Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Symiau) (Cymru) 2011

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 885 (Cy.129)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Symiau) (Cymru) 2011

Gwnaed

21 Mawrth 2011

Yn dod i rym

31 Mawrth 2011

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 28(6) a 47(5) o Ddeddf Addysg Uwch 2004(1) ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Dyma'r rheoliadau cyntaf i gael eu gwneud o dan adran 28(6) o'r Ddeddf honno sy'n rhagnodi'r swm sylfaenol a'r swm uwch at ddibenion yr adran honno.

Yn unol ag adran 26(1) o'r Ddeddf honno(3) gosodwyd drafft o'r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Symiau) (Cymru) 2011 ac maent yn dod i rym ar 31 Mawrth 2011.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

  • mae i “cwrs rhyngosod” (“sandwich course”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 2(6) o Reoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2011(4);

  • ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf Addysg Uwch 2004;

  • ystyr “sefydliad tramor” (“overseas institution”) yw sefydliad heblaw un yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw.

Symiau sylfaenol a symiau uwch rhagnodedig

3.  Yn ddarostyngedig i reoliad 4, at ddibenion adran 28 o Ddeddf 2004, rhagnodir y swm sylfaenol yn £4,000 a'r swm uwch yn £9,000.

Symiau sylfaenol a symiau uwch rhagnodedig ar gyfer cyrsiau penodedig

4.  At ddibenion adran 28 o Ddeddf 2004 rhagnodir y swm sylfaenol yn £2,000 a'r swm uwch yn £4,500 yn yr achosion a ganlyn:

(a)blwyddyn academaidd derfynol cwrs os yw'n ofynnol i'r flwyddyn academaidd honno fel rheol gael ei chwblhau ar ôl llai na 15 wythnos o bresenoldeb;

(b)mewn perthynas â chwrs rhyngosod, blwyddyn academaidd—

(i)pryd y mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos; neu

(ii)mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, os yw cyfanswm unrhyw un neu fwy o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad (gan anwybyddu gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos;

(c)mewn perthynas â chwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon (gan gynnwys cwrs o'r fath sy'n arwain at radd gyntaf), blwyddyn academaidd pryd y mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos;

(ch)mewn perthynas â chwrs a ddarperir ar y cyd â sefydliad tramor, blwyddyn academaidd—

(i)pryd y mae cyfanswm y cyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig yn llai na 10 wythnos; neu

(ii)mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, os yw cyfanswm unrhyw un neu fwy o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig (gan anwybyddu gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos.

Leighton Andrews

Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru

21 Mawrth 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi'r symiau sylfaenol a'r symiau uwch y caiff sefydliadau perthnasol godi tâl amdanynt drwy ffioedd dysgu ar gyfer cyrsiau gradd llawnamser.

Rhagnodir y symiau sylfaenol a'r symiau uwch at ddibenion amodau yn unol ag adran 28 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 (“Deddf 2004”), sef amodau at ddibenion adran 27 o Ddeddf 2004.

Mae adran 27 o Ddeddf 2004 yn galluogi Gweinidogion Cymru i osod amodau ar grantiau i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (“y Cyngor”) yn ei gwneud yn ofynnol iddo osod amodau ar gymorth ariannol a roddir gan y Cyngor i gorff llywodraethu sefydliad perthnasol. Bydd yr amodau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i'r corff llywodraethu sicrhau nad yw'r ffioedd sy'n daladwy am gwrs cymhwysol gan berson cymhwysol yn uwch na'r swm sylfaenol a bennir yn y Rheoliadau hyn, neu, pan fo gan sefydliad gynllun wedi'i gymeradwyo sydd mewn grym, y swm a bennir yn y cynllun hwnnw nad yw i fynd yn uwch na'r swm uwch a ragnodir gan y Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 3 yn rhagnodi'r symiau a fydd fel arfer yn gymwys. Ar gyfer rhai cyrsiau a bennir yn rheoliad 4, rhagnodir symiau is.

Mae'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol sy'n gymwys i'r Rheoliadau hyn ar gael gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(1)

2004 p.8. Mae diwygiadau i adran 28 nad ydynt yn berthnasol at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraffau 30(1) a 30(2)(c) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(3)

Yr un yw'r swyddogaeth o ragnodi'r swm sylfaenol a'r swm uwch sydd bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru o dan adran 28(6) o Ddeddf Addysg Uwch 2004 neu yr un swyddogaeth yw hi yn sylweddol â swyddogaeth yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 24(6) o'r Ddeddf honno. O dan adran 26(1) o'r Ddeddf honno, ni chaniateir gwneud y rheoliadau cyntaf o dan adran 24(1) o'r Ddeddf honno sy'n rhagnodi'r swm sylfaenol a'r swm uwch oni chafodd drafft o'r rheoliadau eu gosod gerbron dau Dŵr Senedd a'i gymeradwyo ganddynt drwy benderfyniad. Yn rhinwedd paragraff 34(2) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), mae'r ddarpariaeth yn gymwys i Weinidogion Cymru wrth iddynt arfer y swyddogaeth o wneud y rheoliadau cyntaf fel pe bai unrhyw gyfeiriad at unrhyw un o ddau Dŵr Senedd yn gyfeiriad at Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill