- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
GWASANAETHAU TÅN AC ACHUB, CYMRU
Gwnaed
21 Chwefror 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1 Mawrth 2011
Yn dod i rym
1 Ebrill 2011
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 8(1) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009(1), ac ar ôl ymgynghori â'r personau hynny y mae'n ofynnol arnynt, gan adran 8(3) o'r Mesur hwnnw, i ymgynghori â hwy, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Tân ac Achub (Dangosyddion Perfformiad) (Cymru) 2011.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran awdurdodau tân ac achub yng Nghymru, a daw i rym ar 1 Ebrill 2011.
2. Mae'r dangosyddion perfformiad y bydd perfformiad pob awdurdod tân ac achub yng Nghymru'n cael ei fesur yn eu herbyn wrth iddo ymarfer ei swyddogaethau yn cael eu pennu drwy hyn yn yr Atodlen.
Carl Sargeant
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
21 Chwefror 2011
Erthygl 2
Cyfeirnod | Dangosydd |
---|---|
FRS/RRC/S/001 | (i)Cyfanswm y tanau yr aethpwyd atynt, fesul 10,000 o'r boblogaeth; (ii)Cyfanswm y prif danau yr aethpwyd atynt, fesul 10,000 o'r boblogaeth; (iii)Cyfanswm y tanau yr aethpwyd atynt a oedd wedi eu cynnau drwy ddamwain mewn anheddau, fesul 10,000 o anheddau; (iv)Cyfanswm y tanau yr aethpwyd atynt a oedd wedi eu cynnau'n fwriadol, fesul 10,000 o'r boblogaeth. |
FRS/RRC/S/002 | Nifer y: (i) Marwolaethau a achoswyd gan danau, fesul 100,000 o'r boblogaeth; (ii) Marwolaethau a achoswyd gan danau a oedd wedi eu cynnau drwy ddamwain, fesul 100,000 o'r boblogaeth; (iii) Marwolaethau a achoswyd gan danau a oedd wedi eu cynnau'n fwriadol, fesul 100,000 o'r boblogaeth; (iv) Anafiadau (ac eithrio archwiliadau rhagofalus) a ddeilliodd o danau, fesul 100,000 o'r boblogaeth; (v) Anafiadau (ac eithrio archwiliadau rhagofalus) a ddeilliodd o danau a oedd wedi eu cynnau drwy ddamwain, fesul 100,000 o'r boblogaeth; (vi) Anafiadau (ac eithrio archwiliadau rhagofalus) a ddeilliodd o danau a oedd wedi eu cynnau'n fwriadol, fesul 100,000 o'r boblogaeth. |
FRS/RRC/S/003 | Cyfanswm y tanau mewn mangreoedd annomestig, fesul 1,000 o fangreoedd annomestig. |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu, o ran Cymru, ddangosyddion perfformiad y bydd perfformiad awdurdodau tân ac achub, wrth iddynt ymarfer eu swyddogaethau, yn cael eu mesur yn eu herbyn o 1 Ebrill 2011 ymlaen.
Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn pennu bod y dangosyddion perfformiad wedi eu nodi yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
Mae asesiad effaith reoleiddiol wedi ei baratoi mewn cysylltiad â'r Gorchymyn hwn, a gellir cael copi gan Y Gangen Gwasanaethau Tân ac Achub, Yr Is-adran Diogelwch Cymunedol, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Rhydycar, Merthyr Tudful, CF48 1UZ (ffôn 01685 729221).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys
The data on this page is available in the alternative data formats listed: