfordirol atodol o dan adrannau 38 a 39, yn eu tro, o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (p.29). Mae'r adrannau hynny yn galluogi Asiantaeth yr Amgylchedd ac awdurdodau lleol i wneud gwaith penodol er budd gwarchod natur, cadwraeth treftadaeth ddiwylliannol neu fwynhad pobl o'r amgylchedd neu dreftadaeth ddiwylliannol.

Mae'r Gorchymyn hwn yn cymhwyso'r darpariaethau perthnasol o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991 (p.57) sy'n ymwneud â phrynu gorfodol, pwerau mynediad a iawndal i arfer y pwerau o dan adrannau 38 a 39.

Mae hefyd yn addasu cymhwysiad y darpariaethau hynny at ddibenion adran 38 fel—

(a)na all Asiantaeth yr Amgylchedd arfer y pwerau prynu gorfodol ond at y diben o alluogi'r Deyrnas Unedig i gydymffurfio â'i rhwymedigaethau o dan Gyfarwyddebau UE penodol a enwyd;

(b)bod rhaid i Asiantaeth yr Amgylchedd a'r awdurdodau lleol roi 7 niwrnod o rybudd cyn arfer eu pwerau mynediad mewn perthynas â thir amaethyddol (ac eithrio mewn argyfwng).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o'r costau a'r buddiannau sy'n debygol o ddeillio o gydymffurfio â'r Gorchymyn hwn. Mae copi ar gael gan: Is-adran Mannau Cynaliadwy, Adran yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ

(1)

2010 p.29; mae'r pŵer yn cael ei roi gan adrannau 38(8) a 39(12) o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 i “the Minister”, ac mae adrannau 38(10) a 39(14) o'r Ddeddf honno yn diffinio “the Minister” at ddibenion yr adrannau hyn.

(3)

Mae adran 154 wedi ei diwygio gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25), adran 120 ac Atodlen 22, paragraffau 128 a 157. Rhoddwyd y swyddogaethau i'r Gweinidogion, sydd wedi eu diffinio yn adran 222(1) o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991 fel yr Ysgrifennydd Gwladol a'r Gweinidog. Trosglwyddwyd swyddogaethau perthnasol yr Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672). Mae'r swyddogaethau hynny, bellach, yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(4)

Mae adran 157 wedi ei diwygio gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995, adran 120 ac Atodlen 22, paragraffau 128 a 159. Rhoddwyd y swyddogaethau i'r Gweinidogion, sydd wedi eu diffinio yn adran 222(1) o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991 fel yr Ysgrifennydd Gwladol a'r Gweinidog. Trosglwyddwyd swyddogaethau perthnasol yr Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672). Mae'r swyddogaethau hynny, bellach, yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(5)

OJ Rhif L 206, 22.7.1992, t.7, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2006/105/EC (OJ Rhif L 363, 20.12.2006, t.368).

(6)

OJ Rhif L 327, 22.12.2000, t.1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2009/31/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar storio daearegol carbon deuocsid (OJ Rhif L 140, 5.6.2009, t.114).

(7)

OJ Rhif L 20, 26.1.2010, t.7.

(8)

Mae adran 170 wedi ei diwygio gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995, adran 120 ac Atodlen 22, paragraff 128.

(9)

Mae adran 171 wedi ei diwygio gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995, adran 120 ac Atodlen 22, paragraff 128. Trosglwyddwyd swyddogaethau perthnasol yr Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672). Mae'r swyddogaethau hynny, bellach, yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(10)

Mae Atodlen 20 wedi ei diwygio gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995, adran 120 ac Atodlen 22, paragraff 128 ac 188, ac O.S. 2009/1307. Trosglwyddwyd swyddogaethau perthnasol yr Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672). Mae'r swyddogaethau hynny, bellach, yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(11)

Mae is-baragraffau (1) a (2) o baragraff 5 o Atodlen 21 wedi eu diwygio gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995, adran 120 ac Atodlen 22, paragraff 128, ac O.S. 2009/1307. Trosglwyddwyd swyddogaethau perthnasol yr Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672). Mae'r swyddogaethau hynny, bellach, yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill