Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Offerynnau Statudol Cymru

2012 Rhif 2705 (Cy.291)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012

Gwnaed

27 Hydref 2012

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

30 Hydref 2012

Yn dod i rym

20 Tachwedd 2012

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(2), 17(1) a (2), 26(1)(a), (2)(a) a (3), 31 a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), fel y'u darllenir ynghyd â pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(3).

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf 1972 ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau penodol at Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2023/2006 ar arfer gweithgynhyrchu da ar gyfer deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd(4) neu i unrhyw Atodiad i'r offerynnau UE eraill a bennir yn rheoliad 2(3) gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y Rheoliad hwnnw neu'r Atodiad hwnnw fel y'i diwygiwyd o bryd i'w gilydd.

Yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf 1990, maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod yr egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(5), cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.

RHAN 1LL+CRhagarweiniol

Enwi, cymhwyso a chychwynLL+C

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012, maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 20 Tachwedd 2012.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

DehongliLL+C

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

nid yw “awdurdod bwyd” (“food authority”) yn cynnwys awdurdod iechyd porthladd;

ystyr “awdurdod iechyd porthladd” (“port health authority”), o ran unrhyw ranbarth iechyd porthladd a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(6), yw awdurdod iechyd porthladd ar gyfer y rhanbarth hwnnw a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honno;

F1...

F2...

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

mae'r term “paratoi” (“preparation”, “prepare”) yn cynnwys gweithgynhyrchu ac unrhyw ffurf ar driniaeth neu broses, ac mae i'w ddehongli'n unol â hynny;

[F3ystyr “Rheoliad 2018/213” (“Regulation 2018/213”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) 2018/213 ar y defnydd o bisffenol A mewn farneisiau ac araenau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd ac sy’n diwygio Rheoliad (EU) Rhif 10/2011 o ran y defnydd o’r sylwedd hwnnw mewn deunyddiau plastig sy’n dod i gysylltiad â bwyd;]

[F4“ystyr “Rheoliad 10/2011” (“Regulation 10/2011”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 10/2011 ar ddeunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd;]

ystyr “Rheoliad 450/2009” (“Regulation 450/2009”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 450/2009 ar ddeunyddiau ac eitemau gweithredol a deallus y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd(7);

ystyr “Rheoliad 2023/2006” (“Regulation 2023/2006”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2023/2006 ar arfer gweithgynhyrchu da ar gyfer deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd(8);

ystyr “Rheoliad 1895/2005” (“Regulation 1895/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1895/2005 ar y cyfyngiad ar ddefnyddio deilliadau epocsi penodol mewn deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd(9);

ystyr “Rheoliad 1935/2004” (“Regulation 1935/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1935/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ddeunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd ac yn diddymu Cyfarwyddebau 80/590/EEC a 89/109/EEC(10);

ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw unrhyw berson, p'un ai yn swyddog i'r awdurdod o dan sylw ai peidio, sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig gan awdurdod sy'n gyfrifol am weithredu a gorfodi o dan reoliad 20, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn.

(2Mae i'r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad 1935/2004, Rheoliad 1895/2005, Rheoliad 2023/2006, Rheoliad 450/2009 [F5, Rheoliad 10/2011 neu Reoliad 2018/213] yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd i'r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn y Rheoliadau hynny.

(3Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Reoliad 2023/2006 F6...neu i Reoliad 10/2011 yn gyfeiriad at y Rheoliad hwnnw F7... fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.

Y CwmpasLL+C

3.  Nid yw darpariaethau'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran y deunyddiau a'r eitemau hynny a bennir ym mharagraff (3) Erthygl 1 (diben a phwnc) o Reoliad 1935/2004.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

RHAN 2LL+CGofynion Cyffredinol ar gyfer Deunyddiau ac Eitemau

Troseddau mynd yn groes i ddarpariaethau penodedig yn Rheoliad 1935/2004LL+C

F84.—(1Ni chaiff unrhyw berson, wrth gynnal busnes mewn cysylltiad â storio, paratoi, pecynnu, gwerthu neu weini bwyd, roi ar y farchnad na defnyddio unrhyw ddeunydd neu eitem nad yw'n cydymffurfio â gofynion Erthygl 3(1) (gofynion cyffredinol) neu Erthygl 4(1), (2), (3) neu (4) (gofynion arbennig ar gyfer deunyddiau ac eitemau gweithredol a deallus).

(2Ni chaiff unrhyw berson roi ar y farchnad unrhyw ddeunydd neu eitem nad yw'n cydymffurfio â gofynion Erthygl 3(2), 4(5) neu (6) neu 15(1), (3), (4), (7) neu (8) fel y'u darllenir gydag Erthygl 15(2) (labelu).

(3Mae unrhyw berson sy'n mynd yn groes i baragraff (1) neu (2) neu Erthygl 11(4) neu (5) (awdurdodi F8...) neu 17(2) (y gallu i olrhain) yn euog o drosedd.

(4Yn y rheoliad hwn mae cyfeiriad at Erthygl â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl honno yn Rheoliad 1935/2004.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

Trosedd mynd yn groes i Erthygl 4 yn Rheoliad 2023/2006LL+C

5.  Mae unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â gofynion Erthygl 4 (cydymffurfio ag arfer gweithgynhyrchu da) o Reoliad 2023/2006 yn euog o drosedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

Awdurdodau cymwys at ddibenion Rheoliad 1935/2004 a Rheoliad 2023/2006LL+C

6.—(1Y cyrff canlynol yw'r rhai sydd wedi eu dynodi'n awdurdodau cymwys at ddibenion y darpariaethau yn Rheoliad 1935/2004 a bennir isod—

F9(a). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(b)o ran Erthyglau [F1016] (datganiad o gydymffurfedd) a 17(2) (y gallu i olrhain), yr Asiantaeth Safonau Bwyd, pob awdurdod bwyd yn ei ardal a phob awdurdod iechyd porthladd yn ei ranbarth.

(2Yr awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 6(2) (system reoli ansawdd) a 7(3) (dogfennaeth) o Reoliad 2023/2006 yw pob awdurdod bwyd yn ei ardal.

RHAN 3LL+CY Gofynion ar gyfer Deunyddiau ac Eitemau Gweithredol a Deallus

Troseddau mynd yn groes i ddarpariaethau penodedig yn Rheoliad 450/2009LL+C

7.—(1Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau trosiannol yn Erthygl 14 (dod i rym a chymhwyso) o Reoliad 450/2009, bydd unrhyw berson sy'n rhoi ar y farchnad unrhyw ddeunydd neu eitem sy'n weithredol neu'n ddeallus ac nad yw'n cydymffurfio â gofynion Erthygl 4 o'r Rheoliad hwnnw yn euog o drosedd.

F11(2. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 7 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

Awdurdodau cymwys at ddibenion Rheoliad 450/2009LL+C

8.  Yr awdurdodau cymwys at ddibenion Erthygl 13 o Reoliad 450/2009 yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd, pob awdurdod bwyd yn ei ardal a phob awdurdod iechyd porthladd yn ei ranbarth.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 8 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

RHAN 4LL+CY gofynion ar gyfer Eitemau Ceramig

Dehongli'r Rhan honLL+C

9.  Yn y Rhan hon—

(a)ystyr “eitem geramig” (“ceramic article”) yw eitem y mae Rheoliad 1935/2004 yn gymwys iddi yn rhinwedd ei Erthygl 1(2) fel y'i darllenir gydag 1(3) a honno'n eitem—

(i)a weithgynhyrchwyd o gymysgedd o ddeunyddiau anorganig gyda chynnwys cleiog neu silicad uchel yn gyffredinol y mae'n bosibl bod meintiau bach o ddeunyddiau organig wedi eu hychwanegu atynt,

(ii)sy'n cael ei siapio'n gyntaf a bod y siâp a geir drwy hyn wedi ei osod yn barhaol drwy ei thanio, a

(iii)y gellid ei gwydro, ei henamlo a/neu ei haddurno; a

F12(b). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Terfynau ar gyfer plwm a chadmiwm a datganiad o gydymffurfeddLL+C

[F1310.(1) Ni chaiff y meintiau o blwm a chadmiwm a drosglwyddir o eitem geramig fynd dros y terfynau a nodir ym mharagraff (5) fel y’i darllenir gyda pharagraffau (4) a (6).

(2) Oni ddangosir nad oedd y deunyddiau a ddefnyddiwyd i wneud yr eitem geramig yn cynnwys plwm neu gadmiwm, rhaid i’r meintiau o blwm a chadmiwm a drosglwyddir o eitem geramig gael eu penderfynu drwy brawf, y pennir ei amodau yn Atodlen 3, gan ddefnyddio’r dull dadansoddi a ddisgrifir yn Atodlen 4.

(3) Ni chaiff unrhyw berson roi ar y farchnad eitem geramig nad yw’n cydymffurfio â gofynion paragraff (1) fel y’i darllenir gyda pharagraff (2).

(4) Pan fo eitem geramig yn llestr ag iddo glawr ceramig, rhaid i’r terfynau plwm neu gadmiwm (neu’r ddau) na chaniateir mynd drostynt (mg/dm2 neu mg/litr) fod yr un terfynau ag sy’n gymwys i’r llestr yn unig. Rhaid cynnal profion ar wahân ac o dan yr un amodau ar y llestr yn unig ac ar arwyneb mewnol y clawr. Rhaid i gyfanswm y ddwy lefel echdyniad a geir trwy’r modd hwn ar gyfer plwm neu gadmiwm gael ei gysylltu, fel y bo’n briodol, ag arwynebedd neu â chyfaint y llestr yn unig.

(5) Mae eitem geramig i’w chydnabod fel un sy’n bodloni gofynion y Rheoliadau hyn sy’n ymwneud ag eitemau o’r fath os nad yw’r meintiau o blwm a/neu gadmiwm a echdynnir yn ystod y prawf a gynhelir o dan yr amodau a osodir yn Atodlen 3 ac Atodlen 4 yn mynd dros y terfynau a ganlyn—

Plwm (Pb)Cadmiwm (Cd)
Categori 1: Eitemau na ellir eu llenwi ac eitemau y gellir eu llenwi, nad yw eu dyfnder mewnol, wrth fesur o’r pwynt isaf i’r plân llorweddol sy’n mynd drwy’r ymyl uchaf, yn fwy na 25 mm0,8 mg/dm20,07 mg/dm2

Categori 2:

Pob eitem arall y gellir ei llenwi

4,0 mg/l0,3 mg/l

Categori 3:

Offer coginio; llestri pecynnu a storio sy’n dal mwy na thri litr

1,5 mg/l0,1 mg/l

(6) Fodd bynnag, pan na fo eitem geramig yn mynd mwy na 50% dros y meintiau uchod, mae’r eitem honno i’w chydnabod er hynny fel un sy’n bodloni gofynion y Rheoliadau hyn sy’n ymwneud ag eitemau o’r fath os yw o leiaf dair eitem arall sy’n dwyn yr un siâp, dimensiynau, addurn a gwydr yn mynd drwy brawf a gynhelir o dan yr amodau a osodir yn Atodlen 3 ac Atodlen 4 ac nad yw meintiau cyfartalog y plwm a/neu’r cadmiwm a echdynnir o’r eitemau hynny yn mynd dros y terfynau a osodwyd, ac nad oes un o’r eitemau hynny yn mynd mwy na 50% dros y terfynau hynny.]

[F1410A.(1) Rhaid i berson sy’n rhoi ar y farchnad eitem geramig na ddaeth hyd yn hyn i gysylltiad â bwyd ddarparu datganiad ysgrifenedig [F15sy’n cydymffurfio â pharagraff (2)] i fynd gyda’r eitem yn y cyfnodau marchnata hyd at a chan gynnwys y cyfnod manwerthu.LL+C

(2) Rhaid i’r datganiad gael ei ddyroddi gan y gweithgynhyrchydd neu gan werthwr [F16ym Mhrydain Fawr] a rhaid iddo gynnwys yr wybodaeth a osodir yn Atodlen 5.

(3) Rhaid i berson sy’n gweithgynhyrchu neu sydd, wrth gynnal busnes, yn mewnforio eitem geramig [F17i Brydain Fawr] drefnu, pan ofynnir iddo wneud hynny, fod dogfennaeth briodol ar gael i swyddog awdurdodedig er mwyn dangos bod yr eitem geramig yn cydymffurfio â’r terfynau ymfudo ar gyfer plwm a chadmiwm a nodir yn rheoliad 10, gan gynnwys—

(a)canlyniadau’r dadansoddi a wnaed;

(b)amodau’r prawf;

(c)enw a chyfeiriad y labordy a gyflawnodd y gwaith profi.

(4) Nid yw paragraffau (1), (2) a (3) yn gymwys o ran eitem geramig sy’n ail law.

(5) Nid yw’r ddogfennaeth a bennwyd ym mharagraff (3)(a), (b) ac (c) yn ofynnol pan fo tystiolaeth ddogfennol yn cael ei darparu i ddangos nad oedd y deunyddiau a ddefnyddiwyd i wneud yr eitem geramig yn cynnwys plwm na chadmiwm.]

RHAN 5LL+CY Gofynion ar gyfer Caen Cellwlos Atgynyrchiedig

Dehongli'r Rhan honLL+C

11.—(1Yn y Rhan hon—

(a)ystyr “caen cellwlos atgynyrchiedig” (“regenerated cellulose film”) yw deunydd haenen denau a gafwyd o gellwlos a goethwyd sy'n deillio o bren neu gotwm nas ailgylchwyd, gydag ychwanegiad o sylweddau addas neu beidio, naill ai yn y màs neu ar un arwyneb neu'r ddau arwyneb, ond nad yw'n cynnwys casinau synthetig o gellwlos atgynyrchiedig;

(b)ystyr “CCAH” (“URCF”) yw caen cellwlos atgynyrchiedig heb araen;

(c)ystyr “CCAG” (“CRCF”) yw caen cellwlos atgynyrchiedig gydag araen sy'n deillio o gellwlos; a

(d)ystyr “CCAP” (“PRCF”) yw caen cellwlos atgynyrchiedig gydag araen sydd wedi ei chyfansoddi o blastigion.

(2Mae'r Rhan hon yn gymwys i gaen cellwlos atgynyrchiedig—

(a)sydd ynddo'i hun yn ffurfio cynnyrch gorffenedig; neu

(b)sy'n rhan o gynnyrch gorffenedig sy'n cynnwys deunyddiau eraill,

ac y bwriedir iddo ddod i gysylltiad â bwyd, neu sydd, drwy gael ei ddefnyddio at y diben hwnnw, yn dod i gysylltiad â bwyd.

F18(3. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I11Rhl. 11 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

Rheolaethau a therfynauLL+C

12.—(1Caniateir i CCAH ac CCAG gael eu gweithgynhyrchu gan ddefnyddio'r sylweddau neu'r grwpiau o sylweddau a restrir yn [F19Atodlen 6] (rhestr o'r sylweddau a awdurdodwyd ar gyfer gweithgynhyrchu caen cellwlos atgynyrchiedig) yn unig ac yn ddarostyngedig i'r cyfyngiadau a nodir yn yr [F20Atodlen honno] ond, fel rhanddirymiad, caniateir i sylweddau nad ydynt wedi eu rhestru yn [F19Atodlen 6] gael eu defnyddio pan fo'r sylweddau hynny'n cael eu defnyddio naill ai—

(a)fel lliwiau a phigmentau; neu

(b)fel adlynion,

ar yr amod nad oes unrhyw ôl sy'n ganfyddadwy, drwy ddull a ddilyswyd, i ddangos bod y sylweddau wedi ymfudo i mewn i fwydydd neu arnynt.

(2Caniateir i CCAP gael ei weithgynhyrchu, cyn ei araenu, gan ddefnyddio'r sylweddau neu grwpiau o sylweddau a restrir yn [F21Nhabl 1 o Atodlen 6 ac yn ddarostyngedig i’r cyfyngiadau yn y Tabl hwnnw].

(3Caniateir i'r araen sydd i'w rhoi ar CCAP gael ei weithgynhyrchu gan ddefnyddio'r sylweddau neu'r grwpiau o sylweddau a restrir yn Atodiad I i Reoliad 10/2011 yn unig ac yn ddarostyngedig i'r cyfyngiadau yn yr Atodiad hwnnw.

(4Rhaid i ddeunyddiau ac eitemau sydd wedi eu gwneud o CCAP gydymffurfio ag Erthygl 12 (terfyn ymfudo cyffredinol) fel y'i darllenir gydag Erthygl 17 (mynegiad o ganlyniadau'r profion ymfudo) ac Erthygl 18 (y rheolau ar gyfer asesu cydymffurfedd â'r terfynau ymfudo) o Reoliad 10/2011.

(5Rhaid i arwynebau printiedig caen cellwlos atgynyrchiedig beidio â dod i gysylltiad â bwydydd.

(6Yn ystod unrhyw gyfnod marchnata heblaw'r cyfnod manwerthu, rhaid i unrhyw ddeunydd neu eitem a wnaed o gaen cellwlos atgynyrchiedig, nad yw'n amlwg wedi ei fwriadu neu wedi ei bwriadu o ran ei natur i ddod i gysylltiad â bwyd, ddod gyda datganiad ysgrifenedig sydd yn ardystio ei fod neu ei bod yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth sy'n gymwys iddo neu iddi.

(7Pan fo amodau arbennig o ran defnydd wedi eu nodi, rhaid i'r deunydd neu'r eitem a wnaed o gaen cellwlos atgynyrchiedig gael ei labelu'n unol â hynny.

(8Ni chaiff unrhyw berson roi ar y farchnad unrhyw gaen cellwlos atgynyrchiedig a weithgynhyrchwyd yn groes i ofynion paragraffau (1) i (4), neu sy'n methu â chydymffurfio â pharagraffau (5)F22... neu (7).

RHAN 6LL+CY Gofynion ar gyfer Deunyddiau ac Eitemau Plastig

Dehongli Rhan 6 [F23ac Atodlen 1] LL+C

13.  [F24Ac eithrio yn rheoliad 14(1), mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon ac yn Atodlen 1] at Erthygl neu Atodiad â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl honno yn Rheoliad 10/2011 neu'r Atodiad hwnnw iddo.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I13Rhl. 13 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

Troseddau mynd yn groes i ddarpariaethau penodedig yn Rheoliad 10/2011LL+C

14.—(1Yn ddarostyngedig i'r trefniadau trosiannol a nodir yn [F25Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1282/2011, Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1183/2012, Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 202/2014, Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EU) 2015/174, Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EU) 2016/1416, Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EU) 2017/752, Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EU) 2018/79 [F26, Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EU) 2018/831 ac Erthygl 6 o Reoliad 2018/213,]] , bydd unrhyw berson sy'n rhoi ar y farchnad ddeunydd neu eitem blastig nad yw'n cydymffurfio â gofyniad yn Rheoliad 10/2011 a bennir yng ngholofn 1 [F27o Atodlen 1] yn euog o drosedd.

F28(2. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Awdurdodau cymwys at ddibenion Rheoliad 10/2011LL+C

[F2915.  Yr awdurdodau cymwys at ddibenion Erthyglau 8 ac 16(1) o Reoliad 10/2011 yw’r Asiantaeth Safonau Bwyd, pob awdurdod bwyd yn ei ardal a phob awdurdod iechyd porthladd yn ei ranbarth.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I15Rhl. 15 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

RHAN 7LL+CY gofynion ar gyfer deilliadau epocsi penodol

Cyfyngiadau ar ddefnyddio deilliadau epocsi penodol (BADGE, BFDGE a NOGE)LL+C

16.—(1Yn y Rhan hon—

(a)mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl neu Atodiad â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl honno neu'r Atodiad hwnnw yn Rheoliad 1895/2005; a

(b)mae [F30paragraff (2)] yn ddarostyngedig i Erthygl 1(3) (cwmpas)(11).

(2[F31Ni] chaiff unrhyw berson roi ar y farchnad na defnyddio, wrth gynnal busnes mewn cysylltiad â storio, paratoi, pecynnu, gwerthu neu weini bwyd—

(a)unrhyw ddeunydd neu eitem yn groes i Erthygl 3 (gwahardd defnyddio BFDGE neu ei bresenoldeb) neu Erthygl 4 (gwahardd defnyddio NOGE neu ei bresenoldeb); neu

(b)unrhyw ddeunydd neu eitem nad yw'n cydymffurfio â'r cyfyngiadau sydd yn Erthygl 2 (BADGE) fel y'i darllenir gydag Atodiad I (y terfyn ymfudo penodol ar gyfer BADGE a rhai o'i ddeilliadau).

F32(3. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(4Mae unrhyw berson sy'n mynd yn groes i baragraff (2) F33...yn euog o drosedd.

Awdurdodau cymwys at ddibenion Rheoliad 1895/2005LL+C

17.  Yr awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 6(4) yw pob awdurdod bwyd yn ei ardal a phob awdurdod iechyd porthladd yn ei ranbarth.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Rhl. 17 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

[F34RHAN 7ALL+CY gofynion ar gyfer bisffenol A mewn farneisiau ac araenau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd

Dehongli Rhan 7ALL+C

17A.  Yn y Rhan hon mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl sy’n dwyn y rhif hwnnw yn Rheoliad 2018/213.

Troseddau mynd yn groes i ddarpariaethau penodedig yn Rheoliad 2018/213LL+C

17B.  Yn ddarostyngedig i’r darpariaethau trosiannol yn Erthygl 6, mae unrhyw berson sy’n rhoi ar y farchnad ddeunydd neu eitem sy’n methu â chydymffurfio ag Erthygl 2 yn euog o drosedd.

Awdurdodau cymwys at ddibenion Rheoliad 2018/213LL+C

17C.  Yr awdurdodau cymwys at ddibenion Erthygl 4(3) yw’r Asiantaeth Safonau Bwyd a phob awdurdod bwyd yn ei ardal.]

RHAN 8LL+CY Gofynion ar gyfer Finyl Clorid

18.—(1O ran deunyddiau ac eitemau, ac eithrio'r deunyddiau ac eitemau hynny a reolir gan Reoliad 10/2011, a weithgynhyrchir gan bolymerau neu gopolymerau finyl clorid—LL+C

(a)rhaid iddynt beidio â chynnwys monomer finyl clorid y mae ei faint yn fwy nag 1 miligram y cilogram o'r deunydd neu'r eitem; a

(b)rhaid iddynt gael eu gweithgynhyrchu yn y fath fodd ag i beidio â throsglwyddo i fwydydd y maent mewn cysylltiad â hwy unrhyw faint o finyl clorid sy'n fwy na 0.01 miligram o finyl clorid y cilogram o fwyd.

(2Ni chaiff unrhyw berson—

(a)rhoi ar y farchnad; neu

(b)defnyddio wrth gynnal busnes mewn cysylltiad â storio, paratoi, pecynnu, gwerthu neu weini bwyd,

unrhyw ddeunydd neu eitem nad yw'n cydymffurfio â pharagraff (1).

[F35(3) Rhaid i’r dull dadansoddi a ddefnyddir i wirio a gydymffurfir â pharagraff (1) gydymffurfio â’r meini prawf a nodir ym mharagraffau (4), (5) a (6).

(4) Mae lefel y finyl clorid mewn deunyddiau ac eitemau a lefel y finyl clorid a ryddheir gan ddeunyddiau ac eitemau i fwydydd yn cael eu penderfynu drwy gromatograffaeth gwedd nwy gan ddefnyddio’r dull ‘lle blaen’ (‘headspace’).

(5) At ddibenion penderfynu’r finyl clorid a ryddheir gan ddeunyddiau ac eitemau i fwydydd, y terfyn canfod yw 0.01 miligram o finyl clorid y cilogram o fwyd.

(6) Mae’r finyl clorid a ryddheir gan ddeunyddiau ac eitemau i fwydydd yn cael ei benderfynu mewn egwyddor yn y bwydydd. Pan ddangosir bod y penderfyniad yn amhosibl mewn bwydydd penodol am resymau technegol, caiff awdurdod bwyd ganiatáu penderfyniad drwy efelychwyr ar gyfer y bwydydd penodol hyn.]

RHAN 9LL+CGorfodi

Troseddau a chosbauLL+C

19.—(1Mae unrhyw berson sy'n mynd yn groes i ddarpariaethau rheoliad 10(3) F36..., 12(8) neu 18(2) yn euog o drosedd.

(2Mae unrhyw berson sy'n fwriadol yn rhwystro unrhyw berson sy'n gweithredu i roi ar waith Reoliad 1935/2004, Rheoliad 1895/2005, Rheoliad 2023/2006, Rheoliad 450/2009, Rheoliad 10/2011 [F37, Rheoliad 2018/213] neu'r Rheoliadau hyn yn euog o drosedd.

F38(3. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(4Mae unrhyw berson sydd, gan ymhonni ei fod yn cydymffurfio ag unrhyw ofyniad a grybwyllwyd ym mharagraff (3), yn ddi-hid neu gan wybod hynny yn rhoi gwybodaeth sy'n anwir neu'n gamarweiniol mewn unrhyw fanylyn o bwys yn euog o drosedd.

[F39(5) Mae person sy’n euog o drosedd yn agored—

(a)yn achos trosedd a grëir gan baragraff (1) neu (4) neu gan reoliad 4(3), 5, 7(1), 14(1), [F4016(4) neu 17B]

(i)o’i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy, neu i garchariad am gyfnod nad yw’n hwy na dwy flynedd, neu’r ddau, neu

(ii)o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy; a

(b)yn achos trosedd a grëir gan baragraff (2) neu (3), o’i gollfarnu’n ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.]

(6Nid oes dim ym mharagraff (2) neu (3) sydd i'w ddehongli fel petai'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ateb unrhyw gwestiwn neu roi unrhyw wybodaeth os byddai gwneud hynny'n gallu peri iddo argyhuddo ei hun.

Gweithredu a gorfodiLL+C

20.—(1Rhaid i bob awdurdod bwyd yn ei ardal a phob awdurdod iechyd porthladd yn ei ranbarth weithredu a gorfodi—

(a)Rheoliad 1935/2004, Rheoliad 1895/2005, Rheoliad 450/2009 a Rheoliad 10/2011; a

(b)ac eithrio mewn perthynas â'r darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3), y Rheoliadau hyn.

[F41(2) Caiff yr Asiantaeth Safonau Bwyd hefyd weithredu a gorfodi darpariaethau—

(a)Erthyglau 16(1) a 17(2) o Reoliad 1935/2004;

(b)Erthygl 13 o Reoliad 450/2009; ac

(c)Erthygl 16(1) o Reoliad 10/2011.]

(3Rhaid i bob awdurdod bwyd yn ei ardal weithredu a gorfodi darpariaethau Rheoliad 2023/2006 a bennwyd yn rheoliad 5 a'r Rheoliadau hyn.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I20Rhl. 20 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

Troseddau gan gyrff corfforaethol neu bartneriaethau AlbanaiddLL+C

21.—(1Os profir bod trosedd o dan y Rheoliadau hyn, a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol, wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad unrhyw un o'r canlynol, neu wedi ei briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran unrhyw un ohonynt, sef—

(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i'r corff corfforaethol; neu

(b)unrhyw berson sy'n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd swyddogaeth o'r fath,

bernir bod yr unigolyn hwnnw yn ogystal â'r corff corfforaethol yn euog o'r trosedd hwnnw ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

(2Os profir bod trosedd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan bartneriaeth Albanaidd wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu wedi ei briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran partner, bernir bod y partner hwnnw, yn ogystal â'r bartneriaeth, yn euog o'r trosedd hwnnw a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I21Rhl. 21 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

Troseddau oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred trydydd partiLL+C

22.  Pan fo trosedd o dan y Rheoliadau hyn yn cael ei gyflawni gan unrhyw berson oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred rhyw berson arall, bydd y person arall hwnnw yn euog o'r trosedd; a chaniateir i berson gael ei gyhuddo a'i gollfarnu o'r trosedd p'un a ddygir achos cyfreithiol yn erbyn y person a grybwyllwyd gyntaf ai peidio.

Gwybodaeth Cychwyn

I22Rhl. 22 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

Y terfyn amser ar gyfer erlyniadauLL+C

23.—(1Ni chaniateir cychwyn unrhyw erlyniad am drosedd o dan y Rheoliadau hyn ar ôl i dair blynedd fynd heibio ers cyflawni'r trosedd neu ar ôl i un flwyddyn fynd heibio ers i'r erlynydd ganfod y trosedd, p'un bynnag yw'r cynharaf.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys i drosedd o dan reoliad F42... 19(2) neu (3).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I23Rhl. 23 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

Amddiffyniadau cyffredinolLL+C

24.—(1Mewn unrhyw achos cyfreithiol am drosedd o dan y Rheoliadau hyn, bydd yn amddiffyniad, yn ddarostyngedig i baragraff (5), i'r person a gyhuddir (“y cyhuddedig”) brofi ei fod wedi cymryd pob rhagofal rhesymol ac arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi bod y trosedd yn cael ei gyflawni ganddo neu gan berson a oedd o dan ei reolaeth.

(2Heb leihau effaith paragraff (1) yn gyffredinol, rhaid cymryd bod person sydd wedi ei gyhuddo o drosedd o dan reoliad 4(3), 7(1), 14(1), 16(4) [F43, 17B] neu 19(1) ac nad oedd wedi mewnforio na pharatoi'r deunydd neu'r eitem yr honnir bod y trosedd wedi ei gyflawni mewn cysylltiad ag ef neu hi wedi cadarnhau'r amddiffyniad a ddarparwyd gan baragraff (1) os bydd gofynion paragraffau (3) neu (4) wedi eu bodloni.

(3Bydd gofynion y paragraff hwn wedi eu bodloni os profir—

(a)bod y trosedd wedi ei gyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred rhyw berson arall nad oedd o dan reolaeth y cyhuddedig, neu oherwydd dibyniad ar wybodaeth a ddarparwyd gan berson o'r fath;

(b)naill ai—

(i)bod y cyhuddedig wedi cyflawni pob gwiriad o'r fath, ar y deunydd neu'r eitem o dan sylw, a oedd yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau, neu

(ii)ei bod yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau i'r cyhuddedig ddibynnu ar wiriadau a wnaed gan y person a gyflenwodd y deunydd hwnnw neu'r eitem honno iddo; ac

(c)nad oedd y cyhuddedig yn gwybod, ac nad oedd ganddo, adeg cyflawni'r trosedd, reswm dros amau y byddai'r weithred neu'r anwaith yn ffurfio trosedd o dan y Rheoliadau hyn.

(4Mae gofynion y paragraff hwn wedi eu bodloni os yw'r trosedd yn drosedd rhoi ar y farchnad ac os profir—

(a)bod y trosedd wedi ei gyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred rhyw berson arall nad oedd o dan reolaeth y cyhuddedig, neu oherwydd dibyniad ar wybodaeth a ddarparwyd gan berson o'r fath;

(b)nad oedd y weithred o roi ar y farchnad a ffurfiodd y trosedd wedi ei wneud o dan enw neu farc y cyhuddedig; ac

(c)nad oedd y cyhuddedig yn gwybod ac na ellid yn rhesymol ddisgwyl iddo wybod adeg cyflawni'r trosedd y byddai'r weithred neu'r anwaith yn ffurfio trosedd o dan y Rheoliadau hyn.

(5Os digwydd mewn unrhyw achos bod yr amddiffyniad a ddarperir gan y rheoliad hwn yn golygu honni bod y trosedd wedi ei gyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred person arall, neu oherwydd dibyniad ar wybodaeth a ddarparwyd gan berson arall, ni fydd gan y cyhuddedig yr hawl i ddibynnu ar yr amddiffyniad hwnnw, heb ganiatâd y llys, onid yw—

(a)o leiaf saith niwrnod clir cyn y gwrandawiad; a

(b)pan fo'r cyhuddedig wedi ymddangos o'r blaen gerbron y llys mewn cysylltiad â'r trosedd honedig, o fewn un mis i'r ymddangosiad cyntaf hwnnw,

wedi cyflwyno i'r erlynydd hysbysiad ysgrifenedig a oedd yn rhoi pa wybodaeth bynnag a oedd yn ei feddiant ar y pryd ar gyfer adnabod y person arall hwnnw neu fel cymorth i'w adnabod.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I24Rhl. 24 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

Y weithdrefn pan fydd sampl i'w dadansoddiLL+C

25.—(1Rhaid i swyddog awdurdodedig sydd wedi caffael sampl o dan adran 29 o'r Ddeddf, ac sydd o'r farn y dylai gael ei dadansoddi, rannu'r sampl yn dair rhan.

(2Os cynwysyddion wedi eu selio yw cynnwys y sampl ac y byddai eu hagor, ym marn y swyddog awdurdodedig, yn rhwystr i'w dadansoddi'n briodol, rhaid i'r swyddog awdurdodedig rannu'r sampl yn rhannau drwy roi'r cynwysyddion mewn tair lot, a rhaid i bob lot gael ei thrin fel pe bai'n rhan.

(3Rhaid i'r swyddog awdurdodedig—

(a)gosod pob rhan, os bydd angen gwneud hynny, mewn cynhwysydd addas a'i selio;

(b)marcio pob rhan neu bob cynhwysydd;

(c)rhoi un rhan, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, i'r perchennog, a'i hysbysu mewn ysgrifen y bydd y sampl yn cael ei dadansoddi;

(d)cyflwyno un rhan i gael ei dadansoddi yn unol ag adran 30 o'r Ddeddf; ac

(e)dal ei afael ar un rhan i'w chyflwyno yn y dyfodol o dan reoliad 26.

Gwybodaeth Cychwyn

I25Rhl. 25 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

Dadansoddi eilaidd gan Gemegydd y LlywodraethLL+C

26.—(1Pan fo sampl wedi ei chadw o dan reoliad 25(3)(e) a bod—

(a)bwriad i achos cyfreithiol gael ei gychwyn neu iddo fod wedi ei gychwyn yn erbyn person am drosedd o dan y Rheoliadau hyn; a

(b)yr erlyniad yn bwriadu dangos fel tystiolaeth ganlyniad y dadansoddiad a grybwyllwyd yn rheoliad 25,

mae paragraffau (2) i (7) yn gymwys.

(2O ran y swyddog awdurdodedig—

(a)caiff, o'i wirfodd ei hun; neu

(b)rhaid iddo—

(i)os bydd yr erlynydd (os person gwahanol i'r swyddog awdurdodedig yw hwnnw) yn gofyn iddo wneud hynny,

(ii)os bydd y llys yn gorchymyn hynny, neu

(iii)(yn ddarostyngedig i baragraff (6)) os bydd y cyhuddedig yn gofyn iddo wneud hynny,

anfon y rhan o'r sampl y daliwyd gafael ynddi at Gemegydd y Llywodraeth i'w dadansoddi.

(3Rhaid i Gemegydd y Llywodraeth ddadansoddi'r rhan a anfonwyd ato o dan baragraff (2) ac anfon at y swyddog awdurdodedig dystysgrif sy'n nodi canlyniadau'r dadansoddiad.

(4Rhaid i unrhyw dystysgrif o ganlyniadau'r dadansoddiad sy'n cael ei throsglwyddo gan Gemegydd y Llywodraeth fod wedi ei llofnodi ganddo ef neu ar ei ran, ond caiff unrhyw berson sydd o dan gyfarwyddyd y person sy'n llofnodi'r dystysgrif gynnal y dadansoddiad.

(5Yn union ar ôl i'r swyddog awdurdodedig gael tystysgrif ddadansoddi Cemegydd y Llywodraeth, rhaid iddo ddarparu copi ohoni i'r erlynydd (os person gwahanol i'r swyddog awdurdodedig yw hwnnw) ac i'r cyhuddedig.

(6Pan fo cais wedi ei wneud o dan baragraff (2)(b)(iii), caiff y swyddog awdurdodedig roi hysbysiad mewn ysgrifen i'r cyhuddedig yn gofyn iddo dalu ffi a bennir yn yr hysbysiad i glirio rhan neu'r cyfan o ffioedd Cemegydd y Llywodraeth am gyflawni'r swyddogaethau o dan baragraff (3), ac os na fydd y cyhuddedig yn cytuno i dalu'r ffi a bennir yn yr hysbysiad, caiff y swyddog awdurdodedig wrthod cydymffurfio â'r cais.

(7Yn y rheoliad hwn mae “y cyhuddedig” (“the accused”) yn cynnwys person y mae swyddog awdurdodedig yn bwriadu cychwyn achos cyfreithiol yn ei erbyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I26Rhl. 26 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

Cymhwyso amrywiol ddarpariaethau'r DdeddfLL+C

[F4427.(1) Mae adran 10(1) a (2) o’r Ddeddf (hysbysiadau gwella) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda’r addasiad (yn achos adran 10(1)) a nodir yn Rhan 1 o Atodlen 2 at ddibenion—

(a)galluogi i hysbysiad gwella gael ei gyflwyno i berson sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw gydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn—

(i)rheoliadau [F4510A(1), 10A(3)] a 12(6);

(ii)Erthygl 16 o Reoliad 1935/2004;

(iii)Erthygl 5 o Reoliad 1895/2005;

(iv)Erthyglau 12 a 13 o Reoliad 450/2009; F46...

(v)ail frawddeg Erthygl 8, Erthygl 15 fel y’i darllenir gydag Atodiad IV, ac Erthygl 16 o Reoliad 10/2011; a

[F47(vi)Erthygl 4 o Reoliad 2018/213; a]

(b)gwneud methu â chydymffurfio â hysbysiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) yn drosedd.

(2) Mae darpariaethau’r Ddeddf a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Rhan 2 o Atodlen 2 yn gymwys, gyda’r addasiadau (os oes rhai) a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw.

(3) Nid yw paragraffau (1) a (2) yn rhagfarnu cymhwyso’r Ddeddf i’r Rheoliadau hyn at ddibenion ac eithrio’r rhai a bennir ym mharagraff (1).]

RHAN 10LL+CCyffredinol ac atodol

Diwygiad canlyniadol i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990LL+C

F4828.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I28Rhl. 28 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

Diwygiad i Reoliadau Labelu Bwyd 1996LL+C

F4929.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I29Rhl. 29 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

DirymuLL+C

30.  Mae'r Rheoliadau canlynol wedi eu dirymu—

(a)Rheoliadau Eitemau Ceramig mewn Cyffyrddiad â Bwyd (Cymru) 2006(12);

(b)Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2009(13);

(c)Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2010(14);

(d)Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2011(15).

Gwybodaeth Cychwyn

I30Rhl. 30 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

27 Hydref 2012

Rheoliad 14(1)

[F50Atodlen 1] LL+CDarpariaethau penodedig yn Rheoliad 10/2011

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I31Atod. mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

Y ddarpariaeth benodedigY pwnc
Erthygl 4(e), fel y'i darllenir gydag Erthyglau 17 a 18Gwaharddiad ar roi ar y farchnad ddeunyddiau neu eitemau plastig os nad ydynt yn bodloni gofynion penodedig ynghylch cyfansoddiad a datganiad
Erthygl 5(1) ac Atodiad I, fel y'i darllenir gydag Erthygl 6Gofyniad, yn ddarostyngedig i randdirymiadau penodol, i ddefnyddio sylweddau awdurdodedig yn unig i weithgynhyrchu haenau plastig mewn deunyddiau ac eitemau plastig
Erthygl 8, y frawddeg gyntafSafonau cyffredinol o ran ansawdd a phurdeb y mae'n rhaid glynu wrthynt yn achos sylweddau sy'n cael eu defnyddio i weithgynhyrchu haenau plastig mewn deunyddiau ac eitemau plastig
Erthygl 9 fel y'i darllenir gydag Atodiad ICyfyngiadau a manylebau penodol ar gyfer sylweddau a ddefnyddir i weithgynhyrchu haenau plastig mewn deunyddiau ac eitemau plastig
Erthygl 10 fel y'i darllenir gydag Atodiad IICyfyngiadau cyffredinol ar ddeunyddiau ac eitemau plastig
[F51Erthygl 11(1) ac Atodiad I, fel y’u darllenir gydag Erthygl 11(3) a (4)]Terfynau penodol ar y graddau y caniateir i gyfansoddion deunyddiau ac eitemau plastig ymfudo i fwydydd
Erthygl 12Terfynau cyffredinol ar y lefel a ganiateir ar gyfer ymfudiad cyfansoddion deunyddiau ac eitemau plastig i efelychwyr bwyd
Erthygl 13(1), (3), (4) a (5) ac Atodiad I fel y'i darllenir gydag Erthygl 13(2)Cyfyngiadau a manylebau penodol ar gyfer cyfansoddiad pob haen blastig mewn deunyddiau ac eitemau amlhaen plastig
Erthygl 14(1) a (5) ac Atodiad 1, fel y'i darllenir gydag Erthygl 4(2), (3) a (4)Cyfyngiadau a manylebau penodol ar gyfer cyfansoddiad pob haen blastig mewn deunyddiau ac eitemau amlddeunydd amlhaen
F52. . .F52. . .

Rheoliad 27

[F53ATODLEN 2LL+C

RHAN 1LL+CAddasu adran 10(1)

1.  Yn lle adran 10(1) o’r Ddeddf (hysbysiadau gwella) rhodder—LL+C

(1) If an authorised officer has reasonable grounds for believing that a person is failing to comply with any provision specified in subsection (1A), the authorised officer may, by a notice served on that person (in this Act referred to as an “improvement notice”)—

(a)state the authorised officer’s grounds for believing that the person is failing to comply with the relevant provision;

(b)specify the matters which constitute the person’s failure to so comply;

(c)specify the measures which, in the authorised officer’s opinion, the person must take in order to secure compliance; and

(d)require the person to take those measures, or measures that are at least equivalent to them, within such period (not being less than 14 days) as may be specified in the notice.

(1A) The provisions referred to in subsection (1) are—

(a)regulations [F5410A(1), 10A(3)] and 12(6) of the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2012;

(b)Article 16 of Regulation 1935/2004;

(c)Article 5 of Regulation 1895/2005;

(d)Articles 12 and 13 of Regulation 450/2009; F55...

(e)the second sentence of Article 8, Article 15 as read with Annex IV, and Article 16 of Regulation 10/2011 [F56; and]

[F57(f)Article 4 of Regulation 2018/213.]

RHAN 2LL+CCymhwyso ac addasu darpariaethau eraill o’r Ddeddf

Colofn 1

Darpariaeth y Ddeddf

Colofn 2

Yr addasiad

Adran 2 (ystyr estynedig “sale” etc.)Yn lle “this Act” (ym mhob lle y mae’n digwydd) rhodder “the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2012”.
Adran 3 (rhagdybiaethau y bwriedir i fwyd gael ei fwyta gan bobl)Yn is-adran (1), yn lle “this Act” rhodder “the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2012, Regulation 1935/2004, Regulation 1895/2005, Regulation 2023/2006, Regulation 450/2009 and Regulation 10/2011”.
Adran 20 (troseddau oherwydd bai person arall)Yn lle “any of the preceding provisions of this Part” rhodder “section 10(2) as applied by regulation 27 of the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2012”.
Adran 21(1) a (5) (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy)Yn is-adran (1), yn lle “any of the preceding provisions of this Part” rhodder “section 10(2) as applied by regulation 27 of the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2012”.
Adran 30(6) ac (8) (sy’n ymwneud â thystiolaeth o dystysgrifau a roddir gan ddadansoddydd neu archwilydd bwyd)Yn is-adran (8), yn lle “this Act” rhodder “the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2012”.
Adran 32 (pwerau mynediad)Yn lle “this Act” (ym mhob lle y mae’n digwydd) rhodder “the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2012, Regulation 1935/2004, Regulation 1895/2005, Regulation 2023/2006, Regulation 450/2009 and Regulation 10/2011”.
Adran 33 (rhwystro etc. swyddogion)Yn is-adran (1), yn lle “this Act” (ym mhob lle y mae’n digwydd), rhodder “section 10(1) of this Act as applied and modified by regulation 27 of, and Part 1 of Schedule 2 to, the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2012”.
Adran 35(1) a (2) (cosbi troseddau)

Yn is-adran (1), ar ôl “section 33(1) above” mewnosoder “, as applied and modified by regulation 27 of, and Part 2 of Schedule 2 to, the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2012,”.

Ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A) A person guilty of an offence under section 10(2), as applied by regulation 27 of the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2012 shall be liable, on summary conviction, to a fine not exceeding level 4 on the standard scale.

Yn is-adran (2), yn y geiriau agoriadol, yn lle “any other offence under this Act” rhodder “an offence under section 33(2), as applied by regulation 27 of, and Part 2 of Schedule 2 to, the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2012,”.

Adran 36 (troseddau gan gyrff corfforaethol)Yn is-adran (1), yn lle “this Act” rhodder “section 10(2) as applied by regulation 27 of the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2012”.
Adran 36A (troseddau gan bartneriaethau Albanaidd)Yn lle “this Act” rhodder “section 10(2) as applied by regulation 27 of the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2012”.
Adran 37(1) a (6) (apelau i lys ynadon)

Yn lle is-adran (1) rhodder—

“Any person who is aggrieved by a decision of an authorised officer to serve an improvement notice under section 10(1), as applied and modified by regulation 27 of, and Part 1 of Schedule 2 to, the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2012, may appeal to a magistrates’ court.”

Yn is-adran (6)—

yn lle “(3) or (4)” rhodder “(1)”; ac

ym mharagraff (a), hepgorer “or to the sheriff”.

Adran 39 (apelau yn erbyn hysbysiadau gwella)

Yn lle is-adran (1) rhodder—

(1) On an appeal against an improvement notice served under section 10(1), as applied and modified by regulation 27 of, and Part 1 of Schedule 2 to, the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2012, the magistrates’ court may either cancel or affirm the notice and, if it affirms it, may do so either in its original form or with such modifications as the magistrates’ court may in the circumstances think fit.

Yn is-adran (3), hepgorer “for want of prosecution.”.]

Rheoliad 10

[F58Atodlen 3LL+CRHEOLAU SYLFAENOL AR GYFER PENDERFYNU YMFUDIAD PLWM A CHADMIWM

1.  Yr hylif prawfLL+C

Asid asetig 4 % (v/v), mewn hydoddiant dyfrllyd a baratowyd yn ffres.

2.  Amodau’r prawfLL+C

(a)Cynhalier y prawf ar dymheredd o 22 ± 2 °C am gyfnod o 24 ± 0,5 awr.

(b)Pan yw ymfudiad plwm i’w benderfynu, rhodder gorchudd ar y sampl mewn modd priodol i’w diogelu a gadawer hi yn agored i’r amodau goleuo arferol sydd mewn labordy. Pan yw ymfudiad cadmiwm neu blwm a chadmiwm i’w penderfynu, rhodder gorchudd ar y sampl i sicrhau bod yr arwyneb y mae profion i’w cynnal arno yn cael ei gadw mewn tywyllwch llwyr.

3.  LlenwiLL+C

(a)Samplau y gellir eu llenwi—

  • Llenwer yr eitem â hydoddiant asid asetig 4 % (v/v) hyd at lefel nad yw’n uwch nag 1 mm o’r pwynt gorlifo; mesurir y pellter o ymyl uchaf y sampl. Dylid llenwi samplau gydag ymyl gwastad neu ymyl sy’n goleddfu ychydig fel nad yw’r pellter rhwng arwyneb yr hylif a’r pwynt gorlifo yn fwy na 6 mm wrth fesur ar hyd yr ymyl sy’n goleddfu.

(b)Samplau na ellir eu llenwi—

  • Yn gyntaf, gorchuddir arwyneb y sampl na fwriedir iddo ddod i gysylltiad â bwydydd â haenen amddiffynnol addas sy’n gallu gwrthsefyll gweithrediad yr hydoddiant asid asetig 4 % (v/v). Yna boddir y sampl mewn cynhwysydd sy’n cynnwys cyfaint gwybyddus o hydoddiant asid asetig yn y fath fodd y bydd yr arwyneb y bwriedir iddo ddod i gysylltiad â bwydydd yn cael ei orchuddio’n llwyr gan yr hylif prawf.

4.  Penderfynu’r arwynebeddLL+C

Mae arwynebedd yr eitemau yng Nghategori 1 yn hafal i arwynebedd y menisgws a ffurfir gan yr arwyneb hylif rhydd a geir wrth gydymffurfio â’r gofynion llenwi a nodir ym mharagraff 3.

Rheoliad 10

Atodlen 4LL+CDULLIAU DADANSODDI AR GYFER PENDERFYNU YMFUDIAD PLWM A CHADMIWM

1.  Amcan a maes cymhwysoLL+C

Mae’r dull yn caniatáu i’r ymfudiad penodol o blwm a/neu gadmiwm gael ei benderfynu.

2.  Yr egwyddorLL+C

  • Penderfynir yr ymfudiad penodol o blwm a/neu gadmiwm gan ddefnyddio dull dadansoddi drwy gyfrwng offeryn sy’n bodloni’r meini prawf perfformiad ym mharagraff 4.

3.  AdweithyddionLL+C

  • Rhaid i bob adweithydd fod o ansawdd dadansoddol, oni phennir fel arall.

Pan fo cyfeiriad at ddŵr, mae’n golygu dŵr a ddistyllwyd neu ddŵr o ansawdd cyfatebol.

(a)asid asetig 4 % (v/v), mewn hydoddiant dyfrllyd

Ychwaneger 40 ml o asid asetig grisialog at ddŵr fel bod y lefel yn cyrraedd 1 000 ml.

(b)Hydoddiannau stoc

Paratoer hydoddiannau stoc sy’n cynnwys 1 000 mg/litr o blwm ac o leiaf 500 mg/litr o gadmiwm yn eu trefn mewn hydoddiant asid asetig 4 %, fel y cyfeirir ato yn is-baragraff (a).

4.  Meini prawf perfformiad y dull dadansoddi drwy gyfrwng offerynLL+C

(a)Rhaid i’r terfyn canfod ar gyfer plwm a chadmiwm fod yn hafal i neu’n is na—

0,1 mg/litr ar gyfer plwm,

0,01 mg/litr ar gyfer cadmiwm.

Diffinnir y terfyn canfod fel y crynodiad o’r elfen yn yr hydoddiant asid asetig 4 %, fel y cyfeirir ato ym mharagraff 3(a), sy’n rhoi signal sy’n hafal i ddwywaith sŵn cefndir yr offeryn.

(b)Rhaid i’r terfyn meintioliad ar gyfer plwm a chadmiwm fod yn hafal i neu’n is na—

0,2 mg/litr ar gyfer plwm,

0,02 mg/litr ar gyfer cadmiwm.

(c)Adennill. Rhaid i’r hyn a adenillir o blwm a chadmiwm a ychwanegir at yr hydoddiant asid asetig 4 %, fel y cyfeirir ato ym mharagraff 3(a), ddod o fewn 80-120 % o’r swm a ychwanegir.

(d)Penodoldeb. Rhaid i’r dull dadansoddi drwy gyfrwng offeryn sy’n cael ei ddefnyddio fod yn rhydd o ymyriannau matrics ac ymyriannau sbectrol.

5.  DullLL+C

(a)Paratoi’r sampl

Rhaid i’r sampl fod yn lân ac yn rhydd o saim neu sylwedd arall sy’n debygol o effeithio ar y prawf.

Golcher y sampl mewn hydoddiant sy’n cynnwys glanedydd hylif i’r cartref ar dymheredd o tua 40 °C. Rinsier y sampl yn gyntaf mewn dŵr tap ac wedyn mewn dŵr wedi ei ddistyllu neu ddŵr o ansawdd cyfatebol. Draenier y sampl a’i sychu i osgoi unrhyw staen. Nid yw’r arwyneb sydd i’w brofi i’w drafod ar ôl iddo gael ei lanhau.

(b)Penderfynu plwm a/neu gadmiwm

Cynhelir prawf ar y sampl a baratowyd yn y modd hwn o dan yr amodau a osodir yn Atodlen 3.

Cyn cymryd yr hydoddiant prawf ar gyfer penderfynu plwm a/neu gadmiwm, homogeneiddier cynnwys y sampl drwy ddull priodol, sy’n osgoi colli unrhyw hydoddiant neu’n osgoi sgrafellu’r arwyneb syn cael ei brofi.

  • Cynhalier prawf gwag ar yr adweithydd a ddefnyddir ar gyfer pob cyfres o benderfyniadau.

  • Cynhalier y penderfyniadau ar gyfer plwm a/neu gadmiwm o dan amodau priodol.

Rheoliad 10A

Atodlen 5LL+CDATGANIAD O GYDYMFFURFEDD

1.  Rhaid i’r datganiad ysgrifenedig y cyfeirir ato yn rheoliad 10A gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—LL+C

(a)enw a chyfeiriad y cwmni sy’n gweithgynhyrchu’r eitem geramig orffenedig ac enw a chyfeiriad y mewnforiwr sy’n ei mewnforio [F59i Brydain Fawr] ;

(b)manylion adnabod yr eitem geramig;

(c)dyddiad y datganiad;

(d)y cadarnhad bod yr eitem geramig yn bodloni’r gofynion perthnasol yn y Rheoliadau hyn a Rheoliad 1935/2004.

Diwygiadau Testunol

F59Geiriau yn Atod. 5 para. 1(a) a amnewidiwyd mewn darpariaeth ddiwygio gynharach O.S. 2019/425, rheoliad. 3(7), Atod. (31.12.2020) gan Reoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaeth Arbed) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1581), rhlau. 1(2), 2(5)

2.  Rhaid i’r datganiad ysgrifenedig ganiatáu adnabod yn hawdd y nwyddau y’i dyroddwyd ar eu cyfer a rhaid iddo gael ei adnewyddu pan fydd newidiadau sylweddol yn y cynhyrchiant yn peri newidiadau yn ymfudiad plwm neu gadmiwm neu’r ddau.]LL+C

Rheoliad 12(1) a (2)

[F60ATODLEN 6LL+CRHESTR O’R SYLWEDDAU A AWDURDODWYD AR GYFER GWEITHGYNHYRCHU CAEN CELLWLOS ATGYNYRCHIEDIG

Nodiadau:

  • Mae’r canrannau yn yr Atodlen hon wedi eu mynegi mewn pwysau/pwysau (p/p) ac wedi eu cyfrifo mewn perthynas â maint y caen cellwlos atgynyrchiedig anhydrus heb araen.

  • Rhoddir yr enwau technegol arferol mewn cromfachau sgwâr.

  • Rhaid i’r sylweddau a ddefnyddir fod o ansawdd technegol da o ran y meini prawf purdeb.

Tabl 1

Caen cellwlos atgynyrchiedig heb araen

EnwauCyfyngiadau
A. Cellwlos atgynyrchiedigHeb fod yn llai na 72% (p/p)
B. Ychwanegion
1. MeddalyddionHeb fod yn fwy na chyfanswm o 27% (p/p)
— Ether bis (2- hydrocsiethyl)[= deuethylenglycol]Dim ond ar gyfer caenau y bwriedir eu haraenu ac yna eu defnyddio ar gyfer bwydydd nad ydynt yn llaith, sef bwydydd nad ydynt yn cynnwys dŵr sydd yn ffisegol rydd ar yr wyneb. Ni chaiff cyfanswm yr ether bis(2- hydrocsiethyl) a’r ethanedïol sy’n bresennol mewn bwydydd sydd wedi bod mewn cysylltiad â chaen o’r math hwn fod yn fwy na 30mg/kg o’r bwyd.
— Ethanedïol [= monoethylenglycol]
— 1,3-bwtanedïol
— Glyserol
— 1,2-propanedïol [= 1,2 propylenglycol]
— Polyethylen ocsid [= polyethylenglycol]Pwysau gronynnol cyfartalog rhwng 250 a 1200.
— 1,2-polypropylen ocsid [= 1,2 polypropylenglycol]Pwysau gronynnol cyfartalog heb fod yn fwy na 400 a chynnwys 1.3-propanedïol rhydd heb fod yn fwy na 1% (p/p) mewn sylwedd.
— Sorbitol
— Tetraethylenglycol
— Triethylenglycol
— Wrea
2. Ychwanegion EraillHeb fod yn fwy na chyfanswm o 1% (p/p).
Y dosbarth cyntafNi chaiff maint y sylwedd neu’r grŵp o sylweddau ym mhob indent fod yn fwy na 2mg/dm2 o’r caen heb ei araenu.
— Asid asetig a’i halwynau NH4, Ca, Mg, K ac Na
— Asid asgorbig a’i halwynau NH4, Ca, Mg, K ac Na
— Asid bensoïg a sodiwm bensoad
— Asid fformig a’i halwynau NH4, Ca, Mg, K ac Na
— Asidau brasterog unionlin, dirlawn neu annirlawn, gydag eilrif o atomau carbon o 8 i 20 yn gynhwysol a hefyd asidau behenig a risinolëig a halwynau NH4, Ca, Mg, K, Na, Al a Zn yr asidau hyn
— Asidau sitrig, d- ac l-lactig, malëig, l-tartarig a’u halwynau Na a K
— Asid sorbig a’i halwynau NH4, Ca, Mg, K ac Na
— Amidau asidau brasterog unionlin, dirlawn neu annirlawn, gydag eilrif o atomau carbon o 8 i 20 yn gynhwysol a hefyd amidau asidau behenig a risinolëig
— Startsys a blodiau bwytadwy naturiol
— Startsys a blodiau bwytadwy a addaswyd drwy driniaeth gemegol
— Amylos
— Carbonadau a chloridau calsiwm a magnesiwm
— Esterau glyserol gydag asidau brasterog unionlin, dirlawn neu annirlawn, gydag eilrif o atomau carbon o 8 i 20 yn gynhwysol a/neu gydag asidau adipig, sitrig, 12-hydrocsistearig (ocsistearin), risinolëig
— Esterau polyocsiethylen (8 i 14 o grwpiau ocsiethylen) gydag asidau brasterog unionlin, dirlawn neu annirlawn, gydag eilrif o atomau carbon o 8 i 20 yn gynhwysol
— Esterau sorbitol gydag asidau brasterog unionlin, dirlawn neu annirlawn, gydag eilrif o atomau carbon o 8 i 20 yn gynhwysol
— Mono-a/neu di-esterau asid stearig gydag ethanedïol a/neu ether bis (2-hydrocsiethyl) a/neu driethylen glycol
— Ocsidau a hydrocsidau alwminiwm, calsiwm, magnesiwm a silicon a silicadau a silicadau hydradol alwminiwm, calsiwm, magnesiwm a photasiwm
— Polyethylen ocsid [= polyethylenglycol]Pwysau gronynnol cyfartalog rhwng 1200 a 4000.
— Sodiwm propionad
Yr ail ddosbarthNi chaiff cyfanswm maint y sylweddau fod yn fwy nag 1mg/dm2 o’r caen heb ei araenu ac ni chaiff maint y sylwedd neu grŵp o sylweddau ym mhob indent fod yn fwy na 0.2mg/dm2 (neu derfyn is pan bennir un) o’r caen heb ei araenu.
— Sodiwm alcyl (C8-C18) bensen sylffonad
— Sodiwm isopropyl naffthalen sylffonad
— Sodiwm alcyl (C8-C18) sylffad
— Sodiwm alcyl (C8-C18) sylffonad
— Sodiwm deuoctylsylffosysinad
— Deustearad deuhydrocsiethyl deuethylen triamin monoasetadHeb fod yn fwy na 0.05mg/dm2 o’r caen heb ei araenu.
— Amoniwm, magnesiwm a photasiwm lawryl sylffadau
— N,N′-deustearoyl deuaminoethan, N,N′-deupalmitoyl deuaminoethan ac N,N′-deuoleoyl deuaminoethan
— 2-heptadecyl-4,4-bis(methylen-stearad) ocsasolin
— Polyethylen-aminostearamid ethylsylffadHeb fod yn fwy na 0.1mg/dm2 o’r caen heb ei araenu.
Y trydydd dosbarth — Cyfrwng angoriNi chaiff cyfanswm maint y sylweddau fod yn fwy nag 1mg/dm2 o’r caen heb ei araenu.

— Cynnyrch cyddwysiad melamin-fformaldehyd heb ei addasu, neu y gellir ei addasu gydag un neu ragor o’r cynhyrchion a ganlyn:

  • bwtanol

  • deuethylentriamin

  • ethanol

  • triethylentetramin

  • tetraethylenpentamin

  • tri-(2-hydrocsiethyl) amin

  • 3,3′-deuaminodipropylamin

  • 4,4′-deuaminodibwtylamin

Cynnwys fformaldehyd rhydd heb fod yn fwy na 0.5mg/dm2 o’r caen heb ei araenu.

Cynnwys melamin rhydd heb fod yn fwy na 0.3mg/dm2 o’r caen heb ei araenu.

— Cynnyrch cyddwysiad melamin-wrea-fformaldehyd a addaswyd gyda thris-(2-hydrocsiethyl)amin

Cynnwys fformaldehyd rhydd heb fod yn fwy na 0.5mg/dm2 o’r caen heb ei araenu.

Cynnwys melamin rhydd heb fod yn fwy na 0.3mg/dm2 o’r caen heb ei araenu.

— Polyalcylenaminau cationig croesgysylltiedig:

  • resin polyamid-epiclorhydrin yn seiliedig ar deuaminopropylmethylamin ac epiclorhydrin

  • resin polyamid-epiclorhydrin yn seiliedig ar epiclorhydrin, asid adipig, caprolactam, deuethylentriamin a/neu ethylendiamin

  • resin polyamid-epiclorhydrin yn seiliedig ar asid adipig, deuethylentriamin ac epiclorhydrin, neu gymysgedd o epiclorhydrin ac amonia

  • resin polyamid-polyamin-epiclorhydrin yn seiliedig ar epiclorhydrin, deumethyl adipad a deuethylentriamin

  • resin polyamid-polyamin-epiclorhydrin yn seiliedig ar epiclorhydrin, adipamid a deuaminopropylmethylamin

— Polyethylenaminau a pholyethyleniminauHeb fod yn fwy na 0.75mg/dm2 o’r caen heb ei araenu.

— Cynnyrch cyddwysiad wrea-fformaldehyd heb ei addasu, neu y gellir ei addasu gydag un neu ragor o’r cynhyrchion a ganlyn:

  • asid aminomethylswlffonig

  • asid sylffanilig

  • bwtanol

  • deuaminobwtan

  • deuaminodiethylamin

  • deuaminodipropylamin

  • deuaminopropan

  • deuethylentriamin

  • ethanol

  • gwanidin

  • methanol

  • tetraethylenpentamin

  • triethylentetramin

  • sodiwm sylffit

Cynnwys fformaldehyd rhydd heb fod yn fwy na 0.5mg/dm2 o’r caen heb ei araenu.
Y pedwerydd dosbarthNi chaiff cyfanswm maint y sylweddau fod yn fwy nag 0.01mg/dm2 o’r caen heb ei araenu.
— Cynhyrchion sy’n deillio o adwaith aminau olewau bwytadwy gyda pholyethylen ocsid
— Monoethanolamin lawryl sylffad

Tabl 2

Caen cellwlos atgynyrchiedig gydag araen

EnwauCyfyngiadau
A. Cellwlos atgynyrchiedigGweler Tabl 1.
B. YchwanegionGweler Tabl 1.
C. Araen
1. PolymerauNi chaiff cyfanswm maint y sylweddau fod yn fwy na 50mg/dm2 o’r araen ar yr ochr sydd mewn cysylltiad â bwyd.
— Etherau ethyl, hydrocsiethyl, hydrocsipropyl a methyl cellwlos
— Cellwlos nitradHeb fod yn fwy na 20mg/dm2 o’r araen ar yr ochr sydd mewn cysylltiad â bwyd; cynnwys nitrogen rhwng 10.8% (p/p) a 12.2% (p/p) yn y cellwlos nitrad.
2. ResinauNi chaiff cyfanswm maint y sylweddau fod yn fwy na 12.5mg/dm2 o’r araen ar yr ochr sydd mewn cysylltiad â bwyd a dim ond ar gyfer paratoi caenau cellwlos atgynyrchiedig gydag araenau sy’n seiliedig ar gellwlos nitrad.
— Casein
— Coloffoni a/neu ei gynhyrchion polymeru, hydrogenu, neu ddadgyfrannu a’u hesterau methyl, ethyl neu alcoholau polyfalent C2 i C6, neu gymysgeddau o’r alcoholau hyn
— Coloffoni a/neu ei gynhyrchion polymeru, hydrogenu, neu ddadgyfrannu wedi eu cyddwyso ag asidau acrylig, malëig, sitrig, ffwmarig a/neu ffthalig a/neu 2,2 bis (4-hydrocsiffenyl) propan fformaldehyd ac wedi eu hesteru â methyl ethyl neu alcoholau polyfalent C2 i C6, neu gymysgeddau o’r alcoholau hyn
— Esterau sy’n deillio o ether bis(2-hydrocsiethyl) gyda chynhyrchion ychwanegu betapinen, a/neu ddeupenten, a/neu ddeuterpen a malëig anhydrid
— Gelatin bwytadwy
— Olew castor a’i gynhyrchion dadhydradu neu hydrogenu a’i gynhyrchion cyddwyso gydag asidau polyglyserol, adipig, sitrig, malëig, ffthalig a sebasig
— Gwm naturiol [= damar]
— Poly-beta-pinen [= resinau terpenig]
— Resinau wrea-fformaldehyd (gweler cyfryngau angori)
3. PlastigyddionNi chaiff cyfanswm maint y sylweddau fod yn fwy na 6mg/dm2 o’r araen ar yr ochr sydd mewn cysylltiad â bwyd.
— Asetyl tribwtyl sitrad
— Asetyl tri(2-ethylhecsyl) sitrad
— Deu-isobwtyl adipad
— Deu-n-bwtyl adipad
— Deu-n-hecsyl aselad
— Deugylchohecsyl ffthaladHeb fod yn fwy na 4.0mg/dm2 o’r araen ar yr ochr sydd mewn cysylltiad â bwyd.
— 2-ethylhecsyl deuffenyl ffosffad (cyfystyr: ester asid ffosfforig deuffenyl 2 ethylhecsyl)

Ni chaiff maint y 2-ethylhecsyl deuffenyl ffosffad fod yn fwy na:

(a) 2.4mg/kg o’r bwyd sydd mewn cysylltiad â’r math hwn o gaen; neu

(b) 0.4mg/dm2 yn yr araen ar yr ochr sydd mewn cysylltiad â bwyd.

— Glyserol monoasetad [= monoasetin]
— Glyserol deuasetad [= deuasetin]
— Glyserol triasetad [= triasetin]
— Deu-bwtyl sebasad
— Deu-n-bwtyl tartrad
— Deu-isobwtyl tartrad
4. Ychwanegion eraillNi chaiff cyfanswm maint y sylweddau fod yn fwy na 6mg/dm2 yn y caen cellwlos atgynyrchiedig heb araen, yn gynhwysol o’r araen ar yr ochr sydd mewn cysylltiad â bwyd.
4.1 Yr ychwanegion a restrir yn Nhabl 1Yr un cyfyngiadau ag yn Nhabl 1 (fodd bynnag mae’r meintiau mewn mg/dm2 yn cyfeirio at y caen cellwlos atgynyrchiedig heb araen, yn gynhwysol o’r araen ar yr ochr sydd mewn cysylltiad â bwyd).
4.2 Ychwanegion araen penodolNi chaiff maint y sylwedd neu grŵp o sylweddau ym mhob indent fod yn fwy na 2mg/dm2 (neu derfyn is pan bennir un) o’r araen ar yr ochr sydd mewn cysylltiad â bwyd.
— 1-hecsadecanol ac 1-octadecanol
— Esterau asidau brasterog unionlin, dirlawn neu annirlawn, gydag eilrif o atomau carbon o 8 i 20 yn gynhwysol ac o asid risinolëig gydag alcoholau unionlin ethyl, bwtyl, amyl ac oleyl
— Cwyrau montan, ar ffurf asidau montanig puredig (C26 i C32) a/neu eu hesterau gydag ethanedïol a/neu 1,3 bwtanedïol a/neu eu halwynau calsiwm a photasiwm
— Cwyr carnawba
— Cwyr gwenyn
— Cwyr esparto
— Cwyr candelila
— DeumethylpolysilocsanHeb fod yn fwy nag 1mg/dm2 o’r araen ar yr ochr sydd mewn cysylltiad â bwyd.
— Olew ffa soia epocsidiedig (cynnwys ocsiran 6 i 8%)
— Cwyrau microgrisialog a pharaffin puredig
— Pentaerythritol tetrastearad
— Mono a bis(octadecyldeuethylenocsid)-ffosffadauHeb fod yn fwy na 0.2mg/dm2 o’r araen ar yr ochr sydd mewn cysylltiad â bwyd.
— Asidau aliffatig (C8 i C20) wedi eu hestereiddio gyda mono- neu di-(2-hydrocsiethyl)amin
— 2- a 3-tert.bwtyl-4-hydrocsianisol [= hydrocsianisol bwtyleiddiedig — BHA]Heb fod yn fwy na 0.06mg/dm2 o’r araen ar yr ochr sydd mewn cysylltiad â bwyd.
— 2,6-di-tert.bwtyl-4-methylphenol [= hydrocsitolŵen bwtyleiddiedig — BHT]Heb fod yn fwy na 0.06mg/dm2 o’r araen ar yr ochr sydd mewn cysylltiad â bwyd.
— Deu-n-octyltin-bis(2-ethylhecsyl) maleadHeb fod yn fwy na 0.06mg/dm2 o’r araen ar yr ochr sydd mewn cysylltiad â bwyd.
5. ToddyddionNi chaiff cyfanswm maint y sylweddau fod yn fwy na 0.6mg/dm2 o’r araen ar yr ochr sydd mewn cysylltiad â bwyd.
— Bwtyl asetad
— Ethyl asetad
— Isobwtyl asetad
— Isopropyl asetad
— Propyl asetad
— Aseton
— 1-bwtanol
— Ethanol
— 2-bwtanol
— 2-propanol
— 1-propanol
— Cylchohecsan
— Ethylenglycol monobwtyl ether
— Ethylenglycol monobwtyl ether asetad
— Methyl ethyl ceton
— Methyl isobwtyl ceton
— Tetrahydroffwran
— TolŵenHeb fod yn fwy na 0.06mg/dm2 o’r araen ar yr ochr sydd mewn cysylltiad â bwyd.]

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu'r Cyfarwyddebau canlynol a gorfodi'r Rheoliadau UE canlynol—LL+C

(a)Cyfarwyddeb y Cyngor 78/142/EEC ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau ynghylch deunyddiau ac eitemau sy'n cynnwys monomer finyl clorid ac y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd (OJ Rhif L44, 15.2.1978, t.15) (“Cyfarwyddeb 78/142/EEC”);

(b)Cyfarwyddeb y Cyngor 84/500/EEC ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau ynghylch eitemau ceramig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd (OJ Rhif L277, 20.10.1984, t.12) (“Cyfarwyddeb 84/500/EEC”);

(c)Cyfarwyddeb y Comisiwn 2007/42/EC ynghylch deunyddiau ac eitemau sydd wedi eu gwneud o gaen cellwlos atgynyrchiedig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd (OJ Rhif L172, 30.6.2007, t.71) (“Cyfarwyddeb 2007/42/EC”);

(d)Rheoliad (EC) Rhif 1935/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ddeunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd, ac yn diddymu Cyfarwyddebau 80/590/EEC a 89/109/EEC (OJ Rhif L338, 13.11.2004, t.4) (“Rheoliad 1935/2004”);

(e)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1895/2005 ar gyfyngu ar y defnydd o ddeilliadau epocsi penodol mewn deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd (OJ Rhif L302, 19.11.2005, t.28) (“Rheoliad 1895/2005”);

(f)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2023/2006 ar arfer gweithgynhyrchu da ar gyfer deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd (OJ Rhif L384, 29.12.2006, t.75) (“Rheoliad 2023/2006”);

(g)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 450/2009 ar ddeunyddiau ac eitemau gweithredol a deallus y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd (OJ Rhif L135, 30.5.2009, t.3) (“Rheoliad 450/2009”); ac

(h)Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 10/2011 ar ddeunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd (OJ Rhif L12, 15.1.2011, t.1) (“Rheoliad 10/2011”).

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2009 (O.S. 2009/481 (Cy.49)). Maent hefyd yn dirymu ac yn ailddeddfu gyda rhai diwygiadau ddarpariaethau Rheoliadau Eitemau Ceramig mewn Cyffyrddiad â Bwyd (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1704 (Cy.166)) a Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2010 (O.S. 2010/2288 (Cy.200)).LL+C

3.  Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu bod cyfeiriadau at offeryn UE penodedig neu at rannau penodedig ohono i gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offeryn neu rannau ohono fel y cânt eu diwygio o bryd i'w gilydd (rheoliad 2(3)).LL+C

4.  Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i ddeunyddiau neu eitemau y tu allan i gwmpas Rheoliad 1935/2004 (rheoliad 3). Y deunyddiau sy'n cael eu nodi yn y Rheoliad hwnnw fel rhai sydd y tu allan i'w gwmpas yw deunyddiau ac eitemau sy'n cael eu cyflenwi fel hynafolion, deunyddiau gorchuddio neu araenu sydd yn rhan o'r bwyd ac y gellir eu bwyta gydag ef ac offer sefydlog cyhoeddus neu breifat ar gyfer cyflenwi dŵr.LL+C

5.  Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau sy'n ei gwneud yn drosedd i fynd yn groes i ofynion penodol yn Rheoliad 1935/2004 (rheoliad 4) a Rheoliad 2023/2006 (rheoliad 5). Rheoliad 1935/2004 yw'r prif Reoliad fframwaith ar ddeunyddiau ac eitemau sydd mewn cysylltiad â bwyd.LL+C

6.  Mae Rhan 2 hefyd yn darparu ar gyfer dynodi'r awdurdodau cymwys at y gwahanol ddibenion sydd wedi eu nodi yn Rheoliadau 1935/2004 a 2023/2006 (rheoliad 6).LL+C

7.  Mae Rhan 3 yn darparu ar gyfer gorfodi darpariaethau penodedig yn Rheoliad 450/2009 (rheoliad 7) ac yn dynodi'r awdurdodau cymwys at ddibenion y Rheoliad hwnnw (rheoliad 8).LL+C

8.  Mae Rhan 4 yn gweithredu Cyfarwyddeb 84/500/EEC, ac mae'r diffiniad o eitem geramig wedi ei nodi yn rheoliad 9. Mae'n darparu na chaiff unrhyw berson roi eitem geramig ar y farchnad nad yw'n bodloni'r manylebau a nodir yn y Gyfarwyddeb (rheoliad 10). Mae'r rheoliad hwn yn cynnwys yn ychwanegol ofynion sy'n ymwneud â phrawf dogfennol o gydymffurfedd sy'n gymwys i eitemau ceramig newydd ond nid i eitemau ceramig ail-law.LL+C

9.  Mae Rhan 5 o'r Rheoliadau hyn, sy'n gweithredu Cyfarwyddeb 2007/42/EC, yn cynnwys gofynion sy'n ymwneud â chaen cellwlos atgynyrchiedig ac mae'n nodi'r mathau amrywiol o gaen y mae'r darpariaethau yn gymwys iddynt (rheoliad 11). Mae'r Rhan hon, yn rheoliad 12, yn cynnwys amodau sy'n ymwneud â'r sylweddau y caniateir eu defnyddio ar gyfer gweithgynhyrchu caen cellwlos atgynyrchiedig (paragraffau (1) i (4)), yn pennu bod rhaid i wyneb printiedig y caen atgynyrchiedig beidio â dod i gysylltiad â bwyd (paragraff (5)) ac yn pennu gofynion penodol o ran dogfennaeth a labelu (paragraffau (6) a (7)).LL+C

10.  Mae Rhan 6 o'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gorfodi Rheoliad 10/2011 ac yn nodi'r darpariaethau hynny yn Rheoliad yr UE y mae'n drosedd i fynd yn groes iddynt (rheoliad 14 a'r Atodlen). Mae'r awdurdodau cymwys, at ddibenion darpariaethau penodol yn Rheoliad 10/2011 wedi eu dynodi yn rheoliad 15.LL+C

11.  Mae Rhan 7 yn darparu ar gyfer parhau i orfodi Reoliad 1895/2005 sy'n cadw gwaharddiad ar y deilliadau epocsi BFDGE a NOGE a chyfyngu ar ddefnyddio BADGE (rheoliad 16). Mae'r awdurdodau cymwys at ddibenion y Rheoliad UE hwn wedi eu dynodi yn rheoliad 17.LL+C

12.  Mae Rhan 8 yn cadw'r rheolaethau ar ddefnyddio finyl clorid a sefydlwyd gan Gyfarwyddeb 78/142/EEC i'r graddau nad yw Rheoliad 10/2011 yn effeithio bellach ar y rheolaethau hynny (rheoliad 18).LL+C

13.  Mae Rhan 9 yn cynnwys darpariaethau gorfodi a darpariaethau cysylltiedig—LL+C

(a)sy'n rhoi cosb am fynd yn groes i'r Rheoliadau hyn neu am beri rhwystr i'r rhai sydd yn eu gorfodi (rheoliad 19);

(b)sy'n dynodi awdurdodau gorfodi ar gyfer y swyddogaethau amrywiol o dan y Rheoliadau (rheoliad 20);

(c)sy'n darparu bod modd i unigolion sy'n gyfrifol am weithredoedd corff corfforaethol neu bartneriaeth Albanaidd gael eu herlyn ar y cyd am droseddau a gyflawnwyd gan y corff hwnnw neu'r bartneriaeth honno (rheoliad 21);

(d) sy'n darparu ar gyfer erlyn person sydd yn peri i drosedd gael ei chyflawni gan berson arall, p'un a ddygir achos cyfreithiol yn erbyn y troseddwr gwreiddiol ai peidio (rheoliad 22);

(e)sy'n pennu terfyn amser ar gyfer cychwyn erlyniad (rheoliad 23);

(f)sy'n darparu ar gyfer amddiffyniad o ddiwydrwydd dyladwy yn erbyn trosedd o dan y Rheoliadau hyn (rheoliad 24);

(g)sy'n pennu'r weithdrefn sydd i'w dilyn wrth anfon sampl i'w dadansoddi (rheoliad 25);

(h)sy'n darparu ar gyfer dadansoddi sampl gyfeiriol gan Labordy Cemegydd y Llywodraeth (rheoliad 26); ac

(i)sy'n cymhwyso darpariaethau penodol yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 at ddibenion y Rheoliadau hyn (rheoliad 27).

14.  Mae Rhan 10 yn cynnwys darpariaethau cyffredinol ac atodol—LL+C

(a)sy'n gwneud newidiadau canlyniadol i Atodlen 1 i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990 (rheoliad 28);

(b)sy'n cadw diwygiad i Reoliadau Labelu Bwyd 1996 (O.S. 1996/1499) ac yn darparu bod y diwygiad hwnnw yn dod i ben ar ddyddiad pan fydd darpariaethau labelu bwyd yr UE, sy'n uniongyrchol gymwysadwy, yn cael effaith (rheoliad 29); ac

(c)sy'n darparu ar gyfer dirymu Rheoliadau penodedig (rheoliad 30).

15.  Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, paratowyd asesiad rheoleiddiol o'r costau a'r buddiannau sy'n debygol o ddeillio o gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru, Llawr 11, Tŷ Southgate, Wood Street, Caerdydd CF10 1EW.LL+C

(1)

1990 p.16. Amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (y diffiniad o “food”) gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adrannau 17 a 48 gan baragraffau 12 a 21 yn eu trefn o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), “Deddf 1999”. Diwygiwyd adran 48 hefyd gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adran 26(3) gan Atodlen 6 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 53(2) gan baragraff 19 o Atodlen 16 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (1994 p.40), Atodlen 6 i Ddeddf 1999, O.S 2004/2990 ac O.S. 2004/3279.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan “the Ministers”, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S.1999/672 fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999, a'u trosglwyddo wedi hynny i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32).

(3)

1972 p.68. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (2006, p.51) ac fe'i diwygiwyd gan Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (2008 p.7).

(4)

OJ Rhif L384, 29.12.2006, t.75, a ddiwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 282/2008 (OJ Rhif L86, 28.3.2008, t.9).

(5)

OJ Rhif. L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n addasu nifer o offerynnau sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o'r Cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/468/EC o ran y weithdrefn reoleiddio ynghyd â chraffu: Addasiad i'r weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu — Rhan Pedwar (OJ Rhif L188, 18.7.2009, t.14).

(7)

OJ Rhif L135, 30.5.2009, t.3.

(8)

OJ Rhif L384, 29.12.2006, t.75.

(9)

OJ Rhif L302, 19.11.2005, t.28.

(10)

OJ Rhif L338, 13.11.2004, t.4, a ddiwygiwyd gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L188, 18.7.2009, t.14).

(11)

Mae Erthygl 3 yn cynnwys eithriad sy'n ymwneud â rhai cynwysyddion a thanciau storio a phiblinellau sy'n perthyn iddynt.

(12)

O.S. 2006/1704 (Cy.166), a ddiwygiwyd gan O.S. 2011/1043.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill