Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Arbed) 2012

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2012 Rhif 1187 (Cy.145) (C.40)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Arbed) 2012

Gwnaed

29 Ebrill 2012

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 178(3) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011(1).

Enwi a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Arbed) 2012.

(2Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Darpariaethau sy'n dod i rym ar 30 Ebrill 2012

2.—(1Daw'r darpariaethau a ganlyn o'r Mesur i rym ar 30 Ebrill 2012—

(a)adrannau 5 i 7 (cefnogi aelodaeth);

(b)adrannau 8 i 22 (gwasanaethau democrataidd awdurdod lleol a dehongli);

(c)adrannau 23 i 33 (absenoldeb teuluol ar gyfer aelodau awdurdodau lleol);

(d)adrannau 56 a 57 (arfer swyddogaethau gan gynghorwyr);

(e)adran 61 (personau dynodedig);

(f)adran 62 (rhoi sylw i safbwyntiau'r cyhoedd);

(g)adrannau 63 i 65 (pwerau cynghorwyr);

(h)adrannau 66 i 75 (penodi personau i gadeirio pwyllgorau);

(i)adran 78 (gwahardd pleidleisio o dan gyfarwyddyd chwip plaid a datgan cyfarwyddyd chwip plaid);

(j)adrannau 81 i 87 (pwyllgorau archwilio);

(k)adrannau 88 i 99 (cyfarfodydd cymunedol a phleidleisio cymunedol);

(l)adran 147 (adroddiadau blynyddol dilynol);

(m)adran 153 (cydymffurfio â gofynion y Panel);

(n)adran 155(1) (peidio â gwneud taliadau);

(o)adran 160 (diwygiadau canlyniadol);

(p)adran 176(1) (diwygiadau canlyniadol a diddymiadau); a

(q)Atodlen 3 (taliadau a phensiynau: mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol (Rhan 8 o'r Mesur)).

(2I'r graddau nad ydynt eisoes wedi eu cychwyn—

(a)adrannau 142 a 143 (prif swyddogaethau'r Panel);

(b)adran 145 (adroddiadau blynyddol);

(c)adran 148 (ymgynghori ar adroddiadau drafft);

(d)adran 149 (cyfarwyddiadau i amrywio adroddiadau drafft);

(e)adran 150 (gofynion gweinyddol mewn adroddiadau);

(f)adran 151 (gofynion cyhoeddusrwydd mewn adroddiadau);

(g)adran 152 (rhoi cyhoeddusrwydd i adroddiadau);

(h)adran 154 (aelodau sy'n dymuno ymwrthod â'u hawl i gael taliadau);

(i) adran 155(2), (3) a (4) (peidio â gwneud taliadau);

(j) adran 156 (cyfarwyddiadau i gydymffurfio â gofynion);

(k) adran 157 (canllawiau);

(l)adran 176(2) (diwygiadau canlyniadol a diddymiadau); ac

(m)Atodlen 4 (diddymiadau a dirymiadau).

Cychwyn Rhan F o Atodlen 4 gydag arbedion

3—(1Er i ddiddymiad a dirymiad y cofnodion yn Rhan F o Atodlen 4 ddod i rym yn unol ag erthygl 2(2)(l) ac (m), mae'r Rheoliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yn parhau i gael effaith fel pe baent heb eu dirymu gan y Mesur at y diben a nodir ym mharagraff (3).

(2Dyma'r Rheoliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—

(a)Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) 2002(2);

(b)Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Cynghorau Cymuned) (Cymru) 2003(3);

(c)Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Awdurdodau Tân) (Cymru) 2004(4); a

(d)Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau) (Cymru) 2007(5).

(3Y diben y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yw hawliadau a wneir am lwfansau neu daliadau eraill mewn cysylltiad â dyletswyddau cymeradwy a gyflawnir cyn 1 Ebrill 1 2012.

Carl Sargeant

Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru

29 Ebrill 2012

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn wedi ei wneud o dan adran 178(3) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (“y Mesur”). Hwn yw'r ail orchymyn cychwyn i'w wneud o dan y Mesur.

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 30 Ebrill 2012 ddarpariaethau o'r Mesur a nodir yn yr erthygl honno ac y cyfeirir atynt isod;

Adrannau 5 i 7 (cefnogi aelodaeth);

Mae adran 5 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i wneud trefniadau i gyhoeddi adroddiadau blynyddol gan eu haelodau a chan aelodau eu gweithrediaethau am eu gweithgareddau.

Mae adran 6 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru am amseru cyfarfodydd awdurdod lleol.

Mae adran 7 yn rhoi dyletswydd ar brif gynghorau i sicrhau bod hyfforddiant a chyfleoedd datblygu rhesymol yn cael eu darparu i'w haelodau.

Adrannau 8 i 22 (gwasanaethau democrataidd awdurdod lleol a dehongli);

Mae'r adrannau hyn yn gwneud darpariaeth i awdurdod lleol ddynodi un o swyddogion yr awdurdod i fod yn bennaeth gwasanaethau democrataidd (swydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol) ac maent hefyd yn darparu ar gyfer swyddogaethau'r swyddog hwnnw. Yn ychwanegol, mae'r adrannau hyn yn gosod dyletswydd ar awdurdod lleol i benodi pwyllgor o'r cyngor i oruchwylio gwaith gwasanaethau democrataidd.

Mae'r adrannau hyn hefyd yn darparu ar gyfer llywodraethu pwyllgor gwasanaethau democrataidd, ar gyfer ei adroddiadau ac ar gyfer ei drafodion.

Mae Gweinidogion Cymru yn cael pŵer gan adran 10 i wneud rheoliadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol fabwysiadu rheolau sefydlog am reoli staff sy'n adrodd wrth bennaeth gwasanaethau democrataidd.

Adrannau 23 i 33 (absenoldeb teuluol ar gyfer aelodau awdurdodau lleol);

Mae'r adrannau hyn yn gwneud darpariaeth i aelodau awdurdodau lleol gael yr hawl i gymryd absenoldeb mamolaeth, newydd-anedig, mabwysiadu a rhiant yn unol â rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru sy'n rhagnodi'r amodau ar yr hawl i'r cyfnod perthnasol o absenoldeb.

Adrannau 56 a 57 (arfer swyddogaethau gan gynghorwyr);

Mae adran 56 yn gwneud darpariaeth i alluogi aelod o awdurdod lleol sy'n cynrychioli'r weithrediaeth neu'r awdurdod ar gorff allanol i wneud penderfyniadau mewn perthynas â swyddogaethau sy'n gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod.

Mae adran 57 yn gwneud newidiadau canlyniadol i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (“Deddf 1972”) a Deddf Llywodraeth Leol 2000 (“Deddf 2000”) mewn cysylltiad â'r ddarpariaeth newydd yn adran 56.

Adran 61 (personau dynodedig);

Mae adran 61 yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddynodi drwy orchymyn y personau hynny neu'r categorïau o bersonau (“person dynodedig”) y caniateir craffu ar eu cyfrifoldebau neu eu swyddogaethau gan bwyllgor trosolwg a chraffu awdurdod lleol.

Adran 62 (rhoi sylw i safbwyntiau'r cyhoedd);

Mae adran 62 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i wneud trefniadau i alluogi'r cyhoedd i fynegi eu safbwyntiau mewn perthynas ag unrhyw fater sy'n cael ei ystyried gan y pwyllgor.

Adrannau 63 i 65 (pwerau cynghorwyr);

Mae'r adrannau hyn yn diwygio adran 21A o Ddeddf 2000 i alluogi cynghorydd prif gyngor yng Nghymru i gyfeirio mater i bwyllgor trosolwg a chraffu os yw'r mater hwnnw yn ymwneud â chyflawni unrhyw un neu ragor o swyddogaethau'r cyngor neu sy'n effeithio ar y cyfan neu ran o'r ardal etholiadol y mae'r cynghorydd yn ei chynrychioli ac maent hefyd yn gwneud darpariaeth am adroddiadau pwyllgor trosolwg a chraffu.

Adrannau 66 i 75 (penodi personau i gadeirio pwyllgorau);

Mae'r adrannau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol wneud darpariaeth yn ei reolau sefydlog i benodi cadeiryddion i bwyllgorau trosolwg a chraffu'r awdurdod a hefyd i wahardd rheolaeth gan blaid o'r pwyllgorau hynny. At hynny, mae'r adrannau hyn yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau am y weithdrefn benodi i ddyrannu cadeiryddion pwyllgorau craffu ac i ddyroddi canllawiau neu gyfarwyddiadau.

Adran 78 (gwahardd pleidleisio o dan gyfarwyddyd chwip plaid a datgan cyfarwyddyd chwip plaid);

Mae'r adran hon yn gosod cyfyngiad ar reolaeth gan blaid ar bwyllgor trosolwg a chraffu.

Adrannau 81 i 87 (pwyllgorau archwilio);

Mae'r adrannau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol benodi pwyllgor archwilio i adolygu a chraffu ar faterion ariannol yr awdurdod a swyddogaethau eraill a nodir yn adran 81, gan gynnwys gwneud adroddiadau ac argymhellion mewn perthynas â hwy.

Adrannau 88 i 99 (cyfarfodydd cymunedol a phleidleisio cymunedol);

Mae'r adrannau hyn yn adolygu'r trefniadau a nodir yn Neddf 1972 i alw a threfnu cyfarfodydd cymunedol a phleidleisio cymunedol yng Nghymru.

Adrannau 142 — 143, 145, 148—152, 154, 155(2), (3) a (4) — 157 (Aelodau — Taliadau a Phensiynau (Rhan 8 o'r Mesur));

Cychwynnwyd yr adrannau hyn yn rhannol gan Orchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 1) 2011 (2011 Rhif 2011 (Cy.221) (C.74)) gan gymryd effaith o 31 Awst 2011 ymlaen mewn cysylltiad â swyddogaethau'r Panel ynghylch yr adroddiad blynyddol cyntaf o dan adran 146 o'r Mesur.

Mae Rhan 8 o'r Mesur (adrannau 141 i 160) yn darparu ar gyfer taliadau a phensiynau i aelodau o gynghorau sir a chynghorau bwrdeistrefi sirol, cynghorau cymuned, awdurdodau tân ac achub ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol (“awdurdodau perthnasol”). Caiff Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (“y Panel”) benderfynu'r taliadau y caniateir eu gwneud mewn perthynas ag aelodau o awdurdodau perthnasol ac wrth wneud hynny, mae i nodi ei benderfyniadau mewn adroddiad blynyddol.

Adran 147 (adroddiadau blynyddol dilynol);

Mae'r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i'r Panel gyhoeddi adroddiadau blynyddol dilynol ynghylch arfer ei swyddogaethau am bob blwyddyn ariannol sydd ar ddod ar ôl y flwyddyn sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2012.

Adran 153 (cydymffurfio â gofynion y Panel);

Mae'r adran hon yn darparu ar gyfer cydymffurfiaeth â gofynion y Panel mewn perthynas â thaliadau gan awdurdodau perthnasol.

Adran 155(1) (peidio â gwneud taliadau);

Mae'r adran hon yn gwahardd awdurdod perthnasol rhag gwneud taliadau i aelod sydd wedi cael ei atal neu ei atal yn rhannol o ganlyniad i gamymddygiad.

Adran 160 (diwygiadau canlyniadol) ac Atodlen 3 (taliadau a phensiynau; mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol);

Mae'r adran hon yn cyflwyno Atodlen 3 sy'n nodi mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth mewn cysylltiad â thaliadau aelodau a phensiynau o dan Ran 8 o'r Mesur.

Adran 176(1) (diwygiadau canlyniadol a diddymiadau);

Mae'r adran hon yn mewnosod is-adrannau newydd (5) i (7) i adran 106 o Ddeddf 2000.

Adran 176(2) a Rhannau A, D ac F o Atodlen 4 (diddymiadau a dirymiadau);

Mae erthygl 3 yn arbed darpariaethau penodol yn Rhan F o Atodlen 4 i'r Mesur (aelodau — taliadau a phensiynau (Rhan 8 o'r Mesur)) er mwyn i'r Rheoliadau a restrir yn y Rhan honno o'r Atodlen barhau i gael effaith at ddibenion penodol, er i'r Rheoliadau hynny gael eu dirymu ar 30 Ebrill 2012. Mae'r diben y mae'r Rheoliadau hyn yn parhau i gael effaith ato yn ymwneud â hawliadau am lwfansau neu daliadau eraill o dan y Rheoliadau hyn cyn 1 Ebrill 2012.

Gweler hefyd adran 178(1) (cychwyn) o'r Mesur ar gyfer darpariaethau a ddaeth i rym ar 11 Mai 2011 (drannoeth y diwrnod y cymeradwywyd y Mesur gan Ei Mawrhydi yn Ei Chyngor) ac adran 178(2) ar gyfer darpariaethau a ddaeth i rym ar 10 Gorffennaf 2011 (diwedd y cyfnod o 2 fis a ddechreuodd ar y diwrnod y cymeradwywyd y Mesur gan Ei Mawrhydi yn ei Chyngor).

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae darpariaethau canlynol y Mesur wedi eu dwyn i rym o ran Cymru drwy Orchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 1) 2011 (2011 Rhif 2011 (Cy.221) (C.74)), a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y ddarpariaethDyddiad cychwynO.S. Rhif
Adrannau 1 i 331 Awst 20112011 Rhif 2011 (Cy.221)(C.74)
Adran 14131 Awst 20112011 Rhif 2011 (Cy.221)(C.74)
Adran 142 (yn rhannol)31 Awst 20112011 Rhif 2011 (Cy.221)(C.74)
Adran 143 (yn rhannol)31 Awst 20112011 Rhif 2011 (Cy.221)(C.74)
Adran 14431 Awst 20112011 Rhif 2011 (Cy.221)(C.74)
Adran 145 (yn rhannol)31 Awst 20112011 Rhif 2011 (Cy.221)(C.74)
Adran 14631 Awst 20112011 Rhif 2011 (Cy.221)(C.74)
Adran 148 (yn rhannol)31 Awst 20112011 Rhif 2011 (Cy.221)(C.74)
Adran 149 (yn rhannol)31 Awst 20112011 Rhif 2011 (Cy.221)(C.74)
Adran 150 (yn rhannol)31 Awst 20112011 Rhif 2011 (Cy.221)(C.74)
Adran 151 (yn rhannol)31 Awst 20112011 Rhif 2011 (Cy.221)(C.74)
Adran 152 (yn rhannol)31 Awst 20112011 Rhif 2011 (Cy.221)(C.74)
Adran 154 (yn rhannol)31 Awst 20112011 Rhif 2011 (Cy.221)(C.74)
Adran 155(2), (3) a (4) (yn rhannol)31 Awst 20112011 Rhif 2011 (Cy.221)(C.74)
Adran 156 (yn rhannol)31 Awst 20112011 Rhif 2011 (Cy.221)(C.74)
Adran 157 (yn rhannol)31 Awst 20112011 Rhif 2011 (Cy.221)(C.74)
Adran 15831 Awst 20112011 Rhif 2011 (Cy.221)(C.74)
Adran 16131 Awst 20112011 Rhif 2011 (Cy.221)(C.74)
Adrannau 162 i 17131 Awst 20112011 Rhif 2011 (Cy.221)(C.74)
Atodlen 231 Awst 20112011 Rhif 2011 (Cy.221)(C.74)

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill