Cofnodion
14.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i'r corff llywodraethu cysgodol, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, drefnu bod copi o'r canlynol ar gael i'w archwilio yn yr ysgol —
(a)yr agenda ar gyfer pob cyfarfod;
(b)cofnodion llofnodedig pob cyfarfod; ac
(c)unrhyw adroddiad neu bapur arall a gafodd ei ystyried yn y cyfarfod.
(2) Caniateir eithrio o unrhyw eitem y mae'n ofynnol ei rhoi ar gael yn unol â pharagraff (1), unrhyw ddeunydd sy'n ymwneud â'r canlynol—
(a)person a enwir sy'n gweithio, neu y bwriedir iddo weithio, yn yr ysgol;
(b)disgybl a enwir neu ymgeisydd a enwir am gael ei dderbyn i'r ysgol; neu
(c)unrhyw fater arall sydd, oherwydd ei natur, yn fater y mae'r corff llywodraethu cysgodol wedi'i fodloni y dylai aros yn gyfrinachol.