Diwedd y cyfnod interim
15. O'r diwrnod y mae'r aelodau gweithredol interim yn peidio â dal eu swydd yn unol â pharagraff 18(1) o Atodlen 1A i Ddeddf 1998—
(a)mae'r corff llywodraethu cysgodol i'w drin fel pe bai'n gorff llywodraethu a gyfansoddwyd yn normal;
(b)mae aelodau o'r corff llywodraethu cysgodol i'w trin fel pe baent wedi bod yn aelodau o gorff llywodraethu a gyfansoddwyd yn normal o ddyddiad eu penodiad neu eu hetholiad yn ôl y digwydd;
(c)mae cadeirydd ac is-gadeirydd y corff llywodraethu cysgodol i'w trin fel pe baent wedi cael eu hethol o dan reoliad 39(1) o'r Rheoliadau Llywodraethu;
(ch)mae clerc y corff llywodraethu cysgodol i'w drin fel pe bai wedi cael ei benodi o dan reoliad 42 o'r Rheoliadau Llywodraethu.