- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
TRWYDDEDU (MOROL), CYMRU
LLYGREDD MOROL, CYMRU
Gwnaed
25 Chwefror 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1 Mawrth 2011
Yn dod i rym
6 Ebrill 2011
Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod trwyddedu priodol o dan adran 113(4)(b) o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009(1), yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 74(1), (2) a (3) a 316(1) o'r Ddeddf honno, a chan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2).
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas ag atal, lleihau a rheoli gwastraff(3).
Wrth benderfynu gwneud y Gorchymyn hwn, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i'r materion a grybwyllir yn adran 74(4) o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009.
Mae Gweinidogion Cymru wedi cynnal ymgynghoriad yn unol ag adran 74(5) o'r Ddeddf honno.
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 6 Ebrill 2011.
2. Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw weithgaredd morol trwyddedadwy y mae Gweinidogion Cymru yn awdurdod trwyddedu priodol ar ei gyfer o dan adran 113 o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009(4).
3. Yn y Gorchymyn hwn—
mae i “awdurdod harbwr” (“harbour authority”) yr ystyr a roddir i “harbour authority” yn adran 57(1) o Ddeddf Harbyrau 1964(5);
ystyr “awdurdod goleudy” (“lighthouse authority”) yw awdurdod goleudy cyffredinol neu awdurdod goleudy lleol o fewn ystyron “general lighthouse authority” a “local lighthouse authority”, yn eu trefn, yn Rhan 8 o Ddeddf Llongau Masnach 1995(6);
ystyr “awdurdod trwyddedu” (“licensing authority”) yw Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod trwyddedu priodol o dan adran 113(4)(b) o'r Ddeddf;
mae i “cynllun neu brosiect” (“plan or project”) yr ystyr a roddir i “plan or project” yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC ar gadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt(7);
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009;
mae i “gwaredu” (“disposal”) yr ystyr a roddir i “disposal” yn Erthygl 3 o'r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff;
ystyr “gwastraff” (“waste”) yw unrhyw beth—
sy'n wastraff o fewn yr ystyr a roddir i “waste” yn Erthygl 3(1) o'r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff, fel y'i darllenir ynghyd ag Erthygl 5(1) o'r Gyfarwyddeb honno, a
nad yw wedi ei eithrio o briod faes y Gyfarwyddeb honno gan Erthygl 2(1), (2) neu (3) o'r Gyfarwyddeb honno;
ystyr “gweithgaredd” (“activity”) yw gweithgaredd morol trwyddedadwy(8);
mae i “gweithgaredd esempt” (“exempt activity”) yr ystyr a roddir gan erthygl 4;
mae “gweithred bysgota” (“fishing operation”) yn cynnwys pysgota am bysgod cregyn neu gymryd pysgod cregyn, ond nid yw'n cynnwys gweithgaredd sy'n ymwneud â lledaenu neu fagu pysgod cregyn;
ystyr “y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff” (“the Waste Framework Directive”) yw Cyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar wastraff (9);
mae “pysgod cregyn” (“shellfish”) yn cynnwys cramenogion a molysgiaid o unrhyw fath ac unrhyw ran o bysgodyn cragen;
ystyr “safle Ewropeaidd” (“European site”) yw—
safle Ewropeaidd o fewn yr ystyr a roddir i “European site” yn rheoliad 8(1) o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010(10); a
safle morol alltraeth Ewropeaidd, o fewn yr ystyr a roddir i “European offshore marine site” yn rheoliad 15 o Reoliadau Cadwraeth Forol Alltraeth (Cynefinoedd Naturiol etc) 2007(11);
mae i “safle Ramsar” (“Ramsar site”) yr ystyr a roddir i “Ramsar site” yn adran 37A o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(12).
4.—(1) Nid oes angen trwydded forol ar gyfer gweithgaredd a ymgymerir yng Nghymru neu yn rhanbarth glannau Cymru, sy'n weithgaredd esempt.
(2) Mae gweithgaredd yn weithgaredd esempt i'r graddau—
(a)y bo'n weithgaredd y mae'r erthygl hon yn gymwys iddo(13); a
(b)pan fo cymhwysedd yr erthygl hon i weithgaredd yn ddarostyngedig i amod a bennir yn Rhan 3, y bo'r amod hwnnw wedi ei fodloni mewn perthynas â'r gweithgaredd hwnnw.
(3) Ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff (4) ac erthygl 5.
(4) Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn sy'n gwneud gweithgaredd yn weithgaredd esempt i'r graddau y bo ymgymryd â'r gweithgaredd yn groes i gyfraith ryngwladol.
5.—(1) Nid yw gweithgaredd gan sefydliad neu ymgymeriad sy'n ymwneud â gwaredu neu adfer gwastraff yn weithgaredd esempt, oni fodlonir yr amodau yn yr erthygl hon.
(2) Amod 1 yw fod y sefydliad neu ymgymeriad yn ymgymryd ag—
(a)gwaredu ei wastraff amheryglus ei hunan yn y man cynhyrchu; neu
(b)adfer gwastraff.
(3) Amod 2 yw fod y math a'r maint o wastraff sydd dan sylw, a'r dull o waredu neu adfer, yn gyson â'r angen i gyrraedd yr amcanion a grybwyllir yn Erthygl 13 o'r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff.
(4) Amod 3 yw fod y sefydliad neu ymgymeriad wedi ei gofrestru gyda'r awdurdod trwyddedu.
(5) Rhaid i'r awdurdod trwyddedu at ddibenion paragraff 4, gadw cofrestr sy'n cynnwys enw a chyfeiriad pob sefydliad neu ymgymeriad sy'n ymgymryd â gweithgaredd esempt sy'n cynnwys gwaredu neu adfer gwastraff o fewn ardal yr awdurdod trwyddedu.
(6) Ceir cadw'r gofrestr mewn unrhyw ffurf.
(7) Yn yr erthygl hon—
(a)mae i “sefydliad” ac “ymgymeriad”, yn eu trefn, yr ystyron a roddir i “establishment” ac “undertaking” yn erthyglau 23 a 24 o'r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff;
(b)mae i “gwastraff amheryglus” yr ystyr a roddir i “non-hazardous waste” yn y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff;
(c)mae i “adfer” yr ystyr a roddir i “recovery” yn Erthygl 3 o'r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff.
6.—(1) Yn y Rhan hon, mae cyfeiriad at eitem â rhif yn gyfeiriad at yr eitem â'r rhif hwnnw yn adran 66(1) o'r Ddeddf.
(2) Yn Rhan hon—
(a)mae cyfeiriad at “ddyddodiad” yn gyfeiriad at ddyddodiad sy'n dod o fewn eitem 1 (dyddodion o fewn ardal drwyddedu forol y DU etc), eitem 2 (dyddodion o longau etc Prydeinig mewn unrhyw fan ar y môr etc), eitem 3 (dyddodiad o gerbyd, llong etc a lwythwyd yn y Deyrnas Unedig ac eithrio'r Alban neu ardal drwyddedu forol y DU) neu, ac eithrio pan ddarperir fel arall, eitem 10 (dyddodi ffrwydron o fewn ardal drwyddedu forol y DU etc);
(b)mae cyfeiriad at “weithgaredd treillio” yn gyfeiriad at weithgaredd sy'n dod o fewn eitem 9 (cynnal unrhyw ffurf o dreillio o fewn ardal drwyddedu forol y DU);
(c)mae cyfeiriad at “weithgaredd symud” yn gyfeiriad at weithgaredd sy'n dod o fewn eitem 8 (defnyddio cerbyd, llong etc i symud sylwedd neu wrthrych oddi ar wely'r môr o fewn ardal drwyddedu forol y DU);
(ch)mae cyfeiriad at “weithgaredd gweithiau” yn gyfeiriad at weithgaredd sy'n dod o fewn eitem 7 (adeiladu, newid neu wella gweithiau o fewn ardal drwyddedu forol y DU etc).
7. Mae erthygl 4 yn gymwys i weithgaredd sy'n dod o fewn Rhan 6 o Ddeddf Llongau Masnach 1995(14) (atal llygru).
8. Mae erthygl 4 yn gymwys i weithgaredd a ymgymerir—
(a)gan neu ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol drwy arfer pŵer o dan Atodlen 3A i Ddeddf Llongau Masnach 1995(15) (cyfarwyddiadau diogelwch);
(b)gan unrhyw berson at y diben o gydymffurfio â chyfarwyddyd o dan yr Atodlen honno; neu
(c)gan unrhyw berson at y diben o osgoi ymyrraeth â gweithredu a gyflawnwyd yn rhinwedd yr Atodlen honno.
9. Mae erthygl 4 yn gymwys i weithgaredd a ymgymerir yn ystod gweithred achub llongau, at y diben o sicrhau diogelwch llong neu atal llygru.
10. Mae erthygl 4 yn gymwys i weithgaredd a ymgymerir at y diben o ymladd unrhyw dân neu atal ei ledaeniad.
11. Mae erthygl 4 yn gymwys i weithgaredd dyddodi neu symud a ymgymerir at y diben o adfer unrhyw sylwedd neu wrthrych, yn rhan o ymchwiliad i unrhyw ddamwain sy'n ymwneud ag awyren.
12.—(1) Mae erthygl 4 yn gymwys i unrhyw un o'r gweithgareddau canlynol os cyflawnir y gweithgaredd yng nghwrs gweithred bysgota—
(a)dyddodi gêr pysgota ac eithrio dyddodiad a wneir at y diben o waredu;
(b)gweithgaredd symud neu weithgaredd treillio a ymgymerir at y diben o—
(i)pysgota am bysgod neu gymryd pysgod, neu
(ii)symud gêr pysgota;
(c)dyddodi, drwy'u dychwelyd i'r môr, unrhyw bysgod neu wrthrych arall.
(2) Mae erthygl 4 hefyd yn gymwys i ddyddodi drwy ddychwelyd i'r môr unrhyw bysgod wrth brosesu pysgod ar y môr.
(3) Yn yr erthygl hon—
(a)mae “pysgod” yn cynnwys pysgod cregyn ac unrhyw ran o bysgodyn;
(b)mae “gêr pysgota” yn cynnwys gêr a ddefnyddir i bysgota am bysgod cregyn neu gymryd pysgod cregyn, ond ac eithrio hynny, nid yw'n cynnwys dim a ddefnyddir mewn cysylltiad â lledaenu neu fagu pysgod cregyn.
13.—(1) Mae erthygl 4 yn gymwys i—
(a)ddyddodi unrhyw bysgod cregyn, trestl, rafft, cawell, polyn, rhaff neu lein wrth ledaenu neu fagu pysgod cregyn;
(b)gweithgaredd symud neu weithgaredd treillio a ymgymerir at y diben o symud pysgod cregyn o fewn y môr yn ystod eu lledaenu neu'u magu.
(2) Ond nid yw erthygl 4 yn gymwys i unrhyw ddyddodiad o'r fath—
(a)a wneir at y diben o waredu;
(b)a wneir at y diben o greu, newid neu gynnal creigres artiffisial; neu
(c)sy'n achosi neu'n debygol o achosi rhwystr neu berygl i fordwyo.
14.—(1) Mae erthygl 4 yn gymwys i ddyddodi unrhyw—
(a)sylwedd trin cemegion morol;
(b)sylwedd trin olew morol;
(c)sylwedd a ddefnyddir, neu a fwriedir i'w ddefnyddio, i symud deunydd tyfiant arwynebol, oddi ar wyneb y môr neu wyneb gwely'r môr.
(2) Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i amodau 1 i 4.
(3) Amod 1 yw fod rhaid i'r sylwedd fod yn un y mae'i ddefnyddio wedi ei gymeradwyo ar y pryd gan yr awdurdod trwyddedu at ddibenion y Gorchymyn hwn.
(4) Amod 2 yw fod rhaid i'r sylwedd gael ei ddefnyddio yn unol ag unrhyw amodau y mae'r gymeradwyaeth yn ddarostyngedig iddynt.
(5) Amod 3 yw na cheir dyddodi mewn ardal o'r môr lle mae'r dyfnder yn llai nag 20 metr neu sydd o fewn un fôr-filltir i ardal o'r fath, ac eithrio gyda chymeradwyaeth yr awdurdod trwyddedu.
(6) Amod 4 yw na cheir dyddodi unrhyw sylwedd trin cemegion morol neu sylwedd trin olew morol islaw arwyneb y môr ac eithrio gyda chymeradwyaeth yr awdurdod trwyddedu.
(7) Yn yr erthygl hon, mae i “sylwedd trin cemegion morol” a “sylwedd trin olew morol”, yn eu trefn, yr ystyron sydd i “marine chemical treatment substance” a “marine oil treatment substance” yn adran 107(2) o'r Ddeddf.
15.—(1) Mae erthygl 4 yn gymwys i ddyddodiad o unrhyw gyfarpar at y diben o reoli, cyfyngu neu adfer unrhyw—
(a)olew,
(b)cymysgedd sy'n cynnwys olew,
(c)cemegyn,
(ch)broc môr, neu
(d)gordyfiant algaidd.
(2) Ond nid yw erthygl 4 yn gymwys i unrhyw ddyddodiad o'r fath i'r graddau y mae'n dod o fewn eitem 10.
16.—(1) Mae erthygl 4 yn gymwys i—
(a)dyddodi unrhyw offer gwyddonol neu gyfarpar cysylltiedig mewn perthynas ag unrhyw arbrawf neu arolwg gwyddonol;
(b)dyddodi unrhyw ymweithredydd;
(c)dyddodi unrhyw olrheinydd;
(ch)gweithgaredd symud a gynhelir at y diben o symud unrhyw offeryn gwyddonol neu gyfarpar cysylltiedig y cyfeirir ato yn is-baragraff (a).
(2) Mae is-baragraffau (b) ac (c) o baragraff (1) yn ddarostyngedig i amodau 1 a 2.
(3) Amod 1 yw fod rhaid i'r ymweithredydd neu'r olrheinydd fod, ar y pryd, yn un a gymeradwyir gan yr awdurdod trwyddedu at ddibenion y Gorchymyn hwn.
(4) Amod 2 yw fod rhaid defnyddio'r ymweithredydd neu'r olrheinydd yn unol ag unrhyw amodau y mae'r gymeradwyaeth yn ddarostyngedig iddynt.
(5) Ond nid yw erthygl 4 yn gymwys i—
(a)unrhyw ddyddodiad o'r fath a wneir at y diben o waredu;
(b)unrhyw ddyddodiad o'r fath sy'n achosi neu'n debygol o achosi rhwystr neu berygl i fordwyo;
(c)unrhyw ddyddodiad neu weithgaredd symud o'r fath—
(i)sy'n dod o fewn is-baragraff (a) neu (b) o baragraff (6); a
(ii)nad yw'n gysylltiedig yn uniongyrchol â, nac yn angenrheidiol ar gyfer, rheolaeth y safle neu'r parth (yn ôl fel y digwydd) y cyfeirir ato yn yr is-baragraff hwnnw.
(6) Mae dyddodiad yn dod o fewn y paragraff hwn–
(a)os yw'n gynllun neu brosiect sy'n debygol (naill ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â chynlluniau neu brosiectau eraill) o gael effaith sylweddol ar safle Ewropeaidd; neu
(b)os yw'n debygol o gael effaith sylweddol ar safle Ramsar.
(7) Yn is-baragraffau (a) a (b) o baragraff (6), mae i “tebygol” yr ystyr sydd i “likely” yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC ar gadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt(16).
17.—(1) Mae erthygl 4 yn gymwys i—
(a)dyddodi, ar safle treillio am agregau neu fwynau eraill, unrhyw sylwedd neu wrthrych a gymerir o'r môr wrth dreillio felly (ac eithrio unrhyw rai o'r agregau neu'r mwynau y treillir amdanynt);
(b)dyddodi dyfroedd (pa un ai drwy orlifo neu arllwys â phwmp) allan o grombil llong–
(i)yn ystod treillio arferol am agregau neu fwynau eraill, neu
(ii)ar safle treillio o'r fath ar ôl ei gwblhau neu yn ystod taith y llong yn ôl.
18.—(1) Mae erthygl 4 yn gymwys i—
(a)gweithgaredd a ymgymerir gan neu ar ran Asiantaeth yr Amgylchedd at y diben o gynnal a chadw—
(i)gweithiau ar gyfer diogelu'r arfordir;
(ii)gweithiau draenio;
(iii)gweithiau i amddiffyn rhag llifogydd;
(b)gweithgaredd a ymgymerir gan neu ar ran awdurdod diogelu'r arfordir o fewn yr ystyr a roddir i “coast protection authority” yn Neddf Diogelu'r Arfordir 1949(17) at y diben o gynnal a chadw unrhyw weithiau diogelu'r arfordir.
(2) Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i'r amod y cyflawnir y gweithgaredd o fewn ffiniau presennol y gweithiau a gynhelir.
(3) Nid yw erthygl 4 yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw weithgaredd o'r fath sy'n cynnwys ailgyflenwi traeth.
19.—(1) Mae erthygl 4 yn gymwys i weithgaredd a ymgymerir gan neu ar ran Asiantaeth yr Amgylchedd, at y diben o gyflawni gwaith argyfwng wrth ymateb i lifogydd neu'r risg bod gorlifiad ar fin digwydd.
(2) Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i'r amod na cheir ymgymryd â'r gweithgaredd ac eithrio'n unol â chymeradwyaeth a roddir gan yr awdurdod trwyddedu at y diben hwnnw.
20.—(1) Mae erthygl 4 yn gymwys i weithgaredd symud gan ddefnyddio cerbyd, a ymgymerir gan neu ar ran awdurdod lleol at y diben o symud sbwriel neu wymon oddi ar draeth.
(2) Ond nid yw erthygl 4 yn gymwys i unrhyw weithgaredd symud o'r fath—
(a)sy'n dod o fewn is-baragraff (a) neu (b) o baragraff (3); a
(b)nad yw'n gysylltiedig yn uniongyrchol â, neu'n angenrheidiol ar gyfer rheoli'r safle y cyfeirir ato yn yr is-baragraff hwnnw.
(3) Mae gweithgaredd yn dod o fewn y paragraff hwn—
(a)os yw'n gynllun neu brosiect sy'n debygol (naill ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â chynlluniau neu brosiectau eraill) o gael effaith sylweddol ar safle Ewropeaidd; neu
(b)os yw'n debygol o gael effaith sylweddol ar safle Ramsar.
(4) Ym mharagraff (1), mae i “awdurdod lleol” yr ystyr a roddir i “local authority” yn adran 68(9) o'r Ddeddf.
(5) Ym mharagraff (3)(a) a (b), mae i “tebygol” yr ystyr a roddir i “likely” yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC ar gadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt.
21.—(1) Mae erthygl 4 yn gymwys i ddyddodi o gerbyd, llong, awyren neu strwythur morol wrth fordwyo neu wneud gwaith cynnal arferol.
(2) Ond nid yw erthygl 4 yn gymwys i unrhyw ddyddodiad o'r fath—
(a)a wneir at y diben o waredu;
(b)i'r graddau y mae'n dod o fewn eitem 10.
22.—(1) Mae erthygl 4 yn gymwys i ddyddodiad, gweithgaredd symud neu weithgaredd gweithiau a ymgymerir gan neu ar ran awdurdod harbwr at y diben o gynnal unrhyw weithiau harbwr.
(2) Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i'r amod y cyflawnir y gweithgaredd o fewn ffiniau presennol y gweithiau a gynhelir.
23.—(1) Mae erthygl 4 yn gymwys i weithgaredd symud a ymgymerir gan berson y cyfeirir ato ym mharagraff (2) at y diben o symud unrhyw beth sy'n achosi, neu'n debygol o achosi, rhwystr neu berygl i fordwyaeth.
(2) Y personau yw—
(a)awdurdod cadwraeth (yn yr ystyr a roddir i “conservancy authority” gan adran 313(1) o Ddeddf Llongau Masnach 1995(18);
(b)awdurdod harbwr;
(c)awdurdod goleudy;
(ch)person sydd â phwerau o dan unrhyw ddeddfiad neu orchymyn statudol i weithio neu gynnal camlas neu fath arall o fordwyaeth fewndirol, gan gynnwys mordwyaeth mewn dyfroedd llanwol.
24.—(1) Mae erthygl 4 yn gymwys i—
(a)dyddodiad neu weithgaredd gweithiau a ymgymerir gan berson y cyfeirir ato ym mharagraff (2) at y diben o ddarparu angorfa byst, angorfa sigl, angorfa drot neu gymorth mordwyo;
(b)gweithgaredd symud a ymgymerir gan unrhyw berson o'r fath at y diben o symud unrhyw angorfa neu gymorth mordwyo o'r fath.
(2) Y personau yw—
(a)awdurdod harbwr;
(b)awdurdod goleudy;
(c)unrhyw berson arall, sy'n ymgymryd â'r gweithgaredd yn unol â chaniatâd a geisiodd ac a gafodd gan unrhyw awdurdod o'r fath.
(3) Ond nid yw erthygl 4 yn gymwys i unrhyw weithgaredd o'r fath sy'n cynnwys dyddodi neu adeiladu pontŵn.
25.—(1) Mae erthygl 4 yn gymwys i—
(a)dyddodiad gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru at y diben o osod arwydd at ddibenion rheoliad 35(1) o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010(19) (gosod arwyddion i ddynodi bodolaeth a ffiniau safle morol Ewropeaidd o fewn ystyr “European marine site” yn y Rheoliadau hynny (20));
(b)gweithgaredd symud a ymgymerir gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru at y diben o symud arwydd y cyfeirir ato yn is-baragraff (a).
(2) Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i'r amod na cheir ymgymryd â'r gweithgaredd ac eithrio'n unol â chymeradwyaeth a roddwyd gan yr awdurdod trwyddedu at y diben hwnnw.
26. Mae erthygl 4 yn gymwys i ddyddodiad mewn cysylltiad â lansio unrhyw gerbyd, llong, awyren, adeiledd morol neu gynhwysydd arnofiol.
27.—(1) Mae erthygl 4 yn gymwys i ddyddodiad neu weithgaredd symud a ymgymerir yn rhan o ddatgymalu llong sy'n wastraff.
(2) Ond nid yw erthygl 4 yn gymwys i unrhyw ddyddodiad o'r fath i'r graddau y mae'n dod o fewn eitem 10.
28. Mae erthygl 4 yn gymwys i weithgaredd symud a ymgymerir at y diben o osod, cysylltu neu symud arwyddion neu ddynodyddion eraill mewn perthynas â llongddrylliad, mewn ardal a ddynodwyd yn ardal dan gyfyngiadau, yn yr ystyr a roddir i “restricted area” yn adran 1 o Ddeddf Diogelu Llongddrylliadau 1973(21).
29. Mae erthygl 4 yn gymwys i weithgaredd a ymgymerir gan neu ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, yn gweithredu drwy Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau, at y diben o—
(a)sicrhau diogelwch llong, awyren neu adeiledd morol;
(b)achub bywyd; neu
(c)hyfforddi at unrhyw ddiben y cyfeirir ato ym mharagraff (a) neu (b).
30. Mae erthygl 4 yn gymwys i ddyddodi neu ddefnyddio unrhyw ffagl cyfyngder, arnofyn mwg neu sylwedd neu wrthrych pyrotechnegol cyffelyb at y diben o—
(a)sicrhau diogelwch llong, awyren neu adeiledd morol;
(b)achub bywyd; neu
(c)hyfforddi at unrhyw ddiben y cyfeirir ato ym mharagraff (a) neu (b).
31.—(1) Mae erthygl 4 yn gymwys i ddyddodiad neu weithgaredd symud neu weithgaredd treillio a ymgymerir at y diben o gyflawni archwiliad o unrhyw gebl neu biblinell, neu waith atgyweirio arno neu arni.
(2) Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i'r amod na cheir ymgymryd â'r gweithgaredd ac eithrio'n unol â chymeradwyaeth a roddwyd gan yr awdurdod trwyddedu at y diben hwnnw.
(3) Ond nid yw erthygl 4 yn gymwys i unrhyw ddyddodiad o'r fath sy'n dod o fewn eitem 10.
32.—(1) Mae erthygl 4 yn gymwys i dyddodiad neu weithgaredd gweithiau a ymgymerir yn gyfan gwbl o dan wely'r môr mewn cysylltiad ag adeiladu neu weithredu twnnel turiedig.
(2) Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i amodau 1 a 2.
(3) Amod 1 yw fod rhaid hysbysu'r awdurdod trwyddedu, mewn ysgrifen, o'r bwriad i ymgymryd â'r gweithgaredd, cyn ymgymryd â'r gweithgaredd.
(4) Amod 2 yw fod rhaid i'r gweithgaredd beidio â chael effaith anffafriol ar amgylchedd Cymru a rhanbarth glannau Cymru, nac ar yr adnoddau byw y mae'r amgylchedd hwnnw'n eu cynnal.
(5) Ond nid yw erthygl 4 yn gymwys i ddyddodiad a wneir at y diben o waredu.
33.—(1) Mae erthygl 4 yn gymwys i weithgaredd i'r graddau yr ymgymerir ag ef wrth arfer hawl o dan reolau cyfraith ryngwladol gan, neu mewn perthynas ag—
(a)llong trydedd gwlad;
(b)llong ryfel, llong llynges atodol, llong arall neu awyren sy'n eiddo i Wladwriaeth ac a weithredir ganddi, ac a ddefnyddir ar y pryd ar gyfer gwasanaeth anfasnachol y llywodraeth yn unig (pa un ai yw'r llong ryfel, llong llynges atodol neu long arall yn llong trydedd gwlad ai peidio).
(2) Ym mharagraff (1), ystyr “llong trydedd gwlad” yw llong—
(a)sy'n arddangos baner, neu wedi ei chofrestru mewn, unrhyw Wladwriaeth neu diriogaeth (ac eithrio Gibraltar) nad yw'n Aelod-wladwriaeth; a
(b)nad yw wedi ei chofrestru mewn Aelod-wladwriaeth.
34.—(1) Mae erthygl 4 yn gymwys i lwytho cerbyd, llong, awyren, adeiledd morol neu gynhwysydd arnofiol gydag unrhyw sylwedd neu wrthrych ar gyfer ei losgi—
(a)yn rhanbarth glannau'r Alban;
(b)yn ardal drwyddedu forol y DU ac eithrio yng Nghymru a rhanbarth glannau Cymru;
(c)y tu allan i ardal drwyddedu forol y DU a rhanbarth glannau'r Alban, pan fo'r llosgi i ddigwydd ar—
(i)llong neu adeiledd morol Prydeinig; neu
(ii)cynhwysydd arnofiol yn y môr, os rheolir y llosgi o long Brydeinig, awyred Brydeinig neu adeiledd morol Prydeinig.
(2) Ond mae paragraff (1) yn gymwys, yn unig, i'r graddau y mae gweithgaredd o'r fath yn dod o fewn eitem 13.
Jane Davidson
Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
25 Chwefror 2011
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu pa weithgareddau na fydd arnynt angen trwydded forol, neu na fydd arnynt angen trwydded forol os bodlonir amodau a bennir yn y Gorchymyn. Mae'r Gorchymyn yn gymwys i unrhyw weithgaredd morol trwyddedadwy a gynhelir yng Nghymru a rhanbarth glannau Cymru ac y mae Gweinidogion Cymru yn awdurdod trwyddedu priodol ar ei gyfer o dan adran 113 o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (erthygl 2).
Mae Rhan 1 (erthyglau 1 i 3) yn cynnwys darpariaethau rhagarweiniol.
Mae Rhan 2 (erthyglau 4 a 5) yn cynnwys darpariaethau sy'n pennu o dan ba amgylchiadau nad oes angen trwydded forol ar gyfer gweithgaredd morol trwyddedadwy, a darpariaethau ynglŷn â gwastraff (sy'n gweithredu, yn rhannol, Gyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar wastraff (OJ Rhif L 312, 22.11.2008, t.3)).
Mae Rhan 3 (erthyglau 6 i 34) yn cynnwys darpariaethau sy'n pennu'r gweithgareddau morol trwyddedadwy nad oes arnynt angen trwydded forol (gan gynnwys unrhyw amodau y mae'n rhaid eu bodloni fel rhan o'r esemptiad hwnnw).
Mae asesiad llawn o'r effeithiau y bydd yr offeryn hwn yn eu cael ar gostau busnes, y sector gwirfoddol a'r sector cyhoeddus ar gael o'r Uned Caniatadau Morol, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ neu ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru yn www.cymru.gov.uk.
Erthygl 3 o Orchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 2) 2010 [O.S. 2010/ 1552].
Yn rhinwedd adran 113(4)(b) o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009, Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod trwyddedu priodol mewn perthynas ag unrhyw beth a wneir wrth ymgymryd â gweithgareddau morol trwyddedadwy mewn perthynas â Chymru a rhanbarth glannau Cymru ac eithrio gweithgareddau y mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn awdurdod trwyddedu priodol ar eu cyfer o dan adran 113(4)(a) a (5) o'r Ddeddf honno. Mae i “rhanbarth glannau Cymru” yr ystyr a roddir i “Welsh inshore region” yn adran 322(1) o'r Ddeddf.
1964 p.40, y gwnaed diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.
1995 p.21. Gweler adran 193 o'r Ddeddf honno. Gwnaed diwygiadau perthnasol i'r adran honno gan baragraff 6 o Atodlen 6 i Ddeddf Llongau Masnach a Diogelwch Arforol 1997 (p.28).
OJ Rhif L 206, 22.7.1992, t.7, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2006/105/EC (OJ Rhif L 363, 20.12.2006, t.368).
Gweler adrannau 66 a 115(1) o'r Ddeddf.
OJ Rhif L 312, 22.11.2008, t.3.
O.S.2007/1842, a ddiwygiwyd gan O.S.2010/1513.
1981 p.69. Mewnosodwyd adran 37A mewn perthynas â Chymru a Lloegr gan adran 77 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (p.37), a diwygiwyd hi gan adran 105(1) o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig (p.16), a pharagraff 86 o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno.
Mae Rhan 3 yn pennu'r gweithgareddau y mae'r erthygl hon yn gymwys iddynt.
1995 p.21. Gwnaed diwygiadau a diddymiadau perthnasol i'r darpariaethau yn Rhan 6 gan Ddeddf Llongau Masnach (Llygredd) 2006 (p.8); Deddf Llongau Masnach a Diogelwch Arforol 1997 (p.28); Deddf Atal a Rheoli Llygredd 1999 (p.24); Deddf Diogelwch Morol 2003 (p.16), ac O.S.2006/1244.
Mewnosodwyd adran 108A o Ddeddf Llongau Masnach 1995, sy'n rhoi effaith i Atodlen 3A, gan adran 1(1) o Ddeddf Diogelwch Morol 2003.
OJ Rhif L 206, 22.7.1992, t.7, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2006/105/EC (OJ Rhif L 363, 20.12.2006, t.368).
1949 p.74. Diwygiwyd Rhan 1 gan Atodlen 2 i Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (p.29), o ddyddiad sydd i'w bennu.
Gweler rheoliad 8(4) am ddiffiniad o “European marine site”.
1973 p.33. Trosglwyddwyd y swyddogaethau o dan Ddeddf Diogelu Llongddrylliadau 1973, ac eithrio adran 2, i Weinidogion Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 [O.S.1999/672] ac Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwnnw a chan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys