Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Cymru) 2012

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Enwi, cymhwyso, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Cymru) 2012. Maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 6 Gorffennaf 2012.

(2Yn y Rheoliadau hyn—

(a)ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ar fesurau i amddiffyn rhag dwyn i mewn i'r Gymuned organebau sy'n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion, a rhag i'r organebau hynny ymledu o fewn y Gymuned(1); a

(b)ystyr “y GIP” (“the PHO”) yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006(2).

(3Mae i'r termau a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, ac y defnyddir eu cyfystyron Saesneg yn y Gyfarwyddeb, yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag a roddir i'w cyfystyron Saesneg yn y Gyfarwyddeb.

Ffioedd arolygu mewnforio

2.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â llwythi o—

(a)planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 1 a restrir yn Rhan B o Atodiad V i'r Gyfarwyddeb, a

(b)hadau Solanaceae, pa un a restrir hwy ai peidio yn y Rhan honno,

a ddygir i mewn i Gymru o wlad neu diriogaeth ac eithrio un sydd o fewn yr Undeb Ewropeaidd neu sy'n destun cytundeb a wnaed o dan erthygl 12(6) o'r GIP.

(2Ar yr adeg y mewnforir llwyth y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo, rhaid i'r mewnforiwr dalu i Weinidogion Cymru—

(a)y ffi a bennir—

(i)yng ngholofn 3 o Atodlen 1 mewn perthynas â llwyth o blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall a restrir yng ngholofn 1 o'r Atodlen honno, ac eithrio llwyth o blanhigyn neu gynnyrch planhigion y mae paragraff (ii) o'r is-baragraff hwn yn gymwys iddo; neu

(ii)yng ngholofn 4 o Atodlen 2 mewn perthynas â llwyth o blanhigyn neu gynnyrch planhigion a restrir yng ngholofn 1 o'r Atodlen honno ac sy'n tarddu o wlad a restrir yng ngholofn 3 o'r Atodlen honno; a

(b)y ffioedd a bennir yng ngholofn 3 o Atodlen 3 am wiriad dogfennol a gwiriad adnabod.

(3Ond, pan gynhelir gwiriad iechyd planhigion ar lwyth y tu allan i oriau gwaith yn ystod y dydd, a hynny ar gais y mewnforiwr neu unrhyw berson arall sy'n gyfrifol am y llwyth, y ffi sy'n daladwy o dan baragraff (2)(a) mewn perthynas â'r llwyth hwnnw yw—

(a)y ffi a bennir yng ngholofn 4 o Atodlen 1 os yw'r llwyth yn un y mae paragraff (2)(a)(i) yn gymwys iddo; neu

(b)y ffi a bennir yng ngholofn 5 o Atodlen 2 os yw'r llwyth yn un y mae paragraff (2)(a)(ii) yn gymwys iddo.

(4Yn y rheoliad hwn, ystyr “oriau gwaith yn ystod y dydd” (“daytime working hours”) yw unrhyw amser rhwng yr oriau 8.30 a.m. a 5.00 p.m. ar unrhyw ddiwrnod ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy'n ŵyl banc o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(3) yng Nghymru.

Tatws hadyd: ffioedd

3.—(1Mae'r ffioedd a bennir yn Atodlen 4 yn daladwy mewn perthynas â'r swyddogaethau a bennir yng ngholofn 1 o'r Atodlen honno, sy'n ymwneud â chais am—

(a)ardystiad o datws hadyd yn unol â rheoliad 9 o'r Rheoliadau Tatws Hadyd;

(b)awdurdodiad i farchnata tatws hadyd yn unol â rheoliad 8 o'r Rheoliadau hynny.

(2Mae'r ffi sy'n daladwy mewn perthynas â swyddogaeth yn ddarostyngedig i unrhyw leiafswm ffi a bennir yng ngholofn 3 o Atodlen 4 mewn perthynas â'r swyddogaeth honno.

(3Rhaid talu'r ffi mewn perthynas â swyddogaeth a bennir yn Atodlen 4 i Weinidogion Cymru.

(4Yn y rheoliad hwn, ystyr “y Rheoliadau Tatws Hadyd” (“the Seed Potatoes Regulations”) yw Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2006(4).

Ffioedd am drwyddedau iechyd planhigion

4.—(1Mae'r ffioedd sy'n daladwy o dan y rheoliad hwn yn ymwneud â thrwydded a ddisgrifir yn erthygl 40 neu 41 o'r GIP.

(2Mewn perthynas â chais neu arolygiad o fath a ddisgrifir yng ngholofn 2 o Atodlen 5, rhaid i berson dalu i Weinidogion Cymru y ffi a bennir yng ngholofn 3 o'r Atodlen honno mewn perthynas â'r math hwnnw o gais neu arolygiad.

Ffioedd am awdurdodi pasbortau planhigion

5.—(1Rhaid talu'r ffi a bennir ym mharagraff (2) i Weinidogion Cymru mewn perthynas ag unrhyw arolygiad (gan gynnwys arolygiad o gofnodion busnes) a gyflawnir mewn cysylltiad ag—

(a)cais am awdurdod; neu

(b)sicrhau cydymffurfiaeth ag unrhyw amodau y rhoddwyd awdurdod yn ddarostyngedig iddynt.

(2Y ffi yw £31.50 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr (gan gynnwys yr amser a dreulir ar arolygu, ar deithio ac ar weinyddu cysylltiedig), yn ddarostyngedig i leiafswm ffi o £63.00 am bob ymweliad.

(3Yn y rheoliad hwn, ystyr “awdurdod” (“authority”) yw awdurdod i ddyroddi pasbortau planhigion, a roddir o dan erthygl 8 o Orchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) 2006(5) neu erthygl 29 o'r GIP.

Tatws sy'n tarddu o'r Aifft: ffioedd

6.—(1Pan fo arolygydd yn cymryd sampl o datws sy'n tarddu o'r Aifft, er mwyn canfod, at ddibenion paragraff 5 o'r Atodiad i'r Penderfyniad, a yw'r tatws hynny wedi eu heintio â Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al., rhaid i'r mewnforiwr dalu i Weinidogion Cymru ffi o £87.80 mewn perthynas â phob lot y cymerir sampl ohoni.

(2Yn y rheoliad hwn, ystyr “y Penderfyniad” (“the Decision”) yw Penderfyniad Gweithredu'r Comisiwn 2011/787/EU sy'n awdurdodi Aelod-wladwriaethau i weithredu mesurau argyfwng dros dro yn erbyn lledaenu Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al., mewn cysylltiad â'r Aifft(6).

Dirymiadau

7.  Dirymir y canlynol—

(a)Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Trwyddedau) (Cymru a Lloegr) 1996(7), o ran Cymru yn unig;

(b)rheoliad 6 o Reoliadau Tatws sy'n Tarddu o'r Aifft (Cymru) 2004(8);

(c)Rheoliadau Tatws Hadyd (Ffioedd) (Cymru) (Rhif 2) 2006(9);

(ch)Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Pasbortau Planhigion) (Cymru) 2007(10);

(d)Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) 2010(11); ac

(dd)Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) (Diwygio) 2012(12).

John Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru

5 Mehefin 2012

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill